Telyn Bywyd/Ar Li y Fenai Loew
Gwedd
| ← Awn yn Nwyfus | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Bro Geirionydd → |
Ar Li y Fenai Loew.
AR y Fenai loew yn ysgafn dawnsiai'r bâd,
A hwyliai'r cwmni llawen heb don ar eu mwynhad;
'Roedd gwen ar wyneb anian a'r haf yn llenwi'r tir,
Yr awel yn sidanaidd a'r nefoedd oll yn glir.
Daw llawer diwrnod pruddaidd i'm cwrddyd ar fy hynt,
Collaf wen yr hafddydd a rhuo wna y gwynt;
Ond cofiaf am y cwmni, y llonder a'r mwynhad,
Ar li y Fenai loew pan oeddwn yn y bâd.