Siaced Fraith/Diwrnod Egsam
| ← Sion Catrin | Siaced Fraith gan Elizabeth Williams |
→ |
PENNOD XIV
DIWRNOD EGSAM
CLYWIR llawer o son heddiw am galedi ag anhegwch y drefn bresennol o arholi plant unarddeg oed bob blwyddyn. Brithir y papurau newydd ag erthyglau a llythyrau i geisio dangos faint y gosp ar y plant ac ar yr athrawon. Ni allaf lai na gwenu wrth gofio y baich a osodid ar ysgwyddau plant ac athrawon yn fy oes i. Nid un egsam ar derfyn cwrs addysg elfennol, ond egsam bob blwyddyn, i bob dosbarth ac i bob oedran, hyd yn oed y babanod. Nid tynged y plant oedd yn y fantol yn gymaint, ond tynged a chyflog pob athro. "Payment by results" oedd y drefn, a byddai gwaith caled blwyddyn ymhob dosbarth yn cael ei fesur mewn diwrnod o egsam a'i bwyso'n unig yn ôl mympwy yr Inspector. 'Roedd yr Inspector fel rhyw dduw bach, a dyfodol a chymeriad pob athro yn ei law. Nid oedd rhyddid i athro nac i brifathro ddewis pynciau yr ysgol na'r rhaglen. Yr oedd rhaglen swyddogol i bob gwaith a rhaid oedd cadw ati.
Na, ni wyr nac athrawon na phlant yr oes hon mo'u geni! Agorais fy llygaid y dydd o'r blaen wrth ddarllen cyfieithiad o bapur Czec. Ymddengys fod yr hen drefn felltigedig o payment by results mewn bri heddiw y tu ôl i'r llen hearn.
Y mae hyn oll yn dwyn i'm cof un diwrnod egsam arbennig yn fy hanes, yn ysgol fach Cwm Pennant, diwrnod nad wyf wedi ei anghofio hyd heddiw. Ond, cyn i mi son am yr egsam, gwell fyddai i mi nodi braslun o'r cefndir.
Pan aeth John fy mrawd yn brifathro i ysgol y Garn a minnau yn Pupil Teacher yno, nid oedd ysgol yng Nghwm Pennant. Deuai'r plant i Ysgol y Garn, rhai ohonynt o Blâs Pennant o ben pella'r Cwm, dros Fwlch y Bedol, bob dydd, ar bob tewydd, a golwg dda oedd arnynt. Ond buasai rhieni yr oes hon yn gwaredu rhag y syniad o gerdded y fath bellter i'r ysgol. Mae dwy neu dair milltir heddiw yn ormod. 'Roedd Cwm Pennant yn lle pur fywiog yr adeg honno. 'Roedd amryw chwareli bychain yn mynd yn dda, yn enwedig chwarel fel y Moelfre ar Hendre Ddu, a thair neu bedair ymhen draw y Cwm. 'Roeddd yno hefyd lawer o ffermydd. Felly, cynyddai rhif y plant bob blwyddyn. O'r diwedd teimlwyd gan aelodau'r Bwrdd Ysgol fod y plant lleiaf yn cael ei hamddifadu o fanteison addysg gan fod ysgol y Garn yn rhy bell iddynt. Penderfynwyd adeiladu ysgol fechan yn y Cwm, ac i blant Bethel a Cholan fynd yno yn hytrach nac i'r Garn. Yr oedd, felly, rif boddhaol iawn yn yr ysgol. Ysgol un ystafell oedd, wrth gwrs, a phob oedran o'r babanod i fyny, ynddi.
Pan oeddwn ar fy mlwyddyn olaf fel Pupil Teacher bu rhyw ddrwgdynnu rhwng ysgolfeistr ysgol Cwm Pennant a'r wraig a arferai fynd yno i ddysgu gwnio i'r genethod. Gwraig o'r ardal oedd, heb ddim addysg. Ni wn beth oedd achos yr anghydwelediad, ond aeth y wraig ar streic chwech wythnos cyn yr egsam. Gofynnwyd i John gan y Bwrdd Ysgol fy rhyddhau ddwywaith yn yr wythnos i fynd i ysgol Cwm Pennant i ddysgu gwnio hyd at ddiwrnod yr Egsam. Ac felly y bu. Am chwech wythnos cerddwn dros Fwlch y Bedol ar bob tywydd. Gwyr trigolion y Garn beth a olygai cerdded dros y Bwlch. Rhaid dringo'n galed o waelod gallt y Garreg Gron. Gyda llaw, y mae sôn am allt y Garreg Gron yn dwyn i'm cof stori am ymdrech rhwng Hugh fy mrawd, pan oedd yn Bupil Teacher ifanc yn y Garn, a mul Owen Williams, y Siop, Penybont. Fel y dwedais yn Brethyn Cartref yr oedd yn ofynnol i siopwyr y Garn gadw mulod i gario pynnau o flawd i'r ffermydd ar lechwedd Bwlch Bedol. Un diwrnod gofynnodd Owen Williams i Hugh wneud cymwynas ag ef. Yr oedd y bachgen a arferai fod gyda'r mul wedi mynd ar neges arall, a chan fod angen pwn blawd, heb oedi, ar fferm fechan ar lechwedd y Bwlch, a fuasai Hugh yn tywys y mul yno? Cydsyniodd Hugh ar unwaith, ac i ffwrdd ag ef a'r mul yn dalog nes cyrraedd gwaelod gallt y Garreg Gron. Yno yr oedd dwy ffordd y gellid eu dilyn, sef un yn mynd yn syth i fyny'r allt, a'r llall yn fwy cwmpasog o lawer ond a llai o lawer o ddringo ar hyd-ddi. Penderfynodd Hugh mai gallt y Garreg Gron fyddai'r ffordd hwylusaf ac y buasai ef a'r mul yn cyrraedd y fferm yn llawer cynt ar hyd honno. Ond nid oedd y mul o'r un farn. Pan ddeallodd fod Hugh yn bwriadu. dringo'r allt, safodd yn stond a'i ddau droed blaen ar led. Gwrthododd yn bendant fynd gam ymhellach er i Hugh dynnu yn y ffrwyn a'i guro a'r ffon, a'i wthio o'r tŷ ôl gymaint ag a allai. 'Doedd dim yn tycio. Ni symudai'r mul yr un fer. Ni wyddai Hugh beth i'w wneud, ond penderfynodd geisio perswadio'r mul i fynd ar hyd y ffordd arall. Pan ddeallodd y mul fod Hugh wedi dewis yr ail ffordd, cychwynnodd ar unwaith ac aeth fel yr oen ar hyd y daith. Yr oedd yr hen ful yn gallach na Hugh. Yr oedd wedi penderfynu nad oedd am chwysu i fynd ar hyd gallt mor serth, ac yn wir yr oedd yn llygad ei le. Hen allt ofnadwy yw gallt y Garreg Fron, hynod o serth a charegog.
Ond rhaid oedd i mi ei dringo i fynd i ysgol Cwm Pennant. Wedi cyrraedd pen yr allt oedd ffordd drol trwy ddau gae a dau lidiart haearn. Wedi mynd trwy'r ail lidiart yr oedd y ffordd yn y troi heibio Bryn Eithin. Gadawn y ffordd yn y fan yma, gan droi ar y dde ar hyd hen lwybr brwnt a thros greigiau. Wrth gofio fel y byddai teulu Caer Amos yn cerdded y llwybr ar nosweithiau tywyll y gaeaf methaf ddeall sut y gallent ei ddilyn. Mae'n debyg eu bod mor gynefin ag ef nes ei gerdded bron yn reddfol. Nid oedd neb yn fwy selog yn y capel ac ymhob cyfarfod arall yn y Garn.
Cofiaf fod dwy wal uchel ar draws y llwybr i gadw'r defaid rhag crwydro i lawr o'r mynydd. Byddai ystolion haearn i ddringo dros waliau. Wedi cyrraedd chwarel y Moelfre yr oedd ffordd drol i lawr goriwaered serth i waelod y Cwm, dros Bont y Gyfyng ac i'r ysgol. Cymerai'r daith cryn dipyn o amser i mi, ac yr oedd rhaid cychwyn o'r Garn yn fore iawn. i mi unwaith gyrraedd pen gallt y Garreg Gron, ni chofiaf i mi erioed gyfarfod yr un enaid byw ar y ffordd. Cerddwn mewn byd lle nad oedd ond myfi a'r defaid, ond ni ddaeth i'm meddwl erioed deimlo'n ofnus. Ar dywydd braf ni theimlwn y daith yn faich, ond gwahanol iawn y teimlwn ar dywydd garw. Byddai meddwl am y ffordd gartref ar ddiwedd y pnawn yn gosb.
Ac yn awr deuaf at ddiwrnod yr Egsam. Pan ddeffroais y bore hwnnw, gwelwn mai diwrnod anlwcus oedd o'm blaen. Yr oedd yn ddiwrnod stormus iawn, y glaw yn tywallt yn ddidrugaredd, a'r gwynt yn chwythu ac yn chwibanu. Syrthiodd fy nghalon i'm esgidiau wrth feddwl am ddringo dros Fwlch y Bedol. Ond rhaid oedd mynd. Ni chefais erioed siwrnai mor galed. Bu i'r gwynt fy nhaflu fwy nag unwaith, a phan gyrhaeddais yr ysgol yr oeddwn yn wlyb fel dafad, fel y dywedir.
Yr oedd y plant yno'n barod, yn eistedd yn y desgiau yn ddistaw fel llygod, ond golwg oer, rynllyd oedd arnynt oherwydd y gwlybaniaeth. Yr oedd arogl annymunol drwy'r ystafell yn codi o'r cotiau gwlyb yn sychu'n bentwr o gwmpas y tân. Mae'n ymddangos fod yr ysgolfesitr wedi anfon rhai o blant Bethel a Golan adref, gan fod y creaduriaid bach mor wlyb a phe buasent wedi eu trochi yn yr afon. Buasai'n greulondeb eu cadw drwy'r dydd yn yr ysgol yn y fath gyflwr, heb son am gwestiwn iechyd. Heblaw hyn, gan fod afon Dwyfor yn rhedeg hyd waelod y Cwm, ochr yn ochr a'r ffordd, yr oedd perygl iddi lifo dros ei glannau i'r ffordd a rhwystro i'r plant gyrraedd eu cartrefi. Yn ddiamau, ni allai yr ysgolfeistr wneud yn wahanol i'r hyn a wnaeth.
A dyna lle yr oeddym, y plant a minnau yn wlyb ac yn rhynnu; dim i'w wneud ond aros i'r Inspector gyrraedd. Cofiaf wrando ar sŵn y cloc yn tician, a'r gwynt a'r glaw yn chwipio yn erbyn y ffenestri ac yn ysgwyd y drws. Toc dyma'r gŵr mawr yn cyrraedd,—William Williams, yr Inspector, a'i gynorthwywr, rhyw Mr. Jones. Ni chofiaf i mi erioed weled William Williams mewn tymer dda, hyd yn oed ar ddiwrnod heulog, ond y tro hwn yr oedd yn flin fel caclwm. Yr oedd ef a Mr. Jones wedi dod bum milltir ar hyd y ffordd fawr o orsaf Bryncir, mewn cerbyd agored, drwy ganol y glaw a'r gwynt, ac yr oedd yn barod i ddamnio pawb a phopeth o'r foment y daeth drwy'r drws. Pan ddeallodd William Williams fod yr ysgolfeistr wedi anfon rhai o'r plant adref, collodd y gweddill o'i dymer a thywalltodd ei gynddaredd ar ben yr ysgolfeistr druan am y trosedd ofnadwy, a hyn o flaen y plant i gyd. Er nad oeddwn i yn edmygydd o'r ysgolfeistr (a dweud y lleiaf), 'roedd fy nghydymdeimlad i gyd o'i blaid. Ni feiddiodd achub ei gam; 'roedd ganddo, fel llawer ysgolfeistr arall, ormod o ofn gallu yr Inspector i ddifetha ei ddyfodol fel athro. Gadawodd i'r storm chwarae o'i gwmpas.
Fel y gellid meddwl, yr oedd clywed yr Inspector yn rhoddi gwers mor hallt i'r ysgolfeistr, ag yntau'n ddistaw, wedi effeithio ar y plant a'u gwneud yn fwy nerfus nac erioed. Felly, nid oedd rhagolygon da iawn am Egsam lwyddiannus.
Toc daeth fy nhro innau i fynd drwyddi gyda'r gwaith gwnio. Gwyddwn yn eithaf da nad oedd gwaith y genethod wedi cyrraedd y safon, ond gan nad fy mai i oedd hyn, ni hitiwn beth a ddywedai'r Inspector. Gwyddwn y torrai'r storom am fy mhen, ond nid oeddwn i am ddal fy nhafod. Fel y dwedais mewn man arall, nid oedd merched wedi eu penodi'n Inspectors y pryd hynny. Yr oedd William Williams yn hollwybydol ac yn mesur a phwyso hyd yn oed gwaith llaw y babanod, a gwaith gwnio y genethod. Gwelais ef un tro yn cosbi gyda "black mark" blentyn bach yn nosbarth y babanod am iddi ffaelu cael edau i'r nodwydd ar un tro, "Look at that child; she actually took three pushes to get the thread in, instead of one"!
Fel y disgwyliais, torrodd yr argae ar fy mhen. Gwelodd fai ar bopeth. Cefais ddigon o wroldeb i ateb yn ôl, a dweud mai llanw bwlch yr oeddwn ac nad oeddwn yn gyfrifol o gwbl am safon y gwnio. Ni effeithiai fy ngeiriau ddim arno. Ni wrandawai a daliodd i daranu ac i gondemnio'n hallt.
Bu diwrnod egsam ysgol Cwm Pennant yn ddiwrnod pwysig yn fy hanes. Fel y dywedais eisioes, yr oeddwn yn y bumed flwyddyn, a'r olaf, o'm prentisiad fel Pupil Teacher, ac ers tro wedi bod yn chwarae â'r syniad o fynd ymlaen fel athrawes. Yr oedd llawer o resymau o blaid ac yn erbyn hynny. Cawn fynd i'r Coleg, ac yr oeddwn yn hoff o blant, ond, buasai gennyf egsam galed pob blwyddyn cyn cyrraedd y Coleg. Nid oedd ryddid i wneud dim mewn dosbarth ond yn ôl rhaglen swyddogol. Gwaeth na'r cwbwl, dibynnai cymaint ar fympwy Inspector. Pan gychwynnais o'r Garn fore'r Egsam, nid oeddwn wedi penderfynu dim, ond gwnaeth Egsam ysgol Cwm Pennant, y diwrnod bythgofiadwy hwn, fy meddwl i fyny yn derfynol. Penderfynais nad oedd yn werth, o dan yr amgylchiadau, ddilyn ymlaen fel athrawes funud yn hwy. Ceisiodd John fy mherswadio trwy bob dull a modd, ond yr oeddwn fel mul Owen Williams y Siop, 'doedd dim symud arnaf. Bûm yn dyfalu lawer gwaith sut adroddiad a roddodd William Williams ar yr Egsam honno. Synnai'n fawr, mae'n siwr, pe bai wedi deall ei fod y diwrnod hwnnw wedi penderfynu llinell fy mywyd Bûm yn dyfalu fwy nag unwaith beth fuasai llinell fy mywyd pe bai diwrnod Egsam Ysgol Cwm Pennant wedi bod yn ddiwrnod o haul braf, a'r Inspector mewn tymer da ac yn llawn caredigrwydd tuag at athrawon yn gwneud eu gorau. Ys gwn i?
Ymhen blynyddoedd lawer ar ôl i mi briodi a gadael y Garn, a'm dwy ferch wedi tyfu i fyny, aethom ein tair ar ymweliad â'r hen ardal un haf. Daeth fy mrawd William atom, ac yr oedd Hugh yno'n byw eisoes.
Penderfynwyd un diwrnod gerdded i Gwm Pennant ar hyd yr hen lwybr a gerddais i Ysgol Cwm Pennant. Dyma gychwyn selog. Wedi dringo allt y Garreg Gron ac yna mynd trwy'r ddau lidiart haearn, a pharatoi i droi am yr hen lwybr fel arfer, er fy syndod, nid oedd llwybr i'w weld. Er chwilio'n fanwl nid oedd cymaint ag olion yr hen lwybr ar gael. Sylwais ymhellach fod yr ystolion haearn i fynd dros y wal wedi diflannu, ac eithin pigog ar ben y wal. Er ein siomedigaeth rhaid oedd sylweddoli nad oedd yr hen lwybr mewn bod mwyach. Nid oedd dim i'w wneud ond troi'n ôl a dilyn y ffordd heibio Cwm Eithin a thros y Bwlch. Nid oeddwn erioed wedi dilyn y ffordd o'r blaen. Yr oedd mor gwmpasog fel ac i wneud y siwrnai yn hwy o'r hanner.
Wedi cyrraedd pen ucha'r Bwlch sylwn fod y ffordd drol yn mynd ymlaen heibio fferm y Gilfach, yn uwch o dipyn i fyny'r Cwm nag yr oeddym wedi bwriadu myned. Tybiodd William y buasem yn dod at y Moelfre'n lled rwydd pe baem yn torri ar draws rhai o'r ffriddoedd. Ond, Ow! bu'n rhaid cyfaddef cyn bo hir ein bod wedi colli'r ffordd yn lân, ac er dringo dros waliau uchel a cherdded trwy'r corsydd, nid oedd olwg ar y Moelfre. Yn ffodus, daeth bachgen bach o fferm gyfagos atom. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi deall ein penbleth, a bu'n brysur yn dangos y llwybr heibio'r Moelfre. Yn naturiol, yr oeddym wedi blino. Wedi'r cwbwl, 'roedd William a minnau dros ein pedwar ugain oed ac nid oeddym yn llawn mor ystwyth ac y buom i ddringo gelltydd a thros waliau. Eisteddasom am ysbaid i orffwys ac i fwynhau'r olygfa hardd. Credwch fi, nid yw'r dieithriaid sydd yn mynd mewn moduron ar hyd llawr y Cwm yn gweld ei harddwch fel y gwelsom ni ef o ben y Moelfre. Oddiyno gwelir y Cwm bron ar ei hyd.
Bu llawer iawn o gyfnewidiadau yn y Cwm er pan fûm yno o'r blaen, lawer o flynyddoedd yn ôl. Nid oedd gymaint ag un chwarel yn aros o'r cyfan. Bu'n rhaid eu cau'n raddol fesul un, gan fod cludo'r llechi o'r Cwm i Borthmadog wedi troi'n rhy gostus. Gwelwyd fod llawer o'r ffermdai wedi mynd a'u pen iddynt a'r tir yn cael ei ddal gan ffermydd eraill. Yr oedd rhif plant y Cwm a'r gymdogaeth wedi disgyn yn gyson o'r herwydd o flwyddyn i flwyddyn a daeth adeg pan nad oedd yno ddigon o blant i gynnal ysgol yn y Cwm. Clywais fod blaenoriaid Capel y Cwm wedi ceisio cadw'r hen ysgol fel lle i ddosbarthiadau W.E.A. a chyfarfodydd eraill, ond methu a wnaed, a thrist i mi oedd gweld yr hen ysgol fach yn ddim bellach, ond muriau moelion. Y ffenestri a'r drysau wedi diflannu a'r ystafell yn ddim mwy na lloches i ddefaid rhag tywydd mawr y gaeaf. Dyma fesur trai bywyd gwledig y gornel hon o Gymru. Ar ôl eistedd i fwynhau'r olygfa am beth amser cychwynwyd i lawr y goriwaered serth at waelod y Cwm, tros Bont y Gyfyng ac ar hyd y ffordd i Dŷ'n Llan, lle'r arferai Mrs. Williams wneud te i ddieithriaid. A chawsom de ardderchog yn y gegin orau, digon o fara 'menyn gwyn a bara haidd, bara ceirch a bara brith, a 'menyn ffarm yn dew arno. Fel y gellwch dybio, gwnaethom gyfiawnder â'r wledd ar ôl y daith hir.
Mae'n rhaid fod Tŷ'n Llan yn bur hen. Y mae cegin groes wedi ei hadeiladu ar dalcen y tŷ ffarm-"cegin y dynion" fel y'i gelwid. Mae'n amlwg nad oedd y gegin groes yn gyfleus iawn ; yr oedd yn ofynnol mynd allan o'r tŷ iddi ar bob tywydd. Felly torrwyd math o dwnel trwy'r mur o ymyl y tân o'r gegin orau i'r gegin groes, ac y mae'r mur hwnnw tua thair llath o drwch a'r twnel tua llathen o led.
Ac yn awr rhaid troi cefn ar yr hen Gwm, a cherdded ar hyd llawr y Cwm trwy Ddolbenmaen ac yn ôl i'r Garn. Dyma'r tro olaf i William, Hugh a minnau wneud y daith gyda'n gilydd. Nid oeddwn i fy hun wedi cerdded dros y Bwlch ers ymhell dros dair blynedd a thrigain. Gwyddwn na ddringwn mwyach i ben y Moelfre, ac wrth ddweud ffarwel iddo y diwrnod hwnnw, a'i adael yn ei harddwch a'i unigrwydd, daeth i'm cof eiriau Eifion Wyn:
Pam, Arglwydd y gwnaethost
Gwm Pennant mor dlws,
A bywyd hen fugail mor fyr"?