Siaced Fraith/Y Ci, y Gath a'r Iâr
| ← Hwyl Cefn Gwlad | Siaced Fraith gan Elizabeth Williams |
Sebon a Soda → |
PENNOD X
Y CI, Y GATH A'R IÂR
DARLLENAIS erthygl mewn papur newydd y dydd o'r blaen, ar anifeiliaid. Gosodai'r erthygl gwestiwn o flaen y darllenwyr a all anifeiliaid ymresymu a meddwl? Cwestiwn pur ddyrys, ond cwestiwn llawn diddordeb i bawb sy'n gyf- arwydd ag anifeiliaid. Ni lwyddais erioed i ateb y cwestiwn i'm boddhad fy hun, ac eto, anodd yw gwrthod cydnabod fod rhyw fesur o reswm yn ymddygiad rhai ohonynt, yn ôl fy mhrofiad i. Hwyrach mai gwell fyddai i mi osod y dystiolaeth o flaen y darllenydd, a gadael iddo ffurfio ei farn ei hun.
Credai Nhad yn ddiffuant y gall ci ymresymu. Adroddai wrthym droeon hanes yr ast fu ganddo ef a'i frodyr pan yn blant yn Nhŷ Newydd, Maenan. 'Roedd yr ast yn gyfaill mawr iddynt. Canlynai ar eu hôl i bob man, ac ni feiddiai neb dieithr gyffwrdd pen bys â'r plant os y byddai hi'n agos.
Yn y cyfnod hwnnw 'roedd y frech wen yn gyffredin iawn drwy'r wlad. Cymerodd y tri plentyn hynaf y clefyd—Nhad, Letus ei chwaer a Richard ei frawd, a buont yn wael am wythnosau. Yn y cyfamser cafodd yr ast gŵn bach. Boddodd Nain y cŵn bach gan nad oedd neb ar gael i ofalu amdanynt, a chladdodd hwynt o dan goeden yn y berllan. Cyn belled ag y gwyddai Nain ni welodd yr ast beth a wnaeth. Pan drodd y plant at wella rhoddodd Nain gadeiriau iddynt i eistedd allan yn y buarth yn llygad yr haul. 'Roedd yr ast yn neilltuol o falch o'u gweld. Neidiai a champiai fel pe bâi'n ffaelu gwybod faint mwy o groeso i roi iddynt. Rhedodd yn syth i'r berllan. Crafodd y pridd oddiar y cŵn bach a chariodd hwynt fesul un yn ei cheg i'w gosod yn rhes o flaen y plant. Wedi i'r plant syllu arnynt, cariodd pob un yn ôl i'r twll a chrafodd y pridd yn ôl arnynt. Beth oedd yn ei meddwl? Ymddangosai'n union fel pe bai arni eisiau i'r plant ddeall y drychineb a gymerodd le tra'r oeddynt yn wael. Dyma'r unig ffordd y gallai ddweud wrthynt. Pwy a ŵyr?
Pan oeddem yn byw yn Nhŷ'r Ysgol y Garn 'roedd gennym dri chyfaill od iawn-ci, cath ac iâr—ni welais erioed driawd cyffelyb. Retriever du oedd Teigar, y ci, ac hen gi ffeind iawn oedd. Cysgai'r nos ar fat yn y gegin gefn, a byddai'n rhaid iddo gael y gath i gysgu yn ei gesail bob nos, a'r iâr i glwydo yn ymyl. 'Roedd rhyw ddealltwriaeth rhyfedd rhwng y tri; y ci oedd y mistar, a'r ddau yn ufuddhau. Dwedai William fy mrawd y byddent yn deall iaith ei gilydd!
'Roedd Teigar wedi hen arfer chware gyda'r bechgyn mwyaf yn iard yr ysgol. Aeth, hwyrach, yn or-chwareus, a chan ei fod yn gi pur fawr byddai gan y plant lleiaf ei ofn, ac yn aml byddai'r ffaith yn esgus i'w cadw o'r ysgol. Clywsom fod eisiau ci ar Richard Parry, Tremadog, chwe milltir o'r Garn, a phenderfynwyd rhoi Teigar iddo. Cadwodd Richard Parry ef yn rhwym wrth gadwyn am fis. Tybiai fod Teigar wedi hen gartrefu erbyn diwedd y mis a gollyngodd ef. Ond, y foment y cafodd Teigar ei hun yn rhydd, aeth nerth ei draed tua'r Garn. Cyrhaeddodd Dŷ'r Ysgol amser te, pan 'roeddem i gyd wrth y bwrdd. Aeth Teigar drwy'r ystafell heb gymryd sylw ohonom ac yn syth i'r gegin gefn lle gorweddodd ar y mat a'i glustiau i lawr. Edrychodd arnom gyda cil ei lygaid, a golwg euog iawn arno, yn union fel plentyn drwg yn gwybod ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le. Ben bore drannoeth cychwynnodd William i fynd a'r ci yn ôl i Dremadog. Dilynodd Teigar ef heb drafferth nes iddynt gyrraedd pen gallt Penrhuddros. Yna neidiodd dros y clawdd i'r cae. Aeth William ar ei ôl, a dyna lle cafodd Teigar yn gwledda ar ddafad wedi ei lladd. Mae'n rhaid ei fod wedi ei lladd y diwrnod cynt ar ei ffordd i'r Garn. "Toedd ryfedd iddo edrych mor euog pan gyrhaeddodd Dŷ'r Ysgol. Ofer oedd gwneud dim a'r ci unwaith iddo gael blas ar ladd dafad, ond ei saethu. A dyna ddiwedd trist y cyntaf o'r triawd.
Ni pherthynai rinwedd neilltuol i'r gath—ond yn unig y gallai agor drws y gegin gefn ei hunan. Drws hen ffasiwn a dolen a chlicied iddo yn uchel i fyny oedd i'r gegin gefn. Bûm yn gwylio'r gath yn gwneud yr orchest lawer gwaith. Neidiai ar lintel y ffenestr yn ymyl y drws. Rhoddai naid arall i gydio am y ddolen a'i phawen dde nes y byddai'n crogi wrtho. Gyda'r bawen chwith, pwysai y gliced i lawr a gwthiai a'u dau droed ôl yn erbyn post y drws nes yr agorai. Yna neidiai i lawr ac i mewn i'r gegin gefn a hi. Ni fuaswn yn credu y fath beth ond i mi ei gweld a'm llygaid fy hun. Gwelais gath cymydog yn sefyll ar ei thraed ôl ac yn ysgwyd caued y bocs llythyrau er mwyn galw sylw rhywun i agor y drws, ond ni welais erioed gath arall yn agor y drws ei hunan. Sut y deallodd y ffordd i weithio'r gliced?
Ar ôl colli Teigar cafodd rhyw anhwyldeb ac er inni wneud pob peth a allwn, gwaethygu a wnaeth ac yn fuan iawn collwyd y gath hefyd. Bûm yn tybio mai hiraethu ar ôl Teigar a wnaeth. 'Roedd mewn iechyd perffaith cyn colli Teigar. Pwy a ŵyr?
Ac yn awr, o'r triawd, nid oedd ond yr iâr yn aros. Eiddo William fy mrawd oedd yr iâr, wedi iddo ei chael yn anrheg gan Catrin Morris, y wraig arferai lanhau'r ysgol. Un ryfedd oedd yr iâr fach. Ni fodlonai ar fod allan yn yr ardd fel iâr gyffredin. Yn y tŷ gyda'r teulu, a Theigar a'r gath y mynnai fod, os câi heddwch i aros yno. Os byddai i ni ei hêl allan i'r cefn, âi drwy'r ardd yn syth ac i mewn yn ôl trwy'r drws ffrynt yn dalog. 'Toedd ddiben yn y byd gwneud nyth taclus iddi mewn bocs, mynnai ddodwy yn y mannau rhyfeddaf—tu fewn i rât y parlwr os byddai'n wâg, neu ar y gwely os cai ddrws ystafell ar agor. Gwelais hi fwy nac unwaith yn dodwy ar un o'r desgiau yn yr ysgol. Deuai plant a'u bwyd i'r ysgol—bara- menyn a photelaid o lefrith fel arfer. Buan iawn y deallodd yr iâr hyn, a byddai'n anelu am yr ysgol bob canol dydd fel cloc, er mwyn gwledda gyda'r plant. 'Roedd felly'n hollol gyfarwydd a'r ysgol. Un diwrnod aeth yno adeg gwersi, a'r plant a'r athrawon i gyd yn brysur. Ceisiodd un o'r athrawon ei hel allan, a dychrynodd yr iâr gymaint fel yr ehedodd i fyny a disgyn ar ben geneth yn y dosbarth—Elin Ynys Ddu. Meddai Elin ar gnŵd o wallt trwchus; glynnodd traed yr iâr yng ngwallt Elin ac ni allai ddod yn rhydd. Dychrynodd Elin, a rhedodd ar hyd yr ystafell dan screchian, ar iâr wedi dychryn cymaint ag Elin. Ni fu erioed y fath helynt, yr iâr yn ysgwyd ei hadenydd ac Elin a hithau yn screchian am y gorau, a'r plant wrth gwrs wrth eu bodd. 'Roedd cystal a syrcys. O'r diwedd llwyddwyd i dynnu traed yr iâr o wallt Elin. Ond rhoddodd yr anffawd gyfle i John. 'Roedd wedi teimlo am beth amser fod yr iâr wedi mynd yn dipyn o niwsans yn yr ysgol. Gwyddai na fynnai William i neb ei lladd, felly, rhoddwyd hi i Jane Owens, Cae'r Arba. Gan fod ganddi hanner dwsin o ieir tybid y buasai'r iâr fach yn cartrefu'n well. Ond, yr un oedd yr iâr yng Nghae'r Arba ac yr oedd yn Nhŷ'r Ysgol. Ni wnai gyfathrach a'r ieir eraill. Yn y tŷ gyda'r teulu hoffai fod, ac âi i ddodwy i'r cwpwrdd pres os cai'r drws yn agored. Un diwrnod 'roedd John Owens y gŵr yn ei wely'n wael. Yn sydyn clywai sŵn pit-pat-pit-pat, fel pe bai rhywbeth yn dod i fyny'r grisiau. Toc, agorodd y drws yn araf; rhoddodd yr iâr ei phen trwy'r drws a mawr oedd ei siom pan welodd fod John Owens wedi achub y blaen arni. Trodd yn ôl i lawr y grisiau yn llawn sŵn drwg fel y bydd iâr yn chwilio am le i ddodwy.
Daeth yn amlwg yn weddol fuan na fynnai ieir Cae'r Arba eu dilorni gan y iâr fach. Mae'n rhaid eu bod wedi penderfynu gyda'i gilydd i roi curfa dda iddi pan gawsant afael arni. Daeth cyfle un diwrnod pan drodd yr iâr fach am dro i'r ardd. Rhuthrodd yr ieir arni yn ddidrugaredd, a churwyd hi hyd angau. Dyna ddiwedd yr iâr fach ryfedd. Piti ynte! A dyna ddiwedd bellach ar y triawd fu'n byw mor hapus a chytûn yn Nhŷ'r Ysgol, diwedd mor drychinebus i'r tri.
Anifail gwahanol iawn oedd Bili, bwch gafr fy nhad-yng- nghyfraith yn y Gaerwen. Cedwid geifr i bori ymhlith y gwartheg. 'Roedd Bili'n anifail mawr a dau gorn anferth ganddo. Ar adegau byddai'n beryglus, ond gallai fy nhad-yng-nghyfraith, Richard Williams, wneud unrhywbeth â Bili, âi ar ei ôl fel ci bach. 'Roedd Bili wedi cymeryd yn erbyn pen teulu Fronolau. Un bore Sul, pan 'roedd Bili ar grwydr gwelodd deulu Fronolau yn cerdded tua'r capel. Gwelodd teulu Fronolau Bili 'run pryd. A dyma râs. Cyrhaeddodd y gŵr a'r wraig y capel a rhuthrasant i mewn, a Bili yn canlyn. Cerddodd i fyny ac i lawr yr eil yn fygythiol ac nid oedd yno neb a fentrai ei droi allan. Bu'n rhaid aros iddo fynd allan ohono'i hun cyn cau'r drysau a dechrau'r gwasanaeth. Ar ddiwedd y gwasanaeth, nid oedd olwg ar Bili y tu allan i'r capel, ac aeth pawb ar ei ffordd gartre. Ond, pan 'roedd teulu Fronolau bron a chyrraedd y tŷ, clywsant Bili yn carlamu ar eu gwarthaf ac ni chawsant ond cael a chael i ennill noddfa yn y tŷ. Erbyn hyn 'roedd Bili yn amlwg yn benderfynol y cai afael ar ei elyn. Cerddodd i fyny ac i lawr o flaen ac o gwmpas y tŷ am y gweddill o'r diwrnod. Ni chawsant na'r Ysgol Sul nac oedfa'r nos. Pan agorwyd y drws y bore wedyn, 'roedd Bili yn yr un fan o hyd. Aethant i ffenestr y llofft er mwyn ceisio galw sylw cymydog. Cyn hir daeth Rhys Robats heibio. Gwaeddodd gŵr y tŷ, "Rhys Robats, ma'r hen fwch yma wedi'n cadw ni i mewn er ddoe". Ceisiodd Rhys Robats hel Bili oddi wrth y tŷ, a chododd ei ffon i'w daro, ond daliodd Bili y ffon ar ei gyrn a thaflodd hi o'r neilltu. Ni chyffyrddodd â Rhys Robats ond rhoddodd ar ddeall iddo yn ddigon eglur na symudai o'r Fronolau. O'r diwedd, aeth Rhys Robats at Richard Williams i achwyn. Brysiodd Richard Williams at y Fronolau. "Bili, Bili, rhag dy gywilydd. Beth yw peth fel hyn. Tyrd adre ar unwaith"—a throdd Bili yn wylaidd ac aeth adre'n dawel ar ôl rhwbio ei drwyn yn erbyn llaw Richard Williams. Nis gwn beth a wnaeth gŵr Fronolau iddo i greu'r elyniaeth, ond gwyddai Bili mae'n siwr ac nid anghofiai. O hyn allan bu'n rhaid i Richard Williams ofalu fod y ffordd yn glir i'r capel ac yn ôl bob Sul!
Gadawaf y cyfnod pell a dof yn nes i'r oes bresennol i sôn am y ci bach mwyaf hoffus, mwyaf ffyddlon a mwyaf deallus a welais erioed. I Lanrwst y perthyn hanes Taffy—ci bach melyn a du fu'n gyfaill imi am flynyddoedd. 'Roedd pawb yn ei adwaen ac yr oedd pawb yn hoff ohono. Os digwyddai i'r teulu fod allan a'r drws wedi ei gloi pan ddeuai Taffy adre, ar ôl crwydro hyd y caeau, eisteddai ar ganol y ffordd fawr i lefain dros yr ardal. Llawer tro y dywedodd cymdogion, "Clywais Taffy yn llefain yn chwerw amdanoch".
Ni ddeallais erioed pa un ai hoffi ai casau sŵn y piano a wnai Taffy. Hudai ni at y piano, yna eisteddai ar ei golyn i ddisgwyl, a'r foment y clywai sŵn yr offeryn codai ei drwyn i fyny a dechreuai udo. Ni symudai oddiyno tra y daliai'r chware. Buasai dyn yn taeru mai canu 'roedd nerth ei ben, ond, ow am sŵn ofnadwy a wnai!
'Roedd ganddo ei gyfeillion arbennig. Am amser 'roedd yn gyfeillgar iawn â gast o Blas Isa. Diddordeb mwyaf yr ast oedd hela. Bu cipar Plas Madog yn bygwth ei saethu lawer gwaith os na wnai ei pherchenog ei chadw'n rhwym. Fel yr oedd waethaf modd, hudai Taffy i hela gyda hi bob cyfle a gâi a byddai'n ddigon hawdd gweld oddiar gyflwr Taffy mae ef fyddai'n gwneud y gwaith butraf.
'Roedd yn gyfaill hefyd a chi du mawr y Queen's Hotel. Un diwrnod llwyddodd yr ast i hudo y ddau i gychwyn hela. 'Roedd fy ngŵr a minnau yn digwydd sefyll yn nrws y cefn yn edrych ar y tri'n cychwyn i fyny cae Penloyn i gyfeiriad coed Plas Madog, yr ast ar y blaen, y ci mawr a'r ci bach yn trotian y tu ôl. Yn sydyn safodd y ddau gi ar y cae, gan droi at ei gilydd, yn hollol fel pe baent yn ymgynghori a'i gilydd ac yn gofyn,
"Ydi o'n werth mynd"? 'Roedd yn amlwg i'r ddau benderfynu y cai'r ast fynd ei hunan os oedd am fynd i hela. Trodd y ddau ei hwyneb am gartre. Eisteddai yr ast ar y cae tra'r ymgomiai'r ddau. Pan welodd y ddau'n troi cefn arni, trodd hithau i'w dilyn, yn bendrist a'i chynffon rhwng ei choesau.
Sylwais fod y cyfeillgarwch wedi terfynu ac ni âi Taffy i hela gyda hi byth wedyn. Beth oedd y sgwrs rhwng y ddau gi, os gwn i?
'Roedd Taffy'n gyfaill mawr i hen fonheddwr yn byw mewn tŷ cyfagos Arferai'r bonheddwr fynd am dro i'r dre bob bore ar ôl brecwast. Galwai mewn amryw o dafarnau'r dre i gyfarch ei gyfeillion. Ai Taffy i'w ganlyn y rhan amlaf. Os digwyddai i'r hen frawd fynd heb Taffy, âi Taffy i'r dre ei hun, ac o dafarn i dafarn nes dod o hyd iddo. Byddai ei weld ar y daith yn destun hwyl yn y dre. Câi Taffy ginio dydd Sul gyda'r hen frawd a'i wraig. Ni wn sut y gwyddai Taffy mai y Sul oedd ond byddai yno i'r funud. Ar ôl cinio gorweddai'r gŵr ar y soffa a ryg trosto. Stwffiai Taffy ei hun o dan y ryg y tu cefn iddo. Deuai gartre amser te. 'Roedd fel pe bai ganddo "standing invitation"—ac ni cheisiai fynd yno ond ar y Sul. Ni fyddwn yn meddwl paratoi cinio Sul iddo.
Pan oedd y ddwy ferch yn ysgol y sîr, hoffent fynd ar dramp i'r wlad adeg y gwyliau, ac âi Taffy gyda'r ddwy bob amser. Un diwrnod aethant i fyny'r llechwedd i Nant Bwlchyrhaearn. Wedi cyrraedd i'r top penderfynodd y ddwy, yn hytrach na dychwelyd yr un ffordd, ddringo ochr y mynydd a thorri ar draws, trwy'r coed ac i lawr i ffordd Llanrhychwyn. Tybient na fuasai unrhyw anhawster. Cadwent Taffy ar y gadwyn rhag iddo ddiflannu i hela cwningod. Dyma gychwyn yn selog, ond nid mor hawdd y gorchwyl wedi'r cwbl. Nid oedd math of lwybr, a chyn pen hir cawsent eu bod wedi colli'r ffordd. Ni wyddent i ba gyfeiriad i droi wedi cyrraedd y copa. Cawsant eu hunain mewn llecyn gwâg heb ddim coed, dim ond tir glas, a thŷ mewn adfeilion yn y pen pellaf iddo. 'Roeddynt yn sefyll i geisio penderfynu pa ffordd i droi. Yn sydyn clywsant lais rhyfedd ac annaearol yn galw "I lawr, i lawr, i lawr". Meddylient mai rhywun oedd yn ceisio eu dychryn. Ond, nid oedd wyneb byw i'w weld, ac yr oedd distawrwydd llethol o gwmpas, dim nodyn un aderyn, dim chwa o wynt, dim sibrwd o fath yn y byd. Toc clywyd y llais rhyfedd eto yn gwaeddi, "I lawr, i lawr, i lawr"—ond y tro hyn yn nes atynt. Erbyn hyn 'roedd y ddwy mewn braw mawr, a gwrychyn Taffy yn syth i fyny, ac yntau yn crynu ac yn chwyrnu'n arw. Heb ddweud yr un gair y naill wrth y llall rhedodd y ddwy ar draws y lle glas ac i lawr i'r coed yr ochr arall i'r mynydd, a'r llais yn eu dilyn. Yn y man cawsant eu hunain o gyrraedd y llais ond ar fin clogwyn syth a dim na llwybr na lle y gallent fynd i lawr. Beth i'w wneud? dyna'r broblem fawr. 'Roedd wedi dechrau tywyllu, yn enwedig yn y coed, nid oedd ganddynt syniad i ba gyfeiriad i gychwyn ac ni feiddient droi'n ôl. "Toedd ond un peth i'w wneud—gosod y cyfrifoldeb ar Taffy. Gollyngwyd Taffy o'r gadwyn. "Dos a ni gartre Taffy bach", meddant, ac i ffwrdd ac ef ar unwaith, mor bryderus a hwythau i gyrraedd gartref. Gwthiodd drwy'r grug a'r rhedyn, y drain a'r mieri, a'r ddwy yn canlyn, i fyny ac i lawr, strim-stram-strellach. Ni hitient ddim fod eu dillad wedi rhwygo. Cyrraedd adre rhywsut oedd y peth pwysig. Os byddai Taffy wedi mynd tipyn o'u blaen, safai nes y deuent i'r golwg, yna i ffwrdd ac ef, ac o'r diwedd llwyddodd i'w harwain i ffordd Llanrhychwyn ac yn fuan i'r ffordd bôst. Ni fu erioed mor dda gan y tri gyrraedd adre a'r noson honno. Trannoeth, wrth adrodd yr hanes wrth wraig yn y dref, a adwaenent yn dda, gwraig pur wybodus a darllengar, yn fwy felly na'r cyffredin ond er hynny'n ofergoelus, synnent ei chlywed yn dweud, "Wyddoch chi ddim fod y lle y soniwch amdano yn lle ag ysbryd yn ei aflonyddu"? Ni fynnai'r genethod dderbyn y fath syniad: "O ydi", meddai'r wraig, "mae'n eitha gwir. 'Roedd tyddyn taclus yno ers talwm, ond ni allai neb fyw yno, 'roedd rhywbeth yn aflonyddu arnynt, fel pe bai yn benderfynol i'w gyrru oddi-yno, ac o'r diwedd gadawyd y tŷ ac aeth a'i ben iddo fel y mae yn awr".
Beth bynnag oedd esboniad yr hanes, nid yw'r ddwy wedi anghofio hyd heddiw y llais rhyfedd a'u dychrynodd gymaint, na'r modd yr arweiniodd Taffy hwynt i ddiogelwch.
Credai un o chwiorydd Mam y byddai yn bosibl i ddyn ymddangos mewn ffurf anifail. Caf son ymhellach am ei hofergoelion anhygoel, ond hawdd oedd ganddi hi gredu fod anifeiliaid yn rhesymu. Amdanaf fy hun, ni wn. Gadawaf i'r darllenydd roi ei farn ar y storïau â adroddais.