Siaced Fraith/Sebon a Soda
| ← Y Ci, y Gath a'r Iârd | Siaced Fraith gan Elizabeth Williams |
Breuddwydion → |
PENNOD XI
SEBON A SODA
PAN oeddwn yn eneth yn yr ysgol nid oedd sôn am laundry vans i alw o dŷ i dŷ yn casglu dillad i'w golchi. Buasai'r syniad yn un rhyfedd i ferched y cyfnod hwnnw. Gwnai y mwyafrif y gorchwyl o olchi gartref; os gallent fforddio talu caent ddynes i'r tŷ i olchi unwaith yr wythnos. Neu, byddai golchwraig yn casglu'r dillad i'w golchi yn ei chartref.
Cofiaf hen wraig yn Sir Fôn â ddeuai i'm tŷ un diwrnod yr wythnos—Margiad Jones oedd ei henw. Golchai glamp o olchiad yn gyntaf, yna glanhâi'r tŷ o'r top i'r gwaelod. Os y byddai'r dillad wedi sychu âi ati i smwddio'r cwbwl. Nid oedd sôn am overtime iddi hi. Cawn drafferth mawr i'w pherswadio i roi gorau i'r gwaith. Wrth gwrs, gwyddai y câi swper cyn mynd adre. Swllt y dydd, a'i bwyd, oedd y tâl, ac ystyrid hyn yn dâl sylweddol yr adeg honno.
Cofiaf hen olchwraig yn byw mewn llofft stabal yn iard Cae Melwr, Llanrwst. Bûm lawer gwaith, pan oeddwn yn eneth yn yr "Ysgol Britis" yn nhŷ'r hen wraig yn ceisio pac dillad glân yr ysgolfeistres. Cofiaf y byddai grisiau cerrig hir y tu allan, yn arwain i'w chartref, a chofiaf mai ystafell hir oedd y llofft, a gwely yn y pen draw. Tybiwn ei fod yn gartref hynod o gysurus a glân. Ond y peth a dynnai fy sylw fwyaf oedd ei dull o dwymo'r heyrn smwddio. Gwyddwn mai o flaen y tân y twymai Mam yr heyrn. Ond nid felly hen wraig Cae Melwr. Rhoddai getal haearn a gwaelod lydan iddo ar dân gwresog. Yna dodai'r heyrn ar waelod y cetal. Byddent felly yn dal lân. Ni welais neb arall yn defnyddio'r dull yma. Cofiaf fel y cawn ganddi afal mawr coch bob amser, yn dâl am fynd i nôl y pac dillad.
Adwaenwn olchwraig arall o'r enw Margiad Ifans. Cymerai hi y dillad i'w thŷ i'w golchi ac ystyriai ei hun o'r herwydd radd yn uwch na'r merched a âi i'r tai i olchi wrth y dydd. Naw ceiniog y dwsin oedd pris Margiad Ifans, beth bynnag fyddai maint y dilledyn, coler neu grys, neu gynfas. Bywiai mewn tŷ bychan ar ochr y ffordd—tŷ a pharlwr bach yn y ffrynt, cegin y tu ôl a lle bychan, prin ddigon i chwipio cath ynddo, y tu ôl i ddrws y gegin. Dyma lle y golchai'r cwbwl. Rhaid fyddai gadael y drws yn agored haf a gaeaf er cael lle i'r twb golchi. Y peth mwyaf pwysig yng ngolwg Margiad Ifans oedd "tywydd sychu". Pe buasech yn ei chyfarch "Dydd da Margiad Ifans, mae'n ddiwrnod braf heddiw". "Ydi mae'n dywydd ardderchog i sychu" fyddai'r ateb.
Gweithiai hi a'r ferch Mari yn galed iawn o fore dydd Llun hyd nos Sadwrn. Ond ar y Sul cai'r twb golchi a'r heyrn smwddio lonydd ac âi Margiad i'r capel yn selog bob bore Sul. "Dydw i ddim yn eich deall, Margiad Ifans", meddai un wraig wrthi un diwrnod, "dyma chi'n gweithio'n galed ar hyd yr wythnos ac eto codwch yn fore i fynd i'r capel fore Sul yn lle aros gartre i orffwys tipyn". "Wel ia ynte", meddai Margiad, "ond i chi ddeall, dim ond yn y capel y caf gyfle i orffwys".
'Roedd golwg heini, llyfndew ar Dafydd, gŵr Margiad Ifans, ond ni allai weithio oherwydd y "riwmatics". Ni allai blygu ei goesau a phwysai'n drwm ar ddwy ffon wrth gerdded. Dwedai Margiad y gallasai Dafydd fod wedi dal ati yn hwy nag y gwnaeth, ond yn wir credaf i Dafydd gael bywyd rhy gyfforddus, a'i wraig a'i ferch yn tendio arno. Gwelais ef lawer gwaith ar ddiwrnod o haf yn sefyll a'i gefn ar wal y ffordd fawr, a'i law fel crafanc yn barod i dderbyn ychydig o geiniogau gan hwn a'r llall, at brynu baco. Ni fu gennyf amynedd ag ef; dyn nad oedd yn meddwl am ddim ond ei gysur ei hun.
Ar fwrdd wrth y ffenestr ym mharlwr y ffrynt y gwnai Margiad Ifans y smwddio, a chan fod y tŷ ar ochr ffordd gwelai pawb âi heibio. "Lle y mae o'n mynd yn edrych mor spriws, tybed", meddai wrth Mari; "hwyrach ei fod yn mynd i gyfarfod hon a hon". Neu "Os gwn i ble mae hi yn hêl ei thraed heddiw". Nid oedd ynddi falais o gwbwl, ond teimlai ddiddordeb ym mywyd pawb o'i chwmpas. 'Roedd amgylchiadau ei bywyd hi mor llwm fel yr hoffai weld lliw ac amrywiaeth lle y gallai. 'Roedd yn naturiol, felly, gan yr âi gymaint i dai i ddanfon dillad ac i'w nhôl, iddi wybod hanes pawb mor dda. Pan ddeuai i'n tŷ ni gyda'r dillad glân, gwyddwn wrth y ffordd bendant y gosodai'r fasged ddillad i lawr pan fyddai ganddi stori bwysig. Gwyddwn hefyd y buasai'n siomedigaeth ddirfawr iddi os byddwn wedi clywed y stori eisoes. Dyma fel y dechreuai bob amser, "Glywsoch chi am hon a hon, neu hwn a hwn"? Ysgydwn innau mhen. "Wel wir", meddai, "mae'n dew ac yn dene gan bawb". Yna adroddai'r stori—ambell dro byddai'r stori'n bur gynhyrfus—a diweddai'r sgwrs bob amser gan daro ei llaw ar ben fy nglin, "Ond, ddynes annwyl, peidiwch a'm henwi i".
Un diwrnod 'roedd mewn mwy o frys nac arfer pan ddaeth a'r golchi yn ôl. "Beth ydi'r brys Margiad Ifans"? "Wiw imi ymdroi heddiw, mae Dafydd yn ei wely". "Ydio'n sâl", gofynnais. "Na, 'toes fawr helynt arno a dweud y gwir, wedi ffraco a Mari y mae. 'Roedd Mari'n glanhau'r gegin, ac yr Dafydd o dan ei thraed. 'Roedd Mari eisio iddo 'molchi. 'Roedd cyn ddued a'r gloyn. Na wnai ef yn wir. 'Roedd wedi molchi'n lân ddoe. "Toedd dim eisia 'molchi eto heddiw. Aeth yn ffrae benben ac aeth Dafydd allan wedi pwdu. 'Roedd ef am fynd i'r wercws, câi lonydd yno, siawns. Aeth i eistedd allan ar y cerrig, a chafodd oerfel i'w goesau ac yn ei wely y mac. Mae'n dweud nad oes arno eisiau bwyd, ond 'rydym yn dal i gario iddo ac mae'r cwbwl yn mynd o'r golwg i rhywle".
Sylwais ers tro fod ganddi hen beswch cas. "Toedd ryfedd yn wir. Ar dywydd gwlyb crogai y dillad gwlyb uwchben i sychu. "Mae peswch garw arnoch Margiad Ifans", dwedais wrthi. "Ddynes bach", meddai, "pe clywsech fi'n pesychu ac yn fflemsio yn y bore mi ddychrynnech". Bu'r dillad gwlyb a'r peswch yn ormod iddi a bu farw flynyddoedd o flaen Dafydd Ifans.
Beth feddyliai hen wraig Cae Melwr, Margiad Jones a Margiad Ifans a llawer golchwraig o'r un cyfnod, pe buasent yn dod yn ôl am dro i'r hen wlad? Synnent weld y gwelliannau lawer sydd wedi lleihau gwaith merched—y mashin olchi, yr heyrn smwddio wedi eu twymo â thrydan, heb sôn am y gwahanol bowdrau golchi, pob un yn honni bod yn well na'r llall. Yn wir nid oes angen rhwbio heddiw ar ddillad, dim ond ei gadael i fwydo tipyn. Mae'r baw fel pe bai'n disgyn ohonynt. Ni wyddai golchwraig yn amser fy ieuenctid am ddim ond sebon a soda at olchi. Byddai dwylo ambell olchwraig yn agennau o ddefnyddio llawer o soda. 'Roedd golchi yn waith wir galed yr adeg honno. Meddylier am y dillad heb sôn am y sebon a'r soda, y ddoli bren fawr a'r pren scwrio. Byddai dillad isaf un ferch yr adeg honno bron yn ddigon i lenwi lein ddillad! Coban o galico gwyn, a honno'n wisg hir, a llewys at y garddwrn; crys a throwsus—pais o galico gwyn, a border lydan o lês; peisiau gwlanen a phais wen o galico neu lian main wedi ei haddurno â lês. Cofiaf glywed Margiad Ifans yn dweud wrthyf: "Ddynes annwyl, pe gwelech y bais wen grand fum yn olchi ac yn yn startsio heddiw i hon a hon. 'Roedd yn fflownses ac yn lês i gyd. Os gwn i dalodd hi am dani eto". Erbyn heddiw ni chofia neb na pherthyn i'r un oes a mi, am goban a chrys o galico, a'r peisiau gwynion llaes a llydan. Oes y sidan, y reon a'r neilon yw, pan all merch gario y cwbwl o'i dillad isa mewn handbag. Nid oes angen heddiw am y sebon a'r soda a'r nerth bôn braich fyddai'r tair elfen anhebgor mewn golchi. Erys rhinwedd y bag lliw glas o hyd, ac yn rhyfedd iawn erys ei rinwedd meddygol. Gwelais wraig ifanc y dydd o'r blaen yn rhedeg am liw glas at golyn gwenynen yn union fel y gwnai Nain dros 80 mlynedd yn ôl. Yn wir, gwelir heddiw fod mwy o synnwyr mewn rhai o foddion hen wragedd yr oes a fu nac a dybiwyd. 'Roedd ganddynt wybodaeth helaeth o rinweddau llysiau a dibynnent ar y moddion wrth law. Ni feddylient am feddyg ond mewn gwaeledd mawr, neu enedigaeth. Ac ychydig a fynychent ar siop y druggist. Cofiaf fel y byddai Mam, pan fyddai annwyd ar un ohonom, yn gwneud "te dail rheidiol" inni. Llysieuyn oedd â deilen fechan gron, ac arogl swynol arni. Llawer gwaith y bum yn hel dail rheidiol i Mam. Byddai digon i'w cael yng nghlawdd Cae Penloyn. Mwydai'r dail mewn dŵr berwedig a chawn ddrachtiad ohono yn awr ac yn y man. Gwnâi de hâd llin yn ogystal, ac os byddai eisiau ein cryfhau ar ôl sâlwch, berwai'r hâd llin mewn llefrith. Tybiaf y cymerai hwn le y cod liver oil ddaeth i fri yn ddiweddarach. Os dolur gwddf fyddai arnom, rhoddai saim gwydd, neu os na fyddai saim gwydd ar gael, gwnai sleisan o gig moch bras y tro, rhwng darn o wlanen (yn ffodus nid oedd dogni) o amgylch y gwddf. Gwell fyddai i'r wlanen fod yn goch. 'Roedd ffydd mawr mewn gwlanen goch. Credid fod rhinwedd neilltuol yn y lliw.
Cofiaf am un hen wraig fyddai'n hynod am drin llawer anhwyldeb. Byddai llawer o gyrchu ati. 'Roedd llawer yn dioddef gan yr anhwylder anolygus hwnnw—crach neu graminen yn y pen, a dyma feddyginiaeth yr hen wraig. Gwnai math o gap i ffitio'r pen, o ddail bresych a ffunen arno i'w gadw mewn lle. Newidiai'r dail fel y byddai angen. 'Roedd, meddai, rhyw rinwedd yn y dail a sugnai'r drwg allan o'r pen a gwella'r crach. Ac yn wir, byddai'r driniaeth am ryw reswm yn llwyddiant fel rheol.
Byddai llawer o blant, ac yn wir, o bobl ifanc, a "defaid" ar ei dwylo. Edrychai dwylo ambell un yn anolygus dros ben, a dafaden bron ar bob bys. Byddai pob math o gyngor sut i gael ymwared â'r aflwydd. Un cyngor a glywais oedd hwn rhaid oedd mynd i gae lle 'roedd biswail ar ôl y gwartheg i'w gael. Ar ôl cawod o wlaw, cronnai'r dŵr yn y biswail. Yna golchi'r ddafaden a'r dŵr.
Adwaenwn wraig ifanc bur falch a gâi ei phoeni gan "ddefaid" ar ei llaw. 'Roedd wedi treio pob meddyginiaeth heb lwyddiant. Penderfynnodd ofyn cyngor hen wraig a honnai allu gwella y drwg. Dyma'r cyngor a gafodd. 'Roedd i chwilio am falwen ddu gyda'r nos, yna i rwbio'r falwen ym mhob dafaden nes byddai pob un wedi ei gorchuddio a llysnafedd y falwen. Ac yn olaf, i chwilio am ddraenan ddu yn y clawdd a gwthio pigyn y ddraenan drwy'r falwen a'i gadael, y truan, yno i drengu. Nid oedd y wraig ifanc i sôn wrth neb lle y rhoddai y falwen—'roedd dirgelwch yn rhan bwysig o'r drefn. Cariodd y wraig ifanc yr holl gyngor allan yn ofalus i'r llythyren. Yna anghofiodd amdano. Ymhen ychydig digwyddodd edrych ar ei llaw. Er ei syndod 'roedd pob dafaden wedi diflannu'n llwyr ac nid oedd ganddi sŷniad pryd y diflannodd y drwg. Hoffwn wybod pam y bu iddynt ddiflannu. Cyd—ddigwyddiad mae'n siwr, ond credai llawer iawn yn nhriniaeth yr hen wraig ac yr oedd llawer yn barod i gydnabod llwyddiant y driniaeth. Ni welaf ond yn anaml heddiw blant yn dioddef felly. Hwyrach mai diffyg trin y corff â sebon a soda oedd yn gyfrifol am y crach, y "defaid" a'r frech wen, sydd heddiw wedi diflannu bron yn llwyr. Rhyfedd fel y daw clefydau newydd neu rhyw aflwydd newydd, i lanw'r bwlch o hyd ond nid oes lle heddiw i'r wraig hysbys. Heddiw mae gan bawb ei rif ar restr meddyg, a cheir tocyn meddygyniaeth i'w gyflwyno i'r siop drugist.
O sôn am restr daw i'm meddwl yr anhawster mawr a gefais i a llawer o'r un ardal a mi, oherwydd diofalwch y meddyg. Rhyw dro ar ôl marwolaeth Mam, pan oeddwn wedi ymadael i'r Garn, bu'n ofynnol i mi gael tystysgrif genedigaeth. Mawr oedd ein syndod i gael ar ddeall gan gofrestrydd Llanrwst nad oedd fy enw ar y rhestr. Er chwilio yn Somerset House, nid oeddwn, cyn belled ac yr oedd y rhestr genedigaeth yn y cwestiwn, mewn bod o gwbwl! Eglurodd y cofrestrydd fod llawer o'r un oed a mi yn yr un sefyllfa ac am yr un rheswm. Yn aml arferai y doctor—Doctor Hughes Bont Bach,—ymgymeryd â'r cofrestru. Rhoddid y manylion iddo ar ddarn o bapur ac âi yntau a'r papur i'r cofrestrydd. Ond, yn aml âi ar dipyn o sbri a meddwai'n chwil, ac anghofiai'r papur a'r cofrestru. I mi yn unig, o'r 7 plentyn, y digwyddodd y fath anffawd. A dyna fi, heb fodolaeth swyddogol! Pe bâi Mam yn fyw buasai'n gwybod y dyddiad a'r flwyddyn, ond 'roedd wedi marw. 'Roedd yr hen fydwraig a'm dygodd i'r byd wedi marw. Gwyddem fod fy mrawd Bob yn hŷn o ddwy flynedd na mi; gwyddem fod William ddwy flynedd yn iau na mi, felly hawdd oedd sefydlu blwyddyn fy ngenedigaeth. Ond nid oedd hyn yn ddigon i bwrpas swyddogol. Bu affidavits gan John a chan gymydoges â wyddai fy mod wedi'm geni yr un mis a'i merch, ond, nid oedd yn ddigon. Yn sydyn, cawsom hyd i hen Feibl mawr teuluaidd, ac ar y ddalen gyntaf, restr o enwau'r teulu i gyd a dyddiad genedigaeth pob un. Derbyniwyd y dystiolaeth, a dyma fu ar hyd fy oes fy nghystysgrif genedigaeth swyddogol—dalen o'r Beibl Mawr. Ymfalchiaf yn y fath dystysgrif.
Dwg ar gof imi stori a glywais gan fy nhad, am lanc ifanc o'r ardal yn hwylio i briodi. 'Roedd eisiau cyhoeddi'r "stegion" (gostegion) yn eglwys y plwyf dair milltir o bellter o'r tŷ. Nid oedd gan y llanc hamdden i fynd a'r manylion i'r Person. Gofynnodd i hen gyfaill a elwid "yr hen gipar" a fuasai'n mynd a'r manylion. Cytunodd ar unwaith. Rhoddodd y papur a'r manylion arno yn ei boced. Cyn cychwyn newidiodd ei siwt ac i ffwrdd ag ef ar ei neges. Pan gyraeddodd dŷ'r Person, gwelodd ei fod wedi gadael y papur ym mhoced yr hen siwt. Gallai gofio'r manylion am y llanc ond ni allai yn ei fyw gofio dim am y ferch ifanc, a meddai wrth y Person, "Rhowch ryw enw arni, mae hi'n siwr o ddod".
Bu llawer gwelliant erbyn heddiw ar bob llaw. Meddyliaf fel y byddai meddyg, mewn ffroc côt a het silc bob amser, yn dod yn syth at wely'r claf, o'i gerbyd heb feddwl golchi ei ddwylo yn gyntaf, ac fel y byddai clefydau'n gwau drwy ardal, o ddiffyg glendid yn aml—diffyg sebon a soda! Eto, nid drwg oedd y cyfan ddoe ac nid da y cyfan heddiw. Byddai'r meddyg yn gyfaill i'r teulu, yn gwybod am ei holl amgylchiadau ac yn barod i roi cysur a chyngor. Gresyn fyddai inni golli'r cyfeillgarwch yn y drefn newydd. Gresyn hefyd fyddai inni golli hanes hen feddyginiaethau—rhai ohonynt yn hen iawn ac yn llawn diddordeb i'r hanesydd. Darfu erbyn heddiw am y gwaith caled fu'n faich ar wragedd cyhyd. Symudodd mwy a mwy o'r gwaith o'u dwylo i'r ffatri a'r siop, a'r laundry. Tybed hamdden ganddynt i gasglu'r hen feddyginiaethau, cyn i'm cenedlaeth i fynd heibio o'r golwg. Mae tipyn ohonom yn aros o hyd—o oes y Sebon a'r Soda!