Siôn Gymro (llyfr)/Ar Lan Taf
| ← Ar Lan Hafren | Siôn Gymro (llyfr) gan Ben Davies, Pant-teg |
Yr Esboniwr a'r Ysgolhaig Beiblaidd → |
PENNOD III
AR LAN TAF
AR lan Taf y gwelwn ni ef nesaf, a dyna'r drydedd afon a ddaw i mewn i fywyd John Davies, ac ar lannau hon y gwnaeth efe waith mawr ei oes. Yn weinidog ar eglwys Glandŵr yn Nyfed y gwelwn ni ef yn awr.
Pan ddaeth John Davies i bregethu i Landŵr y tro cyntaf, sef Mehefin 8, 1826, yr oedd yr eglwys wedi ymserchu mewn myfyriwr o'r enw Evan Price o Goleg Caerfyrddin, ond hoffodd y bobl Mr. Davies yn well. Y mae cofnod gan un 'Siams Dafi' fel yr adwaenid ef yng Nglandŵr am dano fel hyn,—"July 3, 1826, Call to attend upon trial" i John Davies.
"He came July 16 and 23."[1]
Daeth i Landŵr erbyn y Saboth, Hydref 1af, 1826, ac wedi aros yno am chwe mis i gael prawf o'r cylch, ac i'r eglwys gael prawf ohono yntau, urddwyd ef yng Nglandŵr, Mawrth 27 a 28, 1827. Pregethodd Davies, Panteg, ar Natur Eglwys'. Gweddïodd Evans Hebron yr urdd—weddi. Pregethodd Lloyd, Henllan i'r gweinidog a Jones, Trelech i'r eglwys. Enwyd eraill oedd yn bresennol, sef Thomas, Penrhiwgaled; Griffiths, Hawen; Caleb Morris; Griffiths, Tyddewi; Phillips, Bethlehem; Skeel a Davies, Penybont, a Davies, Rhos-y-caerau.
Wrth atgofio y dydd ymhen 50 mlynedd dywedai: Casglfa luosog o weinidogion o'r tair Sir mor barchus ag a gyfarfu a'u gilydd ar unrhyw achlysur.[2] Yr oedd Glandŵr yn faes eithriadol a chymwys iawn i ddyn o alluoedd John Davies. Bu'r Parch. John Griffiths a'r Parch. William Griffiths, ei fab, yn gweinidogaethu yno rhyngddynt am yn agos i 70 o flynyddoedd. A dynion eithriadol iawn oedd y Griffisiaid—John Griffiths yn ysgolhaig gwych, ac yn cadw ysgol lwyddiannus iawn. yn y lle, o gymaint enwogrwydd ymron â'r Neuaddlwyd, a William Griffiths yn ysgolhaig gwych drachefn, yn emynydd rhagorol, fel y dengys rhai o'i emynau yng Nghaniedydd Cynulleidfaol yr Annibynwyr', ac yn ddyn o ddylanwad mawr.
Cyfrifid Glandŵr ar y pryd yn fath o Athen y tair Sir orllewinol, a dywed Clwydwenfro fod rhai o werin bobl y gymdogaeth yn dyfynnu Lladin ar faes y cynhaeaf. I faes fel yna y galwyd John Davies i gyflawni gwaith gweinidog. Tair anturiaeth gyntaf ei fywyd gweinidogaethol oedd: [a] Cychwyn Achos ym Moreia, Llanwinio, a sefydlwyd yno eglwys ymhen dwy flynedd wedi ei ordeiniad yng Nglandŵr. Wrth godi Moreia cododd John Davies heb yn wybod iddo'i hun ei ddinas noddfa, oblegid ymadawodd â Glandŵr o dan amgylchiadau eithriadol, fel y cawn sylwi yn nes ymlaen, gan ei gyfyngu ei hun i Foreia yn hollol ar y diwedd; [b] Yr anturiaeth arall oedd cychwyn ar ei lafur llenyddol, gwaith y cawn sylwi a manylu arno yn nes ymlaen. Nodwn yma un ffaith ddiddorol yn unig ynglŷn â'i brifwaith, sef y "Proffwydi Byrion ". Digwyddai 'Cwrdd Chwarter' fod yng Nglandŵr cyn iddo ddechrau ar y gwaith hwn, pryd y galwodd John Davies sylw'r gweinidogion ac eraill at ei fwriad i gyhoeddi'r gwaith, a gofyn am eu cydymdeimlad a'u cefnogaeth hwythau ynglŷn â'r antur. Ceisiodd un fygu'r ymdrech fan honno, a dywedir mai gweinidog o'r enw y Parch. T. Skeel, Penybont oedd, a dywedodd y byddai'n well i John Davies "adael ei wallt i wynnu gyntaf", ond yn ôl cofnodiad arall, dywedir mai ei hen athro Dr. Phillips, Neuaddlwyd a'i gwrthwynebodd drwy ddweud "fod yn well i John aros yn Jericho i'w farf i dyfu'n gyntaf". Anodd credu y buasai ei hen athro yn taflu dwfr oer ar y bwriad, oddieithr gweled a theimlo ohono aruthredd y gwaith. Felly y dywedir mewn cyfeiriad at hyn, ac at farwolaeth ein gwrthrych yn un o 'Nodiadau Misol' y 'Diwygiwr'. Dyfynnwn y geiriau," Cof gennym am yr Hybarch D. Williams, Troedrhiwdalar yn adrodd yr hyn a gymerodd le flynyddoedd lawer yn ôl, pan yr oedd Mr. Davies yn ddyn cymharol ieuanc mewn cyfarfod yn rhywle yng ngwaelod Sir Aberteifi. Yr oedd Dr. Phillips o'r Neuaddlwyd yn y gadair. Amlygodd Mr. Davies y pryd hwnnw fod ganddo fwriad i ddwyn allan gyfieithiad newydd o'r Proffwydi Byrion'. Yr oedd pawb yn gefnogol iddo ond Dr. Phillips. Gwawdiai y syniad fod hogyn ieuanc fel efe yn sôn am gymeryd mewn llaw orchwyl y buasai efe Dr. Phillips yn arswydo rhag ymgymeryd ag ef. Digalonwyd ef ar y pryd, ond aeth yn y blaen a'i efrydiaeth, ac y mae gennym felly ffrwyth o efrydiaeth galed.[3]. Mwy na thebyg mai'r olaf sydd gywir, oblegid prin y buasai Dr. Phillips yn llywyddu mewn Cwrdd Chwarter' yn Sir Benfro, ond naturiol ddigon oedd i Mr. Davies ymweled â chyfarfodydd tebyg yn ei sir enedigol. Digon yw dweud na ddigalonnodd hyn ddim ar John Davies, ac ar Fedi 23ain, 1829, ymhen dwy flynedd wedi ei ordeiniad, dechreuodd ar y gwaith, a phenderfynodd fod o wasanaeth drwy gyfrwng cylchgronau ei enwad drwy gydol ei oes.
[c] Yn ystod yr un adeg hefyd priododd Miss Phoebe Griffiths, wyres i'r Parch. John Griffiths. Wele gofnodiad diddorol ynglŷn â'r briodas,—" Gorphenaf 22ain, 1833 yn eglwys Llanfyrnach, ymunodd mewn priodas a Phoebe un o ferched y teulu hwn. Trwy garedigrwydd y Rector, y Parch. J. Timothy Lewis gwelais y cofrestriad, a chaf ef yno yn dodi ei enw J. G. Davies— y G yn debyg am George,—enw morwynol ei fam. tystion oeddynt ei dad yn nghyfraith Mr. J. D. Griffiths, ei frawd yn nghyfraith Mr. James Davies, Rhydygath, a'i gyfaill mynwesol a ffyddlawn Mr. David James, Pantygafel—taid y presenol breswylydd E. H. James, Ysw., Ynad Heddwch."[4]
Y Ganed iddynt bedwar o blant, dwy ferch o'r enw Mary ac Elizabeth, a dau fab o'r enw David a John.
Bu Mrs. Davies farw wedi un mlynedd ar ddeg o fywyd priodasol yn Llwynteg, lle'r aeth John Davies i letya ar ei sefydliad yng Nglandŵr. Disgrifir hi gan yr ardalwyr fel "dynes hawddgar, siaradus, garedig, yn hoffi byw yn dda, a gwisgo'n dda.[5] Bu Mary farw yn 26 oed, wedi bod am beth amser mewn siop yn Hirwaun, cyn priodi ohoni ag un Capt. Jones, Clarissa, Aberaeron. Bu Elizabeth farw yn 19 oed, wedi derbyn ohoni ei haddysg elfennol gwrs pellach yng Nghaerfyrddin ac yn Aberteifi. Bu Dafydd farw drwy i garreg syrthio o'r clawdd ar ei ben yn 5 oed. Prentisiwyd John y mab i fod yn Ddilledydd mewn siop yn Narberth, wedi bod ohono yntau yn ychwanegol at ei addysg elfennol yn ysgolia yng Ngheinewydd am ddwy flynedd, a blwyddyn arall o dan arolygiaeth ei dad. Nid oedd draper' yn John er hynny. Gwnai Fferyllydd neu Feddyg ardderchog, ac y mae'n amlwg fod llawer o alluoedd ei dad ynddo, yn arbennig ei syched angerddol am ddysgu ieithoedd. Aeth John o'r diwedd yn forwr, nid oherwydd ei serch at y môr, ond er mwyn gweled gwledydd eraill, a chael cyfle i ddysgu eu hieithoedd. Gellir edrych ar John yn iaith y dilledydd fel math ar gam-doriad (misfit) yn y byd, a bu farw yn 25 oed drwy foddi ar ddamwain yn y môr. "Bu ei dad yn ymofyn yn swyddfeydd Coroners' glannau y Dee a'r Mersi am hanes ei gorff, ond aflwyddiannus a fu'r ymchwil.[6] Ymhen dwy flynedd ar ôl claddu ei briod, symudodd John Davies a'r plant i le o'r enw Penrallt, Llanwinio, sef Medi 29ain, 1846, ond gan fod y lle dipyn yn anghysbell, dwy flynedd a fuont yno, a phrynodd le o'r enw Ietwen, gan adeiladu o'r newydd yno. Annedd lonydd, dawel ar rostir llwm o'r tu cefn i gapeli Hebron a Glandŵr ac i gyfeiriad Mynachlogddu ydoedd, a symudodd yno i fyw Gorffennaf 17eg, 1848, ac am 35 o flynyddoedd yno y bu'n trigiannu ac eithrio dwy flynedd hyd ddiwedd ei oes, ac fel John Davies, Ietwen, yr adweinir ef hyd heddiw gan liaws ei edmygwyr.
Bu'n weinidog ar Landŵr gyda Moreia am 37 o flynyddoedd, yn fawr ei barch, ac yn porthi praidd Duw yn dda, gan ddilyn ei efrydiau a'i waith fel ysgolhaig Beiblaidd yn eiddgar, a chyflawni ei ddyletswyddau gweinidogaethol gyda gofal a ffyddlondeb. Ni chafodd mwy na gweinidogion eraill y Gair y gwaith yn gwbl ddirwystr, na'r ffurfafen yn gwbl glir ar adegau, a chafodd ei ran o brofedigaethau bywyd. Yn fuan wedi claddu Mrs. Davies cododd rhyw oerfelgarwch rhyngddo a'i deulu yng nghyfraith a hynny'n bennaf oherwydd diffyg dealltwriaeth o dymheredd bwyllog, ddigynnwrf ac ymddangosiadol sychlyd John Davies ar brydiau, a barai hyd yn oed i'w berthynasau feddwl ei fod yn ŵr caled a didostur, gan anghofio bod calon dyner odditan y cwbl. Teimlodd y dieithrwch hwn yn fawr, ond ymddygodd yn gwbl foneddigaidd drwy'r holl gyfnod. Cyfeiriasom eisoes at ei brofedigaethau teuluaidd o golli ei briod a'i blant, a gwelwyd ochr dyner ei dadolaeth gariadlawn pan gerddai drwy swyddfeydd Lerpwl yn ei ddagrau mewn ymchwil am gorff John ei fab. Gwelodd ambell storm eglwysig fel a ddaw weithiau yn aflonyddu ar ei heddwch, ac y mae cofnodiad am un o'r cyfryw a gododd rywbryd tua chyfnod canol ei weinidogaeth yng Nglandŵr. Yr achwyniad ar John Davies oedd ei fod y pryd hwn yn rhoddi rhy fach o Grist yn ei bregethau. Cafwyd 'Cwrdd Eglwys' ar y mater, a chymeriad o'r enw 'Beni Siams' oedd yn enau i'r cyhuddiad.
Gofynnodd John Davies wedi clywed y gŵyn, beth a feddylid wrth bregethu Crist, a phryd y gellid dweud bod y gennad yn pregethu Crist? Caeodd hyn enau pawb, a darfu'r gŵyn y noson honno gyda phleidlais o fwyafrif mawr o blaid y gweinidog.
Er hyn i gyd agos ac annwyl oedd perthynas John Davies â'r eglwys yng Nglandŵr hyd fore Sul, Hydref 4ydd, 1863, pryd y daeth ei gysylltiad â'r eglwys i ben mewn ffordd gynhyrfus os nad trychinebus. Ac fel hyn y digwyddodd. Ar fore Sul Cymundeb o'r dyddiad uchod wrth nesáu ohono at ddrws y capel, cafodd fod y drysau dan glo, heb neb yn gwybod dim am yr allweddau, a'r gynulleidfa yn disgwyl agoriad i'r Cysegr er cofio am Angau'r Groes. Gwelodd y gweinidog y sefyllfa ar unwaith, a deallodd fod rhyw elynion wrth wraidd y peth, a chan droi at y gynulleidfa i'w chyfarch yn wyneb y digwyddiad, dywedodd fod arno ofn y gallasai barn Duw ddod ar y troseddwyr. Cafwyd yr allweddau'n fuan ar ôl hynny mewn cist a berthynai i un o ddiaconiaid yr eglwys, a pharodd hyn gynnwrf mawr. Ond pwy a'u gosododd yno? Adroddir mwy nag un stori i geisio egluro'r anfadwaith, ond nid ydym eto yn ddigon pell o ran amser a chysylltiadau teuluaidd i gynnig esboniad manwl ar y digwyddiad, na chwaith i ddefnyddio enwau. Bernid yn weddol gyffredinol bod symudiad y Llythyrdy o Landŵr i Hebron dan wraidd. y teimladau chwerw a ffynnai yn rhywrai am iddynt dybio yn gwbl ddisail mai John Davies a fu'n ymgynghori ag Awdurdodau'r Llythyrdy yn Llundain i'r perwyl o symud y Llythyrdy. Nid oedd holl elynion John Davies yn rhifo mwy na phedwar ar ddeg y fan bellaf, a rhai o'r nifer hynny nad oeddynt yn aelodau yn yr eglwys. Dywedir bod tri o'r rhai blaenllaw yn yr ystryw hwn wedi dod i ddiwedd trychinebus iawn a barodd i'r ardalwyr briodoli'r peth i farn Duw arnynt yn ôl rhybudd y gweinidog yn y fynwent. Wele ddyfyniad o ddarlith y Parch. J. Grawys Jones, Aberdâr ar y digwyddiad yn ei nodiadau,—
Aflwydd Lladron yr Allweddi. Rhown enwau Ysgrythurol ar y tri,—1. Sanbalat; 2.Tobiah; 3. Gesem. "Gesem.—Gŵr llwyddiannus iawn. Cylch eang o ffrindiau hawddgar, smart, clever. Aeth hwn i lawr o binacl llwyddiant ar ei ben i gors anobaith aflwyddiant. Yn y diwedd tagodd i farwolaeth wrth fwyta bwyd.
"Tobiah.—Gŵr cyfrwys ond tricky' oedd hwn. Gwelai yn mhellach na'i gyfeillion—cuddiai ei hun tu ôl iddynt. Yr oedd yn slâf i'r ddiod. Daeth adref, neu dygwyd ef adref, ni ŵyr neb gan bwy, wedi hanner nos, ac wedi hanner ei ladd. Bu farw mewn cyflwr gresynus.
"Sanbalat.—Gŵr craff iawn ond dirâs ei ysbryd. Aeth hwn yn hollol ffaeledig. Cadwai gert ac asyn i fynd ag ef o gwmpas. Gwerthai cockles' yn yr haf, ac efallai'sgadan' yn y gauaf. Tlawd a gresynus a fu ei yrfa a'i ddiwedd.[7]
Gwyddom fod eithafoedd ac anghywirdeb yn casglu a thyfu o gwmpas digwyddiadau cynhyrfus fel hyn, ond gwneir y ffeithiau yn fwy sicr gan gyfeiriad John Davies ei hun at yr anfadwaith yn ei gân, "Lladrad yr Allweddau"[8]. O dan y gân y mae'r ysgrifen ganlynol,— "Ar nos Sadwrn, Hydref 3, 1863, neu fore Sabboth, Sabboth Cymundeb Hyd. 4 cymerwyd allweddau y capel oddiar yr hoel lle y byddid arferol o'u cadw, gan eu cuddio, a chau y gynulleidfa allan o'r capel. Cyflawnwyd y gwasanaeth yn yr ysgoldy ynghanol llawer o ddagrau, ond heb y Cymundeb. Cafwyd hwynt y dydd Mawrth canlynol gan Jason Phillips, Rhydcoedbach yng nghist fach ei gart ei hunan."
Rhoddwn bennill neu ddau o'i gân, sydd yn cynnwys 104 o linellau,—
Meddylient trwy guddio'r allweddau,
Mai hwy a feistrolent y maes,
Ond gormod fu'r antur annuwiol,
Trodd allan yn ddiflas a châs.
Yn lle buddugoliaeth a mawr glod,
Ni chawd ond difriaeth a gwg,
Yr ymffrost drodd allan yn siomiant,
Diflanodd y grechwen fel mwg.
Er hynny nid anwar yr ardal,
Y Lladron yw anwariaid y lle,
Anwariaid er golud a llwon,
Heb gerdded un cam tua'r ne.
Nid chwyddo gan olud na llwon,
Yw ffordd y Baradwys sydd draw.
Rhaid ysbryd heb ysbryd lladratta
Neu syrthia'r holl ymffrost i'r baw.
Wrth wneud siarad felly anghofient,
Fod melldith Duw'r bydoedd ein Hior,
Yn gorphwys ar enaid 'r anwariaid
A chwaneg iddynt etto yn stôr.
Pa beth yw diffrwytho y dwylaw,
At felldith ar enaid y Dyn,
Gwell iddo anafu pob aelod
Na'i daflu gorph enaid i'r llyn.
(March 31, 1864).
Wedi'r digwyddiad erchyll hwn ni bu John Davies mwyach o fewn capel Glandŵr yn y cymeriad o weinidog ar yr eglwys, er iddo ei gwasanaethu ar rai Suliau wedyn, ac mewn priodasau ac angladdau droeon ar ei chais.
Nid oedd raid iddo ymadael â Glandŵr, oblegid yr oedd yr eglwys o'i blaid, ac yn ei barchu'n fawr, a phan ofynnwyd iddo gan gyfaill pam yr ymadawodd â Glandŵr, a dim ond pedwar ar ddeg yn ei erbyn, ei atebiad oedd,—" Nid wyf yn ystyried fod un dyn yn ddigon pwysig i gadw terfysg mewn eglwys o'i achos ef ei hun."
Wedi ymadael â Glandŵr fe'i cyfyngodd ei hun am yr ugain mlynedd arall yn llwyr i Foreia, gan drigiannu yn Ietwen a marchogaeth ar gefn ei anifail yno gyda chysondeb difwlch. O fewn dwy flynedd i ddiwedd ei oes, symudodd i fyw i le gerllaw Moreia o'r enw Iet-y-garn, ac yno y gorffennodd ei yrfa yn batriarch pedwar ugain oed.
Nodiadau
[golygu]- ↑ "Hanes Glandwr," gan Clwydwenfro (tud. 86—100).
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885: op. cit.
- ↑ Nodion Misol" y Diwygiwr, Ionawr 1885
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885 op. cit.
- ↑ Nodiadau "Darlith ar Siôn Gymro," gan y Parch. J. Grawys Jones, Aberdâr, wedi eu teipio, ac a gawsom ganddo.
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885: op. cit.
- ↑ Nodiadau "Darlith ar Siôn Gymro," gan y Parch. J. Grawys Jones: op. cit.
- ↑ "Flores Poetici"—Prydyddiaeth John Davies,—Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.