Neidio i'r cynnwys

Siôn Gymro (llyfr)/John Davies fel Ieithydd

Oddi ar Wicidestun
Yr Esboniwr a'r Ysgolhaig Beiblaidd Siôn Gymro (llyfr)

gan Ben Davies, Pant-teg

Y Llenor a'r Dadleuydd


PENNOD V
IEITHYDD A CHYFIEITHYDD

MEWN rhagair byr i esboniad ar lyfr Amos a gyhoeddwyd dros chwarter canrif yn ôl, cyfeiriais at 'Y Proffwydi Byrion' gan John Davies, Ietwen, ac awgrymais yr enillasai'r awdur safle uchel iddo'i hun ymhlith efrydwyr llenyddiaeth broffwydol yr Hen Destament pe cyhoeddasai gyfrol o'r fath yn Saesneg. Y mae'r gyfrol ysgolheigaidd hon yn cynnwys cyfieithiad gwreiddiol o'r proffwydi byrion ynghyd â nodiadau eglurhaol, ac ar ymyl y ddalen dyfynnir o'r hen gyfieithiadau—Lladin a Groeg a Syriaeg. Ni wn am gyfrol gyffelyb mewn unrhyw iaith. Ni wyddwn ddim ar y pryd am John Davies ond iddo dreulio oes gyfan fel gweinidog mewn ardal wledig. Ni allwn lai na synnu fod gweinidog Cymraeg na fu mewn Coleg y tu allan i Gymru, wedi efrydu digon ar amryw hen ieithoedd i gyhoeddi cyfrol na fuasai ar athro yr un o golegau Rhydychen neu Gaergrawnt gywilydd i'w harddel am mai cyfrol ydoedd na allai neb ond efrydydd ac ysgolor ei hysgrifennu. Trwy ymchwiliad pellach i'w hanes, daeth goleuni newydd ar rai cwestiynau, ond nid yw'r ymchwiliad wedi peri imi newid fy marn am werth y gyfrol. Wedi deall yr amgylchiadau, coleddaf syniad uwch am John Davies oherwydd y llafur a'r ymroad a oedd yn angenrheidiol,—ar ôl iddo orffen ei gwrs mewn coleg,—i'w gymhwyso'i hun i gyhoeddi llyfr o'r fath. Gwn fod gwahaniaeth barn amdano fel disgybl, ond, ar y cyfan, rhaid cydnabod nad oedd ef yn ddysgwr cyflym. Efrydydd diwyd a dyfal ydoedd. Gallu diderfyn i gymryd poen oedd ei athrylith. Araf oedd ei gerddediad fel myfyriwr ond gwnâi ei ddyfalbarhad i fyny'n llwyr am hyn. Nid oedd ball ar ei ddiwydrwydd. Ymddengys nad oedd rhwyddineb ymadrodd ganddo yn ddawn gynhenid, eithr trwy ymarfer cyson fe ddaeth hawster ac eglurder mynegiant, wrth siarad ac ysgrifennu. Ffrwyth llafur diflino oedd hyn. Ni chafodd ei ysgrifbin lawer o seibiant fel y dengys y pentwr o ysgrifau o'i eiddo sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ymddengys iddo ysgrifennu pob pregeth ac anerchiad o bwys a draddodwyd ganddo.

Nid ysgrifennu gyda'r amcan o gyhoeddi a wnâi ond er mwyn mynegi ei feddwl yn groyw a chryno. Nid oedd yn fardd, ond gwnâi ei gynhyrchion prydyddol gyfrol drwchus.

Ieithydd yn anad dim oedd John Davies. Treuliodd dros ddeng mlynedd yn Ysgol Neuaddlwyd, a oedd o dan ofal Thomas Philipps o anfarwol goffadwriaeth. Bu wrthi'n brysur drwy'r holl gyfnod yn dysgu Lladin a Groeg. Ymddengys iddo ddechrau ar yr aelwyd â'i dad yn athro. Dywed yn ei ddyddlyfr mai'r ffaith fod mwy o bwyslais ar ieithoedd yn athrofa'r Drefnewydd a barodd iddo fynd i'r Drefnewydd yn hytrach nag i Gaerfyrddin. "Yr oedd yr hyn a ddysgid yn yr athrofa hon yn fwy cydunol a thuedd fy meddwl na'r hyn a ddysgid yn athrofa Caerfyrddin. Gwell gennyf ddysgu leithoedd, Hanes, Beirniadaeth Feiblaidd, na'r celfyddydau Rhif a Mesur. Ni allwn wneuthur llawer o lun ar Algebra ac Ewclid. Ymroddais i bethau eraill, hoffach gennyf, yn enwedig yr Hebraeg."

Y mae ieithydd o angenrheidrwydd yn gyfieithydd. Y mae'n eglur fod John Davies yn gynefin â chyfieithu o'r naill iaith i'r llall ac ni ellir meistroli unrhyw iaith heb ymarfer o'r fath—yn arbennig cyfieithu i'r iaith a ddysgir. Dywaid eto yn ei ddyddlyfr iddo fod mewn cryn benbleth meddwl ar ddiwedd ei yrfa yn Academi'r Drefnewydd. Nid oedd mewn brys i gymryd gofal eglwys yng Nghymru. Bu'n meddwl llawer am barhau ei efrydiau mewn athrofa arall, e.e., yng Nglasgow. Daeth i'w feddwl fynd i'r maes cenhadol—i wlad Groeg neu Japan. "Yr hyn a'm tueddai i feddwl am Japan oedd cael y fraint o gyfieithu'r Ysgrythurau oherwydd i mi gael cynifer blwyddyn o ysgol." Wedi cau o bob drws ac iddo'i gael ei hun yn weinidog yng Nglandŵr a Moreia, glynodd wrth ei benderfyniad i gyfieithu rhannau o'r Beibl. Hysbysodd ei frodyr yn y weinidogaeth yn fuan ar ôl ymsefydlu yng Nglandŵr ei fod yn bwriadu cyhoeddi esboniad ar Y Proffwydi Byrion —cyfieithiad ac esboniad. Rhwng 1834 ac 1838 bu wrthi'n ddyfal yn cyfieithu'r Testament Newydd ac nid cynt y cwplaodd y gwaith hwn nag yr aeth ati drachefn i ddiwygio'r cyfieithiad. Y mae'r cyfieithiad cyntaf yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a'r cyfieithiad diwygiedig gan y Parch. D. J. Lewis, B.A. Ni wyddom ba bryd y dechreuodd gyfieithu'r proffwydi byrion ond ymddangosodd cyfieithiadau (gyda sylwadau ymarferol) o rai o'r proffwydi yn y Diwygiwr am 1835-36, ac nid oes le i amau nad John Davies oedd y cyfieithydd. Dychwelir at hyn eto.

Beth sydd yn cyfrif am y ffaith fod yr awdur wedi oedi cyd cyn cyhoeddi ei esboniad ar 'Y Proffwydi Byrion,' canys ni ddaeth y gyfrol o'r wasg am hanner canrif ar ôl iddo ddatgan ei fwriad i gyhoeddi cyfrol o'r fath? Bernir yn gyffredin mai diffyg cefnogaeth, a hyd yn oed wrthwynebiad pendant, amryw weinidogion a barodd iddo betruso. Nid oes amheuaeth am anghymeradwyaeth ei frodyr yn y weinidogaeth. Bu llawer o feio a dilorni arnynt am daflu dwfr oer ar frwdfrydedd ac uchelgais ysgolor ieuanc a allasai wneuthur mwy mewn perthynas i esboniadaeth Feiblaidd oni buasai am wrthwynebiad gweinidogion. Ond rhaid inni ystyried barn y cyfnod am y Beibl Cymraeg. Syniad newydd, ac, i amryw, syniad gwrthun—fel popeth newydd oedd cyfieithiad gwreiddiol o'r Beibl. Bernid yn gyffredin nad oedd dim yn angenrheidiol ond esbonio'r Beibl yn gywir. Enillasai'r Beibl Cymraeg le diogel ym meddwl a pharch Cymru Grefyddol— y Beibl fel yr oedd, cyfieithiad yr Esgob Morgan a'i gynorthwywyr, wedi ei ddiwygio gan yr Esgob Parry. Yr ydym ni heddiw yn ddigon cyfarwydd â chyfieithiadau newyddion o'r Beibl, ac yn neilltuol o'r Testament Newydd, ac yr ydym yn barod i'w darllen, a dichon na fu cyfieithiad gwreiddiol o unrhyw ddarn o'r Beibl na thaflai oleuni newydd ar amryw adnodau. Ond bernid yn amgen ganrif yn ôl. Ni synna arnom fod amryw weinidogion a lleygwyr, nid yn unig yn amau cymhwyster gweinidog ifanc i'r gwaith ond yn gwrthod cydnabod bod angen am gyfieithiad newydd o'r Proffwydi Byrion nac o unrhyw ran arall o'r Beibl.

Gwelir y safbwynt hwn mewn llythyr a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr o'r Diwygiwr yn y flwyddyn 1836. Nid oes enw ond "Syl." ar ddiwedd y llythyr. Cynnwys y llythyr feirniadaeth lem ar gyfieithiad newydd o'r bennod gyntaf o Lyfr Nahum, a argraffwyd yn rhifyn Gorffennaf. Awgrymwyd eisoes mai John Davies oedd y cyfieithydd.

Yr oedd awdur y llythyr yn gyfarwydd â'r iaith Hebraeg. Tynnir sylw at y llythyr, nid am fod unrhyw werth yn ei feirniadaeth ond am ei fod yn mynegi'r farn gyffredin ar y pryd,—"Parodd yr olwg ar Nahum," meddai'r critig, " yn ei wisg newydd ryw aidd dros fy Meibl Cymraeg. . . . . a pharod wyf i sefyll dros fy Meibl Cymraeg fel y mae yn hytrach na gweled y fath annibenrwydd ac anghelfyddydrwydd â hyn, a phenderfynais godi fy llais dros fy Meibl Cymraeg a dymuno ar bawb i beidio gwaradwyddo dysgeidiaeth ryfeddol yr oes y cyfieithiwyd ef. . . efallai y par ofid a phetrusder ym mynwes rhyw gristion gwan am gywirdeb y cyfieithiad Cymraeg ac yna amheuaeth am wirionedd. yr Ysgrythyr Lân . . . holl fwriad y llinellau presennol yw attal y fath waith i fyned yn mlaen . . . os na ellir gwneyd y cyfieithiad yn fwy eglur na'r un sydd gennym, nid oes hawl, ac nid yw'n briodol i ni gymmeryd arnom i wella yr hyn, ar ba beth y cytuna dysgedigion penaf yr oes mai anhawdd gwella; ac na fydded i ni gymmeryd arnom eistedd yn nghadair y dysgedigion rhagorol a drefnodd y Goruchaf, yn sicr, i gyfieithu ein Beibl i'r Gymraeg." Nid yw awdur y llythyr yn hawlio hyfforddiad dwyfol i'r cyfieithwyr ond y mae ymadroddion megis y dysgedigion rhagorol a drefnodd y Goruchaf i gyfieithu ein Beibl i'r Gymraeg a dysgeidiaeth ryfeddol yr oes' yn lledawgrymu na ddylai neb—heb gymwysterau cyffelyb, onid gwell,—fod mor rhyfygus â chymryd arno i'w wellhau a'i ddiwygio. Pan goleddid syniad o'r fath am y Beibl Cymraeg ni ellid disgwyl dim ond gwrthwynebiad pendant i bob ymgais i gyhoeddi cyfieithiad newydd. Yn ddiamau yr oedd awdur y llythyr hwn yn mynegi'r farn gyffredin ar y pryd ac, yn wyneb y rhagfarn hon, ofer fuasai ei hanwybyddu gan na ellid disgwyl am gylchrediad i gyfrol o'r fath. Anodd i ni heddiw ddeall safbwynt o'r fath am ein bod yn gyfarwydd ag amryw gyfieithiadau Saesneg o'r Beibl neu o rannau ohono a hefyd gyfieithiadau Cymraeg. Dichon mai John Davies oedd y cyntaf i awgrymu y gellid cael cyfieithiad cywirach, yn arbennig o ddarnau barddonol yr Hen Destament. Tua chanol y ganrif cyhoeddwyd cyfieithiad gwreiddiol o lyfr Job a'r Diarhebion a'r Salmau gan Thomas Briscoe, S.T.B., Is-lywydd ac Athro hynaf Coleg yr Iesu, Rhydychen (1854-1855). Tua'r un adeg cyfieithodd John Owen, M.A., offeiriad yn Thrussington, swydd Caerlŷr, ond brodor o Lanfihangel-Ystrad, Ceredigion—nifer o'r proffwydi byrion, sef Hosea, Micah, Habacuc, Obadiah, a Galarnad Ieremiah, ac ymddangosodd ei gyfieithiadau yn ' Y Traethodydd' (1852-1856). Dichon mai bwriad y ddau gyfieithydd oedd cyfleu arddull farddonol y llyfrau a gyfieithwyd ganddynt.

Ond ar wahân i'r gwrthwynebiad a godai o'r syniad hwn am y Beibl Cymraeg, y mae'n eglur fod amryw weinidogion yn amau cymhwyster John Davies i gyhoeddi cyfieithiad newydd o'r Proffwydi Byrion y ceir ynddynt rai o'r darnau mwyaf anodd i'w cyfieithu yn yr Hen Destament. Hyn oedd ar feddwl ei hen athro, Thomas Phillips y Neuaddlwyd, pan ddywedodd yn ei ffordd ysmala ei hun—"Gwell i John aros yn Iericho hyd oni thyf ei farf".

Pan orffennodd John Davies ei gwrs yn academi'r Drefnewydd yr oedd yn fwy o ysgolhaig clasurol nag ydoedd o Hebreigydd. Dechreuodd astudio Lladin a Groeg yn ysgol y Neuaddlwyd ac ymddengys iddo aros dros ddeng mlynedd yn yr ysgol. Rhaid ei fod yn gymharol gynefin â'r ddwy iaith pan dderbyniwyd ef gan y Bwrdd Cynulleidfaol i'r academi yn y Drefnewydd. Treuliodd bedair blynedd yn yr athrofa ac yn ystod y tymor hwn astudiodd Hebraeg ac ieithoedd perthnasol ynghyd ag amryw bynciau eraill. Yr oedd cwrs addysg yr athrofa, o angenrheidrwydd, yn gynhwysfawr iawn, gan nad coleg diwinyddol yn unig oedd ar y pryd. Yr oedd Edward Davies—llywydd y coleg— yn ysgolhaig clasurol ac ef oedd yn gyfrifol am gynnal dosbarthiadau mewn Hebraeg, Aramaeg a Syriaeg. Ni osodid pwyslais arbennig ar yr ieithoedd hyn. Gwelir wrth gofnodion y Bwrdd Cynulleidfaol (1823) fod cwrs addysg y coleg ar y pryd yn cynnwys Lladin, Groeg, Hebraeg, Aramaeg, Syriaeg, Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Rhifyddiaeth, Mesuroniaeth, Daearyddiaeth, Athroniaeth Naturiol, Hanes Eglwysig, Beirniadaeth Feiblaidd, Diwinyddiaeth ac Areithyddiaeth. Nid oedd yn bosibl rhoddi sylw arbennig i unrhyw bwnc. Dyma'r maes llafur mewn Hebraeg, Aramaeg a Syriaeg yn y flwyddyn 1823. Yr oedd John Davies yn yr athrofa ar y pryd.

Hebraeg (yr ail ddosbarth) Eseciel 20.

Hebraeg (y dosbarth cyntaf) Genesis 49, Iosua 10. Aramaeg, Daniel 5 a'r darnau Aramaeg o Esra. Syriaeg, Actau 26.

A'r pynciau mor lluosog, ni ellid disgwyl mwy. Nid oedd y cwrs Hebraeg ond prin ddigon i lwyddo yn arholiad cyntaf Prifysgol Cymru am radd mewn Diwinyddiaeth. Y mae yn ffaith gwerth ei chofnodi fod Athrofa'r Drefnewydd ar y blaen o'i chymharu ag academïau eraill yn Lloegr, ac i'r Athro Edward Davies y perthyn y clod am hyn. Danfonid arholwyr bob blwyddyn gan y Bwrdd Cynulleidfaol, ac yn adroddiad y Parchedig John Stuart, D.D., Lerpwl, a ymwelodd â'r athrofa yn y flwyddyn 1825 pan oedd John Davies ar ei flwyddyn olaf yn y Coleg, ceir y geiriau a ganlyn am y myfyrwyr:—" Their knowledge of Hebrew, Aramaic and Syriac is beyond anything in any Theological College". Ond rhaid inni gofio beth oedd y safon a gydnabyddid ar y pryd mewn academïau o'r fath. Ni fwriedid i'r myfyrwyr ddysgu dim ond elfennau'r ieithoedd hyn. Y mae'n amlwg nad oedd John Davies ar ddiwedd ei gwrs yn Hebreigydd yn ystyr gywir y gair, ond yr oedd wedi dysgu digon i deimlo awydd i gynyddu yn ei wybodaeth o'r iaith yr ysgrifennwyd yr Hen Destament ynddi. Trwy ddyfal astudiaeth, yn ystod ei weinidogaeth fe ddaeth John Davies mor gyfarwydd â'r Hebraeg ag ydoedd â Lladin a Groeg ond camgymeriad yw'r syniad ei fod yn Hebreigydd ar ddechrau ei yrfa fel gweinidog. Ni synna arnom o gwbl fod ei hen athro yn amau ei gymhwyster ar y pryd i roddi cyfieithiad newydd o'r Proffwydi Byrion.

Ni ddylai neb feddwl am gyfieithu darnau barddonol yr Hen Destament heb astudiaeth hirfaith o'r maes a gwybodaeth drylwyr o'r iaith. Pan nad oedd ef eto ond llanc pum mlwydd ar hugain o oed nid oedd wedi sylweddoli maint y dasg y bwriadai ei chymryd mewn llaw. Dichon fod ei athro Edward Davies wedi awgrymu droeon yn y dosbarth Hebraeg fod lle i gywiro a diwygio'r Beibl Cymraeg, yn arbennig yn llenyddiaeth broffwydol yr Hen Destament. Pan glywodd Edward Davies am fwriad ei ddisgybl gyrrodd air byr i'w longyfarch fod hynny ar ei feddwl. Ni ellid disgwyl i athro wneuthur yr amgen. Gwyddai fod ganddo fedr arbennig i ddysgu ieithoedd, a dichon fod ei ddisgybl wedi sicrhau yr athro mai ei fwriad oedd dod yn gymaint o Hebreigydd ag ydoedd o ysgolhaig clasurol, ond yr oedd astudiaeth ddiflino a hirfaith yn angenrheidiol i gyrraedd y nod.

Pan oedd John Davies yn ddeugain oed cyhoeddwyd erthygl ganddo yn y Dysgedydd' (1844) ar 'Brynedigaeth neilltuol'. Yn yr erthygl crybwyllir y rheswm am iddo feddwl cyfieithu rhannau o'r Beibl ac awgrymir ei fod bellach wedi sylweddoli—yr hyn na allai ei sylweddoli ar ddechrau ei weinidogaeth—mai gwaith anodd oedd cyfieithu llyfrau barddonol yr Hen Destament. Credai ef, fel pawb arall o'i gyfoedion, mai gair Duw oedd y Beibl a'i fod yn gynnyrch dwyfol ysbrydoliaeth. Ond Hebraeg oedd iaith yr Hen Destament a Groeg oedd iaith y Testament Newydd. Yr oedd yn angenrheidiol cael testun Hebraeg a Groeg a chyfieithiad cywir a dealladwy o'r testun. Nid oedd ef yn cydsynio â'r farn na ddylid ymyrryd â'r Beibl Cymraeg fel cyfieithiad. Gwelir ei safbwynt yn y dyfyniad a ganlyn o'r erthygl a grybwyllwyd uchod: "Gellir sylwi fod llawer darn o'r Beibl eto heb ei ddeall. Uwch ben llawer man yn yr Hen Destament a'r Newydd, gellir gofyn—Pwy a ddeallodd y gyfran hon? Y mae llawer rhan o'r Beibl Cymraeg yn anmhosibl ei ddeall. Nid yw yr ymadroddion eu hunain yn ddealladwy. Yn y Testament Newydd y mae llawer rhan, o ysgrifeniadau Paul yn neillduol, heb eu deall. A oes rhywun yn Nghymru a feiddia ddywedyd ei fod ef yn deall y llythyr at y Rhufeiniaid neu at yr Hebreaid?" Ni synnwn ddim iddo feddwl,—ag ef yn credu hyn am y Beibl Cymraeg—fod cyfieithiad newydd yn angenrheidiol—cyfieithiad cywirach a mwy dealladwy. Ond wrth ymgodymu â'r anawsterau sylweddolodd mor anodd y dasg. Ceir ymadroddion awgrymiadol am ei brofiad yn yr un erthygl:—" Cofier mai nid gwaith diwrnod nac oes ychwaith yw deall ysgrifeniadau mor hen, mor wahanol i syniadau arferol y gwledydd gorllewinol a gogleddol yma—ysgrifeniadau sydd mewn ieithoedd dyeithr, ac mewn ystyr ieithoedd meirwon." Dyna'i brofiad ar ôl treulio blynyddoedd i feistroli'r Hebraeg ac ieithoedd perthnasol, oblegid yr oedd yn ddeugain oed pan ysgrifennodd yr erthygl y dyfynnwyd ohoni.

Y mae'n eglur nad gwrthwynebiad ei gydweinidogion yn unig a barodd i John Davies oedi cyhoeddi ei gyfrol ar Y Proffwydi Byrion'. Bu wrthi'n ddyfal drwy'r blynyddoedd yn cywiro a diwygio ei gyfieithiad a'i esboniad, gan gymaint ei awydd i gyfleu'r meddwl yn gywir a diamwys. Y mae'n amlwg iddo newid ei farn am gynnwys ei esboniad. Nid oedd mwy ar ei feddwl ar y dechrau na chyfieithiad a sylwadau ymarferol. Gwerth ei esboniad i efrydydd llenyddiaeth broffwydol yw'r cyfieithiadau o'r hen gyfieithiadau—Lladin, Groeg, a Syriaeg ar ymyl y ddalen. Ffrwyth astudiaeth a llafur am flynyddoedd lawer oedd hyn.

Nid dyfalu yr ydys wrth honni bod yr awdur wedi bod wrthi'n ddyfal am hir amser yn cywiro ei gyfieithiad ac yn gwellhau ei nodiadau. Ni ellir credu'n amgen os cymherir ei gyfieithiadau' cyntaf o'r proffwydi (1835-36), ei gyfieithiadau diweddarach, fel y'u ceir mewn llawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth (1864-1866) a'i gyfieithiad yn y gyfrol gyhoeddedig (1881).

Yn y 'Diwygiwr' am Ionawr 1836 ymddangosodd cyfieithiad o' Weledigaeth Obadiah' gyda rhagair byr a sylwadau ymarferol. Dilynwyd y cyfieithiad gan gyfieithiadau o Habacuc, a Nahum a Sephaneia mewn rhifynnau diweddarach. Nid oes un enw wrth y cyfieithiadau hyn ond bernir yn gyffredin mai John Davies oedd y cyfieithydd. Cyfeiriasom eisoes at lythyr rhyw gritig dienw a'i feirniadaeth lem ar y cyfieithiad o'r bennod gyntaf ym mhroffwydoliaeth Nahum. Dyma ran o'r rhagair i'r Cyfieithiad o Habacuc yn y Diwygiwr' am Mawrth (1836): "Saif y proffwyd hwn yn uchel ymhlith y prydyddion Hebreaidd; y mae ei ddrychfeddyliau yn hedegog a hardd a'r iaith yn mha un y gesyd hwynt allan yn fywiog a grymus, yn enwedig yn ei gan yn y bennod olaf." Cymharer y dyfyniad uchod â'r rhagymadrodd i Habacuc yn ei gyfrol ar 'Y Proffwydi Byrion' a argraffwyd yn 1881. "Saif Habacuc yn uchel ymysg y prydyddion Hebreaidd. Y mae ei feddyliau yn hedegog a'i lafar yn fywiog a grymus yn enwedig yn ei weddi neu ei hymn yn Pen. III."

Dyma ddarn o'r rhagair i Obadiah yn y 'Diwygiwr' am Ionawr (1836): "Ni wyddis pa le na pha bryd y ganwyd y Proffwyd hwn . . . nid yw ei broffwydoliaeth ond ber... y mae yn gynnwysedig o ddwy ran y gyntaf yn fygythiol, yn erbyn Edom yn bennaf am eu balchder a'u casineb creulon at yr Iddewon. Yr ail yn gysurlawn, yn rhagddywedyd adferiad yr Iddewon o'u caethiwed, eu buddugoliaeth ar eu gelynion, a'u cyflwr llwyddiannus yn y canlyniad." Cymharer y dyfyniad uchod â'r geiriau a ganlyn o'r rhagair i Obadeia yn ei gyfrol gyhoeddedig: "Ni wyddis pa le na pha bryd y ganwyd y proffwyd hwn . . . Proffwydoliaeth fer ydyw ysgrif Obadiah . . . ac yn gynnwysedig o ddwy ran y gyntaf yn cynnwys bygythion yn erbyn Edom am eu balchder a'u casineb at yr Iddewon. Yr ail, yn gysurlawn, yn rhagddywedyd adferiad yr Idduewon o'u caethiwed, eu buddugoliaethau ar Edom a'u cyflwr llwyddiannus a sanctaidd ar ôl llaw."

Dengys y dyfyniadau uchod mai John Davies oedd awdur y cyfieithiadau yn y 'Diwygiwr' (1836) a'i fod yn barod iawn i ddwyn i mewn fân gyfnewidiadau yn ei nodiadau ar y proffwydi. Newidiodd ei farn am ystyr amryw ymadroddion a hyd yn oed am genadwri'r proffwyd.

Yn ei ragair i'w gyfieithiad o lyfr Nahum yn y 'Diwygiwr' am Orffennaf (1836) darllenir:—" Dywed Ierom mai pentref yn Galilea oedd Elcosa . . . fel prydydd ystyrrir Nahum gyda y rhagoraf o'r proffwydi Byrion . . . mae ei ddull a ddesgrifir yn oruchel, dewr a thanllyd." Os darllenir ei ragymadrodd i Nahum yn ei gyfrol gyhoeddedig gwelir iddo newid ei farn—nid heb achos—am safle'r proffwyd ymysg y proffwydi. Gadawodd allan yr ymadrodd bod Nahum "gyda y rhagoraf o'r proffwydi byrion," a newidiodd ei ansoddeiriau am iaith y proffwyd: "Y mae iaith Nahum yn. brydferth, bywiog a chyffrous."

Ni ellir casglu oddiwrth y Cyfieithiad mai John Davies oedd y cyfieithydd, ond prawf yw hyn ei fod yn dueddol i newid ei farn a'i gyfieithiad.

Crybwyllasom eisoes fod cyfieithiad o'r proffwydi byrion mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ceir amryw ddyddiadau yn yr ysgrifau —y dyddiad cyntaf yw Gorffennaf 4, 1864, a'r olaf Mehefin 26, 10.15 o'r gloch yn y bore, 1866. Diddorol yw cymharu'r cyfieithiad hwn â'r cyfieithiad o rai o'r proffwydi byrion yn y Diwygiwr' am 1836. Y mae'r cyfieithiad yn y gyfrol gyhoeddedig yn wahanol i'r naill a'r llall. Nid yw'r gwahaniaeth, ond yn anaml, yn newid y meddwl. Ni wneir mwy na newid gair. Y mae'n eglur i'r cyfieithydd gael trafferth i wneud ei feddwl i fyny beth oedd y gair neu'r geiriau mwyaf cymwys i gyfleu'r meddwl. Fel rheol newidiodd ei gyfieithiad er gwell. Ond nid oedd John Davies yn feistr ar arddull lenyddol. Nid ysgrifennu Cymraeg dillyn oedd ei fwriad fel cyfieithydd ond cyfleu'r meddwl yn gywir. Rhodder enghraifft neu ddwy.

Amos v.—a chyfiawnder fel llifeiriant nerthol (di-baid), ffrwd (gref) (1864-66) a chyfiawnder fel llifeiriant cryf (1881).

Hab. ii: 2—fel y gallo'r hwn a'i darlleno redeg (1836). fel y rhedo yr hwn a'i darlleno (1864—66). Hab. ii: 4—Ond y cyfiawn a fydd byw mewn ffydd (1836). A gwr uniawn a fydd byw yn ei ffyddlondeb (1864-66).

Yn ei ragymadroddion i'r proffwydi fe geir cyfnewidiadau cyffelyb. "Dechreuodd Hosea ar y swydd yn foreu a daliodd atti hyd henaint." (1864-66). "Dechreuodd Hosea ar ei waith fel proffwyd yn foreu a pharhaodd wrtho hyd henaint." (1881).

Dengys y dyfyniadau uchod fod John Davies yn cael anhawster i ddewis y geiriau mwyaf cymwys wrth grynodebu dysgeidiaeth y proffwydi. Trwy astudiaeth lwyrach o lenyddiaeth broffwydol newidiodd ei farn am eu cenadwri. Ni synna arnom iddo gael anhawster cyffelyb fel cyfieithydd i ddewis y gair cywir neu'r ymadrodd iawn i gyfleu meddwl y proffwyd. Gŵyr pawb sydd yn gyfarwydd â llyfrau'r Proffwydi fod amryw gyfieithiadau yn bosibl. Nid yw'r darlleniad uwchlaw amheuaeth mewn llawer adnod. Y mae'n eglur iddo betruso llawer cyn dewis ei gyfieithiad. Os darllenir ei gyfieithiad o'r Testament Newydd gwelir mai ei gynllun oedd rhoi pob cyfieithiad posibl o'r Hebraeg neu'r Roeg, ac yna, wedi astudiaeth bellach a manylach mabwysiadu'r cyfieithiad, a oedd yn ei farn ef, yn cyfleu'r gwirionedd. Y mae ei gyfieithiad o Weddi'r Arglwydd, yn ei gynnig cyntaf, yn enghraifft o'i gynllun.

Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd, anrhydedder— parcher—dy enw. Deued dy deyrnas—frenhiniaeth... Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol—at ein cynhaliaeth


CAPEL MOREIA


—fod ei eisieu bob dydd am y diwrnod sydd yn dyfod." Yn ei gyfieithiad o'r proffwydi byrion a welir mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a hwnnw wedi ei ddyddio rhwng 1864 ac 1866 fe geir amryw gyfieithiadau. Dengys hyn nad oedd wedi gwneuthur ei feddwl i fyny'n derfynol pan oedd yn drigain mlwydd oed. Ni ellir amau nad diffyg hunan-hyder, i fesur helaeth, oedd yn gyfrifol am hyn.

Awgrymwyd eisoes fod John Davies wedi ysgrifennu ei bregethau a'i anerchiadau heb un bwriad i'w cyhoeddi. Pe cyhoeddid y pentwr ysgrifau—rhyddiaith a barddoniaeth y sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, gwnaent nifer o gyfrolau trwchus, a dichon nad yw'r cwbl a ysgrifennodd ar glawr. Dichon iddo gyfieithu darnau o'r Beibl am fod gwaith o'r fath wrth ei fodd. Yr oedd John Davies yn Ieithydd ac nid oes mwynhad uwch i ieithydd na chyfieithu o un iaith i'r llall. Ymysg yr amryw ysgrifau o'r eiddo ef yn y Llyfrgell Genedlaethol fe geir cyfieithiad o ran o Lyfr y Pregethwr—Ecclesiastes. Ni pherthyn i'r cyfieithiad unrhyw ragoriaeth arbennig ond dengys fod cyfieithu yn hoff waith ganddo. Crybwyllwyd eisoes iddo gyfieithu'r Testament Newydd rhwng 1834 ac 1838 ac ymgymryd â'r dasg o'i ddiwygio yn fuan ar ôl gorffen y Cyfieithiad cyntaf, ond nis argraffwyd. Ni chefais hamdden na chyfle i ddarllen yn fanwl ei gyfieithiad o'r Testament Newydd ond fe geir yma a thraw gyfieithiadau diddorol ac awgrymiadol ac nid oes amheuaeth na fuasai llawer o ddarllen arno pe cyhoeddesid ef pan nad oedd gyfieithiadau diweddar eraill ar y maes megis yr eiddo Weymouth a Way a Moffatt.

Nodiadau

[golygu]