Neidio i'r cynnwys

Siôn Gymro (llyfr)/Y Pregethwr a'r Gweinidog

Oddi ar Wicidestun
Y Bardd Siôn Gymro (llyfr)

gan Ben Davies, Pant-teg

Atodiad I


PENNOD VIII
PREGETHWR A GWEINIDOG

YN ddiweddaf oll, ac yn bennaf oll, ceisiwn sylwi arno fel PREGETHWR A GWEINIDOG DA I IESU GRIST. Prin y cyfrifid John Davies yn bregethwr hwylus a dawnus gan gynulleidfaoedd ei gyfnod, ond yn hytrach yn sychlyd, ac yn anniddorol i'r lliaws, a hynny oherwydd ei fod yn fwy o bregethwr i'r pen a'r deall nag i'r galon a'r teimlad. Fe ddywedir i rywrai ei glywed ar rai achlysuron yn canu'n dda, ac yn tiwnio'n hwylus. Hawdd gennym gredu hyn, pan gofiwn ei fod yn bur hyddysg mewn Cerddoriaeth, a'i fod yn arfer canu'r 'German flute' ar lannau Hafren. Er hynny goleuo, a dysgu ac adeiladu oedd ei brif nodwedd fel Pregethwr. Pregethai'n rhyfeddol o fyr ar ddechrau ei weinidogaeth. Mae stori am dano ar ei ffordd i bregethu yn Llwyn-yr-hwrdd un bore Saboth. Marchogai ar gefn ei anifail gan gychwyn yn gynnar, a galw ar rywrai ar y ffordd. Pasiodd hen wraig ar bont Llanfyrnach, a chyfarchodd hi gan ofyn iddi ble'r oedd hi'n mynd. "I Lwyn-yr- hwrdd," atebai'r hen wraig.

"Mae'n rhy gynnar i'r oedfa," meddai Mr. Davies. "O! Mr. Davies Glandŵr sydd gyda ni y bore yma, ac mae ef yn dibennu gyda'i fod yn dechrau."

Hawdd gennym gredu ei fod yn fyr ar adegau, gan ei fod yn nithio mor fanwl, a byth yn ymroddi i glebran, a bod yn y pulpud yn fath o rod y felin, y sydd yn mynd gyflymaf pan na bo dim yn cael ei falu.

Ni welir ei ddoethineb a'i fedr yn well nag yn ei bregethau angladd. Tarawai ar y testun priodol bob tro a phregethai i bwrpas ar bob achlysur. Gwasanaethai un tro yn angladd James Humphreys, hen ysgol- feistr Glandŵr, a chymerth yn destun ar yr achlysur y geiriau canlynol—" Yn athraw i'r anghall, ac yn ddysgawdwr i'r rhai bach" (Rhuf. ii: 20). Pregethai ar achlysur arall yn angladd hen chwaer fud o'i mebyd a adweinid yn y gymdogaeth wrth yr enw Hannah, yr hon a fu'n nodedig o ffyddlon i'r moddion cyhoeddus, a phan agorodd ei Feibl ar ddiwrnod ei hangladd, darllenodd yn destun y geiriau tarawiadol,—" Ac y cân tafod y mudan " (Esaia xxxv: 6).

Nodwedd arall amlwg ynddo fel Pregethwr oedd ei weddïau cyhoeddus. Nid anghofiwyd gan y rhai a oedd yn bresennol yn Undeb Dinbych, 1881, am ei weddi agoriadol i un o'r cyfarfodydd, pan gyfeiriodd at y mellt a'r taranau a fu'n gwau drwy'r adeilad y noson flaenorol, a'u gwaredigaeth hwythau a oedd yno. "Ond heddiw," meddai, "dymunwn dân o natur arall, ac o le uwch i'n cynhesu a'n goleuo ". Tystiolaeth ddiymwad y rhai a'i cofiai oedd fod yn perthyn i'w weddïau ffresni a dwyster a difrifwch. Yr oedd cryn alw arno i bregethu gyda'r Saeson, a gwnai hynny'n fynych, yn enwedig yn rhannau isaf Sir Benfro. Gelwid arno'n aml i lywyddu Cynadleddau ei gyfundeb ei hun, a Chymanfaoedd Tair Sir, a gwyliau tebyg, a thraethai bob amser eiriau pwrpasol o'r gadair, gan fod yn gywir ei gyngor, a diogel ei arweiniad.

Yr oedd iddo safle anrhydeddus yn ei Enwad. Llanwai le pwysig yn ein colegau, fel y sylwasom eisoes, a bu yn Gadeirydd yr Undeb yn 1873, yng Nghaernarfon, pryd y traddododd o'r gadair ei anerchiad ar "Iesu Grist yn pregethu yn esiampl i bregethwyr eraill", a phan gofiwn ni mai Hiraethog oedd Cadeirydd cyntaf yr Undeb, a 'Satan' yn destun ei anerchiad o'r gadair, gwelwn ystyr i ymffrost pobl Moreia pan dystient fod gwell testun gan eu gweinidog hwy o lawer na chan Hiraethog.

Cafodd ei Jiwbili ym Moreia yn 1877, ac efe yn 73 oed, pryd yr anrhegwyd ef gan ei eglwys, a chan ei Gyfundeb. Fel hyn yr ysgrifenna'r Parch. Simon Evans, Hebron am y rhoddion,—"Cafodd yn anrheg gan eglwys Moriah Feibl chwe—ieithiog, ac ar ôl hyny, ar adeg ei Jiwbili cafodd y Speaker's Commentary yn rhodd oddiwrth Gyfundeb Penfro' a rhyw £120 yn arian.[1] A phwy a warafun hyn o gydnabyddiaeth ac o glod i hen weithiwr da na fu ei gyflog erioed dros £60 y flwyddyn? Pwy ond y gweithiwr cydwybodol a fuasai yn dod yn ffyddlon fel efe i 'gwrdd plant' ym Moreia yn 72 oed, a phwy ond yr ieuanc ei ysbryd a fuasai yn ymyl ei 80 oed yn ymfalchio wrth ei gyfaill Clwydwenfro mewn llythyr ei fod wedi cael holl weithiau Plato yn anrheg, ac mor falch ohonynt â phlentyn o'i deganau. Cawn ef yn anturio codi capel newydd ym Moreia yn ymyl ei 80 oed ac er na chafodd weled y gwaith wedi ei orffen, gwnaeth y caledwaith i gyd ynglŷn â'r anturiaeth a gwelodd yr adeilad newydd o dan ei do. Yn flaenorol i hyn yr oedd wedi sefydlu'r eglwys yn 1830,—wedi adeiladu addoldy newydd yng Nghefn-y-pant, (er na ffurfiodd eglwys yno), ac ail-adeiladodd addoldy Glandŵr yn 1836. Awyddai yn ei flynyddoedd olaf fyw yn nes i Moreia, a daeth lle bychan o'r enw Iet-y-garn ar werth. Talodd £300 am dano, ac wedi atgyweirio'r tŷ, preswyliodd yno am tua dwy flynedd.

Ysgrifennai at ei gyfaill Clwydwenfro ryw bythefnos cyn marw gan ddefnyddio brawddeg fel hyn am ei anhwylder" I am dying daily ", ac ar fore Mercher, Rhag. 10fed, 1884, aeth allan i'r ardd, a heb boen na loes syrthiodd yn y fan honno'n farw, ac ehedodd ei enaid mawr a glân at Dduw, Tad yr Ysbrydoedd.

Dodwyd ei gorff mewn bedd newydd, dyfrllyd yn ymyl ei fab a'i ferch, ym mynwent Moriah, Rhag— 16eg, 1884, pan oedd lliaws yn bresennol. Gwelsom yno W. R. H. Powell, A.S.; E. H. James, Y.H.; Offeiriaid Llanwnio, Llanfyrnach a Llanboidy, Davies Cwmfelin a thua 20 o weinidogion yr Annibynwyr, amryw o ba rai a fuant yn darllen, gweddio a siarad dan arolygiaeth Mr. Daniel Evans, pregethwr cynorthwyol ym Moriah."[2]

Cywir y sylwodd yr Athro D. E. Jones, M.A., Caerfyrddin, yn ei angladd ei fod yn ddyn anghyffredin. Syml a didwyll ydoedd o ran ei ymarweddiad. Gwisgai'n syml, a bwytâi'n syml, yr hyn a gyfrifai am ei iechyd da drwy ei oes, a'i fod yn 74 oed yn torri cnau â'i ddannedd ei hun. Syml a Chymreig oedd ei aneddau bob un,— Bwlch-yr-helygen, Castell-y-geifr, Llwynteg, Penrallt, Ietwen a Iet-y-garn.

Syml oedd ei enw llên— Siôn Gymro', a syml o fawr oedd mewn carictor a moes. Dyn ar y blaen i'w oes ydoedd, ac fel pob dyn felly, yr oedd yn agored i gael ei gamesbonio'n fynych. Dyn mawrfrydig ydoedd hefyd, ac yn tueddu i ymddangos yn oer a di-serch i rywrai, ond yr oedd felly am ei fod yn byw mewn cylch o feddwl na allasai llawer ddim dyfod i mewn iddo. Dyn o serchiadau dwfn ydoedd er hynny, ac yn medru wylo gyda'r rhai oedd yn wylo, a bod yn llawen gyda'r rhai oedd yn llawen, ac yn ôl tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai orau, yr oedd yn ddihafal fel cysurwr i'r cystuddiol a'r galarus. Cadwodd yn ifanc ac yn loyw mewn gwaith hyd y diwedd, ac aruthrol ydoedd hwnnw o ran maint ac ansawdd, a gadawodd ar ei ôl etifeddiaeth y daw ei gwerth a'i chyfoeth yn amlycach eto, fel y bydd efrydwyr y dyfodol yn cerdded ei meysydd, ac yn tynnu allan o'i mwyngloddiau bethau newydd a hen. Ar ddyfod y mae dydd John Davies yng Nghymru, a gwelodd rhywrai o'r dysgedicaf yn ei gyfnod yr awr honno'n dyfod gyda llawenydd, megis Abraham gynt. Y mae ei gyfraniad yn ddiau yn fawr ac yn disgwyl am i wrtaith y dyddiau diweddaf hyn ei gosod yn ei ffrâm fodern, ac mewn cylchrediad mwy ymarferol. Gwir i'r Athro D. E. Jones, Caerfyrddin, ddywedyd am dano mai dyn anghyffredin ydoedd, ie, anghyffredin yn ei lafur mawr os nad anhygoel ymron, fel gŵr medrus yn y clasuron, fel ysgolhaig dwyreiniol ac ieithydd campus, fel llenor a bardd coeth, ac ysgolor Beiblaidd o'r radd flaenaf. "Fy Nhad, fy Nhad, cerbyd Israel a'i farchogion" oedd y proffwyd hwn i'w gyfnod, a disgynned deuparth o'i ysbryd ar Gymru fydd.

Nodiadau

[golygu]
  1. Diwygiwr, Mawrth 1885. op. cit.
  2. Diwygiwr, Mawrth 1885. op. cit.