Neidio i'r cynnwys

Siaced Fraith/Meri Ann

Oddi ar Wicidestun
Y Potsiars Siaced Fraith

gan Elizabeth Williams

Cynffonna

PENNOD IV
MERI ANN

ADWAENWN Mrs. Meri Ann Griffith yn dda. 'Roedd yn hŷn na mi o flynyddoedd ond mwynhawn ei chwmni, ei sgwrs ddiddan, ei hiwmor sychlyd a'i storïau hwyliog. Adroddai stori ddoniol heb wên ar ei hwyneb, ond ei llygaid yn llawn direidi. Prin y symudai ei gwefusau wrth siarad, ond byddai pob gair wedi ei dorri'n berffaith.

Un drom o gorff oedd Mrs. Griffith ac un araf ei symudiadau, ond cyflym oedd ei meddwl ac ysgafn ei hiwmor. Nid oedd ynddi rithyn o falais. Gallai daro ergyd dreiddgar pan ddewisai, ond o ddireidi ac nid o ddîg.

Gwelaf hi yn fy meddwl—ei gwallt, heb flewyn gwyn, wedi ei rannu yn y canol â rhesen wen, ac yn gorwedd fel dwy aden o sidan llyfn un o bobtu ei phen; ei siôl fach bîg ar draws ei hysgwyddau, ac yn arferol, y Beibl mawr ar ei glin. Ni flinai ar ei ddarllen. Nid oedd neb yn fwy caredig a chymwynasgar er maint yr anhunedd a ddioddefodd yn ystod ei bywyd. Ac ni chlywyd hi erioed yn cwyno nac yn grwgnach. 'Roedd ganddi ffordd ddestlus o alw sylw at ddiffygion neu eisiau heb gwyno'n uniongyrchol. "Estyn y Beibl imi Jane gael iti wneud rhywbeth ag ef". Gwyddai Jane, y ferch, yn iawn mai cerydd oedd am na fyddai byth yn agor clawr y Beibl, ond ni edliwiodd Mrs. Griffith hyn iddi erioed. 'Roedd gan Jane lond tŷ o blant, a bychan oedd cyflog y gŵr. Byddai Jane yn cadw tân y gegin mor isel ag y gallai rhag gwastraffu tamaid o lo. Gan fod y grât yn un uchel hen ffasiwn byddai Mrs. Griffith yn dioddef byth a beunydd gan draed oer. Un diwrnod pan oeddwn yn ymweld â hi, 'roedd tân y gegin bron â diflannu. Cododd Mrs. Griffith ac aeth yn araf tuag at y lle tân a dechreuodd wyro i lawr. "Mam, beth ar y ddaear ydachi'n wneud"? gofynnai Jane.

"Wel, Jane bach, mynd i sefyll ar fy mhen. Mae fy nhop yn ddigon cynnes, 'rwyf am gynhesu fy nhraed". 'Roedd Jane yn deall. Cafodd Mrs. Griffith ddigon o dân.

"Toedd ryfedd yn y byd iddi gael priodi dair gwaith!

Pan yr adwaenwn hi 'roedd yn weddw am y drydedd waith ac yn byw am ysbaid gyda Jane. Digwyddais gydgerdded un diwrnod â hi a "Miss Jones, y Menyn", hen ferch wedi suro drwyddi, a'i llach ar bawb a phopeth gyda'i thafod colynnog. Digwyddem fynd heibio i gapel lle yr oedd priodas—gwraig weddw ail briodi. Traethai hallt iawn yn yr erbyn "yr ail briodi yma" heb feddwl fod Mrs. Griffith wedi claddu tri gŵr. "Nid yw ail briodi yn beth gweddus o gwbwl. Dylai un gŵr fod yn ddigon i unrhyw wraig". A meddai Mrs. Griffith, a'i llygaid yn pefrio o ddireidi: "Wel dyna fel mae pethau yn yr hen fyd yma, ynte Miss Jones. Tipyn yn anwastad ynte? Rhai yn cael gormod a rhai yn cael dim".

'Roedd brawd hynaf Mrs. Griffith yn ddyn o eiddo, yn byw mewn clamp o dŷ. Ond tipyn o gybudd oedd Tomos. Aeth yr hen frawd yn bur fusgrell ac aeth Mrs. Griffith ato i edrych ar ei ôl am ysbaid. Gofynnodd iddo un diwrnod, "Beth fase ti'n lecio gael i dy ginio heddiw Tomos"? A meddai Tomos: "Rydw i'n meddwl y cymera'i bowliad o fara-llaeth enwyn. Peth llesol iawn ydi bara-llaeth wel di, ac yn rhad iawn hefyd". "Wel", meddai Mrs. Griffith, "cymer di fara-llaeth os myni Tomos, ond rydw i am gael chops a thatws". Tomos yn ysgwyd ei ben ac yn dweud, "'Rwyt ti'n wirion iawn Meri Ann, mi fasa bara-llaeth yn fwy llesol o lawer iti, ac yn rhatach". Ond, chops a thatws fynnodd Meri Ann a chafodd Tomos ei bowliad o fara-llaeth enwyn. Y noson honno cymerwyd Tomos yn sâl iawn, a bu rhaid mofyn y doctor ato ar frys. Bu'n rhaid i Tomos druan fod heb fwyd am ddyddiau. Pan ddaeth ato ei hun gofynnodd Meri Ann iddo, "Wel, Tomos, prun oedd y rhataf, Chops a thatws ynte bara-llaeth a bil y doctor"?

Cefais ganddi lawer stori dda. Dyma un stori am hen ffarmwr a adwaenai'n dda. 'Roedd yn amlwg yn ôl ei stori nad oedd Ifan Jones y ffarmwr yn un llwyddianus iawn. Byddai'n mynd ar ei sbri yn aml pan ddeuai i'r dre i'r farchnad neu'r ffair. Dynes bur falch a gwastad iawn oedd Ann Jones ei wraig. Un tro pesgodd ddau fochyn a'u gwerthu, ac o'r elw prynodd set o ddannedd gosod iddi ei hun. Pan ddaeth Ifan adre o'r ffair nesaf yn feddw, dechreuodd Ann Jones draethu fel arfer, ond cyn iddi gael mynd ymhell ar ei llith dwedodd Ifan, "Taw di a son Ann, mi roi'st ti ddau fochyn tew yn dy geg ar unwaith". Ac am y tro cyntaf erioed bu'n rhaid i Ann dewi.

Byddai Ifan byth a hefyd ar ôl yn talu'r rhent, a phob esgus ganddo a bai ar bob peth ac ar bawb ond ef ei hun. Blinodd y meistr tir ar yr esgusion a phenderfynodd o'r diwedd orfodi i Ifan werthu rhai o'i stoc at dalu'r rhent.

'Roedd bragdy yn y dre (cofiaf ef yn dda). Byddai gwaddod, neu soeg, ar ôl y darllaw, a chariai'r ffermwyr lawer o hono i gymysgu â bwyd yr anifeiliaid. Byddai'r anifeiliaid yn mwynhau yn fawr y soeg yn gymysg a'r bwyd.

Y diwrnod cyn y sale aeth Ifan i'r bragdy i mofyn llwyth o'r soeg. Cadwodd yr anifeiliaid heb fwyd tan hwyr y nos, a rhoes iddynt wledd helaeth o soeg digymysg.

Trannoeth—dydd y sale—'roedd yr ocsiwnier a'i glerc yno'n brydlon, a'r ffermwyr wedi dod yn eu cerbydau o bob cwr i'r sir gan ddisgwyl bargen. Yn rhyfedd iawn, nid oedd yr un anifail i'w weld na'i glywed yn unman. R'oedd pob un yn gorwedd fel pe bai wedi marw, heb symud arno. Tybiodd y ffermwyr fod rhyw glwyf rhyfedd ar yr anifeiliaid ac nid oedd dim i'w wneud ond mynd adref yn waglaw. 'Toedd ond yr hen Ifan a wyddai ystyr y clwyf. Gwyddai ef yn eithaf da fod pob anifail wedi meddwi'n "chwil beipan" ar y soeg ac nad oedd dim i'w wneud ond eu gadael i gysgu'r sbri allan.

Gresyn na feddyliais ar y pryd am gofnodi holl ddywediadau Mrs. Griffith, y jokes a'r puns a'i holl storïau doniol. Erbyn heddiw diflannodd y rhan fwyaf o'm cof. Byddai llyfr mewn bri mawr yr adeg honno, o'r enw "Enquire Within". Cyfrol oedd yn rhoi gwybodaeth ar hylltod o fanylion a ffeithiau mân a mawr. Hawdd fyddai gan aml i wraig ifanc droi i'r tudalennau am gyfarwyddyd. Ac yn eu plith Jane wrth gwrs. "Jane bach", meddai Mrs. Griffith wrthi, "mae gen i well "Enquire Within" o'r hanner na thi", gan ddangos y Beibl ar ei glin. "Toes dim yn y byd na chei di yn hwn. Mae yma storïau gwell o lawer nac a gei yn dy novelettes".

I mi, dyma'r peth tarawiadol amdani—er mai i'r Beibl y trodd am gyfarwyddyd, nid unwaith ond lawer gwaith y dydd, eto ni ymddangosodd erioed yn sychdduwiol, ac ni ddefnyddiai iaith y Beibl yn ei sgwrs. Defnyddiai iaith lafar i ddilladu gwirioneddau'r Beibl. Ynghanol stori ddigri neu yn wir stori pur wamal, ceid perl o wirionedd fel "baich tryma'r byd yw bod heb ddim byw i'w gario"; neu, wrth son am hwn a hwn "mae'n siarad wrth y pwys ac yn byw wrth yr owns"; neu, am hon a hon "mae'r nefoedd ar ei thafod a'r byd ar ei bysedd".

Ond amdani hi, ar hyd ei hoes hir, ni fynnodd erioed ddewis "baich tryma'r byd", a bu fyw "wrth y pwys" ar hyd ei hoes.


Nodiadau

[golygu]