Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Bedd yr Iesu

Oddi ar Wicidestun
Y Tair Gardd Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Gostyngeiddrwydd

Bedd yr Iesu.

DAETH bore'r "trydydd dydd," a gwridai'r wawr wen dlôs,
Mewn gwisgoedd porphor, cain, drwy leni trwch y nos,
Ond cyn i haul y cread gyfodi i'w freiniol sedd,
Haul claer Cyfiawnder godai o gôl y tywell fedd.
Uwchben y fan gorweddai Gwaredwr mawr y byd,
Y gwragedd tyner safent mewn agwedd ddistaw, fud;
Yr heilltion ddagrau dreiglent yn gyflym lawr eu grudd,
Fynegent iaith y teimlad, a chwyddai bronau prudd.

I'r llanerch gysegredig, fy awen, hed ar hynt,
Disgrifia yr olygfa a gadd y gwragedd gynt;
Y pwysfawr faen dreiglesid i ffwrdd oddiar y bedd,
Ac arno safai angel—fel mellten oedd ei wedd;
Mae'r llian main a'r napcyn yn hollol yn eu lle,
Ond sanctaidd gorff yr Iesu,—pa le dodasid E'?
Yr angel gwyn atebai, mewn geiriau llawn o hedd,—
Yr Arglwydd a gyfododd, 'does yma ond ei fedd.

Nis gallai teyrn marwolaeth ddim ei gaethiwo Ef,
Drwy ymerodraeth Angau gwnaeth brif-ffordd fry i'r nef:
Pan gauai dorau'r beddrod ar Geidwad euog ddyn,
Agoriad porth marwolaeth orweddai wrth ei glun:

A phan y daeth y "boreu" a drefnodd arfaeth Iôr,
Fe glywid trwst yr allwedd,—agorai'r rhydlyd ddôr;
Yr adsain a ymledai fel tòn yn dilyn tòn,—
Cyhoeddi angladd Angau a wnai yr adsain hon!

Yn nrych y beddrod gwag, canfydda llygad ffydd,
Rag—gynllun o'r olygfa foreu'r olaf ddydd;
Bedd gwag ein cadarn Brynwr ddywed yn ei iaith,
Mai gwag y diwrnod hwnw fydd beddau'r ddaear faith:
Uwchben hen garchar Angau adseinia udgorn Duw,
Y dorau a agorir,—daw'r meirw oll yn fyw,
A theulu'r nef esgynant i dawel gartref hedd,
I dreulio tragwyddoldeb mewn gwlad heb ynddi fedd.


Nodiadau

[golygu]