Siôn Gymro (llyfr) (testun cyfansawdd)
| ← | Siôn Gymro (llyfr) (testun cyfansawdd) gan Ben Davies, Pant-teg |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Siôn Gymro (llyfr) |

SIÔN GYMRO
SEF
BUCHEDD A GWAITH Y PARCH. JOHN DAVIES,
GLANDŴR A MOREIA, PENFRO
GAN Y
Parch. Ben Davies, Llandeilo
LLANDYSUL:
J. D. LEWIS A'I FEIBION, ARGRAFFWYR, GWASG GOMER
1938
CYFLWYNEDIG i'm priod, yr hon er
dydd ein cyfamod priodasol yng
nghapel y Bwlchnewydd, Caerfyrddin,
y Pasg, 1905, a fu i mi yn bopeth a
berthyn i "ymgeledd gymwys".
RHAGAIR
DECHREUODD fy niddordeb yn y Parch. John Davies yn gynnar iawn. Ni chefais y fraint o'i weled na'i glywed erioed—rhy ieuanc oeddwn i hynny. Ond yr oedd Iet-y-garn, ei drigfan olaf, o fewn golwg i'm cartref, ac un o blant Moreia oedd fy mam. Pan oeddwn yn saith. mlwydd oed, cofiaf hi yn prynu llun ei gweinidog, ac y mae'r llun hwnnw hyd heddiw ar fur yr hen gartref, wedi llwydo ac edwino'n fawr erbyn hyn gan dreiglad y blynyddoedd, ond yn fy serch a'm cof yn fythol ir a newydd. Clywais lawer o són am dano ymhen. blynyddoedd ymhlith yr ardalwyr, a dyfnhaodd fy niddordeb fwyfwy ynddo wedi myned i'r weinidogaeth. Deliais ar bopeth a glywn ac a ddarllenwn. am dano, a ffrwyth yr ymchwil a'r llafur hwnnw yw'r gyfrol hon. Rhoddwyd gwobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun, 1936, am Draethawd ar "Fuchedd a gwaith John Davies ", a dyfarnwyd cynnwys y gyfrol hon gan mwyaf yn ail—orau. Cymeradwywyd y gwaith yn ei raniadau a'i gynnwys gan y Beirniad, y Prifathro Thomas Lewis, M.A., B.D., Aberhonddu, ac awgrymodd y gallasai'r Cystadleuydd wneud Cofiant i'r gwrthrych o'i ddefnyddiau. At hynny yr anelwn yn bennaf, a'r hyn a gollodd y wobr a ddiogelodd y ffurf hon i'r gwaith. Mae fy nyled yn fawr iawn i'r rhai canlynol am eu cynorthwy a'u cyfarwyddiadau ynglŷn â'r gyfrol:— I Mr. John Edwards, M.A., Yr Ysgol Sir, Llandeilo am ddarllen y proflenni a llawer awgrym gwerthfawr; i'r Parch. D. J. Lewis, B.A., Tumble (ym meddiant yr hwn y mae Cyfieithiad John Davies o'r Testament Newydd) am bob hwylustod ynglŷn â'r adran bwysig hon; yr Athro Emrys Jones, B.A., B.D., B.Litt., a'r diweddar Brifathro J. Park Davies, M.A., B.D., Coleg Caerfyrddin, ynglŷn â'r ochr glasurol i'r gwaith; y Parch. T. Esger James, Llansteffan (ym meddiant yr hwn y mae Dydd-lyfr Siôn Gymro ') am ddyfyniadau ohono; i Staff y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, lle y cedwir y rhan fwyaf o MSS Siôn Gymro, heb anghofio'r argraffwyr clodwiw y caf y fraint o'u cyfrif ymhlith fy nghyfeillion anwylaf yn nhreflan Llandysul, a fu gynt yn faes i'm gweinidogaeth am un-mlynedd-ar- ddeg.
Ond yn bennaf oll dymunwn gydnabod y Prifathro Thomas Lewis am ei gyfraniad gwerthfawr ar John Davies fel leithydd. Gwyddwn am ei ddiddordeb mawr yn ein gwrthrych, ac nad oedd awdurdod uwch ar y pwnc nag efe, a rhoddodd i mi ei gynorthwy amhrisiadwy yng nghanol ei brysurdeb fel Cadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am 1937. Wrth baratoi y lluniau a'r blociau at y Gyfrol bu raid inni adael allan Bwlch-yr-Helygen a Chastell-y-geifr am eu bod yn ormod o adfeilion i'w gosod mewn llun, ac wedi eu cuddio ymron gan hesg a drain a danadl. Rhoddi hanes gŵr mawr diwylliedig yn llaw gwerin fy ngwlad, ac am bris rhesymol oedd fy amcan wrth droi allan y gyfrol yn y ffurf hon, gan hyderu fy mod i ryw fesur wedi llwyddo. "Hyn fydd fy nghoron a'm llawenydd ".
- BEN DAVIES.
- Llandeilo.
- BEN DAVIES.

Y Parch. JOHN DAVIES (SIÔN GYMRO)
GLANDWR A MOREIA
1804-1884
CYNNWYS
DARLUNIAU
Y PARCH. JOHN DAVIES, GLANDŴR A MOREIA
YSGOL NEUADDLWYD
CAPEL NEUADDLWYD
CAPEL GLANDŴR
CAPEL MOREIA
IETWEN (lle y bu Siôn Gymro yn preswylio am 35 o flynyddoedd)
IETYGARN (lle y symudodd i fyw ddwy flynedd cyn ei farw)
Talfyriadau a ddefnyddir yn y Gwaith:—
C.D.—Cyfieithiad Diwygiedig.
C.A.—Cyfieithiad Awdurdodedig.
J.D.—John Davies.
J.R. ac S.R.—Adnabyddus drwy Gymru fel y Parchn.
John Roberts a Samuel Roberts, Llanbrynmair a Chonwy.
Barnasom mai doeth oedd rhoddi'r dyfyniadau yn orgraff eu gwahanol awduron.
PENNOD I
AR LAN LLETHI
LLETHI, Hafren a Thaf, dyna'r tair afon sydd yn rhannu i ni oes y Parch. John Davies yn dri chyfnod ar eu glannau y gwnaeth waith mawr ei fywyd.
Afonig fechan yw Llethi yng Ngheredigion, yn tarddu mewn bryndir noethlwm a elwir y Bannau Duon, i'r de-ddwyrain o Lanarth, gan lifo i lawr drwy'r pentref dan gysgodion y coed, nes ymgolli ohoni ym mae y môr yng Ngheinewydd. Rhy fechan ydyw i'w dangos ar y map, ond nid wrth y filltir yn unig y mae mesur afonydd, ond hefyd wrth linyn serch y rhai a fegir ar eu glannau.
Dangosodd ein gwrthrych ei serch at afon ei febyd drwy ei gân[1] iddi, fel y cawn sylwi eto yn nes ymlaen, a thrwy ysgrifennu'n aml o dan y ffugenw 'Siôn Llethi'. Ar lan yr afonig hon, mewn lle o'r enw Bwlch-yr-Helygen, y ganed John Davies, Mawrth 5, 1804, ond mewn lle o'r enw Castell-y-Geifr, yn ffinio ar yr un tir, y maged ef. Enwau ei rieni oedd David a Mary Davies—y ddau yn aelodau yn eglwys y Neuaddlwyd, a'r tad yn ddiacon yno. Bernid bod ei dad yn ŵr o ddysg uwchlaw'r cyffredin, ac yn medru Groeg a Lladin, wedi ei fwriadu i'r offeiriadaeth, ond wedi glynu drwy argyhoeddiad yn Ymneilltuwr. Heblaw ei fod yn amaethu, yr oedd hefyd yn gweithredu fel Goruchwyliwr i ystad Nantgwyllt, Maesyfed, yr hon a gynhwysai rai ffermydd ym mhlwyfi Llanarth a Llanina.
Awgrymir i ni gan hyn fod ei rieni mewn amgylchiadau cysurus, ac felly'n abl i roddi iddo fanteision addysg. Hyd yn saith mlwydd oed bu John Davies yn cael gwersi gan ei dad, a dysgai'n gyflym, gan holi ei athro'n fanwl ambell dro, ac ynglŷn ag ambell bwynt, hyd oni holodd ef un noson i'r gongl yn hollol. Arferai Dafydd Dafis Castell—Hywel gynt orchymyn i ambell fyfyriwr a lithrai'n ddiofal dros ei wersi osod y Gramadeg Lladin neu'r Gramadeg Groeg ar y llawr, a neidio drosto. Wedi gwneud hyn meddai'r hen athro wrth y llamwr, "Gellwch fynd adre 'nawr, a dweud eich bod wedi myned dros y Gramadeg Lladin " (neu'r Gramadeg Groeg fel y digwyddai). Ond nid disgybl i fyned dros bethau oedd John Davies er yn ieuanc ond trwy bethau, a gwelodd ei dad yn fuan fod yn rhaid ei osod mewn ysgol uwch na'r eiddo ef yn rhywle, a chafodd fyned i Ysgol Neuaddlwyd, o dan arolygiaeth Dr. Thomas Phillips. Bu yn yr ysgol hon am un mlynedd ar ddeg, hyd oni chyrhaeddodd ei ddeunaw oed. Gwnaed ef yn aelod o eglwys Neuaddlwyd pan oedd yn ddeuddeg oed, yn ôl Clwydwenfro.[2] Ni rydd 'Dyddlyfr Siôn Gymro' ei oed pan dderbyniwyd ef yn aelod, ond dywed iddo gael ei gymell i ddechrau pregethu gan Dr. Phillips yn bymtheg oed. Y mae ei destun cyntaf yn nodweddiadol iawn o'r ysbryd Cristnogol a dreiddiai drwy Ysgol Neuaddlwyd—"Byddwch lawen yn wastadol" (1. Thes. v, 16). Nodweddid ef fel pregethwr ieuanc gan ddysg a dwyster, ac yr ydym yn rhoddi pwyslais arbennig ar y nodwedd ddwys a berthynai i'r efrydydd ieuanc. Dywed John Davies yn ei Ddydd-lyfr[3] iddo gael ei flino gan amheuon pan oedd yn y Neuaddlwyd, a thebygwn i'r rhain godi o gylch y blynyddoedd y meddyliai ddechrau pregethu. Dyfynnwn ei eiriau ef ei hun o'r Dyddlyfr uchod," Pan yn dysgu Rhesymeg yn y Neuaddlwyd, dygwyd fy meddwl i faes oedd ar y cyfan yn newydd i mi hyd hynny. Nid wyf yn meddwl fod bai ar Dr. Phillips am orchymyn i mi ei ddysgu, nag un duedd niweidiol yn Rhesymeg Dr. Watts i feddwl dyn. Er hynny cafodd effaith niweidiol iawn ar fy meddwl. Fel yr oeddwn yn mynnu cyfarwyddo ynddo, dygodd amryw o bethau newyddion dan fy sylw. Yn y rhan gyntaf, tynodd y gair Individuation fy sylw. Pan ddarllenais ef gyntaf, nis gwyddwn yn gywir beth oedd ei arwyddocâd. Troais i Eiriadur Ffrengig, a dysgais o hwnnw ei ystyr. Ar ôl y wers hon yn bennaf dechreuais feddwl nid yn unig am yr hyn oedd yn Logic, ond am bethau eraill hefyd. Dechreuais ameu am bob peth, nes i mi ddyfod o'r diwedd i ameu Rhagluniaeth, gwirioneddau y Beibl, ie, mewn gair i wadu y bod o Dduw. Nis gallaswn, ie, ni fynaswn gredu fod y greadigaeth yn waith ein Duw, ond ei bod fel y mae yn o dragwyddoldeb yn hunan-greuedig, neu yn Ddamweiniol-greuedig trwy ail-achosion, yr hen reswm am bopeth, heb gofio fel y dylaswn na allasai, ie, na buasai ail-achosion byth heb iddynt gael eu heffeithio gan yr Achos Cyntaf. Yr oeddwn erbyn hyn yn dechreu gweled fy hun yn ŵr doeth. Byddai'r Beibl a'r pethau dyfnion a gwerthfawr ynddo yn cael eu hystyried yn anheilwng o'm sylw, mai i ddynion penweinion ie, anllythrenog ac anwybodus, ie, y rhai a weithient hyd y meusydd a'r cloddiau yr oedd y Llyfr bendigedig hwnw yn addas, ac nid i ddyn oedd yn medru darllen gwaith enwogion Rhufain, Groeg, ac yn medru ymresymu. Ystyriwn bregethau yn chwedlau, a'r gweddiau o'r mwyaf duwiol a thaer yn ffugodau gwaelion. Erbyn hyn collais pob parch i'r Beibl a chrefydd. Daeth llyfryn bychan i'm llaw o'r enw "The Beauties of Hume ". Darllenais ef yn awyddus, canys yr oedd yn eithaf cydweddol a'm natur lygredig, eithr gwenwyn melus ydoedd, ac felly yw gwaith y rhan fwyaf o'r un ysgol ag eiddo'r Awdur. Cyffroi y maent y meddwl ieuanc ar ôl dedwyddwch. Dangosant y blodeuyn o'i flaen, ond byth ni ellir ei gyrhaedd, canys er gyrru ar ei ôl â byth bellach, bellach oddi wrthynt. Rhaid dychwelyd o'r ymofynfa yn siomedig ac anedwydd. 'Rwyf yn cofio fod y llyfryn hwn yn fy llaw wrth ddyfod adref o'r Ysgol, pryd yr oedd yr wybren yn ddu o wlaw, a'r cymylau yn ymgasglu i'w dywallt. Darllenwn ef ar hyd y ffordd i dŷ fy nhad. Pryd hyn yr oedd yn tarannu, ac yn melltennu yn aruthrol. Yr oedd gennyf hoffter yn yr ucheledd—y 'sublime', ac euthum wedi cael fy nghyfran o fwyd i ben y bryn nesaf at y tŷ, ac oddi arno edrychais yn arwraidd ar y mellt yn gwau, a gwrandewais yn ddiofn ar y tarannau yn rhuo draw. Cododd hyn fwyaf oddiar fy nyffyg ofn o Dduw ac wedi iddi ddechreu gwlawio, euthum i'r tŷ fel pe buasai milwr yn dychwelyd o'r gâd yn orchfygol. Felly finnai, yn llawn o wrthryfel yn erbyn ac ammharch o Dduw, yr Hwn a welir, ac a glywir, ac a deimlir ymhob man. Cefais gyfle hefyd i ddarllen llyfr o'r enw "Simpson's Plea for Religion". Yr own yn hoffi rhyw rannau o hono, eithr i'r llyfr yn gyffredinol, nid oedd gennyf fawr o barch, er ei fod yn myned tan wraidd fy annuwioldeb yn lled aml. Yn lle cymryd rhybudd oddi wrth y personau goffheir yn y llyfr hwn, rhai o ba rai a fuont feirw yn druenus mewn Deistiaeth, ac eraill adferwyd o'u cyfeiliornad, ac a barchasant, ac a ganmolasant y grefydd ag oeddynt cyn hynny wedi dirmygu, cabolwyd fi yn fwy mewn pechod, a pherchais lai ar grefydd ar ôl ei ddarllen na chyn ei ddarllen. Erbyn hyn yr oeddwn wedi cyrraedd gwybodaeth lled gyfarwydd yn y Saesneg, a mwyach ni wnelai dim o'r tro i'w ddarllen ond 'novels' a 'romances'. Byddwn awyddus i bob math o honynt. Sychedwn a hiraethwn am danynt.gymaint ag y gwnaeth Dafydd sychedu am yr Arglwydd ei Dduw. 'Arabian Nights' a aent a'm bryd yn hollol. Darllenwn brydyddiaeth o bob math gyda'g awchlymdra anarferol. Hoff oedd gennyf weithiau Pope, Dryden, a'r darnau gwaethaf o Shakespeare. Aeth Milton a'm bryd yn rhyfeddol, oherwydd fod cynnifer o bethau wedi eu creu ganddo ef ei hun. Hoffwn ddesgrifiad o erddi, ymladdfeydd rhwng ysbrydion, a lluchio at eu gilydd fynyddoedd. Hyfryd oedd gennyf gofio am y dychmygion hyn, a ffiaidd gennyf bethau sylweddol yn y byd gweledig ac anweledig.
Gwn nad oedd neb yn fwy truenus a gofidus na myfi yr holl amser hyn, er fy mod yn honni tawelwch. a hedd a dedwyddwch oddi wrth ddysgeidiaeth a gwybodaeth. Nid oedd ddadl ar fy meddwl na theimlais ran lem o'r poenau wna drigolion uffern yn adfydus. Byddai y fath bigiadau yn fy nghydwybod weithiau, ac a wnai i mi ddewis weithiau bod yn uffern yn barod, na bod fel yr oeddwn. Cofiwn am Dduw yn awr ac eilwaith, ond pan y gwnawn, ystyriwn ef
yn Dduw anghymodlawn a myfi. Penderfynol oeddwn yn fy meddwl nad oedd ganddo un drugaredd i mi. Nid oeddwn yn disgwyl trugaredd, ystyriwn fy hun yn gythraul perffaith, ac eto ni allaswn feddwl y cawswn fyned i uffern. Nid own yn dewis llawer fyned i'r nef, a'm tyb oedd mai i ryw fan canol y cawswn fy nhaflu, i le na fuasai yno ddim trueni penodol (positive evil) ond yn lle o ddaioni nacaol (negative goodness). 'Rwyf yn sicr heddyw nad oes y fath fan i'w gael yn holl ymerodraeth Duw, er fy mod i yn meddwl, ac yn gobeithio hynny yr amser hwnw. Yr hyn gynnygiau i fy meddwl pan y byddwn waethaf oedd nad oedd na nefoedd nac uffern i'w cael wedi i'r corff drengu.
"Credwn yn rhydd nad oedd gennyf enaid, ond fod y gweithrediadau rhesymol sydd gennyf fi i'w cael hefyd yn y praidd ag y buais yn eu bugeilio, ond ei fod ynof fi yn berffeithiach nag ynddynt hwy. Awn i oedfaon, ond awn yno yn aml i wawdio, nid yn gyhoeddus trwy eiriau, ond yn fy meddwl balch, hunanol."

HEN YSGOLDY NEUADDLWYD
Yr ydym wedi dyfynnu'n helaeth o'r Dyddlyfr ynglŷn â'r cyfnod hwn yn hanes John Davies er mwyn dangos fel yr oedd meddwl byw, mawr, ac effro yr efrydydd yn cael ei ddisgyblu'n gynnar i amgyffrediad o'r gwirionedd, ac i lawn sicrwydd ffydd. P'un ai cyn dechrau pregethu ai wedyn y daeth yr amheuon hyn drosto, anodd penderfynu i sicrwydd; pob un o'r ddau mae'n debyg, ac enghreifftiau oeddynt o'r amheuon hynny a ddaw i ran yr efrydydd gonest a thrwyadl wrth X ymwneud â gwahanol arweddau'r gwirionedd. Dywed ef ei hun na chollodd ei amheuon yn llwyr hyd y flwyddyn gyntaf wedi ei ordeiniad, pryd y gweddïodd am drugaredd, Medi 12, 1828, ac y daeth y goleuni iddo, ac yntau'n ymgysegru o'r newydd i wasanaeth Duw. Os bu amheuon yn ceisio'i siglo, rhaid cofio'r dylanwadau daionus a'i diogelodd yn y Neuaddlwyd. Aeth i'r ysgol o ganol dylanwadau crefyddol a Phiwritanaidd aelwyd Castell-y-geifr lle y cydnabyddid yr allor deuluaidd, gyda chysondeb. Dyma ddisgrifiad John Davies ohoni ar gân,—
"Gair Duw ddarllenid fore a hwyr,
O fewn i'w furiau clom,
Yr hwn gerydda'r galon falch,
Gysura'r galon drom.
O flaen yr orsedd plygai'n tad,
A'r tylwyth gyda'g ef,
Mewn gwylder a pharchedig ofn,
At Arglwydd mawr y nef.
Er bod hyll regu yn y wlad,
'Doedd sŵn un rheg i'n tŷ,
Erlidid hi lle gallai ffoi,
Rhag aros gyda ni."[4]
A phwy all fesur y dylanwadau daionus a weithiodd arno yn ysgol Neuaddlwyd o dan arolygiaeth Dr. Phillips, yr athro duwiolfrydig, a'r gennad danllyd dros Grist a'i deyrnas? Yr oedd John Davies yn yr ysgol pan ordeiniwyd David Jones a Thomas Bevan i fyned allan yn genhadon i Fadagascar, a gadawodd hyn argraffiadau dyfnion iawn ar ei ysbryd. Hoffai adrodd ar ôl hyn hanes y cyfarfod hwnnw a'r effaith gwefreiddiol ar y gynulleidfa pan ganwyd,—
"Cenhadon hedd mewn Efengylaidd iaith[5]
Sy'n galw i'r wledd dros fôr yr India faith," etc.
Cawn fod yno rai yn gyd-fyfyrwyr ag ef a ddaeth yn golofnau cryfion yn hanes eu henwad ar ôl hynny, megis y Parchn. W. Davies, Rhyd-y-ceisiaid; J. Griffiths, Buckley; William Griffiths, Caergybi, a Phylip Griffith, Alltwen. O ganol dylanwadau a chwmniaeth fel hyn y cefnodd John Davies ar y Neuaddlwyd, yn ddeunaw oed, i fyned i'r Coleg er ymbaratoi'n llawnach i waith y weinidogaeth. Rhaid oedd iddo wrth un peth cyn ymadael a ymddengys yn wrthun i ni sydd yn byw mewn oes a nodweddir gan ei rhyddid crefyddol, a'i breintiau a'i chyfleusterau amrywiol, sef cael trwydded y Llywodraeth i bregethu. Meddylier am drwydded i fyfyriwr o'r Neuaddlwyd, lle'r oedd yr Ysbryd Glân wrth ei waith yn amlwg yn codi cenhadon i fynd at y pagan, a lle y gwelodd Dr. Phillips angen Madagascar mewn gweledigaeth, gan ei hadrodd i fyfyrwyr yr ysgol, a David Jones a Thomas Bevan yn ymateb mor arwrol iddi. Dyna enghraifft ddigon pendant o'r modd y gall llywodraeth gwlad fethu ddarllen ewyllys y llywodraeth nefol, a chlywed y wŷs oddiuchod. Chwefror y 27ain, 1822 yw dyddiad y drwydded iddo oddiwrth lywodraeth y wlad, ond wedi ei chael o'r nef dan sêl Brenin y Brenhinoedd flwyddyn os nad rhagor cyn hynny.
PENNOD II
AR LAN HAFREN
AR lan Hafren y cawn ni'r olwg nesaf arno, yng ngholeg yr Annibynwyr a adweinir erbyn heddiw fel Coleg Aberhonddu, ond a wladychai y pryd hwnnw yn y Drefnewydd. Cyfnewidiad mawr yn ei hanes oedd y symudiad hwn:—gadael ysgol y to gwellt yn Neuaddlwyd am goleg ei enwad, a gadael bywyd ac arferion gwlad am fywyd tref ac ardal Seisnig ei harferion. Yn gyd-fyfyrwyr ag ef yno yr oedd rhai a ddaeth yn gewri meddyliol yn hanes eu henwad, sef y Parchn. David Rees, Capel Als, Llanelli; Samuel Roberts, Llanbrynmair; Samuel Bowen, Macclesfield; ac eraill. "Dywedai nad oedd yn aros yn 1877 (ar ddydd ei Jiwbili, Mawrth 28) o'i gyd-fyfyrwyr yn y Drefnewydd ond y brodyr oedrannus a pharchus S.R., S. Bowen, a J. Lloyd, gynt o Lanelwy. Y mae y ddau flaenaf yn aros eto, ond heb ofal bugeiliol ers blynyddau. Yr oedd dau eraill na wyddai eu hanes. Tebig mai un o honynt oedd y Parch. Evan Price, Middlesborough, y ceir hanes ei farwolaeth yn nyddiadur Dolgellau am 1885."[6]
Daliodd John Davies ei dir yn rhwydd gyda'r rhai hyn fel myfyriwr, a rhagorodd arnynt oll fel Ieithydd medrus mewn Groeg, Lladin, Hebraeg, a Syriaeg. Ymddengys bod S.R. a John Davies yn gyfeillion mawr yn y Coleg, ac ymunodd y ddau â'i gilydd mewn anturiaeth lwyddiannus iawn yn y dref. Cychwynasant Gymdeithas o Gymrodorion' yn y Drefnewydd, a hwythau ill dau a fu'n ymgynghori â Gwallter Mechain ynglŷn â rheolau a defodau'r gymdeithas. Mewn llythyr a sgrifennodd John Davies at ei rieni (gwelwyd copi ohono gan yr Athro Morgan Lewis, Aberystwyth) dywed mai efe ac S.R. oedd Cofiaduron y gymdeithas, a bod ynadon, offeiriaid, pregethwyr, masnachwyr a myfyrwyr yn aelodau ffyddlon ohoni, a'i bod yn argoeli bod yn gymdeithas lewyrchus iawn. Yng nghanol gwersi sychion y gwahanol ieithoedd, ac afiaith John Davies ynddynt, nid anghofiodd y Gymraeg a llenyddiaeth ei genedl ei hun. Tybiwn mai'r adeg hon y mabwysiadodd efe'r enw 'Siôn Gymro' yn enw llên iddo'i hun, enw a ydoedd i ddod yn adnabyddus iawn yng nghylchgronau ei enwad ar ôl hyn am flynyddoedd. Mae'n amlwg ei fod hefyd wedi ymberffeithio yn fawr yn yr iaith Saesneg, nid yn unig drwy ei efrydiau, ond hefyd drwy ymarfer pregethu'n aml yn yr iaith honno, a hynny mewn sir yr oedd llawer o Saeson ynddi, yn ogystal ag ar ei therfynau. Bu hyn o gymorth mawr iddo drwy ei oes, a chawn ei fod yn pregethu Saesneg yn achlysurol wedi sefydlu ohono yn y weinidogaeth yn Nyfed. Nodir un peth diddorol arall ynglŷn ag ef yn y Coleg, sef ei hobi yn chwarae'r German Flute' ar rai adegau ar lan Hafren, yr hyn a brawf fod yr ysbryd cerddorol yn ogystal â'r ysbryd llenyddol wedi disgyn arno, ac y mae ffeithiau yn mynd i brofi ar ôl

CAPEL GLANDŴR
hyn fod John Davies yn gwybod celfyddyd arall y tu allan i faes uniongyrchol ei efrydiaeth. Treuliodd bedair blynedd llafurus a diwyd yn y Coleg, a daeth allan o'r Athrofa fel y daw'r wenynen yn ôl o'i theithiau gydag ystôr o wybodaeth yn ei feddiant ar gyfer gwaith mawr ei fywyd.
PENNOD III
AR LAN TAF
AR lan Taf y gwelwn ni ef nesaf, a dyna'r drydedd afon a ddaw i mewn i fywyd John Davies, ac ar lannau hon y gwnaeth efe waith mawr ei oes. Yn weinidog ar eglwys Glandŵr yn Nyfed y gwelwn ni ef yn awr.
Pan ddaeth John Davies i bregethu i Landŵr y tro cyntaf, sef Mehefin 8, 1826, yr oedd yr eglwys wedi ymserchu mewn myfyriwr o'r enw Evan Price o Goleg Caerfyrddin, ond hoffodd y bobl Mr. Davies yn well. Y mae cofnod gan un 'Siams Dafi' fel yr adwaenid ef yng Nglandŵr am dano fel hyn,—"July 3, 1826, Call to attend upon trial" i John Davies.
"He came July 16 and 23."[7]
Daeth i Landŵr erbyn y Saboth, Hydref 1af, 1826, ac wedi aros yno am chwe mis i gael prawf o'r cylch, ac i'r eglwys gael prawf ohono yntau, urddwyd ef yng Nglandŵr, Mawrth 27 a 28, 1827. Pregethodd Davies, Panteg, ar Natur Eglwys'. Gweddïodd Evans Hebron yr urdd—weddi. Pregethodd Lloyd, Henllan i'r gweinidog a Jones, Trelech i'r eglwys. Enwyd eraill oedd yn bresennol, sef Thomas, Penrhiwgaled; Griffiths, Hawen; Caleb Morris; Griffiths, Tyddewi; Phillips, Bethlehem; Skeel a Davies, Penybont, a Davies, Rhos-y-caerau.
Wrth atgofio y dydd ymhen 50 mlynedd dywedai: Casglfa luosog o weinidogion o'r tair Sir mor barchus ag a gyfarfu a'u gilydd ar unrhyw achlysur.[8] Yr oedd Glandŵr yn faes eithriadol a chymwys iawn i ddyn o alluoedd John Davies. Bu'r Parch. John Griffiths a'r Parch. William Griffiths, ei fab, yn gweinidogaethu yno rhyngddynt am yn agos i 70 o flynyddoedd. A dynion eithriadol iawn oedd y Griffisiaid—John Griffiths yn ysgolhaig gwych, ac yn cadw ysgol lwyddiannus iawn. yn y lle, o gymaint enwogrwydd ymron â'r Neuaddlwyd, a William Griffiths yn ysgolhaig gwych drachefn, yn emynydd rhagorol, fel y dengys rhai o'i emynau yng Nghaniedydd Cynulleidfaol yr Annibynwyr', ac yn ddyn o ddylanwad mawr.
Cyfrifid Glandŵr ar y pryd yn fath o Athen y tair Sir orllewinol, a dywed Clwydwenfro fod rhai o werin bobl y gymdogaeth yn dyfynnu Lladin ar faes y cynhaeaf. I faes fel yna y galwyd John Davies i gyflawni gwaith gweinidog. Tair anturiaeth gyntaf ei fywyd gweinidogaethol oedd: [a] Cychwyn Achos ym Moreia, Llanwinio, a sefydlwyd yno eglwys ymhen dwy flynedd wedi ei ordeiniad yng Nglandŵr. Wrth godi Moreia cododd John Davies heb yn wybod iddo'i hun ei ddinas noddfa, oblegid ymadawodd â Glandŵr o dan amgylchiadau eithriadol, fel y cawn sylwi yn nes ymlaen, gan ei gyfyngu ei hun i Foreia yn hollol ar y diwedd; [b] Yr anturiaeth arall oedd cychwyn ar ei lafur llenyddol, gwaith y cawn sylwi a manylu arno yn nes ymlaen. Nodwn yma un ffaith ddiddorol yn unig ynglŷn â'i brifwaith, sef y "Proffwydi Byrion ". Digwyddai 'Cwrdd Chwarter' fod yng Nglandŵr cyn iddo ddechrau ar y gwaith hwn, pryd y galwodd John Davies sylw'r gweinidogion ac eraill at ei fwriad i gyhoeddi'r gwaith, a gofyn am eu cydymdeimlad a'u cefnogaeth hwythau ynglŷn â'r antur. Ceisiodd un fygu'r ymdrech fan honno, a dywedir mai gweinidog o'r enw y Parch. T. Skeel, Penybont oedd, a dywedodd y byddai'n well i John Davies "adael ei wallt i wynnu gyntaf", ond yn ôl cofnodiad arall, dywedir mai ei hen athro Dr. Phillips, Neuaddlwyd a'i gwrthwynebodd drwy ddweud "fod yn well i John aros yn Jericho i'w farf i dyfu'n gyntaf". Anodd credu y buasai ei hen athro yn taflu dwfr oer ar y bwriad, oddieithr gweled a theimlo ohono aruthredd y gwaith. Felly y dywedir mewn cyfeiriad at hyn, ac at farwolaeth ein gwrthrych yn un o 'Nodiadau Misol' y 'Diwygiwr'. Dyfynnwn y geiriau," Cof gennym am yr Hybarch D. Williams, Troedrhiwdalar yn adrodd yr hyn a gymerodd le flynyddoedd lawer yn ôl, pan yr oedd Mr. Davies yn ddyn cymharol ieuanc mewn cyfarfod yn rhywle yng ngwaelod Sir Aberteifi. Yr oedd Dr. Phillips o'r Neuaddlwyd yn y gadair. Amlygodd Mr. Davies y pryd hwnnw fod ganddo fwriad i ddwyn allan gyfieithiad newydd o'r Proffwydi Byrion'. Yr oedd pawb yn gefnogol iddo ond Dr. Phillips. Gwawdiai y syniad fod hogyn ieuanc fel efe yn sôn am gymeryd mewn llaw orchwyl y buasai efe Dr. Phillips yn arswydo rhag ymgymeryd ag ef. Digalonwyd ef ar y pryd, ond aeth yn y blaen a'i efrydiaeth, ac y mae gennym felly ffrwyth o efrydiaeth galed.[9]. Mwy na thebyg mai'r olaf sydd gywir, oblegid prin y buasai Dr. Phillips yn llywyddu mewn Cwrdd Chwarter' yn Sir Benfro, ond naturiol ddigon oedd i Mr. Davies ymweled â chyfarfodydd tebyg yn ei sir enedigol. Digon yw dweud na ddigalonnodd hyn ddim ar John Davies, ac ar Fedi 23ain, 1829, ymhen dwy flynedd wedi ei ordeiniad, dechreuodd ar y gwaith, a phenderfynodd fod o wasanaeth drwy gyfrwng cylchgronau ei enwad drwy gydol ei oes.
[c] Yn ystod yr un adeg hefyd priododd Miss Phoebe Griffiths, wyres i'r Parch. John Griffiths. Wele gofnodiad diddorol ynglŷn â'r briodas,—" Gorphenaf 22ain, 1833 yn eglwys Llanfyrnach, ymunodd mewn priodas a Phoebe un o ferched y teulu hwn. Trwy garedigrwydd y Rector, y Parch. J. Timothy Lewis gwelais y cofrestriad, a chaf ef yno yn dodi ei enw J. G. Davies— y G yn debyg am George,—enw morwynol ei fam. tystion oeddynt ei dad yn nghyfraith Mr. J. D. Griffiths, ei frawd yn nghyfraith Mr. James Davies, Rhydygath, a'i gyfaill mynwesol a ffyddlawn Mr. David James, Pantygafel—taid y presenol breswylydd E. H. James, Ysw., Ynad Heddwch."[10]
Y Ganed iddynt bedwar o blant, dwy ferch o'r enw Mary ac Elizabeth, a dau fab o'r enw David a John.
Bu Mrs. Davies farw wedi un mlynedd ar ddeg o fywyd priodasol yn Llwynteg, lle'r aeth John Davies i letya ar ei sefydliad yng Nglandŵr. Disgrifir hi gan yr ardalwyr fel "dynes hawddgar, siaradus, garedig, yn hoffi byw yn dda, a gwisgo'n dda.[11] Bu Mary farw yn 26 oed, wedi bod am beth amser mewn siop yn Hirwaun, cyn priodi ohoni ag un Capt. Jones, Clarissa, Aberaeron. Bu Elizabeth farw yn 19 oed, wedi derbyn ohoni ei haddysg elfennol gwrs pellach yng Nghaerfyrddin ac yn Aberteifi. Bu Dafydd farw drwy i garreg syrthio o'r clawdd ar ei ben yn 5 oed. Prentisiwyd John y mab i fod yn Ddilledydd mewn siop yn Narberth, wedi bod ohono yntau yn ychwanegol at ei addysg elfennol yn ysgolia yng Ngheinewydd am ddwy flynedd, a blwyddyn arall o dan arolygiaeth ei dad. Nid oedd draper' yn John er hynny. Gwnai Fferyllydd neu Feddyg ardderchog, ac y mae'n amlwg fod llawer o alluoedd ei dad ynddo, yn arbennig ei syched angerddol am ddysgu ieithoedd. Aeth John o'r diwedd yn forwr, nid oherwydd ei serch at y môr, ond er mwyn gweled gwledydd eraill, a chael cyfle i ddysgu eu hieithoedd. Gellir edrych ar John yn iaith y dilledydd fel math ar gam-doriad (misfit) yn y byd, a bu farw yn 25 oed drwy foddi ar ddamwain yn y môr. "Bu ei dad yn ymofyn yn swyddfeydd Coroners' glannau y Dee a'r Mersi am hanes ei gorff, ond aflwyddiannus a fu'r ymchwil.[12] Ymhen dwy flynedd ar ôl claddu ei briod, symudodd John Davies a'r plant i le o'r enw Penrallt, Llanwinio, sef Medi 29ain, 1846, ond gan fod y lle dipyn yn anghysbell, dwy flynedd a fuont yno, a phrynodd le o'r enw Ietwen, gan adeiladu o'r newydd yno. Annedd lonydd, dawel ar rostir llwm o'r tu cefn i gapeli Hebron a Glandŵr ac i gyfeiriad Mynachlogddu ydoedd, a symudodd yno i fyw Gorffennaf 17eg, 1848, ac am 35 o flynyddoedd yno y bu'n trigiannu ac eithrio dwy flynedd hyd ddiwedd ei oes, ac fel John Davies, Ietwen, yr adweinir ef hyd heddiw gan liaws ei edmygwyr.
Bu'n weinidog ar Landŵr gyda Moreia am 37 o flynyddoedd, yn fawr ei barch, ac yn porthi praidd Duw yn dda, gan ddilyn ei efrydiau a'i waith fel ysgolhaig Beiblaidd yn eiddgar, a chyflawni ei ddyletswyddau gweinidogaethol gyda gofal a ffyddlondeb. Ni chafodd mwy na gweinidogion eraill y Gair y gwaith yn gwbl ddirwystr, na'r ffurfafen yn gwbl glir ar adegau, a chafodd ei ran o brofedigaethau bywyd. Yn fuan wedi claddu Mrs. Davies cododd rhyw oerfelgarwch rhyngddo a'i deulu yng nghyfraith a hynny'n bennaf oherwydd diffyg dealltwriaeth o dymheredd bwyllog, ddigynnwrf ac ymddangosiadol sychlyd John Davies ar brydiau, a barai hyd yn oed i'w berthynasau feddwl ei fod yn ŵr caled a didostur, gan anghofio bod calon dyner odditan y cwbl. Teimlodd y dieithrwch hwn yn fawr, ond ymddygodd yn gwbl foneddigaidd drwy'r holl gyfnod. Cyfeiriasom eisoes at ei brofedigaethau teuluaidd o golli ei briod a'i blant, a gwelwyd ochr dyner ei dadolaeth gariadlawn pan gerddai drwy swyddfeydd Lerpwl yn ei ddagrau mewn ymchwil am gorff John ei fab. Gwelodd ambell storm eglwysig fel a ddaw weithiau yn aflonyddu ar ei heddwch, ac y mae cofnodiad am un o'r cyfryw a gododd rywbryd tua chyfnod canol ei weinidogaeth yng Nglandŵr. Yr achwyniad ar John Davies oedd ei fod y pryd hwn yn rhoddi rhy fach o Grist yn ei bregethau. Cafwyd 'Cwrdd Eglwys' ar y mater, a chymeriad o'r enw 'Beni Siams' oedd yn enau i'r cyhuddiad.
Gofynnodd John Davies wedi clywed y gŵyn, beth a feddylid wrth bregethu Crist, a phryd y gellid dweud bod y gennad yn pregethu Crist? Caeodd hyn enau pawb, a darfu'r gŵyn y noson honno gyda phleidlais o fwyafrif mawr o blaid y gweinidog.
Er hyn i gyd agos ac annwyl oedd perthynas John Davies â'r eglwys yng Nglandŵr hyd fore Sul, Hydref 4ydd, 1863, pryd y daeth ei gysylltiad â'r eglwys i ben mewn ffordd gynhyrfus os nad trychinebus. Ac fel hyn y digwyddodd. Ar fore Sul Cymundeb o'r dyddiad uchod wrth nesáu ohono at ddrws y capel, cafodd fod y drysau dan glo, heb neb yn gwybod dim am yr allweddau, a'r gynulleidfa yn disgwyl agoriad i'r Cysegr er cofio am Angau'r Groes. Gwelodd y gweinidog y sefyllfa ar unwaith, a deallodd fod rhyw elynion wrth wraidd y peth, a chan droi at y gynulleidfa i'w chyfarch yn wyneb y digwyddiad, dywedodd fod arno ofn y gallasai barn Duw ddod ar y troseddwyr. Cafwyd yr allweddau'n fuan ar ôl hynny mewn cist a berthynai i un o ddiaconiaid yr eglwys, a pharodd hyn gynnwrf mawr. Ond pwy a'u gosododd yno? Adroddir mwy nag un stori i geisio egluro'r anfadwaith, ond nid ydym eto yn ddigon pell o ran amser a chysylltiadau teuluaidd i gynnig esboniad manwl ar y digwyddiad, na chwaith i ddefnyddio enwau. Bernid yn weddol gyffredinol bod symudiad y Llythyrdy o Landŵr i Hebron dan wraidd. y teimladau chwerw a ffynnai yn rhywrai am iddynt dybio yn gwbl ddisail mai John Davies a fu'n ymgynghori ag Awdurdodau'r Llythyrdy yn Llundain i'r perwyl o symud y Llythyrdy. Nid oedd holl elynion John Davies yn rhifo mwy na phedwar ar ddeg y fan bellaf, a rhai o'r nifer hynny nad oeddynt yn aelodau yn yr eglwys. Dywedir bod tri o'r rhai blaenllaw yn yr ystryw hwn wedi dod i ddiwedd trychinebus iawn a barodd i'r ardalwyr briodoli'r peth i farn Duw arnynt yn ôl rhybudd y gweinidog yn y fynwent. Wele ddyfyniad o ddarlith y Parch. J. Grawys Jones, Aberdâr ar y digwyddiad yn ei nodiadau,—
Aflwydd Lladron yr Allweddi. Rhown enwau Ysgrythurol ar y tri,—1. Sanbalat; 2.Tobiah; 3. Gesem. "Gesem.—Gŵr llwyddiannus iawn. Cylch eang o ffrindiau hawddgar, smart, clever. Aeth hwn i lawr o binacl llwyddiant ar ei ben i gors anobaith aflwyddiant. Yn y diwedd tagodd i farwolaeth wrth fwyta bwyd.
"Tobiah.—Gŵr cyfrwys ond tricky' oedd hwn. Gwelai yn mhellach na'i gyfeillion—cuddiai ei hun tu ôl iddynt. Yr oedd yn slâf i'r ddiod. Daeth adref, neu dygwyd ef adref, ni ŵyr neb gan bwy, wedi hanner nos, ac wedi hanner ei ladd. Bu farw mewn cyflwr gresynus.
"Sanbalat.—Gŵr craff iawn ond dirâs ei ysbryd. Aeth hwn yn hollol ffaeledig. Cadwai gert ac asyn i fynd ag ef o gwmpas. Gwerthai cockles' yn yr haf, ac efallai'sgadan' yn y gauaf. Tlawd a gresynus a fu ei yrfa a'i ddiwedd.[13]
Gwyddom fod eithafoedd ac anghywirdeb yn casglu a thyfu o gwmpas digwyddiadau cynhyrfus fel hyn, ond gwneir y ffeithiau yn fwy sicr gan gyfeiriad John Davies ei hun at yr anfadwaith yn ei gân, "Lladrad yr Allweddau"[14]. O dan y gân y mae'r ysgrifen ganlynol,— "Ar nos Sadwrn, Hydref 3, 1863, neu fore Sabboth, Sabboth Cymundeb Hyd. 4 cymerwyd allweddau y capel oddiar yr hoel lle y byddid arferol o'u cadw, gan eu cuddio, a chau y gynulleidfa allan o'r capel. Cyflawnwyd y gwasanaeth yn yr ysgoldy ynghanol llawer o ddagrau, ond heb y Cymundeb. Cafwyd hwynt y dydd Mawrth canlynol gan Jason Phillips, Rhydcoedbach yng nghist fach ei gart ei hunan."
Rhoddwn bennill neu ddau o'i gân, sydd yn cynnwys 104 o linellau,—
Meddylient trwy guddio'r allweddau,
Mai hwy a feistrolent y maes,
Ond gormod fu'r antur annuwiol,
Trodd allan yn ddiflas a châs.
Yn lle buddugoliaeth a mawr glod,
Ni chawd ond difriaeth a gwg,
Yr ymffrost drodd allan yn siomiant,
Diflanodd y grechwen fel mwg.
Er hynny nid anwar yr ardal,
Y Lladron yw anwariaid y lle,
Anwariaid er golud a llwon,
Heb gerdded un cam tua'r ne.
Nid chwyddo gan olud na llwon,
Yw ffordd y Baradwys sydd draw.
Rhaid ysbryd heb ysbryd lladratta
Neu syrthia'r holl ymffrost i'r baw.
Wrth wneud siarad felly anghofient,
Fod melldith Duw'r bydoedd ein Hior,
Yn gorphwys ar enaid 'r anwariaid
A chwaneg iddynt etto yn stôr.
Pa beth yw diffrwytho y dwylaw,
At felldith ar enaid y Dyn,
Gwell iddo anafu pob aelod
Na'i daflu gorph enaid i'r llyn.
(March 31, 1864).
Wedi'r digwyddiad erchyll hwn ni bu John Davies mwyach o fewn capel Glandŵr yn y cymeriad o weinidog ar yr eglwys, er iddo ei gwasanaethu ar rai Suliau wedyn, ac mewn priodasau ac angladdau droeon ar ei chais.
Nid oedd raid iddo ymadael â Glandŵr, oblegid yr oedd yr eglwys o'i blaid, ac yn ei barchu'n fawr, a phan ofynnwyd iddo gan gyfaill pam yr ymadawodd â Glandŵr, a dim ond pedwar ar ddeg yn ei erbyn, ei atebiad oedd,—" Nid wyf yn ystyried fod un dyn yn ddigon pwysig i gadw terfysg mewn eglwys o'i achos ef ei hun."
Wedi ymadael â Glandŵr fe'i cyfyngodd ei hun am yr ugain mlynedd arall yn llwyr i Foreia, gan drigiannu yn Ietwen a marchogaeth ar gefn ei anifail yno gyda chysondeb difwlch. O fewn dwy flynedd i ddiwedd ei oes, symudodd i fyw i le gerllaw Moreia o'r enw Iet-y-garn, ac yno y gorffennodd ei yrfa yn batriarch pedwar ugain oed.
PENNOD IV
YR ESBONIWR A'R YSGOLHAIG BEIBLAIDD
WRTH ddyfod ohonom at waith John Davies, rhaid i ni addef anhawster delio ag ef gyda'r llwyredd a ddymunem, a hynny oherwydd bod llawer ohono wedi myned ar goll, a rhannau pwysig eraill wedi eu rhoddi i bersonau yn breifat gan berthynasau yr Awdur. Mor ddiweddar â'r flwyddyn 1933 y cyflwynwyd rhai pethau pwysig i'r Llyfrgell Genedlaethol gan un o or- ŵyrion John Davies. Cywir fuasai dweud mai ar gael eu dadlennu a'u dwyn i feddiant y cyhoedd y mae rhyw bethau pwysig o'i eiddo, h.y., rhai cynyrchion sydd yn eiddo preifat hyd yn hyn i ryw bersonau, ond a drosglwyddir mewn ffurf hylaw a gwerthfawr i'r cyhoedd yn fuan, ni a hyderwn. Er hynny y mae gwaith gorau John Davies wedi ei argraffu, a digon ohono i roddi i ni olwg ar ei alluoedd amryddawn a'i wrtaith diamheuol.
FEL YSGOLHAIG BEIBLAIDD y daw ei ragoriaeth i'r golwg yn anad dim. Gwelsom eisoes ei fod yn y Coleg wedi rhagori yn yr ieithoedd, ac nid pethau i'w gadael yn yr Athrofa fu'r rhai hyn iddo, ond yn hytrach i'w arwain i feysydd toreithiog wedi sefydlu ohono yn y weinidogaeth. Cawn ef ar ddechrau ei waith yng Nglandŵr yn ymgysegru fel efrydydd, gan dynnu allan raglen o lafur, ac yn arwyddair iddi y frawddeg Ladin "Iuva me Deus". Ysgrifennodd hefyd yn yr un iaith. weddi o ymgysegriad sydd ar gael eto yn rhywle, ond y methasom hyd yn hyn ei chael. A rhan o'r gwaith mawr hwn yw ei esboniad ar
"Y PROFFWYDI BYRION." Dechreuwyd ar y gwaith hwn, fel y nodwyd eisoes, yn 1836, a chyhoeddodd ef yn y flwyddyn 1881. Yn rhifynnau y daeth allan gyntaf— bump ohonynt, ond gwnaed hwy yn un llyfr yn argraffdy D. W. a G. Jones, Post Office, Llandeilo, yn ôl y copi ohono sydd o'n blaen. Gellir dwyn mwy nag un dystiolaeth werthfawr gan ysgolheigion i ddiwylliant a gwerth y gwaith hwn, ond cyn eu codi ceisiwn sylwi ar rai o nodweddion y gwaith.
Nodweddir ef gan dri pheth,—
[a] Yr Aralleiriad. Perthyn i hwn lawer o ragoriaethau y mae'r iaith yn syml a byw, ac yn teilyngu edmygedd ar gyfrif ei ffyddlondeb i'r gwreiddiol. Nid yw yn dwyn llawer o gyfnewidiadau neu welliantau i mewn i gorff yr arall—eiriad, ond fe wna hynny mewn ambell fan pan fyddo'r cyfnewidiad yn hollol angenrheidiol. Felly yr hyn sydd newydd yn y Cyfieithiad yw nid y sylwedd yn gymaint â ffresni a newydd-deb ymadrodd ynghyd â'i ffyddlondeb i'r Hebraeg.
[b] Nodiadau. Nid yw'r rhain ar y cyfan yn faith, ond y maent yn gynhwysfawr, ac yn wreiddiol iawn. mewn ambell fan, ac yn ymarferol iawn. Rhydd yr awdur swm a sylwedd yr adnod dan sylw mewn ychydig eiriau, a hynny'n aml gyda gwreiddioldeb mawr. Rhydd y Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., Aberhonddu, nifer ohonynt i ni yn ei esboniad meistrolgar ar Lyfr y Proffwyd Amos, a gyhoeddwyd dan nawdd Undeb Ysgolion Sabothol yr Annibynwyr Cymreig yn 1909. Rhoddwn ychydig enghreifftiau o'r gwreiddioldeb yma. yn ôl detholiad y Prifathro: [1] " Am iddo losgi esgyrn brenhin Edom yn galch" (Amos ii, 1). (Amos ii, 1). "Yr oedd llosgi esgyrn dyn marw yn dangos dialgarwch enbyd; nis gallesid ei faeddu pan oedd yn byw, yna mynnid dial arno wedi iddo farw" (J.D.); [2] " Canys ni wna yr Arglwydd ddim ar nas dangoso ei gyfrinach i'w weision y prophwydi " (Amos iii, 7). "Mae Duw yn rhybuddio er mwyn rhoddi amser i edifarhau a diwygio. Diolched pechaduriaid am rybuddion." (J.D.); [3] "A myned i'r tŷ a phwyso ei law ar y pared, a'i frathu o sarph" (Amos v, 19). "Siaradai yr Iddewon yn gywirach na'r Cymry am ddull y sarph o niweidio dyn. Cnoi meddent hwy, a brathu meddwn ninnau. Cnoi y mae, ac nid yw ei cholyn ag a ddychmygir sydd yn brathu ond yn unig ei thafod, yn ei deuddant tyllog y mae y niwaid, ac nid yn ei thafod. Da pe buasai tafod llawer dyn mor ddiniwaid ". (J.D.): [4] "Ni oddiwes drwg ni, ac ni achub ein blaen " (Amos ix, 10),—yn hytrach "ni ddaw drwg yn agos, ac ni saif o'n blaen" ("neu ni wyneba arnom,"—J.D.).
Gellir dweud am y nodiadau eu bod o werth mawr i'r pregethwr a'r efrydydd gweinidogaethol.
[c] Cyfieithiadau ymyl y ddalen. Yn ddiau y peth mwyaf newydd ynddo, a'r mwyaf gwerthfawr i'r efrydydd yw'r cyfeiriadau hyn ar ymyl y ddalen at y Cyfieithiadau Groeg, Lladin a Syriaeg. Wrth graffu ar y rhai hyn sylweddolir ar unwaith fod gwahaniaethau am a phwysig rhwng y cyfieithiadau hyn a'r Hebraeg. Pan ddigwydd fod anhawster ynglŷn â'r darlleniad sydd yn yr Hebraeg, fel y bydd yn aml, ceir goleuni yn fynych. drwy ymgynghori â'r hyn a geir ar ymyl y ddalen. Dengys yr agwedd hon ar y gwaith fod yr awdur yn ysgolor gwych, a'i fod wedi rhoddi llafur ac amynedd difesur ymron yn y gwaith. Fe roddwn ychydig enghreifftiau er dangos hyn: [1] Joel ii, 23: yn ôl y darlleniad cyffredin fe ddiwedda'r adnod gyda'r ymadrodd—"Yn y mis cyntaf". Cyfieithiad John Davies yw "fel cynt". Hwn yn ddiau sydd gywir, ac, fel y dengys efe, yn seiliedig ar y Groeg a'r Syriaeg. Ceir yr un peth ar ymyl tudalen y C.D.—"at the first". Nid yw'r cyfnewidiad o bosibl yn bwysig, ond dengys gynllun yr awdur. [2] Hosea viii, 10: "Canys tristânt ychydig, oherwydd baich brenhin y tywysogion " yw y C.A. Cyfieithia John Davies,—" Ac ymofidiant ychydig am y baich, yn frenin, yn dywysogion." Y C.D. yw "And they begin to be minished by reason of the burden of the King, of princes", ac ar ymyl y tudalen "Shall sorrow a little by reason of the burden of the King of princes". Gwelir bod John Davies yn unfarn â'r olaf. Ar ymyl y tudalen dywed mai'r Lladin yw,—am faich brenin, tywysogion". Y mae hwn yn debyg i'w aralleiriad ef. Dywed mai'r Syriaeg yw gorphwysant ychydig rhag baich brenhinoedd a thywysogion". Yn olaf dywed fod y Groeg yn darllen,—"am eneinio brenin a thywysogion". Dengys i ni mor amrywiol yw'r cyfieithiadau. Dywed John Davies ei fod wedi dewis ei eiddo ef am mai "y baich" oedd y dreth a roes brenin Assuria ar y wlad ".
[3] Hosea xi, 12 (xii, 1 yn yr Hebraeg). Y mae'r rhan olaf o'r adnod hon yn ansicr iawn. Nid anturia John

IETWEN
Davies ar gyfieithiad o'i eiddo'i hun, ond rhydd dri gwahanol o eiddo eraill. Y C.A. o'r hanner olaf yw,— "Ond y mae Judah eto yn llywodraethu gyd â Duw, ac yn ffyddlon gyda'r saint." Felly y C.D., ond ar ymyl y ddalen rhydd yr olaf "And Judah is yet unsteadfast with God, and with the Holy One who is faithful". Rhoddir Judah yma mewn goleuni hollol wahanol. Hwn yw'r anhawster. Dywed John Davies mai'r Lladin yn unig sydd yn ffafriol i Judah. Gesyd y Groeg a'r Syriaeg Israel a Judah ar yr un tir. Dywed yr awdur ymhellach pe baem yn gwneud cyfnewidiad bychan yn yr Hebraeg gan dybied mai רד ac nid דר oedd yn ysgrif y proffwyd, y caem destun a gymerai ei gyfieithu fel hyn,—"A Judah yn aros eto gyda Duw ac yn ffyddlon gyda'r santaidd." Tebyg i hyn yw barn. Harper, ein hesboniwr gorau a mwyaf diweddar ar y cymal.
[4] Amos iv, 3; Yn y C.A. darllenir yma "A chwi a'u teflwch hwynt i'r palas." Yn y C.D. ceir " And ye shall cast yourselves into Harmon ". Y mae'r gair yn Hebraeg yn ansicr iawn. Dengys John Davies mor amrywiol yw'r cyfieithiadau. Rhydd nifer ohonynt fel hyn Lladin—"i Armon "; Groeg—" i'r mynydd Rhaman "; Syriaeg" Mynydd Armeni ". Yna ceir Cyfieithiad Newcome "mi a'i llwyr ddinistriaf," ac eraill," i'r palas a thua yr Harem". Unwaith eto dywedwn nad oes gan esboniadau diweddar lawer i'w ychwanegu at hyn.
[5] Amos v, 25—26; Dwy adnod anodd iawn yw'r rhai hyn. Yn adnod 25 y mae John Davies yn dilyn y C.A. a'r C.D., "A offrymasoch chwi aberthau ac offrymau bwyd i mi yn y diffaethwch ddeugain mlynedd tŷ Israel?" Gallasai alw sylw at aralleiriad arall (fel Harper)" Ai aberthau ac offrymau yn unig" etc. Yn ôl y cyntaf ni offrymasant aberthau o gwbl, ac yn ôl yr ail gwnaethant hynny, ond gwnaethant rywbeth arall yn ogystal. Y mae adnod 26 yn fwy dyrys fyth. Y C.A. yw—" Ond dygasoch babell eich Moloch a Chiwn, eich delwau, Seren eich Duw, y rhai a wnaethoch i chwi eich hunain." Y C.D. yw—" Yea, ye have born Siccuth your king, and Chiun your images, the star of your God, which ye made to yourselves". Ar ymyl y tudalen rhydd yr olaf,——" Yea, ye shall take up Siccuth " etc., neu "Yea, ye shall take up the tabernacle of your King", neu" the tabernacle of Moloch ", ac yna "the shrine of your images ". Y mae John Davies yn dilyn yr olaf,—" Ond dygasoch babell eich Moloch, a sefyllfan eich delwau, seren eich duw, yr hwn a wnaethoch i chwi". Geilw sylw at y ffaith fod y cyfieithiadau eraill yn amrywio llawer. Y Syriaeg," Eich brenin a Sadwrn eich delw, Seren a wnaethoch yn dduw i chwi." Y Groeg," a seren eich duw chwi Rhaiphan eu lluniau hwynt a wnaethoch i chwi ". Ymddengys nad yw'n bosibl dyfod o hyd i ystyr yr adnod, yn wir y tair adnod olaf. Ond rhydd anhawster fel hyn brawf o fedr a meistrolaeth yr awdur ar ei waith.
Diddorol yw darllen y nodiadau mân ar waelod y tudalennau ganddo, a chael golwg ar Homer wedi ei wisgo mewn pennill Cymraeg, a Virgil a Lucan ac eraill yn yr un diwyg. Wele enghraifft neu ddwy o lawer tebyg, —Nahum iii, 2—3, "Swn ffrewyll, a sŵn trwst olwyni: A march yn carlamu. A cherbyd yn neidio A lluaws lladdedigion a thrymder celanedd etc. Dywed Lucan:
"In fluvium primi cecidere, in corpora summi"
"Lawr i afon syrth y blaenaf
I'w traws hwythau syrth yr olaf."
Nahum iii, 13,—
"Wele dy bobl fyddant wragedd" etc.
Felly Homer: " Αχαΐδες ουκέτι Αχαιοι
"Achaiesau nid Achaiaid mwyach".
Dywed Virgil am y Phrygiaid-
"O vere Phrygiae neque enim Phryges".
"Oh, yn wir Phrygiesau ac nid Phrygiaid ".
Sephaniah i, 3: "Distrywiaf adar yr awyr ", etc.
Dywed Virgil, Georg iii, 546 am yr un peth fel hyn:—
"Ipsis est aer avibus non aequus et illae
Praecipites alta vitam sub nube relinquunt."
Awyr nid yw'n iach i'r adar
Lawr y dont yn feirwon amhar
Gan roi fynu'r ffun yn gyfan
Dan y cwmwl uchel buan.”
Mae'r enghreifftiau a roddasom yma a thraw o'r Esboniad yn dangos i ni lwyredd a natur y gwaith, a bod John Davies wrth gymharu gwerth y gwahanol gyfieithiadau wedi rhoddi i ni waith gwerthfawr ac ar y cyfan wedi dewis y darlleniadau a fabwysiedir gan yr awdurdodau heddiw.
Fel hyn y dywed y Prifathro T. Lewis, M.A., B.D., Aberhonddu, am yr esboniad yn ei Ragair i'w esboniad ef ar Lyfr Amos,—"Ymysg yr esboniadau yr ymgynghorais â hwynt, hoffwn gyfeirio at y 'Proffwydi Byrion' gan John Davies, Yetwen. Rhydd John Davies gyfieithiad gwreiddiol (a sylwadau gwreiddiol yn aml) ac ar ymyl y ddalen fe geir cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r hen gyfieithiadau,—y Groeg, y Lladin a'r Syriaeg. Pe bai'r esboniad wedi ei ysgrifennu yn Saesneg, buasai yr awdur wedi ennill safle uchel ymysg esbonwyr y Proffwydi."
Diddorol yw stori y diweddar Barch. Evan Price (Ieuan Gorwydd) yn y Geninen[15] o dan y pennawd,— "Mewn Ymgom a Siôn Gymro." Digwyddai Mr. Price fod yn myned trwy'r dosbarth ar ei brawf fel myfyriwr, ac yn pregethu ar noson waith yn Llangamarch. Gofynnodd y pen-blaenor i Siôn Gymro, a ddigwyddai fod ar ymweliad â'r lle ym mis Awst, gymryd adnodau'r plant wedi i'r myfyriwr ieuanc ddechrau'r oedfa. Ni wyddai Mr. Price yn y byd pwy ydoedd y patriarch, ond deallodd yn fuan oddiwrth ei sylwadau ar adnodau'r plant fod yno ŵr mawr a dysgedig wrth y gwaith. Adroddodd un o'r plant yr adnod honno yn Genesis, "A Duw a anadlodd yn ei ffroenau ef anadl einioes". Yna nododd allan y termau gwahanol am Dduw yn Genesis—Elohim a Iafe, ac olrheiniodd athrawiaeth y "Deillio yng nghrefyddau'r Dwyrain, gan esbonio'r Hindwiaid a'u Holl-dduwiaeth yn maentumio bod mater ac ysbryd yn un. Ar gais y pen-blaenor drachefn rhoddodd ychydig gynghorion i'r pregethwr ifanc wedi pregethu ohono ar y testun," Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw ". Dywedodd bethau addysgiadol iawn ar y geiriau pur, calon a Duw, gan olrhain eu hystyron yn y datguddiad dwyfol. Rhoddwn ddiwedd y stori yng ngeiriau Mr. Price yn ei ysgrif,—"Tranoeth yn ol fy arfer es i gyfnewid meddyliau â chyfaill diddan o bregethwr y diweddar Barch. T. Williams, Gorwydd. 'A wyddoch chwi pwy ydoedd y gŵr dieithr enwog a wrandawai eich pregeth gyntaf?' ebai'm cyfaill. Yna tynnodd i lawr o'i lyfrgell rifyn o'r Traethodydd[16] lle'r oedd adolygiad y Dr. Harries Jones ar y Cyfieithiad o'r Prophwydi Bychain' y cyfeiriwyd atto'n barod. 'Gallaf eich sicrhau,' ebai, 'na chewch neb pwysicach na dysgedicach chwaith i'ch gwrando byth eto—hyd derfyn eitha'r daith.' Yn ei adolygiad dywed Dr. Harries Jones" fod y gwaith y pwysicaf ar ryw olwg yn llenyddiaeth Cymru, ac y dylai fod yn destun-lyfr yn yr athrofeydd a'r ysgolion Sul drwy'r wlad, a'i bod yn syn fod gŵr o'r fath allu a dysg wedi ei oddef i drigo mewn dinodedd drwy ei oes, pan y dylasai fod mewn athrofa yn gosod eraill ar y ffordd i ddringo tylau serth dysgeidiaeth, ac y dylai Cymru'n gyfan deimlo'n falch fod cynnyrch meddwl mor annibynol a dysgedig wedi ymddangos yn hen iaith ein tadau."[17]
Ni ellir disgwyl i waith John Davies fod yn boblogaidd am ei fod yn rhy ysgolheigaidd i'r lliaws, ac ar y llaw arall ni fodlona y rhai sydd gynefin â'r Hebraeg am nad yw yn rhoddi'r gwahaniaethau sydd yn y Groeg, Lladin a'r Syriaeg yn y gwreiddiol. Ond rhaid cofio mai llyfr ydyw yn bennaf ar gyfer yr efrydydd meddylgar nad yw yn hyddysg yn yr ieithoedd a enwyd. I hyn nid oes dim o'i ragorach yn y Gymraeg na chwaith yn y Saesneg. Arferai Kilsby Jones ddweud mai tri ysgolor Dwyreiniol a feddai'r Ymneilltuwyr yn ei gyfnod yng Nghymru, sef Dr. Harries Jones, Trefeca gyda'r Methodistiaid, Parch. John Davies, Ietwen gyda'r Annibynwyr, a Dr. Vance Smith, Caerfyrddin gyda'r Undodiaid, ac ni phetruswn ddweud fod y gwaith hwn yn ategu'r dystiolaeth am ysgolheictod Siôn Gymro drwyddo.
EI GYFIEITHIAD O'R TESTAMENT NEWYDD—O'R GROEG I'R GYMRAEG.
Dywed Clwydwenfro yn un o'i lythyrau ar 'Yetwen a'r Teulu' yn y Diwygiwr fod John Davies wedi cyfieithu'r Testament Newydd o'r Groeg i'r Gymraeg. Ond pa le tybed yr ydoedd hwnnw wedi marwolaeth yr awdur? Erbyn hyn gwyddom mai yn meddiant un o berthynasau'r awdur yr ydoedd, sef Mr. J. Davies Jones, Beulah, Ceredigion, ac mai yno y daeth y Parch. D. J. Lewis, B.A., Tumble, i feddiant ohono, yr hwn fel y deallwn sydd yn trefnu i'w roddi yn nwylaw'r cyhoedd yn fuan, wedi ei argraffu o lawysgrif yr awdur fel y mae ar hyn o bryd. Y mae'r cyfieithiad sydd ym meddiant Mr. Lewis mewn dwy ran, ac wedi ei ysgrifennu mewn inc. Dyddiad y cyfieithiad hwn ydyw 1839-40, ac ar ddiwedd rhai o'r llyfrau rhydd yr awdur i ni y dyddiad, a pha faint o'r gloch hyd yn oed oedd hi pan orffennai ei waith wrth fyned ymlaen.
Ond yr anhawster mwyaf ynglŷn â'r gwaith yw penderfynu pa destun Groeg a ddefnyddiodd John Davies? Gwyddom i sicrwydd nad oedd ganddo un o'r testunau a fabwysiedir heddiw fel rhai safonol. Ni allasai John Davies oherwydd cynharwch ei gyfnod wybod am η κοινε (η κοινη γλοσσα,the common tongue, iaith gwerin yr oes) oblegid yn yr hanner-can mlynedd diwethaf y darganfuwyd hi ym mhapur-frwyn (papyri) yr Aifft. Fel y gwyddom, y mae llawer o eiriau yn y Testament Newydd nad ydynt mewn Groeg clasurol, ac ni wyddai neb eu hystyr. Geiriau ydynt a ddefnyddid ym mywyd beunyddiol y bobl dri chan mlynedd wedi i'r Roeg glasurol beidio â bod ar arfer. Un enghraifft o hyn yw'r ymadrodd "Ein bara beunyddiol". "Daily bread " yw'r Saesneg yng Ngweddi'r Arglwydd. Nid oedd y gair—daily ond dyfaliad— yr oedd y gair Groeg yn anadnabyddus. Erbyn heddiw gwyddom ei fod yn cael ei ddefnyddio am ddogn (ration) o fara. Felly'r cyfieithiad iawn yw "Dyro i ni heddiw ein dogn (ration) o fara " fel gyda'r manna gynt yn yr anialwch.
Pa destun ynteu a ddefnyddiai John Davies yn sail i'w gyfieithiad? Argraffwyd eiddo Westcott a Hort yn 1881.
Yna daw Tregelles a Tischendorf—yr olaf yn argraffu ei waith, sef ei wythfed argraffiad, yn 1869, ac argraffiadau llai tua 1860. Felly hefyd Tregelles tua 1860, ond rhydd y dyddiad wrth gyfieithiad John Davies y rhai hyn allan o'r cyfrif. Un o'r argraffiadau gorau oedd eiddo Griesbach tua 1800, a Lachmann tua 1845, ond y mae dyddiad yr olaf eto yn mynd yn ei erbyn.
Y mae'n bosibl na ddefnyddiodd John Davies un testun penodol, ond dethol o ddarlleniadau gwahanol. Y broblem wedyn yw gwybod pa safonau a gymerodd i benderfynu ei ddarlleniad?
CYFIEITHIAD ARALL O'R TESTAMENT NEWYDD YN Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL.
Pan oeddwn yn ymbalfalu ynglŷn â phroblem y testun, ac yn tueddu ar sail rhesymau cryfion i ffafrio Griesbach, dyma gadarnhad i'r dybiaeth yn dod o'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Y mae yno gyfieithiad arall o'r Testament Newydd o'r Roeg i'r Gymraeg, a hwnnw wedi ei roddi i'r Llyfrgell, Gorffennaf, 1933, gan Mr. J. Davies Jones, Beulah, Ceredigion. Nid yr un yw hwn ag eiddo y Parch. D. J. Lewis, B.A., ac y mae'n gynharach o ran dyddiadau. Dyma rai o'r dyddiadau a rydd ynglŷn â'r gwaith o gyfieithu yn Saesneg:—
| Matthew, | commenced | Sept. 14, 1837 |
| Mark | " | Nov. 15, 1837 |
| Luke | " | Dec. 4, 1837 |
| John | " | Jan. 1, 1838 |
Yna ar ddiwedd Ioan rhydd nodiad wedi ei lawnodi yn ei ysgrifen ei hun fel hyn,—
"Finished this translation of the New Testament January 25th (Thursday), 1838 near 11 o clock at night aged 33 years, 10 months."
Felly am y llyfrau dilynol megis,— Acts, commenced July 1837, finished Sept. 13, 1837 Romans—Finished Jan. 30, 1837."
Yna wedi dod at Timotheus I cawn nodiad fel hyn,—
"An attempt at a Revision to Griesbach's Text of the Welsh Translation of the New Testament, commenced Dec. 1st, 1834. J.D."
Rhoddwn enghraifft o'i waith ar y bennod gyntaf o I. Timotheus.
"1. Paul Apostol Iesu Grist yn ol gosodiad Duw Ein Hiachawdwr a Christ Iesu ein Gobaith.
"2. I Timotheus, blentyn ddidwyll[18] mewn ffydd, y byddo gras, trugaredd, tangnefedd[19] oddiwrth Dduw ein Tad a Christ Iesu ein Harglwydd.
3. Megis pan yn myned i Macedonia y deisyfais arnat i aros yn Ephesus fel y gorchymynit i rai na ddysgont bethau[20] dieithr.
"1. Blentyn ddidwyll. Nid mab naturiol yr Apostol oedd Timotheus. Nid yw sicr chwaith a ddychwelwyd ef trwy weinidogaeth Paul. At garacter Timotheus fel crefyddwr didwyll a chywir y cyfeiria yr Apostol, ac nid at un berthynas ai crefyddol a'i naturiol a allasai fod rhyngddynt.
4. Yn lle adeiladaeth dduwiol myn Griesbach ddarllen goruchwyliaeth Duw, os hyn yw y darlleniad goreu, rhydd ar ddeall mai nid cyfundraeth o gwestyniau dryslyd yw yr Efengyl neu Gristionogaeth, ond casgliad o bethau eglur i'w gwneuthur heb ddadleu ac ymryson. Y Cyf. Syriaeg yw adeiladaeth yn ffydd Duw."
Dim ond I. Timotheus sydd ar y dull a'r ffurf hon ar y gwaith, yr hyn sydd yn hynod debyg i'r cynllun a gymerodd gyda'r 'Proffwydi Byrion'.
Fodd bynnag, dyna ddigon o ffeithiau i brofi mai copïau'r Parch. D. J. Lewis, B.A. yw'r diweddaraf, ac mai testun Griesbach yw'r sail i'r cyfieithiad yn ddiau.
Gresyn gennym na allwn fanylu ar y gwaith ymhellach ar hyn o bryd oherwydd perchenogaeth breifat o'r copïau, ond cawsom gan y Parch. D. J. Lewis, B.A. roddi inni y canlynol fel rhan o ffrwyth ei gydnabyddiaeth â'r gwaith.
Dywed Clwydwenfro yn Hanes Eglwys Glandŵr, am y Parch. John Davies, "Yma hefyd (Yetwen) y cyrhaeddodd prif nod lenyddol ei fywyd, sef gorphen ei gyfieithiad o'r Testament Newydd o'r Groeg i'r Gymraeg, er heb ei gyhoeddi hyd yn hyn." Aeth llawer blwyddyn heibio heb fawr o oleuni ar y mater. Heddiw gwyddom fod o leiaf ddau gyfieithiad cyflawn o'r Testament Newydd ar gael o eiddo Siôn Gymro. Anodd meddwl sut y cyflawnodd y fath orchest, pan gofiwn am ei lafur a'i brysurdeb mewn cyfeiriadau ereill. Nid yn unig yr oedd yn ysgolhaig gwych, ond hefyd yn weledydd ysbrydol; dyna a gyfrif am ei ymdrechion clodwiw. Dengys fedr a gofal tu hwnt i'r cyffredin yn ei gyfrolau sydd ger ein bron. Tair cyfrol yw y rhai hyn yn cynnwys y cwbl o'r Testament Newydd, a dau gyfieithiad o'r Epistolau. Ar wahân i'r cannoedd arall—eiriadau "ar ymyl y ddalen, nid oes un nodiad o'u mewn ond cyfeiriad at yr amser y dechreuir, ac y gorffennir y gwahanol lyfrau, megis March 20th, 1839, Wedn. 7 a.m. J.D.
Y mae ei ysgrifen y fwyaf destlus, y papur a'r rhwymiad o'r fath orau, yr inc yn dal yn rhagorol, er bod canrif gyfan ar ben oddiar ei fyfyrdod yn Ietwen, 1838-1841. Mor fân yw geiriau ymyl y ddalen, fel na ellir eu deall heb chwyddwydr. Rhyfedd nad yw wedi croesi allan gymaint ag un gair yn ei dair cyfrol. Cyfeiria yn awr ac eilwaith at feirniaid Beiblaidd y cyfnod hwnnw, ond amlwg yw ei fod o feddwl tra annibynnol. Hawdd fyddai sgrifennu llawer, ond credwn mai gwell fydd rhoi ychydig enghreifftiau o'i gyfieithiad.
Mwynhad digymysg yw ei ddarllen, a chymerwyd y canlynol yn hollol ar antur.
Math. Pen. v: Adn. 21, 22. "Clywsoch ddywedyd gan yr henafiaid: Na ladd, a phwy bynnag a laddo, a fydd agored i'r farnwriaeth (llys). Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych am bob un a ddigio wrth ei frawd yn ddiachos (fyrbwyll), ei fod yn agored i'r farnwriaeth; a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, och ddistadlddyn (wael ddyn), a fydd yn rhwym i'r sanedrim; a phwy bynnag a ddywedo: O annuwiol (annuwiol gythraul), a fydd yn agored i geenna y tân."
Marc. ii: 2. "Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghyd nes nad oedd digon o le iddynt hyd yn. nod wrth y drws, ac efe a lefarodd wrthynt y gair."
vi: 20. Canys Herod a barchai Ioan, gan wybod ei fod yn wr uniawn a santaidd, ac a'i diogelai ef (cadwai gydag ef), ac a wnelai lawer o'r hyn a glywai ganddo, ac a'i gwrandawai gydag hyfrydwch."
vii: 10. Canys Moses a ddywedodd, anrhydedda dy dad a'th fam, a'r hwn a wnelo yn fach o dad neu fam, gan farw bydded farw."
xi: 13. "Ac wedi ei ddyfod ati ni chafodd ond dail, canys ni bu cynhauaf ffigus."
xii: 44. Canys hwy oll o'r hyn sydd dros ben ganddynt (helaethrwydd cyfoeth) a fwriasant i mewn; eithr hi, o'r hyn sydd eisiau arni ei hunan, a fwriodd i mewn gymaint oll a feddai, ei holl fywioliaeth (gynhaliaeth). Marc.
xiii: 27. "Ac yna y denfyn efe ei genadau, ac efe a gynnull ynghyd atto ci bobl ddewisol ef o'r pedwar gwynt, o eithaf daear hyd eithaf wybren."
xiv: 1. Ac yr oedd y pasg a'r wyl ddilefain ddau ddiwrnod gwedi, a'r prif offeiriaid a'r dysgedigion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy gynllwyn (ddirgelaidd) ac y lladdent ef."
xiv 24. "Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod newydd, yr hwn a dywelltir dros laweroedd."
xiv: 71. "Ac efe a ddechreuodd ddymuno melldithion arno ei hun a thyngu, nid adwaen i y dyn hwn y dywedwch am dano."
XV: 26. "Ac yr oedd ei fai ef (ysgrifen ei gyhuddiad) yn ysgrifenedig oddiarnodd, Brenin yr Iddewon."
XV: 33. "Ac o'r chweched awr hyd y nawfed awr bu tywyllwch ar yr holl wlad."
XV: 43. "Daeth Joseph, Joseph o Arimathea, Seneddwr anrhydeddus, yr hwn yntau hefyd oedd yn disgwyl breniniaeth Duw, ac a feiddiodd fyned i mewn at Pilat, ac a geisiodd gorph yr Iesu."
Luc. xii: 22. "Na flin ofelwch am eich einioes—a phwy ohonoch chwi wrth flin ofalu a all chwanegu un cufydd at ei faintioli? (oes)."
x: 16. "A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ynt o'r gorlan hon—a bydd un ddiadell, ac un bugail."
Iago. v: 16, 17. "Llawer a ddichon taer weddi dyn uniawn. Elias oedd ddyn o'r un naturiaeth a ninnau, a chan weddio, efe a weddiodd na byddai gwlawio; ac ni bu gwlawio ar y wlad dair blynedd a chwe mis."
Dat. xiv: 13. "A mi a glywais lais o'r nef yn dywedyd, ysgrifenna, Gwynfydedig yw y meirw y rhai sydd yn marw yn eiddo i'r Arglwydd o hyn allan; ie medd yr yspryd, fel y gorphwysant oddiwrth eu trallodau, eithr y mae eu gweithredoedd yn canlyn gyda hwynt."
Ar ddarn o ddalen rydd, cyfeiria Mr. Davies at Marc pen. xv, ad. 21. Awgryma mai gair Aramaeg am lafurwr fferm a ddylai fod yno, ac nid y gair 'Cyrene'! Yn hyn rhag-dybia osodiad Charles Cutler Torrey ac eraill:
"A hwy a gymhellasant un Simon, llafurwr fferm, yr hwn oedd yn myned heibio wrth ddyfod o'r tir, i ddwyn ei groes ef."
Ymataliwn rhag dyfynnu ychwaneg. Gwelir fod yn ein dwylo drysor o wir werth. Mawr hyderwn y daw'r dydd yn fuan y gellir ei gyflwyno i sylw ein cenedl grefyddol. Yna caiff Dwyfol Ysprydoliaeth gyfle newydd trwy gyfieithiadau Davies Ietwen.
"Ffafr yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda'r holl seintiau." Jany. 3, 1839. 7 p.m. J.D."
Trysor i'r wlad fydd cael y cyfieithiad hwn, fel y dywed y Parch. D. J. Lewis, B.A., wedi ei argraffu a'i osod yn nwylo'r werin, gyda chyfle i'w gymharu â chyfieithiadau eraill er goleuni a budd. Heblaw y ddau waith mawr hyn, y mae dau eraill o natur a nodwedd gwahanol.
LLYFR COHELETH. Ar yr wyneb ddalen i'r gwaith hwn a geir yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir yr ysgrifen ganlynol:
"An attempt at a Revision of the Welsh translation of the Book usually called the Book of the Preacher commenced Nov. 26, 1832, Monday afternoon."
Gwaith argraffedig yw hwn heb fod yn cyrraedd ymhellach na Pennod v, 8.
Rhoddwn enghraifft o'r gwaith yn ei arall—eiriad a'i nodiadau yn fyr,
"Pen. I. Adn. 1. Geiriau Coheleth, mab Dafydd, brenin yn Jerusalem.
Adn. 2. Llwyr wagedd medd Coheleth. Llwyr wagedd, y mae y cwbl yn wagedd. 3. Pa ennill sydd i ddyn yn ei holl drafferth yr ymdraffertha ynddo dan yr Haul. 4. Y mae Cenedlaeth yn myned, a chenedlaeth yn dyfod, ond y mae y ddaear yn aros byth—o hyd."
Ceir nodiadau ar y dull hwn,—
"Pen. I.
Adn. 2. Llwyr wagedd medd Coheleth, llwyr wagedd, gwagedd[21]
yw y cwbl.
HORAE PETRINAE. Cyfres o ddarlithiau yw'r rhai hyn a draddodwyd yn eglwys Glandŵr yn fuan wedi ordeinio'r Parch. John Davies. Ar yr wyneb—ddalen i'r gwaith ceir y geiriau canlynol,—"Tua dechreu'r flwyddyn 1830 traddodwyd y rhan fwyaf o'r darlithiau canlynol yng nghyfarfodydd Mercher a Sadwrn yr eglwys i ba un y mae'r ysgrifennydd yn weinidog. Efallai mai nid yn hollol ddifudd y buont ar yr achlysuron hyny, a'r chwenychiad iddynt fod o fwy defnydd nac y gallasent fod wrth eu cyfyngu i un eglwys fechan a chymydogaeth amhoblog, a bwriedir eu cyhoeddi trwy'r argraffwasg " etc. Y mae rhai o'r nodiadau ar y geiriau Groeg ar waelod y ddalen yn gyfraniad gwerthfawr ond cyfuniad o'r esboniadol a'r arall-eiriol yw'r gwaith drwyddo. Cyfeddyf yr awdur ei fod wedi defnyddio esbonwyr ei ddydd yn y gwaith, ac felly nid yw o'r un aeddfedrwydd â'r Proffwydi Byrion'.
Cyfieithodd John Davies rannau helaeth o esboniad Matthew Henry i'r Gymraeg i'r Parch. E. Griffiths, Abertawe, esboniad a geir eto yn bur gyffredin ar aelwydydd ein gwlad. Dengys y gweithiau hyn fawredd y gwaith a gyflawnodd. Ynghyd â'i fedr a'i lwyredd fel Ysgolhaig Beiblaidd, a dyna ydoedd yn anad dim, cawn ei fod yng Ngholeg y Bala yn 1869 a 1870, yn gweithredu yno yn lle'r Athro Michael Jones pan oedd yr olaf ar ymweliad â'r Wladfa Gymreig.
Yr oedd ysgolheigion gorau Prydain yn gohebu ag ef, megis Esgob Llandâf a Dr. Pusey o Rydychen ac eraill, a hynny'n rheolaidd ac yn aml. Pan fu offeiriaid Cymru yn sôn am gyhoeddi yn ei gyfnod Gyfieithiad Diwygiedig o'r Ysgrythurau, anfonwyd ato ef gyda'r cyntaf am ei gydweithrediad, ac efe oedd yr unig ymneilltuwr y danfonwyd ato ynglŷn â'r gwaith bwriadedig. Yr oedd yn ymwelydd ffyddlon â Choleg Aberhonddu, ac yn fynych yn cael ei alw i holi o flaen y Pwyllgor yr ymgeiswyr am dderbyniad i'r Coleg.

IETYGARN
Adroddir am dano yn holi un o'r myfyrwyr ar yr achlysur hwn ynglŷn â'i waith cyn dechrau pregethu. "Beth oedd eich galwedigaeth?" gofynnai John Davies. "Fferyllydd," atebai myfyriwr. "A oes sôn am eich galwedigaeth yn y Beibl?" meddai drachefn. Aeth y myfyriwr i'r gongl, ac atebodd na wyddai ef am yr un cyfeiriad ati. "Oni ddarllenasoch am yr Apothecari? " meddai John Davies. Cyfaddefodd ei fod yn cofio'r gair. "Dyna eich galwedigaeth yn ôl iaith y Beibl," meddai'r holwr. Gwyddai ei Feibl yn dda, astudiai ef yn fanwl, a cheisiai gan eraill fod yr un mor drylwyr yn eu darlleniad a'u hastudiaeth ohono. Fel ysgolhaig Beiblaidd a diwinydd o awdurdod yr adnabyddid ef yn ei gyfnod, a mentrwn ddweud pe bai byw heddiw y buasai Prifysgol Cymru yn ei anrhydeddu ei hun drwy ei anrhydeddu ef ag un o'i graddau, ac y byddai gradd Doethor mewn Diwinyddiaeth yn darllen yn hyfryd ac yn weddus ar ôl ei enw.
Cof gennyf glywed pan oeddwn yn llanc fod John Davies, Ietwen, yn medru pedair ar ddeg o ieithoedd. Tebyg fod hyn yn eithafedd, ond gellir dweud i sicrwydd fod Lladin, Groeg, Hebraeg, Syriaeg, Almaeneg, Saesneg a Chymraeg yn ieithoedd y gwyddai ef ei ffordd yn weddol rwydd drwyddynt.
PENNOD V
IEITHYDD A CHYFIEITHYDD
MEWN rhagair byr i esboniad ar lyfr Amos a gyhoeddwyd dros chwarter canrif yn ôl, cyfeiriais at 'Y Proffwydi Byrion' gan John Davies, Ietwen, ac awgrymais yr enillasai'r awdur safle uchel iddo'i hun ymhlith efrydwyr llenyddiaeth broffwydol yr Hen Destament pe cyhoeddasai gyfrol o'r fath yn Saesneg. Y mae'r gyfrol ysgolheigaidd hon yn cynnwys cyfieithiad gwreiddiol o'r proffwydi byrion ynghyd â nodiadau eglurhaol, ac ar ymyl y ddalen dyfynnir o'r hen gyfieithiadau—Lladin a Groeg a Syriaeg. Ni wn am gyfrol gyffelyb mewn unrhyw iaith. Ni wyddwn ddim ar y pryd am John Davies ond iddo dreulio oes gyfan fel gweinidog mewn ardal wledig. Ni allwn lai na synnu fod gweinidog Cymraeg na fu mewn Coleg y tu allan i Gymru, wedi efrydu digon ar amryw hen ieithoedd i gyhoeddi cyfrol na fuasai ar athro yr un o golegau Rhydychen neu Gaergrawnt gywilydd i'w harddel am mai cyfrol ydoedd na allai neb ond efrydydd ac ysgolor ei hysgrifennu. Trwy ymchwiliad pellach i'w hanes, daeth goleuni newydd ar rai cwestiynau, ond nid yw'r ymchwiliad wedi peri imi newid fy marn am werth y gyfrol. Wedi deall yr amgylchiadau, coleddaf syniad uwch am John Davies oherwydd y llafur a'r ymroad a oedd yn angenrheidiol,—ar ôl iddo orffen ei gwrs mewn coleg,—i'w gymhwyso'i hun i gyhoeddi llyfr o'r fath. Gwn fod gwahaniaeth barn amdano fel disgybl, ond, ar y cyfan, rhaid cydnabod nad oedd ef yn ddysgwr cyflym. Efrydydd diwyd a dyfal ydoedd. Gallu diderfyn i gymryd poen oedd ei athrylith. Araf oedd ei gerddediad fel myfyriwr ond gwnâi ei ddyfalbarhad i fyny'n llwyr am hyn. Nid oedd ball ar ei ddiwydrwydd. Ymddengys nad oedd rhwyddineb ymadrodd ganddo yn ddawn gynhenid, eithr trwy ymarfer cyson fe ddaeth hawster ac eglurder mynegiant, wrth siarad ac ysgrifennu. Ffrwyth llafur diflino oedd hyn. Ni chafodd ei ysgrifbin lawer o seibiant fel y dengys y pentwr o ysgrifau o'i eiddo sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ymddengys iddo ysgrifennu pob pregeth ac anerchiad o bwys a draddodwyd ganddo.
Nid ysgrifennu gyda'r amcan o gyhoeddi a wnâi ond er mwyn mynegi ei feddwl yn groyw a chryno. Nid oedd yn fardd, ond gwnâi ei gynhyrchion prydyddol gyfrol drwchus.
Ieithydd yn anad dim oedd John Davies. Treuliodd dros ddeng mlynedd yn Ysgol Neuaddlwyd, a oedd o dan ofal Thomas Philipps o anfarwol goffadwriaeth. Bu wrthi'n brysur drwy'r holl gyfnod yn dysgu Lladin a Groeg. Ymddengys iddo ddechrau ar yr aelwyd â'i dad yn athro. Dywed yn ei ddyddlyfr mai'r ffaith fod mwy o bwyslais ar ieithoedd yn athrofa'r Drefnewydd a barodd iddo fynd i'r Drefnewydd yn hytrach nag i Gaerfyrddin. "Yr oedd yr hyn a ddysgid yn yr athrofa hon yn fwy cydunol a thuedd fy meddwl na'r hyn a ddysgid yn athrofa Caerfyrddin. Gwell gennyf ddysgu leithoedd, Hanes, Beirniadaeth Feiblaidd, na'r celfyddydau Rhif a Mesur. Ni allwn wneuthur llawer o lun ar Algebra ac Ewclid. Ymroddais i bethau eraill, hoffach gennyf, yn enwedig yr Hebraeg."
Y mae ieithydd o angenrheidrwydd yn gyfieithydd. Y mae'n eglur fod John Davies yn gynefin â chyfieithu o'r naill iaith i'r llall ac ni ellir meistroli unrhyw iaith heb ymarfer o'r fath—yn arbennig cyfieithu i'r iaith a ddysgir. Dywaid eto yn ei ddyddlyfr iddo fod mewn cryn benbleth meddwl ar ddiwedd ei yrfa yn Academi'r Drefnewydd. Nid oedd mewn brys i gymryd gofal eglwys yng Nghymru. Bu'n meddwl llawer am barhau ei efrydiau mewn athrofa arall, e.e., yng Nglasgow. Daeth i'w feddwl fynd i'r maes cenhadol—i wlad Groeg neu Japan. "Yr hyn a'm tueddai i feddwl am Japan oedd cael y fraint o gyfieithu'r Ysgrythurau oherwydd i mi gael cynifer blwyddyn o ysgol." Wedi cau o bob drws ac iddo'i gael ei hun yn weinidog yng Nglandŵr a Moreia, glynodd wrth ei benderfyniad i gyfieithu rhannau o'r Beibl. Hysbysodd ei frodyr yn y weinidogaeth yn fuan ar ôl ymsefydlu yng Nglandŵr ei fod yn bwriadu cyhoeddi esboniad ar Y Proffwydi Byrion —cyfieithiad ac esboniad. Rhwng 1834 ac 1838 bu wrthi'n ddyfal yn cyfieithu'r Testament Newydd ac nid cynt y cwplaodd y gwaith hwn nag yr aeth ati drachefn i ddiwygio'r cyfieithiad. Y mae'r cyfieithiad cyntaf yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a'r cyfieithiad diwygiedig gan y Parch. D. J. Lewis, B.A. Ni wyddom ba bryd y dechreuodd gyfieithu'r proffwydi byrion ond ymddangosodd cyfieithiadau (gyda sylwadau ymarferol) o rai o'r proffwydi yn y Diwygiwr am 1835-36, ac nid oes le i amau nad John Davies oedd y cyfieithydd. Dychwelir at hyn eto.
Beth sydd yn cyfrif am y ffaith fod yr awdur wedi oedi cyd cyn cyhoeddi ei esboniad ar 'Y Proffwydi Byrion,' canys ni ddaeth y gyfrol o'r wasg am hanner canrif ar ôl iddo ddatgan ei fwriad i gyhoeddi cyfrol o'r fath? Bernir yn gyffredin mai diffyg cefnogaeth, a hyd yn oed wrthwynebiad pendant, amryw weinidogion a barodd iddo betruso. Nid oes amheuaeth am anghymeradwyaeth ei frodyr yn y weinidogaeth. Bu llawer o feio a dilorni arnynt am daflu dwfr oer ar frwdfrydedd ac uchelgais ysgolor ieuanc a allasai wneuthur mwy mewn perthynas i esboniadaeth Feiblaidd oni buasai am wrthwynebiad gweinidogion. Ond rhaid inni ystyried barn y cyfnod am y Beibl Cymraeg. Syniad newydd, ac, i amryw, syniad gwrthun—fel popeth newydd oedd cyfieithiad gwreiddiol o'r Beibl. Bernid yn gyffredin nad oedd dim yn angenrheidiol ond esbonio'r Beibl yn gywir. Enillasai'r Beibl Cymraeg le diogel ym meddwl a pharch Cymru Grefyddol— y Beibl fel yr oedd, cyfieithiad yr Esgob Morgan a'i gynorthwywyr, wedi ei ddiwygio gan yr Esgob Parry. Yr ydym ni heddiw yn ddigon cyfarwydd â chyfieithiadau newyddion o'r Beibl, ac yn neilltuol o'r Testament Newydd, ac yr ydym yn barod i'w darllen, a dichon na fu cyfieithiad gwreiddiol o unrhyw ddarn o'r Beibl na thaflai oleuni newydd ar amryw adnodau. Ond bernid yn amgen ganrif yn ôl. Ni synna arnom fod amryw weinidogion a lleygwyr, nid yn unig yn amau cymhwyster gweinidog ifanc i'r gwaith ond yn gwrthod cydnabod bod angen am gyfieithiad newydd o'r Proffwydi Byrion nac o unrhyw ran arall o'r Beibl.
Gwelir y safbwynt hwn mewn llythyr a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr o'r Diwygiwr yn y flwyddyn 1836. Nid oes enw ond "Syl." ar ddiwedd y llythyr. Cynnwys y llythyr feirniadaeth lem ar gyfieithiad newydd o'r bennod gyntaf o Lyfr Nahum, a argraffwyd yn rhifyn Gorffennaf. Awgrymwyd eisoes mai John Davies oedd y cyfieithydd.
Yr oedd awdur y llythyr yn gyfarwydd â'r iaith Hebraeg. Tynnir sylw at y llythyr, nid am fod unrhyw werth yn ei feirniadaeth ond am ei fod yn mynegi'r farn gyffredin ar y pryd,—"Parodd yr olwg ar Nahum," meddai'r critig, " yn ei wisg newydd ryw aidd dros fy Meibl Cymraeg. . . . . a pharod wyf i sefyll dros fy Meibl Cymraeg fel y mae yn hytrach na gweled y fath annibenrwydd ac anghelfyddydrwydd â hyn, a phenderfynais godi fy llais dros fy Meibl Cymraeg a dymuno ar bawb i beidio gwaradwyddo dysgeidiaeth ryfeddol yr oes y cyfieithiwyd ef. . . efallai y par ofid a phetrusder ym mynwes rhyw gristion gwan am gywirdeb y cyfieithiad Cymraeg ac yna amheuaeth am wirionedd. yr Ysgrythyr Lân . . . holl fwriad y llinellau presennol yw attal y fath waith i fyned yn mlaen . . . os na ellir gwneyd y cyfieithiad yn fwy eglur na'r un sydd gennym, nid oes hawl, ac nid yw'n briodol i ni gymmeryd arnom i wella yr hyn, ar ba beth y cytuna dysgedigion penaf yr oes mai anhawdd gwella; ac na fydded i ni gymmeryd arnom eistedd yn nghadair y dysgedigion rhagorol a drefnodd y Goruchaf, yn sicr, i gyfieithu ein Beibl i'r Gymraeg." Nid yw awdur y llythyr yn hawlio hyfforddiad dwyfol i'r cyfieithwyr ond y mae ymadroddion megis y dysgedigion rhagorol a drefnodd y Goruchaf i gyfieithu ein Beibl i'r Gymraeg a dysgeidiaeth ryfeddol yr oes' yn lledawgrymu na ddylai neb—heb gymwysterau cyffelyb, onid gwell,—fod mor rhyfygus â chymryd arno i'w wellhau a'i ddiwygio. Pan goleddid syniad o'r fath am y Beibl Cymraeg ni ellid disgwyl dim ond gwrthwynebiad pendant i bob ymgais i gyhoeddi cyfieithiad newydd. Yn ddiamau yr oedd awdur y llythyr hwn yn mynegi'r farn gyffredin ar y pryd ac, yn wyneb y rhagfarn hon, ofer fuasai ei hanwybyddu gan na ellid disgwyl am gylchrediad i gyfrol o'r fath. Anodd i ni heddiw ddeall safbwynt o'r fath am ein bod yn gyfarwydd ag amryw gyfieithiadau Saesneg o'r Beibl neu o rannau ohono a hefyd gyfieithiadau Cymraeg. Dichon mai John Davies oedd y cyntaf i awgrymu y gellid cael cyfieithiad cywirach, yn arbennig o ddarnau barddonol yr Hen Destament. Tua chanol y ganrif cyhoeddwyd cyfieithiad gwreiddiol o lyfr Job a'r Diarhebion a'r Salmau gan Thomas Briscoe, S.T.B., Is-lywydd ac Athro hynaf Coleg yr Iesu, Rhydychen (1854-1855). Tua'r un adeg cyfieithodd John Owen, M.A., offeiriad yn Thrussington, swydd Caerlŷr, ond brodor o Lanfihangel-Ystrad, Ceredigion—nifer o'r proffwydi byrion, sef Hosea, Micah, Habacuc, Obadiah, a Galarnad Ieremiah, ac ymddangosodd ei gyfieithiadau yn ' Y Traethodydd' (1852-1856). Dichon mai bwriad y ddau gyfieithydd oedd cyfleu arddull farddonol y llyfrau a gyfieithwyd ganddynt.
Ond ar wahân i'r gwrthwynebiad a godai o'r syniad hwn am y Beibl Cymraeg, y mae'n eglur fod amryw weinidogion yn amau cymhwyster John Davies i gyhoeddi cyfieithiad newydd o'r Proffwydi Byrion y ceir ynddynt rai o'r darnau mwyaf anodd i'w cyfieithu yn yr Hen Destament. Hyn oedd ar feddwl ei hen athro, Thomas Phillips y Neuaddlwyd, pan ddywedodd yn ei ffordd ysmala ei hun—"Gwell i John aros yn Iericho hyd oni thyf ei farf".
Pan orffennodd John Davies ei gwrs yn academi'r Drefnewydd yr oedd yn fwy o ysgolhaig clasurol nag ydoedd o Hebreigydd. Dechreuodd astudio Lladin a Groeg yn ysgol y Neuaddlwyd ac ymddengys iddo aros dros ddeng mlynedd yn yr ysgol. Rhaid ei fod yn gymharol gynefin â'r ddwy iaith pan dderbyniwyd ef gan y Bwrdd Cynulleidfaol i'r academi yn y Drefnewydd. Treuliodd bedair blynedd yn yr athrofa ac yn ystod y tymor hwn astudiodd Hebraeg ac ieithoedd perthnasol ynghyd ag amryw bynciau eraill. Yr oedd cwrs addysg yr athrofa, o angenrheidrwydd, yn gynhwysfawr iawn, gan nad coleg diwinyddol yn unig oedd ar y pryd. Yr oedd Edward Davies—llywydd y coleg— yn ysgolhaig clasurol ac ef oedd yn gyfrifol am gynnal dosbarthiadau mewn Hebraeg, Aramaeg a Syriaeg. Ni osodid pwyslais arbennig ar yr ieithoedd hyn. Gwelir wrth gofnodion y Bwrdd Cynulleidfaol (1823) fod cwrs addysg y coleg ar y pryd yn cynnwys Lladin, Groeg, Hebraeg, Aramaeg, Syriaeg, Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Rhifyddiaeth, Mesuroniaeth, Daearyddiaeth, Athroniaeth Naturiol, Hanes Eglwysig, Beirniadaeth Feiblaidd, Diwinyddiaeth ac Areithyddiaeth. Nid oedd yn bosibl rhoddi sylw arbennig i unrhyw bwnc. Dyma'r maes llafur mewn Hebraeg, Aramaeg a Syriaeg yn y flwyddyn 1823. Yr oedd John Davies yn yr athrofa ar y pryd.
Hebraeg (yr ail ddosbarth) Eseciel 20.
Hebraeg (y dosbarth cyntaf) Genesis 49, Iosua 10. Aramaeg, Daniel 5 a'r darnau Aramaeg o Esra. Syriaeg, Actau 26.
A'r pynciau mor lluosog, ni ellid disgwyl mwy. Nid oedd y cwrs Hebraeg ond prin ddigon i lwyddo yn arholiad cyntaf Prifysgol Cymru am radd mewn Diwinyddiaeth. Y mae yn ffaith gwerth ei chofnodi fod Athrofa'r Drefnewydd ar y blaen o'i chymharu ag academïau eraill yn Lloegr, ac i'r Athro Edward Davies y perthyn y clod am hyn. Danfonid arholwyr bob blwyddyn gan y Bwrdd Cynulleidfaol, ac yn adroddiad y Parchedig John Stuart, D.D., Lerpwl, a ymwelodd â'r athrofa yn y flwyddyn 1825 pan oedd John Davies ar ei flwyddyn olaf yn y Coleg, ceir y geiriau a ganlyn am y myfyrwyr:—" Their knowledge of Hebrew, Aramaic and Syriac is beyond anything in any Theological College". Ond rhaid inni gofio beth oedd y safon a gydnabyddid ar y pryd mewn academïau o'r fath. Ni fwriedid i'r myfyrwyr ddysgu dim ond elfennau'r ieithoedd hyn. Y mae'n amlwg nad oedd John Davies ar ddiwedd ei gwrs yn Hebreigydd yn ystyr gywir y gair, ond yr oedd wedi dysgu digon i deimlo awydd i gynyddu yn ei wybodaeth o'r iaith yr ysgrifennwyd yr Hen Destament ynddi. Trwy ddyfal astudiaeth, yn ystod ei weinidogaeth fe ddaeth John Davies mor gyfarwydd â'r Hebraeg ag ydoedd â Lladin a Groeg ond camgymeriad yw'r syniad ei fod yn Hebreigydd ar ddechrau ei yrfa fel gweinidog. Ni synna arnom o gwbl fod ei hen athro yn amau ei gymhwyster ar y pryd i roddi cyfieithiad newydd o'r Proffwydi Byrion.
Ni ddylai neb feddwl am gyfieithu darnau barddonol yr Hen Destament heb astudiaeth hirfaith o'r maes a gwybodaeth drylwyr o'r iaith. Pan nad oedd ef eto ond llanc pum mlwydd ar hugain o oed nid oedd wedi sylweddoli maint y dasg y bwriadai ei chymryd mewn llaw. Dichon fod ei athro Edward Davies wedi awgrymu droeon yn y dosbarth Hebraeg fod lle i gywiro a diwygio'r Beibl Cymraeg, yn arbennig yn llenyddiaeth broffwydol yr Hen Destament. Pan glywodd Edward Davies am fwriad ei ddisgybl gyrrodd air byr i'w longyfarch fod hynny ar ei feddwl. Ni ellid disgwyl i athro wneuthur yr amgen. Gwyddai fod ganddo fedr arbennig i ddysgu ieithoedd, a dichon fod ei ddisgybl wedi sicrhau yr athro mai ei fwriad oedd dod yn gymaint o Hebreigydd ag ydoedd o ysgolhaig clasurol, ond yr oedd astudiaeth ddiflino a hirfaith yn angenrheidiol i gyrraedd y nod.
Pan oedd John Davies yn ddeugain oed cyhoeddwyd erthygl ganddo yn y Dysgedydd' (1844) ar 'Brynedigaeth neilltuol'. Yn yr erthygl crybwyllir y rheswm am iddo feddwl cyfieithu rhannau o'r Beibl ac awgrymir ei fod bellach wedi sylweddoli—yr hyn na allai ei sylweddoli ar ddechrau ei weinidogaeth—mai gwaith anodd oedd cyfieithu llyfrau barddonol yr Hen Destament. Credai ef, fel pawb arall o'i gyfoedion, mai gair Duw oedd y Beibl a'i fod yn gynnyrch dwyfol ysbrydoliaeth. Ond Hebraeg oedd iaith yr Hen Destament a Groeg oedd iaith y Testament Newydd. Yr oedd yn angenrheidiol cael testun Hebraeg a Groeg a chyfieithiad cywir a dealladwy o'r testun. Nid oedd ef yn cydsynio â'r farn na ddylid ymyrryd â'r Beibl Cymraeg fel cyfieithiad. Gwelir ei safbwynt yn y dyfyniad a ganlyn o'r erthygl a grybwyllwyd uchod: "Gellir sylwi fod llawer darn o'r Beibl eto heb ei ddeall. Uwch ben llawer man yn yr Hen Destament a'r Newydd, gellir gofyn—Pwy a ddeallodd y gyfran hon? Y mae llawer rhan o'r Beibl Cymraeg yn anmhosibl ei ddeall. Nid yw yr ymadroddion eu hunain yn ddealladwy. Yn y Testament Newydd y mae llawer rhan, o ysgrifeniadau Paul yn neillduol, heb eu deall. A oes rhywun yn Nghymru a feiddia ddywedyd ei fod ef yn deall y llythyr at y Rhufeiniaid neu at yr Hebreaid?" Ni synnwn ddim iddo feddwl,—ag ef yn credu hyn am y Beibl Cymraeg—fod cyfieithiad newydd yn angenrheidiol—cyfieithiad cywirach a mwy dealladwy. Ond wrth ymgodymu â'r anawsterau sylweddolodd mor anodd y dasg. Ceir ymadroddion awgrymiadol am ei brofiad yn yr un erthygl:—" Cofier mai nid gwaith diwrnod nac oes ychwaith yw deall ysgrifeniadau mor hen, mor wahanol i syniadau arferol y gwledydd gorllewinol a gogleddol yma—ysgrifeniadau sydd mewn ieithoedd dyeithr, ac mewn ystyr ieithoedd meirwon." Dyna'i brofiad ar ôl treulio blynyddoedd i feistroli'r Hebraeg ac ieithoedd perthnasol, oblegid yr oedd yn ddeugain oed pan ysgrifennodd yr erthygl y dyfynnwyd ohoni.
Y mae'n eglur nad gwrthwynebiad ei gydweinidogion yn unig a barodd i John Davies oedi cyhoeddi ei gyfrol ar Y Proffwydi Byrion'. Bu wrthi'n ddyfal drwy'r blynyddoedd yn cywiro a diwygio ei gyfieithiad a'i esboniad, gan gymaint ei awydd i gyfleu'r meddwl yn gywir a diamwys. Y mae'n amlwg iddo newid ei farn am gynnwys ei esboniad. Nid oedd mwy ar ei feddwl ar y dechrau na chyfieithiad a sylwadau ymarferol. Gwerth ei esboniad i efrydydd llenyddiaeth broffwydol yw'r cyfieithiadau o'r hen gyfieithiadau—Lladin, Groeg, a Syriaeg ar ymyl y ddalen. Ffrwyth astudiaeth a llafur am flynyddoedd lawer oedd hyn.
Nid dyfalu yr ydys wrth honni bod yr awdur wedi bod wrthi'n ddyfal am hir amser yn cywiro ei gyfieithiad ac yn gwellhau ei nodiadau. Ni ellir credu'n amgen os cymherir ei gyfieithiadau' cyntaf o'r proffwydi (1835-36), ei gyfieithiadau diweddarach, fel y'u ceir mewn llawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth (1864-1866) a'i gyfieithiad yn y gyfrol gyhoeddedig (1881).
Yn y 'Diwygiwr' am Ionawr 1836 ymddangosodd cyfieithiad o' Weledigaeth Obadiah' gyda rhagair byr a sylwadau ymarferol. Dilynwyd y cyfieithiad gan gyfieithiadau o Habacuc, a Nahum a Sephaneia mewn rhifynnau diweddarach. Nid oes un enw wrth y cyfieithiadau hyn ond bernir yn gyffredin mai John Davies oedd y cyfieithydd. Cyfeiriasom eisoes at lythyr rhyw gritig dienw a'i feirniadaeth lem ar y cyfieithiad o'r bennod gyntaf ym mhroffwydoliaeth Nahum. Dyma ran o'r rhagair i'r Cyfieithiad o Habacuc yn y Diwygiwr' am Mawrth (1836): "Saif y proffwyd hwn yn uchel ymhlith y prydyddion Hebreaidd; y mae ei ddrychfeddyliau yn hedegog a hardd a'r iaith yn mha un y gesyd hwynt allan yn fywiog a grymus, yn enwedig yn ei gan yn y bennod olaf." Cymharer y dyfyniad uchod â'r rhagymadrodd i Habacuc yn ei gyfrol ar 'Y Proffwydi Byrion' a argraffwyd yn 1881. "Saif Habacuc yn uchel ymysg y prydyddion Hebreaidd. Y mae ei feddyliau yn hedegog a'i lafar yn fywiog a grymus yn enwedig yn ei weddi neu ei hymn yn Pen. III."
Dyma ddarn o'r rhagair i Obadiah yn y 'Diwygiwr' am Ionawr (1836): "Ni wyddis pa le na pha bryd y ganwyd y Proffwyd hwn . . . nid yw ei broffwydoliaeth ond ber... y mae yn gynnwysedig o ddwy ran y gyntaf yn fygythiol, yn erbyn Edom yn bennaf am eu balchder a'u casineb creulon at yr Iddewon. Yr ail yn gysurlawn, yn rhagddywedyd adferiad yr Iddewon o'u caethiwed, eu buddugoliaeth ar eu gelynion, a'u cyflwr llwyddiannus yn y canlyniad." Cymharer y dyfyniad uchod â'r geiriau a ganlyn o'r rhagair i Obadeia yn ei gyfrol gyhoeddedig: "Ni wyddis pa le na pha bryd y ganwyd y proffwyd hwn . . . Proffwydoliaeth fer ydyw ysgrif Obadiah . . . ac yn gynnwysedig o ddwy ran y gyntaf yn cynnwys bygythion yn erbyn Edom am eu balchder a'u casineb at yr Iddewon. Yr ail, yn gysurlawn, yn rhagddywedyd adferiad yr Idduewon o'u caethiwed, eu buddugoliaethau ar Edom a'u cyflwr llwyddiannus a sanctaidd ar ôl llaw."
Dengys y dyfyniadau uchod mai John Davies oedd awdur y cyfieithiadau yn y 'Diwygiwr' (1836) a'i fod yn barod iawn i ddwyn i mewn fân gyfnewidiadau yn ei nodiadau ar y proffwydi. Newidiodd ei farn am ystyr amryw ymadroddion a hyd yn oed am genadwri'r proffwyd.
Yn ei ragair i'w gyfieithiad o lyfr Nahum yn y 'Diwygiwr' am Orffennaf (1836) darllenir:—" Dywed Ierom mai pentref yn Galilea oedd Elcosa . . . fel prydydd ystyrrir Nahum gyda y rhagoraf o'r proffwydi Byrion . . . mae ei ddull a ddesgrifir yn oruchel, dewr a thanllyd." Os darllenir ei ragymadrodd i Nahum yn ei gyfrol gyhoeddedig gwelir iddo newid ei farn—nid heb achos—am safle'r proffwyd ymysg y proffwydi. Gadawodd allan yr ymadrodd bod Nahum "gyda y rhagoraf o'r proffwydi byrion," a newidiodd ei ansoddeiriau am iaith y proffwyd: "Y mae iaith Nahum yn. brydferth, bywiog a chyffrous."
Ni ellir casglu oddiwrth y Cyfieithiad mai John Davies oedd y cyfieithydd, ond prawf yw hyn ei fod yn dueddol i newid ei farn a'i gyfieithiad.
Crybwyllasom eisoes fod cyfieithiad o'r proffwydi byrion mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ceir amryw ddyddiadau yn yr ysgrifau —y dyddiad cyntaf yw Gorffennaf 4, 1864, a'r olaf Mehefin 26, 10.15 o'r gloch yn y bore, 1866. Diddorol yw cymharu'r cyfieithiad hwn â'r cyfieithiad o rai o'r proffwydi byrion yn y Diwygiwr' am 1836. Y mae'r cyfieithiad yn y gyfrol gyhoeddedig yn wahanol i'r naill a'r llall. Nid yw'r gwahaniaeth, ond yn anaml, yn newid y meddwl. Ni wneir mwy na newid gair. Y mae'n eglur i'r cyfieithydd gael trafferth i wneud ei feddwl i fyny beth oedd y gair neu'r geiriau mwyaf cymwys i gyfleu'r meddwl. Fel rheol newidiodd ei gyfieithiad er gwell. Ond nid oedd John Davies yn feistr ar arddull lenyddol. Nid ysgrifennu Cymraeg dillyn oedd ei fwriad fel cyfieithydd ond cyfleu'r meddwl yn gywir. Rhodder enghraifft neu ddwy.
Amos v.—a chyfiawnder fel llifeiriant nerthol (di-baid), ffrwd (gref) (1864-66) a chyfiawnder fel llifeiriant cryf (1881).
Hab. ii: 2—fel y gallo'r hwn a'i darlleno redeg (1836). fel y rhedo yr hwn a'i darlleno (1864—66). Hab. ii: 4—Ond y cyfiawn a fydd byw mewn ffydd (1836). A gwr uniawn a fydd byw yn ei ffyddlondeb (1864-66).
Yn ei ragymadroddion i'r proffwydi fe geir cyfnewidiadau cyffelyb. "Dechreuodd Hosea ar y swydd yn foreu a daliodd atti hyd henaint." (1864-66). "Dechreuodd Hosea ar ei waith fel proffwyd yn foreu a pharhaodd wrtho hyd henaint." (1881).
Dengys y dyfyniadau uchod fod John Davies yn cael anhawster i ddewis y geiriau mwyaf cymwys wrth grynodebu dysgeidiaeth y proffwydi. Trwy astudiaeth lwyrach o lenyddiaeth broffwydol newidiodd ei farn am eu cenadwri. Ni synna arnom iddo gael anhawster cyffelyb fel cyfieithydd i ddewis y gair cywir neu'r ymadrodd iawn i gyfleu meddwl y proffwyd. Gŵyr pawb sydd yn gyfarwydd â llyfrau'r Proffwydi fod amryw gyfieithiadau yn bosibl. Nid yw'r darlleniad uwchlaw amheuaeth mewn llawer adnod. Y mae'n eglur iddo betruso llawer cyn dewis ei gyfieithiad. Os darllenir ei gyfieithiad o'r Testament Newydd gwelir mai ei gynllun oedd rhoi pob cyfieithiad posibl o'r Hebraeg neu'r Roeg, ac yna, wedi astudiaeth bellach a manylach mabwysiadu'r cyfieithiad, a oedd yn ei farn ef, yn cyfleu'r gwirionedd. Y mae ei gyfieithiad o Weddi'r Arglwydd, yn ei gynnig cyntaf, yn enghraifft o'i gynllun.
Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd, anrhydedder— parcher—dy enw. Deued dy deyrnas—frenhiniaeth... Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol—at ein cynhaliaeth

CAPEL MOREIA
—fod ei eisieu bob dydd am y diwrnod sydd yn dyfod." Yn ei gyfieithiad o'r proffwydi byrion a welir mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a hwnnw wedi ei ddyddio rhwng 1864 ac 1866 fe geir amryw gyfieithiadau. Dengys hyn nad oedd wedi gwneuthur ei feddwl i fyny'n derfynol pan oedd yn drigain mlwydd oed. Ni ellir amau nad diffyg hunan-hyder, i fesur helaeth, oedd yn gyfrifol am hyn.
Awgrymwyd eisoes fod John Davies wedi ysgrifennu ei bregethau a'i anerchiadau heb un bwriad i'w cyhoeddi. Pe cyhoeddid y pentwr ysgrifau—rhyddiaith a barddoniaeth y sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol, gwnaent nifer o gyfrolau trwchus, a dichon nad yw'r cwbl a ysgrifennodd ar glawr. Dichon iddo gyfieithu darnau o'r Beibl am fod gwaith o'r fath wrth ei fodd. Yr oedd John Davies yn Ieithydd ac nid oes mwynhad uwch i ieithydd na chyfieithu o un iaith i'r llall. Ymysg yr amryw ysgrifau o'r eiddo ef yn y Llyfrgell Genedlaethol fe geir cyfieithiad o ran o Lyfr y Pregethwr—Ecclesiastes. Ni pherthyn i'r cyfieithiad unrhyw ragoriaeth arbennig ond dengys fod cyfieithu yn hoff waith ganddo. Crybwyllwyd eisoes iddo gyfieithu'r Testament Newydd rhwng 1834 ac 1838 ac ymgymryd â'r dasg o'i ddiwygio yn fuan ar ôl gorffen y Cyfieithiad cyntaf, ond nis argraffwyd. Ni chefais hamdden na chyfle i ddarllen yn fanwl ei gyfieithiad o'r Testament Newydd ond fe geir yma a thraw gyfieithiadau diddorol ac awgrymiadol ac nid oes amheuaeth na fuasai llawer o ddarllen arno pe cyhoeddesid ef pan nad oedd gyfieithiadau diweddar eraill ar y maes megis yr eiddo Weymouth a Way a Moffatt.
PENNOD VI
Y LLENOR A'R DADLEUYDD
GWELSOM eisoes ei fod wedi dechreu ar ei yrfa lenyddol yn gynnar drwy ysgrifennu i'r gwahanol gylchgronau a berthynai i'w enwad ef ei hun yn ogystal ag i enwadau eraill. Ysgrifennai ar y dechrau o dan dri gwahanol ffugenw, sef "Siôn Llethi", "Castellanus", a "Siôn Gymro", ac yn fwyaf aml o dan yr olaf wedi ymsefydlu ohono yn y weinidogaeth.
Cefais yr awgrym canlynol gan y Parch. E. Aman Jones, B.A., Gurnos, ynglŷn â'r ffugenw "Siôn Gymro".
Ganed Giraldus Cambrensis (Gerallt Gymro, y gŵr eglwysig a'r hanesydd, ym Mhenfro, yn 1147. Gallai hynny awgrymu "Siôn Gymro i'r Parch. John Davies. Eithr yn olyniaeth John Penry (1563) y mae Siôn Gymro. Wele'r olyniaeth yn ôl geiriau John Penry ei hun,—
"I am a poor young man borne and bredd in the mountaynes of Wales. I leave the successe of these my labours unto such of my countreymen as the Lord is to raise up after me, for the accomplishing of that worke, which in the calling of my contrey into the knowledge of Christs blessed Gospell, I began."
Yn "John Penry, His Life and Writings" (William Pierce) ceir y paragraff canlynol ar dudalen 280,—
Who had the oversight of the [Marprelate] Libell at Fawslie? Iohn of Wales': who was the Corrector of the [Marprelate] Press at Coventrie? John of Wales': who wrote the last treatise of Reformation so full of slanders, but 'Iohn of Wales'."
Felly gelwid John Penry yn ei ddydd yn 'Iohn of Wales'. Dyna 'Ioannes Cambrensis' neu 'Siôn Gymro'. Onid hyn a barodd i'r Parch. John Davies ei alw ei hun yn "Siôn Gymro "?
Wele ddyfyniadau o ysgrifau Clwydwenfro ar "Yetwen a'r Teulu " yn delio â'r agwedd hon i'w waith,— "Yr oedd Castellanus fel y dywedwyd eisoes yn llenor. Oedd yn sicr, ac yn llenor o radd uchel, ac ar raddfa eang. Nid llawer o'r oes hon a ŵyr am amlder ac amrywiaeth ei gynyrchion llenyddol. Ysgrifennai yn gynnar yn ei oes weinidogaethol i'r "Pembrokeshire Magazine ". Y mae peth o'i waith i'w weled yn yr "Evangelical Magazine". Yn yr Efengylydd' am 1831, tudalen 227, gwelir ei hanes am farwolaeth dau o blant Glandŵr, ei deulu yng nghyfraith."[22] Wele gyfeiriad arall ato yn y Nodion Misol' gan olygwyr y 'Diwygiwr ',—" Bu ef yn un o gefnogwyr ffyddlon y 'Diwygiwr' o'i gychwyniad yn gyd-fyfyriwr â'i olygydd cyntaf, a gwyddom y bydd yn hyfrydwch mawr gan ei ddarllenwyr gael ar ddeall ein bod newydd dderbyn oddiwrtho bregeth ar "Berthynas Marwolaeth Crist a Maddeuant Pechod " yr hon bregeth yn bur debyg ydoedd y ddiweddaf a gyfansoddwyd ganddo."[23] Bu hefyd yn gyfrannwr achlysurol i'r 'Dysgedydd', 'Seren Gomer', Y Cronicl', Y Geninen ', etc., a'i ysgrifau bob amser yn llawn athroniaeth a gwybodaeth a doethineb. Ond yn y cymeriad o Ddadleuydd yr ysgrifennai ef yn bennaf, ac wrth gywiro ac adolygu ysgrifau a gweithiau eraill yr oedd o angenrheidrwydd yn codi dadl ar adegau, ac ni allasai dyn o'i ddysg a'i ddawn ef y pryd hwnnw gadw allan o rai dadleuon poeth iawn. O ddarllen ei ddadleuon yn deg a diragfarn, gwelwn na chafodd y gwaethaf yn un ohonynt, ond yn hytrach y trechaf. Awgrymiadol yw cyfeiriad Clwydwenfro ato fel Dadleuydd,—" Dull Socrates of ymresymu oedd dull Castellanus o ymresymu. Holai ofyniadau y naill ar y llall, nes arwain y cyfryw a holai yn raddol i'w afaelion trwy fradychu eu hunain yn anymwybodol iddynt eu hunain, nes myned i'r rhwyd, ac yna daliai hwynt. Gyrrai hwynt i gongl, ac wedi eu cael yno, gwasgai hwynt fel nad allent syflyd. Gwnai alanasdra a'i ofyniadau temtiol i dynnu dyn i'r trap, a gosodai y clapper ar ei ben yno, nes iddo waeddi ei fod yn rhoddi i fyny. Yn ei ysgrif flaenaf mewn dadl dangosai ei hun fel yn haner—amheus ac anwybodus o bethau, ac yn ceisio goleuni ar bethau. Deuai ei wrthwynebydd allan yn eofn iawn, heb wybod yn y byd pwy ydoedd, a chymerai drugaredd ar ei anwybodaeth fel y tybiai, tra wrth wneud hyny o garedigrwydd gwnai noethi ei hun yn anwyliadwrus, ac anturio yn rhy bell, ac yn hollol ddifeddwl o'r hyn oedd yn ei aros. Byddai Castellanus yn tori pwll iddo yr holl amser, ac yn ei gyfrwys guddio a dail fel heliwr anifeiliaid gwylltion yn yr anialwch. Rhuthrai ei wrthwynebydd yn mlaen yn hyf a diystyr o'r canlyniadau nes y byddai ar ei ben yn y pwll, ac yna gwaeddai allan, wedi ei niweidio a'i garcharu, na feddyliasai fod magl o'r fath i'w ddal na saethau llymion i'w glwyfo. Dyna Socrates bob tipyn."[24]
Hawdd gennym gredu bod un mor hyddysg yn yr iaith Roeg yn gyfarwydd â chynllun Socrates o ymresymu a dadlau. Bu mewn chwech o ddadleuon poeth heb sôn am ei lythyrau mân eraill yn y Wasg yn cywiro ac adolygu ysgrifau. Y tair dadl fawr oedd y rhai hyn y gyntaf â'r Parch. John James, Gellionen, gweinidog gyda'r Undodiaid, ar faes Seren Gomer' 1832 ac 1833. "Yr oedd Cymanfa'r Undodiaid" wedi ei chynnal yn Rhydyparc ger Moriah yn 1832 mae yn debyg. Dygodd y Parch. John James gyhuddiadau pwysig yn erbyn pregethwyr teithiol yr enwadau eraill a'r casglwyr cenhadol. Condemniai y naill y llall fel rhai yn gweithio am arian yn unig, ac yn gyfryw a lafurient am y tâl, ac nid o gariad at y gwaith. Anfonodd y Parch. John Davies, Glandŵr, fel y llawnododd ei enw wrth ei ysgrif, gais ato i brofi a chyfiawnhau ei sylwadau ar dudalenau Seren Gomer'. Cydsyniodd y Parch. J. James, ond buasai cystal iddo beidio. Cafodd ffrewylliad yn 'Seren Gomer' Ion. 1833 nes oedd yn gwingo. Atebodd J. James yn tudalen 100 ac awgrymu ar y diwedd na ddisgwylid iddo wneud sylwadau ychwanegol ar nodiadau y Parch. John Davies. Yn tud. 198—201 cymer y Parch. John Davies ef i fyny, a rhydd iddo ffrewylliad ddi—drugaredd, ac ni atebodd yntau air byth. Castellanus ei hun a alwodd fy sylw at y ddadl hon pan oeddem ein dau yn eistedd a siarad ar Fryn Yetwen' Awst 10ed, 1880."[25]
Ni allasem roddi crynodeb gwell o'r ddadl hon na'r dyfyniad uchod o ysgrifau Clwydwenfro.
Y nesaf o bwys oedd â'r Parch. John Jones, Llangollen, neu Ryd-y-bont y pryd hwnnw. Yr oedd John Jones wedi cyhoeddi ei esboniad "Testament yr Ysgol Sul." Adolygodd Siôn Llethi' ef yn fanwl yn y 'Diwygiwr' am Tachwedd a Rhagfyr 1843.
"Daeth J. Jones allan yn Rhagfyr tud. 368 gan guro a lluchio yn enbyd i roddi taw ar unwaith ar Shôn Llethi, heb wybod pwy oedd, a chyhoeddu llythyrau ffafriol i'r gwaith oddiwrth y Parchn. S. Roberts, Llanbrynmair, D. Davies, Panteg, W. Davies, Ph.D., Ffrwdyfal a S. Bowen, Macclesfield. Mae ail-ysgrif gan J. Jones yn Ion. 1844, tud. 17 a 49 ym mha un y golcha ar Siôn Llethi yn ddoniol a dysgedig. Dywedai hefyd yn y Wern a Phenycae, Ceredigion wrth werthu ei Destament, Mae rhyw un o'r enw Shôn Llethi yn adolygu "Testament yr Ysgol Sabbothol" yn y Diwygiwr' yn curo arno a'i feio, nid yw ei nodiadau yn werth sylwi arnynt, rhyw ddyn annysgedig ac anwybodus yw ef mae yn amlwg wrth ei eiriau.' Gwyddai rhai o gyfeillion Siôn Llethi oedd yn bresennol pwy ydoedd, a darfu iddynt wenu yn lled eglur, ond tybiodd J. Jones mai gwenu o gymeradwyaeth oeddent, ac nid am y gwyddent gwell. Ar ddiwedd ei ysgrif yn rhifyn Chwefror 1844 addawa J. Jones ysgrif arall yn rhifyn Mawrth—Y Cyhuddiadau yn erbyn Siôn Llethi'. Dywed y Gol. y byddai yn y nesaf. Tebyg ei bod yn y swyddfa ar y pryd. Os oedd ni ymddangosodd byth nac un ysgrif arall oddiwrth J. Jones gynt o Llangollen at Shôn Llethi'. Cafodd hynt pwy oedd Shôn, a galwodd ei ysgrif yn ôl. Côf gennyf glywed J. Jones yn pregethu yn Glandŵr rai blynyddau wedi y ddadl hon, eisteddai Castellanus dan y pulpud ar nos Sul. Dywedodd J. Jones wrth ddechrau pregethu,— Rhaid i mi fod yn ofalus beth ddywedaf yma heno, mae fy meistr dan y pulpud. Efe yw'r unig un erioed a'm gorchfygodd mewn dadl, ac nid oes arnaf gywilydd cydnabod hyny.' Clywais Castellanus yn siarad yn barchus iawn am dalentau J. Jones pan eisteddai ar 'Fryn Yetwen' yr adeg uchod, a dywedai fod llawer iawn o eiddigedd gweinidogion wrth wraidd y driniaeth. a dderbyniodd, er nad oedd J. Jones heb ei ffaeleddau. Dywedodd wrthyf i fab Jones, yr hwn a ddychwelodd o'r Amerig wedi marw ei dad roddi cofion caredig ci dad iddo, a'r unig un yr anfonodd J. Jones ei gofion diweddaf iddo o weinidogion Cymru."[26]
Yr ydym wedi dyfynnu o ysgrif Clwydwenfro ynglŷn â'r ddadl hon ar gyfrif ei bod yn cynnwys rhai ffeithiau diddorol ynglŷn a'r ddau ddadleuwr, ac yn ei thalfyrru, gan arbed inni'r baich o'i dilyn gymal a chymal yn y Wasg.
Ond y ddadl boethaf a hwyaf o'r dadleuon i gyd oedd honno â J.R. ar Bregethu Dychmygion".
Ymddangosodd y ddadl hon yn y Dysgedydd Chwefror, Ebrill, Tachwedd 1850, a Ionor, Mai a Thachwedd 1851. Achlysurwyd y ddadl yn ddiau gan ddull J.R. o bregethu. Fel hyn y dywedir yng Nghofiant y Tri Brawd' gan Dr. E. Pan Jones wrth gyfeirio at ddadl J.R. â Siôn Gymro,—" Yr oedd J.R. ar ddechreu ei weinidogaeth yn boblogaidd anarferol. Nid poblogrwydd taranau a mellt, rhaiadrau a chreigiau, dyfnderoedd ac uchelderau, eithr poblogrwydd arbennig nad oedd i neb arall ran na chyfran ynddo—poblogrwydd blodau a gemau, goleuni a pheraroglau, parai i flodau dyfu gylch eich traed ar ganol llwybrau disathr yr anialwch, a thorai flwch o nard ar eich pen yn mhob oedfa heb yn wybod i chwi. Cyn bod o hono yn hir ar y maes daeth llawer allan i geisio efelychu ei arddull ond yn anffodus byddai rhai o honynt mor anghelfydd a dichwaeth fel y teimlid fod y dull hwn o bregethu yn bygwth tynu y swydd yn destyn gwawd, a' bernid gan lawer, yn neillduol y rhai a ystyrid yn dduwinyddion dysgedig ei bod yn bryd gosod terfyn arno. Syrthiodd y coelbren i wneud hyny ar 'Siôn Gymro'. Yr oedd efe yn ŵr o ddysg, yn fedrus i hollti geiriau, ac i chwilio allan eu hystyron o ieithoedd y cynfyd, a medrai rodio llwybrau eu cystrawen, y rhai na welodd llygad barcud erioed. Yn ei ysgrif gyntaf yn y ' Dysgedydd', Chwef. 1850 dywed mai yr hyn a olygai wrth ddychmygion oedd arfer brawddegau fel y rhai canlynol,—
1. "Y byddai yn well gan Dduw godi' mortgage ar yr haul na cholli pechadur."
2. Gosod Duw yn Bankrupt Corner Gazette Prydain."
3. Fod cloc uffern yn sefyll ddeuddeg o'r gloch."
4. "Fod Cyfiawnder Crist wedi cael ei fesur am dridiau a thair nos, ac wedi ei gael yn ddigon cyn ei ollwng o'r bedd."
13. "Galw saint ac angylion yn adar gwynion paradwys."
Gafaelodd J.R. yn y dychmygion hyn yn ei atebiad a dangosodd mewn modd hapus a meistrolgar mor llawn yw'r Beibl o farddoniaeth gan roddi rhesymau dros ddefnyddio cymariaethau barddonol. Wele rai o'i atebion wedi eu rhifnodi:—(1) "Dywed Duw, "Mi a'th hoffais, am hynny rhoddaf ddynion am danat." Dywed drachefn, "Trodd fy nghalon ynof." Nid yw y fath ddywediadau yn wirionedd mewn athroniaeth na duwinyddiaeth, ond y maent yn farddoniaeth. (2) Wrth sôn am dalu dyledion addoldai, dywedodd un y byddai enw yr Arglwydd yn 'Bankrupt Corner Gazette Prydain' os na thelid am y capel. Dywedodd Iesu,— "Bum yn ngharchar." (3) Meddylrych o waith Young yw cloc yn sefyll yn uffern ganol nos. (4) Un o gymhariaethau Christmas Evans oedd fod Cyfiawnder Crist yn cael ei fesur, ond ei bod wedi ei llurgynio gan ddwylaw anghelfydd fel nad oedd neb yn ei nabod. (5) Williams o'r Wern ddywedodd fod byllt digofaint Duw yn aros arno ef."[27] Dyna ddigon o enghreifftiau o'r modd deheuig a meistrolgar yr ymgymerai J.R. o'r ochor arall ag ateb cwynion 'Siôn Gymro', y rhai a braw ei fod wedi manwl astudio barddoniaeth y Beibl, a bod y cyfan ar ben ei fysedd, a'i fod hefyd yn fedrus dros ben i'w defnyddio.
Defnyddiodd Siôn Gymro rai o'r ymadroddion mwyaf gwawdus a ysgrifennodd erioed yn y ddadl hon. Cyhoeddodd yn ei atebiad ryw fath o 'Holwyddoreg' ddychmygol i wawdio'r syniadau barddonol hyn. Dywedai J.R., fel y sylwasom eisoes, y byddai y saint yn adar gwynion yn mharadwys ", a chawn 'Siôn Gymro' yn gwawdio'r ymadrodd mewn ffurf o emyn i'w ddefnyddio mewn cyfeillach grefyddol, neu ar yr aelwyd. Wele'r pennill,—
"Yn dderyn gwyn, yn dderyn brâf,
Fe'm gwneir yn wyn fel 'deryn haf.
Heb arnaf bluen ddu.
Yn pyncio fry yn nghanghau'r coed,
A'm haden dlos yn cuddio'm troed
Wel, dyma dderyn cu."
Wele enghraifft fyw arall o wawdiaith 'Siôn Gymro —y peth mwyaf deifiol a sgrifennodd yn ddiau yn y ddadl,—
"Yr oedd un o Ymerawdwyr Rhufain gan ei ddiffyg synwyr a'i falchder yn rhoi i'w geffyl geirch wedi eu goreuro. Gwaeth yw rhoi i ddyn us wedi ei oreuro. Pa faint bynnag o niwaid a wnaethai yr aur i gylla yr anifail, yr oedd y ceirch yn dda. Ond am ddyn crefyddol a orfodir i fyw ar ddychmygion ei weinidog ni cha efe ond us ac aur, ca ei dwyllo a'i newynu, a'i niweidio ar yr un waith."[28]
Parhaodd y ddadl o fis i fis am yn agos i ddwy flynedd, hyd nes y teimlodd cyfeillion y ddau ddadleuwr ei bod yn bryd ei thynnu i ben. Clowyd y ddadl i fyny gan J. Griffiths, Tyddewi, yr hwn oedd gyfaill calon i'r dadleuwyr.
Dywed Dr. Pan Jones yn ei arwr—addoliaeth o J.R. ei bod yn amlwg mai efe oedd y trechaf o'r ddau, ond dywed Clwydwenfro o dan yr un teimlad tuag at Siôn Gymro' mai efe oedd y trechaf, er bod J.R. yn gweiddi Buddugoliaeth'.
Wrth adolygu'r ddadl heddiw gwelwn ddarfod ei dwyn ymlaen gan ddau o feddyliau mwyaf eu cyfnod, ac nad oedd fawr o wahaniaeth rhyngddynt, ond na fuont yn ddigon gofalus i egluro ystyr geiriau wrth gychwyn. Yr oedd J.R. lawn mor ofalus â Siôn Gymro' am chwaeth dda, goeth ac aruchel, ond bod yr olaf yn condemnio pethau dichwaeth, a J.R. yn canmol pethau barddonol a barddoniaeth fel cyfrwng i wisgo ac i gyfleu gwirionedd.
Bu dadl rhyngddo ac un a'i galwai ei hun yn "Amddiffynwr" yn y 'Diwygiwr' Awst 1844 hefyd, ac achlysur y ddadl honno oedd ysgrif gan John Davies ar Ysgrif Capelydd yr Ymneillduwyr yn amlygu ei foddhad fod y mesur wedi pasio ei drydydd darlleniad yn Nhy'r Cyffredin, a hefyd yn beio Golygydd yr Evangelical Magazine', Cymanfa Sir Gaerfyrddin, a'r Diwygiwr' am siarad a chefnogi deisebu yn erbyn y Mesur. Wedi i "Amddiffynwr" ddod allan yn ei ysgrif gyntaf, gan alw ysgrif John Davies yn ysgrif Sosinaidd, caeodd y Golygydd y ddadl i fyny cyn i'r olaf gael cyfle i ateb. Bu hefyd ysgarmes fach rhyngddo a rhai o 'Ysgrifenyddion yr Undeb Cynulleidfaol Cymreig mewn canlyniad i lythyr byr o'i eiddo a ymddangosodd yn y Tyst a'r Dydd' Hyd. 15ed, 1875. Tynnodd y llythyr hwn lawer o sylw, cyneuodd dipyn o dân a dugodd allan luaws o atebion yn yr un papur am wythnosau dilynol, ac un atebiad yn y Dysgedydd."[29] Pe cesglid ei holl ysgrifau yng nghylchgronau ei gyfnod, gan gynnwys ei ddadleuon, gwnaent gasgliad da a chyfoethog iawn, ac un amcan mawr yn eu nodweddu i gyd, sef cyfrannu gwybodaeth, goleuo'r werin, amddiffyn tegwch a rhyddid, a dod i feddiant o'r gwirionedd.
PENNOD VII
Y BARDD
EI FARDDONIAETH yw'r agwedd nesaf ar ei waith. Mae'n eglur i John Davies fod yn ymwneud â phrydyddiaeth yn ieuanc iawn. Dywed eiriau fel hyn am y cyfnod hwn,—
Meddyliais unwaith fod gennyf ddawn i brydyddu. Troais rhai o dudalennau o 'Fyfyrdodau Hervey mewn mynwent' i brydyddiaeth anghynghaneddol (blank verse). Cyfansoddais rai penillion pan yn ieuanc iawn, ond nid oedd fawr o lun arnynt, ac nid gormod hoffter sydd gennyf i edrych arnynt yn bresennol. Cyfansoddais amryw o rannau bychain o 1819-1822, rhai yn Gymraeg, a rhai yn Saesneg. Nid wyf yn meddwl fod niwed yng ngwaith dyn yn gosod allan ei feddwl mewn geiriau fyddo wedi eu mesur, mwy na phe buasai yn eu gosod allan mewn iaith rydd. Nid yn hynny mae niwed o ddarllen llawer o brydyddiaeth, ond yn y pethau eu hunain. Yn aml defnyddir Prydyddiaeth i ddisgrifio pethau nad ydynt i'w cael, i osod allan lliwiau têg ar y gwrthrychau atgasaf i osod dedwyddwch enaid mewn pethau a'i cadwant byth yn newynog. Pe defnyddid prydyddiaeth yn iawn, y mae'n llawforwyn o'r tecaf i grefydd, ond pan gamddefnyddir hi nid oes efallai elyn gwaethach iddi. Y mae y rhan fwyaf o'r Hen Destament yn brydyddiaeth, a phe buasai gosod allan feddwl Duw ar gân yn bechadurus, ni chanfyddesid o hynny yno. Ond O'r gwahaniaeth rhwng Salmau Dafydd â chaniadau Dryden, rhwng drych— feddyliau gogoneddus y Sanctaidd Esaiah â gorcuon y rhan fwyaf o weithiau Pope ac eraill. Ie, y mae gogoniant gwaith Homer, Virgil a Milton yn diflannu yn y Sancteiddrwydd dysglaer sydd hyd yn oed yn y bennod gyntaf o Genesis."[30]
Gwybyddus i lawer erbyn hyn yw fod ei gyfrol o farddoniaeth a alwai yn 'Flores Poetici' yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac wrth fwrw golwg drosti gwelwn ei bod wedi ei hysgrifennu yn llawysgrif yr awdur ei hun, ac yn dwyn nodyn fel hyn,—
Original MSS of the Author, given to National Library of Wales by Mr. J. Davies Jones, Beulah, Cards. July 1933."
Yn ychwanegol at Flores Poetici' y mae'r un cymwynaswr wedi rhoddi nod-lyfr (note-book) o eiddo John Davies i'r Llyfrgell sydd yn cynnwys darnau o farddoniaeth, ac yn dwyn y dyddiad Ebrill 24ain, 1821. Nid yw'r llyfryn hwn yn cynnwys mwy na 17 o ddarnau bychain, ac eglur oddiwrth y dyddiad (1821) mai perthyn i dymor olaf yr ysgol yn Neuaddlwyd a dechrau ei dymor yn y Coleg yn y Drefnewydd yw'r mwyafrif ohonynt. Y mae'r teitlau sydd i'r caneuon yn ategu'r dyddiad, megis,—
- (1) Meditations (in English).
- (3) Boreu Haf.
- (5) Scraps of Hebrew writing.

CAPEL NEUADDLWYD
- (6) I lwyn Dreinen wen ar lan Hafren, dan yr hwn yr eisteddem yn aml.
- (7) Sonnet to a Mantelpiece.
Dwg y darnau hyn nodau gwaith y prentis yn dechrau ymwneud â'r awen. Nid oes dim newydd-deb na thlysni ynddynt fel barddoniaeth, a thebyg na fwriadodd yr awdur erioed iddynt weled golau dydd, ond ei fod fel efrydydd gofalus yn cadw'i gynhyrchion cynnar mewn copi.
Wrth fyned dros ei lyfr Flores Poetici' gwelwn ei fod yn cynnwys tua 254 o ganeuon ac emynau a chyfieithiadau, a hynny ar amrywiol destunau.
Yn wir, amrywiaeth ei destunau, ac eangder ei ddiddordeb yw nodwedd amlycaf ei waith barddonol. Synnir ni gan hynny yn fwy nag y gogleisir ni gan ddim yn y cynyrchion. Dengys rhai o'i destunau ei feistrolaeth gynnar ar y clasuron, megis:—
- (1) Cyfieithiad o 'Lux Candida'.
- (2) Adrian wrth farw—i'w enaid (Cyf.).
- (3) Hymn St. Bernard ar enw yr Iesu (Cyf.).
- (31) Caneuon Horace, Llyfr 3, Awdl 13 (Cyf.).
- (36) Horace, Llyfr 4, Awdl 7 (Cyf.).
Dengys rhai o'r penawdau eraill iddynt gael eu cyfansoddi pan oedd yn y coleg, megis, (3) Pennill i ffordd gul ger Drefnewydd, (64) Wrth aros ar lan Hafren, (57) Wedi dod adref o'r Berriew.
Y mae nifer fawr o'r Caneuon ar bethau syml a chyffredin, os nad yn ddibwys, rai o honynt, megis (54) Oerfel y Boreu, (78) Gwely Dieithr, (84) Wrth weld y tân bron diffoddi, (85) Pan yn eistedd yn unig dan y goeden, (157) A child at a wasp's nest.
Dengys caneuon eraill ddarfod eu cyfansoddi pan oedd yr awdur yn y weinidogaeth, megis—
- (66) Ar lan y Tâf.
- (73) Claddwyd fi pan yn Llwynteg.
- (74) To Mr. John Williams, Llwyndu.
- (212) Lladrad yr Allweddau, etc.
Er dywedyd ohonom eisoes nad oes fawr ddim yn ein taro yn ei farddoniaeth (ac eithrio ambell gyfieithiad) yn fwy na dysg a diddordeb eang wedi eu gosod ar gân, eto rhydd i ni ambell gyffyrddiad tyner a thlws. Wele un o honynt yn nyddiau'r Coleg i afon Hafren,—
"Hafren, Hafren, afon mawredd,
Afon nerth a dŵr gogonedd,
Ar dy lan rhoer i mi gennad,
I fyfyrio a syllu arnad.
Pan y cyfyd Haul y borau,
Pan fachluda y prydnawnau
Ar dy lan gad i mi rodio,
A neb yn meiddio fy ngofidio.
Yn dy glir don pan symudi,
Ca' fy ngwedd ei hadlewyrchu,
Llwyd a gwan edrychaf arnad,
Er at bob dyn heb ddrwg fwriad.
Wele emyn o'i eiddo,——"Am gael mynd at Iesu."
Fry, fry mae'r Iesu'r ffyddlon frawd yn byw,
Fy rhan, fy Mhrynwr hefyd yw,
Bryd gwawria'r dydd 'r af atto Ef,
I orffwys yn Ei fynwes gu,
A moli fry ynghanol nef.
Wele emyn arall,—" Am siriol wyneb Duw."
Duw, dyro i'm dy siriol wedd,
Tra byddwyf 'r ochr hyn i'r bedd,
Rho nerth bob awr o'r dydd a'r nos,
I lynu wrth Grist a'i waedlyd groes.
Tyn fi fy Nuw, greadur ffôl
Ac wedi'n rhedaf ar dy ôl,
A dof i'th foli'n iach fy ngwedd,
Pan yr agorir pyrth y bedd.
Onid yw llinellau fel,—
"Ac wedi'n rhedaf ar dy ol" a
"Pan yr agorir pyrth y bedd"
yn fwy o adlais o emynau oedd ar gof nag ydynt o unrhyw ddawn emynyddol arbennig a gyfleir ganddynt?
Wele gyfieithiad o'i eiddo o'r Lladin yn 1824, sef dyddiau'r Coleg eto, ar y testun Rhufain',—
"Lle nawr y gwelir Rhufain ben y byd,
Glaswellt a choed oedd gynt yn tyfu 'nghyd,
Ac ychydig ddeadellau yn pori yn ddifraw
Ac ambell fwth yn mygu yma a thraw."
Gwell ydyw yn ei gyfieithiadau nag yn ei ddarnau gwreiddiol, am fod yr ysgolor o dan yr un iau â'r bardd, ac yn ei ddiogelu rhag cyffredinedd.
"Beneath this sod one brother and two sisters lie,
Pause, visitant as thou by chance com'st by,
In innocence the three were bound by death,
And calmly to his power resigned their breath
The three one day shall be released from clay,
And praise their God in never ending day."
Wele un pennill o dri i'w Feddrod ef ei hun o dan y penawd "Fy Meddrod",
Pan bwy'n gorwedd yn y ceufedd,
Mewn tangnefedd bydd fy mhen,
Wedi anghofio fy helbulon,
Trymion gefais is y Nen.
Agor i'm gobennydd priddlyd,
Yn y gweryd rhowch yn hy,
Rosyn mwyn di-gochion ddeilion,
Gerllaw'm gruddiau llwydion i."
Wele bennill ar "Wylo trosof a'm Claddu ",—
"Nid llawer hoffwn wylo trosof yn y byd,
Nid llawer hoffwn fod i'm claddu 'nghyd,
Rhyw un neu ddau fo'n debyg i'm fy hun,
Yn teimlo'n ddwys beth bynnag deimla dyn."
Dywedwn eto mai prin y buasem yn barod i gydnabod John Davies yn fardd o addewid nac o fri. Nid oedd ganddo awen hedegog, na'r cyffyrddiad tlws a thelynegol. Yr oedd yn ormod o athronydd a dadansoddwr a dyn ffeithiau i fod yn awenyddol iawn, er y gall yr athronydd a'r bardd gwrdd yn yr un dyn. Tuedd John Davies oedd mynd i ddiwinydda a thynnu moeswersi wrth farddoni, ac felly yn methu bod yn ogleisiol yn ei gân. Eto yr oedd yr awen yno, a'r cyffyrddiad yn un tyner mewn ambell linell, a glendid a choethder yn ddieithriad yn nodweddu'r gwaith.
Cyfansoddodd gân adnabyddus i 'Afonig Llethi' chyhoeddodd hi'n llyfryn bach hylaw yn 1868 yng Nghastell-newydd Emlyn. Nodweddir y gân gan ddysg a synnwyr a doethineb eto yn fwy na chan dlysni a cheinder, a gofalodd ddweud yn ei Ragair i'r gân mai ei amcan wrth ei chyfansoddi oedd rhoddi mynegiant i rai o hen draddodiadau y fro, a'r hyn a glywodd, ac a welodd, a'i fod wedi dewis canu fel hyn am y gallai hynny ennyn mwy o ddiddordeb yr ifanc na rhyddiaith noeth. Ac yn wir y mae sylwadau achlysurol John Davies ar waelod y ddalen yn fwy diddorol o lawer na'r gân ei hun. Dengys y nodiadau hyn ddysg eang, a chyfarwydd-deb â'r clasuron, a thebygrwydd y traddodiadau mewn mwy nag un wlad, a mwy nag un genedl. Weithiau fe ddaw gwreiddioldeb yr awdur i'r golwg, a'i hiwmor.
Diddorol ac addysgiadol odiaeth yw ei sylwadau ar waelod y ddalen ar Llethi, y Tylwyth Teg, Derwyddon, Rhegi, Ffeiriau, Dyllhuan, Barcud, Llanarth, Plas y Wern, a llawer o bethau eraill a bair i'r gân ymgolli ym mwyngloddiau dysg yr awdur. Eto y mae rhai cyffyrddiadau tlws yma a thraw drwy y gân. Wele enghreifftiau,—
"Ni chlywais i ti Llethi fod,
Erioed yn destun cân,
Na feied neb am i mi wneud,
Yr hyn na wnaed o'r blaen.
Ble mae dy ddechrau Llethi hen,
A dechreu sydd i ti,
'Does dim heb ddechreu iddo'n bod,
Ond Duw dy ffrydiau di.
Ai wrth y Bannau Duon' draw,
Lle trig y Tylwyth Teg,
Gan chwareu'n lluoedd ar bob llaw,
Mewn dawns mor iach a chwêg.
Paham mae gan ysbrydion pur,
Fath hoffder yn y ffrwd,
'Does fan a garant yn y byd,
Fel afon gain ddirwd."
Wele ddau bennill eto,—
"Blin gweld y brithyll dan y dŵr,
Yn farw ar ei hyd,
A'i gefn i'r llaid a'i lygad clir,
Yng nghauad ar y byd.
Nid hardd fait ti, er hardded wyt,
Heb gwmni'r brithyll llon,
Ond tybio 'rwyf ei fod e'n nawr,,
Yn chwareu yn dy don."
Wele dri arall,—
"I'm cof daw'r dolau ar dy lan,
Dwy ddolau arnat sydd,
Gan gysgod tewfrig coed cha un
Ond 'chydig wres y dydd.
Tra'r praidd yn gorphwys wres y dydd,
Ar lan dy ddyfroedd iach,
Rhoi'st i ni fywiog rwydd fwynhad
O bleser dymhor bach.
Pa faint difyrwch amser gynt,
Fu i mi ar dy lan,
Yr ochr hyn, a'r ochr hwnt
'Roedd mwyniant ymhob man."
Gwyddom nad fel Bardd y cofir am John Davies yn bennaf, a diffygiol iawn yw ei farddoniaeth, yn ôl safonau heddiw, yn arbennig, eto yr oedd ganddo lygad i weld Natur, calon i'w theimlo ac Anian i gydfyned â hi, a dyledus ydym iddo am ei ganeuon fel cyfryngau dysg a doethineb yn wyneb pob llesgedd a berthynai i'w awen, a phob cyffyrddiad trwsgwl a berthyn i'w farddoniaeth.
PENNOD VIII
PREGETHWR A GWEINIDOG
YN ddiweddaf oll, ac yn bennaf oll, ceisiwn sylwi arno fel PREGETHWR A GWEINIDOG DA I IESU GRIST. Prin y cyfrifid John Davies yn bregethwr hwylus a dawnus gan gynulleidfaoedd ei gyfnod, ond yn hytrach yn sychlyd, ac yn anniddorol i'r lliaws, a hynny oherwydd ei fod yn fwy o bregethwr i'r pen a'r deall nag i'r galon a'r teimlad. Fe ddywedir i rywrai ei glywed ar rai achlysuron yn canu'n dda, ac yn tiwnio'n hwylus. Hawdd gennym gredu hyn, pan gofiwn ei fod yn bur hyddysg mewn Cerddoriaeth, a'i fod yn arfer canu'r 'German flute' ar lannau Hafren. Er hynny goleuo, a dysgu ac adeiladu oedd ei brif nodwedd fel Pregethwr. Pregethai'n rhyfeddol o fyr ar ddechrau ei weinidogaeth. Mae stori am dano ar ei ffordd i bregethu yn Llwyn-yr-hwrdd un bore Saboth. Marchogai ar gefn ei anifail gan gychwyn yn gynnar, a galw ar rywrai ar y ffordd. Pasiodd hen wraig ar bont Llanfyrnach, a chyfarchodd hi gan ofyn iddi ble'r oedd hi'n mynd. "I Lwyn-yr- hwrdd," atebai'r hen wraig.
"Mae'n rhy gynnar i'r oedfa," meddai Mr. Davies. "O! Mr. Davies Glandŵr sydd gyda ni y bore yma, ac mae ef yn dibennu gyda'i fod yn dechrau."
Hawdd gennym gredu ei fod yn fyr ar adegau, gan ei fod yn nithio mor fanwl, a byth yn ymroddi i glebran, a bod yn y pulpud yn fath o rod y felin, y sydd yn mynd gyflymaf pan na bo dim yn cael ei falu.
Ni welir ei ddoethineb a'i fedr yn well nag yn ei bregethau angladd. Tarawai ar y testun priodol bob tro a phregethai i bwrpas ar bob achlysur. Gwasanaethai un tro yn angladd James Humphreys, hen ysgol- feistr Glandŵr, a chymerth yn destun ar yr achlysur y geiriau canlynol—" Yn athraw i'r anghall, ac yn ddysgawdwr i'r rhai bach" (Rhuf. ii: 20). Pregethai ar achlysur arall yn angladd hen chwaer fud o'i mebyd a adweinid yn y gymdogaeth wrth yr enw Hannah, yr hon a fu'n nodedig o ffyddlon i'r moddion cyhoeddus, a phan agorodd ei Feibl ar ddiwrnod ei hangladd, darllenodd yn destun y geiriau tarawiadol,—" Ac y cân tafod y mudan " (Esaia xxxv: 6).
Nodwedd arall amlwg ynddo fel Pregethwr oedd ei weddïau cyhoeddus. Nid anghofiwyd gan y rhai a oedd yn bresennol yn Undeb Dinbych, 1881, am ei weddi agoriadol i un o'r cyfarfodydd, pan gyfeiriodd at y mellt a'r taranau a fu'n gwau drwy'r adeilad y noson flaenorol, a'u gwaredigaeth hwythau a oedd yno. "Ond heddiw," meddai, "dymunwn dân o natur arall, ac o le uwch i'n cynhesu a'n goleuo ". Tystiolaeth ddiymwad y rhai a'i cofiai oedd fod yn perthyn i'w weddïau ffresni a dwyster a difrifwch. Yr oedd cryn alw arno i bregethu gyda'r Saeson, a gwnai hynny'n fynych, yn enwedig yn rhannau isaf Sir Benfro. Gelwid arno'n aml i lywyddu Cynadleddau ei gyfundeb ei hun, a Chymanfaoedd Tair Sir, a gwyliau tebyg, a thraethai bob amser eiriau pwrpasol o'r gadair, gan fod yn gywir ei gyngor, a diogel ei arweiniad.
Yr oedd iddo safle anrhydeddus yn ei Enwad. Llanwai le pwysig yn ein colegau, fel y sylwasom eisoes, a bu yn Gadeirydd yr Undeb yn 1873, yng Nghaernarfon, pryd y traddododd o'r gadair ei anerchiad ar "Iesu Grist yn pregethu yn esiampl i bregethwyr eraill", a phan gofiwn ni mai Hiraethog oedd Cadeirydd cyntaf yr Undeb, a 'Satan' yn destun ei anerchiad o'r gadair, gwelwn ystyr i ymffrost pobl Moreia pan dystient fod gwell testun gan eu gweinidog hwy o lawer na chan Hiraethog.
Cafodd ei Jiwbili ym Moreia yn 1877, ac efe yn 73 oed, pryd yr anrhegwyd ef gan ei eglwys, a chan ei Gyfundeb. Fel hyn yr ysgrifenna'r Parch. Simon Evans, Hebron am y rhoddion,—"Cafodd yn anrheg gan eglwys Moriah Feibl chwe—ieithiog, ac ar ôl hyny, ar adeg ei Jiwbili cafodd y Speaker's Commentary yn rhodd oddiwrth Gyfundeb Penfro' a rhyw £120 yn arian.[31] A phwy a warafun hyn o gydnabyddiaeth ac o glod i hen weithiwr da na fu ei gyflog erioed dros £60 y flwyddyn? Pwy ond y gweithiwr cydwybodol a fuasai yn dod yn ffyddlon fel efe i 'gwrdd plant' ym Moreia yn 72 oed, a phwy ond yr ieuanc ei ysbryd a fuasai yn ymyl ei 80 oed yn ymfalchio wrth ei gyfaill Clwydwenfro mewn llythyr ei fod wedi cael holl weithiau Plato yn anrheg, ac mor falch ohonynt â phlentyn o'i deganau. Cawn ef yn anturio codi capel newydd ym Moreia yn ymyl ei 80 oed ac er na chafodd weled y gwaith wedi ei orffen, gwnaeth y caledwaith i gyd ynglŷn â'r anturiaeth a gwelodd yr adeilad newydd o dan ei do. Yn flaenorol i hyn yr oedd wedi sefydlu'r eglwys yn 1830,—wedi adeiladu addoldy newydd yng Nghefn-y-pant, (er na ffurfiodd eglwys yno), ac ail-adeiladodd addoldy Glandŵr yn 1836. Awyddai yn ei flynyddoedd olaf fyw yn nes i Moreia, a daeth lle bychan o'r enw Iet-y-garn ar werth. Talodd £300 am dano, ac wedi atgyweirio'r tŷ, preswyliodd yno am tua dwy flynedd.
Ysgrifennai at ei gyfaill Clwydwenfro ryw bythefnos cyn marw gan ddefnyddio brawddeg fel hyn am ei anhwylder" I am dying daily ", ac ar fore Mercher, Rhag. 10fed, 1884, aeth allan i'r ardd, a heb boen na loes syrthiodd yn y fan honno'n farw, ac ehedodd ei enaid mawr a glân at Dduw, Tad yr Ysbrydoedd.
Dodwyd ei gorff mewn bedd newydd, dyfrllyd yn ymyl ei fab a'i ferch, ym mynwent Moriah, Rhag— 16eg, 1884, pan oedd lliaws yn bresennol. Gwelsom yno W. R. H. Powell, A.S.; E. H. James, Y.H.; Offeiriaid Llanwnio, Llanfyrnach a Llanboidy, Davies Cwmfelin a thua 20 o weinidogion yr Annibynwyr, amryw o ba rai a fuant yn darllen, gweddio a siarad dan arolygiaeth Mr. Daniel Evans, pregethwr cynorthwyol ym Moriah."[32]
Cywir y sylwodd yr Athro D. E. Jones, M.A., Caerfyrddin, yn ei angladd ei fod yn ddyn anghyffredin. Syml a didwyll ydoedd o ran ei ymarweddiad. Gwisgai'n syml, a bwytâi'n syml, yr hyn a gyfrifai am ei iechyd da drwy ei oes, a'i fod yn 74 oed yn torri cnau â'i ddannedd ei hun. Syml a Chymreig oedd ei aneddau bob un,— Bwlch-yr-helygen, Castell-y-geifr, Llwynteg, Penrallt, Ietwen a Iet-y-garn.
Syml oedd ei enw llên— Siôn Gymro', a syml o fawr oedd mewn carictor a moes. Dyn ar y blaen i'w oes ydoedd, ac fel pob dyn felly, yr oedd yn agored i gael ei gamesbonio'n fynych. Dyn mawrfrydig ydoedd hefyd, ac yn tueddu i ymddangos yn oer a di-serch i rywrai, ond yr oedd felly am ei fod yn byw mewn cylch o feddwl na allasai llawer ddim dyfod i mewn iddo. Dyn o serchiadau dwfn ydoedd er hynny, ac yn medru wylo gyda'r rhai oedd yn wylo, a bod yn llawen gyda'r rhai oedd yn llawen, ac yn ôl tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai orau, yr oedd yn ddihafal fel cysurwr i'r cystuddiol a'r galarus. Cadwodd yn ifanc ac yn loyw mewn gwaith hyd y diwedd, ac aruthrol ydoedd hwnnw o ran maint ac ansawdd, a gadawodd ar ei ôl etifeddiaeth y daw ei gwerth a'i chyfoeth yn amlycach eto, fel y bydd efrydwyr y dyfodol yn cerdded ei meysydd, ac yn tynnu allan o'i mwyngloddiau bethau newydd a hen. Ar ddyfod y mae dydd John Davies yng Nghymru, a gwelodd rhywrai o'r dysgedicaf yn ei gyfnod yr awr honno'n dyfod gyda llawenydd, megis Abraham gynt. Y mae ei gyfraniad yn ddiau yn fawr ac yn disgwyl am i wrtaith y dyddiau diweddaf hyn ei gosod yn ei ffrâm fodern, ac mewn cylchrediad mwy ymarferol. Gwir i'r Athro D. E. Jones, Caerfyrddin, ddywedyd am dano mai dyn anghyffredin ydoedd, ie, anghyffredin yn ei lafur mawr os nad anhygoel ymron, fel gŵr medrus yn y clasuron, fel ysgolhaig dwyreiniol ac ieithydd campus, fel llenor a bardd coeth, ac ysgolor Beiblaidd o'r radd flaenaf. "Fy Nhad, fy Nhad, cerbyd Israel a'i farchogion" oedd y proffwyd hwn i'w gyfnod, a disgynned deuparth o'i ysbryd ar Gymru fydd.
ATODIAD I
(1) LLETHI BACH: Hwn ydoedd y ffugenw a arferai John G. Davies pan fyddai'n ysgrifennu i'r cylchgronau. Cawn ymhlith y Cofnodion Bywgraffyddol yn y 'Beirniad' Ion. 1864 y ffeithiau diddorol a ganlyn,—
Cyfarfyddodd a'i angau mewn modd disymwth trwy syrthio oddiar hwylbren llong Hibernia', pan ar ei thaith o Llynlleifiad i New Brunswick. Cymerodd hyn le am hanner awr wedi pump y prydnawn, y 14 o Fawrth 1861 . . .
"Trodd ei sylw yn gyntaf at yr Hebraeg. Yna trodd ei feddwl at y Ffrancaeg, yr Ellmynaeg a'r Italaeg, nid yr un pryd, ond y naill ar ôl y llall . . . "Cawn ef ar yr 11eg o Fawrth 1860 yn Copenhagen yn myfyrio ar Salm cxxxvii,— Wrth afonydd Babilon yr eisteddasom,' etc., ac yn ei throi ar gân gan ysgrifennu yn Italaeg ar y diwedd y lle, y flwyddyn, y dydd o'r mis, a'r dydd o'r wythnos, ac yn dilyn hyny weddi fer Duw a'm bendithio i a'm hanwylaf Dad"."
Rhoddwn yma destunau rhai o'i gynyrchion barddonol,—Y Pagan Pell', Y Meseia', The Grave' (Saesneg), Pontius Pilat', etc.
Wele gyfieithiad o'i eiddo o'r Eidaleg fel enghraifft o'i waith,—
IL CORDOGLIO DI PETRARCA (Guylofain Petrarc).
Os cwynfan adar, neu os sigla gwyrdd
Ganghenau'n syfliad yr awelon fyrdd,
Os clywir murmur y risialog don,
Rhwng glenydd prydferth,—oll yn brudd eu bron,
Draw'n nhrigle cariad gwelaf, cerfiaf hi
'R hon ddengys Nef, 'r hon guddia'n daiar ni.
Deallaf, gwelaf, teimlaf,—O mor wiw,
Ei bod hi eto'n ddedwydd iawn yn byw.
O'r pellder maith, atebion mwynion rydd
Yn awr, i'm hamryw ofyniadau prudd,
Paham y dywed mewn tosturiol gri,
Cyn diwedd bywyd diffyth ganwyll di:
Paham yn wir, o'r llygaid trist yn awr
Tywelltir heilltion ddagrau'n ffrydiau mawr?
Am danaf fi na wna alaru dim,
Er cael o'm dyddiau 'u tori'n fyrion i'm
Ac os wrth huno 'm llygaid gauwyd mwy
Mewn gwawl tragwyddol fe'u hagorwyd hwy."
(2) STORI'R ALLWEDDAU: O dan y pennawd 'Y Rhyfel yn Glandŵr ceir yr hanes hwn, er yn anghyflawn, yn yr Haul am Awst 1864, gyda chân o un ar ddeg o benillion gan un G. Ap Gwilym, Aberdâr. Awgrymir bod y digwyddiad yn destun ymddiddan rhwng bugeiliaid Epynt. Ai cywir hynny ai peidio, y mae gwaith yr Haul yn codi'r peth i fyny yn ddigon o brawf na ellid gadael y digwyddiad heb sylw dyladwy iddo.
ATODIAD II
THE JOHN DAVIES YETWEN MANUSCRIPTS
IN THE NATIONAL LIBRARY OF WALES, ABERYSTWYTH.
[All donated by Mr. J. Davies Jones, Beulah, Cards., in July 1933.]
| Ms No | Date | |
| 1.— | Translation of the New Testament from Greek into Welsh about | about 1830—40 |
| 2.— | Horae Petrinae: lectures on the epistles of St. Peter | 1829-30 |
| 3.— | An exposition of Llyfr Coheleth | 1832 |
| 4.— | Volume of poetry "Flores Poetici" | 1822 |
| 5.— | Copy of the above and some compositions of John Lloyd James.. | 1822 |
| 6.— | Commentary on the Book of the Prophet Hosea with text [1866] | [transcript 1899] |
| 7.— | Miscellaneous Poems and Essays | 1863 |
| 8.— | Miscellaneous Poems Almanac a Dyddiadur Cynulleidfaol (printed) with MS. notes | 1821 |
| 9.— | Poems and Newspaper cuttings—J. G. Davies | 1848 |
| 10.— | Various papers and manuscripts of John Davies | no date |
| 11.—16 | Correspondence of John Davies | no date |
| 17.— | Almanacs with MS. notes | 1823-40 |
| 18—66. | Sermons (a few volumes are in English) | 1837-48 |
| 67—69 | Sermons, Addresses and Poetry.. | 1830-84 |
| 70—75 | Sermons | no date |
| 76.— | Sermons preached on special occasions, Welsh and English | no date |
| 77.— | Sermons and Poetry by John Davies and David Davies | 1828—70 |
| 78.— | Inventory of the MSS of John Davies by J. Lloyd James | no date |
| 79.— | Victualling Book of a Schooner and other miscellaneous accounts | No author |

Nodiadau
[golygu]- ↑ Llethi, Afonig Llanarth, gyda Sylwadau Achlysurol, gan John Davies, Glandŵr yn Nyfed (1868).
- ↑ "Yetwen a'r Teulu," gan Clwydwenfro (Diwygiwr 1888—1890)—xxii. o ysgrifau.
- ↑ Dyddlyfr Siôn Gymro' (1804—1833) ym meddiant y Parch. Esger James, Llansteffan.
- ↑ Llethi, Afonig Llanarth: op. cit.
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885—erthygl gan y Parch. Simon Evans, Hebron.
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885: op. cit.
- ↑ "Hanes Glandwr," gan Clwydwenfro (tud. 86—100).
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885: op. cit.
- ↑ Nodion Misol" y Diwygiwr, Ionawr 1885
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885 op. cit.
- ↑ Nodiadau "Darlith ar Siôn Gymro," gan y Parch. J. Grawys Jones, Aberdâr, wedi eu teipio, ac a gawsom ganddo.
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885: op. cit.
- ↑ Nodiadau "Darlith ar Siôn Gymro," gan y Parch. J. Grawys Jones: op. cit.
- ↑ "Flores Poetici"—Prydyddiaeth John Davies,—Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.
- ↑ Ceninen Gwyl Dewi, Mawrth 1919.
- ↑ Adolygiad Dr. Harries Jones, Trefeca, ar y Proffwydi Byrion—Traethodydd 1881.
- ↑ Y Geninen, Mawrth 1919. op. cit.
- ↑ Cywir, annwyl.
- ↑ Llwyddiant.
- ↑ Athrawiaethau
- ↑ Y mae y cwbl yn wagedd.
- ↑ Diwygiwr, Awst 1890—Yetwen a'r Teulu.
- ↑ Diwygiwr, Ionor 1885.
- ↑ Diwygiwr, Awst 1890. op. cit.
- ↑ Diwygiwr, Awst 1890. op. cit.
- ↑ Diwygiwr, Awst 1890. op. cit.
- ↑ "Cofiant y Tri Brawd o Lanbrynmair a Chonwy," gan Pan Jones —Pregethu Dychmygion,' tud. 254-7.
- ↑ Dysgedydd, 1850.
- ↑ Diwygiwr, Medi 1891—Yetwen a'r Teulu.'
- ↑ Dyddlyfr Siôn Gymro. op. cit.
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885. op. cit.
- ↑ Diwygiwr, Mawrth 1885. op. cit.
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.