Siaced Fraith (testun cyfansawdd)
| ← | Siaced Fraith (testun cyfansawdd) gan Elizabeth Williams |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Siaced Fraith |

SIACED FRAITH
Ail gyfrol Mrs. Elizabeth Williams, Awdur y llyfr poblogaidd Brethyn Cartref.
YN ei Rhagair i'r gyfrol hon dywed yr Awdur ... daeth i'r golwg lifeiriant o ddarluniau, o hanesion, o draddodiadau fu yn guddiedig ym mhen pellaf fy nghôf am flynyddoedd. Nid oedd lle iddynt i gyd yn Brethyn Cartref. . . Mae'n amlwg fod diddordeb yn parhau o hyd mewn hanesion yr amser a fu. . ."
Yn y gyfrol hon fe geir "Bob—ychwaneg o'i hanes" "Yr Hen Gapel", "Y Potsiars", "Meri Ann", "Y Pen Blaenor", etc., etc.—clytiau o'r fan hon a'r fan draw, pob clwt a'i liw a'i le gwahanol, a'r cwbl yn gwneud SIACED FRAITH liwgar honno'n ddeniadol a diddorol i bob oed.
5/-

WILLIAM WILLIAMS, D.SC., ELIZABETH WILLIAMS, J. LLOYD WILLIAMS D.SC., MUS. DOC., HUGH WILLIAMS
ROBERT WILLIAMS (BOB)
SIACED FRAITH
gan
ELIZABETH WILLIAMS

Argraffiad Cyntaf-Medi 1952
Ail Argraffiad-Ionawr 1953
ARGRAFFWYD GAN J. D. LEWIS A'I FEIBION CYF.,
GWASG GOMER, LLANDYSUL
CYNNWYS
Diolchaf i Mr. E. Morgan Humphreys am ei garedigrwydd di-ben draw yn darllen a chywiro ac i Mri. J. D. Lewis a'i Feibion Cyf. am eu cynorthwy caredig a pharod.
E.W.
RHAGAIR
Y DYDD o'r blaen cefais y profiad cyntaf o'r radio-lygad. Am ychydig funudau ar ôl i mi droi'r nob i gyfarwyddo'r trydan, arosodd y scrîn yn dywyll. Yn y man dechreuodd oleuo'n araf nes o'r diwedd daeth yn olau i gyd, a phob pwynt bychan yn y darlun yn sefyll allan yn glir.
Dyna'r ffordd y bu i'm cof weithio. Pan ddechreuais baratoi at ysgrifennu Brethyn Cartref a throi'r nob yn fy nghof, ni sylweddolais ar y cychwyn fel y byddai manylion o bob math yn ymddangos yng ngolau'r scrîn, o gornel pellaf a thywyllaf fy nghof.
Daeth i'r golwg lifeiriant o ddarluniau, o hanesion, o draddodiadau, o ddywediadau fu yn guddiedig ym mhen pellaf fy nghof am flynyddoedd. Nid oedd lle iddynt i gyd ym Mrethyn Cartref heb i'r cefndir lethu hanes y teulu. Ond, unwaith i mi droi'r nob, nid oedd, ac nid oes, modd ail-guddio'r manylion. Mae'n amlwg o ddarllen y llythyrau a gâf o bob rhan o'r byd fy mod wedi troi nob yng nghof llawer o'm cyfoedion, neu yng nghôf eu perthynasau. Mae'n amlwg hefyd fod diddordeb yn parhau o hyd mewn hanesion yr amser a fu, er maint y rhyfeddodau lliwgar a gawn yn yr oes wyddonol a chyffrous hon.
Hwyrach, rhyw ddydd a ddaw, y bydd i'n plant weld, ar droad rhyw nob neu'i gilydd, ddarluniau byw o'r hen oesoedd yn ogystal a darluniau o'r bywyd presennol. Yn y cyfamser nid oes modd cael gwybod am y gorffennol ond drwy hanes. Dyma fi, felly yn ceisio gwau pedwar-ar-ddeg clwt bychain yn un. Clwt y fan yma o Sir Fôn, clwt y fan draw o Sir Gaernarfon; clwt neu ddau o ddyffryn Conwy; pob clwt a'i liw a'i le gwahanol, ond y cwbl yn gwneud un siaced fraith.
ELIZABETH WILLIAMS.
I GYMRU FYDD
PENNOD I
BOB
DERBYNIAIS lawer o lythyrau o bob cwr oddi wrth ddarllenwyr Brethyn Cartref, a synnais weld mewn cymaint o honynt gais am "fwy o hanes Bob". Mae'n amlwg fod y darlun o Bob wedi creu edmygedd ohono. Felly, dyma fi'n ychwanegu tipyn at y manylion a roddais eisoes.
Dwedais gymaint o ddarllenwr oedd Bob ac mor uchel oedd ei feddwl o Churchill. Daw i'm cof sgwrs rhyngddo a'm brawd Hugh yn eu fflat yn Llundain un amser te. Te "cyllell a fforc" oedd, a Bob wrthi'n brysur a'i gyllell a'i fforc yn ei ddwylo. Eisteddai Hugh gyferbyn ag ef. Trodd y sgwrs at waith Churchill fel awdur a dwedodd Hugh na roddai Churchill ym mhlith rhestr yr ysgrifenwyr gorau. Llonyddodd y gyllell a'r fforc yn nwylo Bob ac edrychodd yn syn ar Hugh. "Beth—wyt ti'n meddwl dweud nad yw Churchill yn ysgrifennwr da"? "Ydw", meddai Hugh. "Pam 'rwyt ti'n dweud y fath beth"? "Mae gormod o purple patches yn ei ysgrifennu". Rhoddodd Bob ei gyllell a'i fforc i lawr ar y bwrdd; gosododd ei ddwy law un ar bob clun ac edrychodd, a'i lygaid yn pefrio, ym myw llygaid Hugh. "Gwrando ar hwn", meddai, ac, adroddodd ar ei hyd yr olygfa 1af o Henry IV gan Shakespeare. Ar y diwedd dwedodd: "Purple patches! Glywaist ti erioed fwy o burple patches? Purple patches yw y rhan fwyaf o waith Shakespeare, ac wyt ti ddim am feiddio dweud nad oedd Shakes- peare yn ysgrifennwr"? A dyna daw ar Hugh!
Gallai siarad gydag awdurdod ar unrhyw bwnc ac mewn unrhyw gwmpeini. Rhoddai bob amser gyfraniad o'i ddarllen eang. Er na ddarllenai Roeg a Lladin 'roedd yn hollol gyfarwydd â'r clasuron mewn cyfieithiaid. Gallech godi unrhyw bwnc-o seryddiaeth i seicoleg-byddai Bob wedi darllen rhywbeth dyrus am dano yn rhywle, a chofiai y lle yn ogystal. 'Roedd ganddo gof fel encyclopaedia.
Yn rhyfedd iawn, er mai darllenwr oedd yn gyntaf ac yn olaf, cymerai ddiddordeb mawr mewn bocsio. Gallai enwi pob bocser mawr a rhoi ei hanes ac os byddai disgrifiad o focsing match ar y radio byddai Bob a'i glust wrth y set rhag colli gair.
'Roedd ei dŷ bach ym Mirmingham mor llawn o lyfrau fel mai prin y gallai symud yn ei ystafell wely, o dan y gwely, hyd y grisiau ac ar bob cadair. 'Doedd ryfedd iddo ddewis byw mewn tŷ yn hytrach nac mewn llety cysurus. Tŷ bychan oedd, ynghanol tai gweithwyr, a llawer o'r trigolion yn yr ardal yn anosbarthus, yn meddwi ac yn ymladd, a'r iaith yn ddifrifol. Nid amharai hyn ddim ar Bob. 'Roedd yn byw mewn byd dieithr iawn i'w gymdogion, byd tawel ynghanol ei lyfrau a'i freuddwydion. Ac er na roddodd erioed argraff ei fod yn ei feddwl ei hun yn well na'i gydweithwyr—ni ddaeth i'w ben erioed i goleddu'r fath syniad—eto edrychai ei gymdogion i fyny ato fel rhywun uwchlaw iddynt eu hunain. Dangosant eu parch ato drwy ei gyfarch bob amser fel "Mr. Williams"—peth dieithr iawn mewn ardal o'r fath.
Ni thalodd Bob erioed sylw i'w ddillad, ond cyn belled ac y byddai'n weddol drefnus. Credai fod llyfrau yn fwy pwysig i ddyn wario amser ac arian arnynt na dillad. Ond, ar un amser meddai ar dop côt ddu hardd—nid oedd debyg iddi yn yr ardal. Os byddai angladd neu briodas mewn teulu yn y gymdogaeth, curai rhywun ar ddrws Bob a gofynnai'n gwrtais: "Please Mr. Williams may we borrow your overcoat for the day"? Ni ddaeth i feddwl Bob erioed wrthod. Meddai ar galon fawr garedig, a bu'r dop côt mewn llawer priodas ac angladd. Cynorthwyodd Bob lawer ar ei gydweithwyr os byddent allan o waith—heb ofyn dime'n ôl. 'Doedd ryfedd iddo golli pob ceiniog o'i elw cyn gadael Birmingham.
Un haf daeth Bob o Firmingham atom i Lanrwst am wyliau. Digwyddai Hugh ddod hefyd o Lundain a chafodd y ddau grwydro ar hyd eu hen gynefin a sgwrsio am yr hen amser gynt. 'Roedd Hugh yn wahanol iawn i Bob. Bu Hugh bob amser yn talu sylw i'w wisg, ac edrychai'n ddestlus iawn ac yn "well groomed" chwedl y Sais. Tybiai Hugh y dylai Bob dalu mwy o sylw i'w ymddangosiad—ond 'roedd Bob yn berffaith hapus. Gwisgai tsiêt-ffrynt gwyn wedi ei startsio i'w roi ar y crys. Cuddiai y tsiêt liaws o bechodau. Gellid ei roi ar grys gwlanen neu unrhyw fath o grys. Gwisgai Nhad tsiêt ar hyd y blynyddoedd. Cofiaf yn dda fel y deuai adre o'r chwarel bnawn Sadwrn. Ar ôl pryd o fwyd y peth cyntaf a wnai fyddai ymolchi a shafio a rhoi tsiêt a choler lân yn barod i fynd gyda Mam i'r dre.
Ond tsiêt gwahanol a wisgai Bob—tsiêt yn un â'r goler a byddai'n ofynol ei botymu ar hyd y ffrynt ac ni thrafferthai Bob i weld fod y botymau wedi eu cau yn iawn. Ar y tsiêt gwisgai dei fflat fel cledr llaw, wedi ei wneud yn barod yn y siop ac felly'n arbed y gwaith o wneud cwlwm taclus—llai o drafferth o lawer ym meddwl Bob. Edrychai'n ddigon twt ar y cychwyn ond gan nad oedd y tsiêt wedi ei botymu, gweithiai ei ffordd allan o'r wasgod a byddai golwg rhyfedd ar Bob, a'i tsiêt ar un ochr.
'Roedd Hugh am iddo roi'r tsiêt o'r neilltu a gwisgo coler ar ei grys, a thei. Er mwyn ei ddenu i wneud hyn aeth Hugh i'r dre i brynu coler a thei. Ond 'roedd Bob yn fwy dyn na'r un o'i frodyr a bu'n rhaid i Hugh fynd dair gwaith i'r siop cyn llwyddo i gael coler yn ddigon mawr i ffitio Bob. O'r diwedd caed coler ac aed ati i wisgo. Cymerai Bob arno brotestio—"byddi'n siwr o'm tagu cyn y diwedd", ond 'roedd wrth ei fodd yn gweld Hugh yn stwna o'i gwmpas. Pan lwyddodd Hugh gau'r goler a chlymu'r tei newydd galwodd ar fy ngŵr a minnau i roi ein barn. Druan ohono! 'Roedd y goler a'r tei yn daclus ddigon ond gwisgai Bob grys o liw khaki a brynnodd mewn stondin ail-law am wyth geiniog—crys glân a thaclus, ond 'roedd rhes o fotymau alcam ar hyd y ffrynt. Rhaid oedd cyfadde fod tsiêt yn ofynnol ar grys o'r fath !
Aeth y gŵr a minnau i ffwrdd am ychydig ddyddiau a gadawsom y ddau yn y tŷ a'r wraig fyddai'n dod i lanhau bob dydd i edrych ar ôl gwaith y tŷ iddynt. Ymgymerodd Bob a'r coginio—honnai fod yn fwy cyfarwydd na Hugh. Un bore gwnaeth uwd i frecwast. Tybiodd Hugh fod blas rhyfedd iawn ar yr uwd ac yr oedd yn glynu fel gliw wrth ei enau. "Be roi'st ti
yn yr uwd Bob"? gofynnai. "Mi ddwedai wrthyt ti fachgen—cefais hyd i baced o Atora suet yn y gegin—paced llawn weld di, a mi roddais y cwbwl yn yr uwd. Ardderchog—digon o ffat wyt ti'n gweld". Bu Hugh yn wyliadwrus iawn rhag uwd Bob o hyn ymlaen, ac yr oedd yn falch iawn ein gweld yn ôl.
Pan oedd yn byw ym Mirmingham dioddefodd Bob am amser hir trwy fethu cysgu. Cynghorodd cyfaill iddo yfed stowt bob nos cyn mynd i'w wely. Felly y bu ac yn wir 'roedd Bob wedi mynd i gredu na chysgai winc heb y stowt. Nid âi i dafarn i'w yfed ond i'w gyrchu, bob nos yn selog.
Pan ddaeth i fyw i Lundain at Hugh, rhaid oedd cael y stowt fel arfer. Âi bob nos cyn swper i dafarn yn y stryd nesa a deuai yn ôl a dwy botel hanner peint un ymhob poced a'r gyddfau'n sticio allan. 'Roedd hyn yn hollol yn erbyn y graen gan Hugh. Ofnai i'r cymdogion yn y stryd barchus lle y bywiant weld Bob a'r ddwy botel yn ei boced. 'Roedd rhoi troed mewn tafarn yn beth gwrthyn iawn yng ngolwg Hugh. Gyda llaw nid arferai yr un o'm brodyr yfed dim cryfach na the, ac nid ysmygant chwaith. Ac ni roddai Bob ei droed mewn tafarn ond i 'nôl y stowt. Cwynai Hugh hefyd na wnai Bob yfed y stowt mewn gwydr; mynnai Bob fod ei yfed yn syth o'r botel yn rhoi arno flâs hollol wahanol.
Digwyddodd i Bob gael annwyd mawr fel na allai fynd i 'nôl y stowt. Gwrthododd Hugh yn bendant wneud y neges yn ei le. Ond gwnaeth fargen â Bob. Cynigiodd wneud malted milk poeth iddo bob nos yn lle'r stowt. "Wel mi triwn ni hi", meddai Bob, ac er ei fawr syndod cysgodd yn nobl ar ôl y cwpaned cyntaf, ac ni chlywyd sôn mwyach am stowt.
Wrth ddewis cyfaill ni feddyliai Bob am y dyn allanol. Fel y barnai lyfr am ei gynnwys, beth bynnag fyddai cyflwr y clawr, felly mewn cyfaill edrychai'n unig ar natur y dyn ei hun. O ganlyniad 'roedd amrywiaeth mawr yn ei gyfeillion a gallai siarad iaith pob un beth bynnag ei sefyllfa. Yn wir, gallai, byddai eisiau, ddefnyddio iaith pur ryfedd. Ond, adlewyrchiad o'i ddarllen eang oedd ei iaith naturiol.
Soniai lawer am un cyfaill ym Mirmingham. 'Roedd hwn yn glâf o'r parlys ac ni allai symud o'i wely gan fod ei aelodau o'i wâst i lawr yn ddiffrwyth. Perthynai i deulu ariannog ond gan ei fod wedi byw'n afradlon, ni fynnai ei deulu ei gydnabod ond yn unig dalu i wraig y llety am edrych ar ei ôl. Treuliodd Bob lawer awr ddifyr yn ei gwmni. 'Roedd wedi gweld bywyd diethr iawn i Bob. Bu'n actor ac mewn syrcys a llawer o bethau eraill. Ambell dro, pan fyddai'r tywydd yn caniatau, llogai Bob gadair ar olwynion ac âi ag ef allan i weld y siopau. Dyna'r unig adeg y câi y clâf fynd i'r awyr agored a gweld pobl yn y stryd.
Deuai ei frawd i ymweld ag ef o dro i dro, yn ei "carriage and pair" chwedl Bob. Un tro pan ddaeth yno 'roedd y clâf wedi bod yn bur wael, a'r meddyg wedi awgrymu y buasai mordaith yn lles iddo. Aeth, ar draul ei frawd, ar fordaith rownd y byd. Edrychai Bob ymlaen at ei weld yn ôl gan ddisgwyl clywed am y rhyfeddodau a welodd ar y daith. Ond, er ei syndod a'i siomiant, pan ofynnodd iddo sut y mwynhaodd y daith, yr unig ateb oedd, "I missed my fire". "Meddylia", meddai Bob, a dirmyg yn ei lais, "wedi bod yng nghyrraedd holl ryfeddodau'r byd a'r unig beth a'i cynhyrfodd oedd colli ei dân".
Trist i mi oedd gweld y newid mawr ynddo yn y blynyddoedd diwethaf. Dirywiodd y cof ardderchog o ddrwg i waeth. I ddechrau byddai y colli yn smala. Cofiaf un diwrnod i gyfaill yn y Garn alw i edrych amdano. Ceisiai Bob, wrth drafod rhyw fater, gofio enw politisian adnabyddus, ac ni allai yn ei fyw ei gofio. Trodd y sgwrs at rywbeth arall, a thoc, cododd y cyfaill i fynd adre. Wedi iddo fynd bron o'r golwg, ar amrantiad cofiodd Bob yr enw, a chripiodd gyda'r dodrefn at y drws ffrynt. Erbyn hyn 'roedd y cyfaill ymhell o gyrraedd llais, ond cododd Bob ei law a gwaeddodd nerth ei ben—er syndod trigolion y pentre—BONAR LAW!
Hawdd fuasai 'sgrifennu cyfrol am Bob a dim arall. Ond, gwell fyddai i mi gau'r clawr ar y bennod hon gan obeithio y bydd yr ychydig fanylion o'i hanes yn rhoi pleser i'r rhai a geisia gennyf "fwy o hanes Bob".
PENNOD II
YR HEN GAPEL
Ys gwn i sawl un o'm cenhedlaeth i sydd yn fyw heddiw ac yn cofio hen Gapel Mawr Llanrwst. Yn yr hen gapel y magwyd fi a'm chwe brawd.
I mi fel plentyn, 80 mlynedd a mwy yn ôl, ymddangosai'n adeilad anferth o fawr—mwy mae'n siwr nac oedd mewn gwirionedd. Ond mae'n amlwg ei fod yn nodweddiadol am ei faint; onid "Capel Mawr" y'i gelwid? A chofiaf stori Nhad i ddangos fel y byddai'r aelodau yn ymffrostio yn ei faint. Adroddai Nhad am ddau chwarelwr yn y "barics" ym Mlaenau Ffestiniog, un ohonynt o Lanrwst ac yn aelod o'r "Capel Mawr". "Wyddost ti beth, was", meddai, "pan fydd y capel ond hanner llawn, llasat gerdded am chwarter awr heb weld 'run gwyneb byw". Nid y capel cyntaf oedd. Sefydlwyd yr achos yn 1768, adeiladwyd capel yn 1801, ac ail-adeiladwyd yn 1837. Dyna, i mi, yr Hen Gapel.
Pan ddychwelais, ar ôl priodi, flynyddoedd wedi i mi fynd o Lanrwst i'r Garn Dolbenmaen, nid oedd yr hen gapel yn aros. Ar y fan lle y safai gynt 'roedd y capel presennol—Capel Seion. Tybiwn ei fod yn llawer llai na'r hen gapel. Hwyrach mai dychymyg plentyn oedd yn gyfrifol, ond 'rwyf yn teimlo hyd yn oed heddiw fod y capel newydd yn llai na'r hen.
Oddi allan 'roedd y capel yn debycach i hen sgubor nag i addoldy, fel bron bob capel o'r un cyfnod. Mae'n amlwg iawn nad oedd Ymneilltuwyr yr oes yn credu mewn addurno eu haddoldai. Ac yn wir, os y credent, fel y clywais Nain yn dweud, mai balchder pechadurus oedd i ddyn osod rhesen wen yn ei wallt, pa ryfedd oedd iddynt ddewis adeiladu addoldai mor ddiaddurn a llwm!
Yn yr hen gapel safai y pwlpud yn fflat yn erbyn y pared, rhwng y ddau ddrws ffrynt, yn hollol groes i'r drefn bresennol lle y mae'r pwlpud yn y pen draw yn wynebu'r drysau ffrynt. 'Roedd y galeri hefyd i'r cyfeiriad cyferbyn, a ffrynt y galeri yn wynebu'r drysau ffrynt, yn y fan lle mae heddiw yr organ a'r pwlpud. Nid oedd, wrth gwrs, nac organ nac harmonium, dim ond lleisiau y gynulleidfa, tan awdurdod y codwr canu.
Ac, wrth gwrs, nid oedd modd twymo'r capel ar dywydd oer. 'Roedd dwy eil yn rhedeg rhwng y seti o'r drysau ffrynt ar hyd lawr y capel wedi eu palmantu a brics mawr sgwâr a matin ar hyd y canol rhag twrw traed. 'Roedd seti canol y llawr ar dipyn o godiad, a llawr coed iddynt. Codai y seti tan ochrau'r galeri, pob un yn uwch na'r llall. Ym mhen draw'r capel, o dan ffrynt y galeri, codai meinciau di-gefn, yn rhes un uwch ben y llall. Yma'r eisteddai'r rhai na allent fforddio talu am sêt. Dyma lle yr eisteddai pobl a phlant y "wercws" (work- house). Deuai amryw o weision ffermydd i'r capel y nos yn enwedig yn yr haf, i eistedd ar y meinciau. Byddai rhai yn ddigon afreolus a gwelais fy nhad fwy nac unwaith yn gafael yng ngwar un ohonynt a'i wthio allan. Nhad fyddai'n gofalu am gloi drws y cefn yn nechrau'r bregeth, felly 'roedd ein sêt ni wrth ymyl drws y cefn. Cofiaf yn dda weld Nhad yn mynd ar flaenau ei draed ar ddiwedd yr emyn cyn y bregeth i gloi y drws.
Yr adeg honno eisteddai'r "bobol fawr" yn y galeri, a'r bobol gyffredin ar lawr y capel.
Seti cul, cefn uchel oeddynt, a drws yn cau ar bob un Nid. wyf yn cofio pa un ai gas ai lampau oel oedd yn goleuo, ond cofiaf yn dda mai ar ben pyst yn codi o'r seti oedd y golau. Cofiaf mor flin oedd eistedd ar y sêt gul ar hyd pregeth faith. Ni fyddai pregeth yn cymryd llai nag awr. Yn aml byddai'n cymryd awr a chwarter. Ni ystyrrid pregeth llai o faint yn werth tâl. 'Roedd eistedd yn llonydd cyhyd yn dreth drom ar blentyn.
Cofia Hugh fy mrawd ei hun yn eistedd ar stôl fach ar waelod y sêt, am nad oedd y sêt yn ddigon hir i'r naw ohonom yn y teulu. Gan fod y cefn yn uchel, ni welai ddim o gwbwl, ond pan fyddai pawb ar eu traed i ganu.
Gwisgai bob dyn a allai het silc ar y Sul. Er mai gweithiwr oedd Nhad meddai ar het silc, i'w gwisgo ar y Sul yn unig. Gwnai un het silc am oes. 'Roedd het silc yn rhan o barchu'r Sabath, a chofiaf edrych ar y rhengodd o hetiau silc yn tyrru allan o'r capel ar ddiwedd oedfa. Erbyn heddiw, i weld y fath olygfa, rhaid sefyll y tu allan i Synagog ar fore Sadwrn.
Gwisgai'r merched ŵn llaes at y traed a chwmpas llathenni yn y sgert, ac o leiaf tair pais o dan y gŵn nes y byddai fel "cyrnolin" (crinoline). Y peth pwysig oedd gallu fforddio gŵn sidan, yn shi-shio wrth symud. Siôl a wisgid ar y gŵn. Siôl besly (paisley) oedd yn fwyaf ffasiynol, ond nid pawb allai ei fforddio. Siôl cashmere ddu a fringe hir sidan a wisgai Mam. Gwisgent y siol wedi ei phlygu yn groes. Byddai'r pig yn cyrraedd bron at waelod y gŵn y tu ôl. Bonet a wisgai pob gwraig briod yr adeg honno. Cofiaf fynd gyda Mam i Siop miliner yn Heol Watling lle yr arferai hi gael ei boneti. 'Roedd gwraig y siop eisiau i Mam gael blodau ar y fonet gan ei bod yn gweld y fonet yn rhy blaen. Cofiaf hi yn pwyso arni a dweud y byddai merched yn gofyn, "pwy mewn rheswm sy'n gwneud boneti'r ddynes o Station Terrace—tydi hi fawr o filiner, mae'n amlwg; mae ei boneti yn union fel pe bai yn arfer cario pisar dŵr ar ei phen".
Cofiaf "Mrs. Jones y Drygist", gwraig bur bwysig, a eisteddai mewn sêt canol y llawr. Deuai yn hwyr bob amser i'r moddion, y rhan amlaf ar ôl dechrau'r bregeth, trwy ddrws y cefn (byddai yn rhaid dadgloi ambell dro) ag heibio ein sêt ni. Byddai ei gŵn sidan yn shi-shio yn uchel, a'i 'sgidiau "lastic side" fel y'i gelwid yn gwichian. Gwisgai "gyrnolin" felly byddai'n hwylio i mewn fel rhyw long hwyliau. Deuai ei gŵr allan o'i sêt yn foesgar i wneud lle iddi fynd i mewn. Tipyn o orchwyl oedd stwffio i mewn i sêt mor gul gan fod ffrâm y gyrnolin yn codi i fyny yn y ffrynt. Ond, 'roedd Mrs. Jones yn feistres ar y gorchwyl.
'Roedd yn bwysig iawn cael gwich mewn esgidiau. Uchelgais bechgyn ifanc fyddai cael gwich mor uchel ag oedd bosib. Cofiaf glywed am un gwas ffarm yn mynd i siop y crydd i ofyn a allai roi gwerth chwech o wich ei 'sgidiau.
Fel y clywais Bob Owen Croesor yn dweud yn ddiweddar—peth rhyfedd yw'r cof. Rhyfedd fel y bu i bethau bach mor ddinôd lynu yn fy nghof am fwy na 80 mlynedd a'r darlun yn dal mor fyw ar hyd y blynyddoedd.
Cofiaf y shinon a wisgid y tu ôl i'r pen, gan ferched heb briodi. Po mwyaf yn y byd a fyddai'r shinon mwyaf ffasiynol y byddai'r ferch. I wneud y shinon gosodwyd yng nghyntaf siâp crwn o wifr wedi ei orchuddio a math o flew neu wallt gosod. 'Roedd fel nyth crwn. Piniwyd hwn yn ei le a throwyd y gwallt o'i gwmpas, a rhwyd sidan yn dal y cyfan wrth ei gilydd. Fel rheol gwisgwyd het fechan, "pork-pie hat" fel y'i gelwid, ar dop y pen. Mae'r enw yn llawn ddigon i'w disgrifio. Gan mai bonet oedd yn rhaid i wraig briod ei gwisgo ni allai wisgo shinon. Nid oedd lle i shinon y tu mewn i fonet.
Yn rhyfedd iawn, ychydig a gofiaf am yr hyn a wisgwn i fy hun. Mae'n amlwg y talwn fwy o sylw i wisgoedd merched nac i wisgoedd plant o'r un oed a mi. Cofiaf y gwisgwn beth a elwid yn "drwsus pais" o galico gwyn a lês ar odre'r trwsus. 'Roedd yn ofynol i'r trwsus fod fodfeddi'n is na'r ffrog. Yn ogystal a'r trwsus-pais gwisgwn ddwy bais, un o wlanen ac un o stwff, o dan y ffrog. Ar y ffrog gwisgwn frat gwyn bob dydd ond i fynd i'r Capel ar y Sul. 'Roedd brat gwyn yn rhan hanfodol o'r wisg. Byddai rhai bratiau yn rhai crand iawn—a sash o ruban sidan llydan, yn cau yn ddolen fawr y tu ôl neu ar un ochr. Gwisgwn esgidiau uchel, sanau cartref tew du, a gardysau yn eu cadw yn eu lle. Cofiaf y gardysau yn dda—rhai o lastic llwyd a bwcwl bach wedi ei osod ar fô bychan o wlanen coch.
Dau weinidog a gofiaf yn yr hen gapel. Y cyntaf a gofiaf oedd Griffith Parry. Byddwn yn ei ystyried yn ŵr mawr pan oeddwn yn blentyn. Ni chofiaf ei weld yn tywyllu ein tŷ erioed, na'i wraig chwaith. 'Roeddem yn bobol rhy fach i ŵr mor fawr gymeryd sylw ohonom. Cofiaf ef yn y pwlpud yn dda. Dyn lled dal, llydan o gorff, wyneb mawr llyfndew, locsyn o boptu ei wyneb a'i wefusau a'i ên wedi eu eillio. Talcen mawr a'i wallt yn dechrau colli ar y talcen. Byddwn yn edmygu ei dalcen gan y byddai'n sgleinio cymaint fel y gallech bron weld eich llun ynddo!
Yr ail weinidog oedd y sawl a ddilynodd Griffith Parry—W. R. Jones (Goleufryn). Dyn ifanc oedd ac yn fy meddwl i 'roedd yn ddyn prydweddol iawn ac yn wir 'roedd ei wraig ac ynte yn bâr hynod o brydweddol. Pryd tywyll oedd gan Goleufryn, wyneb glân a locsyn o'i ddeutu. 'Roedd ef a'i wraig yn boblogaidd iawn. Daeth i Lanrwst tua'r 1873, dwy flynedd cyn i John fy mrawd a minnau adael Llanrwst am Y Garn.
Ni fedrwn erioed wrando na deall pregethau Griffith Parry. 'Roeddent yn rhy ddiwinyddol i ddal fy sylw a'm diddordeb. Ni wyddwn ystyr hanner y geiriau mawr ac ni ddeallwn y pynciau dyrys. Ond, mor wahanol oedd pregethau Goleufryn. Cofiaf iddo am dymor, bob bore sul, bregethu ar yr Hen Destament er mwyn diddori y bobl ifanc a'r plant. Gwnaeth hanesion yr Hen Destament yn fyw ac yn lliwgar i mi am y tro cyntaf erioed ac erys yr argraff fyth.
Anaml cawn fynd i'r capel y nos, ond un nos Sul yn yr haf cefais fynd gyda Nhad. Cofiaf fy mod yn edrych drwy'r ffenestri ar y wenoliaid yn ehedeg ac yn gwibio o gwmpas y capel, a minnau yn meddwl mai chwarae a rhedeg rasus o amgylch y capel oeddynt. Toc, agorodd rhyw ddyn ddrws y ffrynt, rhoddodd ei ben i mewn a gwaeddodd: "Mae tâs William Pritchard Penybont ar dân". Cododd y gynulleidfa yn un ac allan a phawb. Ni welai neb ddim o'i le yn yr ymddygiad.
'Roedd cymydog mewn helynt; dyletswydd pawb oedd troi ato i'w helpu. Nid dibynnu ar rhyw sefydliad, rhyw "fire brigade" neu rhyw beth cyffelyb a wnai dyn yr adeg honno, ond pawb yn barod i roi help llaw a phawb yn gwybod sut i ddibynnu arno ei hun yn ogystal.
Daw i'm cof adeg arall pan welais wagio capel, achlysur gwahanol iawn. Digwyddodd yn Llanrwst yn agos i 50 mlynedd yn ôl. 'Roedd "Organ Recital" yn y Capel, a'r lle yn llawn at y drysau. Daeth i'r plismon wrth y drws ffrynt newydd fod yr iard goed ar dân. Aeth sibrwd am y tân o un i un drwy'r gynulleidfa, ac yn ddistaw bach, o un i un cododd y dyrfa ac aethant allan ar flaenau traed. 'Roedd yr organydd yn cael hwyl dda ar y darn oedd yn ei chwarae, ac yn disgwyl cymeradwyaeth gynnes ar y diwedd. Er ei syndod ni chlywodd si. Trodd i weld beth oedd ar y gynulleidfa. Nid oedd o'i flaen ond seti gweigion! Nid awydd i gynnig help i ddifa'r tân fu'n achos i'r exodus, ond ffoi rhag y llid a fydd. Ymylai'r iard goed ar y gas works ac ofnai pawb weld chwythu tref Llanrwst i fyny i'r cymylau.
Ond i droi'n ôl at yr hen gapel. Ar y meinciau digefn ym mhen draw'r capel eisteddai y plant i gyd yn Seiat y Plant ar ôl yr oedfa fore Sul, y plant ieuengaf ar y fainc isaf a'r rhai hynaf ar y fainc uchaf. Uchelgais pob plentyn fyddai cyrraedd y fainc uchaf. Cofiaf fy hun yn dweud fy adnod ar y fainc isaf, adrodd yn ifanc iawn, a John fy mrawd ar y fainc uchaf pennau pregethau. Dyma yr arferiad pan oedd plant yn ddigon hen i ddysgu llith o'r fath ar gof. Byddai yn ofynol adrodd testun pregeth y bore sul cynt, a'r pennau pregethau, ac yn wir yr is-bennau. Gwaith anodd i blentyn gan fod y pennau yn ddyrys iawn ac yn hollol y tu allan i ddeall plentyn. Byddai'r meinciau yn orlawn bob bore Sul.
Deuai'r blaenoriaid allan o'r Sêt Fawr i ganol y llawr i wynebu'r plant ar y meinciau. Ambell dro gofynent i'r hen frawd Hugh Tomos y crydd annerch y plant. Cofiaf mor ddiflas fyddai gennym ei weld yn codi ar ei draed. Hen ŵr tal, tenau, syth oedd Hugh Tomos. 'Roedd ganddo ben bychan fflat a thebygwn ei ben i ben neidr. Meddai ar lais cryglyd, annifyr, undonog ac ni wyddai pa bryd i orffen ei stori. Ni fyddai neb o'r plant yn gwrando arno. Ond byddai math o gystadleuaeth gennym. Byddai yn codi ar flaenau ei draed wrth siarad ac yn disgyn yn sydyn ar ei sodlau. Arferai y plant gyfrif pa sawl gwaith y disgynai ar ei sodlau a'r gamp oedd gwybod pa bryd i ychwanegu at rif y cyfrif.
Blaenor a gofiaf orau pan oeddwn yn blentyn oedd Morris Jones y "Cnwyllwr" (Canhwyllwr). Gwneud canhwyllau oedd ei waith. Trigai yn Church Street ac yn y cae y tu ôl i'r fan lle saif heddiw yr ysgol Fodern 'roedd ei weithdy. Cofiaf fel y byddai arogl pur ffiaidd pan fyddem yn croesi'r bont relwê ar ein ffordd i'r Ysgol Britis. Gwyddem wrth hynny mai toddi gwêr i wneud canhwyllau fyddai yn mynd ymlaen.
Dyn pur ddreng oedd Morris Jones a chanddo dafod ddigon miniog. Dwedai y drefn yn hallt wrthym ni'r plant weithiau. Ond, gwae i neb arall weld bai arnom! "Chwarae teg iddynt- plant go lew ydynt wedi'r cyfan".
Yn ddiweddarach gwnaed Griffith Owen, Greenwich House, yn flaenor, a dyma un o'r blaenoriaid mwyaf ei ddylanwad a fu yn y Sêt Fawr erioed. 'Roedd golwg urddasol arno. Nid oedd yn anhebyg iawn i Gladstone, ond ei fod yn dalach dyn na Gladstone. Gwisgai stoc du a ffroc côt ac yn ei flynyddoedd diwethaf (hyn ar ôl amser yr hen gapel) gwisgai ar ei ysgwyddau siôl ddu a fringe sidan lydan, y siôl wedi ei phlygu ar ei hyd megys scarf.
Ni wn pa bryd y diflannodd yr hen gapel i wneud lle i'r adeilad presennol. Gadewais Llanrwst yn 1875 a dychwelais yn 1887 ac yn y cyfamser yr adeiladwyd y capel newydd, tybiaf mai tua 1883. Ni wn chwaith pa weinidog a ddilynodd Goleufryn, ai William Roberts ai arall. Beth bynnag am hynny dyma stori a haedda ei hadrodd am gyfnod William Roberts—stori a gefais gan ei ferch hynaf Mrs. Williams, am ddau hen gymeriad adwaenwn. Dau hen frawd o'r "Wercws" oeddynt, a'r ddau yn selog iawn yn Seiat nos Fercher. Dwedai rhai mai'r rheswm oedd y baco a arferai rhai o fechgyn ifanc y capel roi i'r hen frodyr yn awr ac eilwaith. Mosus oedd enw un a Rhobat Jôs oedd enw'r llall. Dioddefai Mosus gan "riwmatis" yn ei draed a'i ddwylaw nes iddo fod yn dipyn o gripil. Dyn braidd yn syml oedd Rhobat Jôs, yn wir 'roedd rhyw faint o goll ynddo. Un noson Seiat 'roedd y gweinidog wedi mynd i ofyn profiad at ochr y dynion. Toc daeth at y ddau hen frawd. Gofynnodd i Mosus "Oes gennych chi air fasech yn hoffi ei ddweud"? "Oes", meddai Mosus, "teimlo fy mod yn haeddu fy namnio am fy mhechodau, syr". Ar ôl rhoi gair bach o gysur iddo trodd at Rhobat Jôs a gofyn, "Oes gennych chwi rhywbeth ar eich meddwl"? "Oes", meddai Rhobat Jôs", "mae Mosus yn dweud y gwir bob gair. Cythral drwg ydi o, syr, mae'n dwyn fy maco i bob tro".
Diflannodd yr hen gapel a'r hen arferion. Mor wahanol oedd y cyfnod. Dydd tawel oedd y Sul; y ffyrdd yn ddistaw, dim cerbydau ond cerbydau yn dod a theuluoedd i'r capel. Merched a bechgyn ifanc, ffermwyr a'u gwragedd, gweision a morwynion ffermydd yn cerdded filltiroedd yn ôl a blaen i'r oedfa. Y capel yn llawn, yr Ysgol Sul yn llawn. Dim o gwbl ar y Sul ond yr oedfaon a'r Ysgol Sul a phopeth yn y tŷ yn troi o gwmpas trefniadau'r capel. Byddai'r plant a'r merched a'r gwragedd yn newid y "ffrogiau dydd Sul" ar ôl cyrraedd gartre ar ddiwedd pob oedfa. Felly byddai cryn newid ar y Sul—o leiaf dair gwaith. i ymwisgo cyn cychwyn i'r capel, a thair gwaith ar ôl dod gartref. Wiw gwisgo y ffrog orau gartref! Dim ond y capel a'i gwelai.
Fel y dwedais eisoes ni wn pryd yr adeiladwyd y capel presennol. 'Roedd yno pan ddychwelais i Lanrwst ymhen 12 mlynedd, yn 1887. Ni wn pam y penderfynwyd ymgymeryd a menter mor fawr ac adeiladu y capel newydd hardd a chostus. Dengys maint y brwdfrydedd a'r egni mewn tref fechan yn ymgymeryd yn llawen a'r baich. Er i'r hen gapel ddiflannu 'roedd yr ysbrydoliaeth yn parhau. Ond, cyfnod newydd oedd yn cychwyn a dibennodd cyfnod gyda diwedd yr hen gapel. "Yr hyn a fu aeth heibio". Daw adeg i bob capel fu unwaith yn newydd ac yn hardd fod yn hen gapel, heb ateb mwyach i ofynion yr oes. Dyna hanes bywyd; symud, symud heb seibiant. Beth am hynny os yw'r ysprydoliaeth yn dal? Y peth rhyfedd i mi yw mai digyfnewid yw dyn er maint y cyfnewid yn ei fyd. Ni welaf wahaniaeth rhwng plant heddiw. ieuenctid heddiw, a phlant ac ieuenctid 80 mlynedd yn ôl, Mae cyfrwng hwyl a diddordeb wedi newid, a'r maes wedi eangu, ond yr un heddiw a ddoe yw llawenydd a gofid, brawdgarwch a rhagfarn. Y peth pwysig yw i'r ffydd a roddodd fodolaeth i'r hen gapel aros ym mywyd Cymru.
PENNOD III
Y POTSIARS
TUA phymtheg a thrigain o flynyddoedd yn ôl 'roedd potsio'n beth cyffredin iawn mewn ardaloedd gwledig, ac felly yn afon. y Garn, naill ai i ddal sgyfarnog, ar y tir, neu samon yn yr afon.
Ni welwyd fawr ddrwg ynddo gan lawer a fuasent heddiw yn gwaredu rhag y fath beth. Credent fod ganddynt hawl ar y creaduriaid gwylltion. Ac, yn wir, byddai rhai o ddynion parchus y pentref yn mwynhau noson o botsio dim ond er mwyn yr hwyl.
Y peth pwysig, wrth gwrs, oedd osgoi'r cipar. Felly yn y nos y byddai'r potsio.
Tir defaid oedd yr ardal gan mwyaf, a waliau'r caeau yn waliau sych, heb ddim morter yn agos iddynt. Gosodid adwy yma ac acw yn y waliau a digon o le i'r defaid gael crwydro o gae i gae heb ddringo'r waliau.
Ar noson leuad y byddai potsio sgyfarnog, a dyma'r dull gymerid. Gosodid rhwyd ar bob adwy a dyn i'w gwylio. Yna gyrrid y ci allan i godi'r sgyfarnog.
Ymysg y rhai fyddai yn mwynhau hwyl y dal sgyfarnog oedd William Brymer, groser a draper o'r pentref. 'Doedd dim a hoffai'n fwy na mynd allan ar noson leuad braf, gyda dau neu dri o'i gyfeillion, a'i filgi, o'r enw Spring. 'Roedd John fy mrawd yn gyfaill mawr iddo a bu lawer tro gydag ef yn potsio sgyfarnog. Cyfaill arall oedd W. H. Williams, gorsaf feistr y Bryncir (ac yn hwyrach, fy mhriod). Un noson hudwyd W. H. i fynd gyda'r criw. Gosodwyd ef i wylio un adwy cyn anfon y ci i godi'r pry, fel y dwedid. Nid oedd neb wedi meddwl ei rybuddio y byddai sgyfarnog, unwaith yn garcharor yn y rhwyd, yn screchian fel plentyn.
Cododd y ci sgyfarnog yn union deg, a rhedodd y sgyfarnog yn syth am yr adwy lle gwyliai W.H. A'r funud y cafodd ei hun yn y rhwyd, rhodd screch ofnadwy. 'Roedd y screch mor anisgwyliadwy fel y gollyngodd W.H. y rhwyd, a diangodd y sgyfarnog, a thorrodd W.H. ei gymeriad fel potsiar am byth.
'Roedd un hen frawd, Dafydd Tomos, yn rêl potsiar. 'Doedd dim a hoffai'n fwy na noson gyda criw i geisio codi sgyfarnog. Un noson aeth amryw ohonynt ati a Dafydd Tomos yn eu plith. Gosodwyd Dafydd i wylio adwy, heb fod ymhell o fynwent eglwys cyfagos. Digwyddodd yr hen frawd godi ei olwg tua'r fynwent. Er ei fraw gwelodd yng ngolau'r lleuad rhyw ddrychiolaeth wen fawr yn sefyll ar wal y fynwent. Yn ei ddychryn rhedodd i chwilio am y gweddill o'r criw, a dwedodd yn gynhyrfus, "Dowch adra hogia ar unwaith. Dowch rhag blaen". Ac i ffwrdd a phawb gan dybio fod Dafydd wedi gweld y cipar. Wedi iddynt fynd spel o ffordd, a chael dipyn o'i gwynt atynt, gofynnodd un ohonynt. "Welaist ti'r cipar, Dafydd"? "Na welis i", meddai Dafydd. "Wel, be welist ti ynta"? "Hogia annwyl", meddai Dafydd, "Mi welis y peth mwyaf ofnadwy a welis erioed, a taf i byth i botsio eto". "Wel, dwed beth welis ti". "Gweld ladi wen fawr yn sefyll ar wal fynwent ac yn edrych i lawr arnaf. Taf i byth i botsio eto". Ac i ffwrdd a nhw adre yn teimlo'n bur swat. Cafodd y sgyfarnogod heddwch y noson honno!
'Roedd yr eglurhad trannoeth yn ddigon syml. Mae'n ymddangos fod moniwment o farmor gwyn wedi ei godi yn ymyl wal y fynwent er pan y bu Dafydd Tomos y ffordd honno ddiwethaf, ac yng ngolau'r lleuad edrychai'n hollol fel y ladi wen a ddychrynodd Dafydd Tomos y noson cynt.
Noson dywyll ac nid noson olau leuad oedd yn ofynnol i'r math arall o botsio-potsio samon, neu ffaglu'r afon fel y'i gelwid.
Saif y pentref yn uchel ar ochr llechwedd craig. Rhed yr afon Dwyfor heibio Dolbenmaen ac ar hyd y gwastadedd islaw, i'r môr. Peth cyffredin oedd i drigolion y pentref, ar noson dawel, dywyll weld amryw oleuadau ar hyd glan yr afon. Gwyddai pawb beth oedd yn bod ond ni chymerai neb sylw. Gwyddent fod y potsiars wrthi'n ceisio am samon. Hawdd fyddai prynnu samon yn rhad yr adeg honno.
Arferai rhai o'r potsiars roi y samon yn y simdde i gochi yn y mwg. Fe gadwai samon wedi ei gochi yn y dull yma am gryn amser, a byddai blas neilltuol o dda arno.
Potsiar arall diail oedd dyn a adwaenid fel Robin y Bwtsiar. Gelwid ef felly am yr arferai fynd o gwmpas y ffermydd i ladd moch. Potsiar samon oedd Robin gan mwyaf. Dyma'r dull o ffaglu'r afon. Rhoed dau i wylio, rhag i'r cipar ddod ar ei gwarthaf. Yna byddai un neu ddau yn dal y ffaglau uwchben yr afon. Gwelid i waelod yr afon yng ngolau ffaglau a deuai'r samon i fyny at y golau. Safai dyn yn yr afon oedd yn gyfarwydd a'r gorchwyl a tryfer yn ei law. A phan ddeuai'r samon at y golau cai ei sticio a'r tryfer a'i daflu i'r lan.
Un noson 'roedd criw ohonynt wedi mynd at yr afon i ffaglu, a Robin y Bwtsiar yn eu mysg. 'Roeddent wrthi'n brysur, yn oriau mân y bore, pan chwibanodd un o'r gwylwyr. Golygai hyn fod perygl yn ymyl. Diffoddwyd y ffaglau a gwaeddodd Robin, "Chwalwch, hogia", ac i ffwrdd a nhw nerth eu traed un yma ac un acw. Gwadnodd Robin hi am ffarm Cefn Coch lle 'roedd i ladd mochyn yng nghorff y bore. Cyrhaeddodd Cefn Coch pan oedd y gweision a'r morwynion ond newydd godi. Gofynnodd am ddŵr berwedig rhag blaen i sgaldio'r mochyn, gan fod yn rhaid iddo, meddai, fynd ymlaen i ffarm arall. Gyda help y gweision rhoed y mochyn ar y bwrdd lladd. Pan 'roedd Robin wedi gorffen popeth gofynnodd am weld y Sgweiar. Daeth y boneddwr allan ato. "Bore da, Syr", meddai Robin, "dyma'r mochyn gore a leddais erioed". "Wel ia'n wir", meddai'r Sgweiar, "ac 'rwyt wedi gwneud job dda arno hefyd". "Beth yw o'r gloch, syr"? "Mae'n wyth o'r gloch". "Diolch i chi Syr", ac i ffwrdd a Robin am ei gartref.
'Roedd yn rhy dywyll i'r cipar allu adnabod yr un o'r potsiars yn oriau mân y bore. Ond 'roedd yn sicr yn ei feddwl mai llais Robin glywodd yn gwaeddi ar i'r hogiau chwalu. Y canlyniad fu i Robin dderbyn clamp o bapur glas, a bu'n rhaid iddo ymddangos o flaen ei well ym Mhorthmadog, am botsio samon. 'Roedd Sgweiar Cefn Coch yn Ustus Heddwch, ac yn eistedd ar y Fainc y diwrnod hwnnw. Rhoes y Cipar adroddiad pur ddu yn erbyn Robin. Digwyddodd y Cadeirydd ofyn i'r Cipar faint o'r gloch oedd pan welodd Robin. 'Doedd wiw i'r Cipar gyfadde mai yn nhywyllwch y bore cynnar y digwyddodd ddod ar draws y potsiars, ac mai llais Robin yn unig a adnabyddodd. Felly, meddai'n dalog, "Wyth o'r gloch, syr". Gofynnodd y Cadeirydd i Robin, "Wel, beth sydd gen ti i ddweud yn erbyn y dystiolaeth yna"? Trodd Robin at y sgweiar: "Rwy'n apelio atoch chi, Syr. 'Doeddwn i ddim wedi gorffen lladd mochyn yn Cefn Coch cyn wyth y bore, a sut oedd yn bosib imi fod mewn dau le ar unwaith". A meddai'r Sgweiar: "Rwyt yn deud y gwir, Robin. 'Roeddit yno, a gwnest job dda arno hefyd".
'Doedd dim i'w wneud yn erbyn tystiolaeth y Sgweiar. Felly cafwyd Robin yn ddieuog. Ond am y cipar truan, cafodd gerydd hallt gan y Cadeirydd am ddod ag achos mor ddisail o'u blaen. A chafodd Robin ryddid i ddal aml i samon yn yr afon ar ôl hyn.
PENNOD IV
MERI ANN
ADWAENWN Mrs. Meri Ann Griffith yn dda. 'Roedd yn hŷn na mi o flynyddoedd ond mwynhawn ei chwmni, ei sgwrs ddiddan, ei hiwmor sychlyd a'i storïau hwyliog. Adroddai stori ddoniol heb wên ar ei hwyneb, ond ei llygaid yn llawn direidi. Prin y symudai ei gwefusau wrth siarad, ond byddai pob gair wedi ei dorri'n berffaith.
Un drom o gorff oedd Mrs. Griffith ac un araf ei symudiadau, ond cyflym oedd ei meddwl ac ysgafn ei hiwmor. Nid oedd ynddi rithyn o falais. Gallai daro ergyd dreiddgar pan ddewisai, ond o ddireidi ac nid o ddîg.
Gwelaf hi yn fy meddwl—ei gwallt, heb flewyn gwyn, wedi ei rannu yn y canol â rhesen wen, ac yn gorwedd fel dwy aden o sidan llyfn un o bobtu ei phen; ei siôl fach bîg ar draws ei hysgwyddau, ac yn arferol, y Beibl mawr ar ei glin. Ni flinai ar ei ddarllen. Nid oedd neb yn fwy caredig a chymwynasgar er maint yr anhunedd a ddioddefodd yn ystod ei bywyd. Ac ni chlywyd hi erioed yn cwyno nac yn grwgnach. 'Roedd ganddi ffordd ddestlus o alw sylw at ddiffygion neu eisiau heb gwyno'n uniongyrchol. "Estyn y Beibl imi Jane gael iti wneud rhywbeth ag ef". Gwyddai Jane, y ferch, yn iawn mai cerydd oedd am na fyddai byth yn agor clawr y Beibl, ond ni edliwiodd Mrs. Griffith hyn iddi erioed. 'Roedd gan Jane lond tŷ o blant, a bychan oedd cyflog y gŵr. Byddai Jane yn cadw tân y gegin mor isel ag y gallai rhag gwastraffu tamaid o lo. Gan fod y grât yn un uchel hen ffasiwn byddai Mrs. Griffith yn dioddef byth a beunydd gan draed oer. Un diwrnod pan oeddwn yn ymweld â hi, 'roedd tân y gegin bron â diflannu. Cododd Mrs. Griffith ac aeth yn araf tuag at y lle tân a dechreuodd wyro i lawr. "Mam, beth ar y ddaear ydachi'n wneud"? gofynnai Jane.
"Wel, Jane bach, mynd i sefyll ar fy mhen. Mae fy nhop yn ddigon cynnes, 'rwyf am gynhesu fy nhraed". 'Roedd Jane yn deall. Cafodd Mrs. Griffith ddigon o dân.
"Toedd ryfedd yn y byd iddi gael priodi dair gwaith!
Pan yr adwaenwn hi 'roedd yn weddw am y drydedd waith ac yn byw am ysbaid gyda Jane. Digwyddais gydgerdded un diwrnod â hi a "Miss Jones, y Menyn", hen ferch wedi suro drwyddi, a'i llach ar bawb a phopeth gyda'i thafod colynnog. Digwyddem fynd heibio i gapel lle yr oedd priodas—gwraig weddw ail briodi. Traethai hallt iawn yn yr erbyn "yr ail briodi yma" heb feddwl fod Mrs. Griffith wedi claddu tri gŵr. "Nid yw ail briodi yn beth gweddus o gwbwl. Dylai un gŵr fod yn ddigon i unrhyw wraig". A meddai Mrs. Griffith, a'i llygaid yn pefrio o ddireidi: "Wel dyna fel mae pethau yn yr hen fyd yma, ynte Miss Jones. Tipyn yn anwastad ynte? Rhai yn cael gormod a rhai yn cael dim".
'Roedd brawd hynaf Mrs. Griffith yn ddyn o eiddo, yn byw mewn clamp o dŷ. Ond tipyn o gybudd oedd Tomos. Aeth yr hen frawd yn bur fusgrell ac aeth Mrs. Griffith ato i edrych ar ei ôl am ysbaid. Gofynnodd iddo un diwrnod, "Beth fase ti'n lecio gael i dy ginio heddiw Tomos"? A meddai Tomos: "Rydw i'n meddwl y cymera'i bowliad o fara-llaeth enwyn. Peth llesol iawn ydi bara-llaeth wel di, ac yn rhad iawn hefyd". "Wel", meddai Mrs. Griffith, "cymer di fara-llaeth os myni Tomos, ond rydw i am gael chops a thatws". Tomos yn ysgwyd ei ben ac yn dweud, "'Rwyt ti'n wirion iawn Meri Ann, mi fasa bara-llaeth yn fwy llesol o lawer iti, ac yn rhatach". Ond, chops a thatws fynnodd Meri Ann a chafodd Tomos ei bowliad o fara-llaeth enwyn. Y noson honno cymerwyd Tomos yn sâl iawn, a bu rhaid mofyn y doctor ato ar frys. Bu'n rhaid i Tomos druan fod heb fwyd am ddyddiau. Pan ddaeth ato ei hun gofynnodd Meri Ann iddo, "Wel, Tomos, prun oedd y rhataf, Chops a thatws ynte bara-llaeth a bil y doctor"?
Cefais ganddi lawer stori dda. Dyma un stori am hen ffarmwr a adwaenai'n dda. 'Roedd yn amlwg yn ôl ei stori nad oedd Ifan Jones y ffarmwr yn un llwyddianus iawn. Byddai'n mynd ar ei sbri yn aml pan ddeuai i'r dre i'r farchnad neu'r ffair. Dynes bur falch a gwastad iawn oedd Ann Jones ei wraig. Un tro pesgodd ddau fochyn a'u gwerthu, ac o'r elw prynodd set o ddannedd gosod iddi ei hun. Pan ddaeth Ifan adre o'r ffair nesaf yn feddw, dechreuodd Ann Jones draethu fel arfer, ond cyn iddi gael mynd ymhell ar ei llith dwedodd Ifan, "Taw di a son Ann, mi roi'st ti ddau fochyn tew yn dy geg ar unwaith". Ac am y tro cyntaf erioed bu'n rhaid i Ann dewi.
Byddai Ifan byth a hefyd ar ôl yn talu'r rhent, a phob esgus ganddo a bai ar bob peth ac ar bawb ond ef ei hun. Blinodd y meistr tir ar yr esgusion a phenderfynodd o'r diwedd orfodi i Ifan werthu rhai o'i stoc at dalu'r rhent.
'Roedd bragdy yn y dre (cofiaf ef yn dda). Byddai gwaddod, neu soeg, ar ôl y darllaw, a chariai'r ffermwyr lawer o hono i gymysgu â bwyd yr anifeiliaid. Byddai'r anifeiliaid yn mwynhau yn fawr y soeg yn gymysg a'r bwyd.
Y diwrnod cyn y sale aeth Ifan i'r bragdy i mofyn llwyth o'r soeg. Cadwodd yr anifeiliaid heb fwyd tan hwyr y nos, a rhoes iddynt wledd helaeth o soeg digymysg.
Trannoeth—dydd y sale—'roedd yr ocsiwnier a'i glerc yno'n brydlon, a'r ffermwyr wedi dod yn eu cerbydau o bob cwr i'r sir gan ddisgwyl bargen. Yn rhyfedd iawn, nid oedd yr un anifail i'w weld na'i glywed yn unman. R'oedd pob un yn gorwedd fel pe bai wedi marw, heb symud arno. Tybiodd y ffermwyr fod rhyw glwyf rhyfedd ar yr anifeiliaid ac nid oedd dim i'w wneud ond mynd adref yn waglaw. 'Toedd ond yr hen Ifan a wyddai ystyr y clwyf. Gwyddai ef yn eithaf da fod pob anifail wedi meddwi'n "chwil beipan" ar y soeg ac nad oedd dim i'w wneud ond eu gadael i gysgu'r sbri allan.
Gresyn na feddyliais ar y pryd am gofnodi holl ddywediadau Mrs. Griffith, y jokes a'r puns a'i holl storïau doniol. Erbyn heddiw diflannodd y rhan fwyaf o'm cof. Byddai llyfr mewn bri mawr yr adeg honno, o'r enw "Enquire Within". Cyfrol oedd yn rhoi gwybodaeth ar hylltod o fanylion a ffeithiau mân a mawr. Hawdd fyddai gan aml i wraig ifanc droi i'r tudalennau am gyfarwyddyd. Ac yn eu plith Jane wrth gwrs. "Jane bach", meddai Mrs. Griffith wrthi, "mae gen i well "Enquire Within" o'r hanner na thi", gan ddangos y Beibl ar ei glin. "Toes dim yn y byd na chei di yn hwn. Mae yma storïau gwell o lawer nac a gei yn dy novelettes".
I mi, dyma'r peth tarawiadol amdani—er mai i'r Beibl y trodd am gyfarwyddyd, nid unwaith ond lawer gwaith y dydd, eto ni ymddangosodd erioed yn sychdduwiol, ac ni ddefnyddiai iaith y Beibl yn ei sgwrs. Defnyddiai iaith lafar i ddilladu gwirioneddau'r Beibl. Ynghanol stori ddigri neu yn wir stori pur wamal, ceid perl o wirionedd fel "baich tryma'r byd yw bod heb ddim byw i'w gario"; neu, wrth son am hwn a hwn "mae'n siarad wrth y pwys ac yn byw wrth yr owns"; neu, am hon a hon "mae'r nefoedd ar ei thafod a'r byd ar ei bysedd".
Ond amdani hi, ar hyd ei hoes hir, ni fynnodd erioed ddewis "baich tryma'r byd", a bu fyw "wrth y pwys" ar hyd ei hoes.
PENNOD V
CYNFFONNA
GEIRIAU cyfarwydd iawn, i hen ac ifanc yr oes hon, yw queue, points, rations. Rhyfedd meddwl fel y daeth prinder a geiriau newydd, neu ystyr newydd i eiriau, i mewn i'r iaith. Mae'n wir fod geiriau Cymraeg am y tri, ond queue a points ddefnyddiwn i'r ddau gyntaf, ac yn wir clywir rations yn amlach na dogn.
Gŵyr pawb heddiw beth yw queue, er, mae'n siwr heb gofio pob amser mai cynffon yw queue! Mae'n rhan heddiw o fywyd beunyddiol pob gwraig tŷ. Cofiaf fel y byddai, yn adeg y rhyfel ac yn y blynyddoedd cyntaf ar ôl y rhyfel, gweld queue hir yn rhywle yn ddigon i ddenu merch i ymuno heb wybod beth oedd i'w gael. Gofynnai i'r ferch nesaf ati "am beth maent yn ciwio"? Ar ateb yn aml fyddai, ""Dwn i ar y ddaear—ond mae'n siwr fod rhywbeth go bwysig i'w gael".
Daeth points ar un adeg bron yn fwy pwysig nag arian! (Gyda llaw, pan oeddwn yn ferch ifanc ystyr gwahanol iawn oedd i'r gair points. 'Roedd points yr adeg honno, o'r un ystyr a date gan ferch ifanc heddiw. Cytuno i gyfarfod mewn man a lle oedd "gwneud points" rhwng merch a llanc ifanc). Un haf clywais sgwrs rhwng hen wraig ac wyres fach tua 5 mlwydd oed, mewn siop yn y wlad. "Fase ti'n lecio cael da-da", (fferins neu sweets) gofynnai'r nain i'r fechan, a meddai'r fechan, "Oes gen ti boints"? 'Roedd y points yn bwysicach iddi na'r arian i brynu y da-da. Gwyddai nad oedd obaith am y da-da os nad oedd y points ar gael. Gwelais ddwy eneth fach un diwrnod yn edrych yn brudd ar y fferins mewn ffenestr siop, a'i hwynebau fel pe wedi eu hoelio ar y gwydr. A meddai'r fwyaf gydag ochenaid wrth y llall, "Waeth inni heb edrach, 'toes dim points ar gael".
Dywedodd gŵr wrthyf y dydd o'r blaen na fyddai'n meddwl prynu sweets cyn y rhyfel, ond y bydd yn awr yn "gwario" ei boints i gyd rhag eu "gwastraffu".
Adeg gwyliau'r Pasg eleni, sylwais ar y queue hir o flaen pob siop bara yn y dref. 'Roedd pawb yn brysur am sicrhau cyflawnder o fara dros yr ŵyl. Trychineb mawr fuasai ffaelu cael digon. 'Roedd pob siop yn wâg o fara yn gynnar.
Ehedodd fy meddwl ymhell yn ôl at gyfnod gwahanol iawn, pan ddibynnai teulu fwy ar ei adnoddau ei hun a llai ar y siop a'r ffatri. Meddyliais fel y buasai Mam yn gwaredu rhag gwastraffu amser ac arian i sefyll am hydion mewn queue er prynu bara siop. Ni phrynodd Mam erioed dorth siop. Prynai sachaid o flawd ar unwaith. Cofiaf Richard Owen yn dod a'r sachaid ar dryc bach ac yn son wrth Mam am rinweddau'r gwahanol flawdiau—"Blawd Caer", blawd a alwai'n "Double X" a blawd a alwai'n "Phirdo". 'Roedd hwn yn rhatach ac yn dywyllach blawd na'r ddau arall, ond mynnai Mam y gorau.
Pobai Mam y bara ei hun. Cofiaf fy hun yn mynd a'r toes i'r Tŷ Popty pan aeth fy mrodyr hynaf yn rhy fawr i fynd ag ef. Cawn y Tŷ Popty yn lle diddorol iawn, yn llawn o ferched. 'Roedd yn fan cyfarfod iddynt, pawb yn siarad ar draws ei gilydd a phawb a'i stori. Gwyddent hanes pawb yn y dre. Clywais yno lawer stori, a minnau'n gwrando yn astud a'm dwy glust. 'Roeddent i gyd mor gyfeillgar a pharod i wneud cymwynas ac i roi help i'r eneth fach trwy foldio'r toes yn barod i'r popty.
'Roedd gan Mam fwy o ffydd mewn "bara gwaelod" na bara wedi ei grasu mewn tun. Credai fod bara gwaelod yn fwy durol na "bara tun". Rhaid oedd rhoi marc ar fara gwaelod rhag cymysgu'r torthau a thorthau eraill. Ein marc ni oedd R.W.—llythrenau enw Nhad—wedi eu torri â fforc.
Byddai'n ofynnol aros i'r popty fod yn ddigon poeth, er mwyn gweld y toes yn sâff i mewn. Felly cefais lawer cyfle i weld y dull o baratoi at y crasu. Popty o frics oedd wedi ei dwymo yno, â choed. Pan oedd y popty'n ddigon poeth cymerai gwraig y tŷ—popty rac a choes hir iddo a rhaciai'r tân i gyd allan o'r popty. Golchai'r popty'n lân gyda mop goes hir. Wedyn, rhoddai dorth ar y pîl (rhaw bren a choes hir iddi) a'i gwthio i'r popty. Pan fyddai'r popty'n llawn caewyd y drws yn dyn a chraswyd y toes am dair awr. Ceiniog y dorth fyddai'r tâl am grasu.
'Roedd o leiaf bedwar tŷ popty yn nhref Llanrwst yr adeg honno. I dŷ popty Rhobat Jôs yr awn bob amser. Ysywaeth mae cyfnod y Tŷ Popty wedi llwyr ddiflannu. Nid sachaid of flawd Caer neu flawd Double X a brynnir heddiw gan wraig teulu, ond torth siop a phaced o "self raising flour".
Byddai gan Mam a Nain ddiwrnod bob wythnos i bobi bara ceirch. Gwnai Mam ddau fath o fara ceirch-un caled at wneud brwas ac un "meddal" brau i'w fwyta rhwng dwy dafell o fara a menyn (neu frechdan yn ôl enw'r Gogledd) a menyn tew arno ac ar y ddwy dafell, math o sandwich bara ceirch. Dyna yr unig ffordd hyd heddiw y dewisaf fwyta bara ceirch.
'Roedd Mam yn feistres ar wneud bara ceirch.
Y gamp oedd rowlio'r "torthau" mor denau ag yr oedd modd a'i gosod ar y radell heb iddynt dorri. Byddai ganddi rhywbeth tebyg i raw bren, at y gorchwyl o'u troi. Wedi'r "bara" grasu, gosodai ef o flaen y tân i galedu, a thoc, gwelid yr ymylon yn cyrlio heb dorri. Dyna'r gampwaith wrth wneud bara ceirch fel y dylai fod.
Cofiaf fel y byddem pan yn blant yn gofyn dychmygion y naill i'r llall a dyma un: "Beth yw ladi wen lân yn eistedd o flaen y tân". Yr ateb oedd "torth geirch".
Dysgais bobi bara ceirch pan oeddwn yn ifanc iawn a daliais ati tan yn bur ddiweddar. Arferai rhai hen wragedd bobi bara ceirch at werthu. Adwaenwn un, "Meri Jones Bara Ceirch", ond erbyn heddiw, ychydig o ferched sy'n hyddysg yn y grefft Bara ceirch mewn paced, o'r siop, welwn gan fwyaf, dim tebyg i'r bara ceirch tenau brau at ei roi mewn brechdan.
Pan ddigwyddai fy mrawd John a minnau alw mewn ffarm yng nghylch Garn Dolbenmaen y croesaw fyddai powliaid o faidd, bara-ceirch a menyn tew arno a chlamp o ddarn o gaws cartre (a pheth caled fel haearn oedd). Gwlych wedi ei wasgu o'r caws oedd y maidd.
Cofiaf weld pobi bara peilliad (math o muffins) ond ni ddysgais erioed mo'r grefft. Byddai mynd da arnynt. 'Roedd yn ofynol rhoi cylch o haearn ar y radell i grasu y bara peilliad. Gwnai llawer o hen wragedd elw da wrth werthu bara peilliad, yn enwedig yn Sîr Fôn, ac ni phrofais ddim tebyg iddynt erioed.
Byddai John a minnau, pan aethom i'r Garn, yn cael ein gwadd i de neu i swper i dai yn y gymdogaeth. Nid i de neu swper fyddai'r gwadd chwaith, ond i fynd i'r fisit a "gwneud fisit" fyddai'r gwahoddwyr. Ymhob tŷ lle y gwnaed fisit, crempog fyddai ar y bwrdd yn ddieithriad, a'r crempog yn nofio mewn menyn.
'Roedd tŷ bychan wedi ei wyngalchu o tan yr un tô a Phen-y- bont yn y Garn. Credaf mai eiddo Penybont oedd. Yno trigai hen ferch o'r enw Beti Llwyd. Dioddefai Beti Llwyd oddi wrth "y riwmatics", a'i thraed a'i dwylo, ac yn wir ei hwyneb hefyd wedi troi ymhob siap. Er hynny 'roedd ei thŷ bach mor dwt â phin mewn papur. 'Toedd ots yn y byd faint o boen a ddioddefai, byddai bob amser yn siriol ac mewn hwyl, ac yn hynod o ddoniol. Mistar a Mistras a alwai Owen a Margiad Williams Penybont, a meddyliai'n uchel iawn ohonynt. Pan fyddai Margiad Williams yn "gwneud fisit" ym Mhenybont byddai'n rhaid cael Beti Llwyd i wneud "y grempog", ac yn wir 'roedd yn feistres ar y gwaith. Ni phrofais na chynt na chwedyn grempog tebyg. Dyma fel y gwnai Beti Llwyd. 'Roedd yn rhaid curo'r wyau am hydion; gwaith Phena'r forwyn oedd curo'r wyau. Nid oedd prinder wyau yr adeg honno. Yna toddai Beti Llwyd hanner llond dysgl bwdin fawr o fenyn—nid margarin (na national butter), ond menyn ffarm. Nid oedd son am y fath beth a margarin. Wedi'r crasu ar y radell rhoddai Beti Llwyd y grempog dros ei phen yn y menyn, ac yna ar y plât. Mae cof am y grempog honno'n tynnu dŵr o'm dannedd hyd heddiw. Os byddai bachgen neu eneth ifanc yn y fisit rhoddai Beti Llwyd fodrwy yn y grempog, a mawr oedd yr hwyl os byddai'r eneth neu'r llanc yn dod ar ei thraws.
Arferid gwneud llawer o lymru pan oeddwn yn ifanc. Os gwn i oes rhywun heddiw yn ei wneud. Ystyrid ef yn fwyd maethlon iawn. Dyma fel y gwnai Nain lymru. Rhoddai ddŵr oer ar flawd ceirch a'i adael am wythnos neu ragor nes iddo suro. Yna ar ôl ei hidlo, berwai'r dŵr. Nid y gwaddod, sylwch, ond y gwlych, ac wedi ei ferwi am amser, ei dywallt i lestr. Wedi oeri byddai fel jelly, ac yn barod i'w fwyta, gyda llefrith.
Ni fyddai neb yn meddwl gwastraffu hyd yn od y gwaddod. Gwnai Nain frwchan ohono. Dyma'r dull o wneud brwchan: berwi'r gwaddod mewn dŵr nes y byddai'n dew, yna rhoi llond llwy fwrdd dda o driog du ynddo a'i dywallt tros fara mewn powlan. Ni hoffais i erioed mo'r brwchan. 'Roedd yn sur ac yn felys-ond byddai'n rhaid imi ei fwyta.
Bwyd arall fyddai'n gâs gan fy nghalon ei weld ar y bwrdd oedd yr hyn a alwai Nain yn "maidd yr iâr". ('Roedd yr enw yn llawn ddigon). Dyma sut y gwnai faidd yr iâr: rhoi dŵr i ferwi mewn sospan, yna torri un wy (rhwng y plant i gyd) i'r dŵr berwedig a gadael iddo ferwi nes i'r wy ferwi'n llinynau yn y dŵr. Yna rhoi llond llwy fwrdd o driog du i mewn a'i godi ar fara mewn powlan. Pa faeth oedd ynddo, meddwch, i blant ar dyfiant? Ond ychydig allu a feddai Nain i wneud pryd da o fwyd. Mor wahanol oedd i Mam. Er prined y moddion llwyddai Mam i wneud pryd blasus o ychydig ddefnydd. Mae'n siwr fod bwyd llwy yn llawer llai o drafferth i'w baratoi ac hwyrach mai dyma'r rheswm i Nain wneud cymaint ohono pan ddaeth atom ar farwolaeth Mam.
Pan fyddai tymer go dda ar Nain, gwnai fel trêt i ni, yr hyn a alwai'n "dôst Dafydd Jâms". Dyma fel y gwnai Nain y tôst byth gofiadwy. Crasai dafell o fara ar gyfer pob un. Yna rhoddai ddŵr poeth ar lwmp o fenyn, pinsiad o halen, ac weithiau lond llwy de o siwgwr, a thywalltai'r cyfan ar y tôst. A dyna dôst Dafydd Jâms.
Arferai fy nhri brawd ieuengaf fwyta eu cinio canol dydd yn yr ysgol. Gwnai Nain lond piser-dau-chwart o fara-llaeth- enwyn i'r tri, bob dydd, heb ddim amrywiaeth. 'Roedd yn gâs gan y bechgyn weld y piser heb son am fwyta'r cynnwys. O ganlyniad byddai mwy na hanner y cawdal heb ei fwyta, a gwyddent na feiddiant ddod a phiser hanner llawn gartre. Clywais fy mrawd William yn adrodd hanes y bara-llaeth. Er mwyn cael gwared ohono byddent yn mynd gartre o'r ysgol heibio "top y dre" a thrwy "Cae Cottage". Yng ngwaelod y cae ac yn rhedeg wrth ochr y llwybr mae afon fechan, "afon Plas Isa" fel y'i gelwid. Cafodd afon Plas Isa hylldod o fara llaeth Nain bob dydd. Clywodd William Nain yn dweud wrth Betsi Jones Tŷ Pen: "Bobol annwyl, mae'r bechgyn yma'n bwyta, 'toes dim digoni arnynt. Buasech yn synnu gweld y piseraid mawr o fara-llaeth fyddaf yn wneud bob dydd iddynt fynd i'r ysgol a'r piser yn dod yn wâg yn ôl bob tro". Mae'n amlwg fod Nain yn credu fel Tomos brawd Meri Ann fod "bara-llaeth yn beth llesol iawn, ac yn rhad".
Pe buasai Nain yn fyw heddiw, ni fuasai na "Rations" na "Points" na "Queues" yn poeni dim arni. Buasai'n bwydo'r teulu ar fara-llaeth, brwchan a maidd-yr-iâr, a thôst Dafydd Jâms yn drêt.
Dyna fi wedi crwydro ymhell iawn yn ôl i'r gorffennol. Wedi mynd i oed, mae'r demtasiwn i gymharu'r gorffennol pell a'r presennol yn peri i'm pin grwydro. Ond rhaid dod yn ôl i gyfnod y queues a'r points a'r rations, ac ni welaf fawr obaith eu colli, yn fy oes i beth bynnag. Daw amser mae'n siwr pan y bydd cyfnod y prinder a'r rheolau a'r dogni wedi mynd heibio. Gobeithiaf y bydd meddwl dyn yn ogystal a'i gorff, y pryd hwnnw, yn rhydd o'r ysbryd dogni. Dwedodd gŵr o'r Unol Daleithiau wrthyf, "You are getting too queue-minded in your country". Dyna aflwydd y cynffonna yma bob amser onide!
PENNOD VI
Y PEN BLAENOR
Bu llawer tro ar fyd er pan y'm ganwyd bedwar-ugain-a-naw o flynyddoedd yn ôl. Mae hen arferion a dylanwadau yn diflannu o flaen dylanwadau newydd; weithiau er gwell; weithiau er gwaeth.
Yn nyddiau fy ieuenctid 'roedd y Capel yn ganolfan pwysig ym mywyd yr ardal a mawr oedd dylanwad y Sêt Fawr a'r Blaenoriaid. Yn eu mysg 'roedd cewri lawer. Er lleied eu haddysg, ac er culed llawer o'u syniadau, 'roedd grym eu personoliaeth a'u cymeriad yn estyn dylanwad ac effaith ar eu cydaelodau. Bu dylanwad aml i Ben Blaenor (a dyn pur bwysig oedd Pen Blaenor) yn y cyfnod hwn ar hyd a lled Cymru yn aros ymhell y tu hwnt i'w cenhedlaeth.
Felly y Pen Blaenor 'rwyf am son amdano—Owen Owens, Pen Blaenor Capel Isa, Garn Dolbenmaen pan oeddwn yn eneth ifanc. 'Roedd yn uwch o'i ysgwyddau i fyny o ran personoliaeth na'i gyd-flaenoriaid. Fe oedd y siaradwr gorau o ddigon yn y Sêt Fawr, er ei fod braidd yn gul ei syniadau.
Nai oedd Owen Owens i'r hen flaenor hynod o'r un enw—Owen Owens, Cors y Wlad—sydd a son amdano yn Eifionydd hyd heddiw. Gyda llaw, sgrifennwyd cofiant diddorol iawn am Owen Owens, Cors y Wlad gan Henry Hughes Bryncir yn 1898. Ceir yno, nid yn unig hanes bywyd Owen Owens Cors y Wlad, ond, yn ogystal, fraslun o ddigwyddiadau yr oes, a hanes dechrau gyrfa'r Ysgol Sul. Nid hawdd credu heddiw fod aelodau eglwys Brynengan oedd yn cynnal neu yn mynychu Ysgol Sul yn eu tai, yn dod o dan gerydd yr Eglwys, ac y bu yn rhaid dewis rhwng aelodaeth yr Eglwys a mynychu, neu gynnal, Ysgol Sul. Ceir yn y Cofiant ddarlun o ffyddloniaid yr Ysgol Sul, pob un yn dod a'i gannwyll frwyn i gael golau pan Q 'roedd yr Ysgol Sul yn cyfarfod ar nos Sul mewn tŷ yn erbyn rheolau'r Eglwys. Mae yn gofiant gwerth ei ddarllen.
Ond i ddod yn ôl at Owen Owens, Capel Isa. Dyn tal, braidd yn ysgyrniog oedd, a chnwd trwchus o wallt yn britho. Ar y Sul gwisgai siwt o frethyn cartref llwyd, ac edrychai'n bur ddestlus. Ond gwelais ef yn dod i'r Seiat noson waith yn ei glocsiau a'i wallt fel pe bai wedi bod trwy'r drain ac heb grib yn agos. Yn amlwg wedi dod o ganol ei waith.
Ffarmwr oedd, yn Nhyddyn-y-Graig. Yno y mae rhai o'r teulu heddiw. Ffarm ar y llechwedd rhwng Dolbenmaen a'r Hendre Ddu yw Tyddyn-y-Graig. Credaf mai tir defaid oedd gan mwyaf. Ai Owen Owens i'r mynydd ddechrau'r gaeaf i ddod a'r defaid i lawr cyn y tywydd mawr. Un tro 'roedd un hen ddafad na allai Owen Owens yn ei fyw ei chael i ddilyn y gweddill i lawr. Ar ei waethaf mynnai'r hen ddafad ddianc a chrwydro lle y dewisai. "Wel aros di", meddai Owen Owens. Tynnodd ei ddwy glocsan a rhedodd yn nhraed ei sanau ar ei hôl nes ei dal.
Er ei fod o bersonoliaeth gref, eto ychydig o ddisgyblaeth oedd ganddo ar ei blant gartref. Y fam oedd y dylanwad ar yr aelwyd. Dynes dawel, gall oedd.
Ni chofiaf weld Owen Owens yn yr Ysgol Sul erioed ond nid oedd fai arno am hynny. Y mae yn agos i ddwy filltir o'r ffarm i'r Capel Isa, fel 'roedd mynychu moddion dair gwaith y Sul a cherdded yn ôl a blaen yn gryn dreth ar ddyn a weithiai yn galed ar hyd yr wythnos.
Nid oedd ganddo lawer o gydymdeimlad â'r bobl ifanc. Ni cheisiai roddi lle amlwg iddynt yng ngwaith yr eglwys. Un tro trefnwyd cyfarfod llenyddol ynglŷn â'r Ysgol Sul gan y bobl ifanc. Ni chredai Owen Owens y dylent gael rhyddid i gynnal cyfarfod o'r fath yn y capel. Felly, nid aeth yn agos i'r cyfarfod. 'Roedd y Primin (Agricultural Show) ym Mhwllheli yr un diwrnod a'r cyfarfod. Ac yno yr aeth Owen Owens. Daeth cydnabod ato, a meddai, "Hylo, nid oeddwn yn disgwyl eich Q gweld chi yn y fan yma; 'roeddwn yn meddwl fod gennych gyfarfod llenyddol yn y Capel Isa heddiw". A'r ateb oedd: "Mi glywais yn wir fod gan yr hogia acw rhyw firi yn y Capel". A dyna hynny o ddiddordeb a gymerai yn y "miri" chwedl yntau.
Ymladdodd yn erbyn pob mudiad newydd yn y Capel. Nid am ei fod yn ystyfnig am ei ffordd ei hun, ond am ei fod yn credu'n gydwybodol nad doeth oedd newid hen arferion. Cai ei goncro pob tro er iddo fygwth symud i gapel arall. Rho i mewn i'r mwyafrif yn y diwedd, ac ni chlywais iddo erioed ddal dig, ac ni chlywai neb son am y mater ar ôl hynny.
'Roedd yn hollol ddidderbyn wyneb, ac nid oedd arno ofn dweud y gwir yn blaen heb flew ar ei dafod, a digied a ddigio. Dyma un stori amdano—
'Roedd mab i ffarm yn y cyffiniau wedi priodi Bedyddwraig, ac er mai Methodistiaid Calfinaidd oedd ei deulu, trodd yn Fatus gyda'r wraig. A buan yr aeth yn fwy o Fatus penboeth na'r wraig. "Toedd dim i'w gael ganddo ond son am fedydd, nes yr oedd pawb wedi blino eu hoedl arno. Aeth i Tyddyn-y- Graig un diwrnod i weithio'n y gwair. 'Roedd yn amlwg fod Owen Owens wedi hen flino ar y son am fedydd byth a hefyd. Amser te, meddai'r llanc, "'roeddwn i'n deud wrth Dafydd fy mrawd nad eiff o byth i'r nefoedd os na cheiff ei drochi". A meddai Owen Owens yn gwta, "Ni chei dithau ddim mynd yno chwaith os na chei di bardwn ffwl".
Dyma stori arall amdano:—
'Roedd dyn o'r enw Ellis Jones yn byw mewn tŷ bychan heb fod ymhell o'n tŷ ni. Fe'i hadwaenwn yn dda. Dyn bychan oedd Ellis Jones, yn gwisgo du bob amser a golwg pur phariseaidd arno. Dwedid ei fod wedi bod yn berchen cryn eiddo fel adeiladwr tai yn Lerpwl, ond wedi colli ei eiddo ac wedi dod i'r Garn i fyw. Q Methodus selog oedd Ellis Jones—pan fyddai'n aelod. Y drwg oedd y byddai'r hen frawd yn troi'r drol yn lled aml a chael ei dorri o'r Seiat. Ond buan iawn y deuai'r hen Ellis yn ôl yn bur edifeiriol. Un tro, ar ôl ei dorri allan, ac wedi iddo ddod yn ôl i erfyn am faddeuant, aeth Owen Owens i'r llawr i gael gair ag ef. A dyma ddwedodd wrtho:—
"Wel, Ellis, dwn i yn y byd mawr be wnawn a thi. 'Rydym wedi dy glytio mor aml fel 'rwyt yn glytia i gyd, a dwn i byd lle y cawn le i roi clwt arall arnat. Hwyrach fod yn well inni dreio rhoi rhyw glwtyn bach arnat am ryw hyd eto". A dyna'r unig gysur a gadd yr hen Ellis y tro hwn.
'Roedd Owen Owens yn gyhoeddwr y Capel yn ogystal a bod yn Ben Blaenor. Clywais ef un tro yn siarad ynglŷn â'r casgliad at ddyled y Capel. Dwedodd ei fod yn cofio fel y byddai'n ofynnol, yn yr hen gapel, i bob teulu dalu i saer am wneud sêt iddynt gan nad oedd arian gan yr achos i fforddio dim. mwy na'r waliau moelion.
Pan fyddai'n cyhoeddi casgliad na fyddai wrth ei fodd, dyma fel y cyhoeddai: "Mae'r casgliad y Sul nesa i fynd at yr achosion Seisnig. Hwyrach fod yn well inni dreio rhoi rhyw ddima neu geiniog". Prin rhaid dweud na fyddai'r casgliad hwnnw ddim. yn un haelionus iawn! Dyn tipyn yn felancolaidd oedd Owen Owens ar brydiau. Unwaith, pan oedd dros ei ben yn y felan, fel y dywedid, clywais ef yn darllen o'r 'Pregethwr' "Gwagedd o wagedd medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd, gwagedd yw y cwbwl". Ac felly y gwelai Owen Owens fywyd ar y pryd!
Dro arall byddai ar uchelfannau'r maes, yn enwedig os byddai wedi cael Seiat go dda, a phrofiad godidog gan ambell hen chwaer.
'Roedd hefyd yn weddïwr gwych—yn wir byddai ei weddïau yn well nag aml i bregeth—a byddai llawer o alwad arno i "godi'r Corff" mewn angladd ac i wylnos. Cafodd aml i amddifad gysur o glywed Owen Owens yn eiriol drostynt a'u cyflwyno i ofal ei Dad Nefol.
Credaf mai Owen Owens oedd y darllenwr goreu a glywais erioed. Yr oedd yn wych, ac ni ellid peidio a gwrando arno. Mae effaith ei ddarllen yn aros gyda mi hyd heddiw. Nid anghofiaf mohono yn darllen am Dafydd yn galaru am Absalom ei fab. Clywaf ei lais a theimlaf y galaru; a'r dinc dorcalonus yn ei lais. "O fy mab, Absalom, fy mab, fy mab. O na buaswn farw drosot ti, fy mab, fy mab Absalom".
Un Sul 'roedd cyfarfod gweddi yn y bore, Ysgol Sul y pnawn a phregeth y nos. 'Roedd ar ben chwech, a'r gynulleidfa yn ei lle yn disgwyl. Ond—nid oedd hanes am y blaenoriaid na'r pregethwr. Ychydig funudau ar ôl chwech daeth y blaenoriaid yn un rhês o'r tŷ capel i'r Sêt Fawr—ond dim hanes am y pregethwr. Dyna lle 'roedd y blaenoriaid yn edrych ar y cloc, ac yna ar ei gilydd. O'r diwedd pan oedd yn ddeng munud wedi chwech dwedodd Owen Owens yn uchel, "Wel ddaw o ddim. bellach, waeth i ni heb ei ddisgwyl". Amneidiodd un o'r blaenoriaid arno "Dechreuwch chi", meddai. Ar ôl gryn stwyrian a thuchan cododd Owen Owens i ddechrâu. Ar ôl ledio pennill fesul dwy linell yn ôl yr hen arfer, darllenodd o'r Hen Destament (yn rhyfedd iawn, o'r Hen Destament y darllenai bob amser). Trodd i'r nawfed bennod yn llyfr y Pregethwr a phan ddaeth at y bedwaredd adnod-ar-ddeg a'r adnod ganlynol darllenodd: "Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a aeth yn ei herbyn hi ac a'i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn.
"A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas a'i ddoethineb". Cyn darllen y frawddeg nesaf, rhodd ochenaid fawr dros y Capel—"Eto, ni chofiodd neb am y gŵr tlawd hwnnw".
(Gyda llaw, arferai William, fy mrawd, ddweud mor awgrymiadol yw'r gair ochenaid, a chymaint gwell na'r Saesneg sigh). Hwyrach y dywedwch mai am bethau bychan y soniaf. Teimlaf fod ewythr hynod Owen Owens yn llygaid ei le pan ddywedodd mewn cyfarfod blaenoriaid Sasiwn Rhuthyn mai'r peth pwysig yw Q "gwneud y pethau bach yn ein cyrraedd; dweud un gair bach wrth basio—dim ond darn adnod. Bydd llawer o bethau bach yn gwneud bwndel go fawr" meddai. Yn yr un araith dywedodd "A wyddoch chi beth yw 'cadw-mi-gei'? Rhyw focs bychan a thwll i roddi arian i mewn ynddo fo. Nid ydynt i ddod allan am amser hir iawn. Pan agorir y bocs bydd mwy yno nag y feddyliwyd. Mi wn am lawer i hen flaenor oedd wedi gollwng mwy i'r Cadw-mi-gei nag yr oedd ef ei hun na neb arall wedi ei feddwl. Mae'r cyfan yn y Cadw-mi-gei a dont i'r golwg pan fydd y Barnwr yn agor y blwch. Y pryd hwnnw bydd y dimeiau bychan wedi troi yn sofrens i gyd".
Dyna hanes ei nai Owen Owens, Tyddyn-y-Graig, Pen Blaenor Capel Isa, a hanes aml hen Ben Blaenor arall. Dwedodd "y gair bach wrth basio; a'r "darn adnod". Os pethau bychain ydynt, maent yn ddigon mawr i mi ei cadw'n fyw yn fy meddwl am fwy na thri-chwarter canrif.
'Roedd mwy o sofrens nac o ddimeiau ym mocs Owen Owens, a dyma fi yn talu teyrnged i'w waith a'i ddylanwad, a thrwyddo ef i bob hen Flaenor a fu'n llafurio ym mhob eglwys yng Nghymru. 'roedd yr Ysgol Sul yn cyfarfod ar nos Sul mewn tŷ yn erbyn rheolau'r Eglwys. Mae yn gofiant gwerth ei ddarllen.
Ond i ddod yn ôl at Owen Owens, Capel Isa. Dyn tal, braidd yn ysgyrniog oedd, a chnwd trwchus o wallt yn britho. Ar y Sul gwisgai siwt o frethyn cartref llwyd, ac edrychai'n bur ddestlus. Ond gwelais ef yn dod i'r Seiat noson waith yn ei glocsiau a'i wallt fel pe bai wedi bod trwy'r drain ac heb grib yn agos. Yn amlwg wedi dod o ganol ei waith.
Ffarmwr oedd, yn Nhyddyn-y-Graig. Yno y mae rhai o'r teulu heddiw. Ffarm ar y llechwedd rhwng Dolbenmaen a'r Hendre Ddu yw Tyddyn-y-Graig. Credaf mai tir defaid oedd gan mwyaf. Ai Owen Owens i'r mynydd ddechrau'r gaeaf i ddod a'r defaid i lawr cyn y tywydd mawr. Un tro 'roedd un hen ddafad na allai Owen Owens yn ei fyw ei chael i ddilyn y gweddill i lawr. Ar ei waethaf mynnai'r hen ddafad ddianc a chrwydro lle y dewisai. "Wel aros di", meddai Owen Owens. Tynnodd ei ddwy glocsan a rhedodd yn nhraed ei sanau ar ei hôl nes ei dal.
Er ei fod o bersonoliaeth gref, eto ychydig o ddisgyblaeth oedd ganddo ar ei blant gartref. Y fam oedd y dylanwad ar yr aelwyd. Dynes dawel, gall oedd.
Ni chofiaf weld Owen Owens yn yr Ysgol Sul erioed ond nid oedd fai arno am hynny. Y mae yn agos i ddwy filltir o'r ffarm i'r Capel Isa, fel 'roedd mynychu moddion dair gwaith y Sul a cherdded yn ôl a blaen yn gryn dreth ar ddyn a weithiai yn galed ar hyd yr wythnos.
Nid oedd ganddo lawer o gydymdeimlad â'r bobl ifanc. Ni cheisiai roddi lle amlwg iddynt yng ngwaith yr eglwys. Un tro trefnwyd cyfarfod llenyddol ynglŷn â'r Ysgol Sul gan y bobl ifanc. Ni chredai Owen Owens y dylent gael rhyddid i gynnal cyfarfod o'r fath yn y capel. Felly, nid aeth yn agos i'r cyfarfod. 'Roedd y Primin (Agricultural Show) ym Mhwllheli yr un diwrnod a'r cyfarfod. Ac yno yr aeth Owen Owens. Daeth cydnabod ato, a meddai, "Hylo, nid oeddwn yn disgwyl eich gweld chi yn y fan yma; 'roeddwn yn meddwl fod gennych gyfarfod llenyddol yn y Capel Isa heddiw". A'r ateb oedd: "Mi glywais yn wir fod gan yr hogia acw rhyw firi yn y Capel". A dyna hynny o ddiddordeb a gymerai yn y "miri" chwedl yntau.
Ymladdodd yn erbyn pob mudiad newydd yn y Capel. Nid am ei fod yn ystyfnig am ei ffordd ei hun, ond am ei fod yn credu'n gydwybodol nad doeth oedd newid hen arferion. Cai ei goncro pob tro er iddo fygwth symud i gapel arall. Rho i mewn i'r mwyafrif yn y diwedd, ac ni chlywais iddo erioed ddal dig, ac ni chlywai neb son am y mater ar ôl hynny.
'Roedd yn hollol ddidderbyn wyneb, ac nid oedd arno ofn dweud y gwir yn blaen heb flew ar ei dafod, a digied a ddigio. Dyma un stori amdano—
'Roedd mab i ffarm yn y cyffiniau wedi priodi Bedyddwraig, ac er mai Methodistiaid Calfinaidd oedd ei deulu, trodd yn Fatus gyda'r wraig. A buan yr aeth yn fwy o Fatus penboeth na'r wraig. "Toedd dim i'w gael ganddo ond son am fedydd, nes yr oedd pawb wedi blino eu hoedl arno. Aeth i Tyddyn-y- Graig un diwrnod i weithio'n y gwair. 'Roedd yn amlwg fod Owen Owens wedi hen flino ar y son am fedydd byth a hefyd. Amser te, meddai'r llanc, "'roeddwn i'n deud wrth Dafydd fy mrawd nad eiff o byth i'r nefoedd os na cheiff ei drochi". A meddai Owen Owens yn gwta, "Ni chei dithau ddim mynd yno chwaith os na chei di bardwn ffwl".
Dyma stori arall amdano:—
'Roedd dyn o'r enw Ellis Jones yn byw mewn tŷ bychan heb fod ymhell o'n tŷ ni. Fe'i hadwaenwn yn dda. Dyn bychan oedd Ellis Jones, yn gwisgo du bob amser a golwg pur phariseaidd arno. Dwedid ei fod wedi bod yn berchen cryn eiddo fel adeiladwr tai yn Lerpwl, ond wedi colli ei eiddo ac wedi dod i'r Garn i fyw.
Methodus selog oedd Ellis Jones—pan fyddai'n aelod. drwg oedd y byddai'r hen frawd yn troi'r drol yn lled aml a chael ei dorri o'r Seiat. Ond buan iawn y deuai'r hen Ellis yn ôl yn bur edifeiriol. Un tro, ar ôl ei dorri allan, ac wedi iddo ddod yn ôl i erfyn am faddeuant, aeth Owen Owens i'r llawr i gael gair ag ef. A dyma ddwedodd wrtho:-
"Wel, Ellis, dwn i yn y byd mawr be wnawn a thi. 'Rydym wedi dy glytio mor aml fel 'rwyt yn glytia i gyd, a dwn i dim yn y byd lle y cawn le i roi clwt arall arnat. Hwyrach fod yn well inni dreio rhoi rhyw glwtyn bach arnat am ryw hyd eto". A dyna'r unig gysur a gadd yr hen Ellis y tro hwn.
'Roedd Owen Owens yn gyhoeddwr y Capel yn ogystal a bod yn Ben Blaenor. Clywais ef un tro yn siarad ynglŷn â'r casgliad at ddyled y Capel. Dwedodd ei fod yn cofio fel y byddai'n ofynnol, yn yr hen gapel, i bob teulu dalu i saer am wneud sêt iddynt gan nad oedd arian gan yr achos i fforddio dim. mwy na'r waliau moelion.
Pan fyddai'n cyhoeddi casgliad na fyddai wrth ei fodd, dyma fel y cyhoeddai: "Mae'r casgliad y Sul nesa i fynd at yr achosion Seisnig. Hwyrach fod yn well inni dreio rhoi rhyw ddima neu geiniog". Prin rhaid dweud na fyddai'r casgliad hwnnw ddim. yn un haelionus iawn! Dyn tipyn yn felancolaidd oedd Owen Owens ar brydiau. Unwaith, pan oedd dros ei ben yn y felan, fel y dywedid, clywais ef yn darllen o'r 'Pregethwr' "Gwagedd o wagedd medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd, gwagedd yw y cwbwl". Ac felly y gwelai Owen Owens fywyd ar y pryd!
Dro arall byddai ar uchelfannau'r maes, yn enwedig os byddai wedi cael Seiat go dda, a phrofiad godidog gan ambell hen chwaer.
'Roedd hefyd yn weddïwr gwych—yn wir byddai ei weddïau yn well nag aml i bregeth—a byddai llawer o alwad arno i "godi'r Corff" mewn angladd ac i wylnos. Cafodd aml i amddifad gysur o glywed Owen Owens yn eiriol drostynt a'u cyflwyno i ofal ei Dad Nefol.
Credaf mai Owen Owens oedd y darllenwr goreu a glywais erioed. Yr oedd yn wych, ac ni ellid peidio a gwrando arno. Mae effaith ei ddarllen yn aros gyda mi hyd heddiw. Nid ang- hofiaf mohono yn darllen am Dafydd yn galaru am Absalom ei fab. Clywaf ei lais a theimlaf y galaru; a'r dinc dorcalonus yn ei lais. "O fy mab, Absalom, fy mab, fy mab. O na buaswn farw drosot ti, fy mab, fy mab Absalom".
Un Sul 'roedd cyfarfod gweddi yn y bore, Ysgol Sul y pnawn a phregeth y nos. 'Roedd ar ben chwech, a'r gynulleidfa yn ei lle yn disgwyl. Ond-nid oedd hanes am y blaenoriaid na'r pregethwr. Ychydig funudau ar ôl chwech daeth y blaenoriaid yn un rhês o'r tŷ capel i'r Sêt Fawr-ond dim hanes am y pregethwr. Dyna lle 'roedd y blaenoriaid yn edrych ar y cloc, ac yna ar ei gilydd. O'r diwedd pan oedd yn ddeng munud wedi chwech dwedodd Owen Owens yn uchel, "Wel ddaw o ddim. bellach, waeth i ni heb ei ddisgwyl". Amneidiodd un o'r blaen- oriaid arno "Dechreuwch chi", meddai. Ar ôl gryn stwyrian a thuchan cododd Owen Owens i ddechrâu. Ar ôl ledio pennill fesul dwy linell yn ôl yr hen arfer, darllenodd o'r Hen Destament (yn rhyfedd iawn, o'r Hen Destament y darllenai bob amser). Trodd i'r nawfed bennod yn llyfr y Pregethwr a phan ddaeth at y bedwaredd adnod-ar-ddeg a'r adnod ganlynol darllenodd: "Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a aeth yn ei herbyn hi ac a'i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn.
"A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas a'i ddoethineb". Cyn darllen y frawddeg nesaf, rhodd ochenaid fawr dros y Capel—"Eto, ni chofiodd neb am y gŵr tlawd hwnnw".
(Gyda llaw, arferai William, fy mrawd, ddweud mor awgrymiadol yw'r gair ochenaid, a chymaint gwell na'r Saesneg sigh). Hwyrach y dywedwch mai am bethau bychan y soniaf. Teimlaf fod ewythr hynod Owen Owens yn llygaid ei le pan ddywedodd mewn cyfarfod blaenoriaid Sasiwn Rhuthyn mai'r peth pwysig yw "gwneud y pethau bach yn ein cyrraedd; dweud un gair bach wrth basio-dim ond darn adnod. Bydd llawer o bethau bach yn gwneud bwndel go fawr" meddai. Yn yr un araith dywedodd "A wyddoch chi beth yw 'cadw-mi-gei'? Rhyw focs bychan a thwll i roddi arian i mewn ynddo fo. Nid ydynt i ddod allan am amser hir iawn. Pan agorir y bocs bydd mwy yno nag y feddyliwyd. Mi wn am lawer i hen flaenor oedd wedi gollwng mwy i'r Cadw-mi-gei nag yr oedd ef ei hun na neb arall wedi ei feddwl. Mae'r cyfan yn y Cadw-mi-gei a dont i'r golwg pan fydd y Barnwr yn agor y blwch. Y pryd hwnnw bydd y dimeiau bychan wedi troi yn sofrens i gyd".
Dyna hanes ei nai Owen Owens, Tyddyn-y-Graig, Pen Blaenor Capel Isa, a hanes aml hen Ben Blaenor arall. Dwedodd "y gair bach wrth basio; a'r "darn adnod". Os pethau bychain ydynt, maent yn ddigon mawr i mi ei cadw'n fyw yn fy meddwl am fwy na thri-chwarter canrif.
'Roedd mwy o sofrens nac o ddimeiau ym mocs Owen Owens, a dyma fi yn talu teyrnged i'w waith a'i ddylanwad, a thrwyddo ef i bob hen Flaenor a fu'n llafurio ym mhob eglwys yng Nghymru.
PENNOD VII
GWREIDDIAU'R PRESENNOL
EUTHUM ddwy flynedd yn ôl ar ymweliad â'm tref enedigol. Dyma'r tro cyntaf mewn oddeutu deuddeng mlynedd i mi fod yno. Nid yw deuddeng mlynedd ond byr amser yn hanes hen dref, ond gwelais lawer yn newydd ynddi hyd yn oed ar ôl cyfnod mor fyr. Ehedodd fy meddwl yn ôl tros y blynyddoedd, at adeg fy nyddiau ysgol, rhyw bedwar ugain o flynyddoedd yn ôl, a gwelwn ddarlun o'r hen dref fel y cofiaf hi gyntaf. Medd- yliais am y newid a welodd yn ystod y cyfnod hwn, a sylweddolais yn sydyn fod talp mawr o hanes yr hen dref, ei thai, ei masnachdai, ei chrefftau, ei theuluoedd, ei harferion, ei ffurf o fyw, i raddau helaeth iawn yn aros yn unig yng nghof rhai o'm cenhedlaeth i.
Sylweddolais ymhellach fod hyn yn wir am bob hen dref gyffelyb ar hyd a lled Cymru, ac os na fydd ymdrech i gasglu a chofnodi popeth a berthyn i hanes ein hen drefi, aiff yn rhy hwyr. Mae patrwm oes y machine a'r multiple shops, yn brysur yn gosod unffurfiaeth ar bob tref ym Mhrydain.
'Rwyf am geisio rhoi cip olwg ar un hen dref fel yr oedd—Llanrwst-hen dref marchnad ar lan afon Gonwy.
Canolfan y dref yw y "Sgwar", gyda'r Town Hall yn y canol. Fel y cofiaf y "Sgwar" gyntaf, 'roedd yn hwy, tebycach i oblong. Ar gornel chwith yr oblong, y gornel y tu cefn i'r Town Hall, 'roedd palmant llydan wedi ei balmantu â cherrig crynion. Y tu ôl i'r palmant 'roedd tŷ tebyg i'r hen Tŷ Hwnt i'r Bont sydd 'nawr yng ngofal y National Trust. Adwaenwn y tŷ fel "Tŷ ladis Titla". Ar y gornel gyferbyn, ar y llaw dde, 'roedd palmant cyffelyb, bron yn sgwar fach ei hun, a dwy siop ar ddwy ochr y gornel. 'Roedd palmant o gerrig crynion yno hefyd. Ar ddiwrnod marchnad a ffair byddai'n llawn o ferched o'r wlad a basgedi o wyau, menyn a chywion ieir i'w gwerthu.
Yr un ochr i'r sgwar a thŷ ladis Titla, 'roedd dwy siop. 'Roedd top yr adeilad yn taflu allan dros y palmant a physt o dderw du i'w dal i fyny. Dyna pam y gelwid hi'n Siop Tan y Pendist. Wrth gwrs cof prin iawn sydd gennyf am yr hen Dan-y-Pendist fel yr oedd yn y cyfnod pell hwnnw.
Cofiaf yr hen siop druggist un ochr i'r Sgwâr—a'r ffenestr hen ffasiwn yn taflu allan, a'r gwydr fel gwydr tew potel. Yn y ffenestr byddai dwy botel fawr wydr, a gwaelod llydan iddynt; un o liw coch, a'r llall o liw gwyrdd-las. Mewn potel lydan a dŵr ynddi, cadwai y druggist amryw o gelod. Âi aml i hen wraig yno am ddwy neu dair o'r gelod i roi ar rhyw glaf fyddai'n dioddef gan anhwylder allanol. Cofiaf weld hen wraig yn rhoi gelod ar wddf dyn oedd yn diodde oddi wrth "Glwy'r Brenin" (scrofula). Pan 'roedd y gelod wedi sugno digon, gollyngent eu gafael gan ddisgyn yn swrth, a'r hen wraig yn eu rhowlio mewn halen nes cael y gwaed allan ohonynt, cyn eu rhoi yn ôl yn y botel a'r dŵr, i gadw.
Yn yr amser cynnar y soniaf amdano, 'roedd Llanrwst yn hynod am rif ei thafarnau. 'Roedd pump ohonynt ar un ochr i'r Sgwâr yn unig. Gyda llaw, o holl dafarndai y dref, ni chofiaf fod mwy nac un ac enw Cymraeg arno! Rhaid dweud fod yma un gwelliant, gan fod mwy na hanner y tafarndai wedi eu cau. Ar ddiwrnod ffair byddai morwynion a gweision y ffermydd i'w gweld yn aml yn eistedd yn ffenestri agored tafarndai'r Sgwâr, yn cael hwyl ac yn edrych ar y mynd a dwad prysur.
Mae y cyfan o'r hen dai a siopau y Sgwâr wedi diflannu. Nid oes, heddiw, ddim o hynodrwydd yn aros yn y Sgwâr—dim yn hŷn na'r Town Hall.
Dyma hen adeilad arall, sydd mewn bod yn y dref, ond o'r golwg—yr hen ysgol Rad un-ystafell. Gorchuddiwyd hi gan ystafelloedd newydd yr Ysgol Sir, ac yna yr erys, a'i waliau llydan, gyda'r adeilad newydd o'i chwmpas yn hollol anghydweddol. Gwaeth na'r cwbwl, gosodwyd dau gargoyle yn perthyn i'r hen ysgol, uwch ben drws ffrynt adran y genethod yn yr adeilad newydd. Dyma elwid yr Ysgol Ramadegol—yr Ysgol Rad—a sefydlwyd hi gan John Wyn o Wydyr.
Cofiaf yn dda fel y byddai bechgyn yr "Ysgol Britis" yn gweiddi ar ôl bechgyn yr Ysgol Rad.
"Ysgol Rad, Ysgol Ddrud
Ysgol sala yn y byd".
Daw sôn am yr Ysgol Rad i'm cof yr hen Honours Board, yn yr hen ystafell, ac yno, hyd heddiw, ceir enwau meibion hen deuluoedd yn ymddangos ymhob cenhedlaeth drwy'r cyfnod er agoriad yr ysgol. Pwy yn yr ysgol heddiw a ŵyr beth oedd cysylltiad yr enwau a'r ardal?
Bu cysylltiad hen deulu Gwydyr a'r dref yn dal ar hyd y canrifoedd. 'Roedd cysylltiad, drwy deuluoedd Ancaster a Carrington, yn dal hyd yn gymharol ddiweddar. Pan briodais, ac yn byw unwaith eto yn yr hen dref, byddai yr Arglwydd Carrington yn dod yn aml i'r castell, a llawer pendefig pwysig gydag ef, a byddai'n derbyn ac yn rhoi croesaw cynnes. Cofiaf, un tro, iddo ddod a'r Duke a'r Duchess of York (George V a'r Frenhines Mary yn ddiweddarach).
Gwahoddwyd côr y dref i ganu yn y castell, i ddiddori'r pâr ifanc. Cofiaf y noson yn dda. 'Roedd y pendefigion ar ôl cinio mewn ystafell fawr uwchben, a'r côr yn canu mewn ystafell islaw. Mae'n debyg i'r gwrandawyr fwynhau canu un gân yn arbennig. Ni allwn lai na meddwl wrthyf fy hun, mai ffodus oedd na ddeallant y geiriau. Ni fuasent yn teimlo'n llawn mor gyfforddus pe baent yn deall ein bod yn canu y dôn "Dies Irae" ar y geiriau
"Duw mawr, pa beth a welaf draw,
Diwedd a braw yr hollfyd".
Ar ddiwedd y canu, daeth Arglwydd Carrington i lawr i gyrchu arweinydd y côr a'i gyflwyno i'r teulu brenhinol. Daeth y pâr ifanc i lawr at y Côr. Cofiaf yn dda wisg y Duchess— gŵn o satin pinc, ac yr oedd ganddi fand llydan—(dog-collar fel y'i gelwid) o berlau gwych am ei gwddf. 'Roedd ei breichiau a'i hysgwyddau'n noeth, wrth gwrs, er mawr syndod un aelod o'r côr. "Diar annwyl", meddai, "wyddwn i erioed o'r blaen y byddai merched yn gwisgo fel yna".
Trist meddwl fod yr hen gysylltiad â theulu Gwydyr wedi mynd, a'r unig gysylltiad sydd yn aros yw, hen ystafell yr Ysgol Rad, yr hen elusendai a Chapel yr hen Eglwys.
Beth am yr hen grefftau? Mae llawer sôn heddiw am ad-newyddu hen ddiwydiannau cefn gwlad. Mae llawer ohonynt wedi diflannu. Cofiaf am grefft a masnach sydd wedi mynd dros gof ers llawer dydd yn yr hen dref.
Cofiaf am Theophilus Davies, gwneuthurwr clociau wyth-niwrnod. Ni feddyliai neb fod tŷ wedi ei ddodrefnu'n briodol heb gloc mawr, a byddai clociau Theophilus Davies ac eraill yn fawr eu bri. Mae cloc mawr fy mam a nhad, yn awr o leiaf yn gant ac ugain oed, gennyf, ac y mae'n mynd, yn tipian ac yn taro cystal ac erioed. Cofiaf ers pan gofiaf ddim, mai un o ddyletswyddau Nhad ar nos Sadwrn fyddai weindio'r hen gloc. 'Roedd yn ddeddf y Mediaid a'r Persiaid.
Cofiaf farchnad sanau Llanrwst. 'Roedd y dref yn ganolfan masnach sanau pur bwysig. Byddai gwerthwyr y sanau yn sefyll ar y Bont Fawr ac ar hyd y wal ar ochr ffordd Stryd y Bont. (Gyda llaw, collwyd yr enw Cymraeg erbyn heddiw). Byddai llawer iawn o hen wragedd "ar y plwy" yn gwau sanau i'w gwerthu i'r dyn sanau. Ni chofiaf enw y dyn sanau, ond cofiaf ei weld lawer gwaith. Dyn tal, llydan o gorff oedd. Byddai ganddo ddwsinau o barau sanau yn crogi ar ei fraich chwith. Ai at un hen wraig ar ôl y llall i brynu. Arferai un Nain i mi wau llawer i ddyn y sanau. 'Roedd yn byw ym mhen uchaf Llanrhychwyn, a deuai i lawr i'r dre bob diwrnod march- nad a ffair, dan wau ar hyd y ffordd yn ôl a blaen. Deuai i'n tŷ ni i gael te a chofiaf fel y byddai'n clician y gweill wrth wau. Bûm lawer gwaith yn ceisio clician y gweill fel Nain, ond ni lwyddais erioed.
Ceid digon o edafedd cartre yn ffatri Trefriw-edafedd glaslwyd, ac edafedd cochddu'r ddafad, fel ei gelwid, a ddefnyddid i wau y sanau gan mwyaf.
Mae meddwl am ei gwau yn dwyn i'm meddwl beth y clywais hi yn ei ddweud lawer gwaith wrth Mam—"Rhaid i mi fynd, wel di, mae'r brain yn dew hyd y caeau" (arwydd oedd, mae'n debyg, o dywydd mawr heb fod ymhell).
Mae'n amlwg oddi wrth hen luniau o'r afon, y bu gwneud cwrwgl yn grefft gyffredin yn yr ardal. Ond ni welais i erioed ond un dyn yn meddu ar gwrwgl. 'Roedd dyn o'r enw "Doctor Bens" yn byw yn yr hen Tŷ Hwnt i'r Bont. Nid oedd yn ddoctor, ond dyna y gelwid ef. Gwelais ef lawer gwaith yn cario cwrwgl ar ei gefn, yn union fel y gwelir heddiw yng Ngheredigion.
Dwedais fod yn drist meddwl am ddiflannu yr hen gysylltiad a Gwydyr. Trist hefyd yw gweld colli pob golwg ar yr hen Bowling Green hyfryd i fyny drwy'r coed uwch ben y Castell. 'Roedd yn lecyn hardd, y glaswellt fel melfed, seddau cerrig ymhob pen, ac wedi ei amgylchynu a chewri o brennau pin-wydd a larwydd. Am genedlaethau bu'n arferiad ar ddydd Gwener y Groglith i blant y dref dyrru i'r Bowling Green i fwyta hot-cross-buns. Erbyn heddiw, diflannodd y cewri coed, diflannodd y melfed gwyrdd. Nid oes ond y fan a fu, yn guddiedig tan y drain a'r dryswch. Yr un modd yr hen ffordd drol heibio'r Bowling Green dros ysgwydd y bryn i Lyn y Parc. Bûm yn ei cherdded ddwsinau o weithiau ers talwm. 'Roedd golygfeydd godidog oddiyno. Nid oes olwg heddiw ar yr hen ffordd ramantus—dim ond anialwch o ddrain a mieri.
Dywedir fod gwraidd y presennol yn cyrraedd i lawr ymhell i'r gorffennol. O sefyll heddiw yn Sgwâr fy hen dref enedigol, anodd gweld pa le y mae'r gwraidd. Crwydro ar yr wyneb mae cymaint o dyfiant yr oes hon. Pawb mewn brys a llawer yn credu mai anwybyddu'r gorffennol yw y ffordd at ffyniant. Eto, o'r gwraidd y daeth y maeth, ac o wybod ystyr ein gorffennol y daw y ffyniant gorau.
Mae i bob hen dref, i bob hen Ysgol Rad, i bob ardal yng Nghymru drysor hanes a thraddodiad, ond eu ceisio. Nid yn unig hen arferion a diwydiannau, ond hen enwau, hen ffyrdd, hen ddywediadau. Dyma gyfle godidog i ieuenctid Cymru, yn yr ysgol neu yn eu diddordebau y tu allan i'r ysgol, i gasglu ac i gofnodi y cwbl sydd eto ar gael am hanes eu hardal. Mae gennym Amgueddfa Genedlaethol, mae'n wir—ond Amgueddfa ymhob hen dref yng Nghymru sydd eisiau, er mwyn i ieuenctid yr oes hon gael darlun o'r oesoedd a fu.
PENNOD VIII
DYCHYMYG
YSGRIFENNWYD cyfrolau am ryfeddodau dychymyg a'i allu i ddylanwadu ac yn wir i gyfnewid holl fywyd dyn. Mor barod ydym oll i gredu'r arwynebol heb geisio cloddio i lawr i'r gwreiddyn, at y gwir. O ddychymyg dyn y cododd ofergoelion pob oes. Nid oes ond eisiau edrych ar Iwrop heddiw i weld fel y gwna dychymyg greu ofergoelion newydd sbon.
Daw i'm cof, o'm profiad, enghreifftiau pur dda o effeithiau dychymyg, yn dangos fel y rhêd yr un llinyn crychu rhwng dychymyg ac ofergoel.
Dechreuaf gyda hanes fy ngŵr, W.H., pan oedd yn fachgen ifanc yn y yn y Gaerwen.
Yn ei gartref, Dinam, cedwid cerbydau a cheffylau i gludo teithwyr o bentref i bentref yn Sir Fôn. 'Roedd hyn wrth gwrs "cyn bod 'run tren" (heb son am geir modur), oddigerth rhwng y Gaerwen a Chaergybi ac i Langefni.
Dinam fyddai'n gofalu am gludo commercial travellers, mewn draperi yn arbennig gan fod yn ofynnol iddynt gael cerbydau a digon o le i'w hamperi mawr.
Richard, y brawd hynaf, neu un o'r gweision fyddai'n gyrru'r cerbydau fel arfer, ond os byddent allan ar waith yn barod yna byddai W.H. yn gwneud ei ran. Lawer gwaith y bu yn cludo Ambrose Lloyd y cerddor ar hyd a lled y Sir. Gyda y byddai Ambrose Lloyd yn y cerbyd, tynnai nodlyfr bach o'i boced, a phensal, a dyna lle y byddai yn mwmian canu ac yn taro nodau i lawr. Credai W.H. iddo gyfansoddi rhai o'i donau gorau yn y cerbyd wrth fynd o bentre i bentre i mofyn "orders". Ni wnai Ambrose Lloyd golli amser i grefu am orders. Pan yr âi i siop gofynnai'n foneddigaidd, "Oes gennych chi orders i mi heddiw"? Ac os dwedai'r cwsmer, "Dim heddiw Mr. Lloyd", tynnai ei het yn foesgar ac âi allan heb ychwaneg o eiriau. 'Roedd yn uchel iawn ei barch trwy'r sir.
Rhoddaf hyn i gyd fel cefndir y stori sydd i ddod.
Un diwrnod aeth W.H., ac Ambrose Lloyd yn y cerbyd, ar hyd y sir gan adael Mr. Lloyd ar ddiwedd y diwrnod yn Amlwch lle y dewisai aros noson. Erbyn hyn 'roedd yn nosi, ac wedi i W.H. gael swper a bwydo'r ceffyl cychwynnodd yn ôl am y Gaerwen gyda'r cerbyd gwâg. 'Roedd yn olau leuad a rhyw unigedd llethol dros y tir. Nid oedd na siw na miw ond sŵn traed y ceffyl ar y ffordd galed. Ambell dro clywai gi yn udo mewn ffarm gyfagos. Atebai un arall, ac un arall, nes y clywid cryn hanner dwsin yn udo. Nid difyr oedd sŵn yr udo yn hwyr y nos. Rhaid cofio nad oedd W.H. ond bachgen ifanc. Gwyddai y byddai'n rhaid mynd heibio man lle'r oedd mynwent ar un ochr i'r ffordd a thŷ yr ochr arall. Gwyddai y credai trigolion yr ardal fod ysbryd yn aflonyddu y fynwent. 'Roedd Mam W.H. yn ofergoelus iawn, credai yn gadarn mewn ysbrydion; rhwng ei fam a llanciau y llofft stabal gwyddai am storïau ysbrydion digon cynhyrfus i godi gwallt pen dyn. 'Toedd ryfedd iddo deimlo'n nerfus wrth nesau at y fan lle y dwedid i'r ysbryd ymddangos. Mor wastad yw tir Sir Fôn fel y gellir gweld am bellter ffordd. Gwelai y fynwent ymhell cyn cyrraedd yno. Yn sydyn, fel 'roedd yn agosau, rhedodd iâs oer hyd ei gefn. Gwelodd ddrychiolaeth wen fel pe bai yn hedeg ar draws y ffordd tua'r fynwent. Beth a wnai? Ni allai droi'n ôl-dyma'r unig ffordd i'r Gaerwen. 'Roedd yn amlwg fod y ceffyl hefyd wedi gweld y ddrychiolaeth ac wedi dychryn cymaint fel y dechreuodd garlamu'n bendramwnwgl. 'Roedd W.H. bron yn wallgof o ddychryn. Ni wyddai'n iawn beth oedd yn ei wneud. Pan ddaeth y cerbyd yn agos i'r ddrychiolaeth, cymerodd afael ar y chwip a llachiodd nerth bôn braich ar draws y ddrychiolaeth wrth fynd heibio. Daeth y screch fwyaf anacarol i'w glust. 'Roedd bron a llewygu o ofn, a'r ceffyl wedi dychryn cymaint ar ôl y screch fel y collodd pob rheolaeth arno. Carlamodd y ceffyl, siglodd y cerbyd o'r naill ochr i'r llall am filltiroedd. Yn ffodus nid oedd neb na dim yn tramwyo hyd y ffordd mor hwyr y nos, ac o'r diwedd arafodd y ceffyl, daeth W.H. ato ei hun ac ail sefydlwyd dealltwriaeth rhyngddo a'r ceffyl. Pan gyrraeddodd adre 'roedd pawb wedi mynd i'r gwely ond ei fam. Ni ddwedodd W.H. ddim wrthi. Rhwbiodd y ceffyl orau y gallai; 'roedd y truan yn furum o chwys. Aeth i'w wely a phenderfynodd na soniai air wrth neb am y peth a welodd ac a glywodd wrth y fynwent.
Ymhen diwrnod neu ddau 'roedd stori gynhyrfus wedi mynd fel tân gwyllt drwy'r ardal. "Glywsoch chi beth ddi- gwyddodd i Jane Jones yr Hendre y noson o'r blaen"? oedd y cwestiwn ar wefusau pawb. 'Mae'n ymddangos fod Jane Jones ar brydiau'n cerdded yn ei chŵsg. Y noson honno 'roedd wedi cerdded yn ei chŵsg, allan o'r tŷ yn ei choban-nos wen. Deffrowyd hi ar amrantiad gan sŵn ofnadwy fel corwynt, ac yn y corwynt gwelodd anghenfil mawr fel draig yn rhuthro heibio. 'Roedd ei lygaid fel dwy olwyn o dân, a mŵg a fflamau'n dod o'i ffroenau. Wrth ruthro heibio llachiodd ei chefn a'i grafanc fawr nes rhwygo ei choban a gadael ôl ei grafanc ar ei chefn. Yna diflannodd yn y corwynt. Dyna stori gynhyrfus Jane Jones. Bychan a wyddai mai W.H. a'r ceffyl oedd y ddraig a'i dychrynnodd gymaint, ac mai llachiad y chwip oedd y grafanc ofnadwy. Ni chredai fyth y gwir pe bai W.H. yn ei ddweud wrthi. Onid oedd hi wedi gweld yr anghen fil a'i dau lygaid ei hun? 'Roedd y gwrym ar ei chefn yn dystiolaeth mai ôl crafanc y ddraig oedd a pho amlaf yr adroddai y stori mwyaf yn y byd y tyfai y dychymyg. Ni feiddiodd W.H. am flynyddoedd gyfaddef wrth neb mai fe a anafodd Jane Jones yr Hendre. Credodd Jane Jones ar hyd ei hoes ym modolaeth y ddraig ofnadwy. Cawsom lawer hwyl wrth wrando W.H. yn adrodd y stori—ac yn ein teulu byddai sôn am y Ddraig Goch a ddyry gychwyn yn dod a Jane Jones yr Hendre i'n meddwl a gwên ar ein hwynebau.
Mae'n debyg fod eglurhad llawn mor syml i lawer ofergoel. Tybiaf mai eglurhad syml iawn oedd i stori glywais lawer gwaith gan fam W.H. 'Roedd ei fam yn ofergoelus iawn fel y dwedais eisoes. Nid oedd modd ei darbwyllo. 'Roedd o bersonoliaeth gref a phenderfynol, heb ddim byd ofnus na nerfus yn ei chyfansoddiad. Dwedai ei phlant stori amdani yn dod adre rhyw ddiwrnod ar gefn ei cheffyl, o dŷ ei thad. Cafodd fod y llidiart haearn ar draws y llwybr wedi ei gloi. Er y credai'n gadarn fod "peryg mewn haearn", gyrrodd ei cheffyl dros y llidiart yn hytrach nac iddi droi'n ôl i gael y goriad. Cofier yr hen gred fod rhyw berygl mewn cyffwrdd a haearn. Ond, er nad ofnai ddim-credai'n gadarn yn yr ofergoelion. Credai mai offerynau Satan oedd cardiau chware. Ni feiddiai neb ddangos cardiau yn Dinam. 'Roedd Richard y mab hynaf yn hoff iawn o chware cardiau; deuai'n aml i'n tŷ ni ar draws y ffordd i gael gêm o whist neu bezique. Os digwyddai i'r hen wraig ddod i'r tŷ diflannai'r cardiau ar unwaith; pe buasai'n gwybod ein bod yn ymhel â phethau mor bechadurus ac aflan buasai'n ofni rhag i niwed ddigwydd inni. Dwedai wrthym yn aml hanes dwy forwyn fyddai yn chware cardiau ar bob cynnig. Un gyda'r—nos yn yr haf ar ôl godro, aeth y ddwy i gornel cae cyfagos er mwyn cael heddwch i chware. Wedi bod yno dipyn o amser sylwasant fod pob man wedi mynd yn dywyll. Yn sydyn daeth corwynt mawr heibio. Cipiwyd y cardiau o'u dwylo a daeth "hwch ddu gwta" o'r corwynt a lladdodd y ddwy eneth yn y fan. 'Doedd ddiben ceisio darbwyllo'r hen wraig mai storm o fellt a tharanau mae'n siwr a gymerodd le, ac mai mellten oedd yr "hwch ddu gwta". Gyda llaw byddai llawer o sôn am "hwch ddu gwta". Fel draig goch Jane Jones, mewn corwynt y deuai.
Cyn mynd at y drydedd enghraifft, gan fy mod yn son am W.H. a'i fam temtir fi i adrodd stori am W.H. yn mynd i Lundain am y tro cyntaf yn fachgen ifanc 82 mlynedd yn ôl. 'Roedd wedi bod yn wael, ac yn nhyb ei fam, 'roedd mynd i Lundain yn orchwyl fawr. Pan 'roedd ar gychwyn rhoddodd iddo botel fechan flat, yn llawn o frandi. "Cymer di hwn William bach", meddai. "Cadw'r botel ym mhoced dy frest, rhag i ti deimlo'n sâl yn Llundain ac heb ddim ffisig". Cadwodd W.H. y botel yn ei boced ac anghofiodd amdani. Trannoeth aeth i'r gwasanaeth bore yn eglwys St. Paul. Rhywfodd, wrth iddo ogwyddo, llithrodd y botel frandi o'i boced a sglefriodd ar hyd y llawr carreg rhwng traed y gynulleidfa am gryn bellter. Gwelai rhywun yn codi'r botel ac yn ei phasio o law i law ar hyd y rhês. Teimlai ei hun yn chwysu fel y nesaodd y botel ato nid oedd am i neb ddeall mai fe oedd y perchennog. 'Toedd ond un peth i'w wneud. Pan ddaeth y botel i'w law, heb oedi dim, pasiodd hi i'r nesaf ato—a dyna'r olwg diwethaf a gafodd o'r botel frandi. Ni chlywodd byth sôn amdani na lle y terfynodd y daith.
Ond i ddod yn ôl at ddychmygion ac at y drydedd stori sydd gennyf i ddangos mor bell y gall dychymyg arwain dyn.
Mewn ardal wledig yn uchel ar lechwedd y mynydd 'roedd capel bychan ar lecyn oer iawn, heb fath o gysgod iddo. Cwynai y gynulleidfa fechan am oerni'r capel yn y gaeaf, ac yn wir cytunai'r blaenoriaid i gyd ond un. Ni chytunai'r hen flaenor Griffith Roberts fod angen twymo'r capel. Mynnai ef mai dod i'r capel i wrando'r efengyl ac i weddïo ddylai fod amcan pawb ac nid i eistedd yn gysurus. Gwres ffydd a chariad oedd yn ofynnol, nid gwres corff. Ond, er brwydro'n hir, colli wnaeth yr hen frawd a phenderfynnwyd cael stôf oel i dorri tipyn ar yr iâs oer.
Un bore Sul oer, rhewllyd, gwelwyd fod y stôf wedi cyrraedd, ac yn y Sêt Fawr. 'Roedd golwg gysurus iawn ar y stôf, gyda'r gwydr coch yn y ffrynt. 'Roedd y gwasanaeth wedi dechrau cyn i Griffith Jones gyrraedd y capel. Pan welodd y stôf yn y yn y Sêt Fawr gwgodd yn guchiog arni ac aeth i eistedd i ben draw'r Sêt Fawr, cyn belled ac y gallai oddiwrth y stôf. Toc, tynnodd y muffler oddi am ei wddf, a datododd ei dop côt. Yna tynnodd hi a'i rhoi ar ochr y Sêt Fawr yn rhodresgar. 'Roedd yn amlwg iddo deimlo'n anghysurus dros ben. "Phew", meddai, a thynnodd allan ei gadach poced i sychu'r chwys a fyrlymai i lawr ei wyneb.
Ar ddiwedd y gwasanaeth aeth at y blaenoriaid eraill, gan ddal i sychu'r chwys o'i wyneb. Cyn i neb gael cyfle i ddweud gair dechreuodd ddweud y drefn yn hallt am y stôf. "Toes dim rheswm mewn dod a'r fath beth i'r Sêt Fawr, nac i'r capel o gwbwl. Mae'n ddigon a mygu dyn. 'Rydw i'n chwys dyferol oddi wrth y gwres, ac am y tro cyntaf yn fy oes methais a gwrando'r efengyl. Gwaith Satan yw'r cyfan".
Atebodd un blaenor wrtho'n dawel: "Wel, Griffith Jones pe buasech wedi dod i'r capel cyn i'r gwasanaeth ddechrau buasech wedi cael ar ddeall, er fod y stôf wedi cyrraedd, nad yw'r oel wedi cyrraedd eto".
Ie, peth rhyfedd yw dychymyg!
PENNOD IX
HWYL CEFN GWLAD
CEISIR heddiw gynnal math o Noson Lawen yma a thraw, ar batrwm hen Noson Lawen yr oes a fu. Nid yw y gorau ond adlewyrchiad gwan o'r hen Noson Lawen; rhyw hwyl gwneud yw heddiw wedi'r cwbwl. Ni all fod yn ddim arall. Perthyn y Noson Lawen i fywyd cefn gwlad pan nad oedd na'r cyfryngau, na'r moddion, na'r diddordebau sydd heddiw o fewn cyrraedd hyd yn oed y pentref bach mwyaf anghysbell "ym mol y wlad".
Nid oedd mor hawdd ag yw heddiw i weision a morwynion ffermydd gael na'r hamdden, na'r cyfle, na'r man i gyfarfod. Ambell noson ffair, neu adeg Pen Tymor, cydgerdded o'r oedfa nos Sul, neu gyfarfod cystadlu, neu gôr neu gyngerdd, ychydig gyfle yn wir i ferch a llanc gael cwmni ei gilydd. Ond ni ffaelodd ieuenctid erioed a chreu y cyfle rhywfodd, rhywsut! Canlyniad naturiol i'r diffyg cyfle oedd "streicio". Os byddai llanc eisiau sgwrs à merch ifanc, âi at y ffermdy lle'r oedd yn byw, ar ôl i'r teulu fynd i'r gwely; yna lluchiai ddyrnad o gerrig mân at ffenestr ei hystafell wely. Yn fwy na thebyg deuai'r lodes i'r ffenestr i weld pwy oedd yn "streicio" arni. Llwyddai'r llanc yn aml i'w pherswadio i ddod i lawr i agor y drws iddo. Os câi ffafr yn ei golwg câi wadd i'r gegin. Ond rhaid oedd bod yn ochelgar iawn rhag deffro neb.
'Roedd streicio yn arferiad trwy'r wlad pan oeddwn yn byw yn y Garn, ac yn wir roedd yn arferiad yn Sir Fôn yr un cyfnod. Ni welai neb ddim o'i le yn yr arferiad. Clywais ddyn cyfrifol yn dweud fod y dull hwn o gael sgwrs â merch ifanc yn fwy gweddus o lawer na rhyddid i fod hyd y lonydd yn hwyr y nos.
Pan yr oedd W.H. (fy ngŵr yn hwyrach) yn orsaf-feistr ifanc ym Mryncir 'roedd yn gyfeillgar iawn a dau o feibion ffermydd o'r ardal D.J. a J.J. 'Roedd D.J. yn hynod o dal, dros ddwy lath o hyd, a W.H. a J.J. ym gymedrol o ran taldra. Un noson olau leuad yn y gaeaf hudwyd W.H. i fynd gyda'r ddau i streicio er mwyn tipyn o hwyl. W.H. oedd i gael y cynnig cyntaf. 'Roedd ganddo gôt fawr pur laes amdano y noson honno a chan ei fod yn un llawn direidi perswadiodd D.J. i'w gario ar ei ysgwydd "ging gong gafr" fel y dwedai'r plant, ar ôl cyrraedd y ffermdy. Botymodd W.H. y gôt fawr am ben D.J. fel nad oedd ond y darn isaf o'i gorff yn y golwg. Edrychai W.H. yn ddyn aruthrol o dal erbyn hyn, 'roedd yn ddigon tal i guro ffenestr y ferch yn lle lluchio cerrig mân. Toc, daeth y ferch ifanc i'r ffenestr i edrych pwy oedd yno, a phan welodd y fath anghenfil o ddyn sgrechiodd "Wah"! dros y lle nes deffro ei thad. Nid oedd amser i D.J. ddod yn rhydd o'r gôt, nac i W.H. ddisgyn o'i ysgwyddau. Clywsant y tad yn rhedeg i lawr y grisiau ac i ffwrdd a D.J. fel yr oedd, yn carlamu gorau gallai. Pan agorodd y tad y drws gan feddwl dal y troseddwr, safai wedi ei syfrdanu. "'R Israel fawr", meddai, "O ble'r andros daeth y diawl yna"?, mewn dychryn mawr; a pha ryfedd. 'Roedd golwg rhyfedd ac ofnadwy ar y ddau gyfaill. Y gôt fawr, wedi ei hanner ddatod erbyn hyn er mwyn i D.J. weld y ffordd, yn fflapio o'r tu ôl wrth iddo redeg, ac yn ymddangos yn y nos fel cynffon anferth. Tybiodd y ffarmwr mai doethach fyddai mynd i'r tŷ a chau y drws na mentro allan. Yn y cyfamser 'roedd J.J. wedi ffoi o olwg y tŷ ac yn ei ddau ddwbwl gan chwerthin.
J.J. oedd i gael y cynnig nesaf ar ôl iddynt fynd yn ddigon pell o'r ffarm gyntaf. Daethant at ffarm arall ac aeth J.J. ati i streicio ar y ferch. 'Roedd y cae heibio un talcen i'r tŷ yn uwch na'r tŷ, a llwybr yn arwain i ben y cae. Llwyddodd J.J. i gael y ferch i ddod i lawr ac agor ffenestr y parlwr, a dyna lle 'roedd J.J. a'i hanner i mewn yn y parlwr ac wedi cael gafael ar ddwy law y ferch a'r ddau'n cael hwyl dda. 'Roedd D.J. a W.H. wedi cerdded i fyny'r llwybr ac yn gweld J.J. yn aros yn hir. "Mae'n hir ofnadwy", meddai D.J.; "Ydi", meddai W.H. "ac mae'n oer iawn yma ; wela'i ddim golwg i'r sgwrs ddarfod, chwaith. Mae'n cael gormod o hwyl". "Rhoswch chi funud", meddai D.J., "mi symudwn ni o". 'Roedd tâs fawn yn ymyl y llwybr. Daeth D.J. a llond ei freichiau o'r mawn a'i ollwng ar gefn J.J. islaw iddynt. Arferai J.J. chwerthin fel pe bai yn rhedeg o dop y scêl i'r gwaelod, a phan ddisgynodd y mawn ar ei gefn chwarddodd "Ha! Ha"! ar dop ei lais nes deffro'r tad, a bu'n hwyr glas i'r tri ei gwadnu. 'Roedd D.J. erbyn hyn, er yr hwyl, wedi cael digon, ac ni chafodd drafferth i berswadio y ddau arall i roi'r gorau i'r streicio am y noson. Unwaith erioed y cefais i brofiad o streicio. Yn nhŷ'r Ysgol y Garn, lle 'roeddwn yn byw, 'roedd passage rhwng y tŷ a'r ysgol, yn arwain i iard chware y bechgyn. Agorai ffenestr ystafell wely John fy mrawd ar yr iard chware. Un noson, deffrodd John yn sydyn. 'Roedd rhywun yn lluchio cerrig mân at y ffenestr. Cododd, rhoddodd ei sana, ac agorodd y ffenestr a dyna lle 'roedd tri glas lanc. "Be sy'n bod"? gofynnodd John yn gwta. Meddai un yn bur swil: "Meddwl cael sgwrs gyda'r ferch yma 'roeddem". Collodd John ei dymer ac i ffwrdd ac ef allan yn nhraed ei sana ar eu hôl. Ond er fod John yn rhedwr fel milgi 'roedd y llanciau wedi cael y blaen ac wedi ffoi am eu bywyd. A dweud y gwir cawsant fraw pan welsant "y scwl" yn dod i'r ffenestr, er nad oeddynt wedi bod yn ddisgyblion yn yr ysgol. Ni wyddwn i ddim am y siawns a gollais, nes y clywais yr hanes gan John bore trannoeth. A dyna'r tro cyntaf a'r olaf i ddim llanc feiddio dod i streicio arnaf!
'Roedd W.H. wedi profi hwyl y llofft stabal yn nyddiau ei ieuenctid. Dywedai'n aml wrth John pan gyfansoddodd ef a Llew Tegid Aelwyd Angharad, mor debyg oedd y darlun i noson lawen yn llofft stabal Cefn Du Isaf, Sir Fôn. (ond heb y merched wrth gwrs). 'Roedd un gwahaniaeth—byddai dawnsio dawns y Glocsan yn llofft y stabal heb son am ddawnsïau eraill. Yn ôl a ddeallwn dawns debyg i ddawns y cleddyf oedd, ond rhwng dwy gannwyll ar lawr, yn lle dau gleddyf. Dim ond unwaith y gwelais i neb yn ei dawnsio. 'Roeddwn, pan yn wraig ifanc yn y Gaerwen, wedi mynd gyda trip y Côr i'r Traeth Coch, mewn troliau fel arfer wedi eu benthyg am y diwrnod gan y ffermwyr, a gweision i'w gyrru. Gan fod chwaer W.H. yn aelod o'r côr cawsom fenthyg trol Dinam a Tom Bach y gwas i yrru. Daeth yn wlaw mawr cyn inni gyrraedd Traeth Coch a daliodd i fwrw ar hyd y dydd, felly 'toedd dim i'w wneud ond mynd yn syth i'r tŷ bwyd ac aros yno. Cofiafi rhywun ddod i achwyn fod Tom Bach mewn tafarn, wedi meddwi ac yn dawnsio dawns y glocsan rhwng dwy gannwyll. A dyma ni yno ar unwaith ac er ei fod yn cael hwyl dda ar y ddawns, meddw neu beidio, gafaelodd fy chwaer-yng-nghyfraith yn ei war a rhoddodd sgytfa iawn iddo, a dyna ddiwedd ar y dawnsio.
Nid yn unig am ddawns y glocsan y cofiaf Tom Bach. Mewn llecyn ar y traeth, ar y ffordd yn ôl i'r Gaerwen, 'roedd tonnen (neu dywod gwyllt fel y'i gelwid gan rai). Gwyddai'r ardalwyr am y lle, ond ni wyddai Tom ac aeth a'n trol ar draws y donen. Dechreuodd y drol suddo'n uniondeg. Ni fu erioed y fath helynt, y merched yn gwaeddi, y dynion yn rhedeg o'r troliau eraill i gario'r merched i ddiogelwch, a phawb mewn stŵr. 'Roedd yn y drol un ddynes fawr dew, y dewaf a welais erioed, ac ni fentrai'r un dyn ei chario allan! Yn y drol y cafodd aros. Tynwyd y ceffylau o'r troliau i gyd ac o'r diwedd llusgwyd trol Dinam, a'r ddynes dew, ar dir sych.
Buasai plant ac ieuenctid yr oes hon yn ddirmygus iawn o drip ysgol Sul mewn trol! Ond yn wir 'roedd mwy o hwyl o lawer i'w gael nag mewn unrhyw drip a gefais mewn tren neu fys yn ddiweddarach.
Collwyd llawer iawn o'r hen storïau "bwgan" fyddai mor adnabyddus 80 mlynedd yn ôl. 'Roedd storiau bwgan yn rhan bwysig iawn o'r noson lawen, ac mae'n sicr fod rhai o'r storïau yn hen iawn. Adroddai W.H. un oedd yn adnabyddus pan oedd ei fam yn ifanc; byddai llanciau'r llofft stabal yn ei hadrodd am y gorau. Dyma hi—
Y Bwgan Coch Bach.
Flynyddoedd yn ôl 'roedd mab i ffarm yn teimlo'n anfodlon ar ei sefyllfa. Penderfynodd geisio ei wella ei hun. Casglodd yr holl arian a feddai a heb ddim ond ffon onnen ac ysgrepan cychwynnodd ar daith. Bu'n teithio am wythnosau, heb lwyddo i wneud lle iddo ei hun. Ai o ffarm i ffarm i letya'r nos a chafodd garedigrwydd yno bob amser. Bu'r ffon onnen yn ddigon yn ei law i'w amddiffyn yn erbyn lladron penffordd. Un diwrnod, ar ddiwedd taith flin, daeth i wlad hollol ddieithr a'r nos wedi ei ddal. Ni welai ond un tŷ mewn golwg yn y pellter. Cyrhaeddodd yno a churodd y drws. Gofynodd i ŵr y tŷ, yn ôl ei arfer, am lety. Dwedodd y gŵr fod y tŷ yn orlawn a'r unig beth a allai gynnig iddo oedd hawl i gysgu mewn tŷ cyfagos, o'r golwg yn y coed. 'Roedd croeso iddo fynd yno. Byddai ef a'r teulu yn treulio y dydd yno felly'r oedd yno dân cysurus, a gallai gael bwyd i fynd gydag ef. 'Doedd ond yn deg iddo ddweud na fynnai neb o'i deulu na'r un o'r gweision gysgu noson yno, gan fod ysbryd yn aflonyddu yno.
"O'r gorau", medd y llanc, "bydd yn dda gennyf letya yno; nid oes arnaf ofn ysbrydion gan na wnes gam â neb erioed".
Aeth ymlaen, trwy'r coed ac i'r tŷ. Mwynhaodd swper ac eisteddodd wrth danllwyth o dân yn myfyrio ar ddigwyddiadau'r dydd. 'Roedd y distawrwydd yn lliniaru ei flinder a theimlai'n hynod o gartrefol. Dyma sŵn! Beth oedd yn curo? Yn y simdde! Dyma lais yn sibrwd "'Rwy'n dod i lawr, 'Rwy'n dod i lawr, 'rwy'n dod i lawr", a'r llais yn tyfu'n uwch, uwch o hyd. O'r diwedd collodd y llanc ei amynedd a gwaeddodd yntau, "Tyrd i lawr ynte, i dy grogi". Ac i lawr o'r simdde daeth dyn bach oddeutu 3 trodfedd o faint, yn goch o'i goryn i'w sawdl— ei esgidiau, ei gap, ei wisg a'i groen yn fflamgoch. ""Toedd raid iti ddim cadw cymaint o dwrw", medd y llanc, "'twyt ti fawr o beth". "Oh", meddai y coch bach, "os ydw i'n fychan, daw dau mwy na mi ar fy ôl". A chyda hyn agorodd y drws a daeth dau ddyn mawr ysgyrniog i mewn yn cario arch-un ymhob pen iddi, a'i gosod ar ddwy gadair.
"Ewch allan nes y galwaf arnoch", meddai'r bychan wrthynt. Yna trodd at y llanc, "Tyrd gyda mi". "Na wnaf", meddai'r llanc. "Tyrd gyda mi", gorchymynodd y bychan eilwaith. "Wel", meddai'r llanc, "rhag iti feddwl fod arnaf dy ofn mi ddof", a dilynodd y bychan. Daethant at risiau yn arwain i fath o seler islaw. "Dôs i lawr", meddai'r Coch Bach. "Nac af, dôs yno dy hun", meddai'r llanc. Gorchmynodd iddo eilwaith. "Na wnaf", atebodd y llanc. "Am y tro olaf 'rwyf yn peri iti fynd i lawr". "O wel", meddai'r llanc, "rhag iti gredu fod arna'i dy ofn, mi âf", ag i lawr ac ef, a'r Coch Bach ar ei ôl.
Wedi cyrraedd y gwaelod dwedodd y bychan, "Gwnest yn gall. Onibai iti ufuddhau buasai dy gorff yn yr arch a buasai diwedd arnat. 'Nawr, côd y garreg yma", ac ufuddhaodd y llanc ar unwaith. O dan y garreg cafwyd cist fawr llawn o aur. "Rwyf wedi disgwyl amdanat am flynyddau," meddai'r Bwgan Coch Bach, "er mwyn unioni cam mawr a wnes. Y fi a'th alwodd yma o dŷ gartre. 'Rwyt i rannu yr aur a'r gŵr a adawodd iti letya yma, ac y mae yntau i roi iti y tŷ hwn a'r tir fferm o'i gwmpas. Felly cei fyw'n gysurus ar hyd dy oes. Os y bydd i un o honoch ymddwyn yn annheg bydd corff hwn a wna y drwg yn yr arch a welaist ac nis gwelir ef mwyach. Deuaf yma eto nos yfory—a gwae i ti os na fydd rhaniad teg. Yn awr paid ag edrych ar fy ôl". A diflannodd o'r golwg. Ar godiad gwawr daeth gŵr y tŷ yno a'i weision, yn awyddus iawn i wybod beth a ddigwyddodd i'r llanc. Curasant y drws—dim ateb. "Torrwn y drws i mewn", gwaeddai'r gŵr, "mae'n rhaid fod y llanc wedi ei ladd". Deffrodd y llanc wrth glywed y sŵn torri, daeth i lawr ac adroddodd hanes y noson gynt. Cytunodd y gŵr ar unwaith i ymddwyn yn ôl gorchymyn y Coch Bach. Sefydlodd y llanc ei gartref yn y tŷ ac mewn amser priododd ferch y gŵr. Buont fyw yn ddedwydd ar hyd eu hoes ac ni welwyd ac ni chlywyd byth mwy y Bwgan Coch Bach.
Hwyrach y gofynnwch pam yr adroddaf stori mor blentynaidd mewn oes lle y darllenir hyd yn oed gan blant ysgol storïau wedi eu patrymu ar fywyd prysur, aflonydd y byd o'u cwmpas. Dyna yn union pam yr adroddais y stori. 'Roedd storïau o'r fath yn rhan o fywyd cefn gwlad yn nyddiau fy ieuenctid. Ni fuasai darlun o hwyl cefn gwlad yn gyflawn heb y storïau. 'Roedd llanciau fel W.H. wedi eu trwytho mewn storïau cyffelyb. Da fuasai gennyf be bawn yn cofio cynnwys llawer o'r storïau, "Merch Brenin Demerara" a llawer eraill, ond ni erys yn fy nghôf ond Y Bwgan Coch Bach. Ni ddeallais erioed pam 'roedd yn goch, pam 'roedd yn fach, beth oedd y cam wnaeth. Ond gwn gymaint yr hoffai ieuenctid y wlad y stori a gwn iddi berthyn i draddodiadau ac yn wir i ddiwylliant y genedl.
Mawr heddiw yw breintiau a chyfleusterau Cymry ifanc yr ardaloedd gwledig. Rhydd Aelwydydd yr Urdd a Chlybiau y Ffermwyr Ifainc le iddynt i ddatblygu iaith, a chrefft a thalent, i gael ymgom a hwyl a diddordeb i raddau na welwyd erioed o'r blaen. Ond ynghanol y cyfleusterau eang, peidier anghofio fod yr hen bleserau syml yn rhan o wê ac anwe hanes y genedl.
PENNOD X
Y CI, Y GATH A'R IÂR
DARLLENAIS erthygl mewn papur newydd y dydd o'r blaen, ar anifeiliaid. Gosodai'r erthygl gwestiwn o flaen y darllenwyr a all anifeiliaid ymresymu a meddwl? Cwestiwn pur ddyrys, ond cwestiwn llawn diddordeb i bawb sy'n gyf- arwydd ag anifeiliaid. Ni lwyddais erioed i ateb y cwestiwn i'm boddhad fy hun, ac eto, anodd yw gwrthod cydnabod fod rhyw fesur o reswm yn ymddygiad rhai ohonynt, yn ôl fy mhrofiad i. Hwyrach mai gwell fyddai i mi osod y dystiolaeth o flaen y darllenydd, a gadael iddo ffurfio ei farn ei hun.
Credai Nhad yn ddiffuant y gall ci ymresymu. Adroddai wrthym droeon hanes yr ast fu ganddo ef a'i frodyr pan yn blant yn Nhŷ Newydd, Maenan. 'Roedd yr ast yn gyfaill mawr iddynt. Canlynai ar eu hôl i bob man, ac ni feiddiai neb dieithr gyffwrdd pen bys â'r plant os y byddai hi'n agos.
Yn y cyfnod hwnnw 'roedd y frech wen yn gyffredin iawn drwy'r wlad. Cymerodd y tri plentyn hynaf y clefyd—Nhad, Letus ei chwaer a Richard ei frawd, a buont yn wael am wythnosau. Yn y cyfamser cafodd yr ast gŵn bach. Boddodd Nain y cŵn bach gan nad oedd neb ar gael i ofalu amdanynt, a chladdodd hwynt o dan goeden yn y berllan. Cyn belled ag y gwyddai Nain ni welodd yr ast beth a wnaeth. Pan drodd y plant at wella rhoddodd Nain gadeiriau iddynt i eistedd allan yn y buarth yn llygad yr haul. 'Roedd yr ast yn neilltuol o falch o'u gweld. Neidiai a champiai fel pe bâi'n ffaelu gwybod faint mwy o groeso i roi iddynt. Rhedodd yn syth i'r berllan. Crafodd y pridd oddiar y cŵn bach a chariodd hwynt fesul un yn ei cheg i'w gosod yn rhes o flaen y plant. Wedi i'r plant syllu arnynt, cariodd pob un yn ôl i'r twll a chrafodd y pridd yn ôl arnynt. Beth oedd yn ei meddwl? Ymddangosai'n union fel pe bai arni eisiau i'r plant ddeall y drychineb a gymerodd le tra'r oeddynt yn wael. Dyma'r unig ffordd y gallai ddweud wrthynt. Pwy a ŵyr?
Pan oeddem yn byw yn Nhŷ'r Ysgol y Garn 'roedd gennym dri chyfaill od iawn-ci, cath ac iâr—ni welais erioed driawd cyffelyb. Retriever du oedd Teigar, y ci, ac hen gi ffeind iawn oedd. Cysgai'r nos ar fat yn y gegin gefn, a byddai'n rhaid iddo gael y gath i gysgu yn ei gesail bob nos, a'r iâr i glwydo yn ymyl. 'Roedd rhyw ddealltwriaeth rhyfedd rhwng y tri; y ci oedd y mistar, a'r ddau yn ufuddhau. Dwedai William fy mrawd y byddent yn deall iaith ei gilydd!
'Roedd Teigar wedi hen arfer chware gyda'r bechgyn mwyaf yn iard yr ysgol. Aeth, hwyrach, yn or-chwareus, a chan ei fod yn gi pur fawr byddai gan y plant lleiaf ei ofn, ac yn aml byddai'r ffaith yn esgus i'w cadw o'r ysgol. Clywsom fod eisiau ci ar Richard Parry, Tremadog, chwe milltir o'r Garn, a phenderfynwyd rhoi Teigar iddo. Cadwodd Richard Parry ef yn rhwym wrth gadwyn am fis. Tybiai fod Teigar wedi hen gartrefu erbyn diwedd y mis a gollyngodd ef. Ond, y foment y cafodd Teigar ei hun yn rhydd, aeth nerth ei draed tua'r Garn. Cyrhaeddodd Dŷ'r Ysgol amser te, pan 'roeddem i gyd wrth y bwrdd. Aeth Teigar drwy'r ystafell heb gymryd sylw ohonom ac yn syth i'r gegin gefn lle gorweddodd ar y mat a'i glustiau i lawr. Edrychodd arnom gyda cil ei lygaid, a golwg euog iawn arno, yn union fel plentyn drwg yn gwybod ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le. Ben bore drannoeth cychwynnodd William i fynd a'r ci yn ôl i Dremadog. Dilynodd Teigar ef heb drafferth nes iddynt gyrraedd pen gallt Penrhuddros. Yna neidiodd dros y clawdd i'r cae. Aeth William ar ei ôl, a dyna lle cafodd Teigar yn gwledda ar ddafad wedi ei lladd. Mae'n rhaid ei fod wedi ei lladd y diwrnod cynt ar ei ffordd i'r Garn. "Toedd ryfedd iddo edrych mor euog pan gyrhaeddodd Dŷ'r Ysgol. Ofer oedd gwneud dim a'r ci unwaith iddo gael blas ar ladd dafad, ond ei saethu. A dyna ddiwedd trist y cyntaf o'r triawd.
Ni pherthynai rinwedd neilltuol i'r gath—ond yn unig y gallai agor drws y gegin gefn ei hunan. Drws hen ffasiwn a dolen a chlicied iddo yn uchel i fyny oedd i'r gegin gefn. Bûm yn gwylio'r gath yn gwneud yr orchest lawer gwaith. Neidiai ar lintel y ffenestr yn ymyl y drws. Rhoddai naid arall i gydio am y ddolen a'i phawen dde nes y byddai'n crogi wrtho. Gyda'r bawen chwith, pwysai y gliced i lawr a gwthiai a'u dau droed ôl yn erbyn post y drws nes yr agorai. Yna neidiai i lawr ac i mewn i'r gegin gefn a hi. Ni fuaswn yn credu y fath beth ond i mi ei gweld a'm llygaid fy hun. Gwelais gath cymydog yn sefyll ar ei thraed ôl ac yn ysgwyd caued y bocs llythyrau er mwyn galw sylw rhywun i agor y drws, ond ni welais erioed gath arall yn agor y drws ei hunan. Sut y deallodd y ffordd i weithio'r gliced?
Ar ôl colli Teigar cafodd rhyw anhwyldeb ac er inni wneud pob peth a allwn, gwaethygu a wnaeth ac yn fuan iawn collwyd y gath hefyd. Bûm yn tybio mai hiraethu ar ôl Teigar a wnaeth. 'Roedd mewn iechyd perffaith cyn colli Teigar. Pwy a ŵyr?
Ac yn awr, o'r triawd, nid oedd ond yr iâr yn aros. Eiddo William fy mrawd oedd yr iâr, wedi iddo ei chael yn anrheg gan Catrin Morris, y wraig arferai lanhau'r ysgol. Un ryfedd oedd yr iâr fach. Ni fodlonai ar fod allan yn yr ardd fel iâr gyffredin. Yn y tŷ gyda'r teulu, a Theigar a'r gath y mynnai fod, os câi heddwch i aros yno. Os byddai i ni ei hêl allan i'r cefn, âi drwy'r ardd yn syth ac i mewn yn ôl trwy'r drws ffrynt yn dalog. 'Toedd ddiben yn y byd gwneud nyth taclus iddi mewn bocs, mynnai ddodwy yn y mannau rhyfeddaf—tu fewn i rât y parlwr os byddai'n wâg, neu ar y gwely os cai ddrws ystafell ar agor. Gwelais hi fwy nac unwaith yn dodwy ar un o'r desgiau yn yr ysgol. Deuai plant a'u bwyd i'r ysgol—bara- menyn a photelaid o lefrith fel arfer. Buan iawn y deallodd yr iâr hyn, a byddai'n anelu am yr ysgol bob canol dydd fel cloc, er mwyn gwledda gyda'r plant. 'Roedd felly'n hollol gyfarwydd a'r ysgol. Un diwrnod aeth yno adeg gwersi, a'r plant a'r athrawon i gyd yn brysur. Ceisiodd un o'r athrawon ei hel allan, a dychrynodd yr iâr gymaint fel yr ehedodd i fyny a disgyn ar ben geneth yn y dosbarth—Elin Ynys Ddu. Meddai Elin ar gnŵd o wallt trwchus; glynnodd traed yr iâr yng ngwallt Elin ac ni allai ddod yn rhydd. Dychrynodd Elin, a rhedodd ar hyd yr ystafell dan screchian, ar iâr wedi dychryn cymaint ag Elin. Ni fu erioed y fath helynt, yr iâr yn ysgwyd ei hadenydd ac Elin a hithau yn screchian am y gorau, a'r plant wrth gwrs wrth eu bodd. 'Roedd cystal a syrcys. O'r diwedd llwyddwyd i dynnu traed yr iâr o wallt Elin. Ond rhoddodd yr anffawd gyfle i John. 'Roedd wedi teimlo am beth amser fod yr iâr wedi mynd yn dipyn o niwsans yn yr ysgol. Gwyddai na fynnai William i neb ei lladd, felly, rhoddwyd hi i Jane Owens, Cae'r Arba. Gan fod ganddi hanner dwsin o ieir tybid y buasai'r iâr fach yn cartrefu'n well. Ond, yr un oedd yr iâr yng Nghae'r Arba ac yr oedd yn Nhŷ'r Ysgol. Ni wnai gyfathrach a'r ieir eraill. Yn y tŷ gyda'r teulu hoffai fod, ac âi i ddodwy i'r cwpwrdd pres os cai'r drws yn agored. Un diwrnod 'roedd John Owens y gŵr yn ei wely'n wael. Yn sydyn clywai sŵn pit-pat-pit-pat, fel pe bai rhywbeth yn dod i fyny'r grisiau. Toc, agorodd y drws yn araf; rhoddodd yr iâr ei phen trwy'r drws a mawr oedd ei siom pan welodd fod John Owens wedi achub y blaen arni. Trodd yn ôl i lawr y grisiau yn llawn sŵn drwg fel y bydd iâr yn chwilio am le i ddodwy.
Daeth yn amlwg yn weddol fuan na fynnai ieir Cae'r Arba eu dilorni gan y iâr fach. Mae'n rhaid eu bod wedi penderfynu gyda'i gilydd i roi curfa dda iddi pan gawsant afael arni. Daeth cyfle un diwrnod pan drodd yr iâr fach am dro i'r ardd. Rhuthrodd yr ieir arni yn ddidrugaredd, a churwyd hi hyd angau. Dyna ddiwedd yr iâr fach ryfedd. Piti ynte! A dyna ddiwedd bellach ar y triawd fu'n byw mor hapus a chytûn yn Nhŷ'r Ysgol, diwedd mor drychinebus i'r tri.
Anifail gwahanol iawn oedd Bili, bwch gafr fy nhad-yng- nghyfraith yn y Gaerwen. Cedwid geifr i bori ymhlith y gwartheg. 'Roedd Bili'n anifail mawr a dau gorn anferth ganddo. Ar adegau byddai'n beryglus, ond gallai fy nhad-yng-nghyfraith, Richard Williams, wneud unrhywbeth â Bili, âi ar ei ôl fel ci bach. 'Roedd Bili wedi cymeryd yn erbyn pen teulu Fronolau. Un bore Sul, pan 'roedd Bili ar grwydr gwelodd deulu Fronolau yn cerdded tua'r capel. Gwelodd teulu Fronolau Bili 'run pryd. A dyma râs. Cyrhaeddodd y gŵr a'r wraig y capel a rhuthrasant i mewn, a Bili yn canlyn. Cerddodd i fyny ac i lawr yr eil yn fygythiol ac nid oedd yno neb a fentrai ei droi allan. Bu'n rhaid aros iddo fynd allan ohono'i hun cyn cau'r drysau a dechrau'r gwasanaeth. Ar ddiwedd y gwasanaeth, nid oedd olwg ar Bili y tu allan i'r capel, ac aeth pawb ar ei ffordd gartre. Ond, pan 'roedd teulu Fronolau bron a chyrraedd y tŷ, clywsant Bili yn carlamu ar eu gwarthaf ac ni chawsant ond cael a chael i ennill noddfa yn y tŷ. Erbyn hyn 'roedd Bili yn amlwg yn benderfynol y cai afael ar ei elyn. Cerddodd i fyny ac i lawr o flaen ac o gwmpas y tŷ am y gweddill o'r diwrnod. Ni chawsant na'r Ysgol Sul nac oedfa'r nos. Pan agorwyd y drws y bore wedyn, 'roedd Bili yn yr un fan o hyd. Aethant i ffenestr y llofft er mwyn ceisio galw sylw cymydog. Cyn hir daeth Rhys Robats heibio. Gwaeddodd gŵr y tŷ, "Rhys Robats, ma'r hen fwch yma wedi'n cadw ni i mewn er ddoe". Ceisiodd Rhys Robats hel Bili oddi wrth y tŷ, a chododd ei ffon i'w daro, ond daliodd Bili y ffon ar ei gyrn a thaflodd hi o'r neilltu. Ni chyffyrddodd â Rhys Robats ond rhoddodd ar ddeall iddo yn ddigon eglur na symudai o'r Fronolau. O'r diwedd, aeth Rhys Robats at Richard Williams i achwyn. Brysiodd Richard Williams at y Fronolau. "Bili, Bili, rhag dy gywilydd. Beth yw peth fel hyn. Tyrd adre ar unwaith"—a throdd Bili yn wylaidd ac aeth adre'n dawel ar ôl rhwbio ei drwyn yn erbyn llaw Richard Williams. Nis gwn beth a wnaeth gŵr Fronolau iddo i greu'r elyniaeth, ond gwyddai Bili mae'n siwr ac nid anghofiai. O hyn allan bu'n rhaid i Richard Williams ofalu fod y ffordd yn glir i'r capel ac yn ôl bob Sul!
Gadawaf y cyfnod pell a dof yn nes i'r oes bresennol i sôn am y ci bach mwyaf hoffus, mwyaf ffyddlon a mwyaf deallus a welais erioed. I Lanrwst y perthyn hanes Taffy—ci bach melyn a du fu'n gyfaill imi am flynyddoedd. 'Roedd pawb yn ei adwaen ac yr oedd pawb yn hoff ohono. Os digwyddai i'r teulu fod allan a'r drws wedi ei gloi pan ddeuai Taffy adre, ar ôl crwydro hyd y caeau, eisteddai ar ganol y ffordd fawr i lefain dros yr ardal. Llawer tro y dywedodd cymdogion, "Clywais Taffy yn llefain yn chwerw amdanoch".
Ni ddeallais erioed pa un ai hoffi ai casau sŵn y piano a wnai Taffy. Hudai ni at y piano, yna eisteddai ar ei golyn i ddisgwyl, a'r foment y clywai sŵn yr offeryn codai ei drwyn i fyny a dechreuai udo. Ni symudai oddiyno tra y daliai'r chware. Buasai dyn yn taeru mai canu 'roedd nerth ei ben, ond, ow am sŵn ofnadwy a wnai!
'Roedd ganddo ei gyfeillion arbennig. Am amser 'roedd yn gyfeillgar iawn â gast o Blas Isa. Diddordeb mwyaf yr ast oedd hela. Bu cipar Plas Madog yn bygwth ei saethu lawer gwaith os na wnai ei pherchenog ei chadw'n rhwym. Fel yr oedd waethaf modd, hudai Taffy i hela gyda hi bob cyfle a gâi a byddai'n ddigon hawdd gweld oddiar gyflwr Taffy mae ef fyddai'n gwneud y gwaith butraf.
'Roedd yn gyfaill hefyd a chi du mawr y Queen's Hotel. Un diwrnod llwyddodd yr ast i hudo y ddau i gychwyn hela. 'Roedd fy ngŵr a minnau yn digwydd sefyll yn nrws y cefn yn edrych ar y tri'n cychwyn i fyny cae Penloyn i gyfeiriad coed Plas Madog, yr ast ar y blaen, y ci mawr a'r ci bach yn trotian y tu ôl. Yn sydyn safodd y ddau gi ar y cae, gan droi at ei gilydd, yn hollol fel pe baent yn ymgynghori a'i gilydd ac yn gofyn,
"Ydi o'n werth mynd"? 'Roedd yn amlwg i'r ddau benderfynu y cai'r ast fynd ei hunan os oedd am fynd i hela. Trodd y ddau ei hwyneb am gartre. Eisteddai yr ast ar y cae tra'r ymgomiai'r ddau. Pan welodd y ddau'n troi cefn arni, trodd hithau i'w dilyn, yn bendrist a'i chynffon rhwng ei choesau.
Sylwais fod y cyfeillgarwch wedi terfynu ac ni âi Taffy i hela gyda hi byth wedyn. Beth oedd y sgwrs rhwng y ddau gi, os gwn i?
'Roedd Taffy'n gyfaill mawr i hen fonheddwr yn byw mewn tŷ cyfagos Arferai'r bonheddwr fynd am dro i'r dre bob bore ar ôl brecwast. Galwai mewn amryw o dafarnau'r dre i gyfarch ei gyfeillion. Ai Taffy i'w ganlyn y rhan amlaf. Os digwyddai i'r hen frawd fynd heb Taffy, âi Taffy i'r dre ei hun, ac o dafarn i dafarn nes dod o hyd iddo. Byddai ei weld ar y daith yn destun hwyl yn y dre. Câi Taffy ginio dydd Sul gyda'r hen frawd a'i wraig. Ni wn sut y gwyddai Taffy mai y Sul oedd ond byddai yno i'r funud. Ar ôl cinio gorweddai'r gŵr ar y soffa a ryg trosto. Stwffiai Taffy ei hun o dan y ryg y tu cefn iddo. Deuai gartre amser te. 'Roedd fel pe bai ganddo "standing invitation"—ac ni cheisiai fynd yno ond ar y Sul. Ni fyddwn yn meddwl paratoi cinio Sul iddo.
Pan oedd y ddwy ferch yn ysgol y sîr, hoffent fynd ar dramp i'r wlad adeg y gwyliau, ac âi Taffy gyda'r ddwy bob amser. Un diwrnod aethant i fyny'r llechwedd i Nant Bwlchyrhaearn. Wedi cyrraedd i'r top penderfynodd y ddwy, yn hytrach na dychwelyd yr un ffordd, ddringo ochr y mynydd a thorri ar draws, trwy'r coed ac i lawr i ffordd Llanrhychwyn. Tybient na fuasai unrhyw anhawster. Cadwent Taffy ar y gadwyn rhag iddo ddiflannu i hela cwningod. Dyma gychwyn yn selog, ond nid mor hawdd y gorchwyl wedi'r cwbl. Nid oedd math of lwybr, a chyn pen hir cawsent eu bod wedi colli'r ffordd. Ni wyddent i ba gyfeiriad i droi wedi cyrraedd y copa. Cawsant eu hunain mewn llecyn gwâg heb ddim coed, dim ond tir glas, a thŷ mewn adfeilion yn y pen pellaf iddo. 'Roeddynt yn sefyll i geisio penderfynu pa ffordd i droi. Yn sydyn clywsant lais rhyfedd ac annaearol yn galw "I lawr, i lawr, i lawr". Meddylient mai rhywun oedd yn ceisio eu dychryn. Ond, nid oedd wyneb byw i'w weld, ac yr oedd distawrwydd llethol o gwmpas, dim nodyn un aderyn, dim chwa o wynt, dim sibrwd o fath yn y byd. Toc clywyd y llais rhyfedd eto yn gwaeddi, "I lawr, i lawr, i lawr"—ond y tro hyn yn nes atynt. Erbyn hyn 'roedd y ddwy mewn braw mawr, a gwrychyn Taffy yn syth i fyny, ac yntau yn crynu ac yn chwyrnu'n arw. Heb ddweud yr un gair y naill wrth y llall rhedodd y ddwy ar draws y lle glas ac i lawr i'r coed yr ochr arall i'r mynydd, a'r llais yn eu dilyn. Yn y man cawsant eu hunain o gyrraedd y llais ond ar fin clogwyn syth a dim na llwybr na lle y gallent fynd i lawr. Beth i'w wneud? dyna'r broblem fawr. 'Roedd wedi dechrau tywyllu, yn enwedig yn y coed, nid oedd ganddynt syniad i ba gyfeiriad i gychwyn ac ni feiddient droi'n ôl. "Toedd ond un peth i'w wneud—gosod y cyfrifoldeb ar Taffy. Gollyngwyd Taffy o'r gadwyn. "Dos a ni gartre Taffy bach", meddant, ac i ffwrdd ac ef ar unwaith, mor bryderus a hwythau i gyrraedd gartref. Gwthiodd drwy'r grug a'r rhedyn, y drain a'r mieri, a'r ddwy yn canlyn, i fyny ac i lawr, strim-stram-strellach. Ni hitient ddim fod eu dillad wedi rhwygo. Cyrraedd adre rhywsut oedd y peth pwysig. Os byddai Taffy wedi mynd tipyn o'u blaen, safai nes y deuent i'r golwg, yna i ffwrdd ac ef, ac o'r diwedd llwyddodd i'w harwain i ffordd Llanrhychwyn ac yn fuan i'r ffordd bôst. Ni fu erioed mor dda gan y tri gyrraedd adre a'r noson honno. Trannoeth, wrth adrodd yr hanes wrth wraig yn y dref, a adwaenent yn dda, gwraig pur wybodus a darllengar, yn fwy felly na'r cyffredin ond er hynny'n ofergoelus, synnent ei chlywed yn dweud, "Wyddoch chi ddim fod y lle y soniwch amdano yn lle ag ysbryd yn ei aflonyddu"? Ni fynnai'r genethod dderbyn y fath syniad: "O ydi", meddai'r wraig, "mae'n eitha gwir. 'Roedd tyddyn taclus yno ers talwm, ond ni allai neb fyw yno, 'roedd rhywbeth yn aflonyddu arnynt, fel pe bai yn benderfynol i'w gyrru oddi-yno, ac o'r diwedd gadawyd y tŷ ac aeth a'i ben iddo fel y mae yn awr".
Beth bynnag oedd esboniad yr hanes, nid yw'r ddwy wedi anghofio hyd heddiw y llais rhyfedd a'u dychrynodd gymaint, na'r modd yr arweiniodd Taffy hwynt i ddiogelwch.
Credai un o chwiorydd Mam y byddai yn bosibl i ddyn ymddangos mewn ffurf anifail. Caf son ymhellach am ei hofergoelion anhygoel, ond hawdd oedd ganddi hi gredu fod anifeiliaid yn rhesymu. Amdanaf fy hun, ni wn. Gadawaf i'r darllenydd roi ei farn ar y storïau â adroddais.
PENNOD XI
SEBON A SODA
PAN oeddwn yn eneth yn yr ysgol nid oedd sôn am laundry vans i alw o dŷ i dŷ yn casglu dillad i'w golchi. Buasai'r syniad yn un rhyfedd i ferched y cyfnod hwnnw. Gwnai y mwyafrif y gorchwyl o olchi gartref; os gallent fforddio talu caent ddynes i'r tŷ i olchi unwaith yr wythnos. Neu, byddai golchwraig yn casglu'r dillad i'w golchi yn ei chartref.
Cofiaf hen wraig yn Sir Fôn â ddeuai i'm tŷ un diwrnod yr wythnos—Margiad Jones oedd ei henw. Golchai glamp o olchiad yn gyntaf, yna glanhâi'r tŷ o'r top i'r gwaelod. Os y byddai'r dillad wedi sychu âi ati i smwddio'r cwbwl. Nid oedd sôn am overtime iddi hi. Cawn drafferth mawr i'w pherswadio i roi gorau i'r gwaith. Wrth gwrs, gwyddai y câi swper cyn mynd adre. Swllt y dydd, a'i bwyd, oedd y tâl, ac ystyrid hyn yn dâl sylweddol yr adeg honno.
Cofiaf hen olchwraig yn byw mewn llofft stabal yn iard Cae Melwr, Llanrwst. Bûm lawer gwaith, pan oeddwn yn eneth yn yr "Ysgol Britis" yn nhŷ'r hen wraig yn ceisio pac dillad glân yr ysgolfeistres. Cofiaf y byddai grisiau cerrig hir y tu allan, yn arwain i'w chartref, a chofiaf mai ystafell hir oedd y llofft, a gwely yn y pen draw. Tybiwn ei fod yn gartref hynod o gysurus a glân. Ond y peth a dynnai fy sylw fwyaf oedd ei dull o dwymo'r heyrn smwddio. Gwyddwn mai o flaen y tân y twymai Mam yr heyrn. Ond nid felly hen wraig Cae Melwr. Rhoddai getal haearn a gwaelod lydan iddo ar dân gwresog. Yna dodai'r heyrn ar waelod y cetal. Byddent felly yn dal lân. Ni welais neb arall yn defnyddio'r dull yma. Cofiaf fel y cawn ganddi afal mawr coch bob amser, yn dâl am fynd i nôl y pac dillad.
Adwaenwn olchwraig arall o'r enw Margiad Ifans. Cymerai hi y dillad i'w thŷ i'w golchi ac ystyriai ei hun o'r herwydd radd yn uwch na'r merched a âi i'r tai i olchi wrth y dydd. Naw ceiniog y dwsin oedd pris Margiad Ifans, beth bynnag fyddai maint y dilledyn, coler neu grys, neu gynfas. Bywiai mewn tŷ bychan ar ochr y ffordd—tŷ a pharlwr bach yn y ffrynt, cegin y tu ôl a lle bychan, prin ddigon i chwipio cath ynddo, y tu ôl i ddrws y gegin. Dyma lle y golchai'r cwbwl. Rhaid fyddai gadael y drws yn agored haf a gaeaf er cael lle i'r twb golchi. Y peth mwyaf pwysig yng ngolwg Margiad Ifans oedd "tywydd sychu". Pe buasech yn ei chyfarch "Dydd da Margiad Ifans, mae'n ddiwrnod braf heddiw". "Ydi mae'n dywydd ardderchog i sychu" fyddai'r ateb.
Gweithiai hi a'r ferch Mari yn galed iawn o fore dydd Llun hyd nos Sadwrn. Ond ar y Sul cai'r twb golchi a'r heyrn smwddio lonydd ac âi Margiad i'r capel yn selog bob bore Sul. "Dydw i ddim yn eich deall, Margiad Ifans", meddai un wraig wrthi un diwrnod, "dyma chi'n gweithio'n galed ar hyd yr wythnos ac eto codwch yn fore i fynd i'r capel fore Sul yn lle aros gartre i orffwys tipyn". "Wel ia ynte", meddai Margiad, "ond i chi ddeall, dim ond yn y capel y caf gyfle i orffwys".
'Roedd golwg heini, llyfndew ar Dafydd, gŵr Margiad Ifans, ond ni allai weithio oherwydd y "riwmatics". Ni allai blygu ei goesau a phwysai'n drwm ar ddwy ffon wrth gerdded. Dwedai Margiad y gallasai Dafydd fod wedi dal ati yn hwy nag y gwnaeth, ond yn wir credaf i Dafydd gael bywyd rhy gyfforddus, a'i wraig a'i ferch yn tendio arno. Gwelais ef lawer gwaith ar ddiwrnod o haf yn sefyll a'i gefn ar wal y ffordd fawr, a'i law fel crafanc yn barod i dderbyn ychydig o geiniogau gan hwn a'r llall, at brynu baco. Ni fu gennyf amynedd ag ef; dyn nad oedd yn meddwl am ddim ond ei gysur ei hun.
Ar fwrdd wrth y ffenestr ym mharlwr y ffrynt y gwnai Margiad Ifans y smwddio, a chan fod y tŷ ar ochr ffordd gwelai pawb âi heibio. "Lle y mae o'n mynd yn edrych mor spriws, tybed", meddai wrth Mari; "hwyrach ei fod yn mynd i gyfarfod hon a hon". Neu "Os gwn i ble mae hi yn hêl ei thraed heddiw". Nid oedd ynddi falais o gwbwl, ond teimlai ddiddordeb ym mywyd pawb o'i chwmpas. 'Roedd amgylchiadau ei bywyd hi mor llwm fel yr hoffai weld lliw ac amrywiaeth lle y gallai. 'Roedd yn naturiol, felly, gan yr âi gymaint i dai i ddanfon dillad ac i'w nhôl, iddi wybod hanes pawb mor dda. Pan ddeuai i'n tŷ ni gyda'r dillad glân, gwyddwn wrth y ffordd bendant y gosodai'r fasged ddillad i lawr pan fyddai ganddi stori bwysig. Gwyddwn hefyd y buasai'n siomedigaeth ddirfawr iddi os byddwn wedi clywed y stori eisoes. Dyma fel y dechreuai bob amser, "Glywsoch chi am hon a hon, neu hwn a hwn"? Ysgydwn innau mhen. "Wel wir", meddai, "mae'n dew ac yn dene gan bawb". Yna adroddai'r stori—ambell dro byddai'r stori'n bur gynhyrfus—a diweddai'r sgwrs bob amser gan daro ei llaw ar ben fy nglin, "Ond, ddynes annwyl, peidiwch a'm henwi i".
Un diwrnod 'roedd mewn mwy o frys nac arfer pan ddaeth a'r golchi yn ôl. "Beth ydi'r brys Margiad Ifans"? "Wiw imi ymdroi heddiw, mae Dafydd yn ei wely". "Ydio'n sâl", gofynnais. "Na, 'toes fawr helynt arno a dweud y gwir, wedi ffraco a Mari y mae. 'Roedd Mari'n glanhau'r gegin, ac yr Dafydd o dan ei thraed. 'Roedd Mari eisio iddo 'molchi. 'Roedd cyn ddued a'r gloyn. Na wnai ef yn wir. 'Roedd wedi molchi'n lân ddoe. "Toedd dim eisia 'molchi eto heddiw. Aeth yn ffrae benben ac aeth Dafydd allan wedi pwdu. 'Roedd ef am fynd i'r wercws, câi lonydd yno, siawns. Aeth i eistedd allan ar y cerrig, a chafodd oerfel i'w goesau ac yn ei wely y mac. Mae'n dweud nad oes arno eisiau bwyd, ond 'rydym yn dal i gario iddo ac mae'r cwbwl yn mynd o'r golwg i rhywle".
Sylwais ers tro fod ganddi hen beswch cas. "Toedd ryfedd yn wir. Ar dywydd gwlyb crogai y dillad gwlyb uwchben i sychu. "Mae peswch garw arnoch Margiad Ifans", dwedais wrthi. "Ddynes bach", meddai, "pe clywsech fi'n pesychu ac yn fflemsio yn y bore mi ddychrynnech". Bu'r dillad gwlyb a'r peswch yn ormod iddi a bu farw flynyddoedd o flaen Dafydd Ifans.
Beth feddyliai hen wraig Cae Melwr, Margiad Jones a Margiad Ifans a llawer golchwraig o'r un cyfnod, pe buasent yn dod yn ôl am dro i'r hen wlad? Synnent weld y gwelliannau lawer sydd wedi lleihau gwaith merched—y mashin olchi, yr heyrn smwddio wedi eu twymo â thrydan, heb sôn am y gwahanol bowdrau golchi, pob un yn honni bod yn well na'r llall. Yn wir nid oes angen rhwbio heddiw ar ddillad, dim ond ei gadael i fwydo tipyn. Mae'r baw fel pe bai'n disgyn ohonynt. Ni wyddai golchwraig yn amser fy ieuenctid am ddim ond sebon a soda at olchi. Byddai dwylo ambell olchwraig yn agennau o ddefnyddio llawer o soda. 'Roedd golchi yn waith wir galed yr adeg honno. Meddylier am y dillad heb sôn am y sebon a'r soda, y ddoli bren fawr a'r pren scwrio. Byddai dillad isaf un ferch yr adeg honno bron yn ddigon i lenwi lein ddillad! Coban o galico gwyn, a honno'n wisg hir, a llewys at y garddwrn; crys a throwsus—pais o galico gwyn, a border lydan o lês; peisiau gwlanen a phais wen o galico neu lian main wedi ei haddurno â lês. Cofiaf glywed Margiad Ifans yn dweud wrthyf: "Ddynes annwyl, pe gwelech y bais wen grand fum yn olchi ac yn yn startsio heddiw i hon a hon. 'Roedd yn fflownses ac yn lês i gyd. Os gwn i dalodd hi am dani eto". Erbyn heddiw ni chofia neb na pherthyn i'r un oes a mi, am goban a chrys o galico, a'r peisiau gwynion llaes a llydan. Oes y sidan, y reon a'r neilon yw, pan all merch gario y cwbwl o'i dillad isa mewn handbag. Nid oes angen heddiw am y sebon a'r soda a'r nerth bôn braich fyddai'r tair elfen anhebgor mewn golchi. Erys rhinwedd y bag lliw glas o hyd, ac yn rhyfedd iawn erys ei rinwedd meddygol. Gwelais wraig ifanc y dydd o'r blaen yn rhedeg am liw glas at golyn gwenynen yn union fel y gwnai Nain dros 80 mlynedd yn ôl. Yn wir, gwelir heddiw fod mwy o synnwyr mewn rhai o foddion hen wragedd yr oes a fu nac a dybiwyd. 'Roedd ganddynt wybodaeth helaeth o rinweddau llysiau a dibynnent ar y moddion wrth law. Ni feddylient am feddyg ond mewn gwaeledd mawr, neu enedigaeth. Ac ychydig a fynychent ar siop y druggist. Cofiaf fel y byddai Mam, pan fyddai annwyd ar un ohonom, yn gwneud "te dail rheidiol" inni. Llysieuyn oedd â deilen fechan gron, ac arogl swynol arni. Llawer gwaith y bum yn hel dail rheidiol i Mam. Byddai digon i'w cael yng nghlawdd Cae Penloyn. Mwydai'r dail mewn dŵr berwedig a chawn ddrachtiad ohono yn awr ac yn y man. Gwnâi de hâd llin yn ogystal, ac os byddai eisiau ein cryfhau ar ôl sâlwch, berwai'r hâd llin mewn llefrith. Tybiaf y cymerai hwn le y cod liver oil ddaeth i fri yn ddiweddarach. Os dolur gwddf fyddai arnom, rhoddai saim gwydd, neu os na fyddai saim gwydd ar gael, gwnai sleisan o gig moch bras y tro, rhwng darn o wlanen (yn ffodus nid oedd dogni) o amgylch y gwddf. Gwell fyddai i'r wlanen fod yn goch. 'Roedd ffydd mawr mewn gwlanen goch. Credid fod rhinwedd neilltuol yn y lliw.
Cofiaf am un hen wraig fyddai'n hynod am drin llawer anhwyldeb. Byddai llawer o gyrchu ati. 'Roedd llawer yn dioddef gan yr anhwylder anolygus hwnnw—crach neu graminen yn y pen, a dyma feddyginiaeth yr hen wraig. Gwnai math o gap i ffitio'r pen, o ddail bresych a ffunen arno i'w gadw mewn lle. Newidiai'r dail fel y byddai angen. 'Roedd, meddai, rhyw rinwedd yn y dail a sugnai'r drwg allan o'r pen a gwella'r crach. Ac yn wir, byddai'r driniaeth am ryw reswm yn llwyddiant fel rheol.
Byddai llawer o blant, ac yn wir, o bobl ifanc, a "defaid" ar ei dwylo. Edrychai dwylo ambell un yn anolygus dros ben, a dafaden bron ar bob bys. Byddai pob math o gyngor sut i gael ymwared â'r aflwydd. Un cyngor a glywais oedd hwn rhaid oedd mynd i gae lle 'roedd biswail ar ôl y gwartheg i'w gael. Ar ôl cawod o wlaw, cronnai'r dŵr yn y biswail. Yna golchi'r ddafaden a'r dŵr.
Adwaenwn wraig ifanc bur falch a gâi ei phoeni gan "ddefaid" ar ei llaw. 'Roedd wedi treio pob meddyginiaeth heb lwyddiant. Penderfynnodd ofyn cyngor hen wraig a honnai allu gwella y drwg. Dyma'r cyngor a gafodd. 'Roedd i chwilio am falwen ddu gyda'r nos, yna i rwbio'r falwen ym mhob dafaden nes byddai pob un wedi ei gorchuddio a llysnafedd y falwen. Ac yn olaf, i chwilio am ddraenan ddu yn y clawdd a gwthio pigyn y ddraenan drwy'r falwen a'i gadael, y truan, yno i drengu. Nid oedd y wraig ifanc i sôn wrth neb lle y rhoddai y falwen—'roedd dirgelwch yn rhan bwysig o'r drefn. Cariodd y wraig ifanc yr holl gyngor allan yn ofalus i'r llythyren. Yna anghofiodd amdano. Ymhen ychydig digwyddodd edrych ar ei llaw. Er ei syndod 'roedd pob dafaden wedi diflannu'n llwyr ac nid oedd ganddi sŷniad pryd y diflannodd y drwg. Hoffwn wybod pam y bu iddynt ddiflannu. Cyd—ddigwyddiad mae'n siwr, ond credai llawer iawn yn nhriniaeth yr hen wraig ac yr oedd llawer yn barod i gydnabod llwyddiant y driniaeth. Ni welaf ond yn anaml heddiw blant yn dioddef felly. Hwyrach mai diffyg trin y corff â sebon a soda oedd yn gyfrifol am y crach, y "defaid" a'r frech wen, sydd heddiw wedi diflannu bron yn llwyr. Rhyfedd fel y daw clefydau newydd neu rhyw aflwydd newydd, i lanw'r bwlch o hyd ond nid oes lle heddiw i'r wraig hysbys. Heddiw mae gan bawb ei rif ar restr meddyg, a cheir tocyn meddygyniaeth i'w gyflwyno i'r siop drugist.
O sôn am restr daw i'm meddwl yr anhawster mawr a gefais i a llawer o'r un ardal a mi, oherwydd diofalwch y meddyg. Rhyw dro ar ôl marwolaeth Mam, pan oeddwn wedi ymadael i'r Garn, bu'n ofynnol i mi gael tystysgrif genedigaeth. Mawr oedd ein syndod i gael ar ddeall gan gofrestrydd Llanrwst nad oedd fy enw ar y rhestr. Er chwilio yn Somerset House, nid oeddwn, cyn belled ac yr oedd y rhestr genedigaeth yn y cwestiwn, mewn bod o gwbwl! Eglurodd y cofrestrydd fod llawer o'r un oed a mi yn yr un sefyllfa ac am yr un rheswm. Yn aml arferai y doctor—Doctor Hughes Bont Bach,—ymgymeryd â'r cofrestru. Rhoddid y manylion iddo ar ddarn o bapur ac âi yntau a'r papur i'r cofrestrydd. Ond, yn aml âi ar dipyn o sbri a meddwai'n chwil, ac anghofiai'r papur a'r cofrestru. I mi yn unig, o'r 7 plentyn, y digwyddodd y fath anffawd. A dyna fi, heb fodolaeth swyddogol! Pe bâi Mam yn fyw buasai'n gwybod y dyddiad a'r flwyddyn, ond 'roedd wedi marw. 'Roedd yr hen fydwraig a'm dygodd i'r byd wedi marw. Gwyddem fod fy mrawd Bob yn hŷn o ddwy flynedd na mi; gwyddem fod William ddwy flynedd yn iau na mi, felly hawdd oedd sefydlu blwyddyn fy ngenedigaeth. Ond nid oedd hyn yn ddigon i bwrpas swyddogol. Bu affidavits gan John a chan gymydoges â wyddai fy mod wedi'm geni yr un mis a'i merch, ond, nid oedd yn ddigon. Yn sydyn, cawsom hyd i hen Feibl mawr teuluaidd, ac ar y ddalen gyntaf, restr o enwau'r teulu i gyd a dyddiad genedigaeth pob un. Derbyniwyd y dystiolaeth, a dyma fu ar hyd fy oes fy nghystysgrif genedigaeth swyddogol—dalen o'r Beibl Mawr. Ymfalchiaf yn y fath dystysgrif.
Dwg ar gof imi stori a glywais gan fy nhad, am lanc ifanc o'r ardal yn hwylio i briodi. 'Roedd eisiau cyhoeddi'r "stegion" (gostegion) yn eglwys y plwyf dair milltir o bellter o'r tŷ. Nid oedd gan y llanc hamdden i fynd a'r manylion i'r Person. Gofynnodd i hen gyfaill a elwid "yr hen gipar" a fuasai'n mynd a'r manylion. Cytunodd ar unwaith. Rhoddodd y papur a'r manylion arno yn ei boced. Cyn cychwyn newidiodd ei siwt ac i ffwrdd ag ef ar ei neges. Pan gyraeddodd dŷ'r Person, gwelodd ei fod wedi gadael y papur ym mhoced yr hen siwt. Gallai gofio'r manylion am y llanc ond ni allai yn ei fyw gofio dim am y ferch ifanc, a meddai wrth y Person, "Rhowch ryw enw arni, mae hi'n siwr o ddod".
Bu llawer gwelliant erbyn heddiw ar bob llaw. Meddyliaf fel y byddai meddyg, mewn ffroc côt a het silc bob amser, yn dod yn syth at wely'r claf, o'i gerbyd heb feddwl golchi ei ddwylo yn gyntaf, ac fel y byddai clefydau'n gwau drwy ardal, o ddiffyg glendid yn aml—diffyg sebon a soda! Eto, nid drwg oedd y cyfan ddoe ac nid da y cyfan heddiw. Byddai'r meddyg yn gyfaill i'r teulu, yn gwybod am ei holl amgylchiadau ac yn barod i roi cysur a chyngor. Gresyn fyddai inni golli'r cyfeillgarwch yn y drefn newydd. Gresyn hefyd fyddai inni golli hanes hen feddyginiaethau—rhai ohonynt yn hen iawn ac yn llawn diddordeb i'r hanesydd. Darfu erbyn heddiw am y gwaith caled fu'n faich ar wragedd cyhyd. Symudodd mwy a mwy o'r gwaith o'u dwylo i'r ffatri a'r siop, a'r laundry. Tybed hamdden ganddynt i gasglu'r hen feddyginiaethau, cyn i'm cenedlaeth i fynd heibio o'r golwg. Mae tipyn ohonom yn aros o hyd—o oes y Sebon a'r Soda!
PENNOD XII
BREUDDWYDION
PEDWAR UGAIN mlynedd yn ôl trigai llawer o'r un genhedlaeth a fy nain mewn cymysgfa feddyliol ryfedd, o freuddwydion ag argoelion, o dylwyth-teg, a choblynod ac ysbrydion, er gwaethaf dylanwadau eglwys a chapel. Dyna oedd byd un chwaer i Mam, a byd Nain, mam fy nhad. I ni'r plant byddai llawer o'r coelion yn chwerthinllyd. Eto, heddiw, cydnabyddwn nad yw y llinell derfyn rhwng breuddwyd a gwirionedd mor eglur ag y tybiem. Cydnabyddwn ymhellach, nad yw'r cyfan ond cymysgfa o "folk-memory" a rhywbeth nas gŵyr gwyddoniaeth yn iawn sut i'w ddehongli, ai fel rhywbeth a berthyn i delepathy, neu i psycho-analysis. Ym myd y psycho-analyst ceir y breuddwyd unwaith eto mewn bri. Hwyrach fod rhyw linyn tenau, aur, o wirionedd yn guddiedig ynghanol hen storiau'r oes a fu.
Mor ddirmygus y buasai'm cenhedlaeth i, 80 mlynedd yn ôl, o'r sawl a feiddiai broffwydo y clywid llais rhyw ddydd ac y gwelid darlun yn cyrraedd ar draws y byd mewn fflachiad. Ni fuasai i ni ond breuddwyd ynfyd. Credem fod rhyw goll yn "Robin Hen Law", chwarelwr cyffredin na allai ddarllen, am y rheswm y daliai'n gadarn nad yw'r geiriau â siaradwn yn darfod ar ôl i'r llais ddistewi. Fel y dwedai wrth Nhad, "Mae'r geiriau i gyd yn casglu mewn rhyw le mawr gwâg a dyna lle y maent yn gwau trwy'u gilydd, fel brain, am dragwyddoldeb". Hawdd fuasai i Robin gredu proffwydoliaeth am ddyfod y radio. 'Roedd yn nes at y gwirionedd nac yr oeddem ni wedi'r cwbwl.
Soniais am un fodryb, chwaer i Mam, ac am Nain. Cymerai nodweddion coel pob un o'r ddwy gyfeiriad gwahanol. Symudai meddwl Nain i gyfeiriad y tylwyth teg, y coblynod, a'r gwrachod, ac nid oedd modd ei argyhoeddi (er iddi fod yn Wesla selog iawn). Os gofynnai un ohonom ni'r plant iddi pam nad ymddangosant yn ein hoes ni, dwedai gyda phob arddeliad y byddant yn mudo fel y gôg a'r wennol ac y byddent byw am rai blynyddoedd ar y tir, am rai blynyddoedd yn yr awyr ac am rai blynyddoedd yn y môr. Byddai rhif pob cyfnod yn fesur o saith.
'Roedd ganddi wybodaeth hynod am seryddiaeth. Rhoddai enw Cymraeg ar y cydsêr i gyd. Ni chofiaf ond dau enw—llathan fair, a thri-throed-trybadd.
Gwahanol iawn oedd Modryb Ann. Credai hi mewn ysbrydion, mewn codi cythreuliaid, yn ogystal a chredu mewn gwrachod. Clywais fy mrawd Bob a'm brawd Richard yn dweud mai profiad cynhyrfus fyddai cerdded liw'r nos gyda Modryb o Faenan i Bontygath. Byddai un man ar ôl y llall ar y ffordd yn fangre i ryw ysbryd neu gilydd, ac yr oedd yn rhaid iddynt ddistewi a cherdded yn ofalus rhag poeni'r ysbryd. Ar hyd y ffordd adroddai hanes yr ysbrydion; honnai fod wedi gweld llawer ohonynt neu wedi eu clywed "a'm llygaid ac a'm clust fy hun". Byddai un ysbryd ar geffyl a'i gŵn hela gydag ef. Dwedai ei fod lawer gwaith wedi eu clywed yn chwyrlio heibio iddi ar y ffordd yn hwyr y nos. 'Roedd atgof o hanes Cwn Annwn yn ei stori, ac mewn stori arall ceid atgof o hanes Gwrach y Rhibyn. Dwedai un stori am ysbryd "Giât Wen Maenan". Bu, meddai, yn yr hen amser, i sgweiar Maenan ladd y gwas bach trwy ei daro mewn tymer, a chladdodd y corff liw nos yn ddirgel. Ymddangosai ysbryd y gwas mewn ffurf anifeiliaid, gan newid o un i'r llall. Weithiau fel mul, yna fel llo, neu fel mochyn, ac yn diweddu pob amser fel cath ddu a'r gath yn diflannu bob amser mewn fflach o dân. Dwedai fod llawer wedi gweld yr ysbryd a'r cyfnewidiadau; rhai wedi marw o ddychryn, eraill wedi mynd yn wael iawn. Dwedai fod rhyw hen ôf wedi dod wyneb yn wyneb a'r ysbryd yn y ffurf o fochyn ac wedi galw arno fel hyn—
"Dos yn dy ôl ti ddiawl di-lun A newid dy fuchedd fochyn".
Ac wrth gwrs diflannodd y mochyn! Dwedai Modryb, pe bai "gŵr cyfarwydd" wedi bod ar gael ar y pryd, buasai wedi gorfodi'r ysbryd i ymddangos fel y gwas bach a datguddio'i gyfrinach.
Credai Modryb yn gadarn yng ngallu y "dyn cyfarwydd", a chredai y gallai godi cythreuliaid. Dwedai y byddai llyfr arbennig gan bob "dyn cyfarwydd", i'r pwrpas. Byddai llawer o'r llyfrau ar gael ar un adeg meddai, a byddai codi cythreuliaid yn un o ddiddordebau'r ardal. Un waith, meddai, anfonwyd gwas bach i 'mofyn benthyg llyfr codi cythreuliaid. Siarswyd ef i beidio, ar gyfrif yn y byd, agor y llyfr. Ar ôl aros ei ddychweliad am amser, aeth dau neu dri o'r llanciau i'w gyfarfod. Cawsant y gwas bach mewn cae cyfagos, ynghanol llu o goblynod. 'Roedd y gwas bach, ar ôl agor a darllen y llyfr, wedi galw ar y coblynod i ymddangos. Wedi iddynt ymddangos 'roedd yn ofynnol iddo ateb ei cwestiwn, "Beth a wnawn"? neu byddent yn ymosod arno. 'Roedd y gwas bach newydd ateb "paffiwch", ond cyn i ddim niwed ddigwydd, daeth y "gŵr cyfarwydd".
Dyma stori arall debyg. Ymgymerodd rhyw ddyn a chlirio cae yn llawn drain ac eithin mewn diwrnod. Addawodd ffarmwr oedd yn berchen y tir ei dalu'n hael. Daeth morwyn fach y ffarm a brecwast iddo i'r cae. Yna'r eisteddai y dyn, heb unrhyw arwydd gwaith o'i gwmpas. Daeth amser cinio a chafodd y forwyn fach ef yn yr un fan yn union, heb iddo fod wedi symud bys. Penderfynodd y ffarmwr fynd a'i de iddo ei hunan er mwyn gweld pa faint o waith oedd yn ofynnol cyn i'r dyn orffen. Pan gyrhaeddodd y cae, er ei fraw, gwelodd fod y cae yn llawn o goblynnod bach wrthi'n brysur, yn codi ac yn tynnu'r drain a'r eithin a'u gosod yn un twmpath mawr. Pan ddaeth y ffarmwr i'r cae trodd y twmpath yn fflamau coch heb neb yn ei gyffwrdd, a diflannodd y coblynnod. Diwedd y stori fyddai "Mae'n reit wir, mae llecyn du ar y cae hyd heddiw, yn y fan lle y bu'r goelcerth".
Cefais stori dda gan Richard fy mrawd am "ŵr cyfarwydd". Yn agos i Ysbyty Ifan, 'roedd hen wraig yn byw ar ffarm ar ei phen ei hun. Bu farw ei gŵr flynyddoedd yn gynt, a chollodd ei mab pan yr oedd ef yn weddol ifanc. Credai mai gŵr cyfarwydd oedd y mab pan oedd yn fyw. 'Roedd ei lyfrau ganddi, meddai, mewn cist fawr—llyfrau codi cythreuliaid. Byddai y mab yn darllen y llyfrau hyd oriau mân y bore. Ceisiodd cyfaill Richard gael cip olwg ar y llyfrau. Gwrthododd yr hen wraig am beth amser am ei bod yn beryglus edrych arnynt, ond o'r diwedd, gadawodd iddo agor y gist a darllen y llyfrau. I'w fawr syndod cafodd mai llyfrau Lladin a Saesneg oeddynt i gyd, ac i gyd ar ddiwinyddiaeth. Ymddengys fod y llanc a'i fryd ar fynd yn Berson, a dyna bwrpas y llyfrau ac nid codi cythreuliaid!
Gwahaniaethai Modryb rhwng "witsio" gan hen wraig i rwystro'r llaeth rhag corddi neu'r uwd rhag berwi ac felly yn y blaen, a'r "witsio" fyddai'n effeithio ar berson dyn. Credai y gallai dyn gyflwyno malais a chenfigen yn erbyn un arall, a'i niweidio, weithiau hyd angau. Credai'n gadarn mewn "ysbryd dyn byw"—ysbryd dyn yn symud o'i gorff er dylanwadu ar ddyn arall, neu i gyfleu neges i rywun. Dyma enghraifft a roddai o "ysbryd dyn byw" yn cyflwyno neges iddi.
Aeth ei gŵr, John Price, i Awstralia i'r gwaith aur yn Ballarat i geisio gwneud ei ffortiwn. 'Roedd Modryb i'w ddilyn os byddai'n llwyddiannus. Rhyw ddiwrnod bu ffrae rhwng dau o'r gweithwyr, rhuthrodd un i'r efail lle y gweithiai John Price, cipiodd far o haearn a tharawodd y llall a'i ladd. Ffôdd John Price am ei fywyd rhag iddo gael ei feio. Breuddwydiodd Modryb Ann yr hanes i gyd, ac yn ôl llythyr a gafodd gan John Price, daeth y breuddwyd yr un adeg a bu digwydd yr anffawd. Felly, meddai Modryb, "ysbryd" John Price ddaeth a'r neges iddi. Byddai ganddi lawer stori gyffelyb i ddangos fel y clywodd ei Nain yn galw arni pan yr oedd yn wael mewn ardal bell oddiyno.
Credai y byddai ei mam-yng-nghyfraith yn deisyfu drwg iddi hi a'i theulu ac felly y byddai'n effeithio ar eu hiechyd. Dwedai Nain "os na fydd da rhwng dyn a'i deulu'nghyfraith, rhaid fod lladd wedi bod rhyngddynt mewn rhyw oes". 'Roedd ar Modryb ofn gallu ei mam-yng-nghyfraith. Gwyddeles oedd yr hen Mrs. Price, a dwedyd iddi gadw cysylltiad agos â sipsiwn yr ardal. Modd bynnag, cymaint ei hofn gan modryb fel yr aeth un tro i ymofyn cyngor gŵr cyfarwydd o'r enw "Cil-haul", yr holl ffordd i Gaernarfon, a chafodd ganddo rhyw recipe a rhigwm. I gymysgu'r moddion 'roedd yn ofynnol cael dŵr o ffynnon a'i gofer i'r dde.
Rhyw ddeugain mlynedd yn ôl cefais gopi o recipe i "ddad-witsio cattal" wedi ei gael mewn hen Feibl yn agos i Lanarmon. Dyma yn union fel yr ysgrifennwyd ef yn y Beibl.
"Cymerwch ddail
bellemy a dail
Cribau saint ffraid
a risgl pren celun
a'i berwi mewn dwfr ffynnon a'i
gwyneb i'r de a chodi
y dwfr cun i'r haul
godi y boreu a bathio
eich anifeiliaid i gud
trostunt dair gwaith
yn enw yr holl
alluog a'i roi yn ei
boliau lawer gwaith
a roi halen ynddo
i'w ferwi a dal yr
halen o tan ei
ffroenau cyn ei ferwi".
Ffynnon a'i hwyneb i'r de a gawn yma, ond ffynnon a'i gofer i'r de fyddai'n ofynnol bob amser yng nghoelion cefn gwlad dyffryn Conwy.
Flynyddoedd yn ôl, o leiaf ddeugain, wrth sôn am yr hen amser a hen draddodiadau dyffryn Conwy cefais gan fy mrawd Richard oleuni ar ystyr llawer i hen ddywediad, a choel a thraddodiad. Trodd yr hanes, wrth gwrs, o gylch Nain Tŷ Newydd, a chlywais ganddo syniadau tarawiadol, i mi beth bynnag. Pan oeddem yn blant 'roedd traddodiad yn Nhrefaenan am "Grŷr Cwm Cowlyd". Os gwelai Nain grŷr yn ehedeg ar ei daith araf, unig, urddasol i gyfeiriad Cwm Cowlyd, dwedai: "Cawn wlaw yfory, mae'r crŷr ar ei ffordd i agor Llyn Cowlyd". Os y gwelai'r crŷr yn ehedeg o gyfeiriad y Cwm, 'roedd yn dychwelyd o "gau" y llyn. A dyma ddywedodd Richard—"os gwn a oes rhyw berthynas rhwng yr aderyn a dylluan Cwm Cowlyd y ceir sôn amdano ym Mabinogi Cilhwch ac Olwen"? Tybiai weld cysylltiad rhwng geiriau'r dylluan a hen draddodiad Dyffryn Conwy. Dywed y dylluan i'r dyffryn eang is law Cwm Cowlyd fod yn goediog i gyd, ac i rhyw genedl o ddynion ddifa'r coed. Hen draddodiad Dyffryn Conwy pan oeddem yn blant oedd, fod y dyffryn yn yr hen amser yn goed i gyd, ond i'r Prydeinwyr cynnar eu difa yn ystod eu rhyfeloedd. Prentis o ôf oedd Richard pan oedd yn llanc ifanc, a chofiodd fel y byddai'n rhaid gwneud swch pob aradr a dannedd pob oged i stad yr Abbey ar dir Maenan yn arbennig o gryf gan fod haenau o fonion a gwreiddiau coed o dan y pridd. Gwelodd Richard aml i swch yn dod yn ôl i'r efail o'r Abbey wedi ei throi ymhob siap gan y bonion, a gwelodd droliau'n cario llwythi o'r bonion o'r caeau.
Er i mi berthyn i oes yn llawn ofergoelion oedd yn dal i reoli bywyd llawer o drigolion ardal wledig Dyffryn Conwy, bu dylanwad fy mam yn ddigon i droi ein meddwl ni fel plant i gyfeiriad gwahanol iawn. Er i ni fwynhau y storiau a'r traddodiadau, a'r amryw goelion, diddordeb hanes oeddynt a dim mwy. Eto, brithwyd fy mywyd i fy hunan â llawer breuddwyd cyffelyb i freuddwyd Modryb am John Price. Cefais innau "neges" fwy nac unwaith, mewn argyfwng, a'm galwodd adref. Pan oedd William fy mrawd ar ei ffordd gartref ar fordaith o Australia, deffrodd yn sydyn wedi breuddwydio fod fy machgen pedair a hanner blwydd oed yn sefyll wrth ei wely. 'Roedd William yn hoff iawn o Ritchie ac yn edrych ymlaen at ei weld. Ond, ar ôl y breuddwyd, gwyddai fod rhywbeth wedi digwydd iddo, ac ni synodd wybod ar ôl glanio ei fod wedi marw. Ni synodd chwaith wybod ei fod wedi deffro o'r breuddwyd adeg ei farwolaeth i'r funud. Credodd William ar hyd ei oes, fod Ritchie wedi dod ato i ddweud ffarwel.
Cofiaf am un breuddwyd doniol, er nad oedd yn ddoniol yn fy nhyb i ar y pryd. Pan oeddwn yn 15 oed cefais anrheg o ddwy freichled. Rhai digon rhad oeddynt, ond i mi 'roeddent yn werth y byd. Nid oeddwn erioed o'r blaen wedi meddiannu ar freichled. Math o jet oedd y defnydd, a chameo gwyn ar y canol. Un noson gosodais y ddwy ar gadair wrth ochr y gwely. Breuddwydiais fy mod wedi codi yn y boreu, eistedd ar y gadair, a malu'r ddwy freichled yn deilchion. Pan ddeffroais yn y boreu, 'roeddwn wedi anghofio'r breuddwyd. Codais, eisteddais ar y gadair a malais y ddwy freichled yn deilchion, ac fel yr oeddwn yn eistedd cofiais y breuddwyd!
Dywedodd rhywun wrthyf yn ddiweddar fod nai iddo wedi bod tan law psychoanalyst, ac mai rhan bwysig o'r driniaeth oedd adrodd ei freuddwydion bob bore ar ôl deffro. Buasai Nain a Modryb Ann yn deall y driniaeth—chwerthin yn ddirmygus a fuasai Mam. Ond beth yw breuddwyd wedi'r cyfan? Ai mewn cwsg yn unig y daw breuddwyd? Onid "breuddwydio ar ddihun" a ddaeth ac addurniadau coethaf bywyd inni? Fel yr edrychaf yn ôl ar hyd y blynyddoedd, i'r man lle safais i edrych yn ôl ymhellach fyth trwy lygaid fy Nain a'i chenhedlaeth, sylweddolaf fwy-fwy nad oes bywyd rhydd heb freuddwydion ac mai colled enfawr i unrhyw genedl yw anghofio ystyr hen ofergoelion. Dwedir heddiw, gan rai, na ddylid adrodd storiau tylwyth teg i blant. Wel—diddorol yw cofnodi nad oes le i'r tylwyth teg nac i freuddwydio mewn unrhyw drefn dotalitaraidd!
PENNOD XIII
SION CATRIN
ROEDD yn nhref Llanrwst, fel mewn aml hen dref o'r fath flynyddoedd yn ôl, lawer o gymeriadau hynod, yn enwedig yn Heol Scotland, slym y dref, rhai wedi dod yno o ardaloedd eraill, a llawer wedi eu geni a'u magu yno. 'Roedd crwydro'r wlad a chardota yn beth cyffredin iawn. Crwydrai rhai'r wlad heb angen o gwbl—crwydro am mai dyma'r ffordd o fyw a oedd wrth eu bodd. Crwydryn o'r fath oedd Sion Catrin. Hyd y cofiaf brodor wedi ei eni a'i fagu yn y dref oedd. Cerddai ffermydd y wlad a chai ddigon o fwyd ymhobman. Ni buasai Sion yn hapus o gwbl o dan drefniadau y Welfare State. Yr oedd crwydro yn ei waed ac yr oedd pawb yn barod i'w helpu. Gofalai siopwyr y dref am siwt i Sion pan fyddai angen, ac os oedd Sion yn gymeriad od, yr oedd ei wisg hefyd yn od. Byddai'n rhaid i'r siwt fod i drwch y blewyn fel y dewisai ef. I ddechrau yr oedd yn rhaid i'r defnydd fod o felfared llwyd golau. Ni welais ef erioed mewn unrhyw fath arall o siwt. Yr oedd yn ofynnol i goesau'r trowsus fod tua hanner llath yn rhy hir fel y gallai Sion eu troi i fyny lawer gwaith dros ei sodlau. Gwisgai gôt laes a phocedi mawr iddi ac yr oedd yn rhaid i'r llewys fod yn hir fel coesau'r trowsus er mwyn i Sion gael eu troi yn blygion. Gyda'r siwt ryfedd yma gwisgai het ffelt, yr un siap a het silc. Yr oedd yn rhaid i'r het, hefyd, fod yn rhy fawr. Deuai i lawr dros ei eiliau, yn wir ei glustiau yn unig fyddai'n ei chadw i fyny. 'Roedd ganddo ên hir, a chan nad oedd ganddo ddannedd yr oedd yr ên a'r trwyn bron a chyfarfod.
Yr oedd holl ffermwyr y wlad yn adnabod Sion Catrin, gan yr ymwelai â phob un yn ei dro. Fel pob crwydryn arall cai ddigon o fwyd; ni chai yr un crwydryn ei droi ymaith yn waglaw. Galwai'n Nhŷ Newydd, cartref fy nain, ar ei dro. A dweud y gwir, un braidd yn anniolchgar oedd yr hen Sion; gwelai rhyw fai ar y bwyd—dim digon o fara, dim digon o fenyn. Collodd Nain ei thymer yn lân un tro, a dwedodd wrtho'n gwta am adael y bwyd os nad oedd wrth ei fodd. Monnodd Sion ac ni welodd Nain ef am y rhawg. Ond yn ôl y daeth yn y man, yn bur waraidd.
Arferai ofyn cwestiynau i hwn a'r llall, math o ddychmygion. Gwyddai pawb mai Sion yn unig oedd i roi'r ateb. Gofynnai i Nhad, "Pa sawl ystôl wyt ti'n feddwl wnai gyrraedd i'r Nefoedd"? Cymerai Nhad arno ddyfalu a mesur, nes i Sion fethu dal heb ateb, yn wên o glust i glust. "Wel, pe cai ti un ddigon hir fe wnai'r tro". "Ti" a "chdi" a ddywedai Sion wrth bawb, 'doedd ots yn y byd wrth bwy, Sgweiar Plas yr Abbey neu siopwr neu gyfaill. Mr. Elias oedd Sgweiar yr Abbey, dyn uchel iawn ei barch gan y tenantiaid a phawb yn yr ardal. Cai Sion groeso yn y Plas bob amser a llawnder o fwyd, a'i boccdi yn llawn yn dod oddiyno fel arfer. Dyna amcan pocedi mor fawr i'r gôt. Un tro pan oedd Sion yn dod o'r Plas, gwelodd ddillad wedi eu taenu ar y gwrych i sychu. Yn ei mysg sylwodd fod yno grys i Mr. Elias. Tynnodd Sion ei hen grys budr, gosododd ef ar y gwrych a "cheiniog fawr" arno i dalu am ei olchi, gwisgodd am dano grys glân Mr. Elias, ac i ffwrdd ac ef. Ymhen amser aeth ar ei dro eto i'r Plas. Pan gafodd Mr. Elias ar ddeall fod Sion yno, aeth ato, a rhoes gerydd digon hallt iddo am ddwyn ei grys. A meddai Sion, "Wel, os wyt ti mor brin, dyma fo iti", a dechreuodd ei dynnu oddiamdano. Ni chlywodd neb erioed Sion yn syrthio ar ei fai.
Âi Sion i bob angladd o fewn cyrraedd. Mynnai Sion yr hawl i daenu'r llen ddu dros yr arch. Buasai'n bechod anfaddeuol i neb arall wneud hynny. Wrth gwrs, cai ychydig o geiniogau am y gymwynas a rhan o'r wledd a ddarperid ar gyfer yr angladd. Un tro yr oedd angladd i fod ym Mhentrefoelas, a chan fod tŷ ymhell o'r fynwent anfonwyd i Lanrwst am wasanaeth hers y plwy. Er bod yn siwr o gyrraedd mewn pryd, gan fod un filltir ar ddeg o Lanrwst i Bentrefoelas, anfonwyd yr hers yn hwyr y noson cynt. Ar ganol yr allt serth o'r Betws i Bentrefoelas syfrdanwyd y dyn oedd yn gyrru'r ceffyl. Clywai sŵn mwstro y tu mewn i'r hers. Gan mai hers ddu'r plwy oedd, nid oedd modd gweld i mewn heb agor y cefn, ac nid oedd y gyrrwr yn ddigon dewr i ddod i lawr ac edrych. Gyrrodd y ceffyl ymlaen gymaint ac a allai. Yn wir, ni fu erioed hers yn mynd mor gyflym. Pan gyrhaeddodd y Pentre galwodd ar ddyn i ddod gydag ef at gefn yr hers. Agorodd y cefn yn ddigon ofnus, ond mawr oedd ei syndod o weld Sion Catrin ynddi, yn cysgu'n dawel ar ei hyd. Yr oedd wedi cripio i'r hers yn Llanrwst heb neb yn ei weld, er mwyn bod yn siwr o gael ei gario i'r angladd yn rhad ac am ddim. A dyna Sion Catrin yn ei nerth!
Os crwydro er mwyn crwydro a wnai Sion Catrin, a llawer un tebyg iddo, yr oedd cardota o dŷ i dŷ oherwydd tlodi yn beth digon cyffredin. "Mynd i hel bara mân", neu "mynd i hel" y gelwid y cardota yma o dŷ i dŷ. Gair cyfarwydd iawn yn y Gogledd yw "hel" am unrhyw fath o gasglu (hel at y genhadaeth ac felly'n y blaen) a rhoddir i'r gair yr un sain a'r gair Saesneg hell. Rhoddaf hyn o eglurhad er mwyn darllenwyr o'r De. Yr oedd gan yr Eglwys (Eglwys Loegr y pryd hynny) ystafell yn Heol Scotland a byddai boneddigesau yr Eglwys yn ymweld â theuluoedd y slym. Yn eu plith yr oedd Saesnes, Mrs. Hyde o Fron Derw, a wnai waith da yn yr ardal. Un diwrnod, pan oedd yn ymweld â thai Heol Scotland, curodd ar ddrws un tŷ. Daeth geneth fach i agor y drws. "Where is your mother"? gofynnodd Mrs. Hyde. "Gone to hel, mum", meddai'r fechan. Hawdd deall braw Mrs. Hyde!
Daw hyn a stori i'm cof a glywais gan y diweddar Ddr. Price o Fangor, dyn llawn direidi a hiwmor. Byddai'n arferiad, mewn teulu tlawd, ar ôl colli'r gŵr a dim arian i gwrdd ag anghenion y teulu a chost yr angladd, i'r weddw gael nodlyfr bychan a gair wedi ei ysgrifennu gan feddyg y teulu neu gan rhywun adnabyddus, a phwysig i ofyn am gymorth. Gyda'r nodyn hwn âi y weddw o dŷ i dŷ i "hel" cyfraniadau. Un diwrnod aeth gwraig at Dr. Price i ofyn am nodyn. Gwyddai Dr. Price yn eithaf da nad oedd hi'n haeddu cydymdeimlad. Modd bynnag, aeth i'r drws ati. "Please doctor, will you give me a note to go to "hel" after my husband", meddai'r wraig. "You dont need a note from me, you'll go there soon enough on your own", atebai'r doctor.
Ond sôn am hen gymeriadau Heol Scotland yr oeddwn. Cofiaf am un hen wraig a adnabyddid fel "Jinw". Un dal, denau oedd Jinw a golwg pur ddiymgeledd arni. Hel ei thamaid o dŷ i dŷ y byddai gan amlaf. Yr oedd yn Heol Scotland achos bychan a gychwynnwyd gan dri llanc ifanc—W. J. Williams, Regent House; Ifan Owen, yr Ardd Fawr ac Ifan Jones, Afallon. Y tri hyn a wnaeth yr achos yn llwyddiant, ac ymhen blynyddoedd, diolch i'w gwaith a'u haberth, tyfodd i fod yn eglwys lewyrchus o dan ofal gweinidog. Ni bu hanner digon o gydnabod llafur y tri.
Ond perthyn Jinw i'r blynyddoedd cynnar. Un nos Sul, er syndod i bawb, daeth Jinw i'r capel bach, ac arhosodd yn y Seiat. Ni wnaed sylw ohoni, gan fod pawb yn tybio mai o anwybodaeth yr oedd yno. Nid oedd neb wedi meddwl gweld Jinw o bawb yn croesi trothwy capel. Ond, daeth Cyfarfod Gweddi nos Lun, a Seiat nos Fercher, a Jinw yn y ddau. Erbyn hyn teimlodd y swyddogion y dylid cael gair gyda'r hen wraig a chael gwybod y rheswm paham y daeth yno. Felly gofynnwyd iddi gan un o'r blaenoriaid, "Ydach chi'n deall beth y mae dod i'r Seiat yn ei olygu"?
"O ydw, syr, 'rwy'n deall yn iawn".
"Ydach chi'n teimlo y buasech yn hoffi dod yma atom ni"? "Mi fuasai'n dda iawn gen i gael dwad os y caf fi, syr". "Fyddwch chi'n darllen eich Beibl"?
"Na fyddaf yn wir, syr, fedra' i ddim darllen, chefais i erioed ddysgu, ond byddaf yn gwneud un peth, Syr, mi fyddaf yn rhoi cusan i'r Testament bach bob nos cyn mynd i'm gwely". Chwarae teg i'r hen Jinw. "Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth".
Nid oes heddiw angen cardota, a diolch am hynny. Ond, nid oes le i'r crwydryn diddorol, chwaith; yn wir, y mae crwydro yn drosedd heddiw. Perthyn Sion Catrin a'i gyffelyb i oes wahanol iawn ac i amgylchiadau na welwn mohonynt eto. Y mae patrwm bywyd Cymru wedi newid yn hollol, fel y gwelir yn glir gan rai o'r un oed a mi.
PENNOD XIV
DIWRNOD EGSAM
CLYWIR llawer o son heddiw am galedi ag anhegwch y drefn bresennol o arholi plant unarddeg oed bob blwyddyn. Brithir y papurau newydd ag erthyglau a llythyrau i geisio dangos faint y gosp ar y plant ac ar yr athrawon. Ni allaf lai na gwenu wrth gofio y baich a osodid ar ysgwyddau plant ac athrawon yn fy oes i. Nid un egsam ar derfyn cwrs addysg elfennol, ond egsam bob blwyddyn, i bob dosbarth ac i bob oedran, hyd yn oed y babanod. Nid tynged y plant oedd yn y fantol yn gymaint, ond tynged a chyflog pob athro. "Payment by results" oedd y drefn, a byddai gwaith caled blwyddyn ymhob dosbarth yn cael ei fesur mewn diwrnod o egsam a'i bwyso'n unig yn ôl mympwy yr Inspector. 'Roedd yr Inspector fel rhyw dduw bach, a dyfodol a chymeriad pob athro yn ei law. Nid oedd rhyddid i athro nac i brifathro ddewis pynciau yr ysgol na'r rhaglen. Yr oedd rhaglen swyddogol i bob gwaith a rhaid oedd cadw ati.
Na, ni wyr nac athrawon na phlant yr oes hon mo'u geni! Agorais fy llygaid y dydd o'r blaen wrth ddarllen cyfieithiad o bapur Czec. Ymddengys fod yr hen drefn felltigedig o payment by results mewn bri heddiw y tu ôl i'r llen hearn.
Y mae hyn oll yn dwyn i'm cof un diwrnod egsam arbennig yn fy hanes, yn ysgol fach Cwm Pennant, diwrnod nad wyf wedi ei anghofio hyd heddiw. Ond, cyn i mi son am yr egsam, gwell fyddai i mi nodi braslun o'r cefndir.
Pan aeth John fy mrawd yn brifathro i ysgol y Garn a minnau yn Pupil Teacher yno, nid oedd ysgol yng Nghwm Pennant. Deuai'r plant i Ysgol y Garn, rhai ohonynt o Blâs Pennant o ben pella'r Cwm, dros Fwlch y Bedol, bob dydd, ar bob tewydd, a golwg dda oedd arnynt. Ond buasai rhieni yr oes hon yn gwaredu rhag y syniad o gerdded y fath bellter i'r ysgol. Mae dwy neu dair milltir heddiw yn ormod. 'Roedd Cwm Pennant yn lle pur fywiog yr adeg honno. 'Roedd amryw chwareli bychain yn mynd yn dda, yn enwedig chwarel fel y Moelfre ar Hendre Ddu, a thair neu bedair ymhen draw y Cwm. 'Roeddd yno hefyd lawer o ffermydd. Felly, cynyddai rhif y plant bob blwyddyn. O'r diwedd teimlwyd gan aelodau'r Bwrdd Ysgol fod y plant lleiaf yn cael ei hamddifadu o fanteison addysg gan fod ysgol y Garn yn rhy bell iddynt. Penderfynwyd adeiladu ysgol fechan yn y Cwm, ac i blant Bethel a Cholan fynd yno yn hytrach nac i'r Garn. Yr oedd, felly, rif boddhaol iawn yn yr ysgol. Ysgol un ystafell oedd, wrth gwrs, a phob oedran o'r babanod i fyny, ynddi.
Pan oeddwn ar fy mlwyddyn olaf fel Pupil Teacher bu rhyw ddrwgdynnu rhwng ysgolfeistr ysgol Cwm Pennant a'r wraig a arferai fynd yno i ddysgu gwnio i'r genethod. Gwraig o'r ardal oedd, heb ddim addysg. Ni wn beth oedd achos yr anghydwelediad, ond aeth y wraig ar streic chwech wythnos cyn yr egsam. Gofynnwyd i John gan y Bwrdd Ysgol fy rhyddhau ddwywaith yn yr wythnos i fynd i ysgol Cwm Pennant i ddysgu gwnio hyd at ddiwrnod yr Egsam. Ac felly y bu. Am chwech wythnos cerddwn dros Fwlch y Bedol ar bob tywydd. Gwyr trigolion y Garn beth a olygai cerdded dros y Bwlch. Rhaid dringo'n galed o waelod gallt y Garreg Gron. Gyda llaw, y mae sôn am allt y Garreg Gron yn dwyn i'm cof stori am ymdrech rhwng Hugh fy mrawd, pan oedd yn Bupil Teacher ifanc yn y Garn, a mul Owen Williams, y Siop, Penybont. Fel y dwedais yn Brethyn Cartref yr oedd yn ofynnol i siopwyr y Garn gadw mulod i gario pynnau o flawd i'r ffermydd ar lechwedd Bwlch Bedol. Un diwrnod gofynnodd Owen Williams i Hugh wneud cymwynas ag ef. Yr oedd y bachgen a arferai fod gyda'r mul wedi mynd ar neges arall, a chan fod angen pwn blawd, heb oedi, ar fferm fechan ar lechwedd y Bwlch, a fuasai Hugh yn tywys y mul yno? Cydsyniodd Hugh ar unwaith, ac i ffwrdd ag ef a'r mul yn dalog nes cyrraedd gwaelod gallt y Garreg Gron. Yno yr oedd dwy ffordd y gellid eu dilyn, sef un yn mynd yn syth i fyny'r allt, a'r llall yn fwy cwmpasog o lawer ond a llai o lawer o ddringo ar hyd-ddi. Penderfynodd Hugh mai gallt y Garreg Gron fyddai'r ffordd hwylusaf ac y buasai ef a'r mul yn cyrraedd y fferm yn llawer cynt ar hyd honno. Ond nid oedd y mul o'r un farn. Pan ddeallodd fod Hugh yn bwriadu. dringo'r allt, safodd yn stond a'i ddau droed blaen ar led. Gwrthododd yn bendant fynd gam ymhellach er i Hugh dynnu yn y ffrwyn a'i guro a'r ffon, a'i wthio o'r tŷ ôl gymaint ag a allai. 'Doedd dim yn tycio. Ni symudai'r mul yr un fer. Ni wyddai Hugh beth i'w wneud, ond penderfynodd geisio perswadio'r mul i fynd ar hyd y ffordd arall. Pan ddeallodd y mul fod Hugh wedi dewis yr ail ffordd, cychwynnodd ar unwaith ac aeth fel yr oen ar hyd y daith. Yr oedd yr hen ful yn gallach na Hugh. Yr oedd wedi penderfynu nad oedd am chwysu i fynd ar hyd gallt mor serth, ac yn wir yr oedd yn llygad ei le. Hen allt ofnadwy yw gallt y Garreg Fron, hynod o serth a charegog.
Ond rhaid oedd i mi ei dringo i fynd i ysgol Cwm Pennant. Wedi cyrraedd pen yr allt oedd ffordd drol trwy ddau gae a dau lidiart haearn. Wedi mynd trwy'r ail lidiart yr oedd y ffordd yn y troi heibio Bryn Eithin. Gadawn y ffordd yn y fan yma, gan droi ar y dde ar hyd hen lwybr brwnt a thros greigiau. Wrth gofio fel y byddai teulu Caer Amos yn cerdded y llwybr ar nosweithiau tywyll y gaeaf methaf ddeall sut y gallent ei ddilyn. Mae'n debyg eu bod mor gynefin ag ef nes ei gerdded bron yn reddfol. Nid oedd neb yn fwy selog yn y capel ac ymhob cyfarfod arall yn y Garn.
Cofiaf fod dwy wal uchel ar draws y llwybr i gadw'r defaid rhag crwydro i lawr o'r mynydd. Byddai ystolion haearn i ddringo dros waliau. Wedi cyrraedd chwarel y Moelfre yr oedd ffordd drol i lawr goriwaered serth i waelod y Cwm, dros Bont y Gyfyng ac i'r ysgol. Cymerai'r daith cryn dipyn o amser i mi, ac yr oedd rhaid cychwyn o'r Garn yn fore iawn. i mi unwaith gyrraedd pen gallt y Garreg Gron, ni chofiaf i mi erioed gyfarfod yr un enaid byw ar y ffordd. Cerddwn mewn byd lle nad oedd ond myfi a'r defaid, ond ni ddaeth i'm meddwl erioed deimlo'n ofnus. Ar dywydd braf ni theimlwn y daith yn faich, ond gwahanol iawn y teimlwn ar dywydd garw. Byddai meddwl am y ffordd gartref ar ddiwedd y pnawn yn gosb.
Ac yn awr deuaf at ddiwrnod yr Egsam. Pan ddeffroais y bore hwnnw, gwelwn mai diwrnod anlwcus oedd o'm blaen. Yr oedd yn ddiwrnod stormus iawn, y glaw yn tywallt yn ddidrugaredd, a'r gwynt yn chwythu ac yn chwibanu. Syrthiodd fy nghalon i'm esgidiau wrth feddwl am ddringo dros Fwlch y Bedol. Ond rhaid oedd mynd. Ni chefais erioed siwrnai mor galed. Bu i'r gwynt fy nhaflu fwy nag unwaith, a phan gyrhaeddais yr ysgol yr oeddwn yn wlyb fel dafad, fel y dywedir.
Yr oedd y plant yno'n barod, yn eistedd yn y desgiau yn ddistaw fel llygod, ond golwg oer, rynllyd oedd arnynt oherwydd y gwlybaniaeth. Yr oedd arogl annymunol drwy'r ystafell yn codi o'r cotiau gwlyb yn sychu'n bentwr o gwmpas y tân. Mae'n ymddangos fod yr ysgolfesitr wedi anfon rhai o blant Bethel a Golan adref, gan fod y creaduriaid bach mor wlyb a phe buasent wedi eu trochi yn yr afon. Buasai'n greulondeb eu cadw drwy'r dydd yn yr ysgol yn y fath gyflwr, heb son am gwestiwn iechyd. Heblaw hyn, gan fod afon Dwyfor yn rhedeg hyd waelod y Cwm, ochr yn ochr a'r ffordd, yr oedd perygl iddi lifo dros ei glannau i'r ffordd a rhwystro i'r plant gyrraedd eu cartrefi. Yn ddiamau, ni allai yr ysgolfeistr wneud yn wahanol i'r hyn a wnaeth.
A dyna lle yr oeddym, y plant a minnau yn wlyb ac yn rhynnu; dim i'w wneud ond aros i'r Inspector gyrraedd. Cofiaf wrando ar sŵn y cloc yn tician, a'r gwynt a'r glaw yn chwipio yn erbyn y ffenestri ac yn ysgwyd y drws. Toc dyma'r gŵr mawr yn cyrraedd,—William Williams, yr Inspector, a'i gynorthwywr, rhyw Mr. Jones. Ni chofiaf i mi erioed weled William Williams mewn tymer dda, hyd yn oed ar ddiwrnod heulog, ond y tro hwn yr oedd yn flin fel caclwm. Yr oedd ef a Mr. Jones wedi dod bum milltir ar hyd y ffordd fawr o orsaf Bryncir, mewn cerbyd agored, drwy ganol y glaw a'r gwynt, ac yr oedd yn barod i ddamnio pawb a phopeth o'r foment y daeth drwy'r drws. Pan ddeallodd William Williams fod yr ysgolfeistr wedi anfon rhai o'r plant adref, collodd y gweddill o'i dymer a thywalltodd ei gynddaredd ar ben yr ysgolfeistr druan am y trosedd ofnadwy, a hyn o flaen y plant i gyd. Er nad oeddwn i yn edmygydd o'r ysgolfeistr (a dweud y lleiaf), 'roedd fy nghydymdeimlad i gyd o'i blaid. Ni feiddiodd achub ei gam; 'roedd ganddo, fel llawer ysgolfeistr arall, ormod o ofn gallu yr Inspector i ddifetha ei ddyfodol fel athro. Gadawodd i'r storm chwarae o'i gwmpas.
Fel y gellid meddwl, yr oedd clywed yr Inspector yn rhoddi gwers mor hallt i'r ysgolfeistr, ag yntau'n ddistaw, wedi effeithio ar y plant a'u gwneud yn fwy nerfus nac erioed. Felly, nid oedd rhagolygon da iawn am Egsam lwyddiannus.
Toc daeth fy nhro innau i fynd drwyddi gyda'r gwaith gwnio. Gwyddwn yn eithaf da nad oedd gwaith y genethod wedi cyrraedd y safon, ond gan nad fy mai i oedd hyn, ni hitiwn beth a ddywedai'r Inspector. Gwyddwn y torrai'r storom am fy mhen, ond nid oeddwn i am ddal fy nhafod. Fel y dwedais mewn man arall, nid oedd merched wedi eu penodi'n Inspectors y pryd hynny. Yr oedd William Williams yn hollwybydol ac yn mesur a phwyso hyd yn oed gwaith llaw y babanod, a gwaith gwnio y genethod. Gwelais ef un tro yn cosbi gyda "black mark" blentyn bach yn nosbarth y babanod am iddi ffaelu cael edau i'r nodwydd ar un tro, "Look at that child; she actually took three pushes to get the thread in, instead of one"!
Fel y disgwyliais, torrodd yr argae ar fy mhen. Gwelodd fai ar bopeth. Cefais ddigon o wroldeb i ateb yn ôl, a dweud mai llanw bwlch yr oeddwn ac nad oeddwn yn gyfrifol o gwbl am safon y gwnio. Ni effeithiai fy ngeiriau ddim arno. Ni wrandawai a daliodd i daranu ac i gondemnio'n hallt.
Bu diwrnod egsam ysgol Cwm Pennant yn ddiwrnod pwysig yn fy hanes. Fel y dywedais eisioes, yr oeddwn yn y bumed flwyddyn, a'r olaf, o'm prentisiad fel Pupil Teacher, ac ers tro wedi bod yn chwarae â'r syniad o fynd ymlaen fel athrawes. Yr oedd llawer o resymau o blaid ac yn erbyn hynny. Cawn fynd i'r Coleg, ac yr oeddwn yn hoff o blant, ond, buasai gennyf egsam galed pob blwyddyn cyn cyrraedd y Coleg. Nid oedd ryddid i wneud dim mewn dosbarth ond yn ôl rhaglen swyddogol. Gwaeth na'r cwbwl, dibynnai cymaint ar fympwy Inspector. Pan gychwynnais o'r Garn fore'r Egsam, nid oeddwn wedi penderfynu dim, ond gwnaeth Egsam ysgol Cwm Pennant, y diwrnod bythgofiadwy hwn, fy meddwl i fyny yn derfynol. Penderfynais nad oedd yn werth, o dan yr amgylchiadau, ddilyn ymlaen fel athrawes funud yn hwy. Ceisiodd John fy mherswadio trwy bob dull a modd, ond yr oeddwn fel mul Owen Williams y Siop, 'doedd dim symud arnaf. Bûm yn dyfalu lawer gwaith sut adroddiad a roddodd William Williams ar yr Egsam honno. Synnai'n fawr, mae'n siwr, pe bai wedi deall ei fod y diwrnod hwnnw wedi penderfynu llinell fy mywyd Bûm yn dyfalu fwy nag unwaith beth fuasai llinell fy mywyd pe bai diwrnod Egsam Ysgol Cwm Pennant wedi bod yn ddiwrnod o haul braf, a'r Inspector mewn tymer da ac yn llawn caredigrwydd tuag at athrawon yn gwneud eu gorau. Ys gwn i?
Ymhen blynyddoedd lawer ar ôl i mi briodi a gadael y Garn, a'm dwy ferch wedi tyfu i fyny, aethom ein tair ar ymweliad â'r hen ardal un haf. Daeth fy mrawd William atom, ac yr oedd Hugh yno'n byw eisoes.
Penderfynwyd un diwrnod gerdded i Gwm Pennant ar hyd yr hen lwybr a gerddais i Ysgol Cwm Pennant. Dyma gychwyn selog. Wedi dringo allt y Garreg Gron ac yna mynd trwy'r ddau lidiart haearn, a pharatoi i droi am yr hen lwybr fel arfer, er fy syndod, nid oedd llwybr i'w weld. Er chwilio'n fanwl nid oedd cymaint ag olion yr hen lwybr ar gael. Sylwais ymhellach fod yr ystolion haearn i fynd dros y wal wedi diflannu, ac eithin pigog ar ben y wal. Er ein siomedigaeth rhaid oedd sylweddoli nad oedd yr hen lwybr mewn bod mwyach. Nid oedd dim i'w wneud ond troi'n ôl a dilyn y ffordd heibio Cwm Eithin a thros y Bwlch. Nid oeddwn erioed wedi dilyn y ffordd o'r blaen. Yr oedd mor gwmpasog fel ac i wneud y siwrnai yn hwy o'r hanner.
Wedi cyrraedd pen ucha'r Bwlch sylwn fod y ffordd drol yn mynd ymlaen heibio fferm y Gilfach, yn uwch o dipyn i fyny'r Cwm nag yr oeddym wedi bwriadu myned. Tybiodd William y buasem yn dod at y Moelfre'n lled rwydd pe baem yn torri ar draws rhai o'r ffriddoedd. Ond, Ow! bu'n rhaid cyfaddef cyn bo hir ein bod wedi colli'r ffordd yn lân, ac er dringo dros waliau uchel a cherdded trwy'r corsydd, nid oedd olwg ar y Moelfre. Yn ffodus, daeth bachgen bach o fferm gyfagos atom. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi deall ein penbleth, a bu'n brysur yn dangos y llwybr heibio'r Moelfre. Yn naturiol, yr oeddym wedi blino. Wedi'r cwbwl, 'roedd William a minnau dros ein pedwar ugain oed ac nid oeddym yn llawn mor ystwyth ac y buom i ddringo gelltydd a thros waliau. Eisteddasom am ysbaid i orffwys ac i fwynhau'r olygfa hardd. Credwch fi, nid yw'r dieithriaid sydd yn mynd mewn moduron ar hyd llawr y Cwm yn gweld ei harddwch fel y gwelsom ni ef o ben y Moelfre. Oddiyno gwelir y Cwm bron ar ei hyd.
Bu llawer iawn o gyfnewidiadau yn y Cwm er pan fûm yno o'r blaen, lawer o flynyddoedd yn ôl. Nid oedd gymaint ag un chwarel yn aros o'r cyfan. Bu'n rhaid eu cau'n raddol fesul un, gan fod cludo'r llechi o'r Cwm i Borthmadog wedi troi'n rhy gostus. Gwelwyd fod llawer o'r ffermdai wedi mynd a'u pen iddynt a'r tir yn cael ei ddal gan ffermydd eraill. Yr oedd rhif plant y Cwm a'r gymdogaeth wedi disgyn yn gyson o'r herwydd o flwyddyn i flwyddyn a daeth adeg pan nad oedd yno ddigon o blant i gynnal ysgol yn y Cwm. Clywais fod blaenoriaid Capel y Cwm wedi ceisio cadw'r hen ysgol fel lle i ddosbarthiadau W.E.A. a chyfarfodydd eraill, ond methu a wnaed, a thrist i mi oedd gweld yr hen ysgol fach yn ddim bellach, ond muriau moelion. Y ffenestri a'r drysau wedi diflannu a'r ystafell yn ddim mwy na lloches i ddefaid rhag tywydd mawr y gaeaf. Dyma fesur trai bywyd gwledig y gornel hon o Gymru. Ar ôl eistedd i fwynhau'r olygfa am beth amser cychwynwyd i lawr y goriwaered serth at waelod y Cwm, tros Bont y Gyfyng ac ar hyd y ffordd i Dŷ'n Llan, lle'r arferai Mrs. Williams wneud te i ddieithriaid. A chawsom de ardderchog yn y gegin orau, digon o fara 'menyn gwyn a bara haidd, bara ceirch a bara brith, a 'menyn ffarm yn dew arno. Fel y gellwch dybio, gwnaethom gyfiawnder â'r wledd ar ôl y daith hir.
Mae'n rhaid fod Tŷ'n Llan yn bur hen. Y mae cegin groes wedi ei hadeiladu ar dalcen y tŷ ffarm-"cegin y dynion" fel y'i gelwid. Mae'n amlwg nad oedd y gegin groes yn gyfleus iawn ; yr oedd yn ofynnol mynd allan o'r tŷ iddi ar bob tywydd. Felly torrwyd math o dwnel trwy'r mur o ymyl y tân o'r gegin orau i'r gegin groes, ac y mae'r mur hwnnw tua thair llath o drwch a'r twnel tua llathen o led.
Ac yn awr rhaid troi cefn ar yr hen Gwm, a cherdded ar hyd llawr y Cwm trwy Ddolbenmaen ac yn ôl i'r Garn. Dyma'r tro olaf i William, Hugh a minnau wneud y daith gyda'n gilydd. Nid oeddwn i fy hun wedi cerdded dros y Bwlch ers ymhell dros dair blynedd a thrigain. Gwyddwn na ddringwn mwyach i ben y Moelfre, ac wrth ddweud ffarwel iddo y diwrnod hwnnw, a'i adael yn ei harddwch a'i unigrwydd, daeth i'm cof eiriau Eifion Wyn:
Pam, Arglwydd y gwnaethost
Gwm Pennant mor dlws,
A bywyd hen fugail mor fyr"?

Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.