Neidio i'r cynnwys

Siaced Fraith/Cynffonna

Oddi ar Wicidestun
Meri Ann Siaced Fraith

gan Elizabeth Williams

Y Pen Blaenor

PENNOD V
CYNFFONNA

GEIRIAU cyfarwydd iawn, i hen ac ifanc yr oes hon, yw queue, points, rations. Rhyfedd meddwl fel y daeth prinder a geiriau newydd, neu ystyr newydd i eiriau, i mewn i'r iaith. Mae'n wir fod geiriau Cymraeg am y tri, ond queue a points ddefnyddiwn i'r ddau gyntaf, ac yn wir clywir rations yn amlach na dogn.

Gŵyr pawb heddiw beth yw queue, er, mae'n siwr heb gofio pob amser mai cynffon yw queue! Mae'n rhan heddiw o fywyd beunyddiol pob gwraig tŷ. Cofiaf fel y byddai, yn adeg y rhyfel ac yn y blynyddoedd cyntaf ar ôl y rhyfel, gweld queue hir yn rhywle yn ddigon i ddenu merch i ymuno heb wybod beth oedd i'w gael. Gofynnai i'r ferch nesaf ati "am beth maent yn ciwio"? Ar ateb yn aml fyddai, ""Dwn i ar y ddaear—ond mae'n siwr fod rhywbeth go bwysig i'w gael".

Daeth points ar un adeg bron yn fwy pwysig nag arian! (Gyda llaw, pan oeddwn yn ferch ifanc ystyr gwahanol iawn oedd i'r gair points. 'Roedd points yr adeg honno, o'r un ystyr a date gan ferch ifanc heddiw. Cytuno i gyfarfod mewn man a lle oedd "gwneud points" rhwng merch a llanc ifanc). Un haf clywais sgwrs rhwng hen wraig ac wyres fach tua 5 mlwydd oed, mewn siop yn y wlad. "Fase ti'n lecio cael da-da", (fferins neu sweets) gofynnai'r nain i'r fechan, a meddai'r fechan, "Oes gen ti boints"? 'Roedd y points yn bwysicach iddi na'r arian i brynu y da-da. Gwyddai nad oedd obaith am y da-da os nad oedd y points ar gael. Gwelais ddwy eneth fach un diwrnod yn edrych yn brudd ar y fferins mewn ffenestr siop, a'i hwynebau fel pe wedi eu hoelio ar y gwydr. A meddai'r fwyaf gydag ochenaid wrth y llall, "Waeth inni heb edrach, 'toes dim points ar gael".

Dywedodd gŵr wrthyf y dydd o'r blaen na fyddai'n meddwl prynu sweets cyn y rhyfel, ond y bydd yn awr yn "gwario" ei boints i gyd rhag eu "gwastraffu".

Adeg gwyliau'r Pasg eleni, sylwais ar y queue hir o flaen pob siop bara yn y dref. 'Roedd pawb yn brysur am sicrhau cyflawnder o fara dros yr ŵyl. Trychineb mawr fuasai ffaelu cael digon. 'Roedd pob siop yn wâg o fara yn gynnar.

Ehedodd fy meddwl ymhell yn ôl at gyfnod gwahanol iawn, pan ddibynnai teulu fwy ar ei adnoddau ei hun a llai ar y siop a'r ffatri. Meddyliais fel y buasai Mam yn gwaredu rhag gwastraffu amser ac arian i sefyll am hydion mewn queue er prynu bara siop. Ni phrynodd Mam erioed dorth siop. Prynai sachaid o flawd ar unwaith. Cofiaf Richard Owen yn dod a'r sachaid ar dryc bach ac yn son wrth Mam am rinweddau'r gwahanol flawdiau—"Blawd Caer", blawd a alwai'n "Double X" a blawd a alwai'n "Phirdo". 'Roedd hwn yn rhatach ac yn dywyllach blawd na'r ddau arall, ond mynnai Mam y gorau.

Pobai Mam y bara ei hun. Cofiaf fy hun yn mynd a'r toes i'r Tŷ Popty pan aeth fy mrodyr hynaf yn rhy fawr i fynd ag ef. Cawn y Tŷ Popty yn lle diddorol iawn, yn llawn o ferched. 'Roedd yn fan cyfarfod iddynt, pawb yn siarad ar draws ei gilydd a phawb a'i stori. Gwyddent hanes pawb yn y dre. Clywais yno lawer stori, a minnau'n gwrando yn astud a'm dwy glust. 'Roeddent i gyd mor gyfeillgar a pharod i wneud cymwynas ac i roi help i'r eneth fach trwy foldio'r toes yn barod i'r popty.

'Roedd gan Mam fwy o ffydd mewn "bara gwaelod" na bara wedi ei grasu mewn tun. Credai fod bara gwaelod yn fwy durol na "bara tun". Rhaid oedd rhoi marc ar fara gwaelod rhag cymysgu'r torthau a thorthau eraill. Ein marc ni oedd R.W.—llythrenau enw Nhad—wedi eu torri â fforc.

Byddai'n ofynnol aros i'r popty fod yn ddigon poeth, er mwyn gweld y toes yn sâff i mewn. Felly cefais lawer cyfle i weld y dull o baratoi at y crasu. Popty o frics oedd wedi ei dwymo yno, â choed. Pan oedd y popty'n ddigon poeth cymerai gwraig y tŷ—popty rac a choes hir iddo a rhaciai'r tân i gyd allan o'r popty. Golchai'r popty'n lân gyda mop goes hir. Wedyn, rhoddai dorth ar y pîl (rhaw bren a choes hir iddi) a'i gwthio i'r popty. Pan fyddai'r popty'n llawn caewyd y drws yn dyn a chraswyd y toes am dair awr. Ceiniog y dorth fyddai'r tâl am grasu.

'Roedd o leiaf bedwar tŷ popty yn nhref Llanrwst yr adeg honno. I dŷ popty Rhobat Jôs yr awn bob amser. Ysywaeth mae cyfnod y Tŷ Popty wedi llwyr ddiflannu. Nid sachaid of flawd Caer neu flawd Double X a brynnir heddiw gan wraig teulu, ond torth siop a phaced o "self raising flour".

Byddai gan Mam a Nain ddiwrnod bob wythnos i bobi bara ceirch. Gwnai Mam ddau fath o fara ceirch-un caled at wneud brwas ac un "meddal" brau i'w fwyta rhwng dwy dafell o fara a menyn (neu frechdan yn ôl enw'r Gogledd) a menyn tew arno ac ar y ddwy dafell, math o sandwich bara ceirch. Dyna yr unig ffordd hyd heddiw y dewisaf fwyta bara ceirch.

'Roedd Mam yn feistres ar wneud bara ceirch.

Y gamp oedd rowlio'r "torthau" mor denau ag yr oedd modd a'i gosod ar y radell heb iddynt dorri. Byddai ganddi rhywbeth tebyg i raw bren, at y gorchwyl o'u troi. Wedi'r "bara" grasu, gosodai ef o flaen y tân i galedu, a thoc, gwelid yr ymylon yn cyrlio heb dorri. Dyna'r gampwaith wrth wneud bara ceirch fel y dylai fod.

Cofiaf fel y byddem pan yn blant yn gofyn dychmygion y naill i'r llall a dyma un: "Beth yw ladi wen lân yn eistedd o flaen y tân". Yr ateb oedd "torth geirch".

Dysgais bobi bara ceirch pan oeddwn yn ifanc iawn a daliais ati tan yn bur ddiweddar. Arferai rhai hen wragedd bobi bara ceirch at werthu. Adwaenwn un, "Meri Jones Bara Ceirch", ond erbyn heddiw, ychydig o ferched sy'n hyddysg yn y grefft Bara ceirch mewn paced, o'r siop, welwn gan fwyaf, dim tebyg i'r bara ceirch tenau brau at ei roi mewn brechdan.

Pan ddigwyddai fy mrawd John a minnau alw mewn ffarm yng nghylch Garn Dolbenmaen y croesaw fyddai powliaid o faidd, bara-ceirch a menyn tew arno a chlamp o ddarn o gaws cartre (a pheth caled fel haearn oedd). Gwlych wedi ei wasgu o'r caws oedd y maidd.

Cofiaf weld pobi bara peilliad (math o muffins) ond ni ddysgais erioed mo'r grefft. Byddai mynd da arnynt. 'Roedd yn ofynol rhoi cylch o haearn ar y radell i grasu y bara peilliad. Gwnai llawer o hen wragedd elw da wrth werthu bara peilliad, yn enwedig yn Sîr Fôn, ac ni phrofais ddim tebyg iddynt erioed.

Byddai John a minnau, pan aethom i'r Garn, yn cael ein gwadd i de neu i swper i dai yn y gymdogaeth. Nid i de neu swper fyddai'r gwadd chwaith, ond i fynd i'r fisit a "gwneud fisit" fyddai'r gwahoddwyr. Ymhob tŷ lle y gwnaed fisit, crempog fyddai ar y bwrdd yn ddieithriad, a'r crempog yn nofio mewn menyn.

'Roedd tŷ bychan wedi ei wyngalchu o tan yr un tô a Phen-y- bont yn y Garn. Credaf mai eiddo Penybont oedd. Yno trigai hen ferch o'r enw Beti Llwyd. Dioddefai Beti Llwyd oddi wrth "y riwmatics", a'i thraed a'i dwylo, ac yn wir ei hwyneb hefyd wedi troi ymhob siap. Er hynny 'roedd ei thŷ bach mor dwt â phin mewn papur. 'Toedd ots yn y byd faint o boen a ddioddefai, byddai bob amser yn siriol ac mewn hwyl, ac yn hynod o ddoniol. Mistar a Mistras a alwai Owen a Margiad Williams Penybont, a meddyliai'n uchel iawn ohonynt. Pan fyddai Margiad Williams yn "gwneud fisit" ym Mhenybont byddai'n rhaid cael Beti Llwyd i wneud "y grempog", ac yn wir 'roedd yn feistres ar y gwaith. Ni phrofais na chynt na chwedyn grempog tebyg. Dyma fel y gwnai Beti Llwyd. 'Roedd yn rhaid curo'r wyau am hydion; gwaith Phena'r forwyn oedd curo'r wyau. Nid oedd prinder wyau yr adeg honno. Yna toddai Beti Llwyd hanner llond dysgl bwdin fawr o fenyn—nid margarin (na national butter), ond menyn ffarm. Nid oedd son am y fath beth a margarin. Wedi'r crasu ar y radell rhoddai Beti Llwyd y grempog dros ei phen yn y menyn, ac yna ar y plât. Mae cof am y grempog honno'n tynnu dŵr o'm dannedd hyd heddiw. Os byddai bachgen neu eneth ifanc yn y fisit rhoddai Beti Llwyd fodrwy yn y grempog, a mawr oedd yr hwyl os byddai'r eneth neu'r llanc yn dod ar ei thraws.

Arferid gwneud llawer o lymru pan oeddwn yn ifanc. Os gwn i oes rhywun heddiw yn ei wneud. Ystyrid ef yn fwyd maethlon iawn. Dyma fel y gwnai Nain lymru. Rhoddai ddŵr oer ar flawd ceirch a'i adael am wythnos neu ragor nes iddo suro. Yna ar ôl ei hidlo, berwai'r dŵr. Nid y gwaddod, sylwch, ond y gwlych, ac wedi ei ferwi am amser, ei dywallt i lestr. Wedi oeri byddai fel jelly, ac yn barod i'w fwyta, gyda llefrith.

Ni fyddai neb yn meddwl gwastraffu hyd yn od y gwaddod. Gwnai Nain frwchan ohono. Dyma'r dull o wneud brwchan: berwi'r gwaddod mewn dŵr nes y byddai'n dew, yna rhoi llond llwy fwrdd dda o driog du ynddo a'i dywallt tros fara mewn powlan. Ni hoffais i erioed mo'r brwchan. 'Roedd yn sur ac yn felys-ond byddai'n rhaid imi ei fwyta.

Bwyd arall fyddai'n gâs gan fy nghalon ei weld ar y bwrdd oedd yr hyn a alwai Nain yn "maidd yr iâr". ('Roedd yr enw yn llawn ddigon). Dyma sut y gwnai faidd yr iâr: rhoi dŵr i ferwi mewn sospan, yna torri un wy (rhwng y plant i gyd) i'r dŵr berwedig a gadael iddo ferwi nes i'r wy ferwi'n llinynau yn y dŵr. Yna rhoi llond llwy fwrdd o driog du i mewn a'i godi ar fara mewn powlan. Pa faeth oedd ynddo, meddwch, i blant ar dyfiant? Ond ychydig allu a feddai Nain i wneud pryd da o fwyd. Mor wahanol oedd i Mam. Er prined y moddion llwyddai Mam i wneud pryd blasus o ychydig ddefnydd. Mae'n siwr fod bwyd llwy yn llawer llai o drafferth i'w baratoi ac hwyrach mai dyma'r rheswm i Nain wneud cymaint ohono pan ddaeth atom ar farwolaeth Mam.

Pan fyddai tymer go dda ar Nain, gwnai fel trêt i ni, yr hyn a alwai'n "dôst Dafydd Jâms". Dyma fel y gwnai Nain y tôst byth gofiadwy. Crasai dafell o fara ar gyfer pob un. Yna rhoddai ddŵr poeth ar lwmp o fenyn, pinsiad o halen, ac weithiau lond llwy de o siwgwr, a thywalltai'r cyfan ar y tôst. A dyna dôst Dafydd Jâms.

Arferai fy nhri brawd ieuengaf fwyta eu cinio canol dydd yn yr ysgol. Gwnai Nain lond piser-dau-chwart o fara-llaeth- enwyn i'r tri, bob dydd, heb ddim amrywiaeth. 'Roedd yn gâs gan y bechgyn weld y piser heb son am fwyta'r cynnwys. O ganlyniad byddai mwy na hanner y cawdal heb ei fwyta, a gwyddent na feiddiant ddod a phiser hanner llawn gartre. Clywais fy mrawd William yn adrodd hanes y bara-llaeth. Er mwyn cael gwared ohono byddent yn mynd gartre o'r ysgol heibio "top y dre" a thrwy "Cae Cottage". Yng ngwaelod y cae ac yn rhedeg wrth ochr y llwybr mae afon fechan, "afon Plas Isa" fel y'i gelwid. Cafodd afon Plas Isa hylldod o fara llaeth Nain bob dydd. Clywodd William Nain yn dweud wrth Betsi Jones Tŷ Pen: "Bobol annwyl, mae'r bechgyn yma'n bwyta, 'toes dim digoni arnynt. Buasech yn synnu gweld y piseraid mawr o fara-llaeth fyddaf yn wneud bob dydd iddynt fynd i'r ysgol a'r piser yn dod yn wâg yn ôl bob tro". Mae'n amlwg fod Nain yn credu fel Tomos brawd Meri Ann fod "bara-llaeth yn beth llesol iawn, ac yn rhad".

Pe buasai Nain yn fyw heddiw, ni fuasai na "Rations" na "Points" na "Queues" yn poeni dim arni. Buasai'n bwydo'r teulu ar fara-llaeth, brwchan a maidd-yr-iâr, a thôst Dafydd Jâms yn drêt.

Dyna fi wedi crwydro ymhell iawn yn ôl i'r gorffennol. Wedi mynd i oed, mae'r demtasiwn i gymharu'r gorffennol pell a'r presennol yn peri i'm pin grwydro. Ond rhaid dod yn ôl i gyfnod y queues a'r points a'r rations, ac ni welaf fawr obaith eu colli, yn fy oes i beth bynnag. Daw amser mae'n siwr pan y bydd cyfnod y prinder a'r rheolau a'r dogni wedi mynd heibio. Gobeithiaf y bydd meddwl dyn yn ogystal a'i gorff, y pryd hwnnw, yn rhydd o'r ysbryd dogni. Dwedodd gŵr o'r Unol Daleithiau wrthyf, "You are getting too queue-minded in your country". Dyna aflwydd y cynffonna yma bob amser onide!

Nodiadau

[golygu]