Telyn Bywyd/At y Darllenydd
| ← Telyn Bywyd | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Cynwysiad → |
AT Y DARLLENYDD.
YN ystod y blynyddau a fu, yr wyf wedi anturio cynyg dau neu dri o lyfrynau bychain i sylw fy nghenedl a'm gwlad. Cawsant dderbyniad caredig, gan y wasg, a chan y cyhoedd yn gyffredinol. Nid wyf heb wybod am eu diffygion; ond y mae'n dda genyf ddeall ddarfod iddynt fod yn gymhorth i ddwyn "Awel a Heulwen" i ambell feddwl, a bod aml i ddarllenydd o dir neillduaeth wedi eu cael yn fantais i anghofio ei amgylchoedd, ac i dreulio "Oriau," fel yn nyddiau mebyd, yn y "Wlad."
Y tro hwn, yr wyf yn cyflwyno iddynt lyfr arall, mewn ffurf wahanol. Llyfr o ganeuon ydyw. Nid oes awdl na phryddest, cywydd nac englyn, o'i fewn—dim ond caneuon. Ac nid oes yr un o honynt yn gynyrch "buddugol," neu yn "gân arobryn." Ni fuont mewn unrhyw eisteddfod na chyfarfod llenyddol; oherwydd paham ni enillasant gadair na choron, tlŵs aur neu fathodyn arian. Cawsant eu bod—hwyrach y buasai'n burion iddynt beidio bod o gwbl—ond y mae'n rhy ddiweddar i atal yr aflwydd hwnnw,—cawsant eu bod, nid ar orchymyn na chymhelliad allanol, ond fel mynegiad i deimladau personol fu yn croni yn fy mynwes ar wahanol adegau yn fy mywyd.
Byddai yn rhyfyg ynof i ddweyd nemawr am fy ymyriad a barddoniaeth; ond nid wyf yn cofio adeg pan nad oeddwn yn hoffi cân, ac y mae talm o amser weithian, er pan geisiais odli llinellau ar destynau o fewn fy nghyrhaedd. Ac wrth fwrw golwg dros y caneuon hyn y mae llawer golygfa, llawer ymsyniad llon a lleddf yn adgyfodi ger fy mron. Bid sicr, nid yw hyn yn meddu unrhyw ddyddordeb na phwysigrwydd i neb arall o dan yr haul; ond yr wyf yn enwi y peth, am mai rhywbeth o'r fath a fu'n achlysur i alw y caneuon hyn i fod. Y mae gan bob un ryw fymryn o hanes personol. Golygfa mewn natur: rhyw gyffyrddiad damweiniol,—os damweiniol, hefyd, yn cyffroi tannau y galon, a minnau, ar y pryd, yn ceisio benthyca iaith ac ymadrodd i gadw y drafodaeth rhag mynd ar goll.
Bum yn petruso gryn lawer yn nghylch y modd goreu i gyfleu y caneuon hyn yn y llyfr. A oedd rhyw drefn a dosbarth yn perthynt iddynt? A ellid canfod rhyw unoliaeth yn mysg y pentwr? Nid oeddwn yn gallu dygymod a'r syniad o argraffu cyfres o ganeuon hollol amherthynasol.
Wedi meddwl goreu y gallwn ar y mater, tybiais ddarfod i mi fod yn gwrando pedair telyn yn ystod fy oes. Telyn Anian—dyna un. Clywais ei halawon hi yn Nyffryn Edeyrnion, ar lannau llyn Tegid, yn nghanol aruthredd yr Eryri, ac mewn llawer cwm a dol, yn ystod fy mhererindod. Telyn Adgof oedd y llall. Y mae seiniau honno wedi bod yn disgyn yn fynych ar fy nghlust, yn enwedig yn y blynyddau diweddaf. Yr oedd ei nodau yn lleddf, lawer pryd, ond yr oeddynt yn felus, yn fwyn. Llonyddwyd fy ysbryd, lawer nos Sabboth yn y wlad, pan fyddai y gwynt yn galarnadu yn y coed, gan delyn adgof. Ac wrth wrando, yr oedd y meddwl yn ceisio dehongli yr iaith. A lwyddais i letya angylion, ac i ddal rhai o ysbrydion y gerdd? Nis gwn. Telyn fy Ngwlad, oedd y drydedd. Hoffwn wrando hon. Dan gyfaredd ei nodau hi, gwelais arwyr y dyddiau gynt yn trefnu eu byddinoedd: clywais gri rhyfeloedd, ac alawon hedd. Gwelais Gymru'n deffro, yn ymysgwyd o'r llwch, ac yn cerdded i'r dyfodol dan faner rhyddid, gwybodaeth, a moes. Y mae hon yn un o delynau mawr barddoniaeth Cymru, a phrif-feirdd yr oesau wedi bod yn dirgorynnu ei thannau godidog. Ond dichon y caniateir i feirdd bychain ddweyd gyda'r Apostol gynt,-"Ni pherffeithir hwy hebom ninnau, hefyd." Y mae cornant y Berwyn, â'r Ddyfrdwy enwog, yn cynganeddu ar eu hymdaith tua'r môr. Telyn y Cysegr-dyna'r olaf. Dyna'r delyn aur. Yr wyf wedi ei gwrando yn foddhaus ar ei hemynau per. "Swn mwy hoff a swn mwy hyfryd" a glywais ynddi, nac a feddai'r byd o'r bron. Amcenais lawer nos Sul, wedi i waith y dydd fynd drosodd, geisio canu gyda'r delyn" hon. Ond yr oedd pob llinell a phennill yn dweyd yn eu hiaith, "Nid wyf deilwng": ac yn efelychu lleisiau'r greadigaeth yn emyn Pantycelyn, "yn distewi a mynd yn fud." Dyna y rheswm fod yr adran hon yn y llyfr yn cynwys llai o ganeuon na'r rhanau eraill. Nid wyf yn bwrw ddarfod i mi gael gafael ar delyn'anian, neu delyn adgof: ond y mae rhywbeth yn y telynau hyn sydd yn peri i ddyn deimlo yn fwy hyderus, ac yn barotach i geisio cyfieithu yr alawon i iaith ei fynwes ei hun.
Y mae beirdd a barddoniaeth newydd wedi ymddangos yn Nghymru er yr adeg y bum i, ac eraill, fel bugail Aberdyfi, yn ceisio canu cân." Yr ydym yn cael ein harwain i froydd goludog, ac i gymdeithas gweledigaethau mawrion a dieithr Ond dichon fod lle eto i ambell i gân seml. Nis gellir darllen Miltwn bob amser. A chredaf fod ambell fardd mawr Cymreig nas gall y meddwl ei ddilyn bob awr o'r dydd. Ambell fin nos, wedi ymflino gyda thrafferthion bywyd, yn lluddedig a diynni, y mae y meddwl yn gofyn am gân. Dyna ei hawr hi. Y mae sain yr organ yn rhy gryf a llethol yn yr awr honno,—estynwch y delyn, moeswch y gân,—yn ngeiriau Longfellow,—
Darllenwch ryw brydydd syml
A'i gân yn ffrydio o'i fron,
Fel cawod o gwmwl hafddydd,
Neu ddeigryn o lygad llon.
Mae cân fel yna yn lleddfu
Ergydion poen a chûr,
Ac yn dyfod fel y fendith
Sydd yn dilyn gweddi bur.
Mewn gobaith fod ambell i gân fel yna yn y llyfr hwn.
Y gorphwys,
Eich gwasanaethwr,
YR AWDWR.
Awst, 1904.