Telyn Bywyd/Blodau'r Gwaenydd
Gwedd
| ← Nos-ganeuon | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Y Defnyn Bychan Gloew → |
Blodau'r Gwaenydd.
GWYNION flodau'r gwaenydd,
Yn mysg yr hesg a'r brwyn,
Ddawnsiant drwy yr hafddydd
O flaen yr awel fwyn.
Mae blodau'r gors yn gwisgo
Eu mantell felen, dlos,
A'r perthi drain yn gwrido
Dan goron gain o rôs.
Daw peraroglau'r meillion
O'r weirglodd ar eu hynt,
Gan ddeffro hen adgofion
Am felus ddyddiau gynt.
Mae'r llwyni dail yn llonydd,
Pan êl yr haul i lawr,
Gan dynu lleni'r hwyrddydd
Dros flodau teg eu gwawr.
A. phan ddaw'r hafnos oleu.
A'i haden laes ar daen,
Mae tylwyth teg y blodau
Yn dawnsio ar y waen.
Gwynion flodau'r gweunydd!
Plant yr hafddydd mwyn,
Arhoswch byth yn newydd,
Yn mysg yr hesg a'r brwyn.