Telyn Bywyd/Breuddwyd Paradwys
| ← Pa le y maent hwy | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Y Tair Gardd → |
Breuddwyd Paradwys.
(A Dream of Paradise)[1]
GYNT, yn yr hwyrddydd tawel,
Breuddwydiais freuddwyd per,
Mi dybiwn weld y Wynfa glaer,
Dan wawl y gloewon ser:
Ac yn y cain ogonedd
Fe safai cerddor glan,
A thrwy dawelwch dwfn y nos,
Fel hyn yr oedd ei gân.
"Arglwydd y nefoedd fry,
Graslawn a thrugarog,
Rho wawl dy gariad cu,
O Dad trugarog,
Arglwydd, nerthol a sanctaidd,
Rho wawl dy gariad cu,—
Dy gariad cu.
Ond yn fy mreuddwyd melus,
Mi glywais adsain loes,—
Sibrydion poen a gofid,
A chwerwon droion oes,—
Gruddfanau yr amddifad,
A chŵyn y tlawd a'r prudd,—
Ond cân y dysglaer angel
A droes y nos yn ddydd.
Draw, draw, yn y wlad ddigwmwl,
Lle saif y dyrfa glaer,
Tu fewn i byrth Paradwys,
A gwlad y delyn aur,—
Mae llais y nefol gerddor
Yn treiddio drwyddynt hwy,—
Tra haul a ser yn machlud,
Byth i gyfodi mwy.