Siaced Fraith/Breuddwydion
| ← Sebon a Soda | Siaced Fraith gan Elizabeth Williams |
Sion Catrin → |
PENNOD XII
BREUDDWYDION
PEDWAR UGAIN mlynedd yn ôl trigai llawer o'r un genhedlaeth a fy nain mewn cymysgfa feddyliol ryfedd, o freuddwydion ag argoelion, o dylwyth-teg, a choblynod ac ysbrydion, er gwaethaf dylanwadau eglwys a chapel. Dyna oedd byd un chwaer i Mam, a byd Nain, mam fy nhad. I ni'r plant byddai llawer o'r coelion yn chwerthinllyd. Eto, heddiw, cydnabyddwn nad yw y llinell derfyn rhwng breuddwyd a gwirionedd mor eglur ag y tybiem. Cydnabyddwn ymhellach, nad yw'r cyfan ond cymysgfa o "folk-memory" a rhywbeth nas gŵyr gwyddoniaeth yn iawn sut i'w ddehongli, ai fel rhywbeth a berthyn i delepathy, neu i psycho-analysis. Ym myd y psycho-analyst ceir y breuddwyd unwaith eto mewn bri. Hwyrach fod rhyw linyn tenau, aur, o wirionedd yn guddiedig ynghanol hen storiau'r oes a fu.
Mor ddirmygus y buasai'm cenhedlaeth i, 80 mlynedd yn ôl, o'r sawl a feiddiai broffwydo y clywid llais rhyw ddydd ac y gwelid darlun yn cyrraedd ar draws y byd mewn fflachiad. Ni fuasai i ni ond breuddwyd ynfyd. Credem fod rhyw goll yn "Robin Hen Law", chwarelwr cyffredin na allai ddarllen, am y rheswm y daliai'n gadarn nad yw'r geiriau â siaradwn yn darfod ar ôl i'r llais ddistewi. Fel y dwedai wrth Nhad, "Mae'r geiriau i gyd yn casglu mewn rhyw le mawr gwâg a dyna lle y maent yn gwau trwy'u gilydd, fel brain, am dragwyddoldeb". Hawdd fuasai i Robin gredu proffwydoliaeth am ddyfod y radio. 'Roedd yn nes at y gwirionedd nac yr oeddem ni wedi'r cwbwl.
Soniais am un fodryb, chwaer i Mam, ac am Nain. Cymerai nodweddion coel pob un o'r ddwy gyfeiriad gwahanol. Symudai meddwl Nain i gyfeiriad y tylwyth teg, y coblynod, a'r gwrachod, ac nid oedd modd ei argyhoeddi (er iddi fod yn Wesla selog iawn). Os gofynnai un ohonom ni'r plant iddi pam nad ymddangosant yn ein hoes ni, dwedai gyda phob arddeliad y byddant yn mudo fel y gôg a'r wennol ac y byddent byw am rai blynyddoedd ar y tir, am rai blynyddoedd yn yr awyr ac am rai blynyddoedd yn y môr. Byddai rhif pob cyfnod yn fesur o saith.
'Roedd ganddi wybodaeth hynod am seryddiaeth. Rhoddai enw Cymraeg ar y cydsêr i gyd. Ni chofiaf ond dau enw—llathan fair, a thri-throed-trybadd.
Gwahanol iawn oedd Modryb Ann. Credai hi mewn ysbrydion, mewn codi cythreuliaid, yn ogystal a chredu mewn gwrachod. Clywais fy mrawd Bob a'm brawd Richard yn dweud mai profiad cynhyrfus fyddai cerdded liw'r nos gyda Modryb o Faenan i Bontygath. Byddai un man ar ôl y llall ar y ffordd yn fangre i ryw ysbryd neu gilydd, ac yr oedd yn rhaid iddynt ddistewi a cherdded yn ofalus rhag poeni'r ysbryd. Ar hyd y ffordd adroddai hanes yr ysbrydion; honnai fod wedi gweld llawer ohonynt neu wedi eu clywed "a'm llygaid ac a'm clust fy hun". Byddai un ysbryd ar geffyl a'i gŵn hela gydag ef. Dwedai ei fod lawer gwaith wedi eu clywed yn chwyrlio heibio iddi ar y ffordd yn hwyr y nos. 'Roedd atgof o hanes Cwn Annwn yn ei stori, ac mewn stori arall ceid atgof o hanes Gwrach y Rhibyn. Dwedai un stori am ysbryd "Giât Wen Maenan". Bu, meddai, yn yr hen amser, i sgweiar Maenan ladd y gwas bach trwy ei daro mewn tymer, a chladdodd y corff liw nos yn ddirgel. Ymddangosai ysbryd y gwas mewn ffurf anifeiliaid, gan newid o un i'r llall. Weithiau fel mul, yna fel llo, neu fel mochyn, ac yn diweddu pob amser fel cath ddu a'r gath yn diflannu bob amser mewn fflach o dân. Dwedai fod llawer wedi gweld yr ysbryd a'r cyfnewidiadau; rhai wedi marw o ddychryn, eraill wedi mynd yn wael iawn. Dwedai fod rhyw hen ôf wedi dod wyneb yn wyneb a'r ysbryd yn y ffurf o fochyn ac wedi galw arno fel hyn—
"Dos yn dy ôl ti ddiawl di-lun A newid dy fuchedd fochyn".
Ac wrth gwrs diflannodd y mochyn! Dwedai Modryb, pe bai "gŵr cyfarwydd" wedi bod ar gael ar y pryd, buasai wedi gorfodi'r ysbryd i ymddangos fel y gwas bach a datguddio'i gyfrinach.
Credai Modryb yn gadarn yng ngallu y "dyn cyfarwydd", a chredai y gallai godi cythreuliaid. Dwedai y byddai llyfr arbennig gan bob "dyn cyfarwydd", i'r pwrpas. Byddai llawer o'r llyfrau ar gael ar un adeg meddai, a byddai codi cythreuliaid yn un o ddiddordebau'r ardal. Un waith, meddai, anfonwyd gwas bach i 'mofyn benthyg llyfr codi cythreuliaid. Siarswyd ef i beidio, ar gyfrif yn y byd, agor y llyfr. Ar ôl aros ei ddychweliad am amser, aeth dau neu dri o'r llanciau i'w gyfarfod. Cawsant y gwas bach mewn cae cyfagos, ynghanol llu o goblynod. 'Roedd y gwas bach, ar ôl agor a darllen y llyfr, wedi galw ar y coblynod i ymddangos. Wedi iddynt ymddangos 'roedd yn ofynnol iddo ateb ei cwestiwn, "Beth a wnawn"? neu byddent yn ymosod arno. 'Roedd y gwas bach newydd ateb "paffiwch", ond cyn i ddim niwed ddigwydd, daeth y "gŵr cyfarwydd".
Dyma stori arall debyg. Ymgymerodd rhyw ddyn a chlirio cae yn llawn drain ac eithin mewn diwrnod. Addawodd ffarmwr oedd yn berchen y tir ei dalu'n hael. Daeth morwyn fach y ffarm a brecwast iddo i'r cae. Yna'r eisteddai y dyn, heb unrhyw arwydd gwaith o'i gwmpas. Daeth amser cinio a chafodd y forwyn fach ef yn yr un fan yn union, heb iddo fod wedi symud bys. Penderfynodd y ffarmwr fynd a'i de iddo ei hunan er mwyn gweld pa faint o waith oedd yn ofynnol cyn i'r dyn orffen. Pan gyrhaeddodd y cae, er ei fraw, gwelodd fod y cae yn llawn o goblynnod bach wrthi'n brysur, yn codi ac yn tynnu'r drain a'r eithin a'u gosod yn un twmpath mawr. Pan ddaeth y ffarmwr i'r cae trodd y twmpath yn fflamau coch heb neb yn ei gyffwrdd, a diflannodd y coblynnod. Diwedd y stori fyddai "Mae'n reit wir, mae llecyn du ar y cae hyd heddiw, yn y fan lle y bu'r goelcerth".
Cefais stori dda gan Richard fy mrawd am "ŵr cyfarwydd". Yn agos i Ysbyty Ifan, 'roedd hen wraig yn byw ar ffarm ar ei phen ei hun. Bu farw ei gŵr flynyddoedd yn gynt, a chollodd ei mab pan yr oedd ef yn weddol ifanc. Credai mai gŵr cyfarwydd oedd y mab pan oedd yn fyw. 'Roedd ei lyfrau ganddi, meddai, mewn cist fawr—llyfrau codi cythreuliaid. Byddai y mab yn darllen y llyfrau hyd oriau mân y bore. Ceisiodd cyfaill Richard gael cip olwg ar y llyfrau. Gwrthododd yr hen wraig am beth amser am ei bod yn beryglus edrych arnynt, ond o'r diwedd, gadawodd iddo agor y gist a darllen y llyfrau. I'w fawr syndod cafodd mai llyfrau Lladin a Saesneg oeddynt i gyd, ac i gyd ar ddiwinyddiaeth. Ymddengys fod y llanc a'i fryd ar fynd yn Berson, a dyna bwrpas y llyfrau ac nid codi cythreuliaid!
Gwahaniaethai Modryb rhwng "witsio" gan hen wraig i rwystro'r llaeth rhag corddi neu'r uwd rhag berwi ac felly yn y blaen, a'r "witsio" fyddai'n effeithio ar berson dyn. Credai y gallai dyn gyflwyno malais a chenfigen yn erbyn un arall, a'i niweidio, weithiau hyd angau. Credai'n gadarn mewn "ysbryd dyn byw"—ysbryd dyn yn symud o'i gorff er dylanwadu ar ddyn arall, neu i gyfleu neges i rywun. Dyma enghraifft a roddai o "ysbryd dyn byw" yn cyflwyno neges iddi.
Aeth ei gŵr, John Price, i Awstralia i'r gwaith aur yn Ballarat i geisio gwneud ei ffortiwn. 'Roedd Modryb i'w ddilyn os byddai'n llwyddiannus. Rhyw ddiwrnod bu ffrae rhwng dau o'r gweithwyr, rhuthrodd un i'r efail lle y gweithiai John Price, cipiodd far o haearn a tharawodd y llall a'i ladd. Ffôdd John Price am ei fywyd rhag iddo gael ei feio. Breuddwydiodd Modryb Ann yr hanes i gyd, ac yn ôl llythyr a gafodd gan John Price, daeth y breuddwyd yr un adeg a bu digwydd yr anffawd. Felly, meddai Modryb, "ysbryd" John Price ddaeth a'r neges iddi. Byddai ganddi lawer stori gyffelyb i ddangos fel y clywodd ei Nain yn galw arni pan yr oedd yn wael mewn ardal bell oddiyno.
Credai y byddai ei mam-yng-nghyfraith yn deisyfu drwg iddi hi a'i theulu ac felly y byddai'n effeithio ar eu hiechyd. Dwedai Nain "os na fydd da rhwng dyn a'i deulu'nghyfraith, rhaid fod lladd wedi bod rhyngddynt mewn rhyw oes". 'Roedd ar Modryb ofn gallu ei mam-yng-nghyfraith. Gwyddeles oedd yr hen Mrs. Price, a dwedyd iddi gadw cysylltiad agos â sipsiwn yr ardal. Modd bynnag, cymaint ei hofn gan modryb fel yr aeth un tro i ymofyn cyngor gŵr cyfarwydd o'r enw "Cil-haul", yr holl ffordd i Gaernarfon, a chafodd ganddo rhyw recipe a rhigwm. I gymysgu'r moddion 'roedd yn ofynnol cael dŵr o ffynnon a'i gofer i'r dde.
Rhyw ddeugain mlynedd yn ôl cefais gopi o recipe i "ddad-witsio cattal" wedi ei gael mewn hen Feibl yn agos i Lanarmon. Dyma yn union fel yr ysgrifennwyd ef yn y Beibl.
"Cymerwch ddail
bellemy a dail
Cribau saint ffraid
a risgl pren celun
a'i berwi mewn dwfr ffynnon a'i
gwyneb i'r de a chodi
y dwfr cun i'r haul
godi y boreu a bathio
eich anifeiliaid i gud
trostunt dair gwaith
yn enw yr holl
alluog a'i roi yn ei
boliau lawer gwaith
a roi halen ynddo
i'w ferwi a dal yr
halen o tan ei
ffroenau cyn ei ferwi".
Ffynnon a'i hwyneb i'r de a gawn yma, ond ffynnon a'i gofer i'r de fyddai'n ofynnol bob amser yng nghoelion cefn gwlad dyffryn Conwy.
Flynyddoedd yn ôl, o leiaf ddeugain, wrth sôn am yr hen amser a hen draddodiadau dyffryn Conwy cefais gan fy mrawd Richard oleuni ar ystyr llawer i hen ddywediad, a choel a thraddodiad. Trodd yr hanes, wrth gwrs, o gylch Nain Tŷ Newydd, a chlywais ganddo syniadau tarawiadol, i mi beth bynnag. Pan oeddem yn blant 'roedd traddodiad yn Nhrefaenan am "Grŷr Cwm Cowlyd". Os gwelai Nain grŷr yn ehedeg ar ei daith araf, unig, urddasol i gyfeiriad Cwm Cowlyd, dwedai: "Cawn wlaw yfory, mae'r crŷr ar ei ffordd i agor Llyn Cowlyd". Os y gwelai'r crŷr yn ehedeg o gyfeiriad y Cwm, 'roedd yn dychwelyd o "gau" y llyn. A dyma ddywedodd Richard—"os gwn a oes rhyw berthynas rhwng yr aderyn a dylluan Cwm Cowlyd y ceir sôn amdano ym Mabinogi Cilhwch ac Olwen"? Tybiai weld cysylltiad rhwng geiriau'r dylluan a hen draddodiad Dyffryn Conwy. Dywed y dylluan i'r dyffryn eang is law Cwm Cowlyd fod yn goediog i gyd, ac i rhyw genedl o ddynion ddifa'r coed. Hen draddodiad Dyffryn Conwy pan oeddem yn blant oedd, fod y dyffryn yn yr hen amser yn goed i gyd, ond i'r Prydeinwyr cynnar eu difa yn ystod eu rhyfeloedd. Prentis o ôf oedd Richard pan oedd yn llanc ifanc, a chofiodd fel y byddai'n rhaid gwneud swch pob aradr a dannedd pob oged i stad yr Abbey ar dir Maenan yn arbennig o gryf gan fod haenau o fonion a gwreiddiau coed o dan y pridd. Gwelodd Richard aml i swch yn dod yn ôl i'r efail o'r Abbey wedi ei throi ymhob siap gan y bonion, a gwelodd droliau'n cario llwythi o'r bonion o'r caeau.
Er i mi berthyn i oes yn llawn ofergoelion oedd yn dal i reoli bywyd llawer o drigolion ardal wledig Dyffryn Conwy, bu dylanwad fy mam yn ddigon i droi ein meddwl ni fel plant i gyfeiriad gwahanol iawn. Er i ni fwynhau y storiau a'r traddodiadau, a'r amryw goelion, diddordeb hanes oeddynt a dim mwy. Eto, brithwyd fy mywyd i fy hunan â llawer breuddwyd cyffelyb i freuddwyd Modryb am John Price. Cefais innau "neges" fwy nac unwaith, mewn argyfwng, a'm galwodd adref. Pan oedd William fy mrawd ar ei ffordd gartref ar fordaith o Australia, deffrodd yn sydyn wedi breuddwydio fod fy machgen pedair a hanner blwydd oed yn sefyll wrth ei wely. 'Roedd William yn hoff iawn o Ritchie ac yn edrych ymlaen at ei weld. Ond, ar ôl y breuddwyd, gwyddai fod rhywbeth wedi digwydd iddo, ac ni synodd wybod ar ôl glanio ei fod wedi marw. Ni synodd chwaith wybod ei fod wedi deffro o'r breuddwyd adeg ei farwolaeth i'r funud. Credodd William ar hyd ei oes, fod Ritchie wedi dod ato i ddweud ffarwel.
Cofiaf am un breuddwyd doniol, er nad oedd yn ddoniol yn fy nhyb i ar y pryd. Pan oeddwn yn 15 oed cefais anrheg o ddwy freichled. Rhai digon rhad oeddynt, ond i mi 'roeddent yn werth y byd. Nid oeddwn erioed o'r blaen wedi meddiannu ar freichled. Math o jet oedd y defnydd, a chameo gwyn ar y canol. Un noson gosodais y ddwy ar gadair wrth ochr y gwely. Breuddwydiais fy mod wedi codi yn y boreu, eistedd ar y gadair, a malu'r ddwy freichled yn deilchion. Pan ddeffroais yn y boreu, 'roeddwn wedi anghofio'r breuddwyd. Codais, eisteddais ar y gadair a malais y ddwy freichled yn deilchion, ac fel yr oeddwn yn eistedd cofiais y breuddwyd!
Dywedodd rhywun wrthyf yn ddiweddar fod nai iddo wedi bod tan law psychoanalyst, ac mai rhan bwysig o'r driniaeth oedd adrodd ei freuddwydion bob bore ar ôl deffro. Buasai Nain a Modryb Ann yn deall y driniaeth—chwerthin yn ddirmygus a fuasai Mam. Ond beth yw breuddwyd wedi'r cyfan? Ai mewn cwsg yn unig y daw breuddwyd? Onid "breuddwydio ar ddihun" a ddaeth ac addurniadau coethaf bywyd inni? Fel yr edrychaf yn ôl ar hyd y blynyddoedd, i'r man lle safais i edrych yn ôl ymhellach fyth trwy lygaid fy Nain a'i chenhedlaeth, sylweddolaf fwy-fwy nad oes bywyd rhydd heb freuddwydion ac mai colled enfawr i unrhyw genedl yw anghofio ystyr hen ofergoelion. Dwedir heddiw, gan rai, na ddylid adrodd storiau tylwyth teg i blant. Wel—diddorol yw cofnodi nad oes le i'r tylwyth teg nac i freuddwydio mewn unrhyw drefn dotalitaraidd!