Siôn Gymro (llyfr)/Ar Lan Hafren
| ← Ar Lan Llethi | Siôn Gymro (llyfr) gan Ben Davies, Pant-teg |
Ar Lan Taf → |
PENNOD II
AR LAN HAFREN
AR lan Hafren y cawn ni'r olwg nesaf arno, yng ngholeg yr Annibynwyr a adweinir erbyn heddiw fel Coleg Aberhonddu, ond a wladychai y pryd hwnnw yn y Drefnewydd. Cyfnewidiad mawr yn ei hanes oedd y symudiad hwn:—gadael ysgol y to gwellt yn Neuaddlwyd am goleg ei enwad, a gadael bywyd ac arferion gwlad am fywyd tref ac ardal Seisnig ei harferion. Yn gyd-fyfyrwyr ag ef yno yr oedd rhai a ddaeth yn gewri meddyliol yn hanes eu henwad, sef y Parchn. David Rees, Capel Als, Llanelli; Samuel Roberts, Llanbrynmair; Samuel Bowen, Macclesfield; ac eraill. "Dywedai nad oedd yn aros yn 1877 (ar ddydd ei Jiwbili, Mawrth 28) o'i gyd-fyfyrwyr yn y Drefnewydd ond y brodyr oedrannus a pharchus S.R., S. Bowen, a J. Lloyd, gynt o Lanelwy. Y mae y ddau flaenaf yn aros eto, ond heb ofal bugeiliol ers blynyddau. Yr oedd dau eraill na wyddai eu hanes. Tebig mai un o honynt oedd y Parch. Evan Price, Middlesborough, y ceir hanes ei farwolaeth yn nyddiadur Dolgellau am 1885."[1]
Daliodd John Davies ei dir yn rhwydd gyda'r rhai hyn fel myfyriwr, a rhagorodd arnynt oll fel Ieithydd medrus mewn Groeg, Lladin, Hebraeg, a Syriaeg. Ymddengys bod S.R. a John Davies yn gyfeillion mawr yn y Coleg, ac ymunodd y ddau â'i gilydd mewn anturiaeth lwyddiannus iawn yn y dref. Cychwynasant Gymdeithas o Gymrodorion' yn y Drefnewydd, a hwythau ill dau a fu'n ymgynghori â Gwallter Mechain ynglŷn â rheolau a defodau'r gymdeithas. Mewn llythyr a sgrifennodd John Davies at ei rieni (gwelwyd copi ohono gan yr Athro Morgan Lewis, Aberystwyth) dywed mai efe ac S.R. oedd Cofiaduron y gymdeithas, a bod ynadon, offeiriaid, pregethwyr, masnachwyr a myfyrwyr yn aelodau ffyddlon ohoni, a'i bod yn argoeli bod yn gymdeithas lewyrchus iawn. Yng nghanol gwersi sychion y gwahanol ieithoedd, ac afiaith John Davies ynddynt, nid anghofiodd y Gymraeg a llenyddiaeth ei genedl ei hun. Tybiwn mai'r adeg hon y mabwysiadodd efe'r enw 'Siôn Gymro' yn enw llên iddo'i hun, enw a ydoedd i ddod yn adnabyddus iawn yng nghylchgronau ei enwad ar ôl hyn am flynyddoedd. Mae'n amlwg ei fod hefyd wedi ymberffeithio yn fawr yn yr iaith Saesneg, nid yn unig drwy ei efrydiau, ond hefyd drwy ymarfer pregethu'n aml yn yr iaith honno, a hynny mewn sir yr oedd llawer o Saeson ynddi, yn ogystal ag ar ei therfynau. Bu hyn o gymorth mawr iddo drwy ei oes, a chawn ei fod yn pregethu Saesneg yn achlysurol wedi sefydlu ohono yn y weinidogaeth yn Nyfed. Nodir un peth diddorol arall ynglŷn ag ef yn y Coleg, sef ei hobi yn chwarae'r German Flute' ar rai adegau ar lan Hafren, yr hyn a brawf fod yr ysbryd cerddorol yn ogystal â'r ysbryd llenyddol wedi disgyn arno, ac y mae ffeithiau yn mynd i brofi ar ôl

CAPEL GLANDŴR
hyn fod John Davies yn gwybod celfyddyd arall y tu allan i faes uniongyrchol ei efrydiaeth. Treuliodd bedair blynedd llafurus a diwyd yn y Coleg, a daeth allan o'r Athrofa fel y daw'r wenynen yn ôl o'i theithiau gydag ystôr o wybodaeth yn ei feddiant ar gyfer gwaith mawr ei fywyd.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885: op. cit.