Telyn Bywyd/Awelon yr Haf
Gwedd
| ← Y Pelydr Haul | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Clychau'r Gwanwyn → |
Awelon yr Haf.
MYND a wnawn o neuadd anian
Ar foreuddydd hafaidd, gwyn,
Gwisgwn ein sandalau arian,
Canwn, dawnsiwn dros y bryn.
Dringwn i'r mynyddau
Fry i gwrdd y wawr,
Llithrwn dros eu llethrau,
Llamwn hyd y creigiau
I ben y mynydd mawr.
Rhedwn tua'r dyffryn
I ddeffro'r blodau mân;
Ar delyn werdd y goedwig
Seiniwn newydd gân;
Awn, awn ar aden sidan
Dros wair, ac yd y ddol,
A phob glaswelltyn purlan
A wena ar ein hol.
Y môr! y môr! y llydan fôr,—
Ac yno gyda'r don,
Dan wenau haul yr hafddydd clir
Chwareuwn alaw lon:
Canwn yn yr hwyliau
Wrth fynd i ffwrdd, i ffwrdd——
A chana'r morwr yntau
Yn ddifyr ar y bwrdd.
Ar derfyn dydd dychwelwn,
Dros fôr, a bryn, a rhos,
Yn neuadd Anian hunwn—
Gorphwyswn—daeth y nos!