Neidio i'r cynnwys

Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion/Pennod VI

Oddi ar Wicidestun
Pennod V Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion

gan Henry Hughes, Bryncir

Pennod VII

PENNOD VI.

Odfa hynod.—Ei gydymdeimlad â phobl ieuainc.—Ei lymder wrth ddisgyblu.— Tynerwch at yr edifeiriol.—Medr i drin dynion.—Ei wisg a'i ymborth gwladaidd.—Y parch a delid iddo.—Engreifftiau chwanegol i ddangos ei graffder i adnabod dynion.—Ei ddylanwad ar John Williams, Llecheiddior, a Moses Jones.—Ei lawysgrif. Hynodrwydd ei ferlyn, Jack.—Barn Griffith Solomon am dano

BYDDAI Robert Dafydd weithiau yn cael odfeuon grymus iawn, nes gorchfygu yr holl gynulleidfa, fel y cyfeiriwyd o'r blaen. Mewn amaethdy o'r enw Brydyni, yn ardal Brynengan, cafodd un hynod iawn yn amser y diwygiad yn y flwyddyn 1832. Ei destyn oedd y gair hwnw yn Exodus, iii. 3,—"Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw y berth wedi llosgi." Dywedir fod yno gynulleidfa fawr wedi ymgasglu ynghyd, ac yn eu plith un hen of o Efail y Cenin, o'r enw Robert Edward. Yr oedd wedi dyfod yno fel lliaws eraill oddiwrth ei waith. Yroedd lliw ei wyneb yn lled ddu, ond cynhir yroedd dau rŷch gwyn i'w gweled ar hyd ei ruddiau, a'r dagrau yn rhedeg ar hyd—ddynt. Wrth gann ar ddiwedd yr odfa torodd allan yn orfoledd mawr. Dyma ran ddiweddaf y penill a genid,

Mae'r Offeriad mawr yn sefyll
Yn yr afon dywyll, ddu;
Drwyddi af ar ol fy mrodyr,
Disglaer lwybr yno sy.

Dywed fy hysbysydd mai dyna yr odfa fwyaf grymus y bu ynddi erioed.

Fel y cyfeiriwyd yn yr ysgrif flaenorol, yr oedd Robert Dafydd yn hynod am ieuengrwydd ei ysbryd a'i gydymdeimlad â phobl ieuainc ar hyd ei oes. Bu farw dyn ieuanc o'r enw Nathaniel Jones, yn perthyn i eglwys Brynengan, yn y flwyddyn 1813, yr hwn oedd yn nodedig am ei weithgarwch gyda'r Ysgol Sabbothol, a'i fedrusrwydd i holi yr ysgol. Yr oedd Robert Dafydd yn teimlo colled fawr ar ei ol. Dywedir ei fod yn edrych arno yn ei arch, a dywedai wrth droi oddiwrtho, gyda theimlad dwys, "Ffarwel hyd foreu yr adgyfodiad." Yr oedd mewn Cyfarfod Misol unwaith pan yr oeddis yn cynghori y pregethwyr ieuainc i beidio pregethu yn faith. Gofynwyd i Robert Dafydd roddi gair o gyngor iddynt. "Nac oes gen i ddim i'w ddyweyd," meddai yntau, "waeth heb na dyweyd wrthynt; rhaid i'r hogia gael dyweyd yr hyn mae nhw wedi ddyfeisio." Fel y cyfeiriwyd, byddai yn ysgwyd yn anghyffredin yn y pwlpud. Byddai felly yn neillduol wrth ganu. Yr oedd yn morio felly ar ddiwedd yr odfa wrth ganu yn amser diwygiad 1832, ac aeth ei wallt mawr i gyraedd y ganwyll, ac aeth ar dân. Neidiodd ei fab, Robert, ato i'w ddiffodd; ac yr oedd yr hen wr yn methu yn lân a deall beth oedd y mater.

Byddai yn bur llym a brâs wrth ddisgyblu, ac wrth ymddiddan â rhai yn y seiat. Yr oedd yn ymddiddan â gwraig yn seiat Brynengan unwaith. Dywedai bethau pur blaen wrthi; ac aeth hithau i wylo. "O," meddai yntau, "crïo y bydd plant pan y bydd rhywun yn trin eu crâch nhw; ac felly yr wyt tithau wrth i minnau drin dy grâch di." Yr oedd un o chwiorydd ei wraig yn dweyd ei phrofiad un tro, ac yn dweyd, "Mi fydda i yn gweld fy hun yn aml yn debyg iawn i Mair Magdalen, o'r hon y bwriodd Iesu Grist saith o gythreuliaid." "Ie, on tê, M.," meddai Robert Dafydd, " ond fod mwy o honyn nhw ynot ti." Tarawai yntau weithiau ar ei fatch. Ymliwiai unwaith a Robert Morris, Hendre Cenin, ei fod yn cyflogi gweision heb fod yn proffesu crefydd. Yr oedd y ddau yn bur hyf ar eu gilydd. "Rhaid imi gael gwaith ganddyn nhw, pwy bynag gwnaiff o. Ni waeth gen i befo chdi, Robin," meddai Robert Morris.

Er ei fod yn gyffredin yn llym gyda'r ddisgyblaeth eglwysig, eto gallai fod yn dyner iawn, os meddyliai mai hyny oedd oreu er lles y dyn ei hun, a'r achos yn gyffredinol. Yr oedd achos o ddisgyblaeth ger bron seiat Brynengan rywbryd. Cododd brawd pur ddideimlad i fyny, a dechreuodd edliw beiau y cyhuddedig iddo. Prin y cafodd orphen ei druth nad oedd Robert Dafydd i fyny, ac yn tywallt olew i friwiau yr un a gyhuddid,—"Nid edliw beiau y mae ein Duw ni," meddai, "eu maddeu nhw mae o," gan roddi pwys ar y gair "maddeu," ac mewn teimlad dwys. Mae yr un peth i'w weled yn yr hanesyn canlynol, ac y mae rhagoriaethau ereill yn Robert Dafydd yn dyfod i'r golwg yn yr un hanesyn, megis ei ddoethineb a'i allu i gadw cyfrinach. Yr oedd brawd yn perthyn i eglwys Brynengan yn cyflogi yn ffair Wyl Ifan, Criccieth, i fyned i'r cynhauaf gwair i Nant Beddgelert. Mae yn amlwg mai gwr da ydoedd, ond iddo ddigwydd tripio yn yr amgylchiad hwn. Yr oedd hyn cyn dechreu Dirwest, ac felly aeth gyda'i gyflogydd ir dafarn, ac yfodd ryw gymaint o'r ddiod feddwol. Erbyn iddo ddyfod allan i'r awyr agored, gwelai ei fod i raddau o dan ddylanwad y ddiod. Slipiodd yntau yn ddirgelaidd i gae oedd gerllaw, a chysgodd am ryw gymaint o amser yno. Deffrôdd cyn hir, ond ofnai ei fod eto i ryw raddau ag arwyddion meddwdod arno; ac felly aeth adref ar hyd y ffyrdd a'r llwybrau mwyaf dirgelaidd. Aeth hyn yn boen fawr iddo, ac yn niniweidrwydd a gonestrwydd ei galon aeth at Robert Dafydd y cyfleustra cyntaf a gafodd i ddweyd på fodd y bu. Adroddai yr holl hanes yn fanwl a hollol onest. Gwrandawai Robert Dafydd arno yn ddistaw a myfyrgar. Ar ol iddo ddweyd y cyfan dywedodd wrtho, "Wel Duw a dy helpo! Welodd rywun di?" "Naddo neb, dwy'n meddwl, ond y Brenin Mawr." "Ie, ïe," meddai Robert Dafydd, "mi wn i y gwelodd o di! Wel, paid a dyweyd wrth neb, a ddyweda' ina' byth wrth neb. Paid a gwneyd byth yn rhagor. A gweddïa ar Dduw ac edifarha," meddai, gan roddi pwys mawr ar y geiriau diweddaf. Aeth blynyddau lawer heibio, a diwrnod cynhebrwng Robert Dafydd y dywedodd y dyn yr hanes wrth rywun.

Yr oedd ganddo fedr mawr i drin dynion, er mai y dull garw oedd ganddo yn gyffredin o wneyd hyny. Ond byddai llawer o ddoethineb yn ei ddull, pa un bynag ai garw ai tyner fyddai. Yr oedd y gerwindeb a arferai yn ateb i'r oes hono, ac yn ateb i'w gymeriad yntau; ond ffolineb o'r mwyaf fyddai meddwl am wneyd yn debyg iddo yn yr oes hon. Yr oeddynt unwaith yn Mrynengan yn casglu at ryw gyfarfod oedd i fod yno, a chodai Robert Dafydd, a dywedai,— "Os oes yma rywrai heb arian gyda nhw, ddowch chi yn mlaen yma i ddweyd faint rowch chi?" Yr oedd yno un hen gybydd go fawr, a phan yr oedd Robert Dafydd yn galw ei enw, meddai, "Pasiwch fi." "Tyrd yma, Dafydd," meddai Robert Dafydd, "i ddweyd faint wyt ti am roi." Ac yn mlaen y bu raid iddo fyned. Nid oedd ganddo ddim llai na haner coron yn ei boced, a rhoddodd ef ar y plât. Ceisiodd godi darn llai yn ei le. "Beth wyt ti yn ei wneyd, dwad?" meddai Robert Dafydd. "Dos oddiyna di i grafangio, ni chei di ddim, ni waeth i ti beidio." Ni chafodd ddim ychwaith. Wrth fyned o gwmpas y capel i gasglu at ryw achos, dywedai wrth un yr oedd yn gwybod ddylasai roddi ychwaneg," Ai hyna wyt ti yn ei roddi hefo'r got yna?" Ond dywedai wrth un arall ei fod yn rhoi gormod. Ar un adeg cwynid yn fawr oblegid amhrydlondeb yn dyfod i'r seiat ganol yr wythnos, yr hon a gynhelid foreu ddydd gwaith. Yr oedd Robert Dafydd wedi dwrdio llawer oblegid hyn; ond nid oedd hyny yn tycio dim i gael y bobl i wella. Gan hyny, meddyliodd am gynllun newydd. Dechreuodd hi un tro i'r fynud, gyda hyny oedd wedi dyfod yn nghyd, Aeth trwy yr holl wasanaeth yn bur fyr. Yna aeth tua chartref, gan gloi drws y capel. Ar y gors yn agos i'w dŷ, yr oedd haner nifer yr aelodau yn ei gyfarfod yn myned i'r seiat. Gofynodd yntau iddynt i ble'r oeddynt yn myned? "I'r seiat," meddent hwythau. "Mai hi wedi darfod," meddai yntau, yn bur sych. Dywedir fod hyn wedi diwygio llawer arnynt oddiwrth y bai hwn.

Yr oedd rhywbeth yn werinaidd a phlaen a gwledig iawn yn mhob peth a berthynai iddo. Er ei fod "yn hen ŵr glân, a chroen gwyn ganddo, ac heb un blewyn o farf," eto yr oedd yn hollol wledig yn mhobpeth. Yr oedd felly yn neillduol yn ei wisg. Gwisg o frethyn cartre plaen fyddai bob amser am dano, clôs melfered gwyn, a hosanau gwynion, a'r rheiny yn y golwg o'r pen glin i lawr. Felly y gwelwyd ef ganoedd o weithiau yn myned i'w gyhoeddiadau Sabbothol. Yfai ddwfr o ffynon gerllaw bob boreu, y peth cyntaf a wnai ar ol codi. Bwyd cyffredin iawn ganddo oedd tatws a llaeth, a bara ceirch wedi ei falu yn gymysg âg ef. Buasai yn rhyfedd clywed neb yn y dyddiau mursenaidd hyn yn anerch gorsedd gras fel hyn:—"Achub ni i gyd, bod yg un un, o bant i bentan, fel yr yda ni yma." Dywedai yn fynych ar ganol pregethu :

"Mi gana beth o'r fan lle'r wy',
Pan af i'r nef mi gana fwy."


Yr oedd ganddo bregeth ar Ruth, a'r pennill a roddai allan ar y diwedd fyddai:

"Awn gyda Ruth i loffa,
I feusydd Boaz fry," &c.


Ac wrth ganu rhedai dros y llinell tra y byddai ereill yn myned dros ryw un gair neu sill. Wrth bregethu mewn lle pur galed unwaith, dywedai :"Arglwydd anwyl, deffro'r bobol. Waeth gen i bregethu i bac o fawn gwlybion nag i chitha."

Er mai hen wehydd cyffredin oedd Robert Dafydd, eto cai barch mawr yn holl gylchoedd y Methodistiaid ar gyfrif ei synwyr da, ei ddull naturiol a dirodres, cywirdeb ei amcanion, a'i olwg batriarchaidd. Dywedir am y gwr mawr hwnw, Mr. Charles o'r Bala, y mwyaf ei ddefnyddioldeb a fu yn Nghymru erioed, fod ganddo feddwl uchel o Robert Dafydd, a'r parch mwyaf iddo. Dywedir ei fod yn ysgrifenu adref ar un o'i deithiau, ac yn dweyd:—"Cefais y fraint o gysgu un noson yn hen wely gwellt y duwiol Robert Dafydd Brynengan." Yr oedd gan Gyfarfod Misol ei sir hefyd feddwl uchel o hono. Ymddiriedid iddo yn fynych y gorchwyl o geisio gwastatau cwerylon mewn eglwysi. Yr oedd wedi ei anfon unwaith i eglwys yn Aberdaron, lle yr oedd hen flaenor pur ystyfnig. Gwelai Robert Dafydd nad oedd dim plygu na maddeu yn ei natur, a throdd ato, a dywedodd, "Wel, yr wyt ti yn debyg iawn i gythraul, ond 'dydw i ddim yn dweyd mai cythraul wyt ti." Yr oedd ganddynt feddwl mor fawr o'i gywirdeb, ei degwch, a'i ddoethineb, fel y meddylient, os gallai rywun ddwyn trefn yn yr eglwys mai Robert Dafydd oedd y gwr. Gyrid ef yn fynych i gadw seiadau ar daith trwy y wlad. Dyna oedd dull yr hen bobl yn fynych o drefnu ymweliad â'r eglwysi. Clywsom y diweddar Barch. Robert Owen, Rhyl, yn dyweyd iddo glywed, pan yn dechreu pregethu, ddarllen cyhoeddiad Robert Jones, Rhoslan, a Robert Dafydd, i gadw seiadau drwy yr eglwysi amryw weithiau. Byddai y cyhoeddiad weithiau yn cymeryd i mewn ran helaeth o'r wlad, a byddent am amryw ddyddiau yn gwneyd y daith, ac ymddiriedid y gwaith, mae'n ddiau, i'r gwŷr mwyaf eu profiad a'u doethineb. Yr oedd yn bedwar ugain oed pan adeiladwyd capel ffasiynol a mawreddog Moriah, Caernarfon; ond cymaint oedd parch gwŷr y lle hwnw iddo, fel y gwahoddasant ef yno unwaith o leiaf i bregethu. Cofir mor uchel oedd pwlpud y capel hwnw, a'r daith hirfaith oedd raid gymeryd wrth ddringo ei risiau. Nid gwaith bychan oedd hyny i hen wr pedwar ugain oed. Cymerodd Robert Dafydd ei anadl gorphwysodd ar ganol ei daith, ac yna cymerodd drem ar y capel a'r olygfa oedd o'i gwmpas, gan ddyweyd wrtho ei hun, canys nid oedd yn meddwl fod neb ond efe ei hun yn clywed, er fod llawer: "Arglwydd anwyl, dyro air i'w ddyweyd wrth y bobol." Yr oedd efe hefyd yn un o'r rhai oedd yn agor capel Llanllyfni yn y flwyddyn 1813.

Gallwn roddi engraipht neu ddwy yn ychwaneg, at y rhai a roddwyd yn flaenorol, i ddangos ei graffder i adnabod dynion wrth holi eu profiadau yn y seiat, &c. Yr oedd dyn ieuanc yn ardal Cwmcoryn, ger Llanaelhaiarn, yn hynod am ei wybodaeth Ysgrythyrol. Wrth i Robert Dafydd ei holi am ei brofiad crefyddol, fe ddeallodd yn fuan nad oedd nemawr o arwyddion crefydd arno. meddai Robert Dafydd wrtho, "D——— anwyl, machgian i, dwyt ti 'rioed wedi cael dy ddeffro." Ac fe brofodd ei ddywediad yn wirionedd; oblegid fe adawodd achos crefydd yn gwbl. Dywedai y diweddar William Jones, Abercaseg, Bethesda, ei fod yn ymddiddan â gwraig yn y seiat yn y Carneddi. Dynes gwerylgar ydoedd. Rywfodd, er heb gyfarwyddyd gan neb, fe ddeallodd Robert Dafydd pa fath un ydoedd, ac fe roes yr ymgeledd angenrheidiol iddi. Pan godwyd y diweddar Richard Thomas, Hendrebach, Pencoed, yn flaenor, dywedodd,—"Ni fydd byth yn edifar gyno chi ei godi o yn flaenor." Profodd ei fod yn graff iawn yn yr amgylchiad hwn; oblegid trodd y gwr hwnw allan yn un o'r blaenoriaid goreu.

Yr oedd John Williams, Llecheiddior, a Moses Jones yn gryn edmygwyr o Robert Dafydd. Cyfeirient ato yn fynych yn eu pregethau, ac yn y seiadau. Credwn mai dylanwad Robert Dafydd oedd llawer o'r gerwindeb a'r plaender oedd yn John Williams. Ac yr oedd Moses Jones, meddir, wedi cymeryd ei ddull o gadw seiat oddiwrtho. Nid yw hyn ond peth hollol naturiol. Dywedir fod dylanwad yr hen bregethwr hwnw, John Jones, Bodynolwyn, ar John Elias, a dylanwad Dafydd Cadwaladr ar Henry Rees. Dywedir mai efelychiad o John Jones, Bodynolwyn, oedd rhyw glec hynod oedd yn llais John Elias. Yr un fath am y codiad hynod a sydyn oedd yn llais Mr. Rees, dywedir mai efelychiad ydoedd o rywbeth tebyg yn llais Dafydd Cadwaladr.

Yr oedd rhywun wedi ein camarwain trwy ddweyd nad oedd Robert Dafydd yn gallu ysgrifenu. Yr oeddym yn teimlo ryw chwilfrydedd i wybod pa un ai gwir ai anwir oedd hyn. Yn ddiweddar cawsom bob sicrwydd ei fod yn gallu ysgrifenu yn dda. Gwelsom ei lawysgrif fwy nag unwaith, yr hon sydd yn llawysgrif gron a phrydferth. Diameu mai yn yr ysgol yn Meddgelert, gyda Robert Jones, Rhoslan, y dysgodd ysgrifenu. Gweler ei lawysgrif yn nechreu y llyfr.

Ni byddai hanes Robert Dafydd yn gyflawn heb roddi hanes ei hen ferlyn Jack, yr hwn oedd mor hynod yn myd y ceffylau ag oedd ei hen feistr yn myd dynolryw. Yr oedd wedi ei fagu yn llywaeth, meddir, a thrwy hyny yn llawn awydd am chwareu a brathu. Du oedd ei liw, ond fod rhan helaeth o'i ben yn wyn. Byddai rhyw fath o gymdeithas yn cael ei chynal rhwng y ddau. Llawer asiaradodd Robert Dafydd gyda Jack. Yn gyffredin ar ol pregethu yn nhaith Rhydyclafdy, Pentre ucha, a Phwllheli, cynhaliai seiat ddydd Llun yn Rhydyclafdy 10, Pentre ucha 2, a Phwllheli y nos, a lletyai yn gyffredin yn Mhensarn nos Lun. Byddai arno eisieu cyrhaedd seiat Brynengan erbyn deg neu unarddeg foreu ddydd Mawrth. Ac wrth gychwyn o Bensarn odid fawr nad rhyw awr o amser fyddai ganddo i fyned i Frynengan, a chyfarchai ei hen gydymaith,—"Wel, Jack bach, nid oes gen ti ddim ond awr o amser i fynd adre', tua naw milldir o ffordd." A llawer gwaith y gwnaeth y gorchestwaith hwn. Yr oedd yn dyfod i'r Pennant unwaith i bregethu, gan farchog ei hen ferlyn fel arfer. Digwyddai fod yno ffrwd o ddwfr wrth y ffordd, yn agos i chwarel Hendre ddu, ac aeth Jack ati i yfed o honi. Ac meddai Robert Dafydd wrtho, heb feddwl fod neb yn clywed,—"Ie, ŷf dy ora. Mae hi yn ddigon caled arnat ti; mae cryn bwysau arnat ti. Mae yma ddau beth bynag ar dy gefn di, yr hen ddyn a'r dyn newydd." Er fod Jack yn "geffyl yr hen bregethwr," eto mae yn bur amlwg fod llawer o gastiau yn perthyn iddo. Byddai John Williams, Llecheiddior, fel y cyfeiriwyd, yn hoff iawn o wneyd cyfeiriad at Robert Dafydd yn ei bregethau, &c. Cyfeiriai hefyd at geffyl Robert Dafydd weithiau. "Peidiwch," meddai, "a gadael i ryw bethau bychain eich llyffetheirio gyda chrefydd. Gwnewch yn debyg i hen geffyl Robert Dafydd. Wedi iddo gael ei garcharu â thenyn gwellt, fe orweddai ac fe'i cnoai, yna byddai yn rhydd i fyned i unrhyw borfa fras a fyddai yn ddewis. Gwnewch chwithau yn debyg." Yr oedd drwg—deimlad wedi magu rhwng Jack a Betti Marc, yr hen ferch a fyddai yn myned o gwmpas y wlad i gadw seiadau, yr hon oedd yn byw yn nhy capel Brynengan. Yr achos oedd y byddai hi yn rhwystro iddo gael gwair pan fyddai yn ystabl y capel. Penderfynodd yntau y dialai arni am hyn. Yr oedd yn myned trwy y cae lle yr oedd yn pori un diwrnod. Daliodd yntau hi, a rhwystrodd iddi fyned o'r cae am gryn amser, nes daeth rhywun wrth fyned heibio, ac a'i gwaredodd rhagddo. Rhoddodd Robert Dafydd fenthyg Jack unwaith i ferch ieuanc i fyned i ffair Pwllheli, yr hon a gynhelid ar ddydd Gwener. Dranoeth, yr oedd yn cychwyn i'w daith i Glynnog, ac wrth roddi y cyfrwy ar ei gefn gwelai friw arno. Edrychai arno yn ddifrifol a synedig, a dywedodd, "Wel, Jack bach, dyma beth ydy myn'di gario merched; chest ti 'rioed ddolur fel hyn wrth fy nghario i."

Dyma farn yr hen bregethwr craff a ffraeth hwnw, Griffith Solomon, am Robert Dafydd:— "Profiadol fel Cristion, ffyddlon yn ei le a'i alwad, hallt wrth ymdrin a chyflyrau dynion, gan rybuddio pawb yn gyhoedd ac yn ddirgel i beidio a boddloni ar grefydd heb Grist ynddi."

Nodiadau

[golygu]