Neidio i'r cynnwys

Siaced Fraith/Hwyl Cefn Gwlad

Oddi ar Wicidestun
Dychymyg Siaced Fraith

gan Elizabeth Williams

Y Ci, y Gath a'r Iâr

PENNOD IX
HWYL CEFN GWLAD

CEISIR heddiw gynnal math o Noson Lawen yma a thraw, ar batrwm hen Noson Lawen yr oes a fu. Nid yw y gorau ond adlewyrchiad gwan o'r hen Noson Lawen; rhyw hwyl gwneud yw heddiw wedi'r cwbwl. Ni all fod yn ddim arall. Perthyn y Noson Lawen i fywyd cefn gwlad pan nad oedd na'r cyfryngau, na'r moddion, na'r diddordebau sydd heddiw o fewn cyrraedd hyd yn oed y pentref bach mwyaf anghysbell "ym mol y wlad".

Nid oedd mor hawdd ag yw heddiw i weision a morwynion ffermydd gael na'r hamdden, na'r cyfle, na'r man i gyfarfod. Ambell noson ffair, neu adeg Pen Tymor, cydgerdded o'r oedfa nos Sul, neu gyfarfod cystadlu, neu gôr neu gyngerdd, ychydig gyfle yn wir i ferch a llanc gael cwmni ei gilydd. Ond ni ffaelodd ieuenctid erioed a chreu y cyfle rhywfodd, rhywsut! Canlyniad naturiol i'r diffyg cyfle oedd "streicio". Os byddai llanc eisiau sgwrs à merch ifanc, âi at y ffermdy lle'r oedd yn byw, ar ôl i'r teulu fynd i'r gwely; yna lluchiai ddyrnad o gerrig mân at ffenestr ei hystafell wely. Yn fwy na thebyg deuai'r lodes i'r ffenestr i weld pwy oedd yn "streicio" arni. Llwyddai'r llanc yn aml i'w pherswadio i ddod i lawr i agor y drws iddo. Os câi ffafr yn ei golwg câi wadd i'r gegin. Ond rhaid oedd bod yn ochelgar iawn rhag deffro neb.

'Roedd streicio yn arferiad trwy'r wlad pan oeddwn yn byw yn y Garn, ac yn wir roedd yn arferiad yn Sir Fôn yr un cyfnod. Ni welai neb ddim o'i le yn yr arferiad. Clywais ddyn cyfrifol yn dweud fod y dull hwn o gael sgwrs â merch ifanc yn fwy gweddus o lawer na rhyddid i fod hyd y lonydd yn hwyr y nos.

Pan yr oedd W.H. (fy ngŵr yn hwyrach) yn orsaf-feistr ifanc ym Mryncir 'roedd yn gyfeillgar iawn a dau o feibion ffermydd o'r ardal D.J. a J.J. 'Roedd D.J. yn hynod o dal, dros ddwy lath o hyd, a W.H. a J.J. ym gymedrol o ran taldra. Un noson olau leuad yn y gaeaf hudwyd W.H. i fynd gyda'r ddau i streicio er mwyn tipyn o hwyl. W.H. oedd i gael y cynnig cyntaf. 'Roedd ganddo gôt fawr pur laes amdano y noson honno a chan ei fod yn un llawn direidi perswadiodd D.J. i'w gario ar ei ysgwydd "ging gong gafr" fel y dwedai'r plant, ar ôl cyrraedd y ffermdy. Botymodd W.H. y gôt fawr am ben D.J. fel nad oedd ond y darn isaf o'i gorff yn y golwg. Edrychai W.H. yn ddyn aruthrol o dal erbyn hyn, 'roedd yn ddigon tal i guro ffenestr y ferch yn lle lluchio cerrig mân. Toc, daeth y ferch ifanc i'r ffenestr i edrych pwy oedd yno, a phan welodd y fath anghenfil o ddyn sgrechiodd "Wah"! dros y lle nes deffro ei thad. Nid oedd amser i D.J. ddod yn rhydd o'r gôt, nac i W.H. ddisgyn o'i ysgwyddau. Clywsant y tad yn rhedeg i lawr y grisiau ac i ffwrdd a D.J. fel yr oedd, yn carlamu gorau gallai. Pan agorodd y tad y drws gan feddwl dal y troseddwr, safai wedi ei syfrdanu. "'R Israel fawr", meddai, "O ble'r andros daeth y diawl yna"?, mewn dychryn mawr; a pha ryfedd. 'Roedd golwg rhyfedd ac ofnadwy ar y ddau gyfaill. Y gôt fawr, wedi ei hanner ddatod erbyn hyn er mwyn i D.J. weld y ffordd, yn fflapio o'r tu ôl wrth iddo redeg, ac yn ymddangos yn y nos fel cynffon anferth. Tybiodd y ffarmwr mai doethach fyddai mynd i'r tŷ a chau y drws na mentro allan. Yn y cyfamser 'roedd J.J. wedi ffoi o olwg y tŷ ac yn ei ddau ddwbwl gan chwerthin.

J.J. oedd i gael y cynnig nesaf ar ôl iddynt fynd yn ddigon pell o'r ffarm gyntaf. Daethant at ffarm arall ac aeth J.J. ati i streicio ar y ferch. 'Roedd y cae heibio un talcen i'r tŷ yn uwch na'r tŷ, a llwybr yn arwain i ben y cae. Llwyddodd J.J. i gael y ferch i ddod i lawr ac agor ffenestr y parlwr, a dyna lle 'roedd J.J. a'i hanner i mewn yn y parlwr ac wedi cael gafael ar ddwy law y ferch a'r ddau'n cael hwyl dda. 'Roedd D.J. a W.H. wedi cerdded i fyny'r llwybr ac yn gweld J.J. yn aros yn hir. "Mae'n hir ofnadwy", meddai D.J.; "Ydi", meddai W.H. "ac mae'n oer iawn yma ; wela'i ddim golwg i'r sgwrs ddarfod, chwaith. Mae'n cael gormod o hwyl". "Rhoswch chi funud", meddai D.J., "mi symudwn ni o". 'Roedd tâs fawn yn ymyl y llwybr. Daeth D.J. a llond ei freichiau o'r mawn a'i ollwng ar gefn J.J. islaw iddynt. Arferai J.J. chwerthin fel pe bai yn rhedeg o dop y scêl i'r gwaelod, a phan ddisgynodd y mawn ar ei gefn chwarddodd "Ha! Ha"! ar dop ei lais nes deffro'r tad, a bu'n hwyr glas i'r tri ei gwadnu. 'Roedd D.J. erbyn hyn, er yr hwyl, wedi cael digon, ac ni chafodd drafferth i berswadio y ddau arall i roi'r gorau i'r streicio am y noson. Unwaith erioed y cefais i brofiad o streicio. Yn nhŷ'r Ysgol y Garn, lle 'roeddwn yn byw, 'roedd passage rhwng y tŷ a'r ysgol, yn arwain i iard chware y bechgyn. Agorai ffenestr ystafell wely John fy mrawd ar yr iard chware. Un noson, deffrodd John yn sydyn. 'Roedd rhywun yn lluchio cerrig mân at y ffenestr. Cododd, rhoddodd ei sana, ac agorodd y ffenestr a dyna lle 'roedd tri glas lanc. "Be sy'n bod"? gofynnodd John yn gwta. Meddai un yn bur swil: "Meddwl cael sgwrs gyda'r ferch yma 'roeddem". Collodd John ei dymer ac i ffwrdd ac ef allan yn nhraed ei sana ar eu hôl. Ond er fod John yn rhedwr fel milgi 'roedd y llanciau wedi cael y blaen ac wedi ffoi am eu bywyd. A dweud y gwir cawsant fraw pan welsant "y scwl" yn dod i'r ffenestr, er nad oeddynt wedi bod yn ddisgyblion yn yr ysgol. Ni wyddwn i ddim am y siawns a gollais, nes y clywais yr hanes gan John bore trannoeth. A dyna'r tro cyntaf a'r olaf i ddim llanc feiddio dod i streicio arnaf!

'Roedd W.H. wedi profi hwyl y llofft stabal yn nyddiau ei ieuenctid. Dywedai'n aml wrth John pan gyfansoddodd ef a Llew Tegid Aelwyd Angharad, mor debyg oedd y darlun i noson lawen yn llofft stabal Cefn Du Isaf, Sir Fôn. (ond heb y merched wrth gwrs). 'Roedd un gwahaniaeth—byddai dawnsio dawns y Glocsan yn llofft y stabal heb son am ddawnsïau eraill. Yn ôl a ddeallwn dawns debyg i ddawns y cleddyf oedd, ond rhwng dwy gannwyll ar lawr, yn lle dau gleddyf. Dim ond unwaith y gwelais i neb yn ei dawnsio. 'Roeddwn, pan yn wraig ifanc yn y Gaerwen, wedi mynd gyda trip y Côr i'r Traeth Coch, mewn troliau fel arfer wedi eu benthyg am y diwrnod gan y ffermwyr, a gweision i'w gyrru. Gan fod chwaer W.H. yn aelod o'r côr cawsom fenthyg trol Dinam a Tom Bach y gwas i yrru. Daeth yn wlaw mawr cyn inni gyrraedd Traeth Coch a daliodd i fwrw ar hyd y dydd, felly 'toedd dim i'w wneud ond mynd yn syth i'r tŷ bwyd ac aros yno. Cofiafi rhywun ddod i achwyn fod Tom Bach mewn tafarn, wedi meddwi ac yn dawnsio dawns y glocsan rhwng dwy gannwyll. A dyma ni yno ar unwaith ac er ei fod yn cael hwyl dda ar y ddawns, meddw neu beidio, gafaelodd fy chwaer-yng-nghyfraith yn ei war a rhoddodd sgytfa iawn iddo, a dyna ddiwedd ar y dawnsio.

Nid yn unig am ddawns y glocsan y cofiaf Tom Bach. Mewn llecyn ar y traeth, ar y ffordd yn ôl i'r Gaerwen, 'roedd tonnen (neu dywod gwyllt fel y'i gelwid gan rai). Gwyddai'r ardalwyr am y lle, ond ni wyddai Tom ac aeth a'n trol ar draws y donen. Dechreuodd y drol suddo'n uniondeg. Ni fu erioed y fath helynt, y merched yn gwaeddi, y dynion yn rhedeg o'r troliau eraill i gario'r merched i ddiogelwch, a phawb mewn stŵr. 'Roedd yn y drol un ddynes fawr dew, y dewaf a welais erioed, ac ni fentrai'r un dyn ei chario allan! Yn y drol y cafodd aros. Tynwyd y ceffylau o'r troliau i gyd ac o'r diwedd llusgwyd trol Dinam, a'r ddynes dew, ar dir sych.

Buasai plant ac ieuenctid yr oes hon yn ddirmygus iawn o drip ysgol Sul mewn trol! Ond yn wir 'roedd mwy o hwyl o lawer i'w gael nag mewn unrhyw drip a gefais mewn tren neu fys yn ddiweddarach.

Collwyd llawer iawn o'r hen storïau "bwgan" fyddai mor adnabyddus 80 mlynedd yn ôl. 'Roedd storiau bwgan yn rhan bwysig iawn o'r noson lawen, ac mae'n sicr fod rhai o'r storïau yn hen iawn. Adroddai W.H. un oedd yn adnabyddus pan oedd ei fam yn ifanc; byddai llanciau'r llofft stabal yn ei hadrodd am y gorau. Dyma hi—

Y Bwgan Coch Bach.

Flynyddoedd yn ôl 'roedd mab i ffarm yn teimlo'n anfodlon ar ei sefyllfa. Penderfynodd geisio ei wella ei hun. Casglodd yr holl arian a feddai a heb ddim ond ffon onnen ac ysgrepan cychwynnodd ar daith. Bu'n teithio am wythnosau, heb lwyddo i wneud lle iddo ei hun. Ai o ffarm i ffarm i letya'r nos a chafodd garedigrwydd yno bob amser. Bu'r ffon onnen yn ddigon yn ei law i'w amddiffyn yn erbyn lladron penffordd. Un diwrnod, ar ddiwedd taith flin, daeth i wlad hollol ddieithr a'r nos wedi ei ddal. Ni welai ond un tŷ mewn golwg yn y pellter. Cyrhaeddodd yno a churodd y drws. Gofynodd i ŵr y tŷ, yn ôl ei arfer, am lety. Dwedodd y gŵr fod y tŷ yn orlawn a'r unig beth a allai gynnig iddo oedd hawl i gysgu mewn tŷ cyfagos, o'r golwg yn y coed. 'Roedd croeso iddo fynd yno. Byddai ef a'r teulu yn treulio y dydd yno felly'r oedd yno dân cysurus, a gallai gael bwyd i fynd gydag ef. 'Doedd ond yn deg iddo ddweud na fynnai neb o'i deulu na'r un o'r gweision gysgu noson yno, gan fod ysbryd yn aflonyddu yno.

"O'r gorau", medd y llanc, "bydd yn dda gennyf letya yno; nid oes arnaf ofn ysbrydion gan na wnes gam â neb erioed".

Aeth ymlaen, trwy'r coed ac i'r tŷ. Mwynhaodd swper ac eisteddodd wrth danllwyth o dân yn myfyrio ar ddigwyddiadau'r dydd. 'Roedd y distawrwydd yn lliniaru ei flinder a theimlai'n hynod o gartrefol. Dyma sŵn! Beth oedd yn curo? Yn y simdde! Dyma lais yn sibrwd "'Rwy'n dod i lawr, 'Rwy'n dod i lawr, 'rwy'n dod i lawr", a'r llais yn tyfu'n uwch, uwch o hyd. O'r diwedd collodd y llanc ei amynedd a gwaeddodd yntau, "Tyrd i lawr ynte, i dy grogi". Ac i lawr o'r simdde daeth dyn bach oddeutu 3 trodfedd o faint, yn goch o'i goryn i'w sawdl— ei esgidiau, ei gap, ei wisg a'i groen yn fflamgoch. ""Toedd raid iti ddim cadw cymaint o dwrw", medd y llanc, "'twyt ti fawr o beth". "Oh", meddai y coch bach, "os ydw i'n fychan, daw dau mwy na mi ar fy ôl". A chyda hyn agorodd y drws a daeth dau ddyn mawr ysgyrniog i mewn yn cario arch-un ymhob pen iddi, a'i gosod ar ddwy gadair.

"Ewch allan nes y galwaf arnoch", meddai'r bychan wrthynt. Yna trodd at y llanc, "Tyrd gyda mi". "Na wnaf", meddai'r llanc. "Tyrd gyda mi", gorchymynodd y bychan eilwaith. "Wel", meddai'r llanc, "rhag iti feddwl fod arnaf dy ofn mi ddof", a dilynodd y bychan. Daethant at risiau yn arwain i fath o seler islaw. "Dôs i lawr", meddai'r Coch Bach. "Nac af, dôs yno dy hun", meddai'r llanc. Gorchmynodd iddo eilwaith. "Na wnaf", atebodd y llanc. "Am y tro olaf 'rwyf yn peri iti fynd i lawr". "O wel", meddai'r llanc, "rhag iti gredu fod arna'i dy ofn, mi âf", ag i lawr ac ef, a'r Coch Bach ar ei ôl.

Wedi cyrraedd y gwaelod dwedodd y bychan, "Gwnest yn gall. Onibai iti ufuddhau buasai dy gorff yn yr arch a buasai diwedd arnat. 'Nawr, côd y garreg yma", ac ufuddhaodd y llanc ar unwaith. O dan y garreg cafwyd cist fawr llawn o aur. "Rwyf wedi disgwyl amdanat am flynyddau," meddai'r Bwgan Coch Bach, "er mwyn unioni cam mawr a wnes. Y fi a'th alwodd yma o dŷ gartre. 'Rwyt i rannu yr aur a'r gŵr a adawodd iti letya yma, ac y mae yntau i roi iti y tŷ hwn a'r tir fferm o'i gwmpas. Felly cei fyw'n gysurus ar hyd dy oes. Os y bydd i un o honoch ymddwyn yn annheg bydd corff hwn a wna y drwg yn yr arch a welaist ac nis gwelir ef mwyach. Deuaf yma eto nos yfory—a gwae i ti os na fydd rhaniad teg. Yn awr paid ag edrych ar fy ôl". A diflannodd o'r golwg. Ar godiad gwawr daeth gŵr y tŷ yno a'i weision, yn awyddus iawn i wybod beth a ddigwyddodd i'r llanc. Curasant y drws—dim ateb. "Torrwn y drws i mewn", gwaeddai'r gŵr, "mae'n rhaid fod y llanc wedi ei ladd". Deffrodd y llanc wrth glywed y sŵn torri, daeth i lawr ac adroddodd hanes y noson gynt. Cytunodd y gŵr ar unwaith i ymddwyn yn ôl gorchymyn y Coch Bach. Sefydlodd y llanc ei gartref yn y tŷ ac mewn amser priododd ferch y gŵr. Buont fyw yn ddedwydd ar hyd eu hoes ac ni welwyd ac ni chlywyd byth mwy y Bwgan Coch Bach.

Hwyrach y gofynnwch pam yr adroddaf stori mor blentynaidd mewn oes lle y darllenir hyd yn oed gan blant ysgol storïau wedi eu patrymu ar fywyd prysur, aflonydd y byd o'u cwmpas. Dyna yn union pam yr adroddais y stori. 'Roedd storïau o'r fath yn rhan o fywyd cefn gwlad yn nyddiau fy ieuenctid. Ni fuasai darlun o hwyl cefn gwlad yn gyflawn heb y storïau. 'Roedd llanciau fel W.H. wedi eu trwytho mewn storïau cyffelyb. Da fuasai gennyf be bawn yn cofio cynnwys llawer o'r storïau, "Merch Brenin Demerara" a llawer eraill, ond ni erys yn fy nghôf ond Y Bwgan Coch Bach. Ni ddeallais erioed pam 'roedd yn goch, pam 'roedd yn fach, beth oedd y cam wnaeth. Ond gwn gymaint yr hoffai ieuenctid y wlad y stori a gwn iddi berthyn i draddodiadau ac yn wir i ddiwylliant y genedl.

Mawr heddiw yw breintiau a chyfleusterau Cymry ifanc yr ardaloedd gwledig. Rhydd Aelwydydd yr Urdd a Chlybiau y Ffermwyr Ifainc le iddynt i ddatblygu iaith, a chrefft a thalent, i gael ymgom a hwyl a diddordeb i raddau na welwyd erioed o'r blaen. Ond ynghanol y cyfleusterau eang, peidier anghofio fod yr hen bleserau syml yn rhan o wê ac anwe hanes y genedl.


Nodiadau

[golygu]