Telyn Bywyd/Bethlehem
| ← Telyn y Cysegr | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Noswyl y Cenhadwr → |
Bethlehem.
ANIAN hunai mewn dystawrwydd,
Taenai'r nos ei mantell laes,
Gwylio'r praidd hyd wawr y cyfddydd
Wnai bugeiliaid yn y maes
Pan dywynai claer oleuni
Nes gwyleiddio'r ser i gyd,
Ac y canai engyl Gwynfa
Ar ganllawiau'r nefol fyd,—
Gogoniant! Gogoniant!
Treiddia'r gân ag uchel lef,
Daeth Duw ei Hun i natur dyn,
Addolwn,—molwn Ef.
Uwch y chwyddai'r gân folianus,
Clywch y mawl a leinw'r nen,
Ceidwad anwyd,—Mab a roddwyd,—
Boed y goron ar ei ben!
Awdwr bôd,—Tywysog bywyd,—
Ddaeth i brynu dynolryw,
Syned nef—molianed daear,—
Caned holl angylion Duw!
Gogoniant! Gogoniant!
Treiddia'r gân drwy froydd nef,
Daeth Duw ei Hun yn Fab y Dyn,
Addolwn, molwn Ef.
Darfu'r gân, a'r cor esgynodd
I orielau Gwynfa Duw,
Ond mae'r adsain eto'n aros
Eto'n disgyn ar ein clyw:
A phan fyddo'r dorf waredig
Wedi dyfod oll yn nghyd,
Cenir anthem felus Beth'lem
Draw ar fryniau gwlad yr hedd:—
Gogoniant! Gogoniant!
Treiddia'r gân i eithaf nef,
Daeth Duw ei Hun i gadw dyn,
Addolwn,—molwn Ef.