Straeon Gwerin Affrica/Yr Epilog
| ← Rhagor eto | Straeon Gwerin Affrica gan Robert Griffith, Madagascar |
→ |
YR EPILOG
TYBED a ydych wedi mwynhau Straeon Affrica? Nid ydynt wedi'r cyfan yn wahanol iawn i Straeon Gwerin Cymru. Dangosant un peth, sef, mai'r gwahaniaeth mawr rhwng y dyn du ar dyn gwyn ydyw ei liw. Yn ei symylrwydd brodorol gwelwn y dyn du yn hela, yn bwyta, yn yfed ac yn adrodd straeon. Y mae mor hoff o stori ag unrhyw blentyn yng Nghymru ac y mae ei Straeon yn ymwneud â'r pethau sydd gynefin iddo ef. Ond ni ellir ei adael, yn ei fyd syml i hela, bwyta a dyweud straeon. Y mae'r byd yn rhy fach i hynny ac angen y dyn gwyn yn rhy fawr. Ni ellir ei adael yn ei amherffeithrwydd, ac ni fyn yntau aros yno ychwaith; a'r pwnc ymholiad a gyfyd yw: Beth fydd ei ddyfodol?
Gellir gwneuthur bwystfil ohono. Ond y mae ynddo ddefnyddiau sydd yn werth eu datblygu: nid un Aggrey sydd yn bosibl yn Affrica.

Y mae gennym hanesion lawer a brawf hyn. Rai blynyddau'n ôl yr oedd dyn yn byw yn Affrica o'r enw Affricander. Yr oedd wedi ei drin yn y fath fodd fel ag i'w wneud yn arswyd trwy'r wlad i gyd. Nid yn unig yn arswyd i'w gyd-ddyn du ond i'r dyn gwyn hefyd. Aeth Cenhadwr o'r enw Robert Moffat i wlad Affricander a gwnaeth gyfaill ohono, a daeth Affricander yn un o'r dynion mwynaf yn Neheudir Affrica. Yn lle ymladd, lladrata a lladd, trôdd yn Efengylwr —un o'r efengylwyr enwocaf a fu yn Affrica.
A dyma i chwi un arall. Y brenin Khama Sekomi oedd enw ei dad: Un o'r dynion gwaethaf yn Affrica. Yr oedd yn bennaeth ar lwyth mawr o bobl, sef y Bamangwato. Dyn drwg oedd Kamami ei frawd hefyd. Ni fynnai Sekomi na Kamami ymgyfeillachu â'r cenhadon, a bu'r ddau farw fel y buont fyw, ynghanol ysgelerder bwystfilaidd anisgrifiadwy.
Ond enillodd y Cenhadwr Khama, a mwy na hynny fe'i rhoddodd ei hunan i Iesu Grist. Ni bu gwell brenin erioed ar ei orsedd. Yr oedd yn gyfiawn, yn lân ei fywyd a daeth y Bamangwato yn llwyth cryf, sobor, a phur.
"Yr wyf finnau," meddai Aggrey," yn ddyledus i Genhadon a anfonwyd i'm gwlad gan Gymdeithas Genhadol y Wesleaid as nid oes dim a werthfawrogaf yn fwy na chael bod yn Gristion.

"Y mae Duw a minnau ar delerau da a'n gilydd. Y mae Efô yn fy neall i a'm cynorthwya i weithio'n galed bod dydd i gyrraedd ei safon Ef, oblegid gwn fod ganddo ffydd ynof fi. Yr wyf yn gweddio'n ostyngedig bob dydd am nerth i beidio â'i siomi Ef.