Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion/Rhagymadrodd
| ← Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion | Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion gan Henry Hughes, Bryncir |
Cynwysiad → |
RHAGYMADRODD.
"EIN tadau, pa le y maent hwy?" Wedi myned i "ffordd yr holl ddaear." Ac y mae yr adgofion am danynt yn myned i ffordd yn gyflym ar eu hol. Ac amcan y llyfr bychan hwn ydyw achub rhyw gymaint ohonynt cyn iddynt fyned ymaith gyda llifeiriant amser. Mae yr ysgrifenydd yn cael boddhad a phleser mawr iddo ei hunan wrth wneyd hyn; a hydera hefyd ei fod yn gwneyd gwasanaeth i'w oes wrth wneyd.
Ymddangosodd y rhan fwyaf o gynwys y llyfr hwn yn y Traethodydd am 1893, a'r Drysorfa am 1890 a 1891. Cafodd yr ysgrifau hyny y fath dderbyniad ag sydd yn cymell yr ysgrifenydd i'w cyhoeddi yn y ffurf bresenol, gyda rhai ychwanegiadau. Yn mysg eraill a roddodd gymeradwyaeth uchel i'r ysgrifau yr oedd y "tywysog a'r gŵr mawr hwnw yn Israel," y diweddar Barch. Dr. J. Hughes, Caernarfon. Croesodd y stryd ataf yn Nghaernarfon, gan fy llongyfarch am yr ysgrifau, a'm hanog i fyned yn mlaen yn yr un cyfeiriad. "Mi wnaethym i gyfeiriad atynt wrth bregethu y Sabboth diweddaf," meddai, yn ei ddull serchog a chyfeillgar ei hun. Hyderaf na bydd i'r llyfr bychan hwn lygru neb; ond yn hytrach y bydd iddo roddi mwynhad iachus i'r neb a'i darlleno. Ar iddo fod o fendith i'r neb a'i darlleno yw gweddi
Yr eiddoch,
bwlch
- Dydd Calan, 1895.