Straeon Gwerin Affrica (testun cyfansawdd)
| ← | Straeon Gwerin Affrica (testun cyfansawdd) gan Robert Griffith, Madagascar |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Straeon Gwerin Affrica |

STRAEON GWERIN AFFRICA

Gwel Stori VIII, tud. 54
STRAEON GWERIN AFFRICA
GAN
ROBERT GRIFFITH
AWDUR
DAVID LIVINGSTONE: CYFAILL Y CAETHWAS;
CHWEDL A HANES;
CHILDREN OF MADAGASCAR;
A CENTURY OF ADVENTURE.
LLUNDAIN
CYMDEITHAS GENHADOL LLUNDAIN
LIVINGSTONE HOUSE, WESTMINSTER, S.W.I
1928
PRINTED IN GREAT BRITAIN BY PURNELL AND SONS
PAULTON (SOMERSET) AND LONDON
14/822
Y CYNHWYSIAD
CYFARCHIAD
Y PROLOG
I. ZWEGGIR AGGREY
II. Y GOEDEN FAWR A'R GORSEN YSIG
III. STORI'R LLEW
IV. Y LLWYNOG A'R CI
V. Y BWYD NEWYDD
VI. Y LLWYNOG A'R HWYADEN
VII. KOBE A'R TABWRDD
VIII. CWNINGEN, ELIFFANT A'R HIPPO
IX. Y GASEL A'R LLEWPARD
X. Y MWNCI DIREIDUS
XI. BRENIN Y BWYSTFILOD
XII. Y GOEDEN FEL
XIII. TSELANE WRTH Y PENTAN
XIV. Y BLAIDD A'R YSGYFARNOG
XV. Y CAWR DRWG
XVI. MATHIBE A'R DUIKER
XVII. Y SYMUDLIW YN TORRI EI BEN
XVIII. Y CRWBAN A'R CARW
XIX. DAGRAU NSANGI FACH
XX. Y MWNCI A'R CRWBAN
XXI. NID MA MASILO GLAN YR AFON YDWYF FI
XXII. TRAED A LLYGAID
XXIII. DYN A'R ANIFAIL
XIV. Y DDAU GENNAD
XXV. GWR A GWRAIG
XXVI. PRIODI A BYW
RHAGOR ETO
YR EPILOG
RHESTR O'R DARLUNIAU
CWNINGEN, ELIFFANT A'R HIPPO.
DYNION Y KALAHARI
DR. AGGREY
Y GOEDEN FAWR A'R GORSEN YSIG
PELOTONA A'R LLEW
Y LLWYNOG A CHI MAWR Y DRE
Y BWYD NEWYDD
Y LLWYNOG A'R HWYADEN
KOBE A'I DABWRDD
Y GASEL A'R LLEWPARD
Y MWNCI DIREIDUS
Y LLEW A'R ESTRYS
TSELANE WRTH Y PENTAN
Y BLAIDD A'R YSGYFARNOG
Y CAWR DRWG
Y SYMUDLIW A'R ADAR
Y CRWBAN A'R CARW.
NSANGI FACH A'R MWNCIOD
Y MWNCI A'R CRWBAN
MA MASILO YN Y GLAW
Y DALL YN CARIO'R CLOFF
Y GWARTHEG YN Y CORSYDD
GWRAIG YN DISGYN I'R DDAEAR
Y BRENIN KHAMA
MOFFAT AC AFFRICANDER
MAP
CYFARCHIAD
CYFARCHWN blant Cymru a chyflwynwn iddynt lyfr i'w hyfforddi a'u diddori. Hyderwn y bydd yn foddion i gynyrchu ynddynt ddiddordeb mwy ym mhlant a phobl Affrica. Straeon ydynt bron i gyd— Straeon Gwerin Affrica. Nid gwaith hawdd yw casglu nifer o straeon fel hyn, oblegid nid oes ond ychydig o honynt wedi eu cyhoeddi. Teg felly yw cydnabod y rhai a'n cynorthwyant i ddyfod o hyd iddynt. Nid yw pawb am i ni eu henwi, ond rhaid nodi un, sef y Parch. EDWIN LLOYD. Oddiwrtho ef y daeth nifer o'r straeon hyn, ac yr ydym wedi eu trosi i'r Gymraeg.
Beth a barodd inni ysgrifennu llyfr fel hyn? Beth sydd a wnelo "Straeon Gwerin Affrica" â ni yng Nghymru fach?
Bwriadwn gyhoeddi cyfres o Straeon Gwerin: rhai o India; rhai o China; eraill o New Guinea a Madagascar. Credwn fod lle iddynt ac angen am danynt, os yr ydym i adnabod dyn y Dwyrain yn well.
Syndod, ynte, yw canfod y tebygolrwydd sydd cydrhwng y naill a'r llall o genhedloedd y byd. Beth mewn gwirionedd ydyw'r gwahaniaeth ar wahan i liw'r croen? Wedi trefnu'r storiau, gwelwn hefyd eu bod yn debyg i hen Straeon Gwerin Cymru.
Gesyd dysgedigion bwys mawr ar Straeon Gwerin; oblegid dysgant lawer am syniadau ac arferion a chymeriad y gwahanol genhedloedd. Modd bynnag, y mae rhain i gyd wedi dyfod o Affrica, ac yn ymwneuthur a phobl a chreaduriaid y Cyfandir mawr.
Maent yn hen iawn, yn hynach na neb sydd yn byw yn Nghymru heddiw. Gellir olrhain rhai o honynt am nifer o genedlaethau. Dyma oedd llenyddiaeth pobl Affrica. Nid oedd ganddynt lyfrau, ond mewn straeon y maent yn wir gyfoethog. Difyrrant eu hunain am oriau wrth adrodd ac ail-adrodd eu straeon doniol. Ystyrrir storiwr da ganddynt hwy bron fel bardd gennym ni. Un ffurf ar athrylith yn eu syniad hwy yw gallu neilltuol i wneuthur ac i ddywedyd stori.
Fel pawb arall y mae ganddynt rai storiau hyll a phwdr; ond nid llawer. Y mae'r nifer a gyflwynir i chwi trwy'r gyfrol fach hon yn ddangoseg lled gywir o feddwl a theimlad ac arferion gwerin Affrica.
Cyflwynwn hwy i blant Cymru gyda phob dymuniad da am lwyddiant Cymru ac Affrica.
ROBERT GRIFFITH.
Livingstone House,
- Broadway,
- Westminster, London.
Y PROLOG
STRAEON Gwerin Affrica. Pwy a olygwn neu beth a olygwn wrth Werin Affrica? Y mae Affrica'n fawr iawn. Hi yw'r wlad fwyaf yn y byd—y fwyaf o lawer iawn hefyd. Y mae'n fwy nag India, China, America ac Ewrop i gyd gyda'i gilydd. Y mae mwy o genhedloedd gwahanol yn byw yno nag yn Ewrop i gyd. Pobl dduon neu felynddu ydynt i gyd. Siaradant tua chant a hanner o wahanol ieithoedd. Y mae rhai ohonynt yn dal a chryf ac esgyrniog. Y mae eraill fel y "pigmies" yn fychain fel corachod ac eraill â'u gwallt yn gyrliog a'u gwefusau'n dewion. Pobl y rhan isaf o Affrica yw'r rhai hyn. Yn uwch i fyny maent â'u gwallt yn syth a'u gwefusau'n deneuach.
Ceir rhai yn byw mewn tai, rhai mewn bythynnod a rhai mewn ogofeydd.
Pobl y bythynnod gan fwyaf sydd yn y llyfr hwn. Ystyrrir hwynt yn is na phobl y tai. Nid ydynt cynddrwg ag y paentir hwynt. Dywedodd un awdur "Anifeiliaid ydynt." Wrth gwrs—anifeiliaid ydym ninnau hefyd; os anifeiliaid yn unig ydynt, y maent yn ddeallus a chyfrwys dros ben. Awn am dro i anialwch y Kalahari. Chwiliwch am y lle yn eich llyfrau ysgol. Yr ydych yn sicr o ddyfod o hyd iddo. Y mae ar y map—map o Affrica, bid sicr.
Pobl y Kalahari yw'r enw o roddir ar frodorion yr anialwch hwn. Dichon nad oes pobl is na'r rhain yn y byd. Profa'u hiaith hynny i ryw raddau. Y mae eu geiriau'n fyr, gyda llawer o gliciau, ac yn wan ymhob ystyr ond yn y ferf. Ebe rhywun sydd yn eu hadnabod yn dda:—"Y mae'n amheus gennyf a allant gyfrif mwy na thri."
Ond y mae eu harferion a'u dull o fyw yn profi hynny'n amlycach. Bwytânt unrhyw beth—llygod, chwilod, nadroedd, creaduriaid marw, ŵyau drwg—unrhyw beth. Nid yw eu tai ond cysgod yn unig, ac mor aflêr a chwt mochyn.
Y mae'r pentrefi ymhell oddiwrth ddwr, weithiau gymaint ag ugain milltir. Diogelwch yw'r rheswm am hynny Pan groesir yr anialwch gan ddieithriaid, chwiliant am ddwr. Gŵyr y rhai cyfarwydd nad oes dwr mewn pentref, ac oherwydd hynny, cadwant draw. Ond pwnc dyrys yw pwnc y dwr yn yr anialwch. Y mae'n rhaid cael dwr. Y mae'n rhaid i'r teithiwr ei gael yn ogystal a'r brodor. Gofynnwch i frodor ddangos i chwi'r ffordd at ddwr, ac y mae mor ystyfnig a mul.
Nid oes neb yn y byd yn deall natur ac anian ei gymdogaeth fel y dyn iselradd hwn. Os bydd ganddo ymddiriedaeth ynoch gall ddysgu cant a mil o bethau i chwi. Y mae'n digwydd felly'n aml yn hanes cenhadwr. Gŵyr y brodor ei fod yn gyfaill, ac unwaith y cred ynddo, daw yntau'n gyfaill. Unwaith yn gyfaill, eglura bopeth.
Y mae dwr y pentref yn brin a threfnir parti i chwilio am ragor. Golyga hyn ddiwrnod cyfan. Ânt allan â rhwyd yn llawn o ŵyau gweigion yr estrys ar eu cefnau a chorsen neu ddwy yn eu dwylo. Wedi cerdded milltiroedd dodant eu rhwydau i lawr. "Nid oes dwr yma," meddai'r anghyfarwydd. "O! nag oes yn wir, peidiwch â bod yn rhy sicr.
Gorwedd y brodorion ar y tywod a gwnant dwll mor ddwfn a hyd braich. Dodant gorsen yn y twll a sugnant.
Ymhen awr neu ddwy y maent wedi llenwi'r ŵyau â dwr ac ar eu ffordd yn ôl i'r pentref.

Ni ddianc dim rhagddynt. Oni allant ddarllen ein llyfrau ni, y mae natur a'i harferion yn llyfr agored iddynt. Y mae ganddynt synnwyr hela anarferol. Gwyddant i'r dim beth y mae creaduriaid gwylltion yr anialwch yn ei wneuthur neu yn bwriadu ei wneuthur,—pa un a ydynt yn symud o un ardal i'r llall neu'n bwyta'n hamddenol ac yn myned i orffwys. Gwyddant y pethau hyn heb weled y creaduriaid o gwbl. Gwelltyn yn plygu i ryw gyfeiriad, carreg, darn o blanhigyn, y maent i gyd yn arwyddo rhywbeth iddynt hwy.
Gallant weled pethau heb wydrau na all dyn gwyn yn aml eu gweled â gwydrau. Er engraifft, pan ehedo gwenyn yn isel yn yr awyr, "Ha" meddant, "gwenyn yn dychwelyd." Pam yn dychwelyd ganol dydd fel hyn? Y maent yn hedfan yn isel, ac y mae diferion o fêl ar y cerrig. Nid oes dim ym mywyd yr anialwch yn ddirgelwch i'r brodor.
Gŵyr enw pob planhigyn, arferon pob creadur, ffurf pob carreg a natur pob storm. Nid oes perigl iddo gamsynied a bwyta gwenwyn.
Ni cholla ei ffordd hyd yn oed yn y tywyllwch eithaf. Ni all ddarllen yr A B C, ond derllyn feddwl dyn ac anifail.
Ai anifail yn unig ydyw'r dyn israddol hwn? Ni ŵyr hanner y pethau sydd yn eglur i ni. Yn ei fyd ef—byd natur—dychmygaf nad oes ei gyffelyb.
Ac y mae ganddo ei ffordd o ymestyn at yr anweledig. Mor bell ag y gwyddom, nid oes ganddo eilun. Ysbrydion yw ei fwganod ymhob man. I'w amddifyn ei hun rhagddynt, gwna bob math o bethau. Nid yw yn eu parchu nac yn eu haddoli. Y mae yn eu hofni ac felly yn gorfod eu diddannu. Pryder ac ofn yw rheol ei fywyd. Nid oes nemor ddim yn y byd o'i blaid. bron popeth yn ei erbyn. Cred mewn ysbrydion, ond nid yw serch hynny'n ysbrydol. Iddo ef, y mae ysbryd yn berson sydd yn bwyta, ac yn yfed, yn priodi ac ymddifyrru, a'i ddifyrrwch pennaf yw poeni'r hwn sydd yn ei anwybyddu. Felly rhaid offrymu iddo.
Yr ydym wedi dywedyd rhai pethau am y dyn isaf yn Affrica a pherthyn llawer o'r straeon hyn iddo ef. Dangosant gwmpas ei fywyd, eglurant ei feddylddrych, awgrymant ei bosibilrwydd. Ond nid yw'r holl straeon i'w holrhain iddo ef. Y mae rhai o Uganda a rhai o lannau'r Congo, rhai o'r canolbarth a rhai o lannau'r mor, rhai o'r coedwigoedd a rhai o'r mynyddoedd. Ond y maent bron i gyd yn ymwneud â'r bobl a adwaenir yn Affrica fel y Bantu neu'r bobl sydd yn byw yn hanner isaf y Cyfandir Mawr.
Plant ydynt eto dan eu hoed
Yn disgwyl am eu stad.
Y mae'r mwyafrif mawr o honynt yn ddeiliaid Prydain Fawr a dibynna'u dyfodol i raddau mawr ar y ffordd yr ydym ni yn eu trin a'u trafod.
STORI I
ZWEGGIR AGGREY
CYMERAI ormod o amser inni ddringo mynydd mawr Kilimanjaro yn Kenya. Y mae oddeutu 20,000 o droedfeddi o uchter. Gofynnwn i chwi chwilio yn eich llyfrau ysgol am ragor o'i hanes, a'r chwedlau diddorol sydd gysylltiedig ag ef. Ofnwn hefyd y gorfodir ni i orffen y bennod heb ddywedyd y cyfan a ddylid am ddeheudir Affrica, oblegid yr ydym am i chwi wybod bod dynion yn codi yn y cyfandir mawr hwn sydd deilwng o barch ac edmygedd.
ZWEGGIR AGGREY
Yn y bennod gyntaf buom yn ymdrin â dyn y Kalahari a gwelsom ei ragoriaethau ef. Dyma hanes un arall ohonynt—Zweggir Aggrey. Ganwyd Zweggir Aggrey yn Anambu ar y Gold Coast tua hanner can mlynedd yn ol. Yr oedd yn un o'r rhai duaf o blant Affrica.
Pan yn fachgen nid oedd yn wahanol i blant duon eraill Affrica. Yr oedd yn llawn direidi ac anturiaeth. Hoffai ymdrochi'n y môr, a gallai

nofio bron fel pysgodyn. Ni wyddai beth oedd ofn, a phe gellid cael sgwrs ag ef heddiw yr wyf yn sicr y cawsem ambell stori ddifyr am beryglon ymdrochi mewn môr sydd yn enwog am sharks.
Yr oedd ef a nifer o'r bechgyn wedi bod yn ymdrochi un tro ac yn siarad a'i gilydd ar y tywod poeth beth oeddynt am fod pan dyfent yn ddynion. Soniai rhai am orchestion yr heliwr a'r modd gorau i ladd llew a llewpard. Yr oedd un neu ddau am eu henwogi eu hunain trwy gasglu arian a pherchen llawer o wartheg.
Un borau yr oedd stwr mawr ym mhentref Anambu. Yr oedd Zweggir yn gadael ei gartref ac yn croesi'r môr mawr i chwilio am wybodaeth. I'r America yr aeth, i ysgol Booker Washington, yn Tusgagee.
Ni bu yno'n hir. "Y mae'r bachgen hwn yn llawn athrylith" meddai ei athro. Ymysg pethau eraill, dysgodd argraffu a daeth yn enwog fel newyddiadurwr, oblegid, er ei fod yn hannu o deulu brenhinol ni allai fforddio heb weithio. Yna aeth i brif ysgol Columbia ac yno graddiodd yn Ph.D. a D.D. yn ogystal ag ennill deg o raddau eraill.
Cafodd lawer cynnig i aros yn America ond credai Zweggir mai dychwelyd i'w wlad ei hun ydoedd ei ddyletswydd. Dyheai ef am weled y dyn du yn Affrica yn cael ei gyfle ac fe'i cyflwynodd ei hun i roddi ei orau dros ei wlad a'i genedl.
Heb golli ei edmygedd o'r dyn gwyn credai yn y dyn du. Fel hyn y dywedodd un amdano.
"Dr. Aggrey was the finest interpreter the present century has produced of the white man to the black and the black to the white."
Cafodd lawer o achos i suro oherwydd ymddygiad rhai dynion gwynion tuag ato, ond ni chwynai byth. Yr oedd yn Gristion diamheuol, a hyd ddiwedd ei yrfa bu'n ffyddlon i'r Cenhadon fu'n garedig iddo yn nyddiau ei ieuenctid.
Ymhen amser, penodwyd ef yn Athro yng Ngholeg Tywysog Cymru yn Achimota—un o golegau mwyaf poblogaidd y byd. Tywysog Cymru ei hun a agorodd y Coleg, a dywedir iddo aros am awr gyfan i ymddiddan â Dr. Aggrey. Y mae'n debig i'r Tywysog ddysgu mwy am wir feddwl a dyhead y dyn du yn ystod yr awr honno nag a wnaeth ar ei holl deithiau yn y Cyfandir mawr.
Meddyliodd rhai y dylid gwybod mwy am y ffordd i addysgu brodorion Affrica a phenodwyd Comisiwn i'r perwyl hynny. Cymro yn hannu o Sir Fon, ond yn byw yn America, oedd prif aelod y Comisiwn hwn, sef Dr. Jesse Jones,[1] ac yr oedd Dr. Aggrey yntau'n aelod gwerthfawr a dylanwadol o'r cyngor pwysig hwn.
Yn ystod gwyliau'r Coleg gwelid ef yn fynych yn ymweled â'r America; ac â Phrydain.
Dyn cymharol fyr ydoedd, â gwefusau llawn a'i wallt yn gyrliog, a'i ddanedd yn wynion, a phob amser yn gwenu: fel y rhoddwyd iddo'r enw: Africa's Apostle of laughter."
Un tro, pan yn annerch cyfarfod yn Mhrydain dywedodd: "Yr wyf yn hoffi gwlad y dyn gwyn, yn mwynhau ei ganu melys, a'i gerddoriaeth odidog; ond sylwaf ar un peth: nid yw'r dyn gwyn byth yn gallu canu tôn gyflawn ar y piano heb ddefynddio'r keys duon a gwynion gyda'i gilydd."
Gresyn fawr o'r dyn da diamheuol hwn. Er bod ganddo ddeuddeg o raddau, yr oedd bob amser yn wylaidd a gostyngedig. Ni wn am ddim a eglurai ei fuchedd yn well na'r adnod honno
"Gwyn eu byd y rhai addfwyn."
Wrth deithio mewn llong i'r America bu raid iddo eistedd wrth fwrdd ar wahan. Dyn du ydoedd ac ni fynnai'r bobl wynion gyd-fwyta ag ef.
Pan osodwyd bwyd iddo wrtho'i hun, chwarddodd a dywedodd: "Popeth yn iawn. Caf innau ddyn i mi fy hun i arlwyo fy mord."
STORI II
Y GOEDEN FAWR A'R GORSEN YSIG
AFFRICA yw'r wlad fwyaf yn y byd, ac eto o'i chymharu â gwledydd eraill, nid oes ynddi ond ychydig iawn o drefi mawrion. Fel gwlad, y mae'n ddigon mawr i gynnwys Ewrop, China, India, America ac Asia, ac nid oes un dref ynddi gymaint a Lerpwl. Ond y mae'n enwog am ei diffeithwch a'i llynoedd a'i hafonydd, ac yn neilltuol am ei choedwigoedd. Meddyliwch am goedwig gymaint dair gwaith a Phrydain, a phob math ar goed yn tyfu ynddi— Eboni du a mahogani coch, derw cryf a'r gorsen ysig. Yma y mae'r teigr a'r eliffant, y llewpard a'r iaguar, yr hyena a'r blaidd yn cartrefu, a mil a mwy o greaduriaid eraill, rhai mawr a rhai bach, yn byw. Y mae pobl hefyd yn byw yn y coedwigoedd: rhai tal, rhai byr, rhai duon, rhai melynddu, rhai â gwefusau tewion a gwallt cyrliog, rhai heb fod yn wahanol iawn i ni ar wahan i liw eu croen
Byddai'n ddiddorol i ddywedyd am y glöyn byw a'r symudliw, am yr ourang—outang a'r mwnci bach, am y nadroedd a'r adar, ac am y creaduriaid bach sydd yn gallu eu gwneuthur eu hunain i ymddangos fel darn o bren a dail y coed.
Un tro, aeth yn ddadl boeth rhwng derwen fawr a chorsen ysig ar lan afon ar gyrrau rhyw goedwig fawr.
Yr oedd y goeden mor falch ac yn meddwl cymaint ohoni ei hun ac yn dywedyd cymaint o bethau cas wrth y gorsen fain nes peri loes a phoen i'r gorsen.
"Gorsen fach fain" meddai, "pe byddai raid i mi fyw fel ti, gofynnwn i'r Creawdwr fy symud o'r ffordd. Yr wyt yn fain ac yn deneu, a byddai un chwythiad mawr o wynt yn ddigon i'th ddifetha am byth. Ond amdanaf fi, yr wyf yn fawr a thew. Yn fy nghangennau y mae digon o le i'r adar i wneuthur eu nythod ac i'r iaguar i orwedd yn gysurus."
"Eithaf gwir," meddai'r gorsen, "ond y mae gennyf finnau hefyd fy rhinweddau ond nid ydynt i'w cymharu â'ch rhai chwi."
"Gwir a ddywedaist gorsen fach, ond prin y gallaf weled dy rinweddau di ychwaith. Ni elli di roddi lloches hyd yn oed i'r mwnci bach, a phrin iawn y gall adar y goedwig orffwys arnat."

Un diwrnod yr oedd Storm fawr yn y goedwig. Tywalltai'r glaw, rhuai'r taranau, disgynnai'r mellt, a chwibanai'r gwynt gymaint fel y daeth arswyd ar holl greaduriaid y goedwig. Plygai'r gorsen, yn awr un ffordd, ac yn awr ffordd arall, ac wedi plygu safai drachefn, ond nid ysgogai'r goeden ddim.
"A oes ofn y storm arnat gorsen fach wan?" meddai'r goeden. "Paham na sefi yn gadarn fel myfi?" Gyda iddi ddywedyd y frawddeg dyna chwythiad ofnadwy o wynt, a gwelodd y goeden ei hun yn diwreiddio'n araf, a chyn pen ychydig eiliadau yr oedd yn gorwedd fel peth marw wrth ochr y gorsen.
Edrychodd y goeden i fyny a gwelodd y gorsen yn sefyll fel pe na bai dim wedi digwydd.
"Beth sy'n bod, gorsen fach?" meddai'r goeden fawr. Yr wyf fi yn gorwedd i lawr ac ni allaf symud."
Na, na," meddai'r gorsen. "Os am sefyll yn wyneb storm rhaid dysgu plygu tipyn ambell dro."
STORI III
STORI'R LLEW
UN tro amser maith maith yn ôl, cyn bod gynau a chyn i'r dyn du weled dyn gwyn, aeth dau ddyn du i hela. Pelotona oedd enw un a Lobelo oedd y llall. Yr oedd Pelotona yn wrol ac nid ofnai ddim, ond llwfrgi, oedd Lobelo. Tra'r oeddynt wrthi'n hela daethant yn sydyn ar draws clamp o lew, a chydiodd Pelotona yn ei gynffon gan alw ar Lobelo i'w ladd â'i waywffon: ond yr oedd Lobelo ymhell o'r cyrraedd yn rhedeg adref am ei fywyd.
Cysgodd Lobelo yn dawel yn ei fwthyn hyd doriad y wawr, a phan ddeffrodd dechreuodd feddwl am ei gyfaill Pelotona ac meddai wrtho'i hun,
Gresyn iddo fynd fel yna hefyd; ond yr oedd o'n rhy fyrbwyll. Druan o Pelotona. Yr oedd ganddo ddwy waywffon ardderchog a byddai'n dda gennyf eu cael hwy. Âf i chwilio amdano, ac o leiaf deuaf â'r gwaywffyn yn eu hôl. Fe allai hefyd y gwelaf rai o esgyrn fy nghyfaill a deuaf â hwynt i'w claddu'n barchus gyda'i dadau."
Pan gyrhaeddodd Lobelo y lle y cyfarfuasant â'r llew, er syndod mawr iddo, gwelodd ei gyfaill Pelotona yn fyw, ac yn dal ei afael yng nghynffon y llew.
'O," meddai Pelotona wrth Lobelo, "ti sydd yna." Yr wyf wedi tynnu wrth ei gynffon mor galed trwy'r nos nes blino'r hen walch yn lân. Cymer y waywffon a thrywanha ef."
Cydiodd Lobelo yn y waywffon a neshaodd yn ofnus at y llew.
"O twt," meddai Pelotona. "Tyrd yma. Cydia yn ei gynffon. Os fel yna 'rwyt yn myned i ladd llew, ni wnei ond ei gynddeiriogi a chawn ein dau ein lladd. Dal ei gynffon: mi â'i gorffennaf mewn eiliad."
Cydiodd Lobelo, y llwfrgi, yng nghynffon y llew a chymerodd Pelotona y ddwy waywffon. Yna safodd yn ei ôl fel pe bai yn myned i drywanu'r llew. Ond yn gyntaf trodd at ei bartner llwfr ac meddai: "Ti a'm gadewaist drwy'r nos. Tebyg dy fod yn meddwl fy mod wedi cael noswaith esmwyth. Yn awr dyma ti'n cael cyfle i wybod pa fath deimlad ydyw. Dal ati i afael wrth ei gynffon. Dydd da," a chyda hyn gadawodd Pelotona Lobelo i fentro ei siawns gyda'r llew.

STORI IV
Y LLWYNOG A'R CI
UN diwrnod, aeth clamp o gi am dro o'r dref i ganol y wlad ac ar ei ffordd digwyddodd ddyfod ar draws hen lwynog cyfrwys. Cyfarchodd y llwynog y ci ac atebodd yntau mor foneddigaidd ag y gall ci fod yng nghwmni llwynog. Cyn hir dechreuodd y llwynog holi, ac meddai wrth y ci: "Ci o'r dref mae'n debyg?"
"Ie," ebe'r ci.
"Beth yw eich neges yng nghanol y wlad fel hyn, ar eich pen eich hun, heb neb i ofalu amdanoch?" "O," cyfarthai'r ci yn ei ôl, " dim ond dyfod am dro i weled pa fath le sydd yn y wlad."
"Felly'n wir," meddai'r llwynog. "Nid i hela a chwilio am fwyd?
"Na, choelia'i fawr " ebe'r ci, "nid oes eisiau imi hela, y mae gennyf le rhy dda yn y dref."
"O'n wir," ebe'r llwynog. "Dywedwch, beth ydych yn ei gael i'w fwyta yn y dref?"

"O! cig faint a fynnaf a llawer o o ddanteithion eraill hefyd. Deuwch gyda mi i'r dref a chewch chwithau hefyd gymaint o'r pethau da fel y deuwch chwithau yn fuan iawn yn greadur golygus."
"Diolch yn fawr," ebe'r llwynog. "Yr ydych yn garedig dros ben": ond tipyn yn amheus ydoedd hefyd.
"Peidiwch ag ofni," meddai'r ci, "mi drefnaf fi bob peth fel na bydd raid i chwi bryderu dim o gwbl. Dilynwch chwi fi, dyna'r cyfan."
"Or gorau ynteu," meddai'r llwynog. "Ewch chwi yn gyntaf ac mi a'ch dilynnaf chwi, ac ni byddaf ymhell ar ôl chwaith. Gwyddoch nad wyf fi byth yn fy ngwthio fy hun, creadur bach swil iawn ydwyf fi; ond os gwelwch chwi ddarn go dda o gig, cyferthwch a deallaf fod bwyd i'w gael."
"Gwrandewch," meddai'r ci. "Mi redaf i i'r dref a phan welaf ddarn go flasus o gig gwnaf sŵn fel hyn "wai—ai "." "Reit" meddai'r llwynog, i ffwrdd â chwi." Ar hynny dyma'r ci yn rhedeg nerth ei draed yn ei ôl i'r dref a'r llwynog cyfrwys yn dilyn, ond nid yn rhy agos.
Aeth y ci i lawr ryw stryd hir a daeth at dŷ lle'r oedd gŵr, clamp o ddyn mawr cryf, yn hogi ei waywffon â charreg. Dechreuodd y ci redeg yn ôl a blaen â'i drwyn wrth y ddaear yn arogli popeth, ac meddai wrtho'i hun: "Rwyn siwr y deuaf ar draws darn o gig cyn hir."
"Yr hen walch drwg," meddai'r dyn oedd yn hogi'r waywffon â charreg. Beth wyt ti yn ei 'mofyn yma, â'th drwyn ym mhob peth?" Taflodd y garreg at y ci nes ei daro rhwng ei asennau. Wai—ai," meddai'r ci dros yr holl le gan neidio i'r awyr ac i ffwrdd ac ef nerth ei draed a'i gynffon rhwng ei goesau, yn cyfarth ac yn gweiddi.
Mae'n wir iddo weiddi wai—ai," meddai'r llwynog, "ond fentra i ddim, chwaith y tro yma," ac yn ei ôl ag ef ar garlam gwyllt i'w ffau yn y wlad. Dyma'r tro olaf i neb weled llwynog yn y dref a dyma'r tro olaf hefyd i gi mawr y dref fynd ar ei ben ei hun i'r wlad.
STORI V
Y BWYD NEWYDD
ERS talwm iawn iawn, hynny yw, gannoedd lawer o flynyddoedd yn ôl yr oedd holl drigolion y ddaear yn byw fel y mae pobl y goedwig a'r diffeithwch yn byw heddiw. Nid oeddynt nac yn hau nac yn medi. Eu prif waith, yn wir eu hunig waith, oedd hela a chasglu'r ffrwythau gwyllt a ddigwyddai dyfu yn eu gwlad.
Ac yn y cyfnod pell iawn yma, yr oedd pennaeth yn byw yn Affrica a elwid Ababa. Ystyr Ababa yw Tad.
Yr oedd gan Ababa lawer iawn o blant yn feibion a merched a hefyd nifer lled dda o weision. Yr oedd ganddo nifer o wartheg; ond ni ellid ei alw yn gyfoethog nac ychwaith yn dlawd.
Ond yr oedd un peth da i'w ddywedyd amdano. Yr oedd yn barchus gan ei bobl am ei fod yn bennaeth cyfiawn a charedig. Dywedir na bu iddo erioed droi dyn newynnog i ffwrdd heb fwyd, ac yr oedd yn enwog am ei haelioni ym mhob

achos da. Dywedai'r bobl amdano: "Y mae'n dad mewn gwirionedd i bob un ohonom."
Un diwrnod aeth gwartheg Ababa ar gyfeiliorn a bu raid iddo ef a'i feibion fyned ledled y wlad i chwilio amdanynt. Ababa a'u gwelodd gyntaf. Yr oeddynt yn pori'n hamddenol ar lan afon fawr sydd yn enwog iawn heddiw, sef yr afon Zambesi.
Sylwodd y pennaeth fod ei wartheg yn berffaith hapus a graenus ac yn bwyta rhywbeth oedd yn hollol newydd iddo ef. Ar y cyntaf meddyliodd mai math o gorsen ydoedd, a'i bod yn fain ac eiddil o herwydd prinder dŵr. Dro arall, meddyliai mai math o welltglas ydoedd, am ei fod yn debyg i ryw blanhigyn y clywodd amdano yn y gogledd. Modd bynnag, nid oedd neb yn y wlad wedi gweled y fath beth o'r blaen. Yr oedd tywysen arno, ac yn y dywysen yr oedd hadau, ac yr oedd y planhigyn o bump i chwe troedfedd o uchter. Casglodd y pennaeth y tywysennau ac aeth â hwynt adref, gan alw ei wraig i weled bwyd newydd y gwartheg, ac wedi iddynt ei chwilio mor fanwl ag y medrent hwy yr adeg hynny, meddai'r wraig:
"Gadewch i mi eu sychu a'u malu rhwng y cerrig. Feallai y byddant yn fwyd da i ninnau hefyd."
Mabana oedd enw gwraig y pennaeth, ac yn ôl yr hanes yr oedd nid yn unig yn wraig i ddyn mawr a phwysig, ond yr oedd hithau hefyd yn ferch gall a synhwyrol. Wedi malu'r hadau rhwng y cerrig profodd hwynt ac meddai: Y maent yn dda, ond yn galed. Ys gwn i beth a ddigwyddai pe rhoddwn hwynt mewn dŵr berwedig?" Gwnaeth hynny ac meddai: "Dyma welliant, ond tipyn yn galed ydynt eto hefyd: mi a'u berwaf." Yr oeddynt mor dda fel y galwodd Mabana ei fawrhydi y pennaeth i'w profi.
"Dyma fwyd newydd a da," meddai. "Yr wyf fi wedi ei brofi, a dyma'r bwyd gorau a gefais erioed." Yna cyfranogodd y pennaeth ohono, ac yr oedd llawenydd mawr ymysg y llwyth am iddynt ddarganfod bwyd newydd.
Bob blwyddyn âi'r pennaeth a'i bobl i lan yr afon fawr i gasglu'r hadau, oblegid yr oedd llawer ohonynt erbyn hyn wedi profi'r bwyd newydd ac yr oedd fel amheuthion melys iddynt hwy.
Un gaeaf, pan oedd bwyd yn brin iawn yn y wlad, aeth y pennaeth a'i bobl i hela yn y diffeithwch, ac yn yr helfa clwyfwyd Gemsbok, math o antelope mawr a chryf sydd i'w weled yn aml yn neheudir Affrica. Tebyg i ful ydyw o ran maint, ac y mae ei gyrn hir a miniog yn ei wneuthur yn greadur gwir beryglus. Y mae hanes amdano yn lladd hyd yn oed lew. Wedi ei glwyfo aeth y pennaeth ymlaen i'w orffen â'i waywffon; ond er ei syndod neidiodd y Gemsbok a rhuthrodd at y pennaeth a lladdodd ef yn y fan. Yr oedd galar mawr ymysg y llwyth pan gyhoeddwyd y newydd prudd fod y pennaeth da wedi marw, a dywedir bod hyd yn oed y rhai nad oeddynt yn gallu wylofain wedi gwlychu eu llygaid gymaint fel y meddyliai pawb eu bod yn galaru.
Wedi rhai dyddiau daeth tyrfaoedd ynghyd i'r angladd, a chan mai pennaeth oedd wedi marw, credent y gallai ei ysbryd eu cynorthwyo a'u hamddiffyn, ac y deuai bendith a daioni iddynt os aberthent iddo. A hyd yn oed pe na allai ef ei hun ateb eu hymbil, yr oedd mor hawddgar a da pan yn fyw, fel y gwyddent y gwnai bopeth posibl i ddyfod o hyd i ryw un ym myd yr ysbrydion a fedrai wneuthur hynny.
Yr oedd ganddynt y fath ffydd yn eu pennaeth fel y meddylient yr elai ef oddiwrth un hynafgwr at hynafgwr arall hyd nes yn y diwedd ddyfod at y cyntaf i gyd, sef tad a chreawdr pob dyn.
Ar ôl yr angladd, a llawer o seremoniau ac aberthu, ymgasglodd tylwyth y pennaeth ynghyd i ystyried y modd gorau i anrhydeddu coffadwriaeth eu tad.
Modi, y mab hynaf, oedd ar yr orsedd yn awr, ac meddai: "Yr ydym yma i anrhydeddu coffadwriaeth ein tad. Y mae rhai pennaethiaid enwog wedi eu claddu ac y mae'r teulu wedi dodi cerrig mawrion ar eu beddau. Pa beth a wnawn i ddangos ein parch i'n tad, yr hwn oedd mor hawddgar a phoblogaidd? O blant Ababa, yr wyf yn barod i dderbyn eich awgrymiadau."
Wedi peth ymddiddan, a gofyn rhai cwestiynau, cododd Mabele, merch hynaf Ababa, ar ei thraed ac meddai: "Blant Ababa, gwyddom oll mor annwyl a pharchus gan bawb oedd ein tad, ac yr oedd mor garedig i'w blant fel y dylem gofio ei weithredoedd da. Nid dyn cyffredin oedd ein tad ni. Cyflawnodd lawer o bethau a'i gwnelai yn ddyn mawr. Ond y peth yr wyf fi yn ei gofio orau am dano yw iddo ef ddarganfod y bwyd newydd; a hynny pan yr oedd y bobl yn dechrau blino ar yr aeron, a'r gwreiddiau. Fy ngair i yw hyn: Gadewch inni anfarwoli coffadwriaeth ein tad fel y gŵr a ddarganfu'r bwyd newydd sydd mor dderbyniol gan bawb yn y wlad.
Felly, dodwn ar ei fedd, hadau'r bwyd newydd, a bydd hyn yn arwydd nad ydym wedi ei anghofio, ond ein bod bob amser yn anrhydeddu ei goffadwriaeth. Dyma fy ngeiriau i."
Yna safodd Modi, pennaeth y llwyth, ac meddai: "Yr wyf yn cydfyned ag awgrym Mabele, ac yn gorchymyn i'r hadau gael eu dodi ar fedd ei fawrhydi ein diweddar dad, a thrwy hyn cedwir ei goffadwriaeth yn fyw yn ein mysg.'
Mabele oedd i gael yr anrhydedd o ddodi'r hadau ar y bedd; a daeth rhywbeth drosti i ddywedyd y dylai balu tipyn cyn hau, rhag i'r adar ddyfod a bwyta'r hâd.
Nid oedd ganddi offer ar gyfer palu fel sydd gennym ni. Torrodd gangen coeden a rhwbiodd hi ar garreg nes cael blaen miniog arni, ac â hon y llwyddodd i wneuthur rhyw lun o balu. Yna gwasgarodd yr hadau.
"Mabele," meddai Modi, "yr ydych wedi gwasgaru'r hadau, beth am yr adar? Deuant yma i'w bwyta oni wneir rhywbeth i'w cuddio." "Dodaf bridd i'w cuddio" ebe Mabele, ond ni wyddai o gwbl ei bod wrth wneuthur hynny yn cyflawni gweithred oedd yn sicr o newid cyflwr bywyd y wlad.
Wedi rhai misoedd daeth y glawogydd, ac er syndod i bawb yr oedd y bedd a'r tir o'i amgylch yn lâs i gyd, a meddyliai pawb fod bedd Ababa yn dlysach nag unrhyw fedd yn y wlad. Ond cyn hir gwelodd y bobl y planhigion bach glâs yn tyfu fel y bwyd ar lan yr afon, a chyn pen ychydig wythnosau yr oedd tir fel cae ŷd mawr a'r tywysennau'n llawer mwy na'r rhai a gesglid ar lan yr afon.
Meddai Mabele: "Y mae ein tad yn ein bendithio am inni anrhydeddu ei enw drwy ei gydnabod fel darganfyddwr y bwyd newydd." A dyma, meddai traddodiad, y modd y daeth pobl Affrica i ystyried y Kaffir corn fel bwyd gorau'r wlad.
STORI VI
Y LLWYNOG A'R HWYADEN
UN diwrnod daeth llwynog at lan llyn mawr i yfed dŵr. Yr oedd arno gymaint o eisiau diod fel y meddyliai y byddai yn berffaith hapus a bodlon pe gallai dorri ei syched. Ond wedi yfed y dŵr daeth chwant bwyd arno; ac wrth syllu â'i lygaid craff gwelodd hwyaden braf yn nofi'n hamddenol ar wyneb y dŵr. Nid oedd gan y llwynog ryw feddwl uchel iawn o hwyaid dŵr, er y gwyddai'n iawn eu bod yn dda i'w bwyta.
Y gwirionedd yw, ni theimlai'r llwynog ei hun yn berffaith gartrefol yn y dŵr.
Gallai nofio, y mae'n wir, fel y medr pob anifail wneuthur, ond ni allai ddangos ei gyfrwysdra yn y dŵr fel y gallai ar y tir. Modd bynnag yr oedd cymaint o eisiau bwyd arno y tro hwn fel y teimlai fod yn rhaid mentro; a dechreuodd gynllunio.

Yn ei ymyl yr oedd darn cul o dir yn ymestyn ychydig lathenni i'r dŵr, nid tir mohono chwaith, ond llaid. Gwthiodd y cnaf cyfrwys ei ffordd yn hwn mor bell ag y gallai a chymerodd arno fod mewn perigl. Galwodd ar yr hwyaden i'w helpu a meddai: "O Meistres Hwyaden, dewch i'm helpu!
"'Rwyf wedi glynu yn y llaid, ac ni allaf symud!" Nofiai'r hwyaden falch heb wneuthur unrhyw sylw o'r llwynog. Yna dechreuodd y llwynog wenieithio iddi a dywedyd: "Gwyddoch Meistres Hwyaden fel yr wyf bob amser yn edmygu eich adenydd tlws: y maent mor gryf a phrydferth. Sylwais arnoch yn hedfan dros y llyn, ac ni welais aderyn tlysach erioed—a'r modd urddasol y disgynasoch ar y dŵr oedd y peth tecaf a welais i erioed."
"A! yr hen walch!" ebe'r hwyaden: "Mi hoffet ti fy mwyta, 'rwyn gweled: dydd da."
"Sut y gellwch feddwl y fath beth Meistres Hwyaden, a minnau yn edmygwr o honoch ar hyd f'oes? Dewch yn nes i helpu creadur tlawd mewn gwir berigl: un na all ei achub ei hun, llawer llai gwneuthur niwed i un y mae yn ei hoffi mor fawr."
"Er hynny, frawd, y mae arnaf dy ofn " ebe'r hwyaden; "ond os wyt am ddyfod yn rhydd o'r llaid, gwna fel hyn," a lledodd ei hadenydd gan eu hysgwyd ar y dŵr.
"Ol unwaith eto" meddai'r llwynog cyfrwys, "y mae mor dlws." Ac yr oedd yr hwyaden mor falch o'i hadenydd, ac mor barod i'w dangos ei hun fel yr anghofiodd gyfrwysdra'r llwynog. Tra'r oedd hi'n brysur yn dangos ei phranciau ar y dŵr symudodd y llwynog yn nesnes ati ac fel yr ysgydwai ei hadenydd heb edrych o'i chwmpas cydiodd y llwynog ynddi. A dyna ddiwedd yr hwyaden.
STORI VII
KOBE A'R TABWRDD
RYW dro, yr oedd merch fach yn byw gyda'i thad a'i mam mewn pentref ar lan un o afonydd mawr Affrica.
Yr oedd ganddi un brawd, ac un chwaer. Yr oedd y brawd, er yn llawer hŷn na hi, yn hoff iawn o'i chwaer fach. Gofalai amdani ymhob modd, yn enwedig pan elai i chwarae ar lan yr afon. Ofnai iddi syrthio i mewn a chael ei llarpio gan un o'r crocodiliaid.
Yr oedd iddi chwaer hefyd dipyn yn hŷn, ond nid oedd hi yn byw gyda'i thad a'i mam er pan oedd yn dair ar ddeg oed. Yr oedd yn briod â'r pennaeth—hynny yw, yr oedd yn un wragedd y gŵr mawr hwnnw.
Pan oedd Mundi yn ddeuddeng mlwydd oed anfonodd yr un pennaeth gennad at ei thad gydag anrhegion lawer; nid am ei fod yn hoff ohono, ond am y ceisiai'r ferch fach hon hefyd yn wraig iddo.
Ni ofynnwyd caniatad Mundi o gwbl. Yr oedd yr holl ymddiddan rhwng y tad a'r cennad. Gan

mai pennaeth oedd am ei chael, â'r anrhegion yn fwy na'r hyn a gawsai gan neb arall, cydsyniodd y tad, a dychwelodd y cennad â'r newydd.
Pan dorrodd y tad y newydd i Mundi nid oedd ond un peth yn achosi pryder a gofid iddi—pa fodd i adael ei brawd?
Gwyddai y rhoddai ei thad hi yn wraig i rywun, rywbryd, heb ofyn ei chaniatad o gwbl. Gallasai y rhywun hwnnw fod yn fwy dieithr na'r pennaeth. Heblaw hynny, yr oedd ei chwaer eisoes yn wraig iddo, a meddyliai y cawsai ei chwmni a'i chynorthwy hi.
Ond yr oedd rhywbeth yn anesmwytho meddwl Mundi. Teimlai y dylai ymgynghori ag un o'r swynwyr.
Dewisodd hen ŵr oedd yn byw heb fod ymhell o'r pentref ac yn enwog am ei fedr i ddehongli breuddwydion a dywedyd ffortiwn. Nid oedd yr hyn a ddywedodd y gŵr pwysig hwnnw yn galonogol iawn i Mundi. Yr oedd i gael un llawenydd mawr a dim ond un. Nid oedd i ddychwelyd byth yn ei hôl i'r hen gartref. Dyna'r cyfan oedd ei neges ef.
Ni wyddai Mundi yn iawn beth i feddwl o'r swynwr a'r hyn a ddywedodd. Yr oedd ei thad wedi derbyn anrhegion y pennaeth, a doed a ddelo yr oedd yn rhaid myned. Ymhen amser daeth y diwrnod iddi adael ei rhieni am ei chartref newydd yn nhref y pennaeth.
Diwrnod mawr oedd hwnnw yn y pentref Daeth y cantorion ynghyd yn gwisgo pob math ar blu a chrwyn anifeiliaid gwylltion i ganu'n iach i Mundi. Ffurfiwyd gorymdaith fawr, ac er bod pob cam o'r ffordd yn orfoledd iddynt hwy, yr oedd Mundi yn pryderu llawer. Ni allai anghofio yr hyn a ddywedodd y swynwr wrthi rai misoedd cynt.
Yn yr orymdaith fawr yr oedd y gwragedd a'r cantorion ar y blaen a'r dynion a'r perthnasau yn dilyn. Dichon mai dyma paham y dywedir "Ni awn tan ganu." Tan ganu a gweiddi a bloeddio a dawnsio yr aethant hwy. Nid oeddynt wedi myned ymhell cyn cwrdd â thorf arall yn dyfod o gyfeiriad tref y pennaeth. Yr oedd ei bobl ef hefyd wedi ffurfio gorymdaith i gwrdd â'r wraig newydd, a mawr oedd y stŵr ar hyd y ffordd, nes derbyn Mundi i balastŷ ei gwr.
Ar y dechrau aeth popeth yn eithaf hwylus yn nhref y pennaeth. Yr oedd ef yn hoff iawn o Mundi ac yn garedig dros ben iddi. Ond ni pharhaodd hynny'n hir. Dechreuodd y gwragedd eraill eiddigeddu, ac yr oedd dyddiau blin a garw o flaen Mundi druan.
Ymhen amser ganwyd mab iddi, ac yr oedd llawenydd y fam fach a'r pennaeth yn anhraethol fawr yn awr. Yr oedd ganddynt fab. Benjamin bach wedi dyfod i'r palastŷ. mab wedi ei eni daeth Mundi i fwy o ffafr yng ngolwg y pennaeth nag erioed. Fel y dangosai ef ei serch tuag at Mundi felly hefyd y cynhyddai eiddigedd y gwragedd eraill. Ac yr oedd ei chwaer cynddrwg a neb ohonynt. Modd bynnag, penderfynodd Mundi ddioddef y cyfan heb ddywedyd dim wrth neb. Daliodd felly am nifer o flynyddoedd, nes bod y mab yn ddigon mawr i gael darn o liain coch am ei wregys.
Nid oedd hyd yn hyn wedi gwisgo dim o gwbl. Hon oedd ei siwt gyntaf. Clywodd rhai o'r gwragedd fod Mundi yn bwriadu cael darn o liain coch yn wisg i Kobe'r mab. Yr oedd ganddo enw hefyd erbyn hyn. Ymgynghorasant beth fyddai orau iddynt hwy ei wneuthur. Yr oedd ganddynt hwythau blant ac nid oeddynt am i fab Mundi gael dim yn well na'u plant hwy. Ebe un o'r gwragedd: "Anfonwn negesydd i'r dref fawr ar lan y môr i brynu digon o liain coch ar gyfer y bechgyn i gyd."
"Da iawn," ebe'r gwragedd eraill: "dyna gynllun rhagorol."
Clywodd Mundi am hyn ac aeth at ei chwaer i ddywedyd ei bod am i Kobe gael gwisg goch fel y bechgyn eraill, ac am iddi ofyn i'r negesydd ddyfod a digon ar ei gyfer ef hefyd.
O'r gorau," meddai'r chwaer, oblegid nid oedd am ddangos ei heiddigedd yn allanol.
Wedi rhai wythnosau daeth y negesydd yn ei ôl a'r lliain coch gydag ef, a mawr oedd y cyffro ymysg y gwragedd a'r plant hefyd. Mesurwyd y lliain, ac yr oedd yno union ddigon ar gyfer pawb ond Kobe, a chan mai efe oedd yr ieuengaf, efe hefyd oedd yr olaf i gael ei ddewisiad. Mesurwyd a mesurwyd y lliain ond i ddim pwrpas. Nid oedd ond prin ddigon ar gyfer y lleill.
Tra'r oedd y gwragedd yn brysur yn mesur ac yn torri, yr oedd mwnciod yn chwarae ar ganghennau'r coed yn ymyl, ac yn sylwi'n graff arnynt yn dadlau ynghylch y lliain.
Y mae'r hyn a ddigwyddodd wedyn yn ddirgelwch. Pa un a adawyd y lliain y tuallan tra bu'r gwragedd yn coginio'r uwd, ni wyddom.
Ond hyn sydd sicr: pan ddaethant yn eu hôl yr oedd y lliain wedi diflannu, ac ni wyddai neb i ble. Chwiliwyd a chwiliwyd ond nid oedd dim golwg O'r diwedd cyhuddwyd Mundi o ladrata neu o ddinistrio'r lliain.
Gwadodd Mundi hyn yn bendant, ac awgrymodd mai'r mwnciod oedd y lladron. Ond ni wrandawai'r swynwr ar ei hesboniad hi. Heb os nac oni bai, yr oedd y gwragedd wedi talu'n dda iddo am ei waith. Condemniodd Mundi i brofi ei diniweidrwydd trwy yfed gwenwyn, a sefyll ei phraw ar doriad y wawr.
Meddai Mundi wrthi'i hun: "Yr oedd y swynwr yn yr hen gartref yn eithaf iawn. Un llawenydd oeddwn i'w gael ac nid oeddwn i ddychwelyd adref mwy. Dyma ei eiriau wedi dyfod yn wir." Clywodd Kobe fod ei fam i yfed gwenwyn ar doriad y wawr, ac ni wyddai beth i'w wneuthur. Meddyliodd yn ddistaw ynddo ei hun na chawsai ei yfed. Yr oedd wedi dysgu er pan yn faban bron i guro'r tabwrdd. Yr oedd nifer ohonynt at wahanol amgylchiadau yn nhref y pennaeth, ac yntau'n gyfarwydd â phob un. Chwiliodd am y tabwrdd a allai siarad, y tabwrdd a ddefynddid i yrru negesau o un pentref i'r llall.
Heb ddywedyd un gair wrth neb, daeth Kobe o hyd iddo a rhedodd ag ef i'r goedwig. Dringodd i ben coeden a dechreuodd guro, gan obeithio y clywai ei ewythr a phobl ei fam. Ystyr y neges a gurai ar y tabwrdd ydoedd:
'Ewythr a pherthnasau dewch i achub fy mam." Drwy'r nos eisteddodd Kobe yn y goeden gan barhau i guro'r tabwrdd. Ond ni ddaeth neb.
Pan ddechreuodd y wawr dorri aeth Kobe bach yn ddigalon iawn. Meddyliai nad oedd gobaith mwy yr achubid ei fam. Yr hyn a'i poenai'n awr oedd ei fod wedi ei gadael wrthi ei hun trwy'r nos, ac nad oedd yn bresennol i ffarwelio â hi cyn iddi yfed y gwenwyn.
Yr oedd y pennaeth a chwaer Mundi wedi deffro yn fore y diwrnod hwnnw. Nid oedd y pennaeth yn fodlon o gwbl ar waith y swynwr, ond ni feiddiai, hyd yn oed efe wrthwynebu. Ond yr oedd ei chwaer mor eiddigeddus ei hysbryd fel y gobeithiai na ddigwyddai dim i rwystro Mundi i yfed y gwenwyn.
"Ust! Clywch," meddai wrth y pennaeth. "Y mae rhywun yn curo'r tabwrdd yn y goedwig. Y mae'n dywedyd enw fy mrawd, ac yn ei alw ef a'r dynion i achub fy chwaer. Os yw i aros ei phraw, dylid myned ati ar unwaith."
Nid cyn i'r wawr dorri," meddai'r pennaeth. "Dyna eiriau'r swynwr." Torrodd y wawr, ac erbyn hyn clywai pawb sŵn y tabwrdd yn y goedwig, a daeth braw arnynt. Cerddai'r swynwr yn ôl a blaen yn gyffrous. Galwai am hyn, a gorchmynnai fel arall, oblegid clywai yntau hefyd y tabwrdd. O'r diwedd wedi llawer o seremoniau arweiniwyd Mundi allan i'w phraw.
Yr oedd sŵn y tabwrdd yn uwch yn awr nag o'r blaen. Gwyddai Kobe fod pob munud yn golygu gobaith, ac yr oedd am ddal ati hyd y diwedd. Daeth yr awr ofnadwy. Cerddodd Mundi yn araf i ganol y pentref. Dilynnwyd hi gan y gwragedd eraill fel pe byddent mewn angladd. Eisteddai'r swynwr gyda'i gelfi a'r cwpan o wenwyn. Dywedodd nifer o bethau nad oedd neb yn eu deall, a chyflwynodd y cwpan i Mundi.
Yna gorchmynnodd iddi brofi ei diniweidrwydd trwy yfed gwenwyn, ac meddai: "Mundi, os wyt ddieuog, ni ddigwydd dim niwed i ti. Os wyt euog, byddi farw mewn eiliad."
Edrychodd Mundi o'i chwmpas. Dymunai gael un olwg arall ar Kobe, ond nid oedd efe yno. Cymerodd y cwpan yn ei dwylo a chododd ef yn araf at ei gwefusau. Edrychodd unwaith eto o'i chwmpas. Trodd at ei chwaer. Estynnodd ei llaw at y pennaeth. Sibrydodd wrth y Swynwr:
Yr wyf yn ddieuog."
Daeth distawrywdd mawr dros lle. Yr oedd hyd yn oed sŵn y tabwrdd wedi distewi, a phan oedd Mundi ar fin yfed dyma waedd fawr nes bod yr holl le'n diasbedain.
2Aros, Mundi, paid ag yfed!" Rhedodd ei brawd ati a Kobe a'r tabwrdd ar ei ôl. Dilynnwyd hwy gan nifer o ddynion â gwaywffyn, ac meddent: "Y mae Mundi yn ddieuog. Y mae'r lliain coch yn y goedwig. Y mwnciod sydd wedi ei ddwyn."
Achubwyd Mundi trwy ffyddlondeb arwrol Kobe bach. Ac O! mor falch ydoedd o gael gweled ei fam. Yr oedd y swynwr yn fud; a daeth braw mawr dros y gwragedd. Ar eich traed, Mundi," ebe'r pennaeth. Arweiniodd hi'n ôl i'r palas, a Kobe â'r tabwrdd yn dilyn. Safodd y gwragedd o'r neilltu gan holi ymysg ei gilydd: Pa beth a ddigwydd i ni'n awr?"
STORI VIII
CWNINGEN, ELIFFANT A'R HIPPO[2]
UN tro aeth cwningen i ddadlau â'r eliffant. Meddai'r gwningen wrth yr eliffant: "'Rwyf yn gryfach na chwi, gallaf eich tynnu i'r dŵr." Chwarddodd yr eliffant, ond adroddodd y gwningen ei stori eilwaith, ac meddai: "Er eich bod yn fawr, gallaf eich tynnu i'r afon." Atebodd yr eliffant, "Rwyt mor fach wningen bert, ond os gelli fy nhynnu i'r afon cei un o'm cyrn fel rhodd i'th atgofio am yr orchest." "Reit" meddai'r gwningen.
Gyda hyn, aeth at lan yr afon ac meddai wrth yr hippo. "Meistr Hippo, gallaf eich tynnu i'r lan." "Ho!" ebe' yntau, a'i geg fawr yn agored, "Peth bach fel ti yn fy nhynnu i i'r lan!" Wel, os llwyddi, cei un o'm plant."
Yna taflodd y gwningen raff am wddf yr hippo ac meddai: "Pan deimlwch y rhaff yn dyn, tynnwch nerth eich pen." Yna rhedodd at yr eliffant a rhwymodd ben arall y rhaff am dano ef, ac meddai: Pan glywch y rhaff yn dyn tynnwch gymaint fyth ag a allwch." Tynnodd yr eliffant a thynnodd yr hippo. Un ar y lan a'r llall yn y dŵr. Meddai'r hippo: Os tyn y creadur bach dipyn mwy mi a dagaf," ac meddai'r eliffant: "'Rwyf bron â mygu, âf ymlaen i ddywedyd wrth y gwningen fy mod wedi fy nghuro."
Wrth fyned yn ei flaen gwelodd yr hippo yn dyfod allan o'r dŵr ac meddai'r hippo wrth yr eliffant, "Dyna greadur ydi'r gwningen. Taflodd y rhaff yma am fy ngwddf ac ebe hi: "Gallaf eich tynnu o'r dŵr, a bu agos iddi fy nhagu. Oni bai i mi roi i mewn a dyfod allan yr wyf yn sicr y byddwn wedi marw."
"O" meddai'r eliffant, "gwnaeth yr peth â minnau, a bu agos i mi fygu; oni bai i mi ildio mi fyddwn yn gelain erbyn hyn." "A ellwch chwi ddatod y rhaff am fy ngwddf?" meddai'r hippo wrth yr eliffant.
Aeth yr eliffant ati gyda'i drwnc hir i'w datod a gwnaeth yr hippo yr un gymwynas ag ef. Gyda hyn, dyma'r gwningen yn rhuthro heibio iddynt gan chwerthin, ac wedi mynd yn ddigon pell o'u cyrraedd, meddai, gan ddal i chwerthin, "Wel, wel, eliffant mawr a hippo tew! Beth yw cryfder?"
STORI
IX Y GASEL A'R LLEWPARD
UN tro yr oedd llewpard a gasel yn byw gyda'u gwragedd a'u plant yn yr un dref. "Gyfaill gasel," meddai'r llewpard un boreu, "Dewch gyda mi i wlad y Zombo i brynu tabyrddau. O'r gorau," ebe'r gasel, "ond beth am yr arian?"
"Y mae gennyf fi arian," meddai'r llewpard, ac i ffwrdd â hwy.
Wedi myned ychydig ffordd chwyrnodd y llewpard wrth y gasel: "Arhoswch yn y fan hyn, rhaid i mi ddychwelyd i'r dref; yr wyf wedi anghofio rhywbeth." Yn ôl a'r llewpard i'r dref, ac i dŷ'r gasel, a meddai wrth Meistres Gasel: "Y mae fy nghyfaill eich gŵr wedi fy anfon yn ôl i mofyn y plant."
Cyflwynodd Mrs. Gasel y plant iddo. Dododd yntau hwynt mewn sach a chariodd hwynt ar ei gefn i'r man lle y gadawodd ei gyfaill, ac ymlaen â

hwy ar eu taith. Wedi cerdded bellter, aroglodd y llewpard fêl gwyllt yn y goedwig oedd wrth ymyl. Dododd y sach i lawr a meddai wrth ei gyfaill y gasel: "Arhoswch amdanaf yn y fan hyn; y mae mêl heb fod ymhell—'rwyf wedi ei arogli; ond yn enw popeth peidiwch â datod y sach."
Yr oedd hyn yn ormod o demtasiwn i'r gasel, a phan oedd y llewpard o'r golwg, edrychodd i mewn i'r sach, ac er ei syndod mawr gwelodd mai ei blant ef ei hun oedd yn y sach. Caeodd y gasel enau'r sach, taflodd ef dros ei ysgwydd a rhedodd adref mor gyflym fyth ag a allai, a meddai wrth Mrs. Gasel: "Beth a wnaeth i chwi roi'r plant i'r llewpard?"
"Ond chwi a'i hanfonodd i'w mofyn," meddai hithau.
"Dim o'r fath beth," ebe'r gazel. "Cuddiwch hwy, a chuddiwch eich hun hefyd."
I ffwrdd â'r gasel i dŷ'r llewpard ac meddai wrth Meistres Llewpard: Y mae eich gŵr wedi fy anfon i mofyn y plant."
Un ddwl iawn oedd Meistres Llewpard a chyflwynodd y plant i'r gazel. Dododd yntau hwynt yn y sach a rhedodd yn ei ôl i'r man y gorchmynnodd y llewpard iddo aros; ac er ei syndod nid oedd y llewpard wedi dychwelyd. Ymhen amser daeth allan o'r goedwig gan lyfu ei wefusau. Dododd y sach ar ei gefn, ac i ffwrdd â hwy i'r Zombo lle'r oedd marchnad y tabyrddau. Prynodd y llewpard y tabyrddau, ac fel rhan o'r tâl cyflwynodd y sach a'i gynnwys i'r marsiandwr, gan sibrwd yn ddistaw yn ei glust: "Peidiwch ag agor y sach hyd nes byddwn ni ymhell o'r golwg." "Reit," ebr yntau.
Ar ei ffordd adref yr oedd eisiau treio'r tabyrddau. Y llewpard oedd y cyntaf i dreio. Curodd y tabyrddau a chanodd: "Y mae rhai pobl ffôl ar eu teithiau." Cân yr oedd ef wedi ei chyfansoddi oedd hon, i wawdio'r gasel oedd wedi bod mor ffôl a gadael iddo ladrata ei blant.
Yna cymerodd y gasel y tabyrddau a chanodd: Collwyd sach callineb draw yn nhwll y mêl."
Aethant ymlaen trwy amryw bentrefi a'r ddau yn canu eu cân a'r bobl yn rhoddi arian iddynt.
Meddyliai'r llewpard o hyd ei fod ef yn gyfrwys a chall a'i gyfaill yn ffôl a gwirion.
O'r diwedd cyraeddasant y dref. Prysurodd y gasel i'r tŷ i ofalu bod y wraig a'r plant yn cuddio'n ddiogel.
Aeth y llewpard hefyd adref ac wedi cyfarch ei wraig, galwodd am y plant i'w pleseru eu hunain gyda'r tabyrddau.
"Y plant?" meddai'r wraig," danfonasoch chwi'r gasel i'w mofyn. Pam yr ydych yn gofyn amdanynt?"
Yr oedd y llewpard yn gynddeiriog erbyn hyn. Aeth ar ei union i dŷ'r gasel, ond ffodd y gasel dan ganu:
Myfi sy'n dwp a ffôl ond y llewpard a gollodd ei blant, a chollwyd sach callineb yn nhwll y mêl."
Nid yw'r llewpard a'r gasel wedi bod yn gyfeillion byth oddiar hyn, ac meddai'r brodorion: "Er bod y llewpard yn gryf, y gasel a gadwodd ei blant."
STORI X
Y MWNCI DIREIDUS
YN y goedwig fawr yng Nghanolbarth Affrica yr oedd mwnci bach yn byw gyda'i dad a'i fam a'i frodyr a'i chwiorydd. Ni bu mwnci mwy direidus erioed mewn coedwig. Yr oedd hyd yn oed ei fam yn dywedyd hynny. Rhybuddiai ef bob dydd i adael pethau'n llonydd ac i beidio â phoeni'r mwnciod eraill drwy gydio'n eu cynffonnau. Yr oedd mor llawn o driciau drwg fel yr âi'r mwnciod bron i gyd o'u cof.
Un diwrnod cafodd fraw ofnadwy. Yr oedd wrthi'n brysur yn chwilio am fwyd dan y cerrig yn y goedwig. Ymhen tipyn cydiodd mewn carreg fawr oedd wedi ei gosod ar dwll crwn a dyma ben neidr yn dyfod allan o'r twll. "Daeth allan bron fel mellten," meddai ef.
Cyn gynted ag y daeth hi allan o'r twll dechreuodd siarad â'r mwnci, ac meddai: "Y mae eisiau bwyd arnaf, ac yr wyf am dy fwyta." Erbyn h yn yr oedd y tu fewn i'r mwnci fel twb corddi a throdd ei drwyn du yn felyn i gyd.
Ond yr oedd y crwt bach drwg yn ddigon hirben hefyd, ac meddai wrth y neidr: "Hen frawd, peidiwch â bod yn rhy fyrbwyll. Gadewch inni ymgynghori â'r doethion. Gofynnaf iddynt beth fydd orau i ni ei wneuthur."
Er bod gan y neidr gryn feddwl ohoni ei hun yr oedd yn dwp iawn hefyd, a gwyddai'r mwnci hynny'n dda. A'i lygaid craff gwelodd lwynog yn dyfod yn araf tuag atynt, a llwyddodd i berswadio'r neidr i osod y mater ger ei fron ef.
Pan ddaeth y llwynog yn ddigon agos dechreuodd y mwnci egluro'r helynt iddo, ond yr oedd y llwynog, yntau, mor hurt y tro hwn fel na ddeallai, neu cymerai, arno na ddeallai ddim. Yr unig ateb a gafwyd ganddo oedd: "'Rwyn methu'n glir â deall ystyr eich cweryl."
Yr oedd hyd yn oed y neidr yn ystyried y llwynog yn od. Meddai'r llwynog: "'Rwyn methu'n glir â deall."
"Deall beth," meddai'r neidr. "Deall sut y daeth creadur mor fawr a chwi allan o dwll mor fach. Choelia'i ddim chwaith eich bod wedi dyfod ohono hyd nes gwelaf chwi yn myned yn eich ôl iddo.

"Deudwch frawd, a fedrwch chwi fynd i mewn i'r twll bach yma?" "Medraf," meddai'r neidr, ac mi a ddangosaf i chwi, a chewch weled sut y daeth y mwnci o hyd i mi."
Gwthiodd y neidr ei hun yn ei hôl i'r twll. Pan oedd ei phen reit o'r golwg trodd y llwynog at y mwnci a meddai wrtho'n ddistaw bach: "Yn awr, fwnci bach, paid â cholli dim amser. Yn ei hôl â'r garreg ar y twll," a gwthiodd y mwnci'r garreg yn ei hôl ar y twll.
"Nid oedd y llwynog erioed wedi teimlo'n garedig tuag at neidr. Edrychodd ar y mwnci â'i hen lygaid cyfrwys ac meddai: "Go dda, fwnci bach, oni setlwyd y cweryl yna'n ardderchog?" "Dos adref yn awr rhag ofn i ti gael rhagor o helynt."
STORI XI
BRENIN Y BWYSTFILOD
YMDDENGYS bod gan fwystfilod gwyllt y goedwig a'r anialwch eu brenin fel pawb arall. Y llew sydd ar yr orsedd heddiw, ond nid felly y bu hi bob amser. Ers talwm gwas ac nid brenin oedd y llew.
Pwy feddyliech chwi oedd y brenin ynteu? Ni ddyfeisiwch chwi byth. Yr oedd rhai am i'r teigr fod; eraill yn enwi'r llewpard; rhyw un neu ddau feallai'n penodi'r giraff am fod ei ben mor uchel yn yr awyr, a llawer bid siwr yn dewis yr eliffant cryf a chall. Ond ni bu'r un o honynt ar orsedd y bwystfilod. Os gŵyr rhywun pwy oedd brenin y bwystfilod, pobl Affrica ddylai wybod, ac yn ôl eu barn hwy, yr estrys oedd brenin cyntaf y bwystfilod. Rhaid cofio mai creadur urddasol iawn ydyw'r estrys pan gwyd ei ben a lledu ei adenydd. Dichon nad yw mor hir ei wddf a'r giraff ond ni âd inni anghofio ei adenydd a'i


ben uchel, ac y gall redeg bron mor gyflym a'r un o honynt.
Dyma sut y collodd yr estrys ei orsedd. Aeth yn rhy falch a gormesol—yn gymaint felly fel mai prin y meiddiai neb siarad ag ef.
Pan alwai'r estrys yr anifeiliaid gwyllt i hela, y llew oedd yr arweinydd, a'r nesaf ato ef oedd y llewpard, ac yn dilyn deuai'r hyena, y blaidd a'r jackal. Yr oedd pob un ohonynt yn gwybod sut i hela, a phan ddychwelent yr oedd ganddynt bob math ar ysglyfaeth, antelopiaid, spring-bok, duiker, sebra, giraff, heb law nifer fawr o greaduriaid llai.
Y llew bob amser oedd cynrychiolydd yr helwyr wrth gyflwyno'r ysglyfaeth i'w fawrhydi, ac ni chafodd brenin erioed ei seboni'n fwy na'r estrys gan y llew. "O frenin," meddai, "byddwch fyw byth. Wele'r creaduriaid gwael sydd gennyf i'w cyflwyno ger eich bron. Byddwch mor garedig ag ymostwng i ddywedyd wrth eich gweision beth yw ewyllys da eich Mawrhydi."
Atebodd yr estrys gydag awdurdod balch " Iau'r sebra i mi: rhennwch y gweddill rhwng yr helwyr. 'Rwyf wedi llefaru." Synnodd y llew i glywed brenin yn gofyn am iau'r sebra, a'r gweddill i'w rannu rhwng yr helwyr, oblegid y gweddill yn ôl ei syniad ef oedd y gorau o ddigon, a meddyliodd lawer, beth tybed oedd ystyr peth fel hyn? Modd bynnag dyna'r gorchymyn a chan mai'r brenin oedd wedi llefaru, nid lle'r gwas oedd holi.
Mwynhaodd yr estrys ei wledd yn fawr, ac wedi bwyta daeth chwant cysgu arno. Eisteddodd i lawr, fel y gwna pob aderyn mawr, a chysgodd yn iawn. Ond camgymeriad mawr yr adeg hynny oedd i frenin gysgu'n drwm, oblegid yr oedd ei fywyd bob amser mewn perigl. Dylai ef gysgu ag un llygad yng nghau a'r llall ar hanner agor. Dywedir bod rhai pobl yn cysgu â'u llygaid yng nghau a'u genau ar agor. Felly y gwnaeth yr estrys. Cauodd ei ddau lygad ac agorodd ei big.
Yn awr, tra'r oedd y brenin estrys yn cysgu â'i big yn agored, daeth rhyw gywreinrwydd dros y llew i gael golwg ar y tu mewn i'w brenin, ac er mawr syndod a diflasdod gwelodd nad oedd gan y brenin ddannedd.
"Ein brenin ni," meddai "heb ddim dannedd! Dyna paham y gofynnodd am iau'r sebra. I feddwl fy mod i mor ffôl, llew mawr cryf fel fi, yn gwasanaethu creadur diddannedd fel hwn!"
Aeth o'i gof yn lân, yn gymaint felly, fel y brathodd ben yr estrys i ffwrdd; a dyna'i ddiwedd fel brenin. Byth oddiar hynny y llew yw brenin bwystfilod y goedwig a'r anialwch.
STORI XII
Y GOEDEN FÊL
MEWN pentref ar gyffiniau anialwch y Kalahari yr oedd merch fach yn byw gyda'i thad a'i mam. Tselane oedd ei henw; ac ystyr Tselane yw llwybr. Tselane oedd cannwyll llygad ei thad ac yr oedd yn ei hoffter ati'n ei difetha'n lân.
Lle anghysbell iawn yw anialwch y Kalahari, ac yn aml y mae'r trigolion yn dioddef yn fawr oherwydd prinder dŵr.
Ffarmwr oedd tad Tselane ac yr oedd ganddo lawer iawn o wartheg a geifr. Bu nifer ohonynt farw un flwyddyn am nad oedd dŵr i'w gael.
Penderfynodd tad Tselane symud i ardal o'r enw Lotlakane, ond ni wyddai sut i dorri'r newydd i'w wraig a'r ferch fach Tselane.
Un noson, eisteddai'r tad wrth y tân gan edrych ar ei wraig yn cymysgu'r uwd yn y crochan a Tselane yn chwythu i wneuthur i'r tân gwelltglas gynneu. Trodd atynt yn sydyn ac meddai: "Y mae gennyf newydd drwg i chwi. Yr wyf wedi gwneuthur fy meddwl i fyny fod yn rhaid symud oddi yma, ac yr wyf am gychwyn bore fory." Yna trodd yn serchus at Tselane gan ddywedyd:
F'anwylyd! rhaid i tithau hefyd ddyfod."
Bore drannoeth trodd tad Tselane y gwartheg a'r geifr allan o'r corlannau a chychwynnodd ar ei daith i Lotlakane lle'r oedd dŵr yn y borfa; ond ni fynnai Tselane adael ei chartref a'i chyfeillion yn y pentref ar gyffiniau'r anialwch.
Dilyn di fi," meddai'r fam wrth Tselane, ond nid oedd Tselane yn fodlon o gwbl, a dechreuodd strancio a sgrechian.
"Ddo i ddim, mam; y mae'n tŷ ni mor hardd a'r muriau wedi eu gorchuddio â gleiniau o bob lliw, gwyn a choch a melyn a gwyrdd; na, ddo i ddim. Yn yr anialwch y mae'n boeth yn y dydd ac yn oer yn y nos ac y mae yno lewpardiaid a llewod a nadroedd. Ddo i ddim."
"O'r gorau, Tselane; gan dy fod mor ystyfnig aros yma ar dy ben dy hun, ond gofala gloi'r drws rhag ofn i ti gael dy fwyta gan y marimos (canibaliaid)."
Clôdd Tselane ei hun yn y tŷ ac aeth y fam a'r caeth forynion ar ôl y gŵr a'r gwartheg i gyfeiriad Lotlakane.
Wedi rhai dyddiau aeth y fam yn ei hôl i'r hen gartref gyda bwyd i Tselane. Pan ddaeth at y tŷ, galwodd:
"Tselane! Tselane fy mhlentyn, agor y drws, dyma fwyd iti."
Pwy sydd yna," meddai Tselane.
Dy fam wedi dyfod i chwilio amdanat ac i gario bwyd iti."
'Rwyn clywed y gair mam, ond yr ydych yn swnio i mi fel yr aderyn Ataga o'r goedwig fawr." Aeth y fam yn ei hôl heb i Tselane agor y drws iddi a dywedodd yr hanes wrth ei gŵr.
Dyma brofedigaeth yr ydych wedi ei dwyn arnom," meddai.
"I achub y gwartheg yr ydym wedi colli ein merch." Ac yr oedd y tad, yntau hefyd yn ddigalon iawn.
"Ewch yn eich ôl," meddai wrth ei wraig, "a dywedwch wrthi fy mod wedi codi tŷ llawer tlysach na'r hen un, a pherswadiwch hi i ddyfod yn ôl gyda chwi."
Dychwelodd y fam ar ei hunion; ond erbyn hyn, yr oedd calon Tselane wedi caledu, ac nid oedd modd ei symud.
Un diwrnod clywodd Tselane lais cras yn galw ac yn dywedyd: Agorwch y drws a derbyniwch y bwyd yma."
Ond yr unig ateb a ddaeth oedd: "Ewch i ffwrdd yr hen farimo drwg. Y mae drws y tŷ ar fin y clogwyn; ni ellwch ei agor."
Aeth y marimo i ffwrdd, a chynheuodd dân a dododd ddarn o haearn ynddo. Pan oedd yn wynias llyncodd ef, gan obeithio y cliriai hynny ei lais. Yna, aeth yn ei ôl i geisio swyno Tselane, ond 1 ddim diben.
Cynheuodd dân eilwaith a llyncodd ddarn arall o haearn poeth, a'r tro hwn yr oedd ei lais yn llawer mwynach. Meddyliodd Tselane mai llais ei mam a glywodd y tro hwn a chan fod arni eisiau bwyd yn angherddol, agorodd y drws.
Rhuthrodd y marimo i mewn a dododd Tselane mewn cŵd o groen, a chariodd hi adref.
Yr oedd ei ffordd yn arwain trwy ryw bentref neilltuol, a chan ei fod yn flinedig a sychedig, gadawodd y cŵd yng ngofal nifer o ferched bach, tra'r elai ef i chwilota am fwyd a diod yn y tai. Dywedai fod syched mawr arno, ond ni fynnai ddŵr glân i'w yfed. Yr oedd yn rhaid iddo ef gael rhywbeth llawer cryfach na dŵr.
Tra'r oedd yn myned o dŷ i dŷ, yr oedd y merched mor gywrain i wybod beth oedd yn y cŵd fel y daethant o hyd i dwll bach ynddo, ac wrth ysbio trwy hwnnw gwelsant fys plentyn, ac meddent: "Bys pwy yw hwn?" "Fy mys i," meddai llais o'r cwd. A Tselane ydwyf fi."
Yr oedd pawb yn y pentref yn adnabod Tselane. Yno'r oedd ei modryb yn byw, ac yn ffodus yr oedd ei mam yn digwydd bod yn y pentref ar y pryd.
Aeth y merched ar garlam i ddywedyd y stori, ac aeth mam Tselane yn ddistaw bach i weled a oedd yr hanes yn wir. Cymerwyd Tselane allan o'r cwd a dodwyd clamp o gi yn ei lle, a nadroedd gwenwynig ac y scorpionau.
Pan ddaeth y marimo'n ei ôl, yr oedd yn rhy feddw i dalu sylw manwl i ddim byd. Cydiodd yn y cwd, taflodd ef dros ei ysgwydd gan feddwl am y pryd da a gawasi pan yn bwyta Tselane.
Wedi cyrraedd y tŷ gwnaeth i'w wraig gynneu tân mawr a dodi'r crochan mwyaf arno, a throdd hi dros y drws. Yna agorodd yr hen walch y cwd. "Ow! Ow! Brenin! Brenin! Ow! Ow! Beth sydd gennyf? Brathodd y ci ef, clymodd y neidr ei hun am ei goes, colynnodd yr scorpion ef a meddyliodd y corgi drwg fod diwedd y byd wedi dyfod. Gwaeddai: "Wraig, wraig, agorwch y drws." Ond ni chlywodd y wraig mohono. Gwelodd dwll bach yn y tô, gwthiodd ei ffordd allan. Rhedodd i fyny ac i lawr y pentref fel dyn gwyllt.
Wedi rhedeg am amser fel gwallgofddyn i fyny ac i lawr y pentref, fe'i taflodd ei hun ar domen fawr o laid du, a throdd yn goeden.
Daeth gwenyn i wneuthur eu nyth yn y goeden, a phob gwanwyn â genethod y pentref i gasglu'r mêl yn y goeden. Dyma, meddent, fel y daeth y goeden Fêl i wlad fawr Affrica.
STORI XIII
TSELANE WRTH Y PENTAN
WEDI'R profiad ofnadwy gyda'r Mosi- mame yr oedd Tselane yn bur barod i fyned gyda'i mam i'r cartref newydd yn Lotlakane, ac yr oedd ei thad yn falch iawn o'i chwmni.
Bob nos eisteddent o amgylch y tân tra berwai'r uwd yn y crochan, ac adroddai'r tad straeon i'w difyrru hi a'i mam.
Gwyddai Tselane y rhan fwyaf o'r straeon ar ei chof, oblegid adroddid yr un rhai drosodd a throsodd, ac yn rhyfedd ni effeithiai hynny ddim ar y difyrrwch; mewn gwirionedd ychwanegai ato, oblegid yr oedd ei thad yn tueddu i newid tipyn arnynt a galwai Tselane ef i gyfrif os newidid y patrwm.
Gwelsom yn y stori ddiwethaf mai un o wendidau Tselane oedd ystyfnigrwydd ond gyda'r gwendid hwn yr oedd cryfder hefyd. Nid oedd neb yr adeg hynny yn gwybod dim am ysgolion—nid

oedd neb erioed wedi clywed am y fath beth—hynny yw ysgol yn ôl ein syniad ni am beth felly.
O gylch y pentan fin yr hwyr oedd yr unig ysgol yn Affrica yr adeg honno, a'r tad fel rheol oedd yr athro, a'i ddull o ddysgu oedd adrodd ac ail adrodd straeon.
Ond yr oedd rhai pethau yn troi ym meddwl Tselane oeddynt yn ddyrys iawn iddi, ac wedi gwrando ar y straeon gofynnai nifer o gwestiynau.
Holai lawer am y byd yr oedd yn byw ynddo. Hoffai wybod beth oedd y ddaear, a beth oedd yr wybren, ac a oedd rhywbeth o dan y ddaear. Ond yr oedd rhai o'r gofyniadau yn rhy galed i'w thad eu ateb.
Credai ef fel pawb o bobl Affrica yr adeg honno, fod y ddaear yn wastad yn lle bod
lle bod yn grwn fel y dysgir y plant yn ein hysgolion ni, a meddyliai hefyd os cerddai yn ddigon pell y deuai o'r diwedd i ben draw'r byd. Yn y pen draw y mae mur mawr i rwystro'r bobl a'r anfeiliaid rhag syrthio allan ohono. Nid oedd gan bobl Affrica air am y cread—yr agosaf yn ei hiaith hwy oedd: "Yr holl wledydd." Nid oedd ganddynt chwaith syniad am nefoedd fel cartref i bobl dda fyw ynddo, nac am unrhyw le arall ar gyfer y rhai drwg. Credent fodd bynnag, fod gwlad arall yn uwch i fyny yn rhywle yr un mor wastad a'r wlad hon, ac un arall eto yn îs i lawr. Y mae'r wlad sydd yn uwch na'r ddaear y tu draw i'r haul a'r sêr; ac yn ôl eu tyb hwy gwaelod y wlad arall ydyw'r wybren.
Tybia rhai mai yno y mae'r Creawdwr Mawr yn byw, a meddylia'r plant fel rhai yn ein gwlad ni, pe gallent ddringo i ben rhai o'r mynyddoedd uchel y gallent gyraedd â'u dwylau y wlad lle y mae Masambee, y Creawdwr Mawr yn byw.
Credai Tselane hyn hefyd, a meddyliai pan gawsai gyfle i ddringo i ben y mynydd, y gallai osod ei llaw ar wlad Masambee, y Creawdwr Mawr. Credai hefyd y gallai glywed sŵn, dim ond iddi ddodi ei chlust ar waelod y wlad. Ond pan ddeuai'r cyfle iddi fyned yr oedd ofn arni—ofn cael ei gwasgu rhwng y ddwy wlad gan mor agos yr ymddangosent ar ben y mynydd. Dywedodd hyn wrth ei thad un noson, a chan ei fod yn hen deithiwr profiadol, yr oedd mewn ffordd i oleuo meddwl Tselane fach ar y pwnc.
Un noson yr oedd daeargryn fawr yn Lotlakane. Cydiai Tselane yn dyn yn ei thad; ac yr oedd yntau yn crynu dipyn hefyd. Achosodd y ddaeargryn ddinistr a galanas mawr a chollodd nifer eu bywydau. Ni ofynodd Tselane un cwestiwn i'w thad y noson honno. Yr oedd wedi cael gormod o fraw i allu dywedyd nemawr ddim. Ond ymhen rhai dyddiau pan ddaeth pethau i drefn dechreuodd holi. Gwyddai'r tad yn dda beth oedd daeargryn, ac meddai wrth Tselane: "Pan gleddir pennaeth, gwneir twll mawr crwn a dwfn yn y ddaear a chloddir silff yn yr ochr tua hanner y ffordd i lawr. Yno y dodir corff y pennaeth i orwedd, ac wedi myned trwy nifer o seremoniau caeir yr agen â choed, fel na ddisgyn dim pridd ar y corff. Ond nid oes dim i rwystro pridd a phethau eraill hefyd i ddisgyn i'r twll mawr crwn, ac ambell waith y mae'r twll yn hanner llawn o bob math o ysbwrial nes gorchuddio'r silff lle gorwedd corff y pennaeth. Gwna hyn iddo deimlo yn anghyfforddus a dechreua droi yn ei fedd; a chan na all wneuthur dim ond troi, gwna hynny mor aml a chyflym nes peri i'r ddaear grynu."
Wrth gwrs yr oedd yr hyn a ddywedai ei thad ar unrhyw bwnc yn awdurdod terfynol i Tselane, ac yr oedd hefyd wedi clywed eraill yn dywedyd yr un peth am y ddaeargryn.
Cofiai hefyd fod pobl y pentref yn cyfarch y pennaeth yn barchus a defosiynol yn ystod y ddaeargryn fawr, a deallodd yn awr mai pennaeth yn troi a throi a throi yn ei fedd i gael gwared o'r pridd â'i mygai oedd yn achosi daeargryn.
Wedi swpera'r noson honno, lledaenodd Tselane ei mat—dyma oedd ei gwely—yn ymyl un ei thad a'i mam, a gobeithiai fod corff y pennaeth yn glir oddiwrth bridd, oblegid nid oedd yn hoffi daeargryn o gwbl. Byddai yn well ganddi o'r ddau ddringo i ben y mynydd a gwthio ei ffordd rhwng y ddaear a'r wlad uwch ben, na chael profiad arall o ddaeargryn. Ond fel yr ai y blynyddoedd heibio, daeth Tselane yn fwy cyfarwydd â'r ddaeargryn, ac er ei bod yn awr yn fwy na phlentyn aeth i ysgol oedd dan ofal gwraig wen, a deallodd nad oedd pob peth a ddysgwyd iddi gan ei thad wrth adrodd straeon, fin yr hwyr, yn hollol gywir.
STORY XIV
Y BLAIDD A'R YSGYFARNOG
RYW dro yr oedd blaidd yn byw yn neheudir Affrica a chanddo ddeuddeg o blant. Pan glywodd yr ysgyfarnog hyn aeth ato i'w longyfarch ac i gynnig ei gwasanaeth fel nyrs i ofalu am y plant. Cydsyniodd y blaidd yn ddiolchgar gan ateb fel hyn: "Yr wyf yn derbyn eich cynnig i ofalu am y plant, Meistress Ysgyfarnog, oblegid mae gennyf nifer fawr ohonynt a llawer o waith hela i gael bwyd iddynt. Gadawaf y deuddeg bach yn eich gofal chwi tra byddaf wrthi yn hela." Aeth yr ysgyfarnog i baratoi swper poeth a blasus iddo, a chan ei fod heb gael bwyd er y bore ac yntau yn naturiol yn farus, aeth ati heb holi dim a llyncodd bob tamaid o'r cig oedd o'i flaen. Bychan a feddyliai mai un o'r bleiddiaid bach oedd yr ysgyfarnog wedi ei ddodi yn y crochan.
Wedi mwynhau'r swper yr oedd y blaidd mewn tymer reit dda a dechreuodd holi am y plant.
"Dewch â hwy yma i mi gael eu gweled cyn iddynt fyned i gysgu" eb ef. Daeth yr ysgyfarnog â hwy i mewn bob yn un, ac er mwyn arbed amheuaeth ym meddwl y blaidd gwnaeth i un ohonynt ymddangos ddwywaith. Dododd y blaidd ei bawen ar bob un ohonynt a meddai: Cysgwch yn dawel hyd y bore, yr wyf wedi blino heno."
Bore drannoeth aeth y blaidd allan i hela yn ôl ei arfer, ond cyn mynd meddai wrth yr ysgyfarnog: "Y mae digon o fwyd yn y ffau i'r plant: gofelwch amdanynt; ac os medrwch gael swper i mi fel neithiwr gwna hynny y tro yn iawn."
"Reit," ebe'r ysgyfarnog, yr wyf at eich gwasanaeth; pob lwc yn yr helfa."
I ffwrdd â'r blaidd, ac yr oedd yn nos cyn iddo ddychwelyd. Wrth agoshau at y ffau aroglai'r swper a meddyliai: Mor lwcus y bum i gael yr ysgyfarnog i ofalu, nid yn unig am y plant ond amdanaf fi hefyd, ac yr oedd mor farus a hunanol nes anghofio y plant. Ni feddyliai am ddim ond am ei swper blasus bob nos.
Ond ymhen ryw bythefnos, dechreuodd holi am y plant. Meddai wrth yr ysgyfarnog: "Beth sydd wedi dyfod o'r plant? Nid wyf wedi eu gweled ers tro!"
"O," ebe'r ysgyfarnog yn ofnus, "yr ydych wedi eu bwyta, wedi bwyta bob un ohonynt." Gyda hynny aeth y blaidd yn gynddeiriog a ffodd yr ysgyfarnog am ei bywyd.
I ffwrdd â hi a'r blaidd yn ei herlid hyd nes dod at goeden fawr a elwid Mogonono.

Yn ffodus i'r ysgyfarnog, yr oedd y goeden yn hen ac wedi pydru, ac yr oedd nifer o dyllau ynddi. I mewn â hi i un o'r tyllau a chan fod y blaidd yn fawr ni allai gael ei drwyn i mewn.
Yr oedd y blaidd o'i gof yn lân, a gwaeddodd wrth enau'r twll: "Pwy sydd yn byw yn y twll hwn?"

Pam yr ydych yn gofyn?" ebe'r ysgyfarnog. Am fod eich llais chwi fel llais yr ysgyfarnog yr wyf yn chwilio amdani," ebr yntau.
O felly; wel, yr ydych wedi camgymeryd. Nid hyhi ydwyf fi: ond mam yr Elandiaw sy'n byw yn y goedwig fawr."
"O'n wir," medai'r blaidd drachefn, "nid wyf yn ei hadnabod hi, ond y mae eich llais chwi yn bur debyg i'r ysgyfarnog yr wyf fi yn ei mofyn." A chyda hyn gwnaeth ymdrech ddychrynllyd i'w wthio'i hun i mewn i'r twll yn y goeden; a bu agos iddo lwyddo hefyd.
Cafodd yr ysgyfarnog y fath fraw fel y neidiodd trwy dwll arall yn y goeden, ac i ffwrdd â hi nerth ei thraed hyd nes cyrraed glan yr afon; ond yr oedd yr afon wedi llifo dros y glannau ac yn llawer rhy lydan i greadures fach fel hi i'w chroesi. Y blaidd yn dyfod ar ei hôl a'r afon fawr lydan o'i blaen! Yn ei phenbleth daeth y syniad iddi i newid ei ffurf, a gwnaeth ei hun i ymddangos fel carreg gron.
Cyn hir daeth y blaidd o hyd iddi, ond ni allai yn ei fyw ddeall beth oedd carreg gron fel carreg malu ŷd yn ei wneuthur ar lan yr afon, a chan ei fod fel yr holl fleiddiaid yn ddrwg ei dymer cydiodd yn y garreg a thaflodd hi fel y tybiai i'r afon. Ond yr oedd mor gryf a'i dymer mor ffyrnig fel y disgynnodd y garreg ar dir sych yr ochr draw i'r afon, ac er syndod a rhyfeddod iddo, gwelodd y garreg, yn troi yn ysgyfarnog. "Untagatu (hynny yw Swyngyfaredd) ydyw hyn," meddai'r blaidd.
Wrth gwrs yr oedd yr ysgyfarnog wrth ei bodd i fod yr ochr arall i'r afon yn ddiogel o afael y blaidd creulon ac yn nes adref. Cofiodd hefyd fod deuddeg o fleiddiaid yn llai yn y goedwig. Yn ei llawenydd dechreuodd ganu:—
Taflodd fy mrawd hynaf y blaidd, Hen ysgyfarnog, diniwed yw'r blaidd. Dros afon fawr lydan mewn llif, Maent ddeuddeg yn llai'n eu rhif. Ka-la-ba-tla.
Byth oddiar hynny y mae'r bleiddiaid a'r ysgyfarnogod yn elynion mawr.
STORI XV
Y CAWR DRWG
ERS talm yr oedd cawr yn byw yn Neheudir Affrica. Nid yn unig yr oedd yn gawr mawr a chryf, ond dywedai'r bobl nad oedd ei gyfrwysach yn yr holl wlad. Kuele oedd ei enw, ac adnabyddid ef gan ei bobl wrth yr enw "Kuele y cawr cyfrwys."
Un flwyddyn yr oedd newyn mawr yn y wlad, a phawb ar eu gorau yn chwilio am fwyd, oblegid yr oedd hyn cyn i bobl Affrica ddysgu llafurio a phlannu.
Fel pawb arall bu raid i'r cawr fyned allan i hela, ond yr oedd mor fawr fel yr oedd eisiau llawer o fwyd i'w ddigoni, a hefyd yr oedd yn ddiog y tu hwnt i bopeth. Nid oedd dim a hoffai'n fwy na chael rhywun arall i chwilota a hela yn ei le, nes bod dywediad fel hyn gan y bobl: "Cyfrwys a diog fel y cawr."
Un diwrnod aeth y cawr allan i hela, a daeth ar draws nifer o fechgyn ar y borfa yn bugeilio'r da.

Yr oedd y bechgyn yn hapus, wrth eu bodd, oblegid yr oeddynt wedi dyfod o hyd i ryw wreiddiau a gyfrifid gan y bobl yn fwyd da, ac yr oedd y gwartheg yn pori'n hamddenol i lawr yn y dyffryn. Aeth Kuele y cawr at y bechgyn ac meddai: "Y mae eisiau bwyd yn arw iawn arnaf fi, rhowch rai o'ch gwreiddiau i mi, ac mi ofalaf fi—sydd mor fawr a chryf—na ddaw dim niwed i chwi."
Ond yr oedd y bechgyn yn adnabod y cawr yn dda, a meddylient y ceisient fod mor gyfrwys ag yntau. Gwyddent hefyd os dechreuent rannu â'r cawr na byddai dim yn aros ar eu cyfer hwy.
"Yr ydych chwi'n fawr a chryf," meddent wrth Kuele, "yn llawer mwy ac yn llawer cryfach na ni; ewch i chwilota a hela fel y gwnaethom ni."
Ond yr oedd Kuele yn rhy ddiog i wneuthur hynny, a dechreuodd feddwl sut i berswadio'r bechgyn i rannu eu bwyd. Daeth o hyd i nifer o hen esgyrn sychion ac aeth at y bechgyn i fenthyca crochan; yna cynheuodd dân a dechreuodd ferwi'r esgyrn. Tra'r oedd yr esgyrn yn berwi aeth y cawr yn ei ôl at y bechgyn ac meddai: "Mor lwcus y bum i, fechgyn; 'rwyf fi yn reit 'nawr, y mae gennyf ddigon o fwyd yn y crochan."
O, da iawn," meddai'r bechgyn, "felly nid oes eisiau dim o'n bwyd ni arnoch." "Nac oes," meddai'r cawr, "ond os mynnwch chwi, mi a newidiaf â chwi. Gwreiddiau sychion yn unig sydd gennych chwi, os hoffwch, gellwch chwi gael rhan o'r bwyd da sydd yn y crochan a rhoi rhai o'r gwreiddiau i mi. Wel, gan fod bwyd da mor brin a'r hyn sydd gennych chwi mor wael, a rhag i chwi feddwl nad ydwyf yn ystyried neb ond fy hunan, yr wyf yn fodlon rhannu. Gwandewch. Rhowch chwi nifer lled dda o'r gwreiddiau yna i mi, a chewch chwithau wneuthur fel y mynnoch â'r pethau da sydd yn y crochan."
"O'r gorau," meddai'r bechgyn, "cymerwch weddill ein bwyd ni," a llyncodd y cawr y gwreiddiau bron mewn eiliad. Yna aeth y bechgyn at y crochan gan ddisgywl gwledd, ond dyna siomiant a gawsant pan welsant nad oedd yno ddim ond esgyrn sychion, ac fel pob bechgyn sydd yn teimlo eu bod wedi eu twyllo, bygythient bob math ar bethau i'r cawr, er y gwyddent mai bygwth yn unig a allent hwy ei wneuthur gydag un mor gryf a chyfrwys. Yr oedd y cawr erbyn hyn wedi dringo i ben y mynydd, ac ni chlywodd y pethau ofnadwy a ddywedai'r bechgyn amdano.
Fin yr hwyr dychwelodd y bechgyn i'r pentref gyda'r gwartheg a dodasant hwy yn ddiogel yn y corlannau. A dyna'r stori fawr y noson honno yn y bythynnod, oedd y modd y twyllodd y cawr y bechgyn ac y bwytaodd eu bwyd ac y gadawodd esgyrn sychion yn eu lle, a chytunai pawb fod y cawr yn gyfrwys a diog.
Ond yr hyn a ofynnai rhai oedd, pam nad oedd y cawr ei hun wedi dod yn ei ôl. Cyn hir yr oedd stwr mawr yn y pentref. Yr oedd un o'r helwyr wrth ddychwelyd o'r helfa wedi gweled y cawr yn gelain ar ben y mynydd.
Yr oedd yn fawr pan yn fyw," meddai "ond yn awr y mae mor dew a'r eliffant," a daeth braw dros bawb yn y lle. Nid oedd neb yn gofidio fod y cawr mawr cyfrwys a chreulon wedi marw, ond yr oeddynt mor ofergoelus fel yr ofnent i'w ysbryd ddial arnynt.
Cynheuwyd tân mawr yng nghanol y pentref, a galwodd y swynwyr y bobl i ystyried y mater. Gwyddai'r bechgyn erbyn hyn y byddai'n rhaid aberthu, ac os meddyliai'r swynwyr mai un ohonynt hwy oedd yn euog o achosi ei farwolaeth, y gorfodid hwy i brofi eu diniweidrwydd mewn rhyw ffurf a fyddai yn sicr o achosi marwolaeth iddynt hwythau hefyd. Holwyd hwynt yn fanwl gan yr hynafgwŷr; oblegid hynafgwŷr sydd bob amser yn llywodraethu ymysg paganiaid. Yr oedd bywyd y bechgyn yn dibynnu yn awr ar un o ddau beth—
Pa un a oedd un o'r gwreiddiau a roddwyd i'r cawr yn wenwynig neu a oedd y cawr wedi llyncu'r cyfan mor gyflym nes i hynny achosi ei farwolaeth. Yn ffodus i'r bechgyn nid oedd y cawr ar delerau da â'r swynwyr. Eisteddai'r prif swynwr mewn cornel ar wahan, ac wedi i bawb ddywedyd ei farn dechreuodd ar ei waith gyda'r hadau a'r cerrig a'r crystal. Safai pawb yn fud tra byddai ef yn myned trwy ei seremoniau, ac yr oedd y bechgyn bron mewn llewyg. Credai rhai ei bod ar ben arnynt, a phan safodd y swynwr ar ei draed a dodi y wisg fawr ar ei ben daeth arswyd ar bawb.
"Hynafgwŷr, wragedd a phlant," meddai'r swynwr. "Y mae'r cawr wedi marw, ac yr ydym yma i wneuthur yr hyn sydd yn angenrheidiol i rwystro'i ysbryd i ddial arnom.
"Ma," meddai'r bobl, yr hyn sydd gyfystyr ag "Amen," neu "Felly y byddo." "Hynafgwyr, wragedd a phlant, y mae'r ysbrydion wedi llefaru. Yr hyn a achosodd farwolaeth y cawr mawr creulon a chyfrwys oedd ei dwyll ef ei hun, ac y mae'r ysbrydion wedi dial arno ef oblegid nid ydynt yn hoffi twyll a chreulonder. Nid oes aberth yn eisiau. Ond gan mai cawr ydyw, a'i fod hefyd yn bennaeth arnom, claddwn ef yn anrhydeddus, a chofiwn o hyn allan fod twyll a chreulondeb yn waharddedig yn ein mysg.
mysg. Yr ydwyf wedi llefaru." 'Ma, Ma, Ma" meddai'r bobl, a chyda thoriad y wawr yr oedd yr holl bentref ag eithrio un neu ddau o hynafiaid na allent gerdded i ben y mynydd yn paratoi ar gyfer angladd y cawr.
STORI
XVI MATHIBE A'R DUIKER
ER'S talm iawn yr oedd dau lwyth gwahanol yn Affrica yn cydfyw a'i gilydd dan yr un pennaeth. Enw un oedd Bakwena a Bamangwato y gelwid y llall. Yr un oedd "totem" y naill a'r llall a honynt, sef crocodîl mawr. Mgwato oedd enw'r pennaeth cyntaf Ar ôl Mgwato daeth Mmusi mab Senyerelo i'r orsedd; ac yn ei ddyddiau ef y dechreuodd y llwyth berchenogi gwartheg a dyfod yn gyfoethog ac enwog. Ni wyddom fawr am y tri a'i dilynodd. Eu henwau yn unig sydd ar gael; ond pan ddaeth Mathibe y chweched pennaeth i'r orsedd, penderfynnodd y Bamangwato ymwahanu oddiwrth y Bakwena. Ond nid oedd hyn mor hawdd ag y tybid: yr oedd yn rhaid ymladd. Yn gyntaf ymladd â'r Bakâa a waharddai i'r Bamangwato dramwy trwy eu gwlad. Ni chafodd Mathibe fawr o drafferth gyda'r Bakâa, ac yn fuan daeth y llwyth hwnnw yn gaeth iddo ef. Ond os oedd darostwng y Bakâa yn waith cymharol hawdd, nid felly y Bakwena. Wedi ymladd caled, a lladd difrifol, a difrod dychrynllyd, rhannwyd y wlad. Aeth y Bakwena i un darn a'r Bamangwato i ddarn arall. Rhwng y ddau ddarn yr oedd rhyw gan milltir o ddiffeithwch, a da oedd hynny hefyd, oblegid yr oedd y ddau lwyth yn elynion mawr i'w gilydd.
Wedi rhai blynyddoedd, dechreuodd y Bamangwato flino ar eu totem" y crocodîl, a dechreuasant siarad a chwyno yn ei gylch. Daeth rhai ohonynt yn ddigon hŷ i ddatgan eu barn, hyd yn oed yng nghlyw Mathibe y pennaeth. Meddent:
Nid yw madfall brwnt a hyll fel crocodîl yn ddigon da i fod yn addurn llwyth dynion dewr fel y Bamangwato."
Tua'r adeg yma danfonodd Mathibe ei gennad at Matswe, pennaeth y Bo—Seleka, i ofyn ei ganiatad i briodi ei ferch a thrwy hynny greu cyfeillgarwch cydrhwng y ddau lwyth. Y rheswm am hyn ydoedd fod gan Mathibe eisiau cynhorthwy llwyth cryf arall i ymladd a darostwyng ei elynion.
Gwnaeth y cennad ei waith yn dra rhagorol a dychwelodd gyda'r neges hon. "Bennaeth Mathibe, Brenin y Bamangwato, yr wyf fi a'm phobl yn cydsynio i roddi fy merch Monyadwi i fod yn wraig i chwi, ar ddau amod. (I). Y caniateir iddi barhau i anrhydeddu "totem ei phobl sef y Phuti. (Duiker). (II). Na orfodir hi dan unrhyw reswm i'w fwyta. Os ydych yn cydsynio â'r amodau hyn ac yn addaw parchu merch pennaeth mewn modd teilwng ac anrhydeddus, anfonir hi atoch ar yr amser priodol. Dyma eiriau pennaeth y Bo-Seleka."
Yr oedd hyn yn y gaeaf, pan oedd y rhan fwyaf o'r dynion yn yr helfa, a dim ond ychydig o filwyr yn aros i amddiffyn y pennaeth a'i ddinas. Un noson, pan oedd pawb ond gwylwyr pyrth y ddinas yn cysgu'n dawel, clywodd y pennaeth a'i bobl swn tabyrddau wrth y pyrth, ac mewn eiliad yr oedd y ddinas i gyd yn effro ac yr oedd cyffro mawr. Yr oedd un o'r gwylwyr wedi gweled pen dyn yn y gwelltglas a rhybuddiodd y pennaeth trwy guro'r tabwrdd. Meddyliodd Mathibe mai ryw fintai fach o ladron oedd yno a gorchmynnodd gryfhau'r holl amddiffynfeydd. Ond er ei syndod, pan dorrodd y wawr, yr oedd y Bakwena yn anterth eu nerth wedi amgylchynnu'r dref ac yn paratoi i ymosod arni.
Brwydr ofnadwy a fu'r diwrnod hwnnw, ac erbyn y nos yr oedd prif ddinas y Bamangwato wedi ei llosgi'n llwyr, a phawb bron wedi eu lladd. Ymladdodd Mathibe yn ddewr, ond yr oedd y rhan fwyaf o'i fyddin ar wasgar. Ni ŵyr neb sut y llwyddodd i ddianc, ond pan aeth y Bakwena i gyfrif y caethion ac i chwilio'r meirw nid oedd Mathibe yn eu mysg.
Rhannodd pennaeth y Bakwena ei fyddin yn ddwy. Un i ddychwelyd gyda'r da a'r caethion, a'r llall i chwilio am bennaeth y Bamangwato, oblegid gwyddai nad oedd y perigl drosodd hyd nes dyfod o hyd i'w gorff ef.
Rhedodd Mathibe nerth ei draed nes cyrraedd y goedwig fawr a chuddiodd
a chuddiodd yng nghysgod coeden fawr ganghennog.
Yr oedd wedi blino cymaint fel y cysgodd yn drwm er gwaethaf y perigl, hyd nes ei ddeffro gan leisiau dynion yn gweiddi ac yn curo'r gwelltglas â'u gwaywffyn. Meddyliodd Mathibe fod y diwedd wedi dyfod. Clywai un o'r milwyr yn dywedyd: "'Rwyn sicr ei fod yn rhywle yn ymyl. Ymladdodd mor galed trwy'r dydd, fel nad oes ganddo nerth i fyned ymhell."
Fe welai Mathibe ei hun yn cael ei arwain fel caethwas trwy Mokwena, prif ddinas y Bakwena, a phawb yn ei wawdio, ac yn y diwedd ei ladd mewn modd creulon a gwaradwyddus. Gwyddai fod ei fyddin yn ddigon cryf i orchfygu'r gelyn pe gellid ei galw ynghyd, ac yr
oedd yn sicr y rhoddai pob un ohonynt ei fywyd yn aberth er ei fwyn. Ond, yr oeddynt ymhell, ac ar wasgar Syllodd trwy'r gwelltglas a gwelodd dri o filwyr. yn cerdded i gyfeiriad y fan yr oedd ef yn cuddio. Deallai yn awr fod pob gobaith am waredigaeth wedi diflannu. Yr oedd ar fin cydio yn ei waywffon a dywedyd yn ei iaith ef "Gwell angau na chywilydd pan, yn sydyn, dyma rhywbeth tebyg i lew yn neidio allan o'r twmpath yr oedd ef yn cuddio ynddo. Cafodd y milwyr y fath fraw fel y ffoesant mor gyflym ag y gallent. Ond pan welsant mai Duiker ac nid llew ydoedd chwarddasant yn braf ac meddai un wrth y llall: "Y mae un peth yn sicr, nad yw Mathibe ddim yn y fan hyn. Gadewch inni fynd ymlaen i chwilio amdano." A dyma'r tro olaf iddo eu gweled hwy.
Ymhen amser daeth yr helwyr yn eu hôl i ganfod eu cartrefi wedi eu dinistrio a'r bobl wedi diflannu, ond er syndod i bob un o honynt yr oedd y pennaeth Mathibe yn fyw.
Galwyd cyfarfod o'r cynghorwyr, a phan adroddodd y pennaeth yr hanes wrthynt, yr oedd ysbryd dialedd yn uchel, a phob un ohonynt am gyhoeddi rhyfel heb oedi dim.
Safodd un hen gynghorwr ar ei draed, un a chanddo dipyn mwy o synnwyr cyffredin na'r lleill, ac meddai: "Bennaeth, yr wyf wedi gwrando ar nifer fawr o straeon ac wedi bod mewn llawer anturiaeth, ond ni chlywais erioed ddim tebyg i'r hyn a gawsom gennych chwi heddiw. Y mae gennym lawer i'w ddysgu a chaniatewch i mi, un o'r rhai bach a dibwys yn y ddinas, i ddywedyd fy marn. O Bennaeth y Bamangwato, dylem newid ein 'totem.' Yn lle madfall hyll a brwnt awgrymaf y Duiker hardd ac urddasol. Yr wyf yn dywedyd hyn am fod ein dyfodol frenhines barchus Monyadwi yn ei anrhydeddu, a dyma hefyd ydyw 'totem' ein cyfeillion y Bo-Seleka. Dywedaf hefyd, O bennaeth, fod ysbrydion ein cyndadau wedi amlygu'r un syniad yn y modd gwyrthiol yr achubwyd eich bywyd chwi trwy anfon y Duiker i ddychryn y milwyr. O Moheti, pennaeth y Bamangwato—mab yr anfarwol Mokadi —dyma eiriau eich gwas Kuati." Yr oedd pawb yn unfrydol o'r un farn a Kuati, gwas y pennaeth, a chyhoeddodd Mathibe mai Phiti (Duiker) " totem Monyadwi a'r llwyth Bo-Seleka fyddai addurn llwyth y Bamangwato o hyn ymlaen.
STORI XVII
Y SYMUDLIW YN TORRI EI BEN
U tro gadawodd llyffant ei dau blentyn yn y tŷ tra'r ai hi at ei gwaith ar y fferm, ac fel pob mam dda gadawodd ddigon o fwyd ar eu cyfer, a rhoddodd bob math ar gynghorion a gorchmynion iddynt. Yn ystod y bore, pan oedd y fam yn brysur gyda'r da ar y fferm, aeth Symudliw i mewn i'r tŷ. Creadur rhyfedd yw'r Symudliw. Nid oes ei ryfeddach yn holl Affrica, nac mi dybiwn, yn holl goedwigoedd y byd. Gall newid ei liw, ac estyn ei dafod yn hir, pan yn chwilio am damaid o fwyd, ac yn rhyfeddach na'r cyfan gall edrych yn ôl a blaen yr un pryd. Pa greadur arall yn yr holl gread a all wneuthur hyn? Y mae mor gall mewn rhai pethau fel yr edrydd y brodorion ddiarhebion amdano.
Ond y mae ganddo ei wendidau hefyd, dau yn arbennig—balchter a thymer ddrwg.
Modd bynnag, y tro hwn aeth i dŷ'r llyffant fel pe bai yn berchen arno. Meddiannodd bopeth oedd yno: y plant, a'r dodrefn, a phopeth a welai. Yn ei ddireidi addurnodd y plant â chyllyll bach a dododd glychau am eu gyddfau. Gwnaeth iddynt ddawnsio hefyd, oblegid nid oes dim y mae'r symudliw yn hoffach ohono na dawnsio.
Fin yr hwyr daeth y llyffant adref ac er ei syndod, pan agorodd y drws, gwelodd y plant wedi eu haddurno â chyllyll bach a chlychau am eu gyddfau, yn dawnsio gymaint fyth ag y gallent dan arweiniad y symudliw.
Neidiodd y llyffant i mewn ac meddai: "Blant, beth sy'n bod? Trodd y symudliw ato â'i geg yn agored, ac meddai: "Os mentri i mewn yma mi a'th falaf dan fy nhraed." Cafodd y llyffant y fath fraw fel y neidiodd allan, ac aeth ar ei hunion i dŷ'r llewpard. Wedi i hwnnw wrando arni yn dywedyd ei chwyn, ebr ef: "Gadewch iddi, lyffant fach, mi a'i triniaf, y greadures falch a rhyfygus," ac aeth ar ei union at y tŷ a churodd wrth y drws. Pwy sydd yna?" meddai'r symudliw. Agorodd y llewpard y drws ac yr oedd ar fin dywedyd:
Myfi'r llewpard mawr a chryf. Sut yr wyt yn beiddio ymddwyn mor feiddgar mewn tŷ dieithr?" Ond chwythodd y Symudliw, ac agorodd ei geg

yn y fath fodd nes rhoi braw i'r llewpard mawr ac i ffwrdd ag ef yn ei ôl, nerth ei draed. Gwnaeth yr un peth â llawer o'r anifeiliaid—yr eliffant â'i drwnc hir; y llew â'i ruad dychrynllyd; y mwnci â'i ddireidi; y giraff â'i wddf hir. O'r diwedd yr oedd y llyffant bron â gwirioni. Ni feiddai'r un o'r creaduriaid mawr fyned yn agos at y tŷ, ac meddai'r llyffant yn alarus: "Beth a ddaw o'm mhlant?—druain ohonynt," a dechreuodd lefain. Ar hyn, dyma haid o ddrywod bach yn dyfod ati, ac meddent: "Lyffant bach, beth yw dy helynt di?" ac adroddodd y llyffant ei stori wrthynt. "O, na hidia," meddai arweinydd y drywod, "aros dipyn i ni gael gweled beth a allwn ni ei wneuthur." Aethant at y tŷ a dechreuasant ganu a dawnsio, tra'r oeddynt yn canu, daeth y Symudliw allan ac meddai: "Ddrywod bach tlws mor ddel yr ydych! Mi hoffwn innau ddysgu dawnsio fel chwi." Canai'r adar wrth ddawnsio ac yr oedd geiriau'r cytgan fel hyn: "Ddrywod bach, pan ddawnsiwch chwi, torrwch, torrwch eich pennau." Wedi clywed y Symudliw yn eu canmol, aeth rhai ohonynt ymlaen gan ddodi eu pennau yn eu hadenydd a dawnsio yn well nag o'r blaen.
"Wel," meddai'r Symudliw, "ni welais erioed ddawns well na hon, a phob un sydd yn dawnsio wedi torri ei ben. Rhaid i mi ei dysgu, oblegid os gall deryn bach fel dryw ei wneuthur, y mae'n sicr y gall y Symudliw sydd yn enwog trwy'r byd fel dawnsiwr. Y mae meddwl y gall pethau bach fel hyn ddawnsio'n well na ni yn wrthun." Aeth y Symudliw yn ei ôl i'r tŷ i gael cyllell. Pan ddaeth allan galwodd holl greaduriaid y goedwig i'w weled yn dawnsio heb ben fel y drywod, ond wrth gwrs yn well. Yna torodd ei ben gyda'r gyllell a syrthiodd i lawr
yn farw.
"Ha! ha!" meddai'r llewpard, "Ho! ho!" meddai'r elliffant!
"Go dda!" meddai'r giraff.
Eisteddodd holl greaduriad y goedwig i lawr i chwerthin yn braf, ac meddent: "Y mae balchter bob amser yn torri ei ben."
Meddai'r llyfant: "Chwarae teg i'r drywod bach: nid maint a nerth corfforol yw'r peth mawr wedi'r cyfan, ond synnwyr cyffredin." Aeth y llyffant i mewn i'r tŷ, a thynnodd y cyllyll bach a'r clychau oddiar yddfau'r plant. Wedi swper aethant i gyd i'r gwely ac meddai'r fam: "Diolch am y waredigaeth hon."
Testun yr ymddiddan yng nghyfarfod nesaf yr anifeiliaid ydoedd: "Beth yw medr a gallu a nerth?"
STORI XVIII,
Y CRWBAN A'R CARW
YR oedd trigolion pentref y bwystfilod ym Memba wedi hen alaru ar falchter y carw. Meddyliai nad oedd neb yn debyg iddo. Broliai ei hun gymaint nes bod yr holl ardal wedi syrffedu'n lân arno. Nid yn unig credai nad oedd neb yn debyg iddo, ond barnai hefyd mai'r ffordd orau iddo ddangos ei fawredd a'i ogoniant oedd trwy ddirmygu a glasenwi pawb arall.
Galwyd cyfarfod o greaduriaid y goedwig i ystyried y mater a phenderfynu beth i'w wneuthur. Ond nid oedd gan un ohonynt weledigaeth o unrhyw werth.
Un diwrnod, pan oedd pawb yn meddwl bod y carw wedi cyrraedd man uchaf ei falchter, galwodd y crwban gyfarfod o'i gyd grybanod ac meddai:
Beth a feddyliech chwi a wnaeth y carw neithiwr? Daeth i'n tŷ ni a'i ben lordaidd yn yr awyr, ac meddai: Grwban bach diwerth, hoffet ti redeg

râs â mi? Cei filltir o gychwyn?' Yna chwarddodd fel pe'n meddwl nad oedd neb ond efe yn y byd." "O'r gorau," meddwn innau, "Mi redaf râs a chwi, Mr. Carw. Byddaf yn barod wythnos i heddiw."
"Rhedeg râs â'r carw" meddai crybanod y goedwig. "Pa reswm sydd yn hynny? Ni all crwban byth guro carw. Bydd yn falchach nag erioed." "Mi wn i beth i'w wneuthur," ebe'r crwban. "Awn i gyd i'r râs, a chawn wared â'i arglwyddiaeth gormesol ac annioddefol."
"Y mae dwsin neu ragor ohonom ni. Wel, rhaid gofalu y bydd y râs yn ddigon hir i ladd y carw." "O, ho!" meddai'r crybanod eraill. "Eglurwch eich cynllun i ni." "Gwrandewch ynteu," ebr yntau.
Cychwynnwn wrth y bontbren. Reit. Trefnwn i gael crwban yn barod bob chwarter milltir; myfi yn gyntaf, chwithau wedyn, a chwithau i ddilyn, ac ymlaen hyd y diwedd.
Cychwynnaf y râs trwy rhedeg ychydig. Pan fydd y carw wedi ennill arnaf, diflannaf yn y goedwig a gadawaf iddo ef fyned yn ei flaen gan dybio ei fod wedi fy nghuro.
'Ond wedi iddo fyned chwarter milltir, daw o hyd i grwban arall yn cymryd arno redeg nerth ei draed. Wrth gwrs, â'r carw heibio iddo yntau a diflanna hwnnw yn y goedwig. Aiff y carw ymlaen ymlaen heibio i'r crwban yma ac heibio i'r llall, nes o'r diwedd y bydd yn rhaid iddo gydnabod fy mod wedi ei guro."
Ardderchog," meddai crybanod y goedwig. 'Awn ati i baratoi." Wythnos y râs aeth y crwban at y carw ac meddai: "Beth am y râs Mr. Carw?"
"Y râs," meddai'r carw; "Myfi, carw mawr fel myfi i redeg râs â chrwban?"
'Wel! le dyna oedd eich hér yn ein tŷ ni, wythnos yn ôl. 'Does bosibl fod ofn arnoch." "Ofn? ofn crwban arnaf fi?" Chwarddodd dros y lle.
"Yr wyf fi yn barod i gychwyn am wyth o'r gloch bore fory," meddai'r crwban.
"O! felly? ebe'r carw. "Yr wyt o ddifrif, wyt ti?"
"Ydwyf," ebr yntau.
"Os felly, râs amdani ynteu." Am wyth o'r gloch yr oedd y carw a'r crybanod i gyd yn barod.
"Nid wyf yn mofyn milltir o gychwyn Mr. Carw," meddai'r crwban. "Bydd chwarter milltir yn ddigon."
"Reit," ebr yntau. I ffwrdd â'r crwban. Wedi iddo gael chwarter milltir o gychwyn cychwynnodd y carw, ac yn fuan, buan daliodd y crwban ac aeth heibio iddo. "Na hidiwch Mr. Carw. Daliwch ati, 'rydw i yn eich dilyn; mi a'ch daliaf cyn hir," meddai'r crwban. Yna diflannodd yn y goedwig. Meddyliai'r carw ei fod wedi ei guro, ond er ei syndod gwelodd draw yn y pellter y crwban ar y blaen. "Wel," meddai wrtho'i hun, "'roeddwn yn meddwl ei fod ymhell ar ôl a dacw fe ar y blaen." Ymlaen ag ef nerth ei draed heibio i'r crwban eto, gan feddwl ei fod wedi ei guro eilwaith ond er ei syndod gwelodd ef cyn hir ymhell ar y blaen eto. Rhedodd y carw nerth ei draed heibio i'r trydydd crwban, ac meddai wrtho'i hun:
"Gofalaf na chaiff fy nghuro mwy." Ond gydag iddo ddywedyd y gair yr oedd crwban ar y blaen.
Wel, wel," meddai'r carw, "'Rwyn methu'n glir â deall. Bydd yn gywilydd i mi gael fy nghuro gan grwban, ac eto 'r wyf bron a cholli fy ngwynt." I ffwrdd ag ef ymlaen ymlaen, a phob tro y meddyliodd ei fod wedi ennill yr oedd crwban ar y blaen.
Yr oedd y carw wedi gwylltio'n lân erbyn hyn a gwnaeth y fath ymdrech nes syrthio yn farw, a chafodd bwystfilod y goedwig wared o'r gormeswr balch oedd wedi eu poeni am gymaint o flynyddoedd. Pan ddychwelodd y crybanod adref galwyd cyfarfod i orfoleddu am eu bod wedi ennill y râs, a'r carw yn gelain ar y ffordd.
Wedi hir ymddiddan, cododd y cadeirydd ar ei draed. "Fy Nghyd-Grybanod," ebr efe. "Yr ydym yma heddiw i orfoleddu am fod ein gormeswr wedi ei drechu." Fel y dywed y ddiareb: "Trech synnwyr na nerth." Ond rhag ofn i ninnau fyned yn ormeswyr, peidiwn â meddwl mai ni yn unig sydd yn berchen ar synnwyr."
STORI XIX
DAGRAU NSANGI FACH
R oedd mamau pentrefi'r mynyddoedd yn Affrica mewn helbul a gofid mawr. Yr oeddynt yn colli eu plant, ac ni allent ddyfod o hyd iddynt. Wedi hir bryderu a phoeni a chwilio canfuant mai epaod y goedwig oedd y lladron, a bu raid i'r mamau fod yn neilltuol o ofalus i guddio'r plant rhag ofn i'r Epa mawr eu cymryd i ffwrdd.
Aeth un fam at crwban i ofyn ei gyngor, ac meddai hwnnw: "Peidiwch ag ofni, fam fach. Cuddiwch eich plant nes eu bod yn ddeuddeng mlwydd oed. Nid yw'r Epa byth yn lladrata plant dros ddeuddeg oed." "Pa fodd y cuddiaf hwynt?" ebe'r fam wrth y crwban.
acw.
"O," atebodd yntau, "dringwch i ben y mynydd acw. Y mae yno ogof fawr, a lle iawn i guddio plant bach bach. Y mae carreg fawr gron y tu fewn iddi. Dodwch y plant yn yr ogof, a dangoswch iddynt sut i rolio'r garreg, a rhwystro creaduriaid eraill i fyned i mewn." "Diolch yn

fawr Mr. Crwban," ebe'r fam, ac i ffwrdd â hi gyda'r plant at yr ogof.
Fe'i gwthiodd ei hun i mewn yn gyntaf, ac wedi chwilio'r ogof i fod yn sicr nad oedd bwystfilod gwylltion eraill yno, galwodd y plant i'w dilyn. Yna dangosodd iddynt sut i rolio'r garreg gron.
"Yr ydych i aros yma hyd nes bod yn ddeuddeng mlwydd oed," ebe'r fam. "Nid ydych i symud y garreg ar un cyfrif, ond pan ddeuaf fi â bwyd i chwi." Sut y gallwn ni wybod mai chwi fydd yn galw, mam?" meddai'r ferch hynaf. "Gwrandewch," ebe'r fam. "Pam glwych rywun yn canu fel hyn, fi fydd yno a gellwch symud y garreg. Ond nid ydych i agor yr ogof ar un cyfrif i neb arall.
Dyma'r gân. Dysgwch hi, a pheidiwch â'i hanghofio:—
Tair yn yr ogof
Tair yn yr ogof
Dim ond tair yn yr ogof:
Ar hyd y dydd a'r haul yn tywynnu,
Ar hyd y nos a'r lleuad i fyny,
Tair yn yr ogof,
Tair yn yr ogof."
Drannoeth dringodd y fam i ben y mynydd. Wrth neshau at yr ogof, dechreuodd ganu, a rhedodd y merched bach i symud y garreg ac i'w chroesawu.
Bob dydd elai'r fam at yr ogof. Bob dydd canai ei chân, a phob dydd symudai'r plant y garreg.
Wedi rhai misoedd aeth y fam a'r ferch hynaf adref, gan ei bod yn ddeuddeng mlwydd oed, ac nad oedd a fynno'r epaod â phlant dros yr oed hwnnw. 'Rhaid newid y gân yn awr," ebe'r fam wrth ddwy oedd i aros. "Gwrandewch fel hyn y canaf o hyn ymlaen:—
Dwy yn yr ogof,
Dwy yn yr ogof,
Ar hyd y dydd a'r haul yn tywynnu:
Ar hyd y nos a'r lleuad i fyny,
Dwy yn yr ogof,
Dwy yn yr ogof."
Yr oedd y ddwy fach yn lled ddigalon pan aeth eu chwaer hynaf adref, ac yr oedd hiraeth mawr arnynt. Nid oedd ganddynt deganau i chwarae. Yr unig beth a allent ei wneuthur i'w ddiddori eu hunain, oedd dal y madfallod a chreaduriaid bach eraill yr ogof a gwneuthur cyfeillion ohonynt.
Bob dydd, beth bynnag fyddai'r tywydd, dringai'r fam i ben y mynydd gan ganu ei chân a chario bwyd i'r plant.
Ymhen amser yr oedd yr ail ferch yn ddeuddeg oed, ac O, mor drist oedd Nasangi fach, pan glywodd ei mam yn dywedyd "Rhaid i ti aros yma wrthyt dy hunan Nasangi. Y mae dy chwaer yn ddeuddeg oed, ac y mae'r crwban wedi dywedyd yn bendant nad oes neb i aros yma os bydd dros ddeuddeng mlwydd oed. Ond na hidia. Deuaf fi yma bob dydd i fod yn gwmni i ti. Gallaf ddod yn gynharach ac aros yn hwy, ond clyw, y mae'r gân yn newid :—
Un yn yr ogof,
Un yn yr ogof,
Ar hyd y dydd a'r haul yn tywynnu:
Ar hyd y nos a'r lleuad i fyny,
Un yn yr ogof,
Un yn yr ogof."
Ar waethaf y gofal a gymerai mam y merched bach i'w hamddiffyn rhag yr epaod cyfrwys, prowliai un corgi drwg a'i deulu yn ddibaid o amgylch y pentrefi. Gobeithiai y llwyddai i ladrata rhyw blentyn.
Tra'n eistedd mewn man dirgel uwchben pentref y merched bach, gwelodd yr epa ddwy eneth yn chwarae yn yr ardd. Ond yr oeddynt dros ddeuddeng mlwydd oed.
"Tybed," meddai wrtho'i hun, "nad oes rhagor ohonynt?" Yr oedd tair yn arfer bod yma; Un fach, fach. Ys gwn i ymhle y maent yn ei chuddio hi?"
Dychwelodd bob dydd i'w ymguddfan. Gwelai'r fam yn myned yn rheolaidd i gyfeiriad ogof. Yr oedd basged ar ei braich. Pan ddeuai yn ddigon agos at y lle, canai:—
"Un yn yr ogof,
Un yn yr ogof,
Ar hyd y dydd a'r haul yn tywynnu:
Ar hyd y nos a'r lleuad i fynny,
Un yn yr ogof,
Un yn yr ogof."
'Rwyn gwel'd yn awr," ebe'r Epa. "Y mae'r un fach yn cuddio yn yr ogof." Daeth o hyd i ymguddfan yn ymyl yr ogof ac aeth yno bob dydd i ddysgu'r gân.
Un bore, gan feddwl ei fod yn gwybod y gân yn ddigon da, aeth at yr ogof a chanodd. Ond yr oedd ei lais mor gras, fel y gwyddai Nasanga fach nad ei mam oedd yn canu, a gwrthododd symud y garreg.
Dychwelodd yr Epa i'r goedwig a dysgodd y gân i un o'r epaod bach. Y tro nesaf iddo fyned at yr ogof aeth â'r un bach gydag ef. Yr oedd ei lais ef yn fwyn a menywaidd, a phan ganodd credodd Nasangi fach fod ei mam wedi dyfod yn gynharach nag arfer. Symudodd y garreg a daeth allan i'w chroesawu. Ond ow! rhuthrodd yr Epa ati a chariodd hi i'w gartref yn y goedwig.
Wylai Nasangi fach yn hidl bob cam o'r ffordd; a lle bynnag y disgynnai un o'i dagrau tyfodd blodeuyn bach gwyn. Cyn hir aeth mam Nasangi at yr ogof a chanodd ei chân fel arfer. Disgwyliodd weled wyneb annwyl Nasangi fach yn ei chroesawu. Ond ow! mawr oedd ei galar pan eglurodd y fadfall iddi bod yr Epa mawr wedi bod yno, ac wedi canu'r gân, a Nasangi wedi meddwl mai ei mam oedd yno a symud y garreg. Eglurodd iddi sut y rhuthrodd yr Epa ati a'i chario hi i'r goedwig.
"O! fy merch annwyl," ebe'r fam.
"Beth ddaw ohonof? Y mae'r corgi drwg wedi lladd fy merch fach, ddiniwed."
Peidiwch â llefain fam fach," ebe'r fadfall. "Nid yw wedi ei lladd. Ewch yn eich ôl i'r pentref a gelwch y dynion i'w ddilyn."
"Dilyn Epa? ebe'r fam "I ble?" "Chwi welwch flodau bach gwyn ar y ffordd: dilynwch hwynt. Y maent yn arwain at balas yr Epa.'
Aeth y fam yn ei hôl ar unwaith. Galwodd y dynion, ac adroddodd ei stori wrthynt. "Rhyfel!" meddai'r dynion, ac aeth mintai o honynt gyda'u gwaywffyn ar ôl yr Epa. Wedi hir gerdded a dilyn y llwybr yn ôl cyfarwyddyd y fadfall, daethant at balas yr Epa, a chlywsant lais Nasangi fach yn llefain ar ben y goeden. Yr oedd yr Epa a'i deulu yn y goeden hefyd. Gwnaeth y dynion baratoadau i gynneu tân wrth ei bôn ac i orfodi'r Epa i ddyfod i lawr. Pan welodd yr epaod eraill fod palas eu brenin ar fin cael ei losgi, daethant ynghyd i'w amddiffyn, ac aeth yn frwydr fawr rhwng gwŷr y pentref a'r epaod. Disgynnodd y brenin o'i glwyd yn y goeden i helpu ei ddeiliad yn yr ymladd; ond lladdwyd ef ac ugeiniau o'i gyd epaod. Mewn gwirionedd nid oedd nemawr un ohonynt yn fyw, ac yr oedd galanastra ofnadwy.
Wedi ymladd a lladd mawr, daeth Nasangi i lawr o'r goeden a chariwyd hi adref ar ysgwyddau cryfion ei thad. Dyma'r tro olaf meddai pobl Affrica i'r epaod ladrata plant. Adroddir yr hanes gan yr hen epaod i'r rhai bach o genhedlaeth i genhedlaeth am y modd y dinistriwyd palas eu brenin. Ni feiddia un ohonynt yn awr fyned yn agos at bentref os bydd pobl yno.
Y mae blodeuyn bach gwyn, tlws, yn tyfu'n wyllt yn Neheudir Affrica. Ei enw ymysg y brodorion ydyw Dagrau Nasangi. Pan ofynnir i'r hen bobl paham y gelwir ef wrth yr enw hwn, adroddant hanes Nasangi fach yn yr ogof, a'r modd yr achubwyd hi gan y dynion yn y goedwig fawr.
STORI XX
Y MWNCI A'R CRWBAN
YNG nghoedwigoedd mawrion Affrica y mae llawer math o fwnciod: Rhai mawrion sydd yn gallu sefyll ar eu traed ôl, ac eistedd i lawr a bwyta gyda'i dwylo bron mor ddeheuig a dynion; eraill nad ydynt bron byth i'w gweled ond ar ganghennau'r coed; eraill mor fach fel mai prin y meddyliem mai mwnciod ydynt. Ond y mae un peth yn nodweddu pob un ohonynt, sef eu direidi. Y maent yn llawn o bob math ar driciau, ac yn aml iawn y mae'r direidi yn achosi cymaint o helynt yn eu mysg, nes bod yn rhaid cael cyfarfod ambell waith i setlo'r cweryl. Ond y mae gan y mwnci ei bethau da hefyd, ac un yw, ei ofal am ei gyd—fwnci pan mewn perigl neu brofedigaeth. Os anafir mwnci aiff ei gyd—fwnciod i gasglu dail, a'u cnoi nes eu gwneuthur yn feddal feddal; yna dodant hwy yn ofalus ar glwyf eu cyfaill. Ac mi dybiaf na bu mam neb erioed yn fwy gofalus o'i phlant nag yw'r mwnciod.

Dywed teithiwr iddo saethu mwnci un tro, a'i fod wedi penderfynnu na saethai fwnci byth mwy. Un bach ydoedd, ac fel y cerddai i ffwrdd â'i ddryll dan ei gesail, safai y fam ar ei lwybr a'r un bach yn ei breichiau gan edrych i wyneb y dyn gwyn fel pe'n dywedyd yn wylaidd: "Dyma a wnaethoch i fy un bach i." Gwelodd un dyn wyf yn ei adnabod yn dda, fwncies ar goeden un tro, ac un bach ar ei chefn. Syllai a syllai yn ddwys ar y dyn dieithr, a gwyddai yntau ei bod yn ceisio dywedyd rhywbeth, oblegid cydiai yn dyn yng nghangen y goeden â'i llaw dde, a'i dwy law ôl a'i chynffon, ac â'r llaw chwith tynnai'r un bach yn araf oddi ar ei chefn a gwasgai ef yn dŷn at ei brest. Yna fe'i gollyngodd ei hun, rhoddodd naid fawr i goeden arall, a diflannodd o'r golwg. "Go dda fam fach," meddai'r dyn gwyn, yn gofalu mor fwyn am y baban." Ond serch hynny nid oes neb mwy direidus na'r mwnci.
Un tro gwahoddodd mwnci grwban i ginio a derbyniodd y crwban y gwahoddiad yn ddiolchgar a moesgar. Wedi ei wneuthur ei hun yn lân a destlus, aeth i gartref y mwnci i fwynhau'r wledd fel y tybiai ef. Dododd y mwnci y crwban i eistedd ar stôl a rhoddodd y danteithion o'i flaen ar y llawr. Bob tro'r estynnai'r crwban at y bwyd, syrthiai oddiar ei stôl. Yr oedd yr rhy foesgar i aros ar lawr a'r mwnci'n ymddangos yn rhy foneddigoedd i'w adael ar y llawr. Bob tro y syrthiai, codai'r mwnci ef yn ei ôl ar ei stôl. Y diwedd fu i'r mwnci fwyta'r danteithion a'r crwban fynd yn ei ôl heb fwynhau'r wledd.
Ar ôl dychwelyd adref, meddai'r crwban wrtho'i hun: Wel, dyna gorgi direidus ydi'r mwnci yn gwneuthur ffwl ohonof fel hyn." Wedi rhai dyddiau anfonodd y crwban ei negesydd at y mwnci i'w wahodd i ginio, ac wrth gwrs ni allai'r mwnci lai na derbyn y gwahoddiad ac aeth i gartref y crwban.
Yr oedd y crwban wedi paratoi gwledd ardderchog ac wedi gwahodd nifer o'i gyfeillion hefyd.
Meddai'r mwnci wrth y crwban: "A gaf fi olchi fy nwylaw cyn bwyta, os gwelwch yn dda?'
"Nid oes gennyf ddwr yma," ebe'r crwban; "Yn yr afon y byddwn ni yn ymolchi."
I ffwrdd â'r mwnci at lan yr afon, ond yr oedd y ffordd yn arwain trwy welltglas oedd newydd ei losgi. Golchodd y mwnci ei ddwylaw yn yr afon, ond wrth ddychwelyd, aethant yn barddu i gyd oddiwrth y gwelltglas. Aeth yn ei ôl at yr afon eilwaith oblegid ni allai ymddangos fel hyn ymysg y crybanod. Ond bob tro y ceisiai adael yr afon âi yn ddu fel y fran. O'r diwedd, galwodd ar y crybanod i fyned ymlaen â'r wledd, ac meddai wrtho'i hun: nid yw'r crwban mor hurt ag y meddyliais, ond dyna, fy nireidi i a'i dododd ef gyntaf ar y stôl. Fel hyn y mae'n talu'r pwyth yn ei ôl i mi."
STORI XXI
"NID MA MASILO GLAN YR AFON YDWYF FI"
Y MAE hon erbyn heddiw yn ddihareb mewn rhan helaeth o Affrica. A gwlad ryfedd am ddiarhebion ydyw Affrica, ac yn wir holl wledydd y Dwyrain.
Pan geisia'r dyn gwyn ddysgu iaith gwlad yn y Dwyrain, cred mai gwaith cymharol hawdd yw hynny. Ond arhosed hyd nes dod at yr idiomau a'r diarhebion, yna dechreua sylweddoli gyn lleied yw ei wybodaeth o'r iaith, a hefyd o ddull y bobl y mae yn byw yn eu mysg, o feddwl, ac o egluro eu meddyliau.
Nid yn unig y mae'r diarhebion yn lluosog iawn, ond y mae pob un yn ddarlun, a'r darlun, pe gellid ei olrhain hyd at y gwreiddiol, yn egluro rhyw stori a ddywedwyd filoedd o weithiau o amgylch tân min yr hwyr yn Affrica.
Tybed a oes dihareb Gymraeg sydd yn golygu'r un peth a "Nid Ma Masilo glan yr afon ydwyf fi"? Diddorol fyddai chwilio, ac wedi dyfod o hyd iddi, dilyn ei hanes os yn bosibl hyd at y gwreiddiol. Yr wyf yn cydnabod ei fod yn haws gwneuthur hyn yn Affrica nag yng Nghymru, am mai pobl gyntefig yw pobl Affrica, ac y mae hanes eu bywyd bron i gyd yn eu straeon. Serch hynny, y mae gennym ninnau lawer ohonynt, ac nid ofer fyddai holi a chwilio dipyn yn eu cylch.
Er mwyn inni ddeall stori Ma Masilo yn iawn dylid dywedyd rhai pethau am y wlad.
Yn un peth, y mae pawb yn Affrica yn berchen ar ei dŷ neu ei fwthyn ei hun. Nid oes yno neb yn rhentu tŷ. Tŷ crwn ydyw, y muriau wedi eu gwneuthur o goed a gwelltglas neu fambŵ, y tô o ddail neu welltglas, a'r llawr o bridd. Nid yn unig y mae pob pen teulu yn perchenogi ei dŷ: ond efô hefyd sydd wedi ei adeiladu. Peth arall i'w gofio yw, mai lle iawn am law yw Affrica. Nid ydym yn golygu oddiwrth hynny ei bod yn glawio'n ddibaid yno.
Weithiau y mae'r fath sychter nes bod newyn yn y wlad. Ond pan ddaw'r glaw: wel, fe ddaw! A druan o'r hwn a ddelir ganddo. Gyda'r glaw bydd mellt a tharanau. A chyda llaw, y mae gan frodorion Affrica rhyw syniadau rhyfedd iawn am fellt a tharanau.

Cofier nad cymryd arni daranu y mae hi yn Affrica. Disgynna'r mellt mor aml a chyflym, a rhua'r daran mor ofnadwy nes taro dynion i lawr. Pan ddigwydd hyn, rhyddhânt eu gwisg— hynny o wisg sydd ganddynt—a gorweddant i lawr hyd nes myned o'r storm heibio. Credant mai math o ddafad yw'r mellt a'r daran—dafad yn disgyn o'r uchelder i'r ddaear—a bod ganddi edafedd tebyg i edafedd pryf copyn yn dyfod allan o'i chynffon. Wrth iddynt ryddhau eu gwisg a'i hysgwyd yn ôl a blaen, credant eu bod yn torri'r edafedd ac yn rhwystro'r mellt a'r daran i ddychwelyd i'r uchelder. Pan ofynnir iddynt a oes rhywun wedi gweled y ddafad, chwarddant, ond credant ynddi yr un pryd. Gan gofio am y glawogydd a'r mellt a'r taranau, a'r drefn fod pob pen teulu brodorol yn Neheudir Affrica yn perchen ei dŷ, awn ymlaen i adrodd y stori am "Nid Ma Masilo glan yr afon ydwyf fi."
Ers talwm yr oedd hen wraig o'r enw Ma Masilo yn byw yn Neheudir Affrica, ac un diwrnod penderfynnodd godi tŷ ar lan afon. Un o nodweddion deheudir Affrica yw sychter. Gan mai gwely'r afon yn unig a welodd Ma Masilo, ni feddyliodd am y llifogydd a ddeuai pan ddisgynnai'r glaw mawr. Wedi gorffen y tŷ aeth Ma Masilo i fyw ynddo wrthi ei hun.
Un diwrnod daeth dyn heibio, a golwg tlawd a blinedig arno, a gofynnodd am ganiatad i orffwys yn y tŷ. Gyda phleser" ebe'r hen wreigan garedig a diniwed, dewch i mewn, ŵr dieithr." Ac i mewn ag ef. Byddai gwrthod lletŷ i ddyn dieithr yn hollol groes i arferiad y wlad.
Modd bynnag, rhoddodd letŷ a dangosodd bob caredigrwydd i'r dyn dieithr a chymerodd yntau fantais ar hynny. Un diwrnod gwelai Ma Masilo'r cymylau'n casglu yn yr awyr a gwyddai fod storm yn bygwth. Cyn hir daeth rhagor o ddieithriaid i ofyn am loches yn ei thŷ. Ofnent y storm ac nid oeddynt yn hoffi'r syniad o orwedd a chwifio'u gwisgoedd i rwystro'r mellt i ddychwelyd. Heblaw hynny yr oedd yn nosi.
Yn sydyn dyma fellten yn disgyn a tharan ofnadwy yn dilyn, a rhuthrai'r bobl yn llu at y tŷ ar lan yr afon. Ni feddyliodd Ma Masilo fod cymaint o ddieithriaid yn y wlad. Modd bynnag croesawodd bob un ohonynt, nes bod y tŷ yn llawn hyd at y drws.
Ar ôl y mellt a'r taranau daeth y glaw, ac fel y dywedwyd eisoes nid yw yn glawio'n aml yn Neheudir Affrica, ond pan ddaw: wel, fe ddaw!
Tyrrai'r bobl i'r tŷ a Ma Masilo yn eu cymell i mewn fel nad oedd lle iddi hi yn ei thŷ ei hun.
"Ardderchog Ma Masilo," meddai'r bobl. "Yr ydym ni yn sych ac yn gynnes"; ond nid awgrymodd un ohonynt y dylai rhywun wneuthur lle i Ma Masilo a hithau'n sefyll allan yn y glaw.
'Rwyf fi yma'n wlyb ac oer," meddai Ma Masilo.
Ydych yn wir," meddai'r dieithriaid, "ond yr ydym ni yn sych ac yn gysurus."
Pan ofynnir heddiw i un o frodorion Betchwana am gymwynas a ystyrrir ganddo dipyn yn afresymol, etyb: "Nid Ma Masilo glan yr afon ydym ni." Yr hyn o'i ddehongli yw: "Nid wyf mor ffôl ag yr wyf yn ymddangos."
STORI XXII
TRAED A LLYGAID
DYMA'R swyn meddai'r dyn du wrth y dyn gwyn. Cymerwch hi, nid wyf mwyach yn credu ynddi." Derbyniodd y dyn gwyn hi, nid am ei fod ef, chwaith, yn credu ynddi, ond yr oedd yn rhywbeth cywrain iddo ddangos i'w gyfeillion yn y wlad dros y môr. Ond cyn ymadael meddyliodd mai diddorol fyddai gwybod hanes y swyn o enau ei pherchenog. "I beth y mae hi yn dda?" ebe'r dyn gwyn wrth y dyn du. "I'm hamddiffyn pan yn pan yn lladrata eiddo fy nghymydog" ebr yntau.
"Ond y mae lladrata yn ddrwg ac yn teilyngu cosb bob amser," ebe'r dyn gwyn.
"Na," meddai'r llall. " Nid yw lladrata'n ddrwg: yn wir y mae pob dyn cryf yma yn lladrata. Yr hyn sydd yn waradwyddus yw cael ein dal yn y weithred. Pan ddigwydd hynny gwawdir ni gan yr holl drigolion, a heblaw hynny, y mae ganddynt hawl i wneuthur fel y mynnant â ni; ein lladd os medrant."
"Felly" meddai'r dyn gwyn, "y mae pawb yn rhydd i ladrata fel y myn, ond iddo ofalu peidio â chael ei ddal." "Dyna fe: eithaf iawn. Y mae lladrata yn golygu medr a chyfrwystra, gwroldeb a nerth. Y mae cael ein dal yn golygu y gwrthwyneb."
Ac yr oeddech dan yr argraff y gallai swyn fach fel hon eich amddiffyn?"
Oeddwn; telais dair blynedd o wasanaeth i'r swynwr amdani, ac yr wyf wedi bod yn aflwyddiannus er pan yw hi gennyf."
"Beth yw eich bwriad yn awr, ynteu?"
"Peidio â lladrata. Y mae'r Massa sy'n byw ar lan y llyn yn dywedyd bod lladrata'n ddrwg, ac na all swyn amddiffyn y lleidr, ac mai'r unig ffordd i fyw'n hapus yw bod yn onest. 'Rwyf fi wedi addaw dysgu wrth ei draed ef. Cedwch chwi'r swyn; nid oes arnaf ei heisiau mwy."
Fel y mae gorau'r modd, y mae'r syniad fod lladrata yn orchwyl anrhydeddus yn diflannu; ond yn yr ardaloedd sydd eto yn dywyll, mawr yw dioddefaint y bobl fel y gwelwn oddiwrth y stori sydd yn dilyn.
Un tro, aeth mintai o ladron yn Affrica i chwilio am gyfle i ysbeilio, a daethant at bentref a elwid

"Pentref Bugeiliaid," ac meddent: "Gadewch i ni ymosod; y mae yma ddefaid a gwartheg, a gwragedd a phlant." Yn anffodus iddynt hwy yr oedd yn olau lleuad, a bu raid i'r lladron ymguddio nes tywyllu. Gorweddasant i gyd yn y gwelltglas hir, nes bod y nos yn dywyll a phawb yn y pentref yn cysgu. Yn sydyn, yng nghanol y nos, rhoddodd y pennaeth yr arwydd i ymosod, a rhuthrodd y lladron ar y pentref gan ladd a chlwyfo nifer fawr o'r bugeiliaid, a llosgwyd y pentref. Bu rhai yn ddigon ffodus i ffoi, ond nid llawer; a chasglodd y lladron y gwartheg a'r defaid a chymerwyd y gwragedd a'r plant yn gaethion.
Wedi i'r lladron ddianc i'r mynyddoedd â'r ysbail, daeth dau ddyn yn eu hôl i'r pentref. Yr oedd un yn gloff a'r llall yn ddall. Meddai'r dyn cloff wrth y dyn dall: "O! yr ydych chwithau hefyd wedi eich gadael ar ôl?"
Ydwyf," meddai'r dyn dall; gadawsant fi am fy mod yn ddall, ond pwy ydych chwi?'
"O, Segole, mab Molele ydwyf fi, a chwi yw Sehohu mab Hanya ynte?"
"Ie, Ie," meddai'r dyn dall, "ond ni wn pa beth i'w wneuthur gan fy mod yn hollol ddall."
"Yr wyf finnau hefyd yn teimlo 'run fath oblegid ni allaf gerdded," meddai'r dyn cloff.
"Yr unig beth a allaf fi ei wneuthur yw llusgo fel pryf genwair."
Meddyliodd y dall am ennyd ac meddai: "'Roeddwn i'n meddwl pe bai gennyf lygaid y dilynnwn y rhai a ddihangodd yn amser y perigl mawr."
"Ie," meddai'r cloff, "Gwelais hwynt yn dianc, ond nid oedd gennyf goesau i'w dilyn. Beth feddyliech pe byddem yn trefnu fel hyn? Yr ydych chwi yn ddall a minnau'n gloff. Y mae gennych chwi draed ac y mae gennyf fi lygaid. Pe cariech chwi fi ar eich cefn byddech chwi yn draed i mi, a minnau yn llygaid i chwi, a rhyngom gwnelem un dyn cyfan."
Cytunwyd mai felly yr oedd hi i fod, ac ymlaen â hwynt, y dall yn cario'r cloff a'r cloff yn cyfeirio'r dall, i chwilio am y bobl oedd wedi llwyddo i osgoi'r lladron.
Cyn hir, daethant at lan afon ac meddai'r cloff wrth y dall: "Y mae yma le i groesi, gadewch inni fyned drosodd." Ymhellach ymlaen, daethant at ddibyn mawr a serth, ac meddai'r cloff: "Trowch ar y chwith rhag i chwi syrthio tros y dibyn," a throdd y dall ar y chwith. Cyn hir, daethant at ffynnon o ddŵr clir ac arosasant am beth amser yno; oblegid yr oedd y cloff yn drwm a'r dyn dall wedi blino. Wedi gorffwys a dadflino tipyn, ail gychwynnwyd ar y daith, a chyn hir, gwelodd y dyn cloff Rooi Bok (antelope) marw. Meddai wrth y dall: Gyfaill, dyma Rooi Bok marw, dodwch fi lawr, inni gael amser i feddwl pa fodd i'w flingo,' oblegid yr oedd eisiau bwyd arnynt erbyn hyn.
Gwelodd y cloff fod gan y dall gyllell a gofynnodd am ei benthyg. "Dyma hi," meddai'r dyn dall, a phopeth yn iawn; ond wedi ei flingo pwy fydd ei berchen?"
"O," ebe'r cloff, fi wrth gwrs.
"Myfi a'i gwelodd ef; a myfi a ddywedodd wrthych chwi amdano."
"Felly," meddai'r dall, "ond mi a'i haroglais hefyd, ac yr wyf bron yn siwr yr arweiniai fy nhrwyn fi ato; ac onid myfi a ddylai ei berchenogi, oblegid myfi sydd wedi eich cario chwi trwy'r dydd?"
Yn awr y mae'n deg inni gofio bod y dyn dall wedi blino wrth gario'r dyn cloff trwy'r dydd, a gŵyr pawb fod tuedd myned yn groes pan wedi gorflino, ond nid felly'r dyn cloff. Nid oedd efe wedi cerdded dim ac nid oedd wedi blino o gwbl.
Wedi dadlau am ysbaid, trodd y dyn dall at y dyn cloff ac meddai: "Cymerwch y gyllell a blingwch ef, pwy bynnag fydd ei berchen."
"Ond nid wyf fi yn ei weled yn awr," meddai'r dyn cloff. Aeth yn ffrae rhyngddynt, ni fynnai'r dall gario'r cloff, ac ni cheisiai'r cloff arwain y dall. Ac felly ni allai'r un ohonynt wneuthur dim.
O'r diwedd, meddai'r dall wrth y cloff: "Mor ffôl ydym yn methu â chytuno. Nid wyf fi yn gweled, ac ni ellwch chwithau gerdded, ond wrth gyd-dynnu, gallwn fynd yn burion." "Wel, ie," meddai'r cloff, a chariodd y dall ef at y Rooi Bok. Blingodd yntau'r antelope a chawsant ddigon o gig blasus i'w cadw'n fyw ar hyd y daith.
Wedi teithio am ddau ddiwrnod, cyraeddasant y pentref lle'r oedd eu cyfeillion y ffoaduriaid yn ymguddio, ac wedi adrodd yr hanes wrthynt, cytunodd pawb fod cydweithredu yn well nag ymgroesi.
STORI XXIII
DYN A'R ANIFAIL
MAE pob oes yn ei thro wedi gwneuthur ymgais i esbonio dechreuad dyn. Yn llyfr Genesis ceir ffordd "Moses" o egluro'r pwnc. Yn y ganrif bresennol ysgrifennwyd llyfr gan un o'r enw Charles Darwin yn dywedyd neu yn awgrymu bod dyn yn perthyn i'r mwnci. Y mae un peth yn sicr, os am fyned yn ôl at wir ddechreuad unrhyw beth rhaid myned yn y diwedd at Dduw.
Ond y mae'n ddiddorol, serch hynny, i wybod sut y mae pobl eraill yn ceisio egluro dechreuad dyn. A dyma i chwi ffordd pobl diffeithwch y Kalahari o wneuthur hynny.
Yn ymyl tref y pennaeth Sechele y mae twll mawr a dwfn. Y mae mor ddwfn fel nad oes neb byw erioed wedi gweled ei waelod. Pan deflir cerrig iddo, gellir eu clywed yn disgyn am amser. Ond ânt mor bell i'r dyfnder mawr fel na chlywir eu swn pan gyrhaeddant y gwaelod. Yn y twll hwn, yr oedd dyn ac anifail yn cydfyw.

Ymhen amser dechreuodd y dyn a'r anifail gweryla, a chan fod dyn yn gryfach na'r anifail gorchmynnodd iddo adael y twll. Gwrthododd yr anifail ufuddhau, a dechreuodd y dyn ei wthio allan o'r twll, ac wrth gwrs aeth yn rhyfel cydrhwng y dyn a'r anifail. Yr oedd y twll yn rhy fach i'r anifail droi ynddo, a chan mai rhyfel ydoedd, bu raid i'r dyn wthio'r anifail allan.
Yr oedd yn frwydr fawr a bu agos i'r anifail orchfygu'r dyn. Wedi ymladd caled am amser maith, cyrhaeddwyd pen y twll a thaflwyd yr anifail allan.
Wrth enau'r twll yr oedd afon fawr ac o amgylch yr afon llawer o gorsydd. Cerddai'r anifeiliaid, yn neilltuol y gwartheg yn ôl a blaen yn y corsydd gan wneuthur nifer o lwybrau, oblegid yr oedd popeth mor newydd iddynt. Yr oedd arnynt ofn mentro ym mhell oddwrth y twll.
Wrth gerdded yn ôl a blaen yn yr awyr agored, daeth chwant bwyd arnynt, a dechreuasant fwyta'r corsennau. Yr oedd hyn hefyd yn beth newydd iddynt. Nid oedd neb, na dyn nac anifail yn bwyta yn y twll. Nid oedd nac angen na chwant bwyd arnynt ac nid oedd neb yn marw yno. Dechreuasant fwyta'r corsennau a daethant yn dew a chryf, a meddent wrth ei gillydd: "Y mae'r bywyd hwn yn well na bod yn y twll."
Ymhen amser aeth bwyd yr afon a'r glannau yn brin, a chan eu bod wedi cael blâs ar fwyta, aethant ymhellach i'r tir i chwilio am ragor o fwyd nes iddynt anghofio popeth am y twll a symud i'r anialwch.
Yn y diwedd, dechreuodd y dynion yn y twll gweryla a'i gilydd, ac yr oedd rhyfel fawr i lawr yn y dyfnder, rhyfel mor fawr nes crynu'r ddaear, a thaflwyd rhai o'r preswylwyr allan. Dinistriodd y dynion lwybrau'r anifeiliaid a dechreuasant wneuthur rhai newydd, oblegid yr oedd yn rhaid iddynt hwythau hefyd chwilio am fwyd pan adawsant y twll mawr. Dyma, meddai rhai o bobl Affrica, oedd dechreuad dyn ac anifail ar y ddaear.
STORI XXIV
Y DDAU GENNAD
YN y dechreuad, ar ôl i'r Creawdwr orffen creu dyn i fyw ar y ddaear, galwodd ar y Symudliw, ac meddai wrtho: "Symudliw, ti sydd yn newid dy liw, atolwg, yr wyf yn dy anfon ar neges fawr a phwysig, Dos, dywed wrth y bobl: "Pan fyddo dyn farw, bydd fyw drachefn'."
Tra'r oedd y creadur bach amryliw ar ei deithiau, aeth genau goeg at y Creawdwr i ddywedyd ei fod yntau hefyd am gael cario'r un neges, ac fe'i gwthiodd ei hun, gan fusnesa mewn pethau nad oedd ganddo ddim i'w wneuthur â hwynt. Meddai wrth y Creawdwr mawr: "Y mae'r Symudliw yn symud yn araf tra'r wyf fi yn gallu myned yn gyflym. Os anfonir fi cyrhaeddaf ymhell o flaen y Symudliw. Os gwelwch yn dda caniatewch i mi fyned i gyflwyno'r neges." Ar ôl hir ymbil cafodd ganiatad i fyned, ac i ffwrdd ag ef nerth ei draed bach gan adael y Symudliw ymhell ar ei ôl.
Ond pan gyrhaeddodd ben ei daith, newidiodd y neges, a dyma a ddywedodd ef: "Pan fyddo dynion farw, byddant farw am byth." Wedi cyhoeddi'r neges, ni feiddiai'r genau goeg ddychwelyd yn ei ôl at y Creawdwr oblegid gwyddai yn ei galon ei fod wedi dywedyd anwiredd.
Ymhen amser dyma'r Symudliw yn cyrraedd, wedi bod yn hir iawn ar ei ffordd. Er y gallai symud ei liw â chyflymdra rhyfeddol, yn araf, araf y symudai ei gorff, oblegid pedair llaw ac nid pedwar troed sydd ganddo. Modd bynnag, wedi cyrraedd, cyflwynodd y neges yr oedd y Creawdwr wedi ei hymddiried iddo, ac meddai: "Myfi yw negesydd y Creawdwr mawr a dyma'r geiriau y mae am imi i'w cyflwyno i chwi.
"Pan fyddo dyn farw, bydd fyw drachefn."
Ond yr oedd bobl eisoes wedi clywed neges y genau goeg, ac ni fynnent wrando o gwbl ar eiriau'r Symudliw, ac meddent wrtho: "Ni wrandawn ni arnat ti o gwbl. Y mae'r geneau goeg wedi bod yma eisoes ac wedi dywedyd: 'Pan fyddo dyn farw, bydd farw am byth.' Twyll a ffolineb yw dy neges di."
Ond er i bobl Affrica wrando ar eiriau'r genau goeg yn hytrach nag ar neges y Symudliw, y maent heddiw yn cashau'r genau goeg ac yn parchu'r Symduliw. Ni fynnant ei ladd o gwbl, oblegid efe," meddant, "yw gwir gennad y Creawdwr mawr."
STORI XXV
GWR A GWRAIG
HOLI, holi, holi yn ddibaid a wna ambell blentyn, ac yn aml gofyn gwestiynau na all pobl mewn oed eu hateb—rhai yn ddwl a direswm, ac eraill yn eithaf synwyrol.
Gofynnai un bachgen bach i'w dad bron bob dydd, "Nhad, pam yr wyf yn codi ac yn eistedd?"
Atebodd y tad ef gorau y gallai, oblegid gwyddai fod y bachgen yn sychedu am wybodaeth. Dro arall meddyliai ei bod yn amser iddo fyned yn ôl at Iesu Grist, a phan ofynnodd y tad iddo am ei reswm, yr ateb a gafodd ydoedd: "Nid wyf wedi ei weled er's pedair blynedd." "Beth tybed" meddai'r tad, "sydd wrth wraidd y pethau hyn?"
Ond nid yn unig y mae plant yn gofyn cwestiynau, ond y mae pobl mewn oed yn holi hefyd, ac wrth i un holi, dechreua llawer wneuthur yr un peth; ac wrth i lawer ofyn yr un gofyniad cawn yn y diwedd stori yn atebiad, a'r stori yn dyfod bob yn
dipyn yn rhan o'r hyn y mae llwyth cyfan neu genedl gyfan yn ei gredu.
Ac yn ei gredu yn y fath fodd fel y daw yn rhan o'u crefydd a'u syniadau am bethau sydd yn perthyn i'r hyn a alwn ni yn ysbrydol.
Yr oedd y bobl y sonnir am danynt yn y Beibl yn gwneuthur hyn hefyd, a dyna mewn gwirionedd ydyw rhai o'r hanesion sydd gennym yn yr Hen Destament.
Ac y maent yn bwysig mewn ffordd na all plentyn ei amgyffred pan yn blentyn, ond fel y tyf yn fawr daw i ddarganfod eu gwerth.
Yn llyfr Genesis y mae gennym hanes gŵr a gwraig o'r enw Adda ac Efa. Os astudiwn hanesion cenhedloedd eraill y byd, yn enwedig cenhedloedd fel pobl Affrica a Madagascar, New Guinea ac Ynysoedd Môr y De, deuwn ar draws rhai sydd yn dangos pethau cyffelyb, ar radd îs y mae'n wir, ond serch hynny, yn ymgeisio at egluro'r modd y dechreuodd llawer o bethau yr ydym ni yn gynefin â hwynt heddiw.
Yn y stori a adroddir yn awr, gwelwn fel y mae rhai o bobl Affrica wedi gwneuthur ymdrech i ddangos bod mab a merch wedi dyfod yn ŵr a gwraig, ac y mae un peth yn ddiddorol iawn ynddi. Cais ddangos bod dechreuad pob peth gyda Duw, neu gyda rhyw fod mawr i fyny yn yr uchelder allan o gyrraedd pawb, ond er hynny, yn bodoli.
Beth tybed yw'r esboniad fod dyn, ym mha le bynnag y byddo, beth bynnag fyddo'i gyflwr meddyliol, pa mor anwaraidd ac isel bynnag ei stad, yn deall bod yna rhyw fod mawr mawr, mwy nag unrhyw fod arall, ac mai ynddo ef y mae dechreuad pob peth?
Nid ydynt yn ei alw yn Dduw, ac nid ydynt yn ei addoli chwaith, ond y maent yn gwybod ei fod yn bodoli.
Wel, dyma'r stori o Affrica.
Yn y dechreuad, hynny yw ers talm iawn iawn iawn, pan nad oedd na dyn nac anifail yn byw ar y ddaear, dim ond coed a gwelltglas a'r pethau sydd yn tyfu'n wyllt yn y diffeithwch, yr oedd y byd yn dawel a heddychlon. Nid oedd rhyfeloedd na chwerylon, na gweiddi na dagrau gofidus.
Weithiau clywid swn, pan oedd yn taranu, a phan chwibanai'r gwynt yn y coed ac y disgynnai'r glaw mawr ac y rhuthrai'r afonydd i gyfeiriad môr. Dyma'r unig sŵn a glywid, oblegid nid oedd eliffant i chwythu ei drwyn mawr na llew i ruo, na chŵn gwyllt i gyfarth, na hyd yn oed y gog i ganu yn y gwanwyn.
Un diwrnod yn y cyfnod hwnnw digwyddodd peth rhyfedd iawn, a phe byddai rhywun yn byw ar y ddaear y pryd hynny, gwelsai raff fawr yn cyrraedd o'r uchelder hyd at y ddaear, a rhyw fod a chanddo goesau a breichiau yn dyfod i lawr y rhaff. Daeth i lawr ac i lawr ac i lawr hyd nes cyrraedd y ddaear. Dyma'r dyn cyntaf.
A'r peth cyntaf a wnaeth wedi cyrraedd y ddaear oedd eistedd i lawr, fel y gwna holl blant dynion hyd heddiw. Eisteddodd i lawr am ei fod wedi blino, a'i goesau yn rhy wan i'w gario hyd nes eu hymarfer.
Ni phetrusai ddim ynghylch yr hyn a wnai. Ni chwibanai, ni chanai, ac ni siaradai, oblegid nid oedd neb ond efe yn y byd.
Yr oedd mewn gwirionedd yn hollol ddifater ynghylch popeth. Ni feddyliodd hyd yn oed am fwyta, nes iddo deimlo rhyw chwant a'i gyrrodd i gasglu aeron; a phan ddechreuodd fwyta gwnai'r fath ystumiau nes myned ei wyneb yn farciau hyll i gyd. Dichon bod bwyd y ddaear yn chwerw iddo yr adeg hynny.
Wedi iddo fod yma beth amser—ni wyddai faint—machludodd yr haul ac aeth yn nos, a theimlai yntau yn unig ac annifyr dros ben.
Dechreuodd edifarhau gan ddywedyd, "O ba le y deuthum? Nid wyf yn cofio imi erioed fod mor annifyr o'r blaen. Yr wyf yn unig a thruenus ac y mae ofn arnaf." Ymhen amser aeth y nos heibio a dechreuodd y dydd wawrio, ac mor falch oedd y dyn i weled goleuni unwaith eto! Ni wyddai ef yn amgen na byddai'n nos am byth. Pa fodd y gwyddai?
Modd bynnag yr oedd yn olau yn awr, a'r unig beth a obeithiai ef ydoedd na byddai nos mwy. Ond dyfod a wnaeth y nos ac meddai'r dyn: "'Rwy'n unig, 'rwy'n unig, 'rwy'n rhy unig i allu byw."
Wedi i'r ail nos fyned heibio ac i'r ail ddydd wawrio, gwelodd y dyn raff debyg i'r un y daeth ef i lawr arni, yn cyrraedd o'r uchelder mawr hyd at y ddaear. Ysgydwai fel pe bai rhywun yn tynnu. Ni feiddiai ei chyffwrdd rhag ofn i rywbeth ddigwydd iddo.
Ond wedi hir syllu, gwelodd fod tebyg iddo ef ei hun yn disgyn ar y rhaff. "Pwy all hwn fod meddai? Tybed bod y Bod Mawr wedi gyrru rhywun i'm lladd neu i'm nghymryd yn fy ôl i'r man yr oeddwn cyn dyfod yma?
Ni allai ffoi. Yr oedd fel pe wedi ei syfrdanu; a chyn hir daeth y bod arall yn ddigon agos iddo allu clywed sŵn, a gwaeddodd y bod
"Deliwch fi, 'rwy'n syrthio." Ar hyn rhuthrodd y dyn ymlaen a daliodd y bod, ond ni ddiolchodd iddo am ei drafferth. Yn lle hynny chwarddodd am ei ben ac meddai: Yr hen greadur gwirion, nid oeddwn yn syrthio, Gwaeddais er mwyn gweled beth a wnaet ti."
Pan ddaeth y dyn ato ei hun, gofynnodd i'r bod, "Beth a wnaeth i ti ddyfod yma?" ac ebr yntau, Anfonodd Duw fi, a dywedodd y deuwn o hyd i fod unig: a dyma ti."
"Y mae'n wir fy mod yn unig" ebe'r dyn, ac yr oeddwn yn teimlo'n annifyr iawn yn y tywyllwch." "Tywyllwch?" ebe'r bod. "Beth yw hynny?" "O! aros a chei wybod," atebai'r dyn. Machludodd yr haul yn gynnar a daeth ofn ar y bod newydd oblegid ni wyddai beth ydoedd tywyllwch. Eglurodd y dyn mai dim ond am amser y byddai yn nos ac y deuai goleuni drachefn: a dyna beth rhyfedd i'r bod newydd oedd gweled y goleuni yn dyfod. Dechreuodd y ddau dramwyo ar y ddaear ac ymhen amser daethant at ogof. Meddai'r bod wrth y dyn: "Ewch i mewn "; ond yr oedd ofn arno, hyd nes gweled y llall hefyd yn anturio i'r dirgelwch.
Yn yr ogof yr oedd pob math ar greaduriaid gwylltion. Trodd y dyn a'r bod arall hwynt allan, y cwbl ond rhyw greaduriaid oeddynt yn ymddangos yn ddwl a diniwed. Ni wyddent beth oeddynt, ond yr oedd rhyw reddf yn dywedyd wrthynt y dylent eu cadw ac y byddai eu heisiau arnynt. A dyma, meddai pobl Affrica, sut y y daeth y fuwch yn anifail cymeradwy gan ddyn ac yn ddefnyddiol iddo.
Ymhen amser daeth y dyn a'r bod arall i ddeall ei gilydd a bod yn gyfeillgar. A dyma, meddai'r dyn du yn Affrica, oedd dechreuad gŵr a gwraig.
STORI XXVI
PRIODI A BYW
ERS talwm iawn pan oedd pob peth fel pe yn y dechreuad, nid oedd ond nifer fach o ddynion a gwragedd yn byw ar y ddaear, ac yr oedd y dynion yn byw ar wahan i'r gwragedd. Yr oeddynt yn byw mewn ogofeydd, a'u gwaith oedd hela anifeiliaid gwylltion, tra'r oedd y gwragedd yn byw mewn tai bychain ar lannau'r afon, a'u bwyd hwy oedd hadau'r gwelltglas a dyfai ar y glannau.
Un diwrnod aeth y dynion i hela, a lladdasant springbok, ond fel dynion yn gyffredin yr oeddynt yn ddifater, a gadawsant i'r tân ddiffodd yn yr ogofeydd ac ni fedrent rostio'r cig. Yr oedd cymaint o eisiau bwyd arnynt fel y penderfynnwyd anfon un o'r dynion at y gwragedd i fenthyca tân. Ond pwy oedd i fentro: oblegid nid oedd dyn erioed wedi siarad â gwraig. Esgyrn a ddefnyddid ganddynt fel coelbren, ac wedi taflu'r asgwrn yn y modd arferol canfyddid y dyn oedd i fentro gyntaf.
Wedi llawer o baratoi cyrhaeddodd lan yr afon a chroesodd. Y peth cyntaf a welodd oedd gwraig yn casglu'r hadau. Ebr efe wrthi: "y mae tân y dynion yn yr ogofeydd wedi diffodd, rhowch fenthyg tân i ni os gwelwch yn dda?"
"Gwnaf," meddai'r wraig, "dewch gyda mi i'r pentref a rhoddaf dân i chwi." Aeth y dyn gyda hi. Wedi cyrraedd y pentref, meddai'r wraig wrtho: "Y mae eisiau bwyd arnoch, arhoswch yma hyd nes i berw ohonof yr hadau a chewch brofi ein bwyd ni." Eisteddodd y dyn i lawr ac arhosodd nes bod bwyd y gwragedd yn barod. Malodd y wraig yr hadau rhwng y cerrig a berwodd y blawd, ac meddai'r dyn, wedi bwyta, "Dyma'r bwyd gorau a gefais erioed. Gyda'ch caniatad mi a arhosaf yma gyda chwi": ac felly y bu.
Wedi hir ddisgwyl meddyliodd ei gyfeillion yn yr ogof fod rhyw ddamwain wedi digwydd, ac anfonwyd un arall i chwilio amdano ac i fenthyca tân; ond digwyddodd yr un peth iddo yntau. Hoffodd fwyd y gwragedd mor fawr fel yr anghofiodd bopeth ac arhosodd yn eu mysg.
Tri o ddynion oedd yn yr ogof yn awr, ac yr oeddynt i gyd yn ofergoelus. Credent fod rhyw ysbryd aflan wedi achosi damwain i'w cyfeillion; ac wedi hir aros ac ymddiddan maith anfonwyd y trydydd gan obeithio a chredu y byddai ef yn sicr o ddychwelyd. Ond na, ni ddychwelodd yntau ychwaith.
Erbyn hyn yr oedd y ddau weddill yn yr ogof bron â trengu, ac ni wyddent beth i'w wneuthur. Pe gadawent yr ysglyfaeth byddai rhyw greadur yn sicr o'i ddwyn, ac eto, ni allent ei fwyta'n amrwd; a mwy na'r cyfan yr oedd arnynt ofn, oblegid credent yn sicr fod rhyw anffawd ofnadwy wedi digwydd. "Os arhoswn yma " meddent, " byddwn farw o newyn.
"Os awn i chwilio amdanynt, ni ddychwelwn." O'r diwedd dyfarnwyd ei fod yn ddyletswydd arnynt i chwilio am eu cymdeithion, ac nad oedd gobaith am ddim ond trengu os arhosent lle'r oeddent. Ond pwy oedd i fynd? Yr oedd yn rhaid i un aros yn yr ogof a'r llall i wneuthur yr antur fawr.
Bwriwyd yr asgwrn unwaith eto, ac nid oedd ond un dyn i aros yn awr, a'r ddau mewn braw a dychryn rhag i'r un peth, beth bynnag ydoedd, ddigwydd iddynt hwy. Addawodd y dyn oedd i wneud yr anturiaeth ddychwelyd doed a ddelo. Cerddodd yr un llwybr a'r lleill. Croesodd yr afon bron yn yr un fan, a gwelodd wraig yn casglu'r hadau. Aeth ati ac adroddodd ei stori wrthi, a gofynnodd a allai fenthyca tân.
"Gellwch," meddai'r wraig, "dewch gyda mi i'r pentref; yno y mae'r tân." Wedi cyrraedd y pentref, gwahoddodd y wraig ef i fwyta yn ei thŷ hi, a chan fod y dyn bron â llewygu cydsyniodd yn ddiolchgar. Wedi bwyta, meddai wrth y wraig: "Dyma'r bwyd gorau a gefais i erioed; os caniatewch, mi a arhosaf yma gyda chwi, a phan âf allan i hela, dygaf yr ysglyfaeth yma i chwi i'w goginio."
Anghofiodd yn hollol am ei gyfaill yn yr ogof —ac yr oedd hwnnw druan bron â marw o newyn a braw. Wedi aros ac aros ac aros daeth ofn mawr arno, a chan gydio yn ei fwa a'i waywffon, ffodd o'r wlad ac o gyrraedd yr anffawd, yn ôl ei dyb ef, oedd wedi digwydd i'w gyfeillion. A dyna, meddai rhai o bobl y diffeithwch, ddechrau priodi.
RHAGOR ETO
YN y prolog buom yn tramwyo o amgylch anialwch y Kalahari. Ymdrechwyd i ddarlunio'r dyn sydd yn byw yno. Credwn mai buddiol fyddai symud gam ymhellach a rhoddi i chwi gipdrem ar hanes a daearyddiaeth y cyfandir mawr. Anawdd yw gwybod yn sicr rif ei phoblogaeth. Dywed rhai ei fod tua 135,000,000.
Gwlad hen iawn yw Affrica, ac i rannau ohoni y mae hen, hen hanes: hanes hen wareiddiad sydd yn dyddio'n ôl rhyw dair mil o flynyddoedd.
"Y cyfandir tywyll." Dyma'r enw roddodd un o brif arloeswyr y ganrif ar y wlad fawr hon.
Yr oedd yn dywyll, mae'n wir, yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif a'r bymtheg.
Serch hynny, y mae gennym ar gof a chadw gronicl o gysylltiad y Groegiaid â'r wlad 1,200 mlynedd cyn geni Crist.
Ysgrifennodd Herodotus a Pliny, hanesyddion yr hen oesau, lawer iawn amdani. Yng ngweithiau

Ptolemy, daearyddwr enwog yr Aifft, dysgwn nifer o ffeithiau am Ogledd Affrica a'i harfordir. Edrydd Herodotus hanes a ddigwyddodd yn nyddiau Necho brenin yr Aifft am ymgyrch yn cychwyn o'r Môr Coch i astudio posiblrwydd masnachol arfordir y cyfandir i gyd. Wedi misoedd lawer o anturiaeth a chaledi dychwelasant trwy golofnau Hercules," fel y galwyd culfor Gibraltar y dyddiau hynny.
Cafodd bechgyn yr Aifft ugeiniau o nosweithiau difyr yn gwrando ar y morwyr dewr yn adrodd eu straeon a disgrifio helyntion y fordaith fawr. Yr oedd hyn chwe chant o flynyddoedd cyn geni Crist.
Yr ydym ni'n ddyledus am ein gwybodaeth o rannau mewnol y wlad i nifer o ddynion dewr a gwrol oedd yn byw yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif a'r bymtheg.
Yr oeddynt bron i gyd yn Brydeinwyr, ac un Cymro yn eu mysg—Henry Moreton Stanley, neu Daniel Rowland fel yr adnabyddid ef pan yn fachgen yn y tloty yn Ninbych.
Dyma i chwi restr ohonynt:—
James Bruce: Arloeswr Ysgotaidd 1274- 1329: Arloeswr ar yr Afon Nîl.
Mungo Park: Arloeswr Ysgotaidd 1771-1805: Arloeswr ar yr Afon Niger.
Hugh Clapperton: Arloeswr Ysgotaidd 1788- 1827: Arloeswr yn y Swdan.
Richard Lander: Arloeswr Ysgotaidd 1804- 1833: Arloeswr ar yr Afon Niger.
David Livingstone: Arloeswr a Chenhadwr Ysgotaidd 1813-1873: Canolbarth Affrica.
Henrich Barth: Arloeswr Almanaidd 1821- 1865: Canolbarth Affrica.
John Speke: Arloeswr Saesneg 1827-1864.
Syr Samuel Baker: 1821-1893.
Y Cadfridog Gordon: Milwr Saesneg 1833- 1885: Swdan, Khartoum.
Cerney Cameron: Arloeswr Ysgotaidd 1844- 1894: Croesodd ar draws Affrica.
Henry Moreton Stanley: Cymro 1841-1904: Canolbarth Affrica, etc.
Wel beth am y wlad fel y mae heddiw? Faint a ellir ei ddywedyd am dani mewn un bennod? Cawn weled.
Ar glawr y llyfr y mae map sydd megis darlun o Affrica wedi ei dynnu o 'aeroplane,' a'n bwriad yw ymweled â rhai o'r lleoedd a holi yn eu cylch.
MYNYDDOEDD ATLAS.
Dechreuwn yn y Gogledd. Yr enw cyntaf sydd yn dal ein sylw yw: Mynyddoedd Atlas. mae i'r rhain le pwysig yn hanes Gogledd Affrica. Y maent yn hen fel Affrica ei hun, a'u huchter yn agos gymaint dair gwaith â'r Wyddfa. I'r Gogledd iddynt y mae Morocco, Culfor Gibraltar, Môr y Canoldir, a'r dinasoedd enwog Fez, Tangier, Algiers a Tunis. Y maent heddiw i gyd o dan faner Ffrainc ac Ysbaen. Ynddynt hwy y bu'r ymladd mawr am yn agos i dair blynedd rhwng y Ffrancod a'r Ysbaenwyr ar y naill ochor a'r Riffiaid ar yr ochor arall. Wedi hir ymladd gorchfygwyd ac y alltudiwyd y Swltan fel carcharor i ynys fawr Madagascar.
DIFFEITHWCH Y SAHARA.
Megis yng nghesail y mynyddoedd y diffeithwch y Sahara, y mwyaf yn yr holl fyd. Nid môr o dywod fel ei gymydog, anialwch Lybana, yw'r Sahara. Y mae pobl yn byw mewn rhannau ohono,—pobl grwydrol fel rheol. Ond y mae yno hefyd ardaloedd a phentrefi sefydlog. Nid oes angen dywedyd mai yng Nghyffiniau'r Oasis y ceir y cyfryw (Gan mai gair Groeg yw "Oasis y mae gennym yr un hawl a'r Sais i'w fabwysiadu). Ychydig iawn o law sydd yn y Sahara ac y mae'r wybren bron yn ddigwmwl ar hyd y flwyddyn Ond mae'r gwres yn ofnadwy, yn annioddefol felly. Prin iawn y gall dyn gwyn ddal y poethter, ac eto y mae eira ar ben y mynyddoedd, nid rhyw gawod ohono, ond eira tew trwy'r flwyddyn.
Y mae drain ar bopeth bron a dyf yno. Ac eithrio'r pethau a blennir, megis dates, rice, oranges, a durrha (math o ŷd sy'n gyffredin yn y Dwyrain).
Perthyn y Sahara i Brydain, Ffrainc ac Ysbaen; ac y mae ym mwriad y galluoedd hyn i wneuthur rheilffordd ar ei thraws, a ffosydd i'w dyfrhau.
Yr ydych chwi'r plant yn gyfarwydd â pheiriannau trydanol, peiriannau petrol a'r ager-beiriant. Y mae y rhai hyn gyda chwi bob dydd. A glywsoch chwi am beiriant sydd yn dibynnu ar nerth pelydrau'r haul i'w yrru? Yn Affrica, ac yn niffeithwch y Sahara yn arbennig, astudir y posibilrwydd o wneuthur peiriant a yrrir gan effaith yr haul. Pan berffeithir hwn daw diffeithwch y Sahara a llawer anialwch arall yn ffrwythlon a gwerthfawr.
Y SWDAN.
Gellid dywedyd llawer o bethau am y Sahara, ond awn yn îs i lawr i'r De a deuwn cyn hir i'r rhanbarth a elwir y Swdan. Nid yw Swdan fawr gwell na'r Sahara, ac mewn rhannau y mae'n waeth. Rhed o Benrhyn Verde yn y Gorllewin dros y Nîl, heibio i Dde Abbysinia hyd at Benrhyn Guardeafui yn y Dwyrain, tua 4,000 o filltiroedd.
Y mae poblogaeth y Swdan lawer iawn yn fwy na'r Sahara. Yn ôl un cyfrif y mae tua 14,000,000. Y mae hefyd yn enwog am ei bwystfilod gwylltion, ei hafonydd a'i llynoedd mawrion.
Hoffem pe bai amser i sylwi ar lawer o'i phethau a'i lleoedd hynod. Ni ellir gadael y wlad, modd bynnag, heb ymweled â dwy ddinas, sef Khartoum, ac Omdurman. Khartoum yw prif-ddinas y Swdan Brydeinig. Ychydig flynyddoedd yn ôl yr oedd yn dref Fohametanaidd hyll a budr ac yn ganolfan bwysig i fasnach erchyll a chreulon caethwasiaeth. Ni ellir meddwl am y ddinas hon sydd heddiw mor lân a phrydferth heb gofio am un Prydeiniwr enwog a haedda bob clod ac anrhydedd —y Cadfridog Charles George Gordon. Dilynodd ef lwybrau Livingstone; archwiliodd gwrs y Nîl a'r llyn Albert Nyanza; a rhoddodd ran helaeth o'i fywyd i ddarostwng caethwasiaeth.
Yn y flwyddyn 1884, yr oedd yn warchaeedig yn Khartoum, a'r Madhi a'i fyddin fawr yn amgylchu'r lle. Cadwodd Gordon y gelyn allan am flwyddyn gyfan. Un bore, trwy frâd, agorwyd pyrth y ddinas a rhuthrodd y Madhi a'i filwyr i mewn a lladdwyd y dyn da hwn ar risiau'r tŷ yr oedd yn byw ynddo. Cyrhaeddodd y fyddin a geisiai ei ryddhau ddau ddiwrnod yn rhy ddiweddar.
Canodd Tennyson amdano fel hyn:—
Warrior of God, man's friend and tyrant's foe,
Now somewhere dead far in the wastes of Sudan:
Thou livest in all hearts, for all men know
This earth hath born no simpler, nobler man."
Cymharol fyr fu mwyniant y Madhi ar ôl hyn. Daeth y Cadfridog Kitchener i'r maes a gorfodwyd y Madhi i gilio'n ôl i'w ddinas ei hun—Omdurman, heb fod ymhell o Khartoum. Yn y flwyddyn 1898, wedi brwydro dychrynllyd, gorchfygwyd y Derfisiaid, lladdwyd y Madhi, a bu diwedd ar gyfnod ofn a difrod yn y rhanbarth hwn o Affrica.
Dim ond un llyn pwysig sydd yn y Swdan, sef, Llyn Chad. Un o'i brif nodweddion yw, nad oes afon yn rhedeg ohono, ond y mae yno ddwy afon, sef Niger yn y gorllewin, a Nîl neu ran ohoni yn nes i'r dwyrain. Y mae'r Niger rhwng dwy a thair mil o filltiroedd o hyd, a'r Nîl tua 4,200, ac yn gysylltiedig â hwynt ceir enwau bron pob un o arloeswyr Affrica. Y mae hen hanes i'r ddwy. Sonnir am un ohonynt yn yr Hen Destament. Ar lan y Nîl y cuddiwyd Moses bach yn y cawell. Awgrym ei llifogydd hi sydd yn yr adnod adnabyddus "Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd." Ar hyd-ddi hi y cludwyd y cerrig, bron na ddywedwn y creigiau, o ardal Assouam i adeiladu Pyramidiau'r Aifft.
Y mae ei chysylltiad â rhyfeloedd a chaethwasiaeth yn ei gwneuthur yn un o afonydd enwocaf y byd.
Y CONGO A'R CANOLBARTH
Dyma ni wedi gweled cymaint ag a allwn mewn byr amser o wlad y Gogledd, y Swdan, ei hafonydd a'i llyn, yn awr codwn ein pebyll, a chyfeiriwn ein camau yn îs i lawr i'r Deheudir, a deuwn i ran o Affrica sydd yn llawer mwy ffrwythlon ac o bosibl yn fwy diddorol. Dyma ni yng ngwlad y Congo a chanolbarth Affrica,—gwlad yr afonydd mawrion, llynoedd enwog, a mynydd uchaf Affrica, sef Kilimanjaro yn Kenya.
Yma eto rhaid dewis. Pa beth a ddewiswn? Dyma'r Congo, y Zambesi, Llynoedd Albert Nyanza, Victoria Nyanza, Tanganyika, Moero, Bangwelo, a'r Victoria Falls.
Y maent oll yn enwog am lawer o bethau, ac yn arbennig ar gyfrif CAETHWASIAETH.
Beiir y Portugeaid am y fasnach ofnadwy hon; ond nid oes un o genhedloedd gwareiddiedig Ewrop yn lân eu dwylaw oddiwrthi. Y mae hanes y Belgiid ar y Congo, a Phrydain hefyd o ran hynny, yn ysmotyn mawr du ar eu cymeriad hwy a ninnau.
Gellir enwi amryw a ymladdodd yn ddewr yn erbyn y fasnach hon, ond ni wnaeth neb fwy na David Livingstone. Rhoddodd ef ei fywyd i ddarostwng y fasnach greulonaf a mwyaf barbaraidd yn hanes dyn.
Ond trwy'r cyfan, y mae'r dyn du wedi llwyddo i wenu ac y mae hilogaeth y caethweision fel pe yn ail adrodd hanes plant Israel yn yr Aifft. Anfonwyd yr Affricanwr fel caethwas i'r America. Yno y mae wedi cynyddu a llwyddo tuhwnt i bob amgyffred, ac yn awr try ei wyneb yn ei ôl i gyfeiriad ei Ganaan ef. Myn chwarae teg i'r dyn du ym mha le bynnag y bo. Ni chafodd neb erioed fwy o gam ac nid oes dim a allwn i ei wneuthur yn ormod o iawn am y modd y camdriniodd ein tadau y trueiniaid hyn.
Cymerai ormod o amser inni ddringo i ganol yr eira ar goppa mynydd mawr Kilimanjaro. Y mae oddeutu 20,000 o droedfeddi o uchter. Rhoddwn ddarlun ohono a gofynnwn i chwi chwilio yn eich llyfrau ysgol am ragor o'i hanes a'r chwedlau diddorol sydd yn gyssylltiedig ag ef.
YR EPILOG
TYBED a ydych wedi mwynhau Straeon Affrica? Nid ydynt wedi'r cyfan yn wahanol iawn i Straeon Gwerin Cymru. Dangosant un peth, sef, mai'r gwahaniaeth mawr rhwng y dyn du ar dyn gwyn ydyw ei liw. Yn ei symylrwydd brodorol gwelwn y dyn du yn hela, yn bwyta, yn yfed ac yn adrodd straeon. Y mae mor hoff o stori ag unrhyw blentyn yng Nghymru ac y mae ei Straeon yn ymwneud â'r pethau sydd gynefin iddo ef. Ond ni ellir ei adael, yn ei fyd syml i hela, bwyta a dyweud straeon. Y mae'r byd yn rhy fach i hynny ac angen y dyn gwyn yn rhy fawr. Ni ellir ei adael yn ei amherffeithrwydd, ac ni fyn yntau aros yno ychwaith; a'r pwnc ymholiad a gyfyd yw: Beth fydd ei ddyfodol?
Gellir gwneuthur bwystfil ohono. Ond y mae ynddo ddefnyddiau sydd yn werth eu datblygu: nid un Aggrey sydd yn bosibl yn Affrica.

Y mae gennym hanesion lawer a brawf hyn. Rai blynyddau'n ôl yr oedd dyn yn byw yn Affrica o'r enw Affricander. Yr oedd wedi ei drin yn y fath fodd fel ag i'w wneud yn arswyd trwy'r wlad i gyd. Nid yn unig yn arswyd i'w gyd-ddyn du ond i'r dyn gwyn hefyd. Aeth Cenhadwr o'r enw Robert Moffat i wlad Affricander a gwnaeth gyfaill ohono, a daeth Affricander yn un o'r dynion mwynaf yn Neheudir Affrica. Yn lle ymladd, lladrata a lladd, trôdd yn Efengylwr —un o'r efengylwyr enwocaf a fu yn Affrica.
A dyma i chwi un arall. Y brenin Khama Sekomi oedd enw ei dad: Un o'r dynion gwaethaf yn Affrica. Yr oedd yn bennaeth ar lwyth mawr o bobl, sef y Bamangwato. Dyn drwg oedd Kamami ei frawd hefyd. Ni fynnai Sekomi na Kamami ymgyfeillachu â'r cenhadon, a bu'r ddau farw fel y buont fyw, ynghanol ysgelerder bwystfilaidd anisgrifiadwy.
Ond enillodd y Cenhadwr Khama, a mwy na hynny fe'i rhoddodd ei hunan i Iesu Grist. Ni bu gwell brenin erioed ar ei orsedd. Yr oedd yn gyfiawn, yn lân ei fywyd a daeth y Bamangwato yn llwyth cryf, sobor, a phur.
"Yr wyf finnau," meddai Aggrey," yn ddyledus i Genhadon a anfonwyd i'm gwlad gan Gymdeithas Genhadol y Wesleaid as nid oes dim a werthfawrogaf yn fwy na chael bod yn Gristion.

"Y mae Duw a minnau ar delerau da a'n gilydd. Y mae Efô yn fy neall i a'm cynorthwya i weithio'n galed bod dydd i gyrraedd ei safon Ef, oblegid gwn fod ganddo ffydd ynof fi. Yr wyf yn gweddio'n
ostyngedig bob dydd am nerth i beidio â'i siomi Ef.
Nodiadau
[golygu]- ↑ JONES, THOMAS JESSE (1873 - 1950) Addysgwr, ystadegydd, a sosiolegydd; Y Bywgraffiadur Cymreig
- ↑ Gwel y Darlun ar y ddalen gyntaf.
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.