Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion (testun cyfansawdd)
| ← | Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion (testun cyfansawdd) gan Henry Hughes, Bryncir |
Pennod Nesaf → |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion |

ROBERT DAFYDD,
BRYNENGAN;
EI HANES, A'I HYNODION,
YNGHYDA
HANES EGLWYS HYNAFOL AC ENWOG BRYNENGAN
GYDA DARLUNIAU O'R GWRTHRYCH, AC O GAPEL BRYNENGAN.
GAN
HENRY HUGHES
BRYNKIR.
CAERNARFON:
ARGRAFFWYD YN SWYDDFA'R WASG GENEDLAETHOL GYMREIG.
1895.

RHAGYMADRODD.
"EIN tadau, pa le y maent hwy?" Wedi myned i "ffordd yr holl ddaear." Ac y mae yr adgofion am danynt yn myned i ffordd yn gyflym ar eu hol. Ac amcan y llyfr bychan hwn ydyw achub rhyw gymaint ohonynt cyn iddynt fyned ymaith gyda llifeiriant amser. Mae yr ysgrifenydd yn cael boddhad a phleser mawr iddo ei hunan wrth wneyd hyn; a hydera hefyd ei fod yn gwneyd gwasanaeth i'w oes wrth wneyd.
Ymddangosodd y rhan fwyaf o gynwys y llyfr hwn yn y Traethodydd am 1893, a'r Drysorfa am 1890 a 1891. Cafodd yr ysgrifau hyny y fath dderbyniad ag sydd yn cymell yr ysgrifenydd i'w cyhoeddi yn y ffurf bresenol, gyda rhai ychwanegiadau. Yn mysg eraill a roddodd gymeradwyaeth uchel i'r ysgrifau yr oedd y "tywysog a'r gŵr mawr hwnw yn Israel," y diweddar Barch. Dr. J. Hughes, Caernarfon. Croesodd y stryd ataf yn Nghaernarfon, gan fy llongyfarch am yr ysgrifau, a'm hanog i fyned yn mlaen yn yr un cyfeiriad. "Mi wnaethym i gyfeiriad atynt wrth bregethu y Sabboth diweddaf," meddai, yn ei ddull serchog a chyfeillgar ei hun. Hyderaf na bydd i'r llyfr bychan hwn lygru neb; ond yn hytrach y bydd iddo roddi mwynhad iachus i'r neb a'i darlleno. Ar iddo fod o fendith i'r neb a'i darlleno yw gweddi
Yr eiddoch,
bwlch
- Dydd Calan, 1895.
CYNWYSIAD.
Sylwadau arweiniol.—Ei ddyn oddiallan.— Ei ddarlun.—Treulio ei oes cyn dechreu dirwest.—
Lle ac amser ei enedigaeth.—Ei rieni.—Ei ieuenctid.—Troedigaeth trwy Sion Robert Lewis, Caergybi.—
Robert Jones, Rhoslan, yn Meddgelert.—Cyrchu i Frynengan it wrando yr Efengyl.—
Yr enwogion a welodd ac a glywodd yno.
Brynengan: Ardal ac Eglwys Fabwysiedig Robert Dafydd.
Nid plwyf ydyw.—Mynydd y Cenin.—Hynafiaethau yr ardal.—Cytiau'r Gwyddelod."—
Mynachdy-gwyn a Mynachdy-du.—Hen arch hynod.—Cysylltiad y Puritaniaid a'r Anghydffurwyr â'r ardal.—
"Anerchiad trigolion sir Gaernarfon at Richard Cromwell."—Pwy lawnododd yr anerchiad?
—John Jones, y gŵr a roddodd brydles y capel.—Yr anhawsder i'w chael.
—Enwau yr ymddiriedolwyr cyntaf
Brynengan: Ei Ardal a'i Eglwys Fabwysiedig. (Parhad.)
Brynengan yn Jerusalem Eifionydd a sir Gaernarfon.—Safle ddaearyddol y lle.
Lleoedd hynod yn yr ardal.—Darlun o'r capel
Brynengan: Ei Ardal a'i Eglwys Fabwysiedig. (Parhad.)
Yr enwogion a gododd yn yr ardal.—Pa gyfrif sydd i'w roddi am hyn?—Eglwys hynafol
Capel Helyg. Henry Maurice.—Deddf y Pum' Milldir. Yr eglwys yn cyfarfod ar ochr craig
mewn coedwig. Deddf y Cyfarfodydd Gwaharddawl. Ystafell hynod yn Cae'rtyddyn.—Dyfodiad
Lewis Rees, Jenkin Morgan, a Howell Harris i'r wlad.—Odfa gyntaf Howell Harris yn y
wlad hon, yn Glasfryn—fawr.—Eglwysi cyntaf Eifionydd.—Cychwyniad eglwys Brynengan, a'r
crefyddwr cyntaf yn yr ardal. Robert Owen, Brynygadfa.—Y cyrchu i Frynengan a Ty-mawr.
—Dim erlid yn Mrynengan. Erlid yn yr holl amgylchoedd.—Richard a Morris Griffith, Penybryn
Y bregeth gyntaf yn ardal Beddgelert.—Cyrchu i Langeitho gyda John Pierce a Richard
Morris. Priodi.—Teulu ei wraig.—Yn hynod am gadw seiat.—
Ei erwindeb.—Yn adwaen ac yn trïn rhodres.—Ei nodwedd fel pregethwr.—Rhai odfeuon
grymus.—Ieuengrwydd ei ysbryd
Odfa hynod.—Ei gydymdeimlad â phobl ieuainc.—Ei lymder wrth ddisgyblu.—Tynerwch at
yr edifeiriol.—Medr i drïn dynion.—Ei wisg a'i ymborth gwladaidd.—Y parch a delid iddo.—
Engreifftiau chwanegol i ddangos ei graffder i adnabod dynion.—Ei ddylanwad ar
John Williams, Llecheiddior, a Moses Jones.—Ei lawysgrif. Hynodrwydd ei ferlyn, Jack.—
Barn Griffith Solomon am dano
Sylwadau a Dywediadau Robert Dafydd
Blynyddoedd olaf Robert Dafydd.
Yn dirf, yn iraidd, ac yn fywiog, yn ei henaint.—Marwolaeth ei wraig.—Sasiwn
Caernarfon, yn y flwyddyn 1830.—Pregeth hynod John Elias.—Gweddio am Ddiwygiad.
—Diwygiad 1831—2.—Magu y dychweledigion. —Y Diwygiad yn dechreu yn Mrynengan.—
Pregeth hynod Henry Rees,—
Y cyntaf ("Gad") a ddychwelwyd.—Dewi Wyn.—John Owen, Ty'nllwyn, a'i chwaer.—
Robert Roberts, Hendre Cenin.—Pregeth hynod John Elias yn Sasiwn Pwllheli. —Y Diwygiad yn
ymledu.—Mari Prisiart a Morgan Howells.—Pregeth John Peter, y Bala, yn Mrynengan.—
Ardal Brynengan yn adsain gan swn y Diwygiad.—Y Colera.—Diwygiad Brynengan."—
Dyryswch henaint.—Y gadair y bu farw ynddi.—Ei farwolaeth, ei gladdedigaeth, a'i feddargraff.
Ei Ddisgynyddion.
Ei blant.—Ei fab a'i ferch yn nghyfraith.—Ei wyrion, ei orwyrion, &c.
ROBERT DAFYDD, BRYNENGAN.
PENNOD Ι.
Sylwadau arweiniol.—Ei ddyn oddiallan.— Ei ddarlun.—Treulio ei oes cyn dechreu dirwest.—Lle ac amser ei enedigaeth.—Ei rieni.—Ei ieuenctid.—Troedigaeth trwy Sion Robert Lewis, Caergybi.—Robert Jones, Rhoslan, yn Meddgelert.—Cyrchu i Frynengan it wrando yr Efengyl.— Yr enwogion a welodd ac a glywodd yno.
ROBERT DAFYDD, Brynengan,—dyna enw sydd yn mynu byw er gwaethaf treigliad blynyddau lawer. Pa fodd y mae cyfrif am hyny nid yw mor hawdd gwybod; ond dyna'r ffaith. Pan y mae enwau, a fu unwaith mewn mwy o fri, yn colli a diflanu, y mae yr enw yma yn aros. Nid oedd Robert Dafydd ond tipyn o gynghorwr a hen wehydd wedi eu cylymu yn nghyd. Ac yr oedd yn byw mewn ardal neillduedig iawn. Ond eto, er gwaethaf yr holl anfanteision hyn, fe dyfodd yn gymeriad gwreiddiol, cryf, gonest, a hollol ar ei ben ei hun. Rhoddi ychydig o'i hanes a'i nodweddion fydd amcan y llyfr hwn. Hwyrach y bydd hyny yn rhoddi cyfrif i ryw raddau am fod ei enw yn aros.
O ran ei ddyn oddiallan yr oedd yn llawn dwy lath o daldra, neu ychwaneg. Ac yr oedd yn ogyhyd ei esgeiriau; ei holl aelodau yn fawrion ac yn gryfion; corph nodedig o gryf, pen mawr, a gwyneb llydan. Gadawai i'w wallt dyfu yn llaes dros ei ysgwyddau, yr hwn oedd yn rhanedig ar ei dalcen, rhywbeth yn debyg i'r diweddar Barch. Joseph Thomas, Carno, ac yr ydoedd yn wyn fel gwlân er's tua deng mlynedd ar hugain cyn ei farw. Yr oedd golwg hollol dywysogaidd arno. Mae yn meddiant teulu y diweddar Mr. Richard Griffith, Gwalia House, Bangor, ddarlun ohono. Yr oedd Mr. Griffith yn adnabod yr hen bregethwr yn dda, a dywedai fod y darlun yn wir ddelw ohono. Yr oedd yn meddwl llawer o'r darlun, ac ni flinai yn edrych arno, ac yn traethu mor dywysogaidd a mawreddog yr olwg arno ydoedd yr hen bregethwr. Awdwr y darlun oedd y gwr talentog hwnw, Hugh Hughes (Cristion), mab yn nghyfraith y Parch. David Charles, Caerfyrddin,—a llenor o gryn fri yn ei amser. Digwyddai Mr. Hughes fod yn aros yn hen gartref Mrs. Griffith, yn Nghaernarfon, a chan fod y teulu yn arfer lletya pregethwyr, daeth Robert Dafydd yno yn ei dro. Gwelai Mr. Hughes rywbeth mor nodedig yn ffurf wyneb ac yn holl agweddiad Robert Dafydd fel y bu raid iddo eistedd am ei ddarlun, yr hyn a wnaeth, er yn lled anfoddog. Ac y mae y darlun fel y cyfeiriwyd yn—aros hyd heddyw yn nheulu Mr. Griffith. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1814, tuag ugain mlynedd cyn marwolaeth Robert Dafydd. Dyma y darlun sydd yn nechreu y llyfr hwn.
Treuliodd ei oes faith i'r pen cyn i ddirwest wawrio ar Gymru. Ryw flwyddyn neu ddwy ar ol ei farwolaeth y dechreuodd y gymdeithas ddaionus hono yn ein gwlad. Yr ydoedd felly yn byw mewn adeg pan nad oedd yfed y diodydd meddwol yn cael edrych arno mewn un modd yn amharchus. Ni waherddid hwy i bregethwyr cyn esgyn i'r pwlpud, nac wedi disgyn ohono. Ac felly yr oedd y tô hwnw o bregethwyr yr oedd Robert Dafydd yn perthyn iddo yn rhai oedd wedi ymarfer â'r diodydd hyn. Yr oeddynt yn gyffredin yn wŷr corphol, pwyntus, a golwg raenus arnynt. A pherthyn i'r dosbarth yma yr oedd Robert Dafydd. Ni wyddai beth oedd ymatal oddiwrth y diodydd hyn er mwyn cydwybod, nac er mwyn y brawd gwan. Ond gadawai i natur gael ei ffordd, ac yn fynych yfai yn lled helaeth, er nad i ormodedd. Trwy ei fod yn ddyn cryf yfai yn fynych ddigon i feddwi rhai gweiniaid, a heb i hyny fènu dim arno ef. Daeth cwyn ato unwaith fod brawd yn eglwys Brynengan wedi meddwi. Pan darawodd arno yn ffair Fourcrosses, galwodd ef o'r neilldu i ystafell neillduedig mewn tafarndy, er mwyn ei geryddu. Wedi eistedd i lawr galwasant am lasiad o gwrw bob un. fel yr oedd yr ymddiddan yn myn'd yn mlaen, galwai y ddau am ychwaneg. Ond cyn hir gwelai Robert Dafydd fod y ddiod yn effeithio ar ei gyfaill, a bod ei lygaid yn dechreu llonyddu, pan nad oedd un argoel o hyny arno ef, ac meddai wrtho: "Yr hen g[i]âth, ai hyna ddali di?" Swniai efe yr c a'r g fel pobl Sir Feirionydd, gan mai un oddiyno ydoedd o'i ddechreuad.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1747, mewn lle o'r enw Cwmbychan, yn ardal Nantmor, ger Beddgelert, rhwng Pont Aberglaslyn a chapel Peniel. Enw ei dad oedd Dafydd Prichard, gwehydd, yr hwn a fu farw pan nad oedd efe ond plentyn blwydd oed. Bu gyda'i fam nes yr oedd tua 12 neu 13 oed; ar ol hyny aeth at ewythr iddo frawd ei dad. Ac yn gwasanaethu gyda'i ewythr y bu, hyd nes y bu raid iddo ymadael, gan y gwrthwynebiad a deimlid at ei grefydd. Ni chafodd ddim manteision crefyddol yn ei ieuenctid. Nid oedd pregethu yr Efengyl yn yr holl fro. Nid oedd llan y plwyf, Beddgelert, yn mhell oddiwrtho; ond nid oedd hyfrydlais yr Efengyl byth yn seinio ynddi. Tyfodd i fyny yn hollol dywyll am bethau crefydd, ac yn hollol anystyriol am ei fater tragwyddol. Ymroddai i chwareuon a champau ofer a llygredig ei oes, ac ni cheisiai neb ei atal na'i hyfforddi mewn pethau gwell.
Pan oedd tuag 21 mlwydd oed, daeth gradd o gyfnewidiad ar ei feddwl mewn perthynas i grefydd. Yr un a fu yn foddion yr ysgogiad hwn oedd Sion Robert Lewis, yr Hen Almanaciwr o Gaergybi, yr hwn a fu am dymor o'i fywyd yn pregethu gyda'r Methodistiaid, er nad oedd felly i'w ddiwedd. Trwy bregeth y gwr hwnw, daeth i ddechreu meddwl fod rhyw wahaniaeth rhyngddo a'r anifail a ddifethir, a bod ganddo achos rhyngddo â Duw fel creadur cyfrifol. Tua'r un adeg daeth Robert Jones, Rhoslan, i gadw un o ysgolion Madam Bevan i Feddgelert. Parhad oedd yr ysgolion hyn o ysgolion yr enwog Barchedig Griffith Jones, Llanddowror. Yr oedd y gwr mawr hwnw wedi darparu Catecism helaeth iawn ar holl athrawiaethau crefydd, yr hwn oedd i gael ei holi bob dydd yn ei holl ysgolion gan yr athrawon. Gwnai Robert Jones hyn, gellid meddwl, gydag arddeliad. Clywodd Robert Dafydd am yr holwyddori, a chododd awydd ynddo i fyned i wrando, er mwyn deall a chofio rhywbeth am y cyfryw bethau. Newydd a dieithr oedd egwyddorion cyntaf crefydd iddo, a difyr oedd ganddo glywed Robert Jones yn holi o'r Catecism yn ei ddull hapus a buddiol ei hun. Ond cyn hir daeth y pethau yn rhywbeth mwy na difyrwch iddo. Daeth i ddeall fod a wnelai y gwirioneddau a glywai âg ef ei hun. Bu hyn yn foddion i'w ddwyn i weled graddau o'i bechaduruswydd a'i berygl, ac i'w argyhoeddi o'i sefyllfa euog a pheryglus. Daeth i deimlo trwy brofiad beth oedd trallod ac ing enaid. "Gofidiau uffern a'i daliasant; ing a blinder a gafodd." Yr oedd trallod ei feddwl yn fawr iawn Dymunai fod yn gythraul yn lle bod yn ddyn, gan dybied y buasai ei boenau yn uffern yn llai. Daeth cyfnewidiad amlwg yn ei wedd, yn ei eiriau, ac yn ei holl ymddygiadau. Pan welodd hen wragedd yr ardal y cyfnewidiad oedd arno, a'i fod yn troi ei gefn ar ei hen gampau a'i hen gyfeillion, aethant i regi Robert Jones am yru Robert Dafydd o'i gôf. Ond diwedd y gofidiau, y trallod, a'r ing, fu iddo ffoi at Grist am ei fywyd, ac ymgysegru iddo o hyny allan.
Yr oedd ei awydd bellach i wrando yr Efengyl yn ddifesur. Nid oedd eto ddim pregethu gan y Methodistiaid yn Meddgelert, a rhaid oedd i'r neb a fynai wrando fyned i ardaloedd ereill i gael hyny. Ond nid esgeulusai efe yr un odfa a fyddai yn ei gyrhaedd; a rhaid oedd iddo gerdded yn mhell yn fynych, gan mor ychydig o bregethu oedd yn agos i'w gartref. Nid oedd nemawr o bregethu cyson yn nes iddo na'r Waenfawr ar y naill law, neu Frynengan ar y llaw arall. Ac i'r lle olaf yr arferai fyned gan amlaf, am fod yr eglwys yno yn fwy blodeuog, a'i manteision crefyddol yn lliosocach mae yn debyg. Yr oedd y ffordd i Frynengan yn mhellach, a'r llwybr y pryd hwnw yn fwy garw ac anhygyrch, gan ei fod yn arwain dros y mynyddoedd. Yr oedd ganddo o ddeuddeg i bymtheng milldir o ffordd arw i fyned i Frynengan. Llawer a wrandawodd ar hen bregethwyr Lleyn yno, sef Hugh Thomas, "yr hen ddyrnwr," Griffith Prichard, Siarl Marc—yr hwn a fu y gwr pwysicaf mewn cysylltiad â Methodistiaeth sir Gaernarfon am lawer blwyddyn, —Robert Williams, Drewen, ac ereill. Tra y bu Robert Jones, Rhoslan, yn cadw ysgol yn Meddgelert, bu o fantais fawr i Robert Dafydd i gael gwybod pa le i gael clywed yr Efengyl. Os digwyddai fod rhywun i bregethu yn rhywle o fewn cyrhaedd, fe fyddai hyny yn hysbys mae yn bur sier i Robert Jones, ac arferai yntau hysbysu i Robert Dafydd, trwy anfon cenadwri ar bapyr iddo. Ai Robert Dafydd gan hyny i wrando, yn mhell ac yn agos. Yr oedd ganddo gyfaill y pryd hwnw o'r enw Owen Thomas. Byddai y ddau yn myned gyda'u gilydd i Frynengan i wrando, a dychwelent ar hyd y llwybr anhygyrch, ar hyd y nos. Ond yr oedd hyny yn fwy nag a allai ei ewythr a'i deulu ei oddef, a bu raid iddo ymadael oddiwrthynt. Mewn canlyniad i hyny fe aeth i ardal Brynengan i fyw, ac yno y bu o hyny allan; ac aeth Owen Thomas hefyd i Foni aros. Ryw bryd tua'r adeg yma, pan yr oedd trallod ei feddwl yn parhau, a'r ymosodiad arno oddiallan yn fawr, y gwelodd y nefoedd yn dda ddryllio ei lyffetheiriau a chwalu ei ofnau. Y gŵr a ddefnyddiwyd yn foddion i hyn oedd y pregethwr nerthol hwnw, Dafydd Morris, Lledrod, Sir Aberteifi. Testyn y gŵr enwog oedd y gair hwnw, "Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch am dano ef," &c. Gollyngwyd ei enaid yn rhydd trwy yr odfa hon, a rhoddwyd yn ei "enau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni." Mae yn bur debyg i hyn gymeryd lle yn y flwyddyn 1771. Bu Dafydd Morris ar daith yn sir Gaernarfon yn y flwyddyn hono, a phregethodd ar y daith hono yn Mrynengan ac yn Mrynygadfa, lle arall heb fod yn mhell o Frynengan yn nghyfeiriad Llanaelhaiarn. Yn Mrynengan y treuliodd Robert Dafydd y gweddill o'i oes, yr hyn oedd oddeutu tair blynedd a thriugain. Bu yn dyst o lawer o bethau rhyfedd yn y llanerch gysegredig hon, yn ystod y tymhor hirfaith hwnw. Clywodd enwogion penaf Cymru yn pregethu yno,—megis Daniel Rowland; Williams, Pantycelyn; Peter Williams; Jones, Llangan; Mr. Charles, y Bala; Robert Roberts, Clynog; Dafydd ac Ebenezer Morris; John Jones, Edeyrn; John Elias; Henry Rees; John Jones, Talsarn; a lliaws mawr o enwogion ereill. Bu yn yr un eglwys yma am dymor gyda rhai o ddynion goreu Cymru. Bu yma gyda'r seraff tanllyd hwnw, Robert Roberts, Clynnog, am tua phymtheng mlynedd. Efallai iddo sylwi ar y llencyn difrifol, John Elias, yr hwn a ddeuai yma yn fynych, ac a yfai ei ysbrydoliaeth o awyrgylch grefyddol y lle. Yr oedd yma cyn geni Richard Jones, y Wern, a gwelodd ef yn tyfu nes myned yn gedrwydden gref, a llawenychai yn ei gynydd. Yr oedd yn gyfaill mawr iddo. Bu yma am dymor gyda Robert Jones, Rhoslan; John Pierce, Llanidloes; John Roberts, Llangwm; Evan Richardson, Caernarfon; Moses Jones, a rhai pregethwyr ereill. Gwelodd Dewi Wyn yn gwrando yn y lle lawer gwaith. Digon tebyg mai efe a dderbyniodd Pedr Fardd yn aelod eglwysig, ac yn ddiweddarach na hyny, Nicander, a John Owen, Ty'nllwyn. O na buasai ryw binysgrifenydd buan wedi ysgrifenu ei adgofion i lawr. Buasent yn werth eu hargraffu gyda llythrenau o aur.
PENNOD II.
BRYNENGAN: ARDAL AC EGLWYS FABWYSIEDIG ROBERT DAFYDD.
Nid plwyf ydyw.—Mynydd y Cenin.—Hynafiaethau yr ardal.—Cytiau'r Gwyddelod."—Mynachdy-gwyn a Mynachdy-du.—Hen arch hynod.—Cysylltiad y Puritaniaid a'r Anghydffurwyr â'r ardal. -"Anerchiad trigolion sir Gaernarfon at Richard Cromwell."—Pwy lawnododd yr anerchiad?—John Jones, y gŵr a roddodd brydles y capel.—Yr anhawsder i'w chael.—Enwau yr ymddiriedolwyr cyntaf
FEL y cyfeiriwyd yn y bennod o'r blaen, blinderau teuluaidd o achos ei grefydd a barodd i Robert Dafydd ymadael â'i ardal enedigol. A hyny, yn nghyda'r breintiau crefyddol oedd i'w cael yn ardal Brynengan, a barodd iddo ymsefydlu yn y lle diweddaf. Ac nis gallasai gael ardal fwy cydnaws a'i ysbryd yn yr holl wlad. A chredwn nad annyddorol fydd gan y darllenydd gael rhyw gymaint o hanes yr ardal a'r eglwys ddyddorol hon.
Nid enw ar blwyf na phentref ydyw Brynengan. Nid oes dŷ o fewn nemawr lai na haner milldir i'r capel, oddigerth amaethdy Brynengan. Ac oddiwrth yr amaethdy y cafodd y capel ei enw; ac oddiwrth y capel y cafodd yr ardal ei henw. Saif y capel yn mhlwyf Llangybi; ond y mae y gwrandawyr yn dyfod iddo o chwech o blwyfi, sef o Langybi, Llanarmon, Llanystumdwy, Llanfihangel-yPennant, Clynnog, a Llanaelhaiarn. Saif wrth odre mynydd y Cenin, yr hwn sydd ar y tu gogleddol iddo. Nid yw yn hawdd gwybod paham y galwyd y mynydd wrth yr enw hwnw. Efallai iddo gael ei alw felly am mai dyma lysieuyn nodweddiadol y Cymry; neu am fod y llysieuyn hwnw

(O ddarlun gan Edward Williams, Swyddfa'r "Genedl.")
yn tyfu arno mewn cyflawnder ar ryw adeg. Neu, efallai, iddo gael ei alw felly oddiwrth rhyw berson o'r enw Cynan. Neu, hwyrach, iddo gael ei enw oddiwrth y gair "cen," yr hwn sydd o'r un ystyr a'r gair "pen." Gwelir hyny yn y gair "talcen." A mynych y gelwir mynyddoedd wrth yr enw hwn; oblegid y tebygrwydd, mae yn debyg, sydd yn ffurf y naill a'r llall. Ac, efallai, fod yr olddod in yn Cenin yn fath o fychanigyn (diminutive) i ddangos mynydd bychan (gan mai mynydd bychan yw mynydd y Cenin); yn debyg i fel y mae y gair "cynyn" yn cael ei ddefnyddio am gi bychan. Mae arwyddion arno ei fod yn cael ei breswylio er amseroedd boreuol iawn; oblegid y mae ol trin ac amaethu arno i'w ben uchaf. Ar un ochr iddo y mae olion "Cytiau'r Gwyddelod," y rhai sydd o darddiad boreuol iawn. Myn rhai fod y "Cytiau hyn o darddiad mor foreu ag amser y Rhufeiniaid. Byddai y Rhufeiniaid yn trin y tir, meddir, ac yn cario y cynyrch mewn llongau i'w gwlad eu hunain. A defnyddid y "Cytiau" hyn, meddir, yn fath o ystordai i gadwyr yd. A thybir fod ffordd Rufeinig yn myned dros un cwr iddo.[1]
Mae amaethdai yn yr ardal yn dwyn yr enwau, Mynachdy-gwyn a Mynachdy-bach, neu fel y gelwid yr olaf gynt, Mynachdy-du. Saif y cyntaf yn mhlwyf Clynnog; a diameu fod y lle unwaith wedi bod yn gartref lliaws o fynachod, o urdd y mynachod gwynion. A digon tebyg fod y sefydliad yn dal cysylltiad â hen eglwys fawreddog Clynnog. Gerllaw iddo y mae maes a elwir Manerch-Maneirch. Arwydda hyn fod mynwent wedi bod gerllaw y lle ar ryw adeg. Yr oedd ty hefyd ar y tir hyd yn bur ddiweddar, a elwid Maes-mriog neu friog, yr hwn air sydd o darddiad eglwysig neu fynachaidd. Saif Mynachdy-bach yn mhlwyf Llangybi; a bu yma hefyd fynachlog ar ryw adeg, mae yn bur bosibl, ac yn dal cysylltiad âg eglwys Llangybi, ac o urdd y mynachod duon. Mae maes gerllaw y ty hwn hefyd a elwir hyd heddyw yn "Cae y fynwent." Yr oedd y sefydliadau hyn yn aros hyd adeg y Diwygiad Protestanaidd, mae yn bur debyg, yr hwn a sefydlwyd yn Lloegr yn y flwyddyn 1537. Dinystriwyd yr holl fynachlogydd y pryd hwnw, trwy orchymyn y brenin Harri yr Wythfed, a digon tebyg fod y mynachdai hyn yn aros hyd yr adeg hon, ac iddynt gael eu dinystrio yn adeg y dinystr cyffredinol.
Yn y flwyddyn 1893, doed o hyd i rywbeth tebyg i arch ar dir Ynyscreua, yn yr ardal hon. Caed ef wrth agor ffos ddofn mewn mawnog, ac yr oedd yn ddwfniawn yn y ddaear. Ni allesid myned ato, gan mor wlyb oedd y lle, ond ar dywydd sych iawn, fel yr oedd y flwyddyn hono. Nid oedd caead arno, ac felly nis gellir gwybod yn sicr pa beth oedd ei gynwys ar y dechreu. Yr oedd llawer o goed llosgedig o'i gwmpas yn mhob cyfeiriad. Y mae o wneuthuriad cadarn iawn, o dair i bedair modfedd o drwch mewn rhai manau. Ei hyd ydyw oddeutu pedair troedfedd a haner, ei led oddeutu dwy droedfedd a haner, a'i ddyfnder oddeutu dwy droedfedd. Tybir mai math o arch ydyw, ac yn cynwys gweddillion corph dynol llosgedig.[2] Caed rhai tebyg iddo mewn manau ereill yn y wlad; a thybir ei fod mor hen a'r canrifoedd cyntaf. Clywsom oddiar awdurdod pur uchel ei fod o darddiad Rhufeinig, oblegid byddai y Rhufeiniaid yn cafnio gwaelod eu heirch, ac y mae gwaelod y gisten (box) hon felly. Bernir fod olion hen ffordd yn croesi y fawnog gerllaw y lle y caed ef.
Mae yn bur amlwg fod cydymdeimlad â'r Anghydffurfwyr yn yr ardaloedd hyn er yn foreu iawn, mor foreu ymron ag amser y Puritaniaid. Yroedd un o hynafiaid teulu Brynengan yn Uchel Sirydd sir Gaernarfon yn y flwyddyn 1648. Ei enw oedd William Lloyd. Yr oedd y "Rhyfel Cartrefol" newydd fyned heibio, a phlaid Cromwell a'r Senedd wedi gorchfygu y brenin Siarl y Cyntaf. Ond yn y flwyddyn hon yr oedd amryw mewn gwahanol fanau wedi codi byddinoedd i wrthwynebu Cromwell drachefn. Yn mysg ereill yr oedd Syr John Owen, Clenenau, ac amryw o brif foneddigion sir Gaernarfon wedi gwneyd hyn. Yr oedd yr Uchel Sirydd gyda byddin yn aros yn nhref Caernarfon, pan warchaewyd ar y lle gan Syr John Owen a'i fyddin. Aeth William Lloyd a'i fyddin allan o'r dref i ymladd â byddin Syr John Owen yn y maes agored. Y canlyniad a fu i fyddin Syr John Owen orchfygu y fyddin arall. Archollwyd William Lloyd a daliwyd ef. Gosodwyd ef ar farch i ganlyn y fyddin am amser hir, yn archolledig ac yn ei waed; ac ar ol hyny ar elor-feirch. Y canlyniad a fu iddo farw yn fuan, pan hwyrach pe cawsai ymgeledd briodol y gallasai wella o'i archollion.
Pan fu farw Oliver Cromwell yn y flwyddyn 1658, anfonwyd "Anerchiad gan drigolion sir Gaernarfon" at Richard Cromwell. Fel hyn y mae yr anerchiad:
"Anerchiad gostyngedig Ustusiaid heddwch, boneddigion, gweinidogion, ac ereill, deiliaid ufudd a chywir eich uchelder, trigolion sir Gaernarfon, yn gosod allan nas gall goruchwyliaeth bresenol Rhagluniaeth ddwyfol, gyda golwg ar farwolaeth ei ddiweddar uchelder, ac yn trefnu eich uchelder breiniol fel ei olynydd yn llywodraethiad y cenedloedd hyn, lai na chynyrchu ynom wahanol ystyriaethau, o farn ar un llaw, yn gystal ag o drugaredd ar y llaw arall; ac am hyny, heblaw ein herfyniadau at Drefnau Ollddoeth y rhagluniaethau hyn ar iddynt beri cynydd cyfaddas ar ei ogoniant, a lles y genedl, yr ydym yn gwneyd yn hyf, trwy yr anerchiad yma o'r eiddom, i amlygu ein cydnabyddiaeth o'ch uchelder yn y llywodraeth hono, o dan ba un, fel yr oedd ei heisteddiad yn eich tad, o ddedwydd goffadwriaeth, yr oedd barn yn rhedeg fel dwfr, a chyfiawnder fel ffrwd nerthol; duwioldeb yn cael ei feithrin, a gelynion gwirionedd a heddwch yn cael eu hanghefnogi, a'r cenhedloedd hyn wedi eu gwneyd yn drigfanau uniondeb, ac yn fynydd o sancteiddrwydd. Achan ein bod yn cael fod Duw y nefoedd yn llaw yr hwn y mae calonau tywysogion) wedi gwisgo eich huchelder ag ysbryd, trwy ba un y mae wedi eich cyfaddasu i drin materion pwysig y cenhedloedd hyn, a rheoli y bobl fawr yma, yr ydym yn edrych arnom ein hunain fel o dan rwymau i erfyn ar yr Arglwydd, ar fod iddo lwyddo eich cynghorau, a'ch ymgymeriadau uchel gyda golwg ar grefydd ddiwygiedig oddicartref, a diwygiad gartref. Erfyniwn hefyd ar eich uchelder, gan ddilyn camrau eich tad, ar fod i chwi fyned ymlaen fel y dechreuodd efe, ac ateb disgwyliadau mawrion y genedl, trwy lethu heresi, coelgrefydd, halogrwydd, ac anghyfiawnder, a chefnogi y dwyfol ordeiniadau o ynadaeth a gweinidog. aeth; mewn bod yn dad i'r rhai a ofnant yr Arglwydd, ac mewn gwneyd eich person a'ch llywodraeth yn arswydus yn nghalonau eich holl bobl, trwy eich ymddangosiad fel amddiffynwr i'r dwyfol wirioneddau hyny a dueddant i ddyrchafu Crist, ac i gadw y cenhedloedd hyn mewn heddwch. Ac ar fod i'ch uchelder fyned ymlaen yn ddedwydd yn y pethau hyn y bydd i chwi gael gweddiau gwasanaethwyr ffyddlonaf eich uchelder."
Y mae yr anerchiad hwn wedi ei law-nodi gan Thomas Madryn, John Jones (gweinidog), Ellis Rowlands, Robert Jones, (gweinidog), David ap Robert; Evan Lloyd, Griffith Jones, Robert Owen, Hugh Gwynne, Richard Glynne, Owen Hughes, William Owen, Henry Glynne, Owen Robert, William Richard, David Evans, Thomas Owen, William Lloyd.
Bu yr ysgrifenydd yn cael pleser iddo ei hun wrth ddyfalu pwy allai y gwroniaid hyn fod. Thomas Madryn oedd un o hynafiaid y diweddar Syr Love Jones-Parry, ac a fu yn aelod Seneddol yn amser Oliver Cromwell. Credwn yn sicr am y tri nesaf mai hwy oedd y tri gŵr eglwysig a ddaeth adref i sir Gaernarfon o Brifysgol Rhydychain ychydig flynyddoedd cyn hyny. Dywedir am y tri wŷr hyn iddynt fod[3] "yn Rhydychain, a chael eu dwyn yno i wybodaeth y gwirionedd, ac ar ol dychwelyd adref, eu bod yn pregethu yr efengyl yn ei disgleirdeb." Credwn mai yr un oedd John Jones a'r John Williams a sefydlodd eglwys Ymneillduol yn Mhwllheli, a'i fod yn cymeryd ei gyfenw weithiau oddiwrth enw cyntaf ei dad, a phryd arall oddiwrth ei gyfenw. Bu raid i Ellis Rowlands ffoi yn fuan ar ol hyn isir Gaer, ac yno y bu farw tua'r flwyddyn 1683. Robert Jones oedd weinidog plwyf Llandwrog. A dywedir fod offeiriad y plwyf hwnw[4] "yn dyrchafu ei lais fel udgorn, a'u bod yn ei glywed dros chwarter milldir o ffordd." Credwn yn bur gryf mai y Robert Jones uchod oedd y gwr hwn. Credwn mai rhai o deulu Plas hen oedd Evan a William Lloyd. Mae yn bur debyg mai [5]Griffith Jones, Brynengan, oedd y Griffith Jones uchod. Yr oedd mabi G. Jones, o'r enw William Griffith, wedi priodi merch i W. Lloyd, yr Uchel Sirydd uchod. Yr oedd un o'r enw Owen Hughes yn byw yn Nhrefan, ger Llanystumdwy, yr adeg hon. A beth oedd yn fwy naturiol nag iddo ymuno â'i gymydogion i anfon yr "Anerchiad" uchod? "Hugh Gwynne" oedd o Benarth-fawr, ac un arall o hynafiaid y "gwron o Fadryn." Richard a Henry Glynne, ni a gredwn, oedd o deulu Lleuar ac Elernion. Daethant yn bleidiol i Cromwell trwy i un o brif gadfridogion ei fyddin, yr enwog Filwriad George Twistleton, briodi Mary, aeres William Glynne o Leuar. Tybiwn fod William Robert a Thomas Owen o deulu Cefnisa, a bod David Evans yn un o Evansiaid y Berthddu.[6] Cymered y darllenydd y dyfaliadau uchod am yr hyn ydynt o werth; ond cred yr ysgrifenydd fod seiliau cedyrn iddynt, a rhesymau cryfion drostynt.. Yr oedd Brynengan yn sefyll yn agos i ganol cartrefi y gwŷr enwog uchod. Ac nid damwain, ni agredwn, oedd i Frynengan, yn mhen oesoedd i ddyfod, ddyfod yn ganolbwynt dylanwadau Methodistaidd. Credwn fod marwor a thân y Puritaniaid a'r Anghydffurfwyr wedi ei gadw yn fyw ar allorau eglwysi Pwllheli a Chapel Helyg, ac i Howell Harris ddyfod heibio fel corwynt a'i chwythu yn wenfflam. Agwreichion o'r marwor hwnw a ddisgynodd yn ardal Brynengan.
Fel y cyfeirir yn mlaen, adeiladwyd y capel ar dir amaethdy Brynengan. Ac y mae y teulu sydd yn byw yno yn awr yn berthynasau i'r gwr a roddodd y tir ar y cyntaf ar brydles. Ar ddechreuad Methodistiaeth yr oedd yn anmhosibl cael tir i adeiladu capelau ar dir prif foneddigion y wlad. Ac felly y mae holl gapelau cyntaf y Methodistiaid wedi eu hadeiladu ar dir tir-feddianwyr bychain. Ac yr oedd yn rhaid adeiladu y capel yn rhywle lle y ceid tir, er iddo fod mewn lle anghyfleus iawn, ac felly Brynengan, nid oedd neb yn yr holl wlad yn barod i roddi tir ond y teulu caredig oedd yn berchen ar amaethdy Brynengan. Nid oedd y teulu oedd yn berchenogion ar y lle yn byw yno ar y pryd y rhoed y brydles gyntaf. Yr oeddynt newydd symud oddiyno i Lleyn. Rhoed y brydles yn y flwyddyn 1772, ac enw y gwr a'i rhoddodd oedd John Jones. Nid oedd efe ei hun yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid, ond yr oedd yn teimlo yn garedig iawn atynt. Cafodd gryn wrthwynebiad oddiwrth ei briod i roddi y brydles, oblegid yr oedd yn perthyn i deulu lled erledigaethus. Dywedir fod ei thad, Morgan Hughes, yn gryn erlidiwr. Bu yn rhaid i John Jones arfer tipyn o ddichell mewn trefn i roddi y brydles. Addawodd gyfarfod a rhai o gyfeillion Brynengan yn mhentref y Sarn ar ryw ddiwrnod penodol i'r amcan hwnw. Y diwrnod a ddaeth, ac yr oedd yntau yn hwylio i fyned i'r Sarn yn ol ei addewid, pan y gofynodd ei briod iddo i ba le yr oedd yn myned, "Yr wyf yn myned i'r Sarn i edrych beth yw prisiau y moch," meddai yntau. Ac felly y caed lle i adeiladu y capel cyntaf i'r Methodistiaid yn Eifionydd. Nid dibwys, yn ddiau, fydd gan y darllenydd gael enwau ymddiriedolwyr cyntaf y capel. Dyma hwy:— Robert Jones, Rhoslan; John Pierce, Richard Hughes, Brynbogelydd, Brynengan; William Davies, Llanllyfni (y rhai oeddynt bregethwyr); William Ellis, Garn; John Richard, o blwyf Llanystumdwy; a Thomas Prichard, Tyddyn-uchaf. Y tystion oeddynt Robert Dafydd, a John Morris, Brynengan.
PENNOD III.
BRYNENGAN: EI ARDAL A'I EGLWYS FABWYSIEDIG.
(Parhad.)
Brynengan yn Jerusalem Eifionydd a sir Gaernarfon.—Safle ddaearyddol y lle.—Lleoedd hynod yn yr ardal.—Darlun o'r capel.
YN Methodistiaeth Cymru yr ydym yn cael y cyfeiriad canlynol yn cael ei wneyd at Frynengan, gan awdwr y gwaith hwnw ei hun:—"Yr oedd Brynengan yn orsaf sefydlog gan y Methodistiaid pan oedd Penrhyndeudraeth yn ei fabandod, er fod y Penrhyn yn un o'r lleoedd hynaf yng Ngwynedd. Yr oedd yn eglwys fawr liosog—ystyrid hi yn Jerusalem Eifionydd; yr oedd ynddi amryw o bregethwyr buddiol a llafurus, a diaconiaid effro ac ysbrydol." "Y dystiolaeth hon sydd wir." Ac yn wir, credwn y gallasai awdwr Methodistiaeth Cymru ymhelaethu a dweyd mai Brynengan oedd Jerusalem sir Gaernarfon, a rhanau helaeth o sir Feirionydd. Yr oedd felly mewn mwy nag un ystyr. Yr oedd felly mewn hynafiaeth. Yr oedd yma eglwys beth bynag yn y flwyddyn 1755, pa faint bynag cyn hyny; oblegid yn y flwyddyn hono cawn fod Lowry Williams yn symud o Bandŷ Chwilog i Bandŷ y ddwyryd, yn sir Feirionydd, yr hon oedd yn aelod yn Mrynengan. Yr oedd felly hefyd mewn lliosogrwydd. Bu am lawer o flynyddoedd yr eglwys liosocaf yn sir Gaernarfon. Yn hanes y Gymdeithasfa a gynhaliwyd yn Llanllyfni, Hydref 5ed, 1780, cawn fod casgliad Brynengan at ddiddyledu y capelau yn fwy na chasgliad yr un eglwys arall yn y sir. Ac yr oedd y casgliad hwnw yn ddangosiad o nifer pob eglwys; oblegid yr oedd i fod yn ddimai ar gyfer pob aelod yn yr eglwys. Yr oedd ei chasgliad hi yn £1 5s 5c., tra nad oedd yr un arall wedi cyrhaedd punt, ond yn unig, Tirbach, Rhoslan, lle nad oes yr un eglwys yn perthyn i'r Methodistiaid er's dros gan' mlynedd. Ac nid oedd ond tair o eglwysi yn Ngogledd Cymru yn fwy eu casgliadau na hi, ac felly yn lliosocach mewn nifer, sef y Bala, Bontuchel, a Llansannan. Mor ddiweddar a'r flwyddyn 1799, nid oedd ond dwy o eglwysi yn holl sir Gaernarfon yn sefyll yn uwch na hi yn eu casgliadau at y Gymdeithas Genhadol, sef eglwysi Caernarfon a Phwllheli. Ac nid oedd casgliad Caernarfon yn fwy ond yn unig o haner coron, tra nad oedd Pwllheli yn fwy ond o swllt. Yr oedd Brynengan wedi casglu £10 15s. Priodol y gelwir hi yn Jerusalem hefyd oblegid y cyrchu fyddai yma o belldermawr i addoli, fel i Jerusalem gynt. Cynhaliwyd Cymdeithasfa sir Gaernarfon yma am y flwyddyn 1779. A gallesid meddwl oddiwrth yr hanes a roddir am dani gan Michael Roberts, ei bod yn fwy poblogaidd na chyffredin yn y blynyddoedd hyny. Fel hyn y rhoddir yr hanes ganddo ef: "Yn mis Medi, 1779, cynhelid Cymdeithasfa Gwynedd yn Bryneinion, ac yr oedd yno ar ddydd yr uchel—wyl gapelaid llawn, ac yn agos i lonaid y cyntedd o ddynolryw yr hyn ydoedd achos o sôn a syndod." Byddai yma gyrchu mawr hefyd cyn y "Neillduad," i gyfranogi o'r ordinhad o Swper yr Arglwydd; oblegid byddai y casgliad ar ddiwedd yr ordinhâd yn cyrhaedd weithiau dros ugain punt, pan fyddai rhywun o enwogrwydd mawr yn cyfranu, megis Jones, Llangan, neu Mr. Charles. A mynych, meddir, y byddai gini pen rhaw i'w gweled yn y casgliad. Bu yn unig eglwys Fethodistaidd yn holl Eifionydd am dymor. Ac nid yn unig hyny, ond yr oedd ei haelodau yn wasgaredig dros ranau helaeth o Arfon a sir Feirionydd. Cyrchent yma i'r cyfarfod eglwysig o ddeunaw ac ugain milldir o ffordd: o Landdeiniolen,[7] Llandwrog, a Chaernarfon, o un cyfeiriad; o Feddgelert a Nantmor o gyfeiriad arall; ac o Faentwrog a'r Penrhyndeudraeth o gyfeiriad arall. Wedi i Lowry Williams symud, fel y crybwyllwyd, i ardal Maentwrog, yr eglwys agosaf iddi er hyny oedd Brynengan; ac yma y deuai am ryw gymaint o amser, er fod ganddi tua deunaw milldir o ffordd.
Priodol iawn y gelwir yr eglwys hon yn Jerusalem hefyd, am mai oddiwrthi hi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn unig yn Eifionydd ac Arfon, ond hefyd yn mhob man yn Ngorllewin Meirionydd. "Y gyfraith a ä allan o Sïon, a gair yr Arglwydd o Jerusalem." O Frynengan yr aeth Evan Richardson i Gaernarfon, yr hwn a fu yn fywyd o feirw i'r achos Methodistaidd yn Arfon. "Llin yn mygu" oedd Methodistiaeth Arfon cyn hyny. Y fath oedd yr ysbryd cenhadol oedd yn yr eglwys, hon, fel pan ddaeth dau frawd o Gaernarfon yma i geisio gan Evan Richardson fyned yno i aros, ac y dangosai yntau anmharodrwydd i fyned, "oblegid," meddai, "os deuaf acw, y bobl a'm lladdant," pan y cododd hen chwaer o'r enw Sian i fyny yn yr eglwys, gan ddywedyd gyda brwdfrydedd mawr, " Y mae yn rhaid i ti fyned, Evan bach—ni wneir niwed i flewyn o dy ben; am hyny, dos gyda hwy." Dwy wraig, aelodau yn eglwys Brynengan, a gychwynodd Fethodistiaeth yn Ngorllewin Meirionydd. Mynediad Lowry Williams o Bandŷ Chwilog i Bandŷ y ddwyryd, yn y flwyddyn 1755, fel y cyfeiriwyd o'r blaen, fu yn foddion i roddi cychwyniad i grefydd bur yn ardaloedd Maentwrog, Ffestiniog, Trawsfynydd, a'r Penrhyndeudraeth. A'r un modd mynediad Jane Griffith, Erwbach, Dolbenmaen, i Ddolgellau, i gadw ysgol yn y flwyddyn 1766, a roddodd gychwyniad effeithiol i Fethodistiaeth yn y wlad hono, ac a fu yn foddion i sefydlu amryw o eglwysi yn yr ardaloedd hyny. Mae darllen hanes llafur, sêl, hunanymwadiad, a brwdfrydedd y ddwy chwaer yma yn y lleoedd hyn, yn ddigon i doddi y teimlad mwyaf caled, yn enwedig pan yr ystyriom yr erledigaeth danllyd oedd arnynt. Ac y mae hyn yn dweyd rhywbeth yn ddiameu am yr eglwys y daethant ohoni. Nid rhyfedd fod cymaint o son am hen grefyddwyr Brynengan os oeddynt o'r un ysbryd â'r ddwy chwaer yma, fel y mae yn ddiau eu bod. A chredwn mai o ardal Dolgellau yr aeth Methodistiaeth i "Ddosbarth y ddwy afon," fel ei gelwir. Mae hyn yn dangos fod Methodistiaeth yn holl gylch Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd yn ddyledus am ei gychwyniad i'r ddwy chwaer hyn, a chymeryd golwg ddynol ar bethau, a'r ddwy yn aelodau yn Mrynengan. Cofied Arfon liosog a Gorllewin Meirionydd flodeuog eu rhwymau i Frynengan fechan a syml. Credwn fod yr uchod yn ddigon o reswm dros alw sylw y darllenydd at hanes y lle hwn.
Cyn myned yn mhellach, hwyrach y dylem egluro pa le y mae Brynengan yn sefyll. Digon tebyg fod y rhan fwyaf o'n darllenwyr na wyddant yn y byd pa le y mae, er iddynt glywed rhywbeth am dano. Mynych hefyd y cymysgir Brynengan a Llanengan â'u gilydd gan yr anghyfarwydd, ac y rhoddir y naill am y llall. Clywsom un mewn lle cyhoeddus yn dweyd fwy nag unwaith mai o Lan engan y daeth Evan Richardson i Gaernarfon. Bydded hysbys fod Llanengan yn mhellach o tuag wyth milldir yn Lleyn na Phwllheli, tra y mae Brynengan yn sefyll yn agos i linell y rheilffordd sydd yn rhedeg o Afonwen i Gaernarfon, o fewn tua dwy filldir i Brynkir Station, ar y llaw aswy wrth fyned yn y cyfeiriad hwnw. Wrth edrych o'r lle diweddaf yn nghyfeiriad y gogledd-orllewin, gwelwn fynydd lled isel, tua dwy filldir oddiwrthym. Dyna fynydd y Cenin. Ymddengys fel yn rhedeg o'r gogledd i'r dehau; ac y mae capel Brynengan yn sefyll ar y pen deheuol iddo. Fel y mae ei enw yn arwyddocau, saif y capel ar dipyn o godiad tir, yn gwynebu i gyfeiriad Porthmadog, ac y mae y rhan fwyaf o gwmwd Eifionydd i'w weled o'i ddrysau. Gwael a chorsiog yw y tir o'i ddeutu mewn amryw gyfeiriadau, ac nid yw y ffyrdd ato i'w canmol. Byddai y diweddar Barch. John Owen, gynt o Dy'nllwyn, yr hwn a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn yr ardal, yn arfer dweyd fod yr hyn oedd yn fantais i Frynengan yn y dyddiau gynt, yn y blynyddoedd diweddaf wedi troi yn anfantais iddo. Cyfeiriai at y lle fel lle neillduedig, ac felly allan o gyrhaedd erlidwyr i raddau helaeth. Dyma y fan wedi'r cwbl a fu yn fath o Jerusalem i Fethodistiaid sir Gaernarfon am lawer blwyddyn, a'r lle y cyrchai y llwythau Methodistaidd i addoli.
Mae yma braidd bob ty, a chae, a chlawdd, a llanerch, yn yr ardal, wedi eu cysegru gan adgofion am ryw un hynod mewn talent a chrefydd. Hwyrach y caniateir i ni ar y cychwyn i gymeryd rhyw gipdrem frysiog ar y manau hyn cyn dyfod yn fwy manwl at hanes yr achos yn y lle. Mae y Ilwybrau neillduedig sydd yn dyfod at y capel wedi eu sangu ganoedd o weithiau gan hen grefyddwyr gwresog yn ymddiddan am bethau ysbrydol. Mynych y cyfeiriai y diweddar Barch. Moses Jones, yn ei afiaeth wrth bregethu, at hen grefyddwyr Rhoslan yn myned at eu haner yn y corsydd, wrth gyfeirio tua chapel Brynengan. Llawer gwaith y clywyd yr awyrgylch yn adsain gan "sain cân a moliant" rhai yn dyfod o'r capel; neurai yn cynal cyfarfodydd gweddiau yn y meusydd; neu rywun â'i lestr wedi rhedeg drosodd wrth ddal cymundeb â Duw mewn rhyw gongl mewn beudy, neu yn y maes. Gwnaeth y diweddar Barch. Richard Owen gyfeiriad effeithiol at hyn unwaith, wrth bregethu mewn Cyfarfod Misol yn y lle. "Dywedir," meddai, "am Robert Roberts, Clynnog, pan y cafodd o olwg ar ei gyflwr, ei fod o'n gyffrous iawn gyda'i waith yn y caeau, ac yn gwaeddi yn anghyffredin, ac yn myned rhyngddo a'r capel yma dan waeddi, â'i ddwylaw i fyny. Ac mae'r hanes yn dweyd fod llawer o'r bechgyn hyd yr ardaloedd yma wedi eu hachub wrth glywed Robert Roberts yn gwaeddi." Yn y ty capel y bu Betti Marc yn byw, yr hen wraig hynod a fyddai yn teithio ar hyd y wlad i gynal cyfarfodydd eglwysig; ac yma y bu farw yn y flwyddyn 1801, yn 63 oed. Mewn ystafell gysylltiedig a'r ty capel y treuliodd merch foneddig o'r enw Miss James ei blynyddoedd olaf—neu fel y gelwid hi, Jenny James—yr hon a gafodd droedigaeth hynod drwy Evan Richardson. Ar ol hyny bu William Jesus yn byw yma, hen flaenor enwog iawn yn ei ddydd, yr hwn oedd yn dad i Pedr Fardd, ac yn daid i Nicander. Yr oedd yntau yn fardd medrus meddir, er nad mor enwog a'i fab a'i wŷr; oblegid dywedai ei fab am dano :
"A phrydydd hoff ei rediad
Addfwyn o hon[8] oedd fy nhad."
Ar ol hyny bu yr hen bregethwr hynod, Robert Dafydd, yn byw yn y ty; ac yma y bu farw, yn ei gadair. Yma hefyd y treuliodd Sian Griffith ran fawr o'n hoes, yr hon oedd mor hynod am ei hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau, fel y dywedai John Jones, Tremadog, am dani, mai hi oedd ei Concordance ef; oblegid bu gydag ef yn gwasanaethu dros ryw dymor. Mewn cyfeiriad gogledd-ddwyrain o'r capel y mae Hendre Cenin, lle yr oedd cartref y Methodist cyntaf yn yr ardal, sef, John Morris; a'r lle hefyd y mae teulu sydd wedi bod yn achles ac yn garedig i Fethodistiaeth er's oesoedd, o ddyddiau yr hen Robert Morris hyd ddyddiau ei ŵyr, y diweddar Mr. Robert Roberts. Ychydig draw, ar odre Mynydd y Cenin, yr ochr nesaf i Frynkir, y mae Myrddin coch, yn llechu mewn cesail glyd, cartref hen flaenor da o'r enw Robert Jones. Am y lle hwn y gwnaeth Moses Jones sylw hynod with bregethu ar y gair, "Y mae y gwynt yn chwythu lle y myno," &c. Y peth cyntaf a ddywedodd ar ol cymeryd ei destyn yn Mwlchderwin unwaith oedd, "Y mae y gwynt yn chwythu lle y myno, ond yn Myrddin coch." Dro arall cyfeiriai ato wrth ddarlunio lle neillduol yn ngwlad Canaan. Byddai efe yn dra hoff o ddarlunio lleoedd yn y wlad hono. Gofynai ar ganol ei bregeth yn yr hwyl fawr un tro yn y Pennant, "Ddowch ch'i gyda mi am daith i wlad Canaan?" Ac meddai un o hen lanciau y Gilfach (William), "Down wir bob cam, Moses bach." Ac wrth ddarlunio rhyw le nodedig am ei dawelwch, dywedai "Y lle tebyca' welsoch ch'i 'rioed i Myrddin coch." Ychydig draw ar ochr y mynydd y mae Tai newyddion, lle yr oedd Moses Jones pan yr oedd yn dechreu byw, a'r lle yr oedd pan fu ar daith yn Môn, pan yr aeth y wlad i gyd yn un goelcerth gan dân y diwygiad, er nad oedd ar y pryd ond 29 oed, ac wedi dechreu pregethu er's rhyw bedair blynedd.[9] Yn uwch i fyny ar y mynydd y mae Cil—llidiart, cartref yr hen bre—gethwr diniwed a dirodres, Rhisiart William, ond yr hwn a fu yn offeryn yn llaw yr Arglwydd i gychwyn dau o leiaf o ddiwygiadau grymus, sef "diwygiad Beddgelert" (1817), a diwygiad arall yn Tymawr, Lleyn (1811), yr hwn oedd mor rymus a "diwygiad Beddgelert," ond fod ei gylch yn llai. Dechreu—odd y diwygiad gydag ef hefyd yn Llanllyfni yn 1831. Bu Eben Fardd yn gweithio ei waith fel gwehydd yn Cil—llidiart, pan yr oedd yn fachgen ieuanc. Gerllaw y lle diweddaf y mae Pantycelyn, lle a fu yn meddiant y diweddar fardd enwog Dewi Wyn (a'r hwn le sydd yn meddiant ei deulu hyd heddyw), yr hwn a roddodd yr enw ar y lle o barch i goffadwriaeth " Pêr ganiedydd Cymru." Yr ochr arall i'r mynydd, yn nghyfeiriad y gogledd o'r capel, y mae Tyddyn—ruffydd, lle yr oedd Robert Dafydd yn byw, pan y bu am ryw ysbaid bob dydd am ddwy flynedd yn ei ystafell, yn ymdrechu â Duw, am gael gweled diwygiad cyn marw, a chafodd fyw i'w weled.[10] Mewn ty arall gerllaw o'r un enw, yr oedd (Margaret) chwaer Robert Roberts, Clynnog, yn byw, yn briod âg un Humphrey Hughes. Merch i'r rhai hyn oedd gwraig Moses Jones, ac ŵyrion iddynt ydyw y Parchn. J. Michael Hughes, yn awr o'r America, a Benjamin Hughes, Llanelwy. Ychydig yn nes ar y chwith y mae Mynachdy-gwyn, lle y bu Ysgol Sul am dros ddeugain mlynedd. Cynhelid cyfarfod gweddi yn mhob ty yn yr ardal yma bob nos Sul dros yr un tymor, a dywedir y byddai ryw eneiniad rhyfedd ar y cyfarfodydd hyny bob amser. Ar dir Tyddynmawr, yn fwy ar y chwith eto, y mae hen faen mawr, a fu yn bwlpud, meddir, i Howell Harris. Ac y mae fel pe byddai wedi ei wneyd gan natur i'r gwron hwnw; oblegid y mae o faintioli anferth. Ychydig yn fwy i'r gorllewin y mae Mynachdybach yn sefyll, lle y treuliodd y bardd enwog Robert ap Gwilym Ddu ei ddyddiau olaf, a'r lle hefyd y bu farw. Efe, fel y mae yn hysbys, oedd awdwr yr englynion godidog ar yr Iawn; Crist ger bron Pilat, a Pilat ger bron Crist; ac efe oedd awdwr yr emyn melus hwnw yn mysg ereill :
"Mae'r gwaed a redodd ar y groes
O oes i oes i'w gofio;
Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn
I ddweyd yn iawn am dano.
"'Mhen oesoedd rif y tywod mân
Ni bydd y gân ond dechreu;
Rhyw newydd wyrth o'i angeu drud
A ddaw o hyd i'r goleu."
Ychydig yn nes i'r capel yr oedd Brynbogelydd, cartref yr hen bregethwr boreuol hwnw—Richard Hughes. Ychydig a wyddys am dano; ond fel hyn y mae Williams, Pantycelyn, yn cyfeirio ato, yn ei farwnad i'r Parch. W. Davies, Castellnedd:
"Richard Hughes a welodd yno, [y nefoedd]
Deithiodd holl fynyddau maith
Arfon arw a Meirionydd,
Fflint a Dinbych lawer gwaith;
Ac amgylchoedd dir y Deheu
Gydag awel bur y nef
Fel dyn addfed i'r wlad nefol,
'Chydig cyn ei symud ef."[11]
Yma hefyd y ganwyd ac y magwyd y pregethwr effeithiol hwnw, y diweddar Barch. Griffith Williams, Bwlan. Yn fwy ar y chwith, ar dir Coedcaebach, yr oedd cartref Pedr Fardd, ac yno yr oedd, mae yn debyg, pan y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Mrynengan, pan nad oedd ond rhyw 10 i 11 oed. Gerllaw, mewn lle o'r enw Ynyscreua-bach, yr oedd John Pierce yn byw, llenor medrus yn ei ddydd. Yn nes eto ar y chwith y mae Cefn-pen-coed, cartref hen flaenor da o'r enw Sion Dafydd. Bu Robert Roberts, Clynnog, yn gwasanaethu yn y lle hwn am tua phum' mlynedd. Ac yma yr oedd Moses Jones pan y daeth at grefydd. Daeth ei feistr, yr hen flaenor, heibio iddo un diwrnod, ac yntau yn gweithio gyda'i raw yn y cae, gan ofyn iddo a ddeuai gydag ef i'r Seiat, yr hon a gynhelid ar y pryd yn y dydd. Gwrthododd fyned yr adeg hono; ond wedi i'w feistr fyned i ymyl y capel, fe gymerodd ail feddwl, ac fe daflodd ei raw o'i ddwylaw yn ddigon pell, ac fe ddechreuodd redeg a neidio fel ebol yn nghyfeiriad y capel; ac felly yr aeth i'r Seiat.[12] Yn ymyl y lle hwn y mae Gors Uchaf, lle y cartrefai hen ysgolfeistr enwog yn ei ddydd, o'r enw Thomas Gough. Efe oedd un o ysgolfeistriaid yr ysgolion cylchynol Cymreig, o dan Griffith Jones, Llanddowror, a Lady Bevan. Ychydig yn nes ar y chwith y mae y Gaerwen, cartref y bardd enwog Dewi Wyn o Eifion, a'r lle y ganwyd ef, a'r lle y treuliodd braidd ei holl oes, a'r lle hefyd y bu farw. Ar dir y Gaerwen y ganwyd ac y magwyd bardd enwog arall, sef Nicander, mewn lle o'r enw Beudy'r Gaerwen. Yr oedd ei dad a'i fam yn aelodau eglwysig yn Mrynengan, a digon tebyg ei fod yntau wedi bod am ysbaid. Dywedir ei fod wedi bod yn dyfod i'r Ysgol Sul i Frynengan, ar fraich ei fam; a'i fod yn gallu "darllen ei Destament" pan oddeutu tair oed. O flaen gwyneb y capel, o fewn rhyw haner milldir oddiwrtho, y mae Coedcaedu, y lle y ganwyd y gŵr galluog a duwiol hwnw, y Parch. Richard Jones y Wern. Yma y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, a'r rhan fwyaf o'i oes fel pregethwr, ac wrth yr enw hwnw y byddai yr hen bobl yn ei alw ar hyd ei oes, "Richard Jones, Coed-cae." Yma hefyd yr oedd Robert Roberts pan y dechreuodd bregethu. Ac yn yr Ynys-galed, lle ar y pryd ar dir Coedcaedu, yr oedd Robert Roberts yn byw. Yma yr oedd yn byw rai blynyddoedd cyn dechreu pregethu, ac yma y bu tua haner tymor ei weinidogaeth. Ac yn y lle hwn y cartrefai pan yr oedd yn athraw ar ysgolion cylchynol Mr. Charles. Gerllaw y capel y mae amaethdy Brynengan, oddiwrth yr hwn y cafodd y capel ei enw, ac ar dir yr hwn y mae wedi ei adeiladu. Perthynasau i'r rhai roddodd y tir i adeiladu capel yma ar y cyntaf, sydd yn byw yn y lle yn awr, y rhai sydd wedi dangos caredigrwydd i'r achos bob amser. Rhoddwyd y tir lle y saif y capel arno yn ddiweddar yn rhydd-feddiant am byth i'r Cyfundeb gan berchenog y lle, sef Mr. Evan Griffiths, Chwilog Fawr. Nid ystyrir y Gwindy a'r Llecheiddior, erbyn hyn, yn dal unrhyw gysylltiad â Brynengan; ond yma y deuai preswylwyr y lleoedd hyn, am yn agos i gan' mlynedd, gallem feddwl. Dyma gartrefi y ddau bregethwr hynod, John Owen a John Williams. Ganwyd a magwyd y ddau yn ymyl eu gilydd, a chladdwyd hwynt yn ymyl eu gilydd; ond anfynych y gallesid taro ar ddau mwy anhebyg. Maddeued y darllenydd i ni am y crwydriad hwn; ni feddyliasom ar y cychwyn y buasai y daith mor hir.
Cyn gorphen y bennod hon dymunem alw sylw y darllenydd at y darlun o'r capel a geir yn y llyfr. Wrth ochr y drws sydd. ar y chwith gwelir ysmotyn gwyn, yn yr hwn ar gareg galed y mae ffigyrau wedi eu tori, sydd yn dangos yr adeg yr adeiladwyd y capel cyntaf, ei ail-adeiladiad, a'i adgyweiriad ar ol hyny. Fel hyn y maent:—
1777.
1826.
1870.
Credwn yn sicr mai gwaith llaw Robert Jones, Rhoslan, ydyw y dyddiad cyntaf; oblegid efe a wnaeth waith coed y capel cyntaf. Ac yr oedd wrth ei swydd yn arfer tori ar gerig beddau, &c. Gynt yr oedd drws oddiallan, rhwng y ddwy ffenestr, i fyned i'r pwlpud, yn debyg i fel y mae capel Llangeitho wedi bod ar hyd yr oesoedd, a'r hwn sydd yn parhau felly hyd y dydd hwn. Ar adeg o eira mawr unwaith, chwythwyd eira i mewn i'r pwlpud drwy y drws, nes yr oedd wedi ei haner lenwi. Uwchben y ffenestr agosaf i'r ty capel y mae careg lâs, ac yn argraffedig arni:—
"Ysbryd yw Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, addoli mewn yspryd a gwirionedd." —Ioan iv. 24.
Cafodd un hen frawd o'r enw William Cadwaladr droedigaeth wrth ddarllen yr argraff. Pan fyddai pregethwr poblogaidd iawn yn pregethu byddai yn fynych lonaid y capel a'r cowrt o flaen y capel wedi ymgasglu yn nghyd. Agorid y ffenestr agosaf i'r ty capel; a safai y pregethwr yn y ffenestr, gan bregethu i'r rhai oedd oddifewn ac i'r rhai oedd oddiallan. Cafodd John Elias rai o'i odfeuon mwyaf hynod yn y ffenestr hon. Un ar y gair hwnw," Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech." Rhoddai bwyslais neillduol o'i eiddo ei hun ar y gair "wnaech." Ac un arall ar y gair hwnw,—"Y mae yr holl fyd yn gorwedd mewn drygioni." Gwaeddai y gair "gorwedd" mewn llais annaearol, gan ddal yn hir ar y ddau sill—"go—o—o—or—we—e—e—edd." A chlywid ei lais treiddgar, meddir, tua dwy filldir o ffordd. Bu Mr. Charles o'r Bala, yn cynal Cymanfa Ysgolion yn y cowrt o flaen y capel, a Moses Jones gyda'i lais uchel a chlir yn adrodd pennod ar y dechreu. Bu llawer o orfoleddu a neidio ar y llanerch hon; a chredwn fod cannoedd wedi eu hachub o fewn ac o flaen y muriau hyn. Cynhelid cyfarfod gweddi yma am hir amser bob boreu Mercher, yn amser y rhyfel â Ffrainc,[13] i erfyn am amddiffyniad dwyfol dros ein brenin a'n gwlad, ac i ofyn am lwyddiant ar yr efengyl. Ar ol cyfarfod gweddi pur hynod neidiai un hen frawd yn ei glocsiau yn y court gan waeddi,—"Ddaw o ddim yma yn wir bobol" (sef Bonaparte). Yr oedd wedi anghofio ei hun gymaint fel y collodd ei glocsiau, ac yr aeth i gryn bellder hebddynt. Tucefn i'r capel y mae clwt glas caeedig, lle gynt y troid ceffylau y bobl a ddeuai yma i wrando. Adeilad diweddar yw y ty capel presenol. Mae tua haner y ty o'r golwg yn y darlun, ac nid yw y ty mewn gwirionedd yn cyffwrdd â'r capel. Yr oedd yr hen dŷ yn cyffwrdd â'r capel, ac wrth ei ochr yr oedd ystabl, a llofft uwch ei phen, yn yr hon yr oedd teulu yn byw. Yr oedd grisiau cerig oddiallan yn myned i'r llofft. A chredwn fod pen y grisiau yn bur agos i'r fan lle y mae pen uchaf y drws presenol. Clywsom hen wraig yn ddiweddar yn dweyd ei bod yn yr ysgol ddyddiol yn nghapel Brynengan yr un amser a'r diweddar fardd enwog, Nicander. "Byddai Morris bach (dyna fel y galwai ef) yn myned i ben grisiau llofft yr ystabl," meddai, "i bregethu, ac yn gwneyd i ninau, y plant ereill, addaw bod yn right ddistaw, a rhoddi 'Amen' iddo. Byddai wrthi am tua deng mynud, a ninau o dano yn gwrando yn astud, ac yn rhoi 'Amen,' yn y lle y byddai eisieu, ag un llais." Fel y cyfeirir mewn man arall yn y llyfr, trwy y drws agosaf i'r ty capel y byddai y rhai fyddai wedi eu diarddel yn gorfod myned allan.
PENNOD IV.
BRYNENGAN: EI ARDAL A'I EGLWYS FABWYSIEDIG.
(Parhad.)
Yr enwogion a gododd yn yr ardal.—Pa gyfrif sydd i'w roddi am hyn?—Eglwys hynafol Capel Helyg. Henry Maurice.—Deddf y Pum' Milldir. Yr eglwys yn cyfarfod ar ochr craig mewn coedwig. Deddf y Cyfarfodydd Gwaharddawl. Ystafell hynod yn Cae'rtyddyn.—Dyfodiad Lewis Rees, Jenkin Morgan, a Howell Harris i'r wlad.—Odfa gyntaf Howell Harris yn y wlad hon, yn Glasfryn—fawr.—Eglwysi cyntaf Eifionydd.—Cychwyniad eglwys Brynengan, a'r crefyddwr cyntaf yn yr ardal. Robert Owen, Brynygadfa.—Y cyrchu i Frynengan a Ty-mawr.—Dim erlid yn Mrynengan. Erlid yn yr holl amgylchoedd.—Richard a Morris Griffith, Penybryn
MAE y darllenydd wedi sylwi, yn ddiau, ar y nifer mawr o enwogion sydd wedi codi yn ardal Brynengan, a'r rhai hyny yn perthyn i'r dosbarth cyntaf. Yn mha le yn Nghymru y cododd meddylwyr galluocach ac eangach eu hysbryd na Richard Jones, y Wern (Coedcaedu), a John Owen, Ty'nllwyn (Gwindy)? Pwy a dderbyniodd fwy o ddawn y weinidogaeth na Robert Roberts, Clynnog; John Williams, Llecheiddior; a Moses Jones, yn enwedig y cyntaf? A pha lanerch yn ein gwlad a gynyrchodd feirdd mwy awenyddol na Dewi Wyn, Robert ap Gwilym Ddu, Pedr Fardd, Eben Fardd, a Nicander? Gallem enwi rhai enwogion ereill a fu yn dal cysylltiad â'r lle am ryw gymaint o amser, nad ydym wedi eu henwi yn flaenorol, megys y Parchn. Robert Jones, Rhoslan; John Roberts, Llangwm; John Pierce, wedi hyny o Lanidloes; a John Griffith, Bethesda, Dylasem enwi gwr ieuanc arall a ddaeth i fri mawr yn nghychwyniad y cyfarfodydd llenyddol yn Eifionydd, sef y diweddar Mr. Daniel Roberts, Ffridd; ond ei haul a fachludodd tra yr ydoedd hi yn ddydd. Pecawsaieinoes, diau y daethai i sylw fel llenor a bardd, os nad hefyd fel pregethwr. Yr oedd efe yn ŵyr i Robert Dafydd.
Clywsom amryw, wrth siarad â hwy am y nifer mawr o enwogion sydd wedi codi yn yr ardal hon, yn datgan eu syndod at y peth, ac yn methu cyfrif am hyn. Sylwent nad oedd dim mewn natur i roddi cyfrif am dano. Nid oes yma olygfeydd prydferth, swynol, a rhamantus, i ddeffro y meddwl ac i gyffroi yr enaid. Mae hyn weithiau yn cael ei ddefnyddio fel rheswm paham y mae rhai talentau disglaer wedi codi o ambell i ardal. Ond rhaid chwilio am yr achos o hyn i ryw gyfeiriad arall yn y lle hwn. O'n rhan ein hunain, ni a gredwn mai crefydd yr ardal a fu yn foddion i ddeffro y meddyliau galluog hyn. Mynych y mae deffroad mawr gyda chrefydd wedi bod yn ddeffroad i dalent ac athrylith. Gwelwn engraifft amlwg o hyn yn y Diwygiad Protestanaidd. Rhoddodd y cynhyrfiad aruthrol a gafodd crefydd gynhyrfiad hefyd i feddyliau dynion. Pa bryd yn holl hanes y byd y gwelwyd y fath gewri mewn meddwl ag yn yr oes hono? Y mae crybwyll enwau Martin Luther, y diwygiwr; John Calvin, y duwinydd; Shakespeare, y bardd; a Bacon, yr athronydd, yn ddigon o sicrhad o hyn, heblaw nifer mawr o enwau ereill allesid grybwyll. Yr un fath am y diwygiad yn amser y Puritaniaid a'r Anghydffurfwyr yn Lloegr. Y fath restr o dduwinyddion galluog a ddaeth i'r golwg y pryd hwnw, megys Dr. Owen, John Howe, Charnock, Goodwin, &c. Mae yr un peth yn wirionedd am y Diwygiad Methodistaidd. Ni chynyrchodd unrhyw oes dduwinydd galluocach na Jonathan Edwards, na phregethwyr mwy dylanwadol ac effeithiol na George Whitefield a Daniel Rowland. A phaham nad all yr un peth fod yn rheswm am godiad y fath nifer o wyr enwog yn ardal Brynengan? Yr oedd gwres y crefyddwyr a phoethder y diwygiadau yn fanteisiol iawn i dalent ac athrylith flaguro. A blaguro a thyfu a gwasgaru eu peraroglau a wnaethant dros holl Gymru.
Mae y plwyf lle y saif Brynengan ynddo, sef Llangybi, wedi bod yn hynod mewn cysylltiad â chrefydd bur er's llawer o oesoedd. Yn y plwyf hwn y saif Capel Helyg. Yr oedd eglwys gan yr Annibynwyr yn y lle hwn yn agos i gan' mlynedd cyn dechreuad Methodistiaeth yn Mrynengan. Myn Mr. Richard Jones, Llangybi, yn ei draethawd manwl a llafurfawr ar hanes eglwys Capel Helyg, fod yma gapel wedi ei adeiladu mor foreu â'r flwyddyn 1652. Nid ydym ni yn gweled ei resymau yn ddigon cryfion i'n hargyhoeddi o wirionedd hyn. Pa fodd bynag, mae yn amlwg fod eglwys yn arfer ymgynull yn yr ardal yn mhen rhai blynyddoedd ar ol hyn. Dywed yr enwog Henry Maurice, mewn llythyr at un Edward Terril, yn y flwyddyn 1675, "Yr eglwys gyntaf, a'r unig eglwys ffurfedig yn y sir hon, yw yr un sydd yn cyfarfod yn gyffredin yn Llanarmon a Llangybi." Yr un eglwys oedd hon ag un Pwllheli: a byddai yn cyfarfod ar adegau yn Mhwllheli, a phryd arall yn Llangybi, yn ol fel y byddai yr erledigaeth yn y naill le a'r llall. Pan erlidid hi yn y naill le, ffoai i'r llall. Ac y mae yn amlwg mai mewn canlyniad i Ddeddf y Pum' Milldir, yr hon a basiwyd yn y flwyddyn 1664, yr oedd yr eglwys yn cyfarfod y pryd hwn yn Llangybi. Gwaharddai y Ddeddf greulawn hon i unrhyw weinidog bregethu o fewn pum' milldir i'r lle yr oedd yn gweinidogaethu ynddo o'r blaen, nac o fewn hyny o bellder i unrhyw fwrdeisdref. Gan hyny enciliodd yr ychydig ffyddloniaid i gyfarfod â'u gilydd i ochr craig fawr mewn coedwig dewfrig gerllaw Capel Helyg, yr hon oedd tua phum' milldir o Bwllheli. Cawsant lawer cyfarfod hyfryd, meddir, yn y lle anial hwnw. Yn agos i'r un amser ag y pasiwyd y Ddeddf uchod, pasiwyd un arall greulonach fyth, yr hon a elwid Deddf y Cyfarfodydd Gwaharddawl, yr hon oedd yn gwahardd pob math o gyfarfodydd Ymneillduol, os ceid pump neu ychwaneg o bobl heblaw teulu y ty yn bresenol. Dan y ddeddf hon dirwywyd yr eglwys ddwywaith i haner cant o bunau. I ochel y gyfraith hon, gwnaed ystafell ddirgel yn amaethdy Cae'rtyddyn i'r eglwys ymgynull iddi. "Ty tô gwellt, a'r bargod yn ei gefn yn un â'r ddaear, oedd hen dŷ Cae'rtyddyn; a gwnaed rhyw fath o daflod uwchben y siamber, ar ran o'r ty, a thorwyd twll yn y tô yn nghefn y ty i fyned i'r ardd, a thrwy yr hwn y gallai yr addolwyr ymwthio pe buasai yr erlidwyr yn dyfod i'r ty. Yr oedd y twll wedi ei gau gyda swp o wellt yn y fath fodd, fel na wyddai neb oddiallan fod yno un. Elid i fyny iddi gydag ysgol, yr hon a dynid i fyny wedi i'r cyfeillion ymgynull yn nghyd. Dyma'r ddirgelfa y bu eglwys Capel Helyg, am amser maith, yn ymgynull iddi yn nyfnder y nos, heb na goleu na chanwyll." (Traethawd Mr. Richard Jones). Ond er i'r naill ystorm ar ol y llall chwythu ar y ganwyll fechan hon, daliodd yn oleu ac yn wresog hyd amser y Diwygiad Methodistaidd. Mor gydnaws oedd ysbryd y ffyddloniaid hyn âg ysbryd y Diwygiad, fel pan glywsant am dano yr aeth un ohonynt, Walter Williams, Ty Llywelyn, Penrhos—hen daid i Mrs. Ambrose, priod y diweddar Barch. Wm. Ambrose (Emrys), Porthmadog,—yr holl ffordd i Lanbrynmair at Lewis Rees, yr hwn oedd yn llawn o'r tân diwygiadol, i'w wahodd i ddyfod i'r wlad hon i bregethu. Wedi i Lewis Rees ddyfod yma, ac iddynt glywed ganddo am y nerthoedd oedd yn cydfyned â gweinidogaeth Howell Harris yn y Deheudir, a'r arddeliad oedd ar lafur Jenkin Morgan yn amgylchoedd y Bala, aeth un ohonynt, sef Francis Evans, Cae'rtyddyn, y dydd Llun canlynol i'r Bala, a daeth â Jenkin Morgan gydag ef adref, i fod yn ysgolfeistr yn yr ardal, ac i gynghori tipyn. Addawodd Lewis Rees hefyd y gwnai ei oreuiddylanwadu ar Howell Harris, gyda'r hwn yr oedd yn gyfeillgar iawn, i ddyfod i'r wlad hon i bregethu. Cymerodd hyn le, gallem feddwl, yn nechreu haf y flwyddyn 1740. Yn fuan wedi hyn, sef yn Ionawr, 1741, llwyddwyd i gael Howell Harris i ddyfod yma. Aeth Jenkin Morgan i Lanbrynmair i'w gyfarfod, a bu gydag ef am amryw ddyddiau fel cyfaill ac arweinydd iddo yn ei deithiau, gan fod Howell Harris yn hollol ddieithr yn y Gogledd, oddigerth ychydig ranau o sir Drefaldwyn ac amgylchoedd y Bala. Pregethodd ei bregeth gyntaf yn yr holl wlad, y tuallan i'r rhanau uchod, yn Glasfrynfawr, yn y plwyf hwn, cartref yr enwog William Prichard. Dyma'r bregeth gyntaf i unrhyw Fethodist yn y rhanau yma. Nid dibwys erbyn hyn ydyw gwybod yn fanwl pa bryd, yn gystal a pha le, y cymerodd y ffaith le. Nos Sadwrn, Ionawr 31, yn y flwyddyn 1741, y bu hyn. Gwelir, gan hyny, fod Ymneillduaeth wedi gwreiddio yn ddwfn yn y plwyf hwn er yn foreu, ac hefyd mai yma y planwyd Methodistiaeth gyntaf o unrhyw ran yn yr holl wlad, yn blanigyn tyner a gwanaidd.
Er mai Annibynwyr oedd Lewis Rees, Jenkin Morgan, a William Prichard, mewn enw, eto yr oeddynt wedi yfed yn helaeth o ysbryd y Diwygiad Methodistaidd, ac yn gyfeillgar iawn a'r Diwygwyr. Gellid cymhwyso atynt hwy yr hyn a ddywedodd Michael Roberts, gyda'r min hwnw oedd ar ei eiriau, pan yr oedd rhyw arlliw o ddyryswch ar ei feddwl, am yr hen bregethwr, Dafydd William Dafydd, o'r Deheudir:— "Dafydd enwog o Forganwg—rhyw Ddissenter a Methodist, haner yn haner—fel Mr. Tibbot a Mr. Gray, hen frid y tir—y goreu o ryw a welodd Cymru eto; a gwyn fyd na welai yr ysgrifenydd gant o'u bath cyn huno ohono yn yr angeu."
Ni sefydlwyd yr un eglwys yn perthyn i'r Methodistiaid yn Lleyn ac Eifionydd am rai blynyddoedd ar ol hyn. Ymgasglai y dychweledigion a argyhoeddwyd yn Lleyn, drwy weinidogaeth Howell Harris ac ereill o'r Methodistiaid, i eglwys Pwllheli at yr Annibynwyr. Digon tebyg hefyd fod dychweledigion Eifionydd yn myned i gapel Helyg. Yn yr eglwysi hyn yr oeddynt yn aelodau, ac yn cyfranogi o Swper yr Arglwydd. Pregethodd Howell Harris dair gwaith yn Glasfrynfawr y tro hwn. A gallwn fod yn lled sicr fod lliaws wedi eu hargyhoeddi trwy yr odfeuon; oblegid nid oedd yr un odfa i'r gŵr hwnw y blynyddoedd yma nad oedd rhyw nifer yn cael eu dychwelyd. Sefydlwyd dwy eglwys fechan yn foreu iawn yn Eifionydd, fel ffrwyth yr odfeuon hyn, a llafur personau ereill: un yn Mrynygadfa, plwyf Llanaelhaiarn, a'r llall yn Foelderwin, yn ardal Bwlchderwin. Yr oedd y rhai hyn ychydig flynyddoedd yn hyn na Brynengan. Cawn gyfeiriad at y ddau le, ni a gredwn, mor foreu a'r flwyddyn 1747, mewn llythyr o eiddo un o'r cynghorwyr boreuol o'r enw William Richard at Howell Harris. Dyddiad y llythyr ydyw Mehefin yr 20fed y flwyddyn hono. Fel hyn y rhydd yr hanes:—"Dydd Gwener, ar fy nychweliad o Leyn, yr oedd genyf gyhoeddiad mewn lle rhwng Caernarfon a Phwllheli. Mi a bregethais yno i nifer o eneidiau tlodion ac anwybodus, a chefais odfa felus iawn. Hyderaf fod yr Arglwydd wedi agor drws yn y lle hwn [sef Brynygadfa neu Helyg-irion]. Gofynodd un o'r brodyr am dŷ arall i bregethu ynddo rhwng y lle yma a Phenmorfa, ond gomeddwyd ef. Ond cawsom le mewn bwthyn bychan yn agos i'r ty hwnw. Pregethais yno [sef Foel Derwin], i tua dwsin o bobl; a chawsom odfa hapus iawn. Felly dychwelais drachefn i'r Bala, ac arosais yno hyd ddydd Llun; ac yr oedd yn ogoneddus iawn yno." Yr oedd hyn rai blynyddoedd bod dim wedi dechreu yn Mrynengan. Ffurfiwyd eglwys yn ylle rywbryd rhwng y flwyddyn 1751 a'r flwyddyn 1755.Yr oedd yma eglwys, fel y cyfeiriwyd o'r blaen, yn y flwyddyn olaf, pan symudodd Lowry Williams i sir Feirionydd. Ac wrth gymharu gwahanol amgylchiadau â'u gilydd, credwn nas gallai fod yma ddim cyn y flwyddyn 1751. Tua'r adeg hon cymerodd amgylchiad le a fu yn gychwyniad i Fethodistiaeth yn yr ardal. Cyfeiriwn at droedigaeth y cyntaf yn yr ardal. Clywsom y diweddar Mr. Robert Roberts, Hendre Cenin, yn adrodd yr hanes fwy nag unwaith. Yr oedd efe yn nodedig o hyddysg yn hanes Brynengan, yn fwy felly na neb a welsom. Fel hyn y mae efe yn ysgrifenu yr hanes:—"Daeth yr hedyn yma o Foel Derwin yn nghalon hen ferch o'r enw Catrin ach Rhisiart. Yr oedd teulu wedi dyfod i'r ardal hon (i Hendre Cenin) o Maesllech. Aeth un o'r bechgyn yn sâl o glefyd trwm. Teimlodd Catrin awydd i'w rybuddio o'r perygl o farw yn annuwiol. Gwellhaodd John Morris oddiwrth y clefyd, ond gadawodd y cynghor effaith arno ar hyd ei oes. A'r John Morris yma (yr hwn oedd ewythr, frawd ei daid i Robert Roberts), oedd y crefyddwr cyntaf yn yr ardal. O'r teulu a enwyd yr oedd amryw o feibion; a bu Sion a Rhisiart Morris yn byw yn Mryneinion; ac yma y buont feirw. Ac yn moreu oes y ddau yr oedd Howell Harris, Daniel Rowland, ac ereill, yn dyfod o'r Deheudir i bregethu." John Morris felly oedd Methodist cyntaf yn yr ardal; a'i frawd, Richard Morris, meddir, oedd y blaenor cyntaf yn y lle. Yr oedd brawd arall iddynt yn Hendre Cenin, o'r enw Robert Morris; un arall yn y Gwindy, sef Ellis Morris; ac un arall yn Tuhwnt i'r mynydd, o'r enw Griffith Morris. Buy brodyr hyn yn noddwyr da i'r achos yn ei fabandod, ac y mae eu disgynyddion wedi bod felly hyd y drydedd a'r bedwaredd genedlaeth. Ac y mae y rhai hyny erbyn hyn yn lliosog iawn, a nifer mawr ohonynt yn Fethodistiaid gweithgar a selog, a rhai ohonynt yn swyddogion eglwysig. Caniataer i ni enwi rhai o'r swyddogion hyn. Yr oedd Morris Prichard, Llandudno, yn ŵyr i Richard Morris; y mae Dr. Roberts, Penygroes, a'r Parch. Morris Griffith, B.A., Llanidloes, yn orwyrion i Ellis Morris; a Mr. R. G. Thomas, Brynengan, yn orwyr i Robert Morris. Nis gallwn gofio am neb arall.
Fel y crybwyllwyd o'r blaen, yr oedd dwy eglwys yn Eifionydd o flaen Brynengan, sef Brynygadfa ar un tu, a Foel Derwin ar y tu arall. Y rheswm paham y cafodd crefydd loches yn Mrynygadfa oedd am mai yno yr oedd yr hen bregethwr boreuol hwnw yn byw, sef Robert Owen. Yr oedd efe yn un o bleidwyr mwyaf selog Howell Harris. Byddai llawer o erlid, meddir, yn y lle hwn. Mynych y gwelwyd y swyddogion gwladol yn dyfod i mewn trwy un drws, a'r crefyddwyr yn dianc ymaith trwy y drws arall. A chyn hir erlidiwyd yr hen bregethwr ymaith o'i ffarm. Aeth wedi hyny i'r Helyg Irion, yn agos i balasdy Glasfryn Ucha'. Credwn erbyn hyn mai yn yr Helyg y bu Robert Owen gyntaf, ac iddo symud oddiyno i Frynygadfa. Rhoddodd groesaw i grefydd wed'yn yn y lle hwn. A chawn yn Methodistiaeth Cymru fod rhai yn dyfod i addoli i'r lle hwn o Lanberis, tuhwnt i Gaernarfon. Dybenodd yr hen bregethwr ei oes mewn lle o'r enw Pencaechwith, sydd yn awr yn rhan o dir Bodfal, ac yn mhlwyf Llanor. Ac am a wyddys, nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn. Yr oedd eglwys fechan hefyd, fel y cyfeiriwyd, yn cyfarfod yr ochr arall i Frynengan, mewn lle o'r enw Foel Derwin, yn nghyfeiriad Clynnog. Yma yr oedd cartref Catrin ach Rhisiart y cyfeiriwyd ati gan Mr. Robert Roberts, yr hon oedd hen ferch nodedig o grefyddol. Mae yn amlwg hefyd fod yr hen ferch hon a'i theulu yn gefnogol iawn i addysg yn gystal ag i grefydd ; oblegid yr ydym yn cael fod un o ysgolion y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, yn cael ei chynal yn y ty hwn, yn y blynyddoedd 1761 a 1762. Cyn hir, wedi i eglwys gael ei sefydlu yn Mrynengan, diflanodd yr eglwysi bychain hyn. Yr oedd Brynengan, mae yn amlwg, yn meddu ar fwy o fanteision i lwyddo. Yr oedd yn lle mwy diarffordd a neillduedig na'r naill na'r llall, ac felly yn fwy allan o gyrhaedd erlidwyr. Yr oedd perchenog y lle hefyd (Mr. Henry Jones), er nad oedd yn aelod ei hun, yn hollol ffafriol i'r crefyddwyr, ac yn ddyn nodedig o garedig. Rhwng pobpeth mae yn amlwg mai rhaid oedd i Frynengan gynyddu ac iddynt hwythau leihau. Daeth yn eglwys o gryn fri yn fuan iawn. Ty Mawr yn Lleyn, a Brynengan yn Eifionydd, oedd cyrchfan y pererinion Methodistaidd er yn foreu iawn. Buont yn daith Sabboth, meddir, lawer gwaith, er fod tua deunaw milldir rhwng y naill a'r llall. Cyrchent o ardal Brynengan i'r Ty Mawr, rhai ar feirch a rhai ar draed, erbyn yr odfa ddeg o'r gloch, a chanlynent y pregethwr yn ol i Frynengan at odfa y nos. Gwnai crefyddwyr Lleyn yr un fath pan fyddai y pregethwr yn dechreu yn Mrynengan. Llawer gwaith y buont ar fwlch yr Eifl, ar ol cerdded deg neu ddeuddeg milldir o ffordd, pan fyddai yr haul yn codi, ac yn cyrchu i Frynengan at yr odfa ddeg o'r gloch. A llawer gwaith y bu crefyddwyr Arfon ac Eifionydd yn yr un lle cyn i'r wawr dori yn cyfeirio am Ty Mawr. Clywsom Mr. Thomas Ellis, Carnguwch, yn dyweyd yn ddiweddar fod Sion Griffith, Bryn'rodyn, wedi dyfod laweroedd o weithiau i'r Hafod, Llithfaen, —cartref ei daid o'r un enw, sef Thomas Ellis, yr hen bregethwr call, cywir, a dirodres, cyn iddi ddyddio, ar ol teithio tua deng milldir o ffordd. Wedi hyny marchogent gyda'u gilydd i'r Ty Mawr at yr odfa ddeg.
Faith hynod mewn cysylltiad â Brynengan ydyw nad oes dim sôn fod yma erlid wedi bod erioed. Er fod erlid wedi bod braidd yn yr holl wlad o amgylch, eto diangodd yr ardal hon rhag y gelyn hwn. Mae son am erlid wedi bod yn yr holl ardaloedd cylchynol yn mhob cyfeiriad, yn ol ac yn mlaen, ar dde ac ar aswy. Bu erlid ar y llaw aswy yn Rhoslan, ac ar y dde yn Mrynygadfa a Llanaelhaiarn; yn ol yn Nghlynnog, ac yn mlaen yn Llangybi, Capel Helyg, Cae'rtyddyn, Penybryn (Corsydd), a Glasfrynfawr. Mewn canlyniad i waith Mr. Hughes, Trefan, yn anfon ei was i ganu corn i afionyddu yn Rhoslan, y gwnaeth Robert Jones, Rhoslan, y llythyr rhagorol hwnw a elwir, "Lleferydd yr asyn." Gŵr caredig oedd efe er hyny, ond fel y cafodd ei gamarwain gan rywrai. Cyfeiriwyd o'r blaen at yr erlid a fu yn Mrynygadfa, a Chapel Helyg. Wrth ddyfod yn ol o wrando Daniel Rowland yr oedd torf o erlidwyr yn disgwyl crefyddwyr Lleyn yn Llanaelhaiarn. "Curasant hwy yn ddidrugaredd," meddai Robert Jones yn Nrych yr Amseroedd, "fel pe buasent gŵn cynddeiriog, nes oedd eu gwaed yn llifo, a rhai ohonynt yn cwympo oddiar eu ceffylau; a chafodd y rhai oedd ar eu traed y cyffelyb driniaeth." Daeth person Clynnog, Mr. Ellis, y Gwynfryn, i Gapel Uchaf Clynnog un tro â chwip yn ei law; a bygythiai daro y pregethwr â hi oni bai i rywun el atal. Aeth John Pierce a John Jones (hynaf), y Penrhyn, i Langybi unwaith ar ddydd Llun y Pasg i gadw odfa, ac i ymosod ar annuwioldeb y lle; ond daeth person Llanystumdwy, a gŵr a gwraig foneddig oedd yn byw yn Ystumllyn, yno i gynhyrfu y bobl, ac i atal y pregethwyr. Llwyddasant i ostegu John Pierce; ondtrwy fod John Jones mewn gwth o oedran, arbedwyd ef. Pan welodd y foneddiges John Jones yn sefyll i fyny, "O," ebe hi wrth yr erlidwyr, "Peidiwch anmharchu pen gwyn, gadewch lonydd iddo." Ar hyn hwy a beidiasant; a dywedir i'r gair enill ei chalon i ddal ar yr hyn a leferid. Meibion Penybryn (Corsydd), oedd Richard a Morris Griffith, dau was Glasfrynfawr, a gafodd eu dychwelyd trwy ddylanwad eu meistr, William Prichard. Aethant gyda William Prichard i Fôn, a dioddefasant "ymdrech mawr o helbulon" yno, mewn cysylltiad â'u meistr. "Yr oedd un ohonynt yn yr ysgubor ryw ddechreunos, yn trwsio yr aradr, a bachgen bychan yn dal y ganwyll iddo, pan saethodd rhywun ergyd rhwng y ddau nes yr oedd yn dartsain yn y pared." "Daeth dau gwnstabl i'r ty ryw ddiwrnod," medd John William Prichard, Plas y Brain, mab William Prichard, " a chynorthwywyr yn eu canlyn, gan anelu yr amser yr oedd y teulu yn bwyta eu ciniaw, a gwarant i ddal un o'r gweision i fyned yn sowldiwr, sef Moris Griffith. Gofynodd ei feistres genad iddo fyned i'r llofft i roi esgidiau am ei draed, y byddai yn haws iddo eu canlyn; yntau a neidiodd allan trwy ffenestr y garret tucefn i'r ty, ac yr oedd yn rhy gyflym i neb ohonynt ei oddiweddyd." Aeth Moris Griffith i bregethu yn fuan ar ol hyn. Pan yr oedd i fod yn pregethu yn Llanrwst, safodd nifer o'r erlidwyr ar y bont, gan fwriadu ei daflu i'r afon; ond deallodd y brodyr eu bwriad, a throsglwyddwyd ef mewn cwch dros yr afon i'r dref. Pan yr oedd ar ganol pregethu cododd yno derfysg nid bychan; a cheisiodd rhai ddyfod trwy y dyrfa at y pregethwr. Pan welodd gŵr y ty nad oedd dim llonyddwch i'w gael diffoddodd y canwyllau, a chuddiodd y pregethwr mewn cist a chlô arno. Dywedir fod yr erlidwyr wedi bod yno hyd y plygain yn chwilio am dano, ond methasant a dyfod o hyd iddo. Priododd Richard Griffith ferch i Francis Evans, Pencaenewydd, yn y flwyddyn 1744, a daethant i fyw i Gae'rtyddyn, a dywedir ei fod wedi cysgu allan am lawer o nosweithiau yn y rhedyn ar ben y clawdd terfyn rhwng gweirglodd Cae'rtyddyn a Phentyrch-isaf, rhag ofn yr erlidwyr. Merch i Richard Griffith oedd Magdalen Richard, a ddaeth yn wraig i Robert Jones, Rhoslan. Ffodd Moris Griffith cyn hir i'r Deheudir. Aeth i Athrofa Caerfyrddin yn y flwyddyn 1750. Bu yn weinidog llwyddianus mewn eglwys liosog gyda'r Annibynwyr, mewn lle o'r enw Trefgarn, yn sir Benfro, am ddeuddeng mlynedd. Dywedir y byddai hiraeth calon arno am ei wlad enedigol; ac y byddai yn fynych ar ddiwrnod clir yn myned i ben rhyw fryn gerllaw, i edrych ar fynyddoedd ei ardal enedigol, ac yn tori allan i wylo yn hidl. Bu farw yno yn y flwyddyn 1769, yn nghanol ei ddyddiau, yn 48 mlwydd oed. Yr oedd y diweddar Barch. William Moris, Cilgeran, meddir, yn un o'i ddisgynyddion; a chlywsom fod ymddiddan dyddorol wedi bod rhwng William Moris ar un o'i deithiau yn y wlad hon, âg Isaac Moris, Pentyrch-isaf, am Moris Griffith, ac mai y pryd hwnw y deallodd ei ddisgynyddion i fanylrwydd un o ba le ydoedd.
Gwelwn fel yna fod erlid wedi bod yn holl amgylchoedd Brynengan yn mhob cyfeiriad; ond hynod son! prin y symudodd yr un ci ei dafod ar neb yn yr ardal hon. Ni a gredwn, creded ereill fel y mynont, fod yr Arglwydd wedi gosod terfyn o amgylch y mynydd hwn hefyd, ac wedi ei sancteiddio, rhag i'r gelynion ruthro a hylldremu, na myned i fyny i'r mynydd, na chyffwrdd â'i gwr ef. Cyflawnodd yr Arglwydd ei addewid yn llythyrenol â'r eglwys fechan hon: "Byddaf iddi yn fur o dân o amgylch." Credwn hefyd fod yr Arglwydd wedi cyflawni y rhan arall o'i addewid yn y lle hwn laweroedd o weithiau, "ac yn ogoniant yn ei chanol." Gwelwyd hyn lawer gwaith yn odfeuon Daniel Rowland, Robert Roberts, Clynnog; John Elias, Henry Rees, John Jones, Talsarn; a Richard Owen.
Dyma ardal fabwysiedig Robert Dafydd. A pha ryfedd iddo dyfu y fath gymeriad cryf a gwreiddiol yn y fath awyrgylch? Yr oedd y fath gydnawsedd rhyngddo ag awyrgylch grefyddol y lle fel yr attynwyd ef yma yn fachgen ieuanc. Planwyd ef yma yn blanhigyn tyner, a lledodd ei wraidd, ac estynodd ei ganghenau, a daeth yn bren cryf a chadarn, fel y bu yn gysgod i lawer planhigyn tyner am dros dri ugain mlynedd.
PENNOD V.
Y bregeth gyntaf yn ardal Beddgelert.—Cyrchu i Langeitho gyda John Pierce a Richard Morris. Priodi.—Teulu ei wraig.—Yn hynod am gadw seiat.—Ei erwindeb.—Yn adwaen ac yn trin rhodres.—Ei nodwedd fel pregethwr.—Rhai odfeuon grymus.—Ieuengrwydd ei ysbryd
YN fuan wedi dechreu pregethu, daeth ar ei feddwl i fyned a'r Efengyl i hen ardal ei enedigaeth, i Feddgelert. A phe cawsai gyflawni ei fwriad, efe fuasai wedi pregethu y bregeth gyntaf yno; ond nis cafodd. Fel hyn y rhoddir yr hanes yn Methodistiaeth Cymru:- "Yr oedd Robert Dafydd eisoes wedi symud i Frynengan, ac wedi dechreu pregethu yno. Daeth ar ei feddwl ymweled â'i hen gymydogion yn ardal Beddgelert, a thraethu iddynt air y bywyd. Penodwyd ar y Sabboth, a rhoddwyd y gair allan y byddai pregeth yno. Yr oedd rhywrai wedi darpar lle i gadw yr odfa ynddo; pa un ai gelynion a wnaeth mewn dichell, ai cyfeillion yn eu diniweidrwydd, nid yw hysbys. Y lle, pa fodd bynag, oedd Ty-rhisgl, neu adeilad y rhoddid rhisgl derw ynddo i gadw yn y tymor, yn nghymydogaeth Nantmor, yn nghwry plwyf. Cyn i'r amser ddyfod, yr oedd rhyw rai drwg eu bwriad. wedi crogi darnau o goed yn uchel uwchben yn y Ty-rhisgl, gyda yr amcan o'u taflu ar y gynulleidfa yn amser yr odfa.
"Erbyn i'r amser addawedig ddyfod i ben, lluddiwyd i Robert Dafydd ddyfod gan ryw amgylchiadau, a Robert Jones, Rhoslan, a ddaeth yn ei le. Daeth cynulleidfa fawr yn nghyd; llawer ohonynt gyda y bwriad o aflonyddu yr odfa, a baeddu y pregethwr. Ond rywbryd ar yr odfa, a chyn dechreu yr ymosodiad, gwnaeth daranau arswydus, nes oedd y lle yn siglo. Disgynodd braw aruthrol ar y bobl, ac yn fwy o lawer ar y rhai yr oedd yn eu bryd wneuthur aflonyddwch; yn enwedigol, gan nad oedd un arwydd o fellt a tharanau yn y tywydd ar y pryd. Cafodd y pregethwr ddwy fantais oddiwrth yr amgylchiad; sef llonyddwch a seibiant oddiwrth ymosodiad yr erlidwyr, ac achlysur neillduol i osod min ar ei weinidogaeth, aci ddeffro ystyriaeth ei wrandawyr at echryslonrwydd digofaint y Duw,—
"Yr hwn sy'n gyru'r mellt i hedeg,
Ac yn marchog brig y don;"
gan alw eu sylw at daranau bygythiol y Beibl, y rhai sydd yn cael eu cyfeirio yn erbyn yr annuwiol. Oddiwrth yr amgylchiad hwn y cododd dau beth, sef deffroad amrywiol o'r gwrandawyr i ystyriaeth o ddifrifwch yn nghylch eu cyflwr tragwyddol, a llareiddiad yr erledigaeth, megis yn ei gychwyniad."
"Ar ol yr odfa gyntaf hon, dechreuodd rhyw dair neu bedair o ferched, y rhai a brofasant radd o rym y gwirionedd ar eu cydwybodau, ymgasglu at eu gilydd i weddio, ac i gyd—ymddiddan yn nghylch y 'ffydd yn Nghrist.' Bellach, hefyd, cynhelid ambell odfa yn achlysurol, yn ol fel y ceid pregethwyr, mewn gwahanol fanau yn y gymydogaeth."
Yr oedd cyrchu mawr yn mysg y Methodistiaid yn y blynyddoedd hyn, ac er's amryw flynyddoedd cyn hyn, o holl siroedd Gogledd Cymru, i Langeitho i wrando Daniel Rowland. Yr oedd y son am ei ddoniau, ac am yr arddeliad rhyfedd a fyddai ar ei weinidogaeth y fath, fel na allai lai na chodi awydd cryf yn meddyliau y crefyddwyr ieuainc i gael ei wrando. Yn mysg ereill, cododd awydd yn Robert Dafydd a'i gyfaill John Pierce i fyned yno. Yr oedd John Pierce yntau yn aros yn ardal Brynengan ar y pryd, er mai nid un oddiyno ydoedd yn wreiddiol. Yr oedd efe yn bregethwr lled boblogaidd, a threuliodd ei flynyddoedd olaf yn Llanidloes, ac yno y bu farw pan yn lled ieuanc, sef yn 49 mlwydd oed, yn y flwyddyn 1793. Gan faint eu hawydd i weled a chlywed y diwygiwr enwog, a bod yn dystion o effeithiau rhyfedd ei bregethu, a gweled y cynulliadau mawrion ac addolgar a fyddai yno, nid oedd cerdded rhyw 80 milldir ond dim yn eu golwg; er nad oedd i'w ddisgwyl ar y ffordd ond gwawd ac erlid yn y pentrefi yr aent trwyddynt; ac felly y bu iddynt hwythau y tro hwn. "Hwtiwyd hwy yn ffyrnig yn Nhanybwlch, a bu llefain gwawdlyd ar eu holau yn Nolgellau, ond cyrhaeddasant Langeitho yn lluddedig, erbyn amser yr odfa ddydd Sadwrn o flaen ycymundeb. Ond cyn pen llawer o fynudau o wrando Rowland, yr oedd eu holl ludded wedi diflanu, eu holl ofidiau wedi eu hanghofio, a'u llestri yn rhedeg drosodd gan orfoledd yr iachawdwriaeth."
Nid dyma yr unig dro i Robert Dafydd fod yn Llangeitho, ac nid y blinderau uchod oedd yr unig bethau blinion a'i cyfarfyddodd wrth fyned yno a dychwelyd oddiyno. Yr oedd anhawsderau ereill ar eu ffordd y pryd hwnw nad oes genym ni yn y dyddiau yma nemawr ddychymyg am danynt. Yr oedd y ffyrdd yn anhygyrch, ac weithiau cyfarfyddent a thywydd blin o wynt a gwlaw, neu o eira a lluwchfeydd, nes y byddai yn anmhosibl yn mron iddynt fyned nemawr yn mlaen. Yr oedd peryglon y ddau draeth, y Traeth mawr a'r Traeth bach, hefyd yn chwanegu yr anhawsderau i grefyddwyr Lleyn ac Eifionydd. Bu y pethau hyn yn flinder mawr i Robert Dafydd unwaith wrth ddyfod oddiyno. Ei gyfaill y tro hwn oedd Richard Morris, yr hwn oedd yn byw yn amaethdy Brynengan, a'r hwn hefyd oedd y blaenor cyntaf yn y lle. Ar eu dychweliad o Langeitho, pan yn croesi y Traeth bach, cawsant eu hamgylchynu gan y llanw, a bu y ddau yn agos i angeu. Dywedir fod Robert Dafydd, yr hwn oedd o faintioli lled fawr, hyd at ei geseiliau yn y dwfr, a Richard Morris, yr hwn oedd yn llai o faintioli, at ei wddf. Ac heblaw fod y dwfr yn ddwfn, yr oedd yn noson oer iawn hefyd o rew ac eira, a rhyfedd oedd iddynt ddianc a'u bywydau ganddynt. Buont am ddyddiau cyn gallu cyrhaeddyd i'w cartrefi, gan faint oedd y lluwchfeydd eira, a chan mor anhawdd oedd myned trwyddynt.
Yn fuan ar ol dyfod i aros i ardal Brynengan, priododd Robert Dafydd, a bu iddo deulu lled liosog. Enw morwynol ei wraig oedd Elizabeth Williams, ac yr oedd yn ferch i un William Jones, Tirdewin, Brynengan. Yr oedd iddi bedair, o leiaf, o chwiorydd, y rhai a ddaethant yn wragedd i rai o brif flaenoriaid yr ardaloedd, sef John Richard ac Evan Ellis, y Garn; a Richard Morris a Robert Hughes, Brynengan. Mae yn rhaid eu bod yn wragedd crefyddol, ac o ragoriaethau neillduol, cyn y buasent yn dyfod yn wragedd i ddynion mor ragorol. Ond yr oeddynt hefyd o dymer danbaid iawn. Mae chwedl am danynt yn aros yn yr ardal sydd yn dangos hyn. Yr oeddyr hen bregethwr Rhisiart William, wedi priodi merch i Robert Dafydd; ac yr oedd chwaer i'w mam, sef gwraig Robert Hughes, y Cenin, yn byw gerllaw iddynt. Daeth Rhisiart William i'r ty un diwrnod, a chlywai sŵn ystorm rhwng y fodryb a'r nith. Ond gwyddai Rhisiart William sut i'w thawelu. Ac meddai, "Hwi hen frid Wil Sion Genin," ac i ffwrdd ag ef. Trodd yr ystorm ar ol hyny i gyfeiriad Rhisiart William, ond yr oedd ef yn ddigon pell erbyn hyn. Daeth yn ol cyn pen ychydig fynudau, ac yr oedd y ddwy yn eistedd yn dawel a siriol wrth y bwrdd, ac yn cyd-yfed tê yn hapus. Enw a roddodd cablwyr y Methodistiaid ar William Jones oedd yr enw uchod, mae yn ddiau. Bu y teulu unwaith yn deulu lliosog yn yr ardal, ond erbyn hyn nid oes braidd yr un yn aros.
Y gwaith, meddir, yr oedd gan Robert Dafydd fwyaf o gymhwysder iddo o bobpeth oedd, cadw seiat. Edrychid arno braidd yn ddigyffelyb yn hyn. Yr oedd amryw bethau yn peri fod ganddo gymhwysder i hyn. Yn y cylch hwn, fel y cyfeiriwyd, y byddai cyfeiriad ei bregethau braidd bob amser. Yr oedd ei blaender hefyd yn ei gymhwyso at y gwaith yma. Honid hefyd iddo ryw graffder mawr i adnabod y rhai y byddai yn ymddiddan â hwy yn y seiadau, trwy fath o reddf grefyddol. Ystyrid fod gan amryw o'r tadau Methodistaidd y gallu hwn. Y penaf o bawb efallai oedd Williams, Pantycelyn. Yr oedd efe yn meddu rhywbeth tebyg i ysbrydoliaeth yn hyn, rhyw ddawn tebyg i'r un y cyfeiria yr Apostol Paul ati,-"gwahaniaeth ysbrydoedd." Yr oedd Ebenezer Morris hefyd yn hynod iawn yn hyn. Ac edrychid ar Robert Dafydd fel yn meddu y ddawn hon i raddau helaeth iawn. Yr oedd yn mysg y "cedyrn cyntaf yn y peth yma. Braidd na allasai ddweyd am dano ei hun yn debyg i fel y dywedodd Pedr Fardd am ei le ef yn mysg beirdd Eifionydd
"Yn drydydd minau droediaf."
Clywsom y diweddar Barch. Dr.. Owen Thomas yn dweyd y byddai galwad mawr arno i'r eglwysi i gadw seiat, am yr ystyrid fod ganddo y gallu hwn mor helaeth. Byddai llawer o'r hen dduwiolion syml, meddai efe, yn awyddus am iddo ymddiddan a hwy, er mwyn gwybod beth oedd ei farn ef am danynt; oblegid ystyrient fod ei farn ef am eu cyflwr braidd yn anffaeledig. Yr oedd yn seiat Fourcrosses un tro, ac yn ymddiddan â'r hen wraig grefyddol hono, Ellin Jones, Llwyndyrus, am ei phrofiad. Wedi holi rhyw gymaint arni, deallodd fod ei meddwl a'i hysbryd yn gythryblus oblegid rhywbeth. Ac yr oedd mor graff fel y deallodd beth oedd yr achos, a gofynodd iddi, "A oedd rhywbeth wedi bod rhyngddi â rhai o'i chymdogion yn ddiweddar?" Bu raid iddi hithau ateb fod hyny yn wirionedd. Mae yr ystori ganlynol hefyd yn bur hysbys yn y wlad. Yr oedd yn Nghaer unwaith yn cadw seiat, ac yn ymddiddan â gŵr mawr a chyfoethog iawn, ond yr hwn a ystyrid yn bur fydol a chybyddlyd. Wedi ymddiddan cryn lawer âg ef, a methu a chael dim ganddo, dechreuodd ddweyd pethau llym iawn wrtho. Teimlai y diweddar Barch. John Parry, Caer, ei fod yn myned braidd yn rhy bell, ac ofnai iddo ddywedyd pethau bryntach. O'r diwedd dywedodd, "Mae hi yn amser dibenu." "Dibena di," meddai Robert Dafydd, "mae y dyn yma yn pydru yn ei bechod gen ti." Yr oedd yn bur hyf ar Mr. Parry gan mai un o sir Gaernarfon oedd efe o'i ddechreuad. Clywodd y diweddar Barch. Moses Jones Mr. Parry yn adrodd yr hanes ei hun, a byddai yntau, Mr. Jones, yn hoff iawn o sôn am hynodion Robert Dafydd wrth bregethu ac mewn ymddiddan cyffredin. Un cymhwysder mawr oedd ganddo at y gwaith yma oedd côf cryf. Mae yn amlwg fod ganddo gôf cryf iawn yn ei gylch ei hun. Yr oedd yn cadw seiat yn Mrynaerau, Clynnog, rywbryd, ac yr oedd yno un gŵr yn dweyd ei brofiad. Yn mhen y flwyddyn aeth yno drachefn a chafodd yr un profiad gan yr un gŵr. Ac meddai Robert Dafydd wrtho,— "D anwyl, yn yr un fan yr wyt ti eto! Dydi'r bugail byth yn cadw y defaid ar yr un tir i bori o hyd, ond yn eu symud i borfa newydd yn feunyddiol. Felly mae'n bryd i tithau symud dy borfa, neu yr wyt ti'n siwr o lwgu yn y fan yma o hyd."
Mae y darllenydd wedi sylwi, mae yn ddiau, mai rhai o brif nodweddion cymeriad Robert Dafydd oeddynt plaender, gonestrwydd, a gerwindeb. Deuai hyn i'r golwg yn fynych wrth iddo bregethu, ac yn arbenig wrth gadw seiat. Yr oedd yn hallt iawn yn erbyn pechod. A deuai y nodweddion hyn i'r golwg wrth ymosod ar wahanol bechodau, yn enwedig balchder a chybydd-dod. Byddai yn erwin yn erbyn balchder, a phan dybiai fod arwyddion ohono mewn gwisgoedd a ffasiynau neillduol, ni arbedai neb pwy bynag fyddent. Yr oedd merched ieuainc o gyfeiriad Pwllheli wedi dyfod i ymweled â chyfeillion iddynt yn ardal Brynengan, ac yn eistedd yn y capel yn hollol ar ei gyfer. Gwisgent ryw bethau am eu penau oeddynt yn hollol waharddedig gan Robert Dafydd. Meddyliodd ar unwaith mai y diafol oedd wedi dyfod â hwy yno yn bwrpasol i'w boeni, a chynhyrfodd ei holl natur. "Gwyliwch chi," meddai, "y bydd y rubanau yna yn fflamio o gwmpas eich penau eto yn uffern." Dychrynodd y merched ieuainc trwy eu calonau. Yr oedd yn cadw seiat unwaith yn nghapel Penmount, Pwllheli. Yn mysg merched ereill yr oedd Mrs. Ellin Hughes, Yoke House, nain Mr. Griffith Jones, y twrne, a hen nain y diweddar Mr. Picton Jones, yn adrodd ei phrofiad. Yr oedd rhai ohonynt yn defnyddio veils dros eu hwynebau. Wrth fyned atynt dywedai,—D anwyl, mae arna i'ch ofn chi. Yr ydach chi yn debycach i bobl yn eu heirch o lawer na dim arall." Ac fe roes wers hallt iawn iddynt ar falchder. Ond byddai pawb yn barod iawn i faddeu iddo ef, gan y meddwl uchel fyddai gan bawb o'i gywirdeb a'i onestrwydd.
Pwy a anfonodd gini iddo cyn iddo gychwyn i ffordd, ond Mrs. Hughes, Yoke House.
Nid oedd neb a adwaenai rodres a hunan mewn dyn yn well na Robert Dafydd, a'u ffieiddiai yn fwy, nac ydoedd yn fwy medrus i dynu chwydd o ddyn. Bu un o'r enw John Rolant, o gyfeiriad Fourcrosses, yn pregethu am ryw gymaint gyda'r Methodistiaid, ac ar ol hyny gyda'r Annibynwyr. Yr oedd y gŵr hwn yn meddwl cryn lawer ohono ei hun. Un Sabboth yr oedd yn pregethu yn Mrynengan am ddau o'r gloch fel arfer, a digwyddai fod Robert Dafydd adref. Gofynodd i Robert Dafydd yn ffodog iawn—"Newch chi ddechra i mi, Robert Dafydd?" "Dechra hi dy hun," meddai Robert Dafydd, "ne gâd hi by—y—yth heb i dechra," gan roddi sain hir i'r llythyren y. Yr oedd un W. W., un arall o'r un tylwyth, yn pregethu yn Nghyfarfod Misol Brynengan, ac yn parhau i ymresymu nes myn'd yn faich i'r gynulleidfa. Bob tro yr ymestynai dros y pwlpud byddai bys a bawd Robert Dafydd bron a chydio mewn rhan neillduol o'i wyneb.
Fel pregethwr ni edrychid ar Robert Dafydd yn mysg y dosbarth hwnw a ystyrid yn rhai mawr, doniol, a phoblogaidd. Yn hytrach perthynai i'r dosbarth a elwid yn "gynghorwyr." Ni byddai pynciau athrawiaethol crefydd braidd byth yn dyfod o fewn cylch ei ymdriniaeth; ond ymdriniai yn fwyaf mynych ar grefydd brofiadol; natur argyhoeddiad, a marw i'r ddeddf; y gwahaniaeth rhwng y gwehilion a'r gwenith, y gwir Gristion a'r rhagrithiwr; a thaith y Cristion drwy y byd. Ond pa beth bynag a fyddai pwnc yr ymdriniaeth, medrai wneyd y cwbl yn ddyddorol i'r gynulleidfa. Dywedir am y diweddar Barch. Richard Jones o'r Wern, mai nodwedd ei ddawn oedd yr "afrwydd dyddorol." Gellir dweyd yn debyg am dano yntau, fod ganddo y ddawn i wneyd yr hyn fyddai ganddo yn ddyddorol i'r gwrandawyr. Ni byddent byth yn diflasu arno. Un rheswm am hyny oedd, ei fod yn naturiol. Yr un peth oedd Robert Dafydd wrth wau ar y gwehydd ag ydoedd yn y pwlpud. Byddai ei draed yn symud yn ddi—orphwys yn y pwlpud, fel wrth yru y gwehydd. Byddai ysgydwadau ei gorph yn debyg yn y naill a'r llall. Os na byddai pobpeth yn myn'd yn mlaen wrth ei fodd, odid fawr na byddai ei fysedd yn cyffwrdd â'i ben, ac yn crafu peth arno. Dyrysai edafedd yr ymresymiad ychydig, ac yna gwelid ei fysedd yn chwareu trwy ei wallt gwyn, i'w ddad—ddyrysu. Torai bryd arall, ac yna byddai â'i ddwylaw yn cael y ddau ben at eu gilydd, ac yn eu cylymu yn nghyd. Wedi gwneyd hyny, byddai yn chwareu y wenol yn esmwyth a rhwydd nes y deuai dyryswch drachefn. Ac yr oedd y cwbl mor naturiol ac esmwyth fel y byddai yn cario y gwrandawyr gydag ef. Byddai, er hyny, weithiau, yn cael odfeuon grymus iawn, nes gorchfygu yr holl gynulleidfa. Mae rhai yn fyw yn cofio un felly a gafodd yn amaethdy Llwyngwanad—gwahaniad dyfroedd, un ffrwd i ochr Clynnog, a'r llall i ochr Criccieth—yn ardal Bwlchderwin. Yr oedd gorfoledd mawr yn y lle, ac yr oeddynt yn gorfoleddu wrth fyned adref. Yr oedd y Parch. John Jones, Groeslon, yn bresenol, ac y mae efe yn cofio byth am y tro. Cyfeirir at odfa nodedig arall yn y Gwynfryn, sir Feirionydd, yn Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd. Fel hyn y rhoddir yr hanes:—"Adroddwyd yr hanes canlynol wrth y Parch. David Jones, yn awr o Gareg Ddu, gan y blaenor adnabyddus William Richard, yr hwn oedd yn llygad dyst o'r ffeithiau. Digwyddodd ryw dro fod John Elias ar daith trwy y rhan yma o sir Feirionydd. Cyhoeddid ef i bregethu yn ol y trefniad yn y Dyffryn, ar nos Sabboth; yr un Sabboth yr oedd Robert Dafydd, Brynengan, yn yn y Gwynfryn, am ddau o'r gloch a'r nos. Wrth gyhoeddi ar ddiwedd yr odfa y prydnawn, anogai Robert Dafydd y neb a ewyllysiai i fyned i'r Dyffryn i glywed y gŵr enwog yn pregethu, yn hytrach nac aros yn y Gwynfryn i wrando arno ef. Aros, pa fodd bynag, yn y Gwynfryn a wnaeth llawer, a'r noswaith hono torodd allan yn orfoledd mawr yn y Gwynfryn, y fath ag y bu sôn am dano am amser maith. Yr oedd Humphrey Evans, wedi hyny o Lanfair, a John Davies, tad y Parch. John Davies, gynt o Lanelli, yn llanciau yn eistedd ar ymyl y gallery; a thra y cynhyddai y gorfoledd yn ei rym, neidiasant dros yr ymyl i'r llawr brwyn islaw; gan ymuno â'r gynulleidfa mewn neidio a molianu. Yn mysg y gynulleidfa ar y llawr yr oedd priod Richard Owen, wedi hyny o Runcorn, ac yn ddiweddaf o Penal, yn wraig ieuanc, a baban bychan yn ei breichiau. Hithau hefyd a ddechreuodd neidio a molianu, gan daflu y baban oedd ganddi yn ei breichiau i ffedog ei mam, yr hon a eisteddai yn ei hymyl. Edrychai y ddau hen flaenor o'r sêt fawr ar yr olygfa gyda mwynhad rhyfeddol; ac wrth wele d y wraig ieuanc yn taflu ei baban i ffedog ei mam, ebe John Jones wrth William Richard, Weli di, dyma y brophwydoliaeth yn cael ei chyflawni, "A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturia wrth fab ei chroth? ïe, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.'"
Un o'r pethau mwyaf neillduol yn Robert Dafydd oedd ieuengrwydd ei ysbryd ar hyd ei oes, ac i'w ddiwedd. Os byddai tipyn o eneiniad gyda'r pregethu, neu dipyn o hwyl yn y moddion, fe fyddai ef mor barod a neb i dderbyn yr argraff, ac i godi ei hwyliau i fyned gyda'r awelon nefol. Rhoddir yr hanes canlynol yn Methodistiaeth Cymru, am dano yn pregethu unwaith yn Nghapel Uchaf Clynnog, pan ddisgynodd rhywbeth sydyn a thra dieithriol ar y gynulleidfa:—"Cyhoeddwyd y byddai Robert Dafydd, Brynengan, a William Roberts, Clynnog, yn pregethu gyda'u gilydd yno ar ryw amser penodol. Yr amser a ddaeth. Pregethodd William Roberts yn gyntaf oddiar Luc ix. 62. 'Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymhwys i deyrnas Dduw.' Ond cyn iddo orphen pregethu, disgynodd dylanwadau mor rymus ar y bobl, nes aeth y rhan fwyaf ohonynt i waeddi, ereill i wylo, a phawb a ddaliwyd â syndod. Ni roddwyd cyfleustra i'r hen batriarch Robert Dafydd roddi gair i mewn. Safai yn y pwlpud yn syn, gan grafu ei ben a dyrysu ei wallt a'i ddwylaw, yn ol ei arfer; rhoddai arwyddion fod ei lestr yntau yn orlawn, a'i fod yn barod i dori allan i waeddi a'r holl egni." Danghosir yr un ieuengrwydd ysbryd yn yr ystori ganlynol. Yr oedd hwyl anarferol unwaith yn Mrynengan gyda'r canu, a Robert Dafydd wedi ymollwng gyda'r awelon yn gymaint fel y cydiodd yn nwylaw yr hen flaenor adnabyddus, William Jesus, tad Pedr Fardd, a thaid Nicander, a'r hwn oedd yntau hefyd yn fardd da ei hun. Aeth y ddau wed'yn i neidio a gorfoleddu, dan gydio yn nwylaw eu gilydd. Canai y ddau a'u holl egni y darn penill hwnw drosodd a throsodd,
"Wrth gofio'r llawenydd a fydd."
"Rhwng teiliwr a gwydd," meddai Daniel, mab Robert Dafydd, yr hwn oedd yn edrych arnynt yn hamddenol, ac yn mwynhau yr olygfa yn anghyffredin. Dywedai Daniel hyn yn sobr wrth ei gyfoedion, a chwarddent hwythau. Teiliwr oedd William Jesus, a gwehydd, fel y cyfeiriwyd, oedd Robert Dafydd.
PENNOD VI.
Odfa hynod.—Ei gydymdeimlad â phobl ieuainc.—Ei lymder wrth ddisgyblu.— Tynerwch at yr edifeiriol.—Medr i drin dynion.—Ei wisg a'i ymborth gwladaidd.—Y parch a delid iddo.—Engreifftiau chwanegol i ddangos ei graffder i adnabod dynion.—Ei ddylanwad ar John Williams, Llecheiddior, a Moses Jones.—Ei lawysgrif. Hynodrwydd ei ferlyn, Jack.—Barn Griffith Solomon am dano
BYDDAI Robert Dafydd weithiau yn cael odfeuon grymus iawn, nes gorchfygu yr holl gynulleidfa, fel y cyfeiriwyd o'r blaen. Mewn amaethdy o'r enw Brydyni, yn ardal Brynengan, cafodd un hynod iawn yn amser y diwygiad yn y flwyddyn 1832. Ei destyn oedd y gair hwnw yn Exodus, iii. 3,—"Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw y berth wedi llosgi." Dywedir fod yno gynulleidfa fawr wedi ymgasglu ynghyd, ac yn eu plith un hen of o Efail y Cenin, o'r enw Robert Edward. Yr oedd wedi dyfod yno fel lliaws eraill oddiwrth ei waith. Yroedd lliw ei wyneb yn lled ddu, ond cynhir yroedd dau rŷch gwyn i'w gweled ar hyd ei ruddiau, a'r dagrau yn rhedeg ar hyd—ddynt. Wrth gann ar ddiwedd yr odfa torodd allan yn orfoledd mawr. Dyma ran ddiweddaf y penill a genid,
Mae'r Offeriad mawr yn sefyll
Yn yr afon dywyll, ddu;
Drwyddi af ar ol fy mrodyr,
Disglaer lwybr yno sy.
Dywed fy hysbysydd mai dyna yr odfa fwyaf grymus y bu ynddi erioed.
Fel y cyfeiriwyd yn yr ysgrif flaenorol, yr oedd Robert Dafydd yn hynod am ieuengrwydd ei ysbryd a'i gydymdeimlad â phobl ieuainc ar hyd ei oes. Bu farw dyn ieuanc o'r enw Nathaniel Jones, yn perthyn i eglwys Brynengan, yn y flwyddyn 1813, yr hwn oedd yn nodedig am ei weithgarwch gyda'r Ysgol Sabbothol, a'i fedrusrwydd i holi yr ysgol. Yr oedd Robert Dafydd yn teimlo colled fawr ar ei ol. Dywedir ei fod yn edrych arno yn ei arch, a dywedai wrth droi oddiwrtho, gyda theimlad dwys, "Ffarwel hyd foreu yr adgyfodiad." Yr oedd mewn Cyfarfod Misol unwaith pan yr oeddis yn cynghori y pregethwyr ieuainc i beidio pregethu yn faith. Gofynwyd i Robert Dafydd roddi gair o gyngor iddynt. "Nac oes gen i ddim i'w ddyweyd," meddai yntau, "waeth heb na dyweyd wrthynt; rhaid i'r hogia gael dyweyd yr hyn mae nhw wedi ddyfeisio." Fel y cyfeiriwyd, byddai yn ysgwyd yn anghyffredin yn y pwlpud. Byddai felly yn neillduol wrth ganu. Yr oedd yn morio felly ar ddiwedd yr odfa wrth ganu yn amser diwygiad 1832, ac aeth ei wallt mawr i gyraedd y ganwyll, ac aeth ar dân. Neidiodd ei fab, Robert, ato i'w ddiffodd; ac yr oedd yr hen wr yn methu yn lân a deall beth oedd y mater.
Byddai yn bur llym a brâs wrth ddisgyblu, ac wrth ymddiddan â rhai yn y seiat. Yr oedd yn ymddiddan â gwraig yn seiat Brynengan unwaith. Dywedai bethau pur blaen wrthi; ac aeth hithau i wylo. "O," meddai yntau, "crïo y bydd plant pan y bydd rhywun yn trin eu crâch nhw; ac felly yr wyt tithau wrth i minnau drin dy grâch di." Yr oedd un o chwiorydd ei wraig yn dweyd ei phrofiad un tro, ac yn dweyd, "Mi fydda i yn gweld fy hun yn aml yn debyg iawn i Mair Magdalen, o'r hon y bwriodd Iesu Grist saith o gythreuliaid." "Ie, on tê, M.," meddai Robert Dafydd, " ond fod mwy o honyn nhw ynot ti." Tarawai yntau weithiau ar ei fatch. Ymliwiai unwaith a Robert Morris, Hendre Cenin, ei fod yn cyflogi gweision heb fod yn proffesu crefydd. Yr oedd y ddau yn bur hyf ar eu gilydd. "Rhaid imi gael gwaith ganddyn nhw, pwy bynag gwnaiff o. Ni waeth gen i befo chdi, Robin," meddai Robert Morris.
Er ei fod yn gyffredin yn llym gyda'r ddisgyblaeth eglwysig, eto gallai fod yn dyner iawn, os meddyliai mai hyny oedd oreu er lles y dyn ei hun, a'r achos yn gyffredinol. Yr oedd achos o ddisgyblaeth ger bron seiat Brynengan rywbryd. Cododd brawd pur ddideimlad i fyny, a dechreuodd edliw beiau y cyhuddedig iddo. Prin y cafodd orphen ei druth nad oedd Robert Dafydd i fyny, ac yn tywallt olew i friwiau yr un a gyhuddid,—"Nid edliw beiau y mae ein Duw ni," meddai, "eu maddeu nhw mae o," gan roddi pwys ar y gair "maddeu," ac mewn teimlad dwys. Mae yr un peth i'w weled yn yr hanesyn canlynol, ac y mae rhagoriaethau ereill yn Robert Dafydd yn dyfod i'r golwg yn yr un hanesyn, megis ei ddoethineb a'i allu i gadw cyfrinach. Yr oedd brawd yn perthyn i eglwys Brynengan yn cyflogi yn ffair Wyl Ifan, Criccieth, i fyned i'r cynhauaf gwair i Nant Beddgelert. Mae yn amlwg mai gwr da ydoedd, ond iddo ddigwydd tripio yn yr amgylchiad hwn. Yr oedd hyn cyn dechreu Dirwest, ac felly aeth gyda'i gyflogydd ir dafarn, ac yfodd ryw gymaint o'r ddiod feddwol. Erbyn iddo ddyfod allan i'r awyr agored, gwelai ei fod i raddau o dan ddylanwad y ddiod. Slipiodd yntau yn ddirgelaidd i gae oedd gerllaw, a chysgodd am ryw gymaint o amser yno. Deffrôdd cyn hir, ond ofnai ei fod eto i ryw raddau ag arwyddion meddwdod arno; ac felly aeth adref ar hyd y ffyrdd a'r llwybrau mwyaf dirgelaidd. Aeth hyn yn boen fawr iddo, ac yn niniweidrwydd a gonestrwydd ei galon aeth at Robert Dafydd y cyfleustra cyntaf a gafodd i ddweyd på fodd y bu. Adroddai yr holl hanes yn fanwl a hollol onest. Gwrandawai Robert Dafydd arno yn ddistaw a myfyrgar. Ar ol iddo ddweyd y cyfan dywedodd wrtho, "Wel Duw a dy helpo! Welodd rywun di?" "Naddo neb, dwy'n meddwl, ond y Brenin Mawr." "Ie, ïe," meddai Robert Dafydd, "mi wn i y gwelodd o di! Wel, paid a dyweyd wrth neb, a ddyweda' ina' byth wrth neb. Paid a gwneyd byth yn rhagor. A gweddïa ar Dduw ac edifarha," meddai, gan roddi pwys mawr ar y geiriau diweddaf. Aeth blynyddau lawer heibio, a diwrnod cynhebrwng Robert Dafydd y dywedodd y dyn yr hanes wrth rywun.
Yr oedd ganddo fedr mawr i drin dynion, er mai y dull garw oedd ganddo yn gyffredin o wneyd hyny. Ond byddai llawer o ddoethineb yn ei ddull, pa un bynag ai garw ai tyner fyddai. Yr oedd y gerwindeb a arferai yn ateb i'r oes hono, ac yn ateb i'w gymeriad yntau; ond ffolineb o'r mwyaf fyddai meddwl am wneyd yn debyg iddo yn yr oes hon. Yr oeddynt unwaith yn Mrynengan yn casglu at ryw gyfarfod oedd i fod yno, a chodai Robert Dafydd, a dywedai,— "Os oes yma rywrai heb arian gyda nhw, ddowch chi yn mlaen yma i ddweyd faint rowch chi?" Yr oedd yno un hen gybydd go fawr, a phan yr oedd Robert Dafydd yn galw ei enw, meddai, "Pasiwch fi." "Tyrd yma, Dafydd," meddai Robert Dafydd, "i ddweyd faint wyt ti am roi." Ac yn mlaen y bu raid iddo fyned. Nid oedd ganddo ddim llai na haner coron yn ei boced, a rhoddodd ef ar y plât. Ceisiodd godi darn llai yn ei le. "Beth wyt ti yn ei wneyd, dwad?" meddai Robert Dafydd. "Dos oddiyna di i grafangio, ni chei di ddim, ni waeth i ti beidio." Ni chafodd ddim ychwaith. Wrth fyned o gwmpas y capel i gasglu at ryw achos, dywedai wrth un yr oedd yn gwybod ddylasai roddi ychwaneg," Ai hyna wyt ti yn ei roddi hefo'r got yna?" Ond dywedai wrth un arall ei fod yn rhoi gormod. Ar un adeg cwynid yn fawr oblegid amhrydlondeb yn dyfod i'r seiat ganol yr wythnos, yr hon a gynhelid foreu ddydd gwaith. Yr oedd Robert Dafydd wedi dwrdio llawer oblegid hyn; ond nid oedd hyny yn tycio dim i gael y bobl i wella. Gan hyny, meddyliodd am gynllun newydd. Dechreuodd hi un tro i'r fynud, gyda hyny oedd wedi dyfod yn nghyd, Aeth trwy yr holl wasanaeth yn bur fyr. Yna aeth tua chartref, gan gloi drws y capel. Ar y gors yn agos i'w dŷ, yr oedd haner nifer yr aelodau yn ei gyfarfod yn myned i'r seiat. Gofynodd yntau iddynt i ble'r oeddynt yn myned? "I'r seiat," meddent hwythau. "Mai hi wedi darfod," meddai yntau, yn bur sych. Dywedir fod hyn wedi diwygio llawer arnynt oddiwrth y bai hwn.
Yr oedd rhywbeth yn werinaidd a phlaen a gwledig iawn yn mhob peth a berthynai iddo. Er ei fod "yn hen ŵr glân, a chroen gwyn ganddo, ac heb un blewyn o farf," eto yr oedd yn hollol wledig yn mhobpeth. Yr oedd felly yn neillduol yn ei wisg. Gwisg o frethyn cartre plaen fyddai bob amser am dano, clôs melfered gwyn, a hosanau gwynion, a'r rheiny yn y golwg o'r pen glin i lawr. Felly y gwelwyd ef ganoedd o weithiau yn myned i'w gyhoeddiadau Sabbothol. Yfai ddwfr o ffynon gerllaw bob boreu, y peth cyntaf a wnai ar ol codi. Bwyd cyffredin iawn ganddo oedd tatws a llaeth, a bara ceirch wedi ei falu yn gymysg âg ef. Buasai yn rhyfedd clywed neb yn y dyddiau mursenaidd hyn yn anerch gorsedd gras fel hyn:—"Achub ni i gyd, bod yg un un, o bant i bentan, fel yr yda ni yma." Dywedai yn fynych ar ganol pregethu :
"Mi gana beth o'r fan lle'r wy',
Pan af i'r nef mi gana fwy."
Yr oedd ganddo bregeth ar Ruth, a'r pennill a roddai allan ar y diwedd fyddai:
"Awn gyda Ruth i loffa,
I feusydd Boaz fry," &c.
Ac wrth ganu rhedai dros y llinell tra y byddai ereill yn myned dros ryw un gair neu sill. Wrth bregethu mewn lle pur galed unwaith, dywedai :"Arglwydd anwyl, deffro'r bobol. Waeth gen i bregethu i bac o fawn gwlybion nag i chitha."
Er mai hen wehydd cyffredin oedd Robert Dafydd, eto cai barch mawr yn holl gylchoedd y Methodistiaid ar gyfrif ei synwyr da, ei ddull naturiol a dirodres, cywirdeb ei amcanion, a'i olwg batriarchaidd. Dywedir am y gwr mawr hwnw, Mr. Charles o'r Bala, y mwyaf ei ddefnyddioldeb a fu yn Nghymru erioed, fod ganddo feddwl uchel o Robert Dafydd, a'r parch mwyaf iddo. Dywedir ei fod yn ysgrifenu adref ar un o'i deithiau, ac yn dweyd:—"Cefais y fraint o gysgu un noson yn hen wely gwellt y duwiol Robert Dafydd Brynengan." Yr oedd gan Gyfarfod Misol ei sir hefyd feddwl uchel o hono. Ymddiriedid iddo yn fynych y gorchwyl o geisio gwastatau cwerylon mewn eglwysi. Yr oedd wedi ei anfon unwaith i eglwys yn Aberdaron, lle yr oedd hen flaenor pur ystyfnig. Gwelai Robert Dafydd nad oedd dim plygu na maddeu yn ei natur, a throdd ato, a dywedodd, "Wel, yr wyt ti yn debyg iawn i gythraul, ond 'dydw i ddim yn dweyd mai cythraul wyt ti." Yr oedd ganddynt feddwl mor fawr o'i gywirdeb, ei degwch, a'i ddoethineb, fel y meddylient, os gallai rywun ddwyn trefn yn yr eglwys mai Robert Dafydd oedd y gwr. Gyrid ef yn fynych i gadw seiadau ar daith trwy y wlad. Dyna oedd dull yr hen bobl yn fynych o drefnu ymweliad â'r eglwysi. Clywsom y diweddar Barch. Robert Owen, Rhyl, yn dyweyd iddo glywed, pan yn dechreu pregethu, ddarllen cyhoeddiad Robert Jones, Rhoslan, a Robert Dafydd, i gadw seiadau drwy yr eglwysi amryw weithiau. Byddai y cyhoeddiad weithiau yn cymeryd i mewn ran helaeth o'r wlad, a byddent am amryw ddyddiau yn gwneyd y daith, ac ymddiriedid y gwaith, mae'n ddiau, i'r gwŷr mwyaf eu profiad a'u doethineb. Yr oedd yn bedwar ugain oed pan adeiladwyd capel ffasiynol a mawreddog Moriah, Caernarfon; ond cymaint oedd parch gwŷr y lle hwnw iddo, fel y gwahoddasant ef yno unwaith o leiaf i bregethu. Cofir mor uchel oedd pwlpud y capel hwnw, a'r daith hirfaith oedd raid gymeryd wrth ddringo ei risiau. Nid gwaith bychan oedd hyny i hen wr pedwar ugain oed. Cymerodd Robert Dafydd ei anadl gorphwysodd ar ganol ei daith, ac yna cymerodd drem ar y capel a'r olygfa oedd o'i gwmpas, gan ddyweyd wrtho ei hun, canys nid oedd yn meddwl fod neb ond efe ei hun yn clywed, er fod llawer: "Arglwydd anwyl, dyro air i'w ddyweyd wrth y bobol." Yr oedd efe hefyd yn un o'r rhai oedd yn agor capel Llanllyfni yn y flwyddyn 1813.
Gallwn roddi engraipht neu ddwy yn ychwaneg, at y rhai a roddwyd yn flaenorol, i ddangos ei graffder i adnabod dynion wrth holi eu profiadau yn y seiat, &c. Yr oedd dyn ieuanc yn ardal Cwmcoryn, ger Llanaelhaiarn, yn hynod am ei wybodaeth Ysgrythyrol. Wrth i Robert Dafydd ei holi am ei brofiad crefyddol, fe ddeallodd yn fuan nad oedd nemawr o arwyddion crefydd arno. meddai Robert Dafydd wrtho, "D anwyl, machgian i, dwyt ti 'rioed wedi cael dy ddeffro." Ac fe brofodd ei ddywediad yn wirionedd; oblegid fe adawodd achos crefydd yn gwbl. Dywedai y diweddar William Jones, Abercaseg, Bethesda, ei fod yn ymddiddan â gwraig yn y seiat yn y Carneddi. Dynes gwerylgar ydoedd. Rywfodd, er heb gyfarwyddyd gan neb, fe ddeallodd Robert Dafydd pa fath un ydoedd, ac fe roes yr ymgeledd angenrheidiol iddi. Pan godwyd y diweddar Richard Thomas, Hendrebach, Pencoed, yn flaenor, dywedodd,—"Ni fydd byth yn edifar gyno chi ei godi o yn flaenor." Profodd ei fod yn graff iawn yn yr amgylchiad hwn; oblegid trodd y gwr hwnw allan yn un o'r blaenoriaid goreu.
Yr oedd John Williams, Llecheiddior, a Moses Jones yn gryn edmygwyr o Robert Dafydd. Cyfeirient ato yn fynych yn eu pregethau, ac yn y seiadau. Credwn mai dylanwad Robert Dafydd oedd llawer o'r gerwindeb a'r plaender oedd yn John Williams. Ac yr oedd Moses Jones, meddir, wedi cymeryd ei ddull o gadw seiat oddiwrtho. Nid yw hyn ond peth hollol naturiol. Dywedir fod dylanwad yr hen bregethwr hwnw, John Jones, Bodynolwyn, ar John Elias, a dylanwad Dafydd Cadwaladr ar Henry Rees. Dywedir mai efelychiad o John Jones, Bodynolwyn, oedd rhyw glec hynod oedd yn llais John Elias. Yr un fath am y codiad hynod a sydyn oedd yn llais Mr. Rees, dywedir mai efelychiad ydoedd o rywbeth tebyg yn llais Dafydd Cadwaladr.
Yr oedd rhywun wedi ein camarwain trwy ddweyd nad oedd Robert Dafydd yn gallu ysgrifenu. Yr oeddym yn teimlo ryw chwilfrydedd i wybod pa un ai gwir ai anwir oedd hyn. Yn ddiweddar cawsom bob sicrwydd ei fod yn gallu ysgrifenu yn dda. Gwelsom ei lawysgrif fwy nag unwaith, yr hon sydd yn llawysgrif gron a phrydferth. Diameu mai yn yr ysgol yn Meddgelert, gyda Robert Jones, Rhoslan, y dysgodd ysgrifenu. Gweler ei lawysgrif yn nechreu y llyfr.
Ni byddai hanes Robert Dafydd yn gyflawn heb roddi hanes ei hen ferlyn Jack, yr hwn oedd mor hynod yn myd y ceffylau ag oedd ei hen feistr yn myd dynolryw. Yr oedd wedi ei fagu yn llywaeth, meddir, a thrwy hyny yn llawn awydd am chwareu a brathu. Du oedd ei liw, ond fod rhan helaeth o'i ben yn wyn. Byddai rhyw fath o gymdeithas yn cael ei chynal rhwng y ddau. Llawer asiaradodd Robert Dafydd gyda Jack. Yn gyffredin ar ol pregethu yn nhaith Rhydyclafdy, Pentre ucha, a Phwllheli, cynhaliai seiat ddydd Llun yn Rhydyclafdy 10, Pentre ucha 2, a Phwllheli y nos, a lletyai yn gyffredin yn Mhensarn nos Lun. Byddai arno eisieu cyrhaedd seiat Brynengan erbyn deg neu unarddeg foreu ddydd Mawrth. Ac wrth gychwyn o Bensarn odid fawr nad rhyw awr o amser fyddai ganddo i fyned i Frynengan, a chyfarchai ei hen gydymaith,—"Wel, Jack bach, nid oes gen ti ddim ond awr o amser i fynd adre', tua naw milldir o ffordd." A llawer gwaith y gwnaeth y gorchestwaith hwn. Yr oedd yn dyfod i'r Pennant unwaith i bregethu, gan farchog ei hen ferlyn fel arfer. Digwyddai fod yno ffrwd o ddwfr wrth y ffordd, yn agos i chwarel Hendre ddu, ac aeth Jack ati i yfed o honi. Ac meddai Robert Dafydd wrtho, heb feddwl fod neb yn clywed,—"Ie, ŷf dy ora. Mae hi yn ddigon caled arnat ti; mae cryn bwysau arnat ti. Mae yma ddau beth bynag ar dy gefn di, yr hen ddyn a'r dyn newydd." Er fod Jack yn "geffyl yr hen bregethwr," eto mae yn bur amlwg fod llawer o gastiau yn perthyn iddo. Byddai John Williams, Llecheiddior, fel y cyfeiriwyd, yn hoff iawn o wneyd cyfeiriad at Robert Dafydd yn ei bregethau, &c. Cyfeiriai hefyd at geffyl Robert Dafydd weithiau. "Peidiwch," meddai, "a gadael i ryw bethau bychain eich llyffetheirio gyda chrefydd. Gwnewch yn debyg i hen geffyl Robert Dafydd. Wedi iddo gael ei garcharu â thenyn gwellt, fe orweddai ac fe'i cnoai, yna byddai yn rhydd i fyned i unrhyw borfa fras a fyddai yn ddewis. Gwnewch chwithau yn debyg." Yr oedd drwg—deimlad wedi magu rhwng Jack a Betti Marc, yr hen ferch a fyddai yn myned o gwmpas y wlad i gadw seiadau, yr hon oedd yn byw yn nhy capel Brynengan. Yr achos oedd y byddai hi yn rhwystro iddo gael gwair pan fyddai yn ystabl y capel. Penderfynodd yntau y dialai arni am hyn. Yr oedd yn myned trwy y cae lle yr oedd yn pori un diwrnod. Daliodd yntau hi, a rhwystrodd iddi fyned o'r cae am gryn amser, nes daeth rhywun wrth fyned heibio, ac a'i gwaredodd rhagddo. Rhoddodd Robert Dafydd fenthyg Jack unwaith i ferch ieuanc i fyned i ffair Pwllheli, yr hon a gynhelid ar ddydd Gwener. Dranoeth, yr oedd yn cychwyn i'w daith i Glynnog, ac wrth roddi y cyfrwy ar ei gefn gwelai friw arno. Edrychai arno yn ddifrifol a synedig, a dywedodd, "Wel, Jack bach, dyma beth ydy myn'di gario merched; chest ti 'rioed ddolur fel hyn wrth fy nghario i."
Dyma farn yr hen bregethwr craff a ffraeth hwnw, Griffith Solomon, am Robert Dafydd:— "Profiadol fel Cristion, ffyddlon yn ei le a'i alwad, hallt wrth ymdrin a chyflyrau dynion, gan rybuddio pawb yn gyhoedd ac yn ddirgel i beidio a boddloni ar grefydd heb Grist ynddi."
PENNOD VII.
Sylwadau a Dywediadau Robert Dafydd.
NID anyddorol gan y darllenydd, mae yn ddiau, fydd cael rhai o ddywediadau gwrthrych y llyfr hwn. Bydd hyny, efallai, cystal a dim i ddangos nodwedd ei feddwl a'i gymeriad.
Pan oedd llyfr Tonau Cynulleidfaol yn dechreu cael ei arfer, gofynodd rhywun iddo sut yr oedd yn hoffi y canu newydd. Dywedai yntau,—" Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gwaeddi am golli y maes, ond swn canu a glywaf fi."
Wrth bregethu ar ymddygiad yr Arglwydd Iesu at y wraig o Ganaan, dywedai,—"Yr oedd yn ei gwthio ymaith ag un llaw, ac yn ei thynu ato âr llaw arall. 'Nid da cymeryd bara y plant, a'i fwrw i'r cwn.' 'Mae y cwn yn bwyta o'r briwsion,' meddai hithau. Fe wyddai hithau mai canol y dorth oedd y goreu. Wel, hwda, hwda,' meddai Iesu Grist, 'dyma'r dorth iti i gyd, bydded iti fel yr wyt yn ewyllysio.'"
Pregethai unwaith ar "Caffed amynedd ei pherffaith waith." Sylwai fel yr oedd Moses yn myned i gyfryngu rhwng yr Aiphtwr a'r Hebrewr cyn i Dduw ei ordeinio a'i gymhwyso i'r swydd. "Yr oedd gan Moses rhyw ddwrn trwm, ac fe laddodd yr Aiphtwr. Gan hyny fe anfonodd Duw ef i dir Midian i fugeilio defaid, fel y dysgai amynedd a thynerwch."
A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem. "Na," meddai Petr, gan godi ei yswyddau, "Arglwydd anwyl, gad ini ddechreu yn rhywle arall, mewn rhyw gwm o'r golwg. Cofia nad oes ond ychydig er pan ddarfu iddynt groeshoelio Arglwydd y gogoniant yn Jerusalem."
"Na," meddai yr Arglwydd, gan ddechreu yn Jerusalem. Os ateba yr efengyl y diben yno Petr, ni raid iti ddim ofni ei mentro hi i'r holl fyd wed'yn."
Yr oedd ef a'r blaenoriaid yn amser y diwygiad, yn 1832, yn disgwyl gweled rhywrai oedd ar drothwy yr eglwys, megis, yn troi i mewn; ond yn groes i hyny, y rhai oeddynt hwy yn ddisgwyl leiaf, y rhai hyny oedd yn dyfod. Ac meddai ar ei weddi,—"Diolch iti, O Arglwydd, mae gen ti ddigon o allu i dynu dy etholedigion dy hun i mewn, pan y mae ein hetholedigion ni yn sefyll allan."
Dro arall pregethai ar Jonah iii. 10,—А gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, droi o honynt o'u ffyrdd drygionus; ac edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth. "Nid oes neb," meddai, "fel ein Duw ni am guddio beiau. Dim ond eu taflu o'r tu ol i'w gefn ef, mae efe mor dal fel na fedr yr un Saul, er ei fod yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na'r holl bobl, weled dros ei ysgwyddau ef. Ac ni fedr Gabriel chwaith, y mwyaf o'r angylion, weled y tu ol i'w gefn ef."
Dadleuai rhywun ag ef unwaith fod cwymp oddiwrth ras. "Ple," meddai, "yr oedd gras Petr pan yr oedd yn gwadu." "O," meddai Robert Dafydd, "oni bai fod gras ynddo, rhegi y buasai eto."
Sylwai un tro mewn seiat,—"Yr oeddwn i yn myn'd heibio boreu heddyw i un o'r ffermydd yma, a mi welwn ddyn yn toi tâs o wair. Gofynais iddo mewn syndod, Wil, i beth yr wyt ti yn toi y dâs a hithau yn dywydd mor braf? 'O!' meddai Wil, fe ddaw hi'n ddrycin.' Ac yn wir, welwch chi, yr hen Wil oedd yn ei le; erbyn y nos dyna hi yn wlaw mawr. Wel, mae yn ddigon priodol i rywun ofyn i minau—I beth mae'n da dyfod i'r capel fel hyn o hyd, a chadw cymaint o dwrw gyda'r grefydd yma? O, fe ddaw hi'n ddrycin eto, gyfeillion. Bydd yn dda cael tô eto."
Wrth anog y bobl unwaith i gyfranu at ryw gasgliad, dywedai,—"Dowch, bobl bach, ni raid i ch'i roi yn hir eto, mae swn hyrddod Nebaioth yr ochr draw i'r bryn yna; ac fe geir digon o frasder arnynt hwy."
Wrth ddiarddel un am briodi un o'r byd, dywedai, "Mari, Mari, yr wyt tithau fel Judas, pan gefaist y tamaid fe aethost allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi yn nos."
Dro arall ymddiddanai ag un newydd ddyfod i'r eglwys; a phan nad oedd yn cael ei foddhau ynddi o ran ei phrofiad, dywedai wrthi,—"Mae llawer o waith scwrio, a golchi, a sychu arnat ti cyn bod yn gymwys i eglwys Crist."
Ceryddai un arall am fyned o dŷ i dŷ i hel ystraeon am ei chymydogion, yr hyn a'i poenai yn fawr. "Yr wyt ti," meddai, "yn debyg iawn i falwoden, pa le bynag yr ai di, byddi yn sicr o adael ryw hen lys aflan ar dy ol."
Dro arall ceryddai am yr un pechod, gan ddweyd, "Yr wyf fi yn ofni fod llawer iawn o grefyddwyr yr oes hon fel cerig yn esgidiau gwraig yr Oen."
Yr oedd mewn seiat yn Nghapel Ucha, Clynnog, ryw bryd pan yr oedd achos crefydd yn bur isel yn y lle. Digon tebyg fod hyny cyn i Robert Roberts fyned yno, oblegid eglwys isel wywedig iawn ydoedd cyn ei fynediad ef yno. Yr oedd y bobl a'u penau i lawr, a golwg ddigalon iawn arnynt, fel pe buasai ryw afiechyd blin arnynt. Cododd Robert Dafydd ar ei draed yn sydyn, a dywedodd yn gynhyrfus,—"Yn enw Duw anwyl, beth sydd arnoch ch'i, bobol? Oni wyddoch ch'i o'r gora fod Iesu Grist wedi ei eni yn Methlehem, ac wedi byw yn Nazareth a Chapernaum? Oni wyddoch ch'i ei fod wedi bod yn ing Gethsemane, ac wedi dioddef poenau y groes ar Galfaria? Ac oni wyddoch ch'i ei fod wedi ei gladdu, ac wedi adgyfodi y trydydd dydd, ac esgyn i'r nefoedd, a'i fod yno yn eiriol trosom?" Aeth trwy yr hanes ryfedd yn lled fanwl, a chyn ei fod wedi gorphen, dywedir ei bod yn orfoledd mawr yn y lle.
Arferai weddïo gweddi fer yn fynych ar ganol pregethu, "Duw anwyl,—achub y bobol, c[i]adw'r bobol."
Ymadrodd a ddefnyddiai yn fynych yn ei bregeth ac yn y seiat oedd,—"Hen gomin llwm iawn ydi comin y cythraul," gan dynu ei fysedd trwy ei wallt mawr.
Dywedai yn fynych wrth bregethu am bobl fyddai yn gwasanaethu'r diafol, nad oedd gan y diafol ei hun ddim gwell lle na gwely o dân."
Yr oedd Morgan Howells yn pregethu gyda hwyl anghyffredin un tro yn Mrynengan. Ar y diwedd, gofynai Robert Dafydd,—"Wel, tybed y bydd hi yn well yn y nefoedd nag oedd hi yma heddyw?"
Yr oedd sôn am Moses Jones cyn iddo ddechreu pregethu, ei fod yn meddwl am hyny, ac meddai Robert Dafydd wrtho un noswaith,—"Tyr'd yma i'r fan yma i dreio dy law, os wyt ti yn meddwl rhywbeth ohonot dy hun."
Dywedai unwaith wrth ofyn bendith ar ei ymborth,—"Diolch i ti, O Arglwydd, am dy drugareddau i ni yn feunyddiol. Nid fel hyn y mae hi yn uffern; na, gwae sydd yno i frecwast, gwae i ginio, a gwae i swper."
Daeth boneti gwynion i'r ffasiwn pan yr oedd ef mewn gwth o oedran, ac yr oedd yn erwin yn eu herbyn. Yr oedd yn cadw seiat yn Rhydyclafdy, ac wrth fyn'd oddiwrth y naill at y llall, daeth at wraig a bonet gwyn ganddi; ac meddai, —"Wel, beth dd'wedi di y bonet gwyn."
Trowyd merch iddo allan o'r seiat, am briodi un o'r byd, os ydym yn cofio yn iawn. Wedi iddi ddyfod yn ol i'r seiat aeth Robert Dafydd ati i ymddiddan â hi, a chan nad oedd yn gweled digon o arwyddion edifeirwch arni, dywedodd wrthi, "Dos allan, Neli, nes y byddi di wedi edifarhau digon. 'Dwyt ti ddim yn ddigon sâl eto." Ас allan y bu raid iddi fyn'd o gapel Brynengan, gan fyned trwy y drws oedd wedi ei neillduo i hyny, sef y drws agosaf i'r ty capel.
Pan yr oedd y bobl gryn lawer ar wasgar mewn seiat yn Mrynengan, dywedai,—"I ba beth yr ydych chi'n myn'd mor bell oddiwrth eich gilydd? Yr ydach ch'i fel lot o hen fawn gwlybion fel yna, thaniwch chi byth. Dowch dipyn yn nes at eich gilydd, mi gynheswch wed'yn. Os bydd marwor ar wasgar, fe ddiffydd y tân yn union, ond heliwch o at ei gilydd, fe dania ac fe fflamia yn fuan iawn."
Pan fyddai rhywun yn dyfod yn ol i'r seiat wedi bod yno o'r blaen, os byddai y cyfryw yn teimlo ei fod wedi cael cam, dywedai Robert Dafydd wrtho, dan grafu ei ben,—"Yn is na hyna mae'r glicied."
Yr oedd amryw wedi priodi yn amser y Diwygiad (1831—2) yn ardal Brynengan. Nid oedd hyn yn hollol wrth fôdd Robert Dafydd. Ac mewn seiat, dywedai,—"Ni wel'is i ddim diwygiad erioed yr un fath a hwn. Mae y bobol yn priodi yn nghanol poethder y diwygiad." Cydiodd Daniel, ei fab, yn nghynffon ei goat, a rhoddodd blwc arni. Yr oedd efe newydd briodi ei hun, ac yr oedd arno ofn i'r hen wr ddweyd rhywbeth annheilwng ohono ei hun. Cofier fod gwendidau henaint wedi ymdaenu drosto y pryd hwn.
Yn y byd gorthrymder a gewch. "Ond peidiwch ag ofni fy nisgyblion; mi roes i y ffrwyn yn ei ben, ac mae'r awen yn fy llaw; ac felly ni chaiff eich lladd:" cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.
Yn hanes yr hen wraig dduwiol, Catherine Griffith, y Penrhyn, dywedir—"Dechreuodd ei hoes yn Nolgellau. Yr oedd ei gwr yn feddw, hithau a aeth i werthu bara, a byddai yn gwneyd hyny ar y Sabboth; ac argyhoeddwyd hi o ddrwg hyny gan y person. Yn fuan cyfarfu a dau ddyn dieithr (Robert Dafydd a John Pierce) ar y ffordd yn myned i Langeitho. Meddyliodd wrth eu golwg eu bod yn dduwiol. Gofynodd am gael siarad â hwy, i ofyn a oedd drwg am werthu bara ar y Sul. Cynghorasant lawer arni. Dywedodd un o'r ddau wrth ymadael â hi—"Oni newidiwch eich ffordd chwi a fyddwch yn uffern mor sicr a bod fy llaw i ar y llidiart yma." Cafodd y geiriau effaith ddwys ar y wraig. Ac nid oes dim dadl nad Robert Dafydd a ddywedodd y geiriau, oblegid y mae ei ddelw arnynt. Ac nid oes dim o ddelw John Pierce arnynt, oblegid gwr llwfr a thyner oedd efe.
PENNOD VIII.
BLYNYDDOEDD OLAF ROBERT DAFYDD.
Yn dirf, yn iraidd, ac yn fywiog, yn ei henaint.—Marwolaeth ei wraig.—Sasiwn Caernarfon, yn y flwyddyn 1830.—Pregeth hynod John Elias.—Gweddio am Ddiwygiad.—Diwygiad 1831—2.—Magu y dychweledigion.—Y Diwygiad yn dechreu yn Mrynengan.—Pregeth hynod Henry Rees,—Y cyntaf ("Gad") a ddychwelwyd.—Dewi Wyn.—John Owen, Ty'nllwyn, a'i chwaer.—Robert Roberts, Hendre Cenin.—Pregeth hynod John Elias yn Sasiwn Pwllheli. —Y Diwygiad yn ymledu.—Mari Prisiart a Morgan Howells.—Pregeth John Peter, y Bala, yn Mrynengan.—Ardal Brynengan yn adsain gan swn y Diwygiad.—Y Colera.—Diwygiad Brynengan."—Dyryswch henaint.—Y gadair y bu farw ynddi.—Ei farwolaeth, ei gladdedigaeth, a'i feddargraff.
GELLIR dweyd am Robert Dafydd ei fod mewn gwirionedd yn dirf ac yn iraidd yn ei henaint. Dywedai yr hen flaenor rhagorol hwnw, y diweddar Robert Roberts, Penybryn, Boduan, am dano,—"Byddai rhyw wlithyn ar ei ben o bob amser, yn enwedig ar weddi." Er iddo gael byw i fyned yn 87 mlwydd oed, eto daliodd yn fywiog ac yn weithgar gyda chrefydd i ymyl ei ddiwedd. Claddwyd ei wraig ar ddydd Sadwrn, pan yr oedd efe yn ymyl bod yn 81 mlwydd oed. Aeth ar ei union o'r angladd i'w gyhoeddiad at y Sabboth i rywle yn Lleyn. Yr oedd yn Sasiwn Caernarfon, Medi yr 17eg, 1830, pan yn 83 oed. Aeth yn wlaw mawr ar ol iddynt ddechreu pregethu ar y maes, fel y bu raid myned i gapel Moriah. "A phwy oedd yn fy ymyl," meddai fy hysbysydd, "wedi dringo grisiau uchel capel Moriah, ond yr hen Robert Dafydd a'i ben gwyn." Yn yr odfa hon y cafodd John Elias un o bregethau hynotaf ei oes, pan y pregethai ar y "gwas anfuddiol," ac y gwaeddai John Williams, Llecheiddior, meddir, fel pe buasai "dwca yn ei wddf." Gwaeddai â'i holl nerth,—"O bobl anwyl, i ble yr ai?" Neidiodd o'r sêt fawr i'r passage, fel dyn gwallgof, gan redeg fel gwr ar ddarfod am dano. "O frawd bach," meddai William Havard, "miwni i ble yr â i, i'r un fan ag y bum i ganwaith—at Iesu Grist." Pan yn 82 oed dechreuodd weddio am gael gweled diwygiad cyn marw, a chafodd ei ddymuniad. Y diwygiad hwnw oedd yr un a dorodd allan yn 1831 a 1832. Yr oedd ganddo bregeth nodedig yr un adeg ar y gair hwnw,—"Eithr mi a ymwelaf a chwi drachefn" (Ioan xvi. 22), yr hyn sydd yn dangos mai ar hyn yr oedd ei holl galon a'i holl ddymuniad. Bu hyn yn destyn ei weddiau dirgel bob dydd am ddwy flynedd. Ai i'w ystafell bob dydd gyda'r neges yma yn arbenig. Yr oedd ganddo gongl yn ei ardd hefyd lle yr arferai wneyd hyn. Clywyd ef lawer gwaith gan ei deulu a'i gymydogion yn ymdrechu â Duw gyda'r neges yma ganddo. Arferai enwi yr amaethdai yn y gymydogaeth yn ei weddïau, a gweddiai ar i'r Arglwydd achub eu preswylwyr. "Ti a wyddost," meddai, "O Arglwydd, fod yma rai tai a'r addolwyr a fu ynddynt wedi meirw, a bod yr hen allorau wedi eu bwrw i lawr. O fy Nhad, gad i mi weled un diwygiad eto cyn marw; gad i mi weled fy nghymydogion wrth y degau yn troi eu hwynebau i dy dŷ, dan gerdded ac wylo; ac os caf, mi fyddaf foddlon i farw y fynud a fynot di." "A chlybu yr Arglwydd weddi ei was" yn hyn; cafodd fyw i weled tua 140 yn ymofyn am le yn nhy Dduw yn Mrynengan. Pan ddaeth y cyntaf o'r nifer hwn, dywedodd Robert Dafydd, fel mewn ysbryd prophwydoliaeth,—"Gad ydi o, mae llu yn dyfod." Bachgen ieuanc, pengoch, llawn bywyd a direidi ydoedd hwn. Yn nechreu y Diwygiad yr oedd y Parch. Henry Rees, Amwythig, y pryd hwnw, yn pregethu yn Mrynengan, gyda'r egni, a'r llafur, a'r difrifwch oedd mor nodedig ynddo. Mor egnïol ydoedd fel yr oedd ei chwys yn rhedeg yn ffrydiau ar hyd ei ruddiau prydferth. Arhosai am enyd ar adegau i gael ei anadl, gan mor lafurus ac egnïol ydoedd. Ar un o'r cyfyngau hyn rhoddodd y bachgen pengoch floedd anarferol, a'r cyfleusdra cyntaf a gafodd aeth i'r cyfarfod eglwysig. Yr oedd yn gwasanaethu gyda'r prif-fardd Dewi Wyn, yn y Gaerwen. Cynhelid y seiat y pryd hwnw yn Mrynengan, fel y cyfeiriwyd o'r blaen, yn y dydd, am un ar ddeg o'r gloch foreu Mawrth; ac felly gofynodd ganiatâd ei feistr i fyned yno. "Cei," meddai yntau, "os byddi di rywfaint yn well wedi myned yno," gan awgrymu fod yn ddigon rhaid iddo fod yn well, ac heb wybod fod dim cyfnewidiad arno. A dyma flaenffrwyth y Diwygiad, fel y cyfeiriwyd. Ar ol hyn ei neges yn yr hen ystafell oedd, "O Arglwydd, gad imi gael byw flwyddyn eto i fagu y plant yma." Caniatawyd ei ddymuniad yn hyn hefyd, a bu fyw ddwy flynedd ar ol hyn. Ymddiddanodd â nifer fawr o'r dychweledigion hyn, a gofalai am danynt fel pe buasent yn blant iddo. Sylwai a chraffai ar eu dull yn dyfod i'r eglwys. Os na byddai arwyddion arnynt eu bod wedi bod o "dan Sinai," chwedl yntau, byddai yn lled amheus o honynt. Pan ofynodd i'r diweddar Barch. John Owen, Ty'nllwyn, beth oedd ar ei feddwl ef, dywedai yntau, "Nid oes dim neillduol ar fy meddwl i rwan, mae pethau mwy wedi bod. Mae yr addewid hono ar fy meddwl,—Ac Arglwydd y lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win; o basgedigion breision, a gloyw-win puredig.' Yr oeddwn i yn meddwl mai yma yr oedd y wledd. Ac mi ddois i i'r seiat, rhag ofn imi fyn'd heb deimlo dim." "Но," meddai yntau yn bur ddiflas ac amheus. Yr oedd ei chwaer, Mrs. Humphreys, y Gesail, yn fwy cymeradwy yn ei olwg, gan ei bod hi yn gyffrous iawn, ac yn gorfoleddu braidd yn mhob cyfarfod. Un o'r un stamp â Mr. Owen oedd y diweddar Mr. Robert Roberts, Hendre Cenin. Ac wrth ei weled yn lled ddigyffro yn dyfod i'r seiat, dywedodd Robert Dafydd,—"Fuost ti ddim yn synu, dywad, na buasai Duw wedi dy yru at gythreuliaid pan yr oeddat ti yn ei swagro hi tua Lloegr yna?" Yr oedd Mr. Roberts newydd ddyfod adref ar ol bod yn yr ysgol yn Nghent. Ymysg yr 140 uchod yr oedd lliaws ereill a droisant allan yn wyr rhagorol iawn. Adwaenom dri o leiaf sydd yn awr yn fyw, ac yn flaenoriaid eglwysig, sef Mri. Morris Prichard,[14] Llandudno; Richard Griffith, Nebo, Llanllyfni; a Griffith Williams, Brynengan. Ac y mae y tri yn fyw iawn i helyntion y diwygiad hwnw, yn eu cofio yn dda, ac yn gallu eu hadrodd gydag eneiniad, er eu bod wedi cymeryd lle ers dros driugain mlynedd.
Efallai nad annyddorol gan y darllenydd fydd olrheiniad manylach o hanes dechreuad a dygiad yn mlaen y diwygiad hwnw, gan fod cysylltiad mor agos rhyngddo â'r hen batriarch, Robert Dafydd. Ei gychwyniad cyntaf oedd pregeth fythgofiadwy John Elias yn Sasiwn Pwllheli, Medi 16, 1831, ar y gair hwnw, "Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion, a ffoed ei gaseion o'i flaen ef." Yroedd y bregeth hono fel daeargryn sydyn yn nghanol tawelwch mawr. Gellir dweyd yn briodol iawn am yr adeg hono,—"Y ddaear oedd yn eistedd ac yn llonydd;" ond "wele, bu daeargryn mawr." Clywsom hen frawd hynod o Borthmadog—Hugh Owen, 'Rhen dy, wrth ei enw yn dweyd am y bregeth hon, "Mi bregethodd John Elias y pryd hwnw yn Sasiwn Pwllheli nes yr oedd sir Gaernarfon yn crynu drwyddi, a dydi hi byth wedi dyfod ati ei hun." Yr wythnos ddilynol yr oedd John Elias yn pregethu yn Mrynengan; a dywedir fod nifer mawr, o Bwllheli a'r amgylchoedd wedi dyfod ar feirch ac mewn cerbydau i wrando arno, er fod y pellder oddeutu naw milldir o ffordd. Ymledodd y dylanwad yn fuan i Leyn. Cerddodd oddiyno i Eifionydd. Ac ar ddydd Jubili yr Ysgol Sabbothol, yr hwn oedd hefyd yn ddydd diolchgarwch, yn nghapel Bontfechan, ger Llanystumdwy, Hydref 14, torodd allan yn ddiwygiad grymusiawn. Teimlwyd yr un dylanwad nerthol yn Mrynengan, braidd yn yr un dyddiau, trwy bregeth y Parch. Henry Rees. Yn fuan yr oedd cyfarfod gweddi mewn ty o'r enw Pensarn uchaf. Hen wraig wresog o'r enw Mari Rhisiart, Pensarn, a geneth fechan, gwan hen a gwan ieuanc, a fethasant beidio tori allan i lefain yn y cyfarfod hwn. Gyda llaw, dyma'r hen wraig a ymgripiodd wrth ei dwy ffon, tua dau led cae, i gyfarfod Morgan Howells, wedi iddo fod yn pregethu yn Mrynengan, ac yn casglu at ei gapel yn Casnewydd. "Dyma i chi swllt," meddai, "at ddwyn yr arch i'w bro ei hun." Gwnaeth stori yr hen wraig lawer at chwyddo casgliad Morgan Howells. Yr oedd y teimlad yn dwyshau o hyd hyd ddechreu Ionawr, 1832. Yr oeddis wedi cyhoeddi Thomas Owen, Llangefni, i fod yn pregethu yno un Sabboth, Ionawr 8, 1832; ond gwnaed camgymeriad gan rywun, ac ymhen yr wythnos y daeth efe i'w gyhoeddiad, ac mewn cyfarfod gweddi a gynhelid yn lle yr odfa hon torodd allan yn orfoledd anghyffredin iawn. Yr oedd y diweddar William Hughes, Bangor, a John Roberts, Ynysdyfnallt, ger Bryncir, yn methu ymatal heb lefain yn nghourt y capel, ac ar eu ffordd adref. Yn mhen ychydig ddyddiau yr oedd John Peter, y Bala, yn pregethu yno, ar y gair hwnw,—"Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau." A'r fath oedd y dychryn a'r arswyd oedd wedi dal pawb oedd yn y lle fel y torodd allan yn un waedd gyffredinol, fel na chafodd y pregethwr lefaru ond am ychydig fynudau. Aeth y diwygiad rhagddo drwy y gauaf a'r gwanwyn dilynol gyda nerth mawr, ac ymledodd trwy holl eglwysi Eifionydd. Yr oedd yn boeth iawn yn ardal Bwlchderwin. Clywsom Mr. William Griffith, Terfynau, Bwlchderwin, yn dweyd ei fod yn gwrando ar John Jones, Tremadog, yn pregethu yn Mwlchderwin, yn nghanol poethder y diwygiad. Ac y mae yr olygfa a welodd yn nrws y capel, wrth ddyfod allan, yn fyw yn ei feddwl hyd y dydd hwn—pedwar bachgen pen-goch, pen-noeth, yn gorfoleddu ac yn neidio yn nghourt y capel. Gallem feddwl mai Mri. R. Griffith, Nebo, M. Prichard, Llandudno, a'r "bachgen pengoch" oedd yn flaenffrwyth "Diwygiad Brynengan" oedd tri o'r pedwar. Bu awyrgylch yr ardal yn adsain gan sain cân a moliant am wythnosau lawer. Gellid clywed oddiar fynydd y Cenin gerllaw, liaws bob nôs am wythnosau mewn ymdrech â Duw yn y meusydd islaw. A byddai sŵn y naill yn cyraedd y llall; a'r diwedd fyddai cynal cyfarfod gweddi gyda'u gilydd. Ac wedi i'r gwahanol bentewynion ddyfod at eu gilydd, y canlyniad fyddai fod yno dân gwresog, yn cyneu ac yn fflamio am oriau lawer. Yr oedd Mawrth yr 21, wedi ei benodi yn ddydd o ympryd ac o ymostyngiad o achos y colera, a chyfarfodydd gweddi yn cael eu cynal yn holl gapelau y wlad. "A'r fath oedd yr arswyd," meddai y diweddar Barch. Robert Ellis, Ysgoldy, feddianai bawb, fel y caed pob llan a chapel yn llawn am y diwrnod hwnw bid a fo. Bu ymweliad y pregethwr arswydus hwn yn foddion i brysuro yr adfywiad crefyddol, yr hwn oedd eisoes wedi dechreu ymdaenu tua Lleyn ac Eifionydd, trwy ddifrifoli meddyliau dynion, a'u deffroi i ystyriaeth o'u perthynas â byd arall." Gelwid y diwygiad hwn, er mwyn ei wahaniaethu oddiwrth ddiwygiadau ereill, yn "Ddiwygiad Brynengan." Gelwid ef felly, mae yn debyg, oblegid iddo gael gafael ddyfnach yn yr ardal hon nag mewn un ardal arall.
Cynyrchodd y diwygiad hwn rai duwiolion digyffelyb ymron. Cyrhaeddodd ambell un ohonynt yr hafan ddymunol yn fuan, ac yn eu llawn hwyliau. Cafodd eraill ohonynt wyntoedd croesion, ond y maent er's llawer blwyddyn wedi dianc allan o gyraedd yr ystormydd a'r tonau i gyd am byth. Gwelodd yr ysgrifenydd nifer ohonynt; a chlywodd am eraill nas gwelodd â'i lygaid. Clywodd am rai gwragedd nodedig iawn. Ymysg y lliaws "gwragedd sanctaidd" ag yr oedd hynodrwydd mawr ynddynt yn y diwygiad hwn, yr oedd un yn arbenig felly, sef Miss Margaret Jones, Mynachdy—gwyn, yr hon oedd yn fodryb chwaer eu mam i Mr. Owen Jones, Talsarn, a'r diweddar Mr. W. Ll. Jones, Henllan. Llawer a glywsom yr hen bobl yn sôn am "Margiad Mynachdy,"—oblegid dyna fel y galwent hi,—a'u gwynebau yn lloni, a'u llygaid yn llenwi. Yr ydym yn gofidio erbyn hyn na buasem wedi cofnodi pob gair a ddywedasant am dani. Mynych y gwelwyd hi yn nhy Dduw fel Hannah, yn ymddangos fel meddw, wedi yfed o'r gwin o seler Duw; ac fel hithau, ei chalon yn llawenychu yn yr Arglwydd, ei chorn wedi ei ddyrchafu, ei genau wedi ei eangu, ac yn llawenychu yn iachawdwriaeth Duw. Prin yr oedd yn un ar bymtheg oed pan yr oedd y diwygiad yn ei boethder mwyaf, ac eto yr oedd yn hynotach na braidd neb yn y lle. Yr oedd Thomas Owen, Llangefni, yn pregethu yma un Sabboth yn yr adeg hon, ar "Beth a dybygwch chwi am Grist?" A rhwng gwres ysbryd yr hen bregethwr tanbaid a gwres y dychweledigion, yr oedd awyrgylch grefyddol y lle wedi cyraedd graddau uchel iawn. Wedi galw seiat ar ol daeth yr hen bregethwr o'r pwlpud i ganol y llawr, yn ol yr arfer y pryd hwnw; a'r peth cyntaf a ddywedodd mewn llais uchel oedd, "Beth dybygwch chwi am Grist"? gan roddi pwyslais ar y gair "chwi." Ar y gair gwaeddodd y ferch ieuanc uchod gyda llais tyner ac effeithiol, gan gofleidio y pregethwr, "Mai priod fy enaid ydyw." A chyda'r gair dyma'r trydan nefol yn cyffwrdd â phawb oedd yn y lle, fel nad oedd yno neb heb deimlo y dylanwad. Aeth rhai i wylo, eraill i orfoleddu, ac eraill i ganu
"Ffarwel bellach bob eilunod,
Iesu mhriod aeth a mryd."
Meddai yr hen flaenor hynod Mr. Richard Griffith, Nebo, Llanllyfni, am dani: "Yr oedd yn ddiarhebol mewn duwioldeb. Gorfoleddodd lawer; a byddai rhyw ddylanwad trydanol yn ei llais. Pan fyddai eraill yn gwaeddi Sinai, Calfaria fyddai ei chân a'i hateb hi. Clywais hi yn gwaeddi allan unwaith, Os collais y ddelw yn Eden, mae y gwaith a wnaed ar Galfaria yn abl i'w rhoi yn ol er hyny." Er yn eneth ieuanc, o un ar bymtheg i ddeunaw oed, cadwai ddyledswydd deuluaidd foreu a hwyr mewn teulu lliosog nad oedd neb yn proffesu crefydd ynddo. Fel llawer eraill mewn adeg o ddiwygiadau grymus, derbyniodd gymaint o'r dylanwadau dwyfol ar ei hysbryd nes ysigo ei chorph. Gwywodd i'r bedd yn ieuanc, a bu farw yn 30 oed, yn y flwyddyn 1846.
Mor hoff oedd Robert Dafydd o'r seiat hyd yn nod yn ei flynyddoedd a'i fisoedd olaf fel, os na allai ddyfod iddi, byddai raid iddynt ddyfod i gadw seiat iddo yn ei dŷ, yn Nhyddyn Ruffydd. Mor ddefosiynol ei ysbryd ydoedd fel y byddai raid iddo gael myned ar ei liniau ar weddi yn y cyfarfod, er na allai godi heb i ddwy o wragedd ei helpu i godi, un o bob tu iddo. Adroddir fod un o'r enw Griffith Roberts, yr hwn oedd flaenor yn y lle, yn dweyd ei brofiad yn un o'r cyfarfodydd hyny. Gôf oedd y gwr hwn, ac yr oedd newydd symud ar y pryd i ffarmio i amaethdy o'r enw Bwlchgwyn. Yr oedd yn wr da, ond yn nghanol ei drafferthion cwynai y pryd hwn ei fod yn ofni fod ei feddwl a'i ysbryd yn myned yn ddaearol ac yn fydol. Yr oedd Robert Dafydd yn digwydd bod yn ei ymyl ar y pryd. "Cododd Robert Dafydd ei law fawr," medd fy hysbysydd, "a tharawodd ef ar ei gefn yn drwm, gan ddweyd, 'Altra ditha', machgian i.' "
Yn ei fisoedd olaf yr oedd yn dyrysu ychydig weithiau, gan henaint a gwendid. Dywedai rai pethau doniol a digrifol ar yr adegau hyny. Coffheir rhai o'r dywediadau hyny gan Dr. William Rees yn Aelwyd F'ewythr Robert. "Mi glywis sôn am hen byrgethwr efo'r Methodistiaid yn sir Gyrnarfon, ebe Rhys Puw. Rhydach chi'n peru imi gofio am dano fo, wrth sôn am y cybyddion yma, Robert Dafydd oedd gelwir o—mae gen i beth co am dano fo. Mi fydde rhên wr yn trin y cybyddion yn yrwinol bob amser. Yr oedd o wedi mynd yn bur hen cyn marw, ac wedi drysu gan henaint a gwendid; a phyrgethu bydde fo yn y gornel o hyd. Mi gode i fynu, ac mi gymre arno ddarllen pennod, a rhoi gair i ganu, ac ono gweddio a phyrgethu. Mi fydde yr hen wr yn meddwl i fod o yn y capel. Weithie y cymre fo'r Beibil, ac weithie hebddo fo. Mi 'naeth lawer iawn o sgythyre 'i hun, ac mi fydde rhwbeth am y cybyddion yn y rhan fwya o'r rhai fydde fo'n 'neyd. Mi 'roedd o'n darllen un tro, ac mi ddaeth ar draws 'i hen lynion, a mi naeth sgythyr iddyn nhw. Fel hyn 'roedd hi,—'Ac efe a gasglodd yr holl gybyddion, ac a'u hanfonodd at Pharo Neco, brenin yr Aipht, ac efe a'u gorthrymodd hwynt.'"
Ychydig cyn ei farwolaeth symudodd o'i hen gartref, Tyddyn Ruffydd, at ei fab, Robert, i dŷ capel Brynengan, ac yno y bu farw. Ni wybu nemawr ddim am afiechyd ar hyd ei oes faith. Bu farw yn sydyn ar ei eistedd yn ei gadair. Bu y gadair hon yn aros yn y ty capel am lawer blwyddyn, ond symudodd oddiyno gyda'r rhai olaf o'r teulu, ac y mae yn awr gan Mr. Hugh Jones, Rhandir, Groeslon, priod yr hwn sydd o'r teulu. Yn y capel y bu ei weddillion yn gorwedd hyd ddiwrnod yr angladd. Traddodwyd pregeth yn y capel noson ei wylnos, ond ni chawsom wybod pwy oedd y pregethwr na pha beth oedd y testun. Claddwyd ef yn mynwent yr Eglwys yn Llangybi; ac y mae rhai yn fyw eto yn cofio y canu hynod oedd ar hyd y ffordd, ac yn mhentref Llangybi, a'r teimlad dwys oedd yn yr angladd. Y mae careg ar ei fedd, ar ba un y mae yr argraph ganlynol:
"Yma y gorwedd corph
Robert Dafydd
o
Dyddyn Ruffydd,
Yr hwn a fu yn bregethwr ffyddlon
yn mysg y Trefnyddion Calfinaidd,
am 61 mlynedd.
Bu farw Ebrill 17, 1834,
yn 87 oed.
Nodedig ei ddawn nid ydoedd,―er hyny
Rhanai fara'r nefoedd
O'i law aur i laweroedd;
Offeryn Duw a'i ffrynd oedd."
PENNOD IX.
EI DDISGYNYDDION.
Ei blant.—Ei fab a'i ferch yn nghyfraith.—Ei wyrion, ei orwyrion, &c.
BU ganddo deulu lliosog: bu iddo ddeg o blant, a thyfasant bron i gyd, os nad oll, i gyflawn faintioli. Bu iddo chwech o leiaf o feibion. Ni rodiodd dau ohonynt beth bynag—William a Sion—yn llwybr eu tad, er fod llawer o dalent eu tad ynddynt. Bu dau arall—Enoch a Dafydd—farw yn lled ieuanc, un yn y fyddin a'r llall yn yr hospital. Cafodd ddau lythyr gyda'r un post yn hysbysu am farwolaeth y ddau, yr hyn a fu yn ergyd drom iddo. Y ddau arall—Daniel a Robert —a fuont wyr defnyddiol yn eu hoes. Bu Daniel Roberts yn flaenor medrus a galluog yn Mrynengan am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn wr darllengar iawn, a chasglodd gryn lawer o lyfrau yn ei oes. Cymaint oedd ei wybodaeth dduwinyddol fel y byddai pregethwyr ieuainc yn arswydo pregethu yn ei wydd. Cadwai ysgol ddyddiol yn Mrynengan am ryw ysbaid o amser. Bu am ysbaid yn awyddus am fyned i bregethu. Byddai bob amser ar hyd ei oes yn esbonio y bennod wrth ddechreu y cyfarfodydd. Yr oedd gan Dr. Owen Thomas feddwl uchel ohono, a pharch mawr iddo. Clywsom ef yn dweyd fod ganddo doraeth anarferol o hanes yr hen Fethodistiaid, a bod yn resyn na buasai rhywun wedi eu hysgrifenu a'u cadw mewn coffadwriaeth. Fel hyn y cyfeiriai ato yn Nghofiant John Jones, Talsarn, tud. 823:"Clywsom hen flaenor call yn Mrynengan, Daniel Roberts, mab i'r hen bregethwr Robert Dafydd, yn adrodd am dano [sef Robert Roberts, Clynnog], unwaith yno. 'Chwi wnaethoch imi gofio yn y capel yna,' meddai, 'am Robert Roberts. Yr oedd o yn pregethu yma, a'r nefoedd yn tywallt ar ei ben, ac am ben y gynulleidfa. Ond rywbryd ar y canol, dyna fo yn troi at y pared, ac yn gwaeddi, —' Atal, Arglwydd; cofia mai enawd ydwyf; cofia nas gallaf fi ddal gormod!' Ac yna, dyna fo yn troi atom ninau, ac yn gwaeddi allan ar frig ucha'i lais,—'Gogoniant am obaith boreu y byddaf fi wedi fy nghylchio ag anfarwoldeb; y gallaf fi ddal fy llon'd o'r Duwdod heb gracio byth!" I Daniel Roberts felly yr ydym yn ddyledus am fod yr hanes hwn ar gael. Bu farw Medi 18fed, 1842, yn 53 oed, wedi bod yn flaenor yn Mrynengan am ddeunaw mlynedd. Er nad oedd ei fab arall, yr hwn oedd o'r un enw ag ef ei hun, Robert, mor alluog â Daniel, eto yr oedd yn un nodedig mewn duwioldeb a lledneisrwydd ysbryd.
Cyfeiriwyd fwy nag unwaith yn nghorph y llyfr hwn at Rhisiart William, y pregethwr. Yr oedd efe yn briod a merch i Robert Dafydd. Yr hyn sydd wedi gosod hynodrwydd arno ef ydyw mai efe oedd yr offeryn a ddewisodd y nefoedd i gychwyn y diwygiad mwyaf grymus a fu yn Nghymru erioed — "Diwygiad Beddgelert." Ni bu yn wiw gan neb yn ystod ei fywyd gymaint a chysylltuei enw â'r diwygiad hwnw, mewnargraph, er iddo gael byw lawer blwyddyn ar ol hyny, ac er i'r hanes gael ei gyhoeddi. Ac am lawer blwyddyn ar ol ei farw dyma y cwbl a gyhoeddwyd am dano: "Richard Williams, Brynengan; ffyddlawn a diniwed, ac anwyl oedd efe yn ei ddydd." Ond tra fyddo crefydd a diwygiadau Cymru mewn bri,—a gobeithiwn a chredwn y bydd hyny ddyddiau y ddaear,—fe fydd enw Rhisiart William ar gael.
Ganwyd a magwyd ef yn ardal Bwlchderwin, mewn lle o'r enw Foel Derwin, yn y flwyddyn 1781. Tarddai o deulu oedd yn teimlo yn gynes at grefydd ac addysg; oblegid un o'i hynafiaid ef oedd Catrin ach Rhisiart, yr hon a fu yn foddion dychweliad y Methodist cyntaf yn ardal Brynengan. Ac fel y cyfeirir mewn rhan arall o'r llyfr hwn bu yma un o ysgolion Griffith Jones, Llanddowror, am ysbaid. A'i deulu ef oedd perchenogion y lle; ac felly yr oeddynt yn gallu rhoddi croesaw i grefydd ac addysg heb ofni erledigaeth. Tlawd er hyny oedd ei deulu, a thlawd oedd yntau. Pan yr oedd yn blentyn bychan taenodd tad a mam y Parch. Richard Jones, y Wern, eu hadenydd drosto, a chymerasant ef i wasanaethu i Coedcaedu. Ond oblegid ei fod yn rhy wanaidd o gorph i wasanaethu amaethwyr, rhoddasant ef yn brentis o wehydd gyda Robert Dafydd. Drwy hyny yr oedd wedi myned yn bur gartrefol yn Coedcaedu, a phawb o'r teulu yn bur hyf arno. Hyd yn nod wedi iddo ddechreu pregethu yr oedd yr hen enw yn glynu ynddo——Dic William. Yr oedd hyn yn dipyn o flinder i Risiart William. Ac un tro wedi i wraig y ty ei alw wrth yr enw hwnw trodd ati yn bur chwyrn, a dywedodd wrthi,—"Sian Jones, mae'n rhaid ich'i beidio fy ngalw i yn Dic William; rhaid i ch'i gofio fy mod i yn bregethwr, ac y mae y plant yma yn sylwi."
Dyn eiddil, gwanaidd, ydoedd; ac yn hytrach yn fychan o faintioli. Yr oedd diniweidrwydd yn elfen amlwg yn ei gymeriad. Bu yn "gyfaill" lawer gwaith i'r Parch. Simon Llwyd, y Bala; ac yr oedd y ddau yn nodedig o hoff o'u gilydd. Llawer gwaith y gwelwyd y ddau wedi sefyll ar y ffordd: Simon Llwyd yn traethu ar ddirgeledigaethau llyfr y Datguddiad, a Rhisiart William yn gwrando mewn syndod ac edmygedd. Yr oedd John Jones, Tremadog, yn dipyn o feistr Rhisiart William, fel yn wir ar liaws eraill o bregethwyr sir Gaernarfon. Pan fyddai Rhisiart William yn myned ar daith i'r Deheudir, gofalai am beidio rhoddi ei "hancas wen" i fyny un amser cyn myned trwy Dremadog. Ac yr oedd yr un mor ofalus wrth ddychwelyd am ei thynu cyn cyraedd y lle hwnw. Bu ar daith unwaith yn y Deheudir gyda John Williams, Llecheiddior. A gofynodd John Jones, Tremadog, iddo pa fath daith a gawsant. "Wel," meddai yntau, "John oedd yn myn'd a hi yn sir Aberteifi; ond wedi myn'd i sir Benfro y fi oedd yn myn'd a hi o ddigon. A gwyddoch ch'i, John Jones, o'r gora mai swn sydd ar bobl sir Aberteifi eisio gael, ac mai sylwedd sydd ar bobl sir Benfro eisio. Mae John yn well am waeddi na mi; ond pan a i i waeddi, mae hi yn myn'd yn ryw wich gin i." Yr oedd wedi bod yn pregethu yn Mwlchderwin unwaith, a'r "degwm" yn lled brin yno. Gofynodd yr hen flaenor, Robert Prisiart iddo—"Gym'ri di ddim naw ceiniog am dro, Rhisiart? mae yr arian wedi myn'd yn brin iawn yma." "Na wna i wir," meddai Rhisiart William, "yr ydw i yn cael swllt ymhob man."
Mae yn amlwg fod llawer o wit yn natur Rhisiart William. Cwynai John Jones, Tremadog, mewn Cyfarfod Misol unwaith, fod y pregethwyr ieuainc yn myn'd yn ryw fân iawn, ac yn debyg iawn i'w gilydd. "Yr ydw i yn eich gwel'd ch'i," meddai, "yn debyg iawn fel y bydd y ffarmwr weithiau wrth edrych dros ei wartheg, yn eu gwel'd nhw yn fân iawn." "Ie," meddai Rhisiart William, "ond rhaid i ch'i gofio John, mai gwartheg blwyddiaid yda ni rwan, fe ddown ni yn ddwyflwydd toc." Yr oedd rhywbeth yn dra chartrefol a buddiol yn ei weinidogaeth. Dywedai un hen or pur hynod am dano,—"Dywedwch ch'i a fynoch ch'i am y collegians yma, mae yn well i'r werinosyn druan gael Dic William."
Dyma yr offeryn wedi'r cwbl a ddefnyddiwyd gan yr Arglwydd i gychwyn diwygiad penaf Cymru. Ac y mae yn amheus a fu pregeth erioed yn Nghymru fwy grymus na phregeth Rhisiart William yn Hafod-y-llan, y nos Sabboth bythgofiadwy hwnw, yn Awst, 1817. Ei destyn oedd Ioan v. 44: "A'r hwn a ddel ataf fi nis bwriaf ef allan ddim." Mae gofod yn prinhau, neu buasai yn dda genym ddyfynu darluniad effeithiol y diweddar Barch. Robert Ellis, Ysgoldy, ohoni. Cafodd bregeth arall hynod iawn yn fuan ar ol hyny mewn cwr arall o blwyf Beddgelert, sef yn y Tylyrni, Nantmor. Ei destyn y tro hwn oedd Matthew xxv. 10: "A'r rhai oedd barod, a aethant i mewn gyd ag ef i'r briodas: a chauwyd y drws." Yr oedd rhyw nerthoedd rhyfedd yn canlyn y bregeth yma hefyd, fel yr oedd y dynion cryfaf yn methu ymatal heb waeddi allan. Bu Rhisiart William farw yn nghanol ei ddyddiau, Chwefror 4ydd, 1834, yn 54 oed.
Sian Griffith a fu yn briod gyda Robert, mab Robert Dafydd. Yr oedd hithau yn un hynod ar lawer cyfrif. Yr oedd yn nodedig mewn hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau. Bu yn gwasanaethu am lawer o flynyddoedd gyda'r Parch. John Jones, Tremadog; a dywedir mai hi oedd ei Concordance ef. Bu yn cadw ty capel Brynengan am amser maith; a byddai llawer o bregethwyr yn cymeryd mantais ar ei chydnabyddiaeth â'r Ysgrythyrau i gael adnodau ar faterion eu pregethau. Llawer gwaith y gwnaeth Michael Roberts hyn. Bu hefyd yn cadw ysgol yn y capel. Dosbarthodd lawer o gyhoeddiadau misol, a llyfrau eraill yn yr ardal. Prin yr oedd yn bosibl ei throi draw yn hyn. Yr oedd ganddi graffder mawr i adnabod duwioldeb. Dywedai am y diweddar Barch. Robert Roberts, Morfa Nefyn, pan yn fachgen ieuanc, yn dechreu pregethu :—"Dyna fachgen ieuanc wedi ei oreuro a santeilddrwydd." Yn lle wylo ar ol ei gŵr pan y bu farw, yr oedd hi yn canu wrth feddwl am y cyflwr dedwydd yr oedd efe ynddo. Bu farw Medi, 1866, yn 75 oed; a chladdwyd hi yn mynwent Capel Salem, Llanllyfni; ac y mae careg dda wedi ei gosod ar ei bedd.
Mab i Rhisiart William, ac ŵyr i Robert Dafydd, oedd y diweddar Mr. Robert Williams, Runcorn, yr hwn oedd yn bregethwr ieuanc poblogaidd ac addawoliawn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1806. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1825, os nad cyn hyny. Yr oedd llawer o debygrwydd yn ei ddawn i ddawn y diweddar Barch. John Jones, Talysarn. A chafodd rai odfeuon grymus iawn. Sonir am bregeth neillduol o'i eiddo ar y farn a'r adgyfodiad. Desgrifiai y corph a'r enaid yn cyfarfod a'u gilydd yn yr adgyfodiad, gyda dylanwad mawr. Bu yn cadw ysgol am dymor yn y capel. Tua 1829—30 symudodd i Runcorn i gadw ysgol. Daeth i sylw mawr yno fel pregethwr. Ac yn niwedd y flwyddyn 1830 cafodd wahoddiad taer, unfrydol, a chynes, oddiwrth eglwysi y Methodistiaid yn America i fyned yno i'w gwasanaethu. Addawent ei gynal yn anrhydeddus os ai yno. Dyddiad y llythyr ydyw Hydref 6ed, 1830; ac ymddangosodd yn y Drysorfa am 1832. Cawn ymadroddion fel hyn yn y llythyr : —" Yr ydym fel un corph, o un llef ac un galon, yn anfon atoch y cais hwn, A ddeuwch chwi yma i lafurio yn ein mysg yn y weinidogaeth, a phethau perthynol i dŷ yr Arglwydd? . . . . Gobeithio yr ydym y bydd yr Arglwydd yn tueddu eich meddwl i ddyfod yma atom, ac y cewch gychwyn yn anrhydeddus, y cynhelir eich cerddediad, ac y cewch ddyfodfa i'n plith, gyda chyflawnder bendith efengyl Crist. . . .Yr ydym ni gyda ein gilydd wedi penderfynu cyn dechreu ysgrifenu atoch, y gwnawn ein goreu tuagat eich cadw yn gysurus yn ein plith, pa hyd bynag y byddo hyny. Ac os byddwch mewn amser i ddyfod yn awyddu am ddychwelyd i Gymru yn ol, yr ydym yn ymrwymo i rwyddhau y ffordd tuag at hyny ymhob ystyriaeth, gan ddwyn eich traul, fel y bo yr angen yn gofyn." Beth bynag oedd yr achos ni chydsyniodd â'r alwad. Yn y Drysorfa am 1832, cawn lythyr oddiwrtho dyddiedig Tachwedd 2il, 1831, yn hysbysu ei fod yn bwriadu dwyn allan lyfr ar Law—fer. Mae yn bur amlwg ei fod wedi llafurio llawer yn y cyfeiriad hwn; oblegid y mae yn enwi nifer mawr o awdwyr Seisnig yr oedd wedi ymgynghori a hwy. Ond ni chafodd ddigon o gefnogaeth i beri iddo gyhoeddi y llyfr; ac felly aeth ei lafur a'i anturiaerh yn ofer. Tua'r flwyddyn 1835 priododd; a darfu iddo ryw ymddyrysu wrth wneyd hyny, er na ddarfu iddo wneyd dim gwaradwyddus. Yn y Gwladgarwr am 1839, cawn y nodiad canlynol am ei farwolaeth:—"Bu farw, Gorphenaf 26ain, yn Runcorn, ar ol maith gystudd, Mr. Robert Williams, gynt o Frynengan, swydd Gaernarfon, yn 33 oed."
Wyr arall i Robert Dafydd, mab ei ferch oedd Daniel Roberts, y Ffridd, Brynengan. Yr ydym yn cofio yn dda ei weled yn myned yn mlaen i gael ei wobr mewn Cyfarfod Llenyddol yn Nhremadog, yn fachgen ieuanc 19 oed. Yr oedd yn gyfartal oreu gyda gwr o allu mawr, ac addfedrwydd oedran, sef Mr. Rees Roberts, Harlech. Ac yr oedd gwyr cedyrn eraill wedi ymgeisio, megis, Bardd Treflys, &c. Yr oedd hyn ar gychwyniad y Cyfarfodydd Llenyddol, pan yr oedd y cyfarfodydd hyny yn eu bri mwyaf; ac yr oedd o 16 i 18 wedi cystadlu ar y testyn hwnw. Bu yn cadw ysgol mewn gwahanol fanau ar ol hyny. Aeth i Goleg Hyfforddiadol Caernarfon i barotoi ei hun i fod yn ysgolfeistr. Ond pan yr oedd wedi gorphen parotoi, ac wedi cytuno i fyned i gadw ysgol i'r Bontnewydd, ger Caernarfon, gwywodd, a bu farw, Ebrill 26ain, 1859, yn 24 oed.
Wyr arall i Robert Dafydd, mab i ferch arall iddo, oedd y diweddar Robert Jones, Pen Scoits, ger Nanhoron, Lleyn, yr hwn oedd wr hyddysg yn yr Ysgrythyrau, yn dduwinydd rhagorol, a pharod ei ateb yn y Cyfarfodydd Ysgolion, &c.
Yr oedd y diweddar Mr. John Hugh Jones, Brynrhos, ger Bryn'rodyn, yn fab i ferch Mr. Robert Williams, Runcorn, ac felly yn disgyn oddiwrth Robert Dafydd yn y bedwaredd genhedlaeth. Yr oedd efe yn bregethwr ieuanc o gymeriad nodedig o bur a gloew. Llafuriodd yn galed i gyraedd dysgeidiaeth, yn rhy galed i gyfateb i'w gyfansoddiad gwanaidd. Yroedd yn nodedig ar gyfrif ei gydnabyddiaeth eang a manwl â'r Ysgrythyrau. Pe cawsai oes, diau y daethai yn bregethwr cymeradwyiawn. Bu farw Ebrill 22ain, 1883, yn 26 oed.
Mae hyn yn dangos fod yr addewid hono wedi ei chyflawni i'r hen batriarch Robert Dafydd :"Plant dy weision a barhant, a'i had a sicrheir ger dy fron di."
DIWEDD.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Gelwir un man arni, neu yn agos ati, yn "Pant-ygwylliaid" enw, yn ddiau, o darddiad boreuol iawn. Yr oedd y "gwylliaid" hyn yn arswyd i'r wlad am dymor maith. Cafodd y Barwn Owen ei lofruddio gan "wylliaid cochion Mawddwy" yn y flwyddyn 1555, a bernir fod y gwylliaid hyny ymysg y rhai olaf yn y wlad. "Gwylliaid duon" y gelwid gwylliaid y Cenin.
- ↑ Caed un yn agos i Maes-y-pandy, yn sir Feirionydd, ac yn yr un math o le, sef mewn mawnog. Barnai rhai am hwnw ei fod wedi ei osod yn y fath le, am ei fod yn cadw yn well rhag pydru.
- ↑ "Methodistiaeth Cymru," Cyf. ii. tud. 122.
- ↑ "Drych yr Amseroedd," tud. 14.
- ↑ Mae yr ysgrifenydd wedi cael y ffeithiau hyn am deulu Brynengan o hen weithredoedd sydd yn meddiant y teulu; ac y mae Mr. Robert Hughes, sydd yn byw yn awr yn Brynengan, yn ddisgynydd yn y seithfed genhedlaeth o William Lloyd a Griffith Jones.
- ↑ Owen Robert oedd o deulu y Maenllwyd, ger Llangybi.
- ↑ Bu hen wraig y Lleiniau, Llandwrog, yn dyfod yma i'r seiat am hir amser. Erbyn dyfod adref byddai yr hen wr wedi cloi y drws rhagddi; a byddai raid iddi hithau aros allan drwy y nos. Digwyddodd hyn lawer gwaith, meddir.
- ↑ Eifionydd.
- ↑ Rhwymo llyfrau y byddai pan yn byw yn y lle, ac y mae y ffenestr lle yr arferai roddi y llyfrau allan i sychu yn aros eto.
- ↑ Mae yr hen dy yn aros hyd heddyw, ond erbyn hyn wedi ei droi yn feudy. Mae yr hen adeilad er hyny yn gysegredig yn ein golwg, a byddwn yn barod i ddiosg ein hesgidiau wrth nesau at y lle wrth feddwl am y gweddiau a esgynodd ohono i'r nefoedd, a chanlyniadau y gweddiau rhyfedd hyny.
- ↑ Y mae y Parch. Edward Griffith, Meifod, yn or-ŵyr iddo.
- ↑ Yn mhen llawer o flynyddoedd ar ol hyny dangosai Moses Jones y cae hwnw i'w fab, Mr. Michael Jones, wrth fyned i'w gyhoeddiad Sabbothol. Dangosai hefyd glawdd gerllaw, y bu yn ei "gau," yr hwn a "gauodd" mewn wythnos; a dysgodd yr epistol at yr Hebreaid i gyd yn y fargen. Byddai y Beibl yn agored ar ben y clawdd ar hyd yr amser. "Ac os oes rhyw glawdd yn gadarn y mae y clawdd hwnw," meddai ei fab doniol.
- ↑ "Amddiffyniad i'r Methodistiaid," tud. 10.
- ↑ Bu y cyntaf farw yn lled ddiweddar.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.