Siaced Fraith/Dychymyg
| ← Gwreiddiau'r Presennol | Siaced Fraith gan Elizabeth Williams |
Hwyl Cefn Gwlad → |
PENNOD VII
GWREIDDIAU'R PRESENNOL
EUTHUM ddwy flynedd yn ôl ar ymweliad â'm tref enedigol. Dyma'r tro cyntaf mewn oddeutu deuddeng mlynedd i mi fod yno. Nid yw deuddeng mlynedd ond byr amser yn hanes hen dref, ond gwelais lawer yn newydd ynddi hyd yn oed ar ôl cyfnod mor fyr. Ehedodd fy meddwl yn ôl tros y blynyddoedd, at adeg fy nyddiau ysgol, rhyw bedwar ugain o flynyddoedd yn ôl, a gwelwn ddarlun o'r hen dref fel y cofiaf hi gyntaf. Medd- yliais am y newid a welodd yn ystod y cyfnod hwn, a sylweddolais yn sydyn fod talp mawr o hanes yr hen dref, ei thai, ei masnachdai, ei chrefftau, ei theuluoedd, ei harferion, ei ffurf o fyw, i raddau helaeth iawn yn aros yn unig yng nghof rhai o'm cenhedlaeth i.
Sylweddolais ymhellach fod hyn yn wir am bob hen dref gyffelyb ar hyd a lled Cymru, ac os na fydd ymdrech i gasglu a chofnodi popeth a berthyn i hanes ein hen drefi, aiff yn rhy hwyr. Mae patrwm oes y machine a'r multiple shops, yn brysur yn gosod unffurfiaeth ar bob tref ym Mhrydain.
'Rwyf am geisio rhoi cip olwg ar un hen dref fel yr oedd—Llanrwst-hen dref marchnad ar lan afon Gonwy.
Canolfan y dref yw y "Sgwar", gyda'r Town Hall yn y canol. Fel y cofiaf y "Sgwar" gyntaf, 'roedd yn hwy, tebycach i oblong. Ar gornel chwith yr oblong, y gornel y tu cefn i'r Town Hall, 'roedd palmant llydan wedi ei balmantu â cherrig crynion. Y tu ôl i'r palmant 'roedd tŷ tebyg i'r hen Tŷ Hwnt i'r Bont sydd 'nawr yng ngofal y National Trust. Adwaenwn y tŷ fel "Tŷ ladis Titla". Ar y gornel gyferbyn, ar y llaw dde, 'roedd palmant cyffelyb, bron yn sgwar fach ei hun, a dwy siop ar ddwy ochr y gornel. 'Roedd palmant o gerrig crynion yno hefyd. Ar ddiwrnod marchnad a ffair byddai'n llawn o ferched o'r wlad a basgedi o wyau, menyn a chywion ieir i'w gwerthu.
Yr un ochr i'r sgwar a thŷ ladis Titla, 'roedd dwy siop. 'Roedd top yr adeilad yn taflu allan dros y palmant a physt o dderw du i'w dal i fyny. Dyna pam y gelwid hi'n Siop Tan y Pendist. Wrth gwrs cof prin iawn sydd gennyf am yr hen Dan-y-Pendist fel yr oedd yn y cyfnod pell hwnnw.
Cofiaf yr hen siop druggist un ochr i'r Sgwâr—a'r ffenestr hen ffasiwn yn taflu allan, a'r gwydr fel gwydr tew potel. Yn y ffenestr byddai dwy botel fawr wydr, a gwaelod llydan iddynt; un o liw coch, a'r llall o liw gwyrdd-las. Mewn potel lydan a dŵr ynddi, cadwai y druggist amryw o gelod. Âi aml i hen wraig yno am ddwy neu dair o'r gelod i roi ar rhyw glaf fyddai'n dioddef gan anhwylder allanol. Cofiaf weld hen wraig yn rhoi gelod ar wddf dyn oedd yn diodde oddi wrth "Glwy'r Brenin" (scrofula). Pan 'roedd y gelod wedi sugno digon, gollyngent eu gafael gan ddisgyn yn swrth, a'r hen wraig yn eu rhowlio mewn halen nes cael y gwaed allan ohonynt, cyn eu rhoi yn ôl yn y botel a'r dŵr, i gadw.
Yn yr amser cynnar y soniaf amdano, 'roedd Llanrwst yn hynod am rif ei thafarnau. 'Roedd pump ohonynt ar un ochr i'r Sgwâr yn unig. Gyda llaw, o holl dafarndai y dref, ni chofiaf fod mwy nac un ac enw Cymraeg arno! Rhaid dweud fod yma un gwelliant, gan fod mwy na hanner y tafarndai wedi eu cau. Ar ddiwrnod ffair byddai morwynion a gweision y ffermydd i'w gweld yn aml yn eistedd yn ffenestri agored tafarndai'r Sgwâr, yn cael hwyl ac yn edrych ar y mynd a dwad prysur.
Mae y cyfan o'r hen dai a siopau y Sgwâr wedi diflannu. Nid oes, heddiw, ddim o hynodrwydd yn aros yn y Sgwâr—dim yn hŷn na'r Town Hall.
Dyma hen adeilad arall, sydd mewn bod yn y dref, ond o'r golwg—yr hen ysgol Rad un-ystafell. Gorchuddiwyd hi gan ystafelloedd newydd yr Ysgol Sir, ac yna yr erys, a'i waliau llydan, gyda'r adeilad newydd o'i chwmpas yn hollol anghydweddol. Gwaeth na'r cwbwl, gosodwyd dau gargoyle yn perthyn i'r hen ysgol, uwch ben drws ffrynt adran y genethod yn yr adeilad newydd. Dyma elwid yr Ysgol Ramadegol—yr Ysgol Rad—a sefydlwyd hi gan John Wyn o Wydyr.
Cofiaf yn dda fel y byddai bechgyn yr "Ysgol Britis" yn gweiddi ar ôl bechgyn yr Ysgol Rad.
"Ysgol Rad, Ysgol Ddrud
Ysgol sala yn y byd".
Daw sôn am yr Ysgol Rad i'm cof yr hen Honours Board, yn yr hen ystafell, ac yno, hyd heddiw, ceir enwau meibion hen deuluoedd yn ymddangos ymhob cenhedlaeth drwy'r cyfnod er agoriad yr ysgol. Pwy yn yr ysgol heddiw a ŵyr beth oedd cysylltiad yr enwau a'r ardal?
Bu cysylltiad hen deulu Gwydyr a'r dref yn dal ar hyd y canrifoedd. 'Roedd cysylltiad, drwy deuluoedd Ancaster a Carrington, yn dal hyd yn gymharol ddiweddar. Pan briodais, ac yn byw unwaith eto yn yr hen dref, byddai yr Arglwydd Carrington yn dod yn aml i'r castell, a llawer pendefig pwysig gydag ef, a byddai'n derbyn ac yn rhoi croesaw cynnes. Cofiaf, un tro, iddo ddod a'r Duke a'r Duchess of York (George V a'r Frenhines Mary yn ddiweddarach).
Gwahoddwyd côr y dref i ganu yn y castell, i ddiddori'r pâr ifanc. Cofiaf y noson yn dda. 'Roedd y pendefigion ar ôl cinio mewn ystafell fawr uwchben, a'r côr yn canu mewn ystafell islaw. Mae'n debyg i'r gwrandawyr fwynhau canu un gân yn arbennig. Ni allwn lai na meddwl wrthyf fy hun, mai ffodus oedd na ddeallant y geiriau. Ni fuasent yn teimlo'n llawn mor gyfforddus pe baent yn deall ein bod yn canu y dôn "Dies Irae" ar y geiriau
"Duw mawr, pa beth a welaf draw,
Diwedd a braw yr hollfyd".
Ar ddiwedd y canu, daeth Arglwydd Carrington i lawr i gyrchu arweinydd y côr a'i gyflwyno i'r teulu brenhinol. Daeth y pâr ifanc i lawr at y Côr. Cofiaf yn dda wisg y Duchess— gŵn o satin pinc, ac yr oedd ganddi fand llydan—(dog-collar fel y'i gelwid) o berlau gwych am ei gwddf. 'Roedd ei breichiau a'i hysgwyddau'n noeth, wrth gwrs, er mawr syndod un aelod o'r côr. "Diar annwyl", meddai, "wyddwn i erioed o'r blaen y byddai merched yn gwisgo fel yna".
Trist meddwl fod yr hen gysylltiad â theulu Gwydyr wedi mynd, a'r unig gysylltiad sydd yn aros yw, hen ystafell yr Ysgol Rad, yr hen elusendai a Chapel yr hen Eglwys.
Beth am yr hen grefftau? Mae llawer sôn heddiw am ad-newyddu hen ddiwydiannau cefn gwlad. Mae llawer ohonynt wedi diflannu. Cofiaf am grefft a masnach sydd wedi mynd dros gof ers llawer dydd yn yr hen dref.
Cofiaf am Theophilus Davies, gwneuthurwr clociau wyth-niwrnod. Ni feddyliai neb fod tŷ wedi ei ddodrefnu'n briodol heb gloc mawr, a byddai clociau Theophilus Davies ac eraill yn fawr eu bri. Mae cloc mawr fy mam a nhad, yn awr o leiaf yn gant ac ugain oed, gennyf, ac y mae'n mynd, yn tipian ac yn taro cystal ac erioed. Cofiaf ers pan gofiaf ddim, mai un o ddyletswyddau Nhad ar nos Sadwrn fyddai weindio'r hen gloc. 'Roedd yn ddeddf y Mediaid a'r Persiaid.
Cofiaf farchnad sanau Llanrwst. 'Roedd y dref yn ganolfan masnach sanau pur bwysig. Byddai gwerthwyr y sanau yn sefyll ar y Bont Fawr ac ar hyd y wal ar ochr ffordd Stryd y Bont. (Gyda llaw, collwyd yr enw Cymraeg erbyn heddiw). Byddai llawer iawn o hen wragedd "ar y plwy" yn gwau sanau i'w gwerthu i'r dyn sanau. Ni chofiaf enw y dyn sanau, ond cofiaf ei weld lawer gwaith. Dyn tal, llydan o gorff oedd. Byddai ganddo ddwsinau o barau sanau yn crogi ar ei fraich chwith. Ai at un hen wraig ar ôl y llall i brynu. Arferai un Nain i mi wau llawer i ddyn y sanau. 'Roedd yn byw ym mhen uchaf Llanrhychwyn, a deuai i lawr i'r dre bob diwrnod march- nad a ffair, dan wau ar hyd y ffordd yn ôl a blaen. Deuai i'n tŷ ni i gael te a chofiaf fel y byddai'n clician y gweill wrth wau. Bûm lawer gwaith yn ceisio clician y gweill fel Nain, ond ni lwyddais erioed.
Ceid digon o edafedd cartre yn ffatri Trefriw-edafedd glaslwyd, ac edafedd cochddu'r ddafad, fel ei gelwid, a ddefnyddid i wau y sanau gan mwyaf.
Mae meddwl am ei gwau yn dwyn i'm meddwl beth y clywais hi yn ei ddweud lawer gwaith wrth Mam—"Rhaid i mi fynd, wel di, mae'r brain yn dew hyd y caeau" (arwydd oedd, mae'n debyg, o dywydd mawr heb fod ymhell).
Mae'n amlwg oddi wrth hen luniau o'r afon, y bu gwneud cwrwgl yn grefft gyffredin yn yr ardal. Ond ni welais i erioed ond un dyn yn meddu ar gwrwgl. 'Roedd dyn o'r enw "Doctor Bens" yn byw yn yr hen Tŷ Hwnt i'r Bont. Nid oedd yn ddoctor, ond dyna y gelwid ef. Gwelais ef lawer gwaith yn cario cwrwgl ar ei gefn, yn union fel y gwelir heddiw yng Ngheredigion.
Dwedais fod yn drist meddwl am ddiflannu yr hen gysylltiad a Gwydyr. Trist hefyd yw gweld colli pob golwg ar yr hen Bowling Green hyfryd i fyny drwy'r coed uwch ben y Castell. 'Roedd yn lecyn hardd, y glaswellt fel melfed, seddau cerrig ymhob pen, ac wedi ei amgylchynu a chewri o brennau pin-wydd a larwydd. Am genedlaethau bu'n arferiad ar ddydd Gwener y Groglith i blant y dref dyrru i'r Bowling Green i fwyta hot-cross-buns. Erbyn heddiw, diflannodd y cewri coed, diflannodd y melfed gwyrdd. Nid oes ond y fan a fu, yn guddiedig tan y drain a'r dryswch. Yr un modd yr hen ffordd drol heibio'r Bowling Green dros ysgwydd y bryn i Lyn y Parc. Bûm yn ei cherdded ddwsinau o weithiau ers talwm. 'Roedd golygfeydd godidog oddiyno. Nid oes olwg heddiw ar yr hen ffordd ramantus—dim ond anialwch o ddrain a mieri.
Dywedir fod gwraidd y presennol yn cyrraedd i lawr ymhell i'r gorffennol. O sefyll heddiw yn Sgwâr fy hen dref enedigol, anodd gweld pa le y mae'r gwraidd. Crwydro ar yr wyneb mae cymaint o dyfiant yr oes hon. Pawb mewn brys a llawer yn credu mai anwybyddu'r gorffennol yw y ffordd at ffyniant. Eto, o'r gwraidd y daeth y maeth, ac o wybod ystyr ein gorffennol y daw y ffyniant gorau.
Mae i bob hen dref, i bob hen Ysgol Rad, i bob ardal yng Nghymru drysor hanes a thraddodiad, ond eu ceisio. Nid yn unig hen arferion a diwydiannau, ond hen enwau, hen ffyrdd, hen ddywediadau. Dyma gyfle godidog i ieuenctid Cymru, yn yr ysgol neu yn eu diddordebau y tu allan i'r ysgol, i gasglu ac i gofnodi y cwbl sydd eto ar gael am hanes eu hardal. Mae gennym Amgueddfa Genedlaethol, mae'n wir—ond Amgueddfa ymhob hen dref yng Nghymru sydd eisiau, er mwyn i ieuenctid yr oes hon gael darlun o'r oesoedd a fu.