Neidio i'r cynnwys

Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion/Pennod VIII

Oddi ar Wicidestun
Pennod VII Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion

gan Henry Hughes, Bryncir

Pennod IX

PENNOD VIII.
BLYNYDDOEDD OLAF ROBERT DAFYDD.

Yn dirf, yn iraidd, ac yn fywiog, yn ei henaint.—Marwolaeth ei wraig.—Sasiwn Caernarfon, yn y flwyddyn 1830.—Pregeth hynod John Elias.—Gweddio am Ddiwygiad.—Diwygiad 1831—2.—Magu y dychweledigion.—Y Diwygiad yn dechreu yn Mrynengan.—Pregeth hynod Henry Rees,—Y cyntaf ("Gad") a ddychwelwyd.—Dewi Wyn.—John Owen, Ty'nllwyn, a'i chwaer.—Robert Roberts, Hendre Cenin.—Pregeth hynod John Elias yn Sasiwn Pwllheli. —Y Diwygiad yn ymledu.—Mari Prisiart a Morgan Howells.—Pregeth John Peter, y Bala, yn Mrynengan.—Ardal Brynengan yn adsain gan swn y Diwygiad.—Y Colera.—Diwygiad Brynengan."—Dyryswch henaint.—Y gadair y bu farw ynddi.—Ei farwolaeth, ei gladdedigaeth, a'i feddargraff.

GELLIR dweyd am Robert Dafydd ei fod mewn gwirionedd yn dirf ac yn iraidd yn ei henaint. Dywedai yr hen flaenor rhagorol hwnw, y diweddar Robert Roberts, Penybryn, Boduan, am dano,—"Byddai rhyw wlithyn ar ei ben o bob amser, yn enwedig ar weddi." Er iddo gael byw i fyned yn 87 mlwydd oed, eto daliodd yn fywiog ac yn weithgar gyda chrefydd i ymyl ei ddiwedd. Claddwyd ei wraig ar ddydd Sadwrn, pan yr oedd efe yn ymyl bod yn 81 mlwydd oed. Aeth ar ei union o'r angladd i'w gyhoeddiad at y Sabboth i rywle yn Lleyn. Yr oedd yn Sasiwn Caernarfon, Medi yr 17eg, 1830, pan yn 83 oed. Aeth yn wlaw mawr ar ol iddynt ddechreu pregethu ar y maes, fel y bu raid myned i gapel Moriah. "A phwy oedd yn fy ymyl," meddai fy hysbysydd, "wedi dringo grisiau uchel capel Moriah, ond yr hen Robert Dafydd a'i ben gwyn." Yn yr odfa hon y cafodd John Elias un o bregethau hynotaf ei oes, pan y pregethai ar y "gwas anfuddiol," ac y gwaeddai John Williams, Llecheiddior, meddir, fel pe buasai "dwca yn ei wddf." Gwaeddai â'i holl nerth,—"O bobl anwyl, i ble yr ai?" Neidiodd o'r sêt fawr i'r passage, fel dyn gwallgof, gan redeg fel gwr ar ddarfod am dano. "O frawd bach," meddai William Havard, "miwni i ble yr â i, i'r un fan ag y bum i ganwaith—at Iesu Grist." Pan yn 82 oed dechreuodd weddio am gael gweled diwygiad cyn marw, a chafodd ei ddymuniad. Y diwygiad hwnw oedd yr un a dorodd allan yn 1831 a 1832. Yr oedd ganddo bregeth nodedig yr un adeg ar y gair hwnw,—"Eithr mi a ymwelaf a chwi drachefn" (Ioan xvi. 22), yr hyn sydd yn dangos mai ar hyn yr oedd ei holl galon a'i holl ddymuniad. Bu hyn yn destyn ei weddiau dirgel bob dydd am ddwy flynedd. Ai i'w ystafell bob dydd gyda'r neges yma yn arbenig. Yr oedd ganddo gongl yn ei ardd hefyd lle yr arferai wneyd hyn. Clywyd ef lawer gwaith gan ei deulu a'i gymydogion yn ymdrechu â Duw gyda'r neges yma ganddo. Arferai enwi yr amaethdai yn y gymydogaeth yn ei weddïau, a gweddiai ar i'r Arglwydd achub eu preswylwyr. "Ti a wyddost," meddai, "O Arglwydd, fod yma rai tai a'r addolwyr a fu ynddynt wedi meirw, a bod yr hen allorau wedi eu bwrw i lawr. O fy Nhad, gad i mi weled un diwygiad eto cyn marw; gad i mi weled fy nghymydogion wrth y degau yn troi eu hwynebau i dy dŷ, dan gerdded ac wylo; ac os caf, mi fyddaf foddlon i farw y fynud a fynot di." "A chlybu yr Arglwydd weddi ei was" yn hyn; cafodd fyw i weled tua 140 yn ymofyn am le yn nhy Dduw yn Mrynengan. Pan ddaeth y cyntaf o'r nifer hwn, dywedodd Robert Dafydd, fel mewn ysbryd prophwydoliaeth,—"Gad ydi o, mae llu yn dyfod." Bachgen ieuanc, pengoch, llawn bywyd a direidi ydoedd hwn. Yn nechreu y Diwygiad yr oedd y Parch. Henry Rees, Amwythig, y pryd hwnw, yn pregethu yn Mrynengan, gyda'r egni, a'r llafur, a'r difrifwch oedd mor nodedig ynddo. Mor egnïol ydoedd fel yr oedd ei chwys yn rhedeg yn ffrydiau ar hyd ei ruddiau prydferth. Arhosai am enyd ar adegau i gael ei anadl, gan mor lafurus ac egnïol ydoedd. Ar un o'r cyfyngau hyn rhoddodd y bachgen pengoch floedd anarferol, a'r cyfleusdra cyntaf a gafodd aeth i'r cyfarfod eglwysig. Yr oedd yn gwasanaethu gyda'r prif-fardd Dewi Wyn, yn y Gaerwen. Cynhelid y seiat y pryd hwnw yn Mrynengan, fel y cyfeiriwyd o'r blaen, yn y dydd, am un ar ddeg o'r gloch foreu Mawrth; ac felly gofynodd ganiatâd ei feistr i fyned yno. "Cei," meddai yntau, "os byddi di rywfaint yn well wedi myned yno," gan awgrymu fod yn ddigon rhaid iddo fod yn well, ac heb wybod fod dim cyfnewidiad arno. A dyma flaenffrwyth y Diwygiad, fel y cyfeiriwyd. Ar ol hyn ei neges yn yr hen ystafell oedd, "O Arglwydd, gad imi gael byw flwyddyn eto i fagu y plant yma." Caniatawyd ei ddymuniad yn hyn hefyd, a bu fyw ddwy flynedd ar ol hyn. Ymddiddanodd â nifer fawr o'r dychweledigion hyn, a gofalai am danynt fel pe buasent yn blant iddo. Sylwai a chraffai ar eu dull yn dyfod i'r eglwys. Os na byddai arwyddion arnynt eu bod wedi bod o "dan Sinai," chwedl yntau, byddai yn lled amheus o honynt. Pan ofynodd i'r diweddar Barch. John Owen, Ty'nllwyn, beth oedd ar ei feddwl ef, dywedai yntau, "Nid oes dim neillduol ar fy meddwl i rwan, mae pethau mwy wedi bod. Mae yr addewid hono ar fy meddwl,—Ac Arglwydd y lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win; o basgedigion breision, a gloyw-win puredig.' Yr oeddwn i yn meddwl mai yma yr oedd y wledd. Ac mi ddois i i'r seiat, rhag ofn imi fyn'd heb deimlo dim." "Но," meddai yntau yn bur ddiflas ac amheus. Yr oedd ei chwaer, Mrs. Humphreys, y Gesail, yn fwy cymeradwy yn ei olwg, gan ei bod hi yn gyffrous iawn, ac yn gorfoleddu braidd yn mhob cyfarfod. Un o'r un stamp â Mr. Owen oedd y diweddar Mr. Robert Roberts, Hendre Cenin. Ac wrth ei weled yn lled ddigyffro yn dyfod i'r seiat, dywedodd Robert Dafydd,—"Fuost ti ddim yn synu, dywad, na buasai Duw wedi dy yru at gythreuliaid pan yr oeddat ti yn ei swagro hi tua Lloegr yna?" Yr oedd Mr. Roberts newydd ddyfod adref ar ol bod yn yr ysgol yn Nghent. Ymysg yr 140 uchod yr oedd lliaws ereill a droisant allan yn wyr rhagorol iawn. Adwaenom dri o leiaf sydd yn awr yn fyw, ac yn flaenoriaid eglwysig, sef Mri. Morris Prichard,[1] Llandudno; Richard Griffith, Nebo, Llanllyfni; a Griffith Williams, Brynengan. Ac y mae y tri yn fyw iawn i helyntion y diwygiad hwnw, yn eu cofio yn dda, ac yn gallu eu hadrodd gydag eneiniad, er eu bod wedi cymeryd lle ers dros driugain mlynedd.

Efallai nad annyddorol gan y darllenydd fydd olrheiniad manylach o hanes dechreuad a dygiad yn mlaen y diwygiad hwnw, gan fod cysylltiad mor agos rhyngddo â'r hen batriarch, Robert Dafydd. Ei gychwyniad cyntaf oedd pregeth fythgofiadwy John Elias yn Sasiwn Pwllheli, Medi 16, 1831, ar y gair hwnw, "Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion, a ffoed ei gaseion o'i flaen ef." Yroedd y bregeth hono fel daeargryn sydyn yn nghanol tawelwch mawr. Gellir dweyd yn briodol iawn am yr adeg hono,—"Y ddaear oedd yn eistedd ac yn llonydd;" ond "wele, bu daeargryn mawr." Clywsom hen frawd hynod o Borthmadog—Hugh Owen, 'Rhen dy, wrth ei enw yn dweyd am y bregeth hon, "Mi bregethodd John Elias y pryd hwnw yn Sasiwn Pwllheli nes yr oedd sir Gaernarfon yn crynu drwyddi, a dydi hi byth wedi dyfod ati ei hun." Yr wythnos ddilynol yr oedd John Elias yn pregethu yn Mrynengan; a dywedir fod nifer mawr, o Bwllheli a'r amgylchoedd wedi dyfod ar feirch ac mewn cerbydau i wrando arno, er fod y pellder oddeutu naw milldir o ffordd. Ymledodd y dylanwad yn fuan i Leyn. Cerddodd oddiyno i Eifionydd. Ac ar ddydd Jubili yr Ysgol Sabbothol, yr hwn oedd hefyd yn ddydd diolchgarwch, yn nghapel Bontfechan, ger Llanystumdwy, Hydref 14, torodd allan yn ddiwygiad grymusiawn. Teimlwyd yr un dylanwad nerthol yn Mrynengan, braidd yn yr un dyddiau, trwy bregeth y Parch. Henry Rees. Yn fuan yr oedd cyfarfod gweddi mewn ty o'r enw Pensarn uchaf. Hen wraig wresog o'r enw Mari Rhisiart, Pensarn, a geneth fechan, gwan hen a gwan ieuanc, a fethasant beidio tori allan i lefain yn y cyfarfod hwn. Gyda llaw, dyma'r hen wraig a ymgripiodd wrth ei dwy ffon, tua dau led cae, i gyfarfod Morgan Howells, wedi iddo fod yn pregethu yn Mrynengan, ac yn casglu at ei gapel yn Casnewydd. "Dyma i chi swllt," meddai, "at ddwyn yr arch i'w bro ei hun." Gwnaeth stori yr hen wraig lawer at chwyddo casgliad Morgan Howells. Yr oedd y teimlad yn dwyshau o hyd hyd ddechreu Ionawr, 1832. Yr oeddis wedi cyhoeddi Thomas Owen, Llangefni, i fod yn pregethu yno un Sabboth, Ionawr 8, 1832; ond gwnaed camgymeriad gan rywun, ac ymhen yr wythnos y daeth efe i'w gyhoeddiad, ac mewn cyfarfod gweddi a gynhelid yn lle yr odfa hon torodd allan yn orfoledd anghyffredin iawn. Yr oedd y diweddar William Hughes, Bangor, a John Roberts, Ynysdyfnallt, ger Bryncir, yn methu ymatal heb lefain yn nghourt y capel, ac ar eu ffordd adref. Yn mhen ychydig ddyddiau yr oedd John Peter, y Bala, yn pregethu yno, ar y gair hwnw,—"Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau." A'r fath oedd y dychryn a'r arswyd oedd wedi dal pawb oedd yn y lle fel y torodd allan yn un waedd gyffredinol, fel na chafodd y pregethwr lefaru ond am ychydig fynudau. Aeth y diwygiad rhagddo drwy y gauaf a'r gwanwyn dilynol gyda nerth mawr, ac ymledodd trwy holl eglwysi Eifionydd. Yr oedd yn boeth iawn yn ardal Bwlchderwin. Clywsom Mr. William Griffith, Terfynau, Bwlchderwin, yn dweyd ei fod yn gwrando ar John Jones, Tremadog, yn pregethu yn Mwlchderwin, yn nghanol poethder y diwygiad. Ac y mae yr olygfa a welodd yn nrws y capel, wrth ddyfod allan, yn fyw yn ei feddwl hyd y dydd hwn—pedwar bachgen pen-goch, pen-noeth, yn gorfoleddu ac yn neidio yn nghourt y capel. Gallem feddwl mai Mri. R. Griffith, Nebo, M. Prichard, Llandudno, a'r "bachgen pengoch" oedd yn flaenffrwyth "Diwygiad Brynengan" oedd tri o'r pedwar. Bu awyrgylch yr ardal yn adsain gan sain cân a moliant am wythnosau lawer. Gellid clywed oddiar fynydd y Cenin gerllaw, liaws bob nôs am wythnosau mewn ymdrech â Duw yn y meusydd islaw. A byddai sŵn y naill yn cyraedd y llall; a'r diwedd fyddai cynal cyfarfod gweddi gyda'u gilydd. Ac wedi i'r gwahanol bentewynion ddyfod at eu gilydd, y canlyniad fyddai fod yno dân gwresog, yn cyneu ac yn fflamio am oriau lawer. Yr oedd Mawrth yr 21, wedi ei benodi yn ddydd o ympryd ac o ymostyngiad o achos y colera, a chyfarfodydd gweddi yn cael eu cynal yn holl gapelau y wlad. "A'r fath oedd yr arswyd," meddai y diweddar Barch. Robert Ellis, Ysgoldy, feddianai bawb, fel y caed pob llan a chapel yn llawn am y diwrnod hwnw bid a fo. Bu ymweliad y pregethwr arswydus hwn yn foddion i brysuro yr adfywiad crefyddol, yr hwn oedd eisoes wedi dechreu ymdaenu tua Lleyn ac Eifionydd, trwy ddifrifoli meddyliau dynion, a'u deffroi i ystyriaeth o'u perthynas â byd arall." Gelwid y diwygiad hwn, er mwyn ei wahaniaethu oddiwrth ddiwygiadau ereill, yn "Ddiwygiad Brynengan." Gelwid ef felly, mae yn debyg, oblegid iddo gael gafael ddyfnach yn yr ardal hon nag mewn un ardal arall.

Cynyrchodd y diwygiad hwn rai duwiolion digyffelyb ymron. Cyrhaeddodd ambell un ohonynt yr hafan ddymunol yn fuan, ac yn eu llawn hwyliau. Cafodd eraill ohonynt wyntoedd croesion, ond y maent er's llawer blwyddyn wedi dianc allan o gyraedd yr ystormydd a'r tonau i gyd am byth. Gwelodd yr ysgrifenydd nifer ohonynt; a chlywodd am eraill nas gwelodd â'i lygaid. Clywodd am rai gwragedd nodedig iawn. Ymysg y lliaws "gwragedd sanctaidd" ag yr oedd hynodrwydd mawr ynddynt yn y diwygiad hwn, yr oedd un yn arbenig felly, sef Miss Margaret Jones, Mynachdy—gwyn, yr hon oedd yn fodryb chwaer eu mam i Mr. Owen Jones, Talsarn, a'r diweddar Mr. W. Ll. Jones, Henllan. Llawer a glywsom yr hen bobl yn sôn am "Margiad Mynachdy,"—oblegid dyna fel y galwent hi,—a'u gwynebau yn lloni, a'u llygaid yn llenwi. Yr ydym yn gofidio erbyn hyn na buasem wedi cofnodi pob gair a ddywedasant am dani. Mynych y gwelwyd hi yn nhy Dduw fel Hannah, yn ymddangos fel meddw, wedi yfed o'r gwin o seler Duw; ac fel hithau, ei chalon yn llawenychu yn yr Arglwydd, ei chorn wedi ei ddyrchafu, ei genau wedi ei eangu, ac yn llawenychu yn iachawdwriaeth Duw. Prin yr oedd yn un ar bymtheg oed pan yr oedd y diwygiad yn ei boethder mwyaf, ac eto yr oedd yn hynotach na braidd neb yn y lle. Yr oedd Thomas Owen, Llangefni, yn pregethu yma un Sabboth yn yr adeg hon, ar "Beth a dybygwch chwi am Grist?" A rhwng gwres ysbryd yr hen bregethwr tanbaid a gwres y dychweledigion, yr oedd awyrgylch grefyddol y lle wedi cyraedd graddau uchel iawn. Wedi galw seiat ar ol daeth yr hen bregethwr o'r pwlpud i ganol y llawr, yn ol yr arfer y pryd hwnw; a'r peth cyntaf a ddywedodd mewn llais uchel oedd, "Beth dybygwch chwi am Grist"? gan roddi pwyslais ar y gair "chwi." Ar y gair gwaeddodd y ferch ieuanc uchod gyda llais tyner ac effeithiol, gan gofleidio y pregethwr, "Mai priod fy enaid ydyw." A chyda'r gair dyma'r trydan nefol yn cyffwrdd â phawb oedd yn y lle, fel nad oedd yno neb heb deimlo y dylanwad. Aeth rhai i wylo, eraill i orfoleddu, ac eraill i ganu

"Ffarwel bellach bob eilunod,
Iesu mhriod aeth a mryd."

Meddai yr hen flaenor hynod Mr. Richard Griffith, Nebo, Llanllyfni, am dani: "Yr oedd yn ddiarhebol mewn duwioldeb. Gorfoleddodd lawer; a byddai rhyw ddylanwad trydanol yn ei llais. Pan fyddai eraill yn gwaeddi Sinai, Calfaria fyddai ei chân a'i hateb hi. Clywais hi yn gwaeddi allan unwaith, Os collais y ddelw yn Eden, mae y gwaith a wnaed ar Galfaria yn abl i'w rhoi yn ol er hyny." Er yn eneth ieuanc, o un ar bymtheg i ddeunaw oed, cadwai ddyledswydd deuluaidd foreu a hwyr mewn teulu lliosog nad oedd neb yn proffesu crefydd ynddo. Fel llawer eraill mewn adeg o ddiwygiadau grymus, derbyniodd gymaint o'r dylanwadau dwyfol ar ei hysbryd nes ysigo ei chorph. Gwywodd i'r bedd yn ieuanc, a bu farw yn 30 oed, yn y flwyddyn 1846.

Mor hoff oedd Robert Dafydd o'r seiat hyd yn nod yn ei flynyddoedd a'i fisoedd olaf fel, os na allai ddyfod iddi, byddai raid iddynt ddyfod i gadw seiat iddo yn ei dŷ, yn Nhyddyn Ruffydd. Mor ddefosiynol ei ysbryd ydoedd fel y byddai raid iddo gael myned ar ei liniau ar weddi yn y cyfarfod, er na allai godi heb i ddwy o wragedd ei helpu i godi, un o bob tu iddo. Adroddir fod un o'r enw Griffith Roberts, yr hwn oedd flaenor yn y lle, yn dweyd ei brofiad yn un o'r cyfarfodydd hyny. Gôf oedd y gwr hwn, ac yr oedd newydd symud ar y pryd i ffarmio i amaethdy o'r enw Bwlchgwyn. Yr oedd yn wr da, ond yn nghanol ei drafferthion cwynai y pryd hwn ei fod yn ofni fod ei feddwl a'i ysbryd yn myned yn ddaearol ac yn fydol. Yr oedd Robert Dafydd yn digwydd bod yn ei ymyl ar y pryd. "Cododd Robert Dafydd ei law fawr," medd fy hysbysydd, "a tharawodd ef ar ei gefn yn drwm, gan ddweyd, 'Altra ditha', machgian i.' "

Yn ei fisoedd olaf yr oedd yn dyrysu ychydig weithiau, gan henaint a gwendid. Dywedai rai pethau doniol a digrifol ar yr adegau hyny. Coffheir rhai o'r dywediadau hyny gan Dr. William Rees yn Aelwyd F'ewythr Robert. "Mi glywis sôn am hen byrgethwr efo'r Methodistiaid yn sir Gyrnarfon, ebe Rhys Puw. Rhydach chi'n peru imi gofio am dano fo, wrth sôn am y cybyddion yma, Robert Dafydd oedd gelwir o—mae gen i beth co am dano fo. Mi fydde rhên wr yn trin y cybyddion yn yrwinol bob amser. Yr oedd o wedi mynd yn bur hen cyn marw, ac wedi drysu gan henaint a gwendid; a phyrgethu bydde fo yn y gornel o hyd. Mi gode i fynu, ac mi gymre arno ddarllen pennod, a rhoi gair i ganu, ac ono gweddio a phyrgethu. Mi fydde yr hen wr yn meddwl i fod o yn y capel. Weithie y cymre fo'r Beibil, ac weithie hebddo fo. Mi 'naeth lawer iawn o sgythyre 'i hun, ac mi fydde rhwbeth am y cybyddion yn y rhan fwya o'r rhai fydde fo'n 'neyd. Mi 'roedd o'n darllen un tro, ac mi ddaeth ar draws 'i hen lynion, a mi naeth sgythyr iddyn nhw. Fel hyn 'roedd hi,—'Ac efe a gasglodd yr holl gybyddion, ac a'u hanfonodd at Pharo Neco, brenin yr Aipht, ac efe a'u gorthrymodd hwynt.'"

Ychydig cyn ei farwolaeth symudodd o'i hen gartref, Tyddyn Ruffydd, at ei fab, Robert, i dŷ capel Brynengan, ac yno y bu farw. Ni wybu nemawr ddim am afiechyd ar hyd ei oes faith. Bu farw yn sydyn ar ei eistedd yn ei gadair. Bu y gadair hon yn aros yn y ty capel am lawer blwyddyn, ond symudodd oddiyno gyda'r rhai olaf o'r teulu, ac y mae yn awr gan Mr. Hugh Jones, Rhandir, Groeslon, priod yr hwn sydd o'r teulu. Yn y capel y bu ei weddillion yn gorwedd hyd ddiwrnod yr angladd. Traddodwyd pregeth yn y capel noson ei wylnos, ond ni chawsom wybod pwy oedd y pregethwr na pha beth oedd y testun. Claddwyd ef yn mynwent yr Eglwys yn Llangybi; ac y mae rhai yn fyw eto yn cofio y canu hynod oedd ar hyd y ffordd, ac yn mhentref Llangybi, a'r teimlad dwys oedd yn yr angladd. Y mae careg ar ei fedd, ar ba un y mae yr argraph ganlynol:

"Yma y gorwedd corph
Robert Dafydd
o
Dyddyn Ruffydd,
Yr hwn a fu yn bregethwr ffyddlon
yn mysg y Trefnyddion Calfinaidd,
am 61 mlynedd.
Bu farw Ebrill 17, 1834,
yn 87 oed.

Nodedig ei ddawn nid ydoedd,―er hyny
Rhanai fara'r nefoedd
O'i law aur i laweroedd;
Offeryn Duw a'i ffrynd oedd."


Nodiadau

[golygu]
  1. Bu y cyntaf farw yn lled ddiweddar.