Seren Tan Gwmwl/Seren Tan Gwmwl

Oddi ar Wicidestun
Rhagair Seren Tan Gwmwl

gan John Jones (Jac Glan y Gors)

Gorthrwm Brenin

Seren Tan Gwmwl

GAN fod cymaint trwst yn y byd ar yr amser yma ynghylch brenhinoedd, byddinoedd, a rhyfeloedd ac amryw o bethau eraill ag sydd yn ddychrynadwy i feddyliau pobl ag sydd am fyw mewn undeb a brawdgarwch â'u gilydd, meddyliais mai cymwys a fyddai dweud gair wrth fy nghydwladwyr yn yr achos pwysfawr yma, rhag ofn iddynt gael eu galw i arfau i ladd eu cydgreaduriaid, heb wybod am ba achos mae'n rhaid iddynt wneuthur y fath orchwyl gwaedlyd a chigyddlyd.

Rhyfedd fel yr oedd yr hen Israeliaid yn eu dallineb yn gweiddi am Frenin, a'r Arglwydd, trwy enau Samuel, yn mynegi iddynt ddull Brenin a deyrnasai arnynt, sef:

A Samuel a fynegodd holl eiriau'r Arglwydd wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio Brenin ganddo. Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y Brenin a deyrnasa arnoch chwi: efe a gymer eich meibion, ac a'u gesyd iddo yn ei gerbydau ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef: ac a'u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel a pheiriannau ei gerbydau; a'ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau; ac efe a gymer eich meysydd a'ch gwinllannoedd a'ch olew-lannoedd gorau, ac a'u dyry i'w weision. Eich hadau hefyd, a'ch gwinllannoedd a ddegyma efe, ac a'u dyry i'w ystafellyddion, ac i'w weision; eich gweision hefyd, a'ch morwynion; eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a'ch asynod a gymer efe, ac a'u gesyd i'w waith; eich defaid hefyd a ddegyma efe, chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef. A'r dydd hwnnw y gwaeddwch rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi; ac ni wrendy'r Arglwydd arnoch yn y dydd hwnnw.

Peth rhyfedd iawn na buasai rhai o'r offeiriadau yma yn cymryd y rhagddywededig eiriau am ddull brenin, yn destun i'w pregeth ar y diwrnod ympryd diweddar, neu'n hytrach ddiwrnod gweddïo gyda'r brenin; oherwydd nid oes, yn fy marn i, ddim mwy eglur na golau i'w gael mewn llyfrau am ddull a chyrhaeddiad, ymchwiliad ac ymddygiad brenin tuag at ei ddeiliaid. Ond gwir yw'r hen ddihareb,—"Nid rhyfedd dim a gwybod yr achos." Gan hynny, rhowch gennad im ddal sylw, pa beth oedd ac ydyw'r achos na chymerai ryw offeiriadyn y geiriau uchod yn destun i'w bregeth?

Yn gyntaf, mae'r esgobion a'r offeiriadau (nesaf at y Pab ond un ar ei law chwith) megis brenhinoedd eu hunain, ac yn fwy gorthrymwyr i'w plwyfolion nag a fu Nero erioed yn Rhufain. Felly ped fae'r fath wŷr â hwynt yn pregethu ar y testun, ac yn cadw at eu testun (peth pur anaml iddynt wneud) mi fyddai raid iddynt ollwng y gath allan o'r cwd, a dangos eu dull eu hunain yn ei belydr ei hun; y peth mae arnynt ofn yn eu calonnau i neb arall wneud ragor gwneud eu hunain.

Felly pan fo'r gwŷr mawr blonhegog yn rhoi araith unwaith neu ddwywaith yn y flwyddyn (a phob gair ohono'n dyfod i chwecheiniog neu ychwaneg) maent yn cymryd rhyw destun lled dywyll bobl gyffredin, i gael lle i'w arwain e at eu meddyliau eu hunain, i ddwyn ar ddeall i'w gwran- dawyr y parch a ddylent roi iddynt hwy, ac i amryw o rai eraill a fo'n byw'n esmwyth ar chwys a llafur pobl druain ddiniwaid. Ac ni lefys y radd isaf o'r offeiriadau bregethu'n groes i feddyliau eu meistriaid, neu mi gollant y dafell denau maent yn ei gael, ac efallai eu taflu i garchar yn y fargen.