Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion/Pennod VII
| ← Pennod VI | Robert Dafydd, Brynengan ei Hanes a'i Hynodion gan Henry Hughes, Bryncir |
Pennod VIII → |
PENNOD VII.
Sylwadau a Dywediadau Robert Dafydd.
NID anyddorol gan y darllenydd, mae yn ddiau, fydd cael rhai o ddywediadau gwrthrych y llyfr hwn. Bydd hyny, efallai, cystal a dim i ddangos nodwedd ei feddwl a'i gymeriad.
Pan oedd llyfr Tonau Cynulleidfaol yn dechreu cael ei arfer, gofynodd rhywun iddo sut yr oedd yn hoffi y canu newydd. Dywedai yntau,—" Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gwaeddi am golli y maes, ond swn canu a glywaf fi."
Wrth bregethu ar ymddygiad yr Arglwydd Iesu at y wraig o Ganaan, dywedai,—"Yr oedd yn ei gwthio ymaith ag un llaw, ac yn ei thynu ato âr llaw arall. 'Nid da cymeryd bara y plant, a'i fwrw i'r cwn.' 'Mae y cwn yn bwyta o'r briwsion,' meddai hithau. Fe wyddai hithau mai canol y dorth oedd y goreu. Wel, hwda, hwda,' meddai Iesu Grist, 'dyma'r dorth iti i gyd, bydded iti fel yr wyt yn ewyllysio.'"
Pregethai unwaith ar "Caffed amynedd ei pherffaith waith." Sylwai fel yr oedd Moses yn myned i gyfryngu rhwng yr Aiphtwr a'r Hebrewr cyn i Dduw ei ordeinio a'i gymhwyso i'r swydd. "Yr oedd gan Moses rhyw ddwrn trwm, ac fe laddodd yr Aiphtwr. Gan hyny fe anfonodd Duw ef i dir Midian i fugeilio defaid, fel y dysgai amynedd a thynerwch."
A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem. "Na," meddai Petr, gan godi ei yswyddau, "Arglwydd anwyl, gad ini ddechreu yn rhywle arall, mewn rhyw gwm o'r golwg. Cofia nad oes ond ychydig er pan ddarfu iddynt groeshoelio Arglwydd y gogoniant yn Jerusalem."
"Na," meddai yr Arglwydd, gan ddechreu yn Jerusalem. Os ateba yr efengyl y diben yno Petr, ni raid iti ddim ofni ei mentro hi i'r holl fyd wed'yn."
Yr oedd ef a'r blaenoriaid yn amser y diwygiad, yn 1832, yn disgwyl gweled rhywrai oedd ar drothwy yr eglwys, megis, yn troi i mewn; ond yn groes i hyny, y rhai oeddynt hwy yn ddisgwyl leiaf, y rhai hyny oedd yn dyfod. Ac meddai ar ei weddi,—"Diolch iti, O Arglwydd, mae gen ti ddigon o allu i dynu dy etholedigion dy hun i mewn, pan y mae ein hetholedigion ni yn sefyll allan."
Dro arall pregethai ar Jonah iii. 10,—А gwelodd Duw eu gweithredoedd hwynt, droi o honynt o'u ffyrdd drygionus; ac edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedasai y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth. "Nid oes neb," meddai, "fel ein Duw ni am guddio beiau. Dim ond eu taflu o'r tu ol i'w gefn ef, mae efe mor dal fel na fedr yr un Saul, er ei fod yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na'r holl bobl, weled dros ei ysgwyddau ef. Ac ni fedr Gabriel chwaith, y mwyaf o'r angylion, weled y tu ol i'w gefn ef."
Dadleuai rhywun ag ef unwaith fod cwymp oddiwrth ras. "Ple," meddai, "yr oedd gras Petr pan yr oedd yn gwadu." "O," meddai Robert Dafydd, "oni bai fod gras ynddo, rhegi y buasai eto."
Sylwai un tro mewn seiat,—"Yr oeddwn i yn myn'd heibio boreu heddyw i un o'r ffermydd yma, a mi welwn ddyn yn toi tâs o wair. Gofynais iddo mewn syndod, Wil, i beth yr wyt ti yn toi y dâs a hithau yn dywydd mor braf? 'O!' meddai Wil, fe ddaw hi'n ddrycin.' Ac yn wir, welwch chi, yr hen Wil oedd yn ei le; erbyn y nos dyna hi yn wlaw mawr. Wel, mae yn ddigon priodol i rywun ofyn i minau—I beth mae'n da dyfod i'r capel fel hyn o hyd, a chadw cymaint o dwrw gyda'r grefydd yma? O, fe ddaw hi'n ddrycin eto, gyfeillion. Bydd yn dda cael tô eto."
Wrth anog y bobl unwaith i gyfranu at ryw gasgliad, dywedai,—"Dowch, bobl bach, ni raid i ch'i roi yn hir eto, mae swn hyrddod Nebaioth yr ochr draw i'r bryn yna; ac fe geir digon o frasder arnynt hwy."
Wrth ddiarddel un am briodi un o'r byd, dywedai, "Mari, Mari, yr wyt tithau fel Judas, pan gefaist y tamaid fe aethost allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi yn nos."
Dro arall ymddiddanai ag un newydd ddyfod i'r eglwys; a phan nad oedd yn cael ei foddhau ynddi o ran ei phrofiad, dywedai wrthi,—"Mae llawer o waith scwrio, a golchi, a sychu arnat ti cyn bod yn gymwys i eglwys Crist."
Ceryddai un arall am fyned o dŷ i dŷ i hel ystraeon am ei chymydogion, yr hyn a'i poenai yn fawr. "Yr wyt ti," meddai, "yn debyg iawn i falwoden, pa le bynag yr ai di, byddi yn sicr o adael ryw hen lys aflan ar dy ol."
Dro arall ceryddai am yr un pechod, gan ddweyd, "Yr wyf fi yn ofni fod llawer iawn o grefyddwyr yr oes hon fel cerig yn esgidiau gwraig yr Oen."
Yr oedd mewn seiat yn Nghapel Ucha, Clynnog, ryw bryd pan yr oedd achos crefydd yn bur isel yn y lle. Digon tebyg fod hyny cyn i Robert Roberts fyned yno, oblegid eglwys isel wywedig iawn ydoedd cyn ei fynediad ef yno. Yr oedd y bobl a'u penau i lawr, a golwg ddigalon iawn arnynt, fel pe buasai ryw afiechyd blin arnynt. Cododd Robert Dafydd ar ei draed yn sydyn, a dywedodd yn gynhyrfus,—"Yn enw Duw anwyl, beth sydd arnoch ch'i, bobol? Oni wyddoch ch'i o'r gora fod Iesu Grist wedi ei eni yn Methlehem, ac wedi byw yn Nazareth a Chapernaum? Oni wyddoch ch'i ei fod wedi bod yn ing Gethsemane, ac wedi dioddef poenau y groes ar Galfaria? Ac oni wyddoch ch'i ei fod wedi ei gladdu, ac wedi adgyfodi y trydydd dydd, ac esgyn i'r nefoedd, a'i fod yno yn eiriol trosom?" Aeth trwy yr hanes ryfedd yn lled fanwl, a chyn ei fod wedi gorphen, dywedir ei bod yn orfoledd mawr yn y lle.
Arferai weddïo gweddi fer yn fynych ar ganol pregethu, "Duw anwyl,—achub y bobol, c[i]adw'r bobol."
Ymadrodd a ddefnyddiai yn fynych yn ei bregeth ac yn y seiat oedd,—"Hen gomin llwm iawn ydi comin y cythraul," gan dynu ei fysedd trwy ei wallt mawr.
Dywedai yn fynych wrth bregethu am bobl fyddai yn gwasanaethu'r diafol, nad oedd gan y diafol ei hun ddim gwell lle na gwely o dân."
Yr oedd Morgan Howells yn pregethu gyda hwyl anghyffredin un tro yn Mrynengan. Ar y diwedd, gofynai Robert Dafydd,—"Wel, tybed y bydd hi yn well yn y nefoedd nag oedd hi yma heddyw?"
Yr oedd sôn am Moses Jones cyn iddo ddechreu pregethu, ei fod yn meddwl am hyny, ac meddai Robert Dafydd wrtho un noswaith,—"Tyr'd yma i'r fan yma i dreio dy law, os wyt ti yn meddwl rhywbeth ohonot dy hun."
Dywedai unwaith wrth ofyn bendith ar ei ymborth,—"Diolch i ti, O Arglwydd, am dy drugareddau i ni yn feunyddiol. Nid fel hyn y mae hi yn uffern; na, gwae sydd yno i frecwast, gwae i ginio, a gwae i swper."
Daeth boneti gwynion i'r ffasiwn pan yr oedd ef mewn gwth o oedran, ac yr oedd yn erwin yn eu herbyn. Yr oedd yn cadw seiat yn Rhydyclafdy, ac wrth fyn'd oddiwrth y naill at y llall, daeth at wraig a bonet gwyn ganddi; ac meddai, —"Wel, beth dd'wedi di y bonet gwyn."
Trowyd merch iddo allan o'r seiat, am briodi un o'r byd, os ydym yn cofio yn iawn. Wedi iddi ddyfod yn ol i'r seiat aeth Robert Dafydd ati i ymddiddan â hi, a chan nad oedd yn gweled digon o arwyddion edifeirwch arni, dywedodd wrthi, "Dos allan, Neli, nes y byddi di wedi edifarhau digon. 'Dwyt ti ddim yn ddigon sâl eto." Ас allan y bu raid iddi fyn'd o gapel Brynengan, gan fyned trwy y drws oedd wedi ei neillduo i hyny, sef y drws agosaf i'r ty capel.
Pan yr oedd y bobl gryn lawer ar wasgar mewn seiat yn Mrynengan, dywedai,—"I ba beth yr ydych chi'n myn'd mor bell oddiwrth eich gilydd? Yr ydach ch'i fel lot o hen fawn gwlybion fel yna, thaniwch chi byth. Dowch dipyn yn nes at eich gilydd, mi gynheswch wed'yn. Os bydd marwor ar wasgar, fe ddiffydd y tân yn union, ond heliwch o at ei gilydd, fe dania ac fe fflamia yn fuan iawn."
Pan fyddai rhywun yn dyfod yn ol i'r seiat wedi bod yno o'r blaen, os byddai y cyfryw yn teimlo ei fod wedi cael cam, dywedai Robert Dafydd wrtho, dan grafu ei ben,—"Yn is na hyna mae'r glicied."
Yr oedd amryw wedi priodi yn amser y Diwygiad (1831—2) yn ardal Brynengan. Nid oedd hyn yn hollol wrth fôdd Robert Dafydd. Ac mewn seiat, dywedai,—"Ni wel'is i ddim diwygiad erioed yr un fath a hwn. Mae y bobol yn priodi yn nghanol poethder y diwygiad." Cydiodd Daniel, ei fab, yn nghynffon ei goat, a rhoddodd blwc arni. Yr oedd efe newydd briodi ei hun, ac yr oedd arno ofn i'r hen wr ddweyd rhywbeth annheilwng ohono ei hun. Cofier fod gwendidau henaint wedi ymdaenu drosto y pryd hwn.
Yn y byd gorthrymder a gewch. "Ond peidiwch ag ofni fy nisgyblion; mi roes i y ffrwyn yn ei ben, ac mae'r awen yn fy llaw; ac felly ni chaiff eich lladd:" cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.
Yn hanes yr hen wraig dduwiol, Catherine Griffith, y Penrhyn, dywedir—"Dechreuodd ei hoes yn Nolgellau. Yr oedd ei gwr yn feddw, hithau a aeth i werthu bara, a byddai yn gwneyd hyny ar y Sabboth; ac argyhoeddwyd hi o ddrwg hyny gan y person. Yn fuan cyfarfu a dau ddyn dieithr (Robert Dafydd a John Pierce) ar y ffordd yn myned i Langeitho. Meddyliodd wrth eu golwg eu bod yn dduwiol. Gofynodd am gael siarad â hwy, i ofyn a oedd drwg am werthu bara ar y Sul. Cynghorasant lawer arni. Dywedodd un o'r ddau wrth ymadael â hi—"Oni newidiwch eich ffordd chwi a fyddwch yn uffern mor sicr a bod fy llaw i ar y llidiart yma." Cafodd y geiriau effaith ddwys ar y wraig. Ac nid oes dim dadl nad Robert Dafydd a ddywedodd y geiriau, oblegid y mae ei ddelw arnynt. Ac nid oes dim o ddelw John Pierce arnynt, oblegid gwr llwfr a thyner oedd efe.