Neidio i'r cynnwys

Siaced Fraith/Y Potsiars

Oddi ar Wicidestun
Yr Hen Gapel Siaced Fraith

gan Elizabeth Williams

Meri Ann

PENNOD III
Y POTSIARS

TUA phymtheg a thrigain o flynyddoedd yn ôl 'roedd potsio'n beth cyffredin iawn mewn ardaloedd gwledig, ac felly yn afon. y Garn, naill ai i ddal sgyfarnog, ar y tir, neu samon yn yr afon.

Ni welwyd fawr ddrwg ynddo gan lawer a fuasent heddiw yn gwaredu rhag y fath beth. Credent fod ganddynt hawl ar y creaduriaid gwylltion. Ac, yn wir, byddai rhai o ddynion parchus y pentref yn mwynhau noson o botsio dim ond er mwyn yr hwyl.

Y peth pwysig, wrth gwrs, oedd osgoi'r cipar. Felly yn y nos y byddai'r potsio.

Tir defaid oedd yr ardal gan mwyaf, a waliau'r caeau yn waliau sych, heb ddim morter yn agos iddynt. Gosodid adwy yma ac acw yn y waliau a digon o le i'r defaid gael crwydro o gae i gae heb ddringo'r waliau.

Ar noson leuad y byddai potsio sgyfarnog, a dyma'r dull gymerid. Gosodid rhwyd ar bob adwy a dyn i'w gwylio. Yna gyrrid y ci allan i godi'r sgyfarnog.

Ymysg y rhai fyddai yn mwynhau hwyl y dal sgyfarnog oedd William Brymer, groser a draper o'r pentref. 'Doedd dim a hoffai'n fwy na mynd allan ar noson leuad braf, gyda dau neu dri o'i gyfeillion, a'i filgi, o'r enw Spring. 'Roedd John fy mrawd yn gyfaill mawr iddo a bu lawer tro gydag ef yn potsio sgyfarnog. Cyfaill arall oedd W. H. Williams, gorsaf feistr y Bryncir (ac yn hwyrach, fy mhriod). Un noson hudwyd W. H. i fynd gyda'r criw. Gosodwyd ef i wylio un adwy cyn anfon y ci i godi'r pry, fel y dwedid. Nid oedd neb wedi meddwl ei rybuddio y byddai sgyfarnog, unwaith yn garcharor yn y rhwyd, yn screchian fel plentyn.

Cododd y ci sgyfarnog yn union deg, a rhedodd y sgyfarnog yn syth am yr adwy lle gwyliai W.H. A'r funud y cafodd ei hun yn y rhwyd, rhodd screch ofnadwy. 'Roedd y screch mor anisgwyliadwy fel y gollyngodd W.H. y rhwyd, a diangodd y sgyfarnog, a thorrodd W.H. ei gymeriad fel potsiar am byth.

'Roedd un hen frawd, Dafydd Tomos, yn rêl potsiar. 'Doedd dim a hoffai'n fwy na noson gyda criw i geisio codi sgyfarnog. Un noson aeth amryw ohonynt ati a Dafydd Tomos yn eu plith. Gosodwyd Dafydd i wylio adwy, heb fod ymhell o fynwent eglwys cyfagos. Digwyddodd yr hen frawd godi ei olwg tua'r fynwent. Er ei fraw gwelodd yng ngolau'r lleuad rhyw ddrychiolaeth wen fawr yn sefyll ar wal y fynwent. Yn ei ddychryn rhedodd i chwilio am y gweddill o'r criw, a dwedodd yn gynhyrfus, "Dowch adra hogia ar unwaith. Dowch rhag blaen". Ac i ffwrdd a phawb gan dybio fod Dafydd wedi gweld y cipar. Wedi iddynt fynd spel o ffordd, a chael dipyn o'i gwynt atynt, gofynnodd un ohonynt. "Welaist ti'r cipar, Dafydd"? "Na welis i", meddai Dafydd. "Wel, be welist ti ynta"? "Hogia annwyl", meddai Dafydd, "Mi welis y peth mwyaf ofnadwy a welis erioed, a taf i byth i botsio eto". "Wel, dwed beth welis ti". "Gweld ladi wen fawr yn sefyll ar wal fynwent ac yn edrych i lawr arnaf. Taf i byth i botsio eto". Ac i ffwrdd a nhw adre yn teimlo'n bur swat. Cafodd y sgyfarnogod heddwch y noson honno!

'Roedd yr eglurhad trannoeth yn ddigon syml. Mae'n ymddangos fod moniwment o farmor gwyn wedi ei godi yn ymyl wal y fynwent er pan y bu Dafydd Tomos y ffordd honno ddiwethaf, ac yng ngolau'r lleuad edrychai'n hollol fel y ladi wen a ddychrynodd Dafydd Tomos y noson cynt.

Noson dywyll ac nid noson olau leuad oedd yn ofynnol i'r math arall o botsio-potsio samon, neu ffaglu'r afon fel y'i gelwid.

Saif y pentref yn uchel ar ochr llechwedd craig. Rhed yr afon Dwyfor heibio Dolbenmaen ac ar hyd y gwastadedd islaw, i'r môr. Peth cyffredin oedd i drigolion y pentref, ar noson dawel, dywyll weld amryw oleuadau ar hyd glan yr afon. Gwyddai pawb beth oedd yn bod ond ni chymerai neb sylw. Gwyddent fod y potsiars wrthi'n ceisio am samon. Hawdd fyddai prynnu samon yn rhad yr adeg honno.

Arferai rhai o'r potsiars roi y samon yn y simdde i gochi yn y mwg. Fe gadwai samon wedi ei gochi yn y dull yma am gryn amser, a byddai blas neilltuol o dda arno.

Potsiar arall diail oedd dyn a adwaenid fel Robin y Bwtsiar. Gelwid ef felly am yr arferai fynd o gwmpas y ffermydd i ladd moch. Potsiar samon oedd Robin gan mwyaf. Dyma'r dull o ffaglu'r afon. Rhoed dau i wylio, rhag i'r cipar ddod ar ei gwarthaf. Yna byddai un neu ddau yn dal y ffaglau uwchben yr afon. Gwelid i waelod yr afon yng ngolau ffaglau a deuai'r samon i fyny at y golau. Safai dyn yn yr afon oedd yn gyfarwydd a'r gorchwyl a tryfer yn ei law. A phan ddeuai'r samon at y golau cai ei sticio a'r tryfer a'i daflu i'r lan.

Un noson 'roedd criw ohonynt wedi mynd at yr afon i ffaglu, a Robin y Bwtsiar yn eu mysg. 'Roeddent wrthi'n brysur, yn oriau mân y bore, pan chwibanodd un o'r gwylwyr. Golygai hyn fod perygl yn ymyl. Diffoddwyd y ffaglau a gwaeddodd Robin, "Chwalwch, hogia", ac i ffwrdd a nhw nerth eu traed un yma ac un acw. Gwadnodd Robin hi am ffarm Cefn Coch lle 'roedd i ladd mochyn yng nghorff y bore. Cyrhaeddodd Cefn Coch pan oedd y gweision a'r morwynion ond newydd godi. Gofynnodd am ddŵr berwedig rhag blaen i sgaldio'r mochyn, gan fod yn rhaid iddo, meddai, fynd ymlaen i ffarm arall. Gyda help y gweision rhoed y mochyn ar y bwrdd lladd. Pan 'roedd Robin wedi gorffen popeth gofynnodd am weld y Sgweiar. Daeth y boneddwr allan ato. "Bore da, Syr", meddai Robin, "dyma'r mochyn gore a leddais erioed". "Wel ia'n wir", meddai'r Sgweiar, "ac 'rwyt wedi gwneud job dda arno hefyd". "Beth yw o'r gloch, syr"? "Mae'n wyth o'r gloch". "Diolch i chi Syr", ac i ffwrdd a Robin am ei gartref.

'Roedd yn rhy dywyll i'r cipar allu adnabod yr un o'r potsiars yn oriau mân y bore. Ond 'roedd yn sicr yn ei feddwl mai llais Robin glywodd yn gwaeddi ar i'r hogiau chwalu. Y canlyniad fu i Robin dderbyn clamp o bapur glas, a bu'n rhaid iddo ymddangos o flaen ei well ym Mhorthmadog, am botsio samon. 'Roedd Sgweiar Cefn Coch yn Ustus Heddwch, ac yn eistedd ar y Fainc y diwrnod hwnnw. Rhoes y Cipar adroddiad pur ddu yn erbyn Robin. Digwyddodd y Cadeirydd ofyn i'r Cipar faint o'r gloch oedd pan welodd Robin. 'Doedd wiw i'r Cipar gyfadde mai yn nhywyllwch y bore cynnar y digwyddodd ddod ar draws y potsiars, ac mai llais Robin yn unig a adnabyddodd. Felly, meddai'n dalog, "Wyth o'r gloch, syr". Gofynnodd y Cadeirydd i Robin, "Wel, beth sydd gen ti i ddweud yn erbyn y dystiolaeth yna"? Trodd Robin at y sgweiar: "Rwy'n apelio atoch chi, Syr. 'Doeddwn i ddim wedi gorffen lladd mochyn yn Cefn Coch cyn wyth y bore, a sut oedd yn bosib imi fod mewn dau le ar unwaith". A meddai'r Sgweiar: "Rwyt yn deud y gwir, Robin. 'Roeddit yno, a gwnest job dda arno hefyd".

'Doedd dim i'w wneud yn erbyn tystiolaeth y Sgweiar. Felly cafwyd Robin yn ddieuog. Ond am y cipar truan, cafodd gerydd hallt gan y Cadeirydd am ddod ag achos mor ddisail o'u blaen. A chafodd Robin ryddid i ddal aml i samon yn yr afon ar ôl hyn.

Nodiadau

[golygu]