Siaced Fraith/Вob
| ← Rhagair | Siaced Fraith gan Elizabeth Williams |
Yr Hen Gapel → |
PENNOD I
BOB
DERBYNIAIS lawer o lythyrau o bob cwr oddi wrth ddarllenwyr Brethyn Cartref, a synnais weld mewn cymaint o honynt gais am "fwy o hanes Bob". Mae'n amlwg fod y darlun o Bob wedi creu edmygedd ohono. Felly, dyma fi'n ychwanegu tipyn at y manylion a roddais eisoes.
Dwedais gymaint o ddarllenwr oedd Bob ac mor uchel oedd ei feddwl o Churchill. Daw i'm cof sgwrs rhyngddo a'm brawd Hugh yn eu fflat yn Llundain un amser te. Te "cyllell a fforc" oedd, a Bob wrthi'n brysur a'i gyllell a'i fforc yn ei ddwylo. Eisteddai Hugh gyferbyn ag ef. Trodd y sgwrs at waith Churchill fel awdur a dwedodd Hugh na roddai Churchill ym mhlith rhestr yr ysgrifenwyr gorau. Llonyddodd y gyllell a'r fforc yn nwylo Bob ac edrychodd yn syn ar Hugh. "Beth—wyt ti'n meddwl dweud nad yw Churchill yn ysgrifennwr da"? "Ydw", meddai Hugh. "Pam 'rwyt ti'n dweud y fath beth"? "Mae gormod o purple patches yn ei ysgrifennu". Rhoddodd Bob ei gyllell a'i fforc i lawr ar y bwrdd; gosododd ei ddwy law un ar bob clun ac edrychodd, a'i lygaid yn pefrio, ym myw llygaid Hugh. "Gwrando ar hwn", meddai, ac, adroddodd ar ei hyd yr olygfa 1af o Henry IV gan Shakespeare. Ar y diwedd dwedodd: "Purple patches! Glywaist ti erioed fwy o burple patches? Purple patches yw y rhan fwyaf o waith Shakespeare, ac wyt ti ddim am feiddio dweud nad oedd Shakes- peare yn ysgrifennwr"? A dyna daw ar Hugh!
Gallai siarad gydag awdurdod ar unrhyw bwnc ac mewn unrhyw gwmpeini. Rhoddai bob amser gyfraniad o'i ddarllen eang. Er na ddarllenai Roeg a Lladin 'roedd yn hollol gyfarwydd â'r clasuron mewn cyfieithiaid. Gallech godi unrhyw bwnc-o seryddiaeth i seicoleg-byddai Bob wedi darllen rhywbeth dyrus am dano yn rhywle, a chofiai y lle yn ogystal. 'Roedd ganddo gof fel encyclopaedia.
Yn rhyfedd iawn, er mai darllenwr oedd yn gyntaf ac yn olaf, cymerai ddiddordeb mawr mewn bocsio. Gallai enwi pob bocser mawr a rhoi ei hanes ac os byddai disgrifiad o focsing match ar y radio byddai Bob a'i glust wrth y set rhag colli gair.
'Roedd ei dŷ bach ym Mirmingham mor llawn o lyfrau fel mai prin y gallai symud yn ei ystafell wely, o dan y gwely, hyd y grisiau ac ar bob cadair. 'Doedd ryfedd iddo ddewis byw mewn tŷ yn hytrach nac mewn llety cysurus. Tŷ bychan oedd, ynghanol tai gweithwyr, a llawer o'r trigolion yn yr ardal yn anosbarthus, yn meddwi ac yn ymladd, a'r iaith yn ddifrifol. Nid amharai hyn ddim ar Bob. 'Roedd yn byw mewn byd dieithr iawn i'w gymdogion, byd tawel ynghanol ei lyfrau a'i freuddwydion. Ac er na roddodd erioed argraff ei fod yn ei feddwl ei hun yn well na'i gydweithwyr—ni ddaeth i'w ben erioed i goleddu'r fath syniad—eto edrychai ei gymdogion i fyny ato fel rhywun uwchlaw iddynt eu hunain. Dangosant eu parch ato drwy ei gyfarch bob amser fel "Mr. Williams"—peth dieithr iawn mewn ardal o'r fath.
Ni thalodd Bob erioed sylw i'w ddillad, ond cyn belled ac y byddai'n weddol drefnus. Credai fod llyfrau yn fwy pwysig i ddyn wario amser ac arian arnynt na dillad. Ond, ar un amser meddai ar dop côt ddu hardd—nid oedd debyg iddi yn yr ardal. Os byddai angladd neu briodas mewn teulu yn y gymdogaeth, curai rhywun ar ddrws Bob a gofynnai'n gwrtais: "Please Mr. Williams may we borrow your overcoat for the day"? Ni ddaeth i feddwl Bob erioed wrthod. Meddai ar galon fawr garedig, a bu'r dop côt mewn llawer priodas ac angladd. Cynorthwyodd Bob lawer ar ei gydweithwyr os byddent allan o waith—heb ofyn dime'n ôl. 'Doedd ryfedd iddo golli pob ceiniog o'i elw cyn gadael Birmingham.
Un haf daeth Bob o Firmingham atom i Lanrwst am wyliau. Digwyddai Hugh ddod hefyd o Lundain a chafodd y ddau grwydro ar hyd eu hen gynefin a sgwrsio am yr hen amser gynt. 'Roedd Hugh yn wahanol iawn i Bob. Bu Hugh bob amser yn talu sylw i'w wisg, ac edrychai'n ddestlus iawn ac yn "well groomed" chwedl y Sais. Tybiai Hugh y dylai Bob dalu mwy o sylw i'w ymddangosiad—ond 'roedd Bob yn berffaith hapus. Gwisgai tsiêt-ffrynt gwyn wedi ei startsio i'w roi ar y crys. Cuddiai y tsiêt liaws o bechodau. Gellid ei roi ar grys gwlanen neu unrhyw fath o grys. Gwisgai Nhad tsiêt ar hyd y blynyddoedd. Cofiaf yn dda fel y deuai adre o'r chwarel bnawn Sadwrn. Ar ôl pryd o fwyd y peth cyntaf a wnai fyddai ymolchi a shafio a rhoi tsiêt a choler lân yn barod i fynd gyda Mam i'r dre.
Ond tsiêt gwahanol a wisgai Bob—tsiêt yn un â'r goler a byddai'n ofynol ei botymu ar hyd y ffrynt ac ni thrafferthai Bob i weld fod y botymau wedi eu cau yn iawn. Ar y tsiêt gwisgai dei fflat fel cledr llaw, wedi ei wneud yn barod yn y siop ac felly'n arbed y gwaith o wneud cwlwm taclus—llai o drafferth o lawer ym meddwl Bob. Edrychai'n ddigon twt ar y cychwyn ond gan nad oedd y tsiêt wedi ei botymu, gweithiai ei ffordd allan o'r wasgod a byddai golwg rhyfedd ar Bob, a'i tsiêt ar un ochr.
'Roedd Hugh am iddo roi'r tsiêt o'r neilltu a gwisgo coler ar ei grys, a thei. Er mwyn ei ddenu i wneud hyn aeth Hugh i'r dre i brynu coler a thei. Ond 'roedd Bob yn fwy dyn na'r un o'i frodyr a bu'n rhaid i Hugh fynd dair gwaith i'r siop cyn llwyddo i gael coler yn ddigon mawr i ffitio Bob. O'r diwedd caed coler ac aed ati i wisgo. Cymerai Bob arno brotestio—"byddi'n siwr o'm tagu cyn y diwedd", ond 'roedd wrth ei fodd yn gweld Hugh yn stwna o'i gwmpas. Pan lwyddodd Hugh gau'r goler a chlymu'r tei newydd galwodd ar fy ngŵr a minnau i roi ein barn. Druan ohono! 'Roedd y goler a'r tei yn daclus ddigon ond gwisgai Bob grys o liw khaki a brynnodd mewn stondin ail-law am wyth geiniog—crys glân a thaclus, ond 'roedd rhes o fotymau alcam ar hyd y ffrynt. Rhaid oedd cyfadde fod tsiêt yn ofynnol ar grys o'r fath !
Aeth y gŵr a minnau i ffwrdd am ychydig ddyddiau a gadawsom y ddau yn y tŷ a'r wraig fyddai'n dod i lanhau bob dydd i edrych ar ôl gwaith y tŷ iddynt. Ymgymerodd Bob a'r coginio—honnai fod yn fwy cyfarwydd na Hugh. Un bore gwnaeth uwd i frecwast. Tybiodd Hugh fod blas rhyfedd iawn ar yr uwd ac yr oedd yn glynu fel gliw wrth ei enau. "Be roi'st ti
yn yr uwd Bob"? gofynnai. "Mi ddwedai wrthyt ti fachgen—cefais hyd i baced o Atora suet yn y gegin—paced llawn weld di, a mi roddais y cwbwl yn yr uwd. Ardderchog—digon o ffat wyt ti'n gweld". Bu Hugh yn wyliadwrus iawn rhag uwd Bob o hyn ymlaen, ac yr oedd yn falch iawn ein gweld yn ôl.
Pan oedd yn byw ym Mirmingham dioddefodd Bob am amser hir trwy fethu cysgu. Cynghorodd cyfaill iddo yfed stowt bob nos cyn mynd i'w wely. Felly y bu ac yn wir 'roedd Bob wedi mynd i gredu na chysgai winc heb y stowt. Nid âi i dafarn i'w yfed ond i'w gyrchu, bob nos yn selog.
Pan ddaeth i fyw i Lundain at Hugh, rhaid oedd cael y stowt fel arfer. Âi bob nos cyn swper i dafarn yn y stryd nesa a deuai yn ôl a dwy botel hanner peint un ymhob poced a'r gyddfau'n sticio allan. 'Roedd hyn yn hollol yn erbyn y graen gan Hugh. Ofnai i'r cymdogion yn y stryd barchus lle y bywiant weld Bob a'r ddwy botel yn ei boced. 'Roedd rhoi troed mewn tafarn yn beth gwrthyn iawn yng ngolwg Hugh. Gyda llaw nid arferai yr un o'm brodyr yfed dim cryfach na the, ac nid ysmygant chwaith. Ac ni roddai Bob ei droed mewn tafarn ond i 'nôl y stowt. Cwynai Hugh hefyd na wnai Bob yfed y stowt mewn gwydr; mynnai Bob fod ei yfed yn syth o'r botel yn rhoi arno flâs hollol wahanol.
Digwyddodd i Bob gael annwyd mawr fel na allai fynd i 'nôl y stowt. Gwrthododd Hugh yn bendant wneud y neges yn ei le. Ond gwnaeth fargen â Bob. Cynigiodd wneud malted milk poeth iddo bob nos yn lle'r stowt. "Wel mi triwn ni hi", meddai Bob, ac er ei fawr syndod cysgodd yn nobl ar ôl y cwpaned cyntaf, ac ni chlywyd sôn mwyach am stowt.
Wrth ddewis cyfaill ni feddyliai Bob am y dyn allanol. Fel y barnai lyfr am ei gynnwys, beth bynnag fyddai cyflwr y clawr, felly mewn cyfaill edrychai'n unig ar natur y dyn ei hun. O ganlyniad 'roedd amrywiaeth mawr yn ei gyfeillion a gallai siarad iaith pob un beth bynnag ei sefyllfa. Yn wir, gallai, byddai eisiau, ddefnyddio iaith pur ryfedd. Ond, adlewyrchiad o'i ddarllen eang oedd ei iaith naturiol.
Soniai lawer am un cyfaill ym Mirmingham. 'Roedd hwn yn glâf o'r parlys ac ni allai symud o'i wely gan fod ei aelodau o'i wâst i lawr yn ddiffrwyth. Perthynai i deulu ariannog ond gan ei fod wedi byw'n afradlon, ni fynnai ei deulu ei gydnabod ond yn unig dalu i wraig y llety am edrych ar ei ôl. Treuliodd Bob lawer awr ddifyr yn ei gwmni. 'Roedd wedi gweld bywyd diethr iawn i Bob. Bu'n actor ac mewn syrcys a llawer o bethau eraill. Ambell dro, pan fyddai'r tywydd yn caniatau, llogai Bob gadair ar olwynion ac âi ag ef allan i weld y siopau. Dyna'r unig adeg y câi y clâf fynd i'r awyr agored a gweld pobl yn y stryd.
Deuai ei frawd i ymweld ag ef o dro i dro, yn ei "carriage and pair" chwedl Bob. Un tro pan ddaeth yno 'roedd y clâf wedi bod yn bur wael, a'r meddyg wedi awgrymu y buasai mordaith yn lles iddo. Aeth, ar draul ei frawd, ar fordaith rownd y byd. Edrychai Bob ymlaen at ei weld yn ôl gan ddisgwyl clywed am y rhyfeddodau a welodd ar y daith. Ond, er ei syndod a'i siomiant, pan ofynnodd iddo sut y mwynhaodd y daith, yr unig ateb oedd, "I missed my fire". "Meddylia", meddai Bob, a dirmyg yn ei lais, "wedi bod yng nghyrraedd holl ryfeddodau'r byd a'r unig beth a'i cynhyrfodd oedd colli ei dân".
Trist i mi oedd gweld y newid mawr ynddo yn y blynyddoedd diwethaf. Dirywiodd y cof ardderchog o ddrwg i waeth. I ddechrau byddai y colli yn smala. Cofiaf un diwrnod i gyfaill yn y Garn alw i edrych amdano. Ceisiai Bob, wrth drafod rhyw fater, gofio enw politisian adnabyddus, ac ni allai yn ei fyw ei gofio. Trodd y sgwrs at rywbeth arall, a thoc, cododd y cyfaill i fynd adre. Wedi iddo fynd bron o'r golwg, ar amrantiad cofiodd Bob yr enw, a chripiodd gyda'r dodrefn at y drws ffrynt. Erbyn hyn 'roedd y cyfaill ymhell o gyrraedd llais, ond cododd Bob ei law a gwaeddodd nerth ei ben—er syndod trigolion y pentre—BONAR LAW!
Hawdd fuasai 'sgrifennu cyfrol am Bob a dim arall. Ond, gwell fyddai i mi gau'r clawr ar y bennod hon gan obeithio y bydd yr ychydig fanylion o'i hanes yn rhoi pleser i'r rhai a geisia gennyf "fwy o hanes Bob".