Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Bryn y Beddau

Oddi ar Wicidestun
Glaniad y Mayflower Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Pa le y maent hwy

Y Tadau Pererinol.

II. BRYN Y BEDDAU.
(Maes Macpelah y Pererinion).

Fan yma y gorwedd y Tadau cu:
A phan ddelo'r hafddydd gwyn,
A'i euraidd wên i adloni'r byd,
Awn, safwn ar ben y bryn.

Fan yma, daw pelydr cyntaf y wawr,
Fan yma daw'r adar a'u cerdd,
A'r haul wrth fynd lawr, dros yr eigion mawr,
Oreura yr oror werdd.

Mae ysbryd y Tadau yn aros o hyd:
Mae'n crwydro yr ardal dlôs,
Mae'n gwarchod llwch y dewrion a fu,
Gyda sanctaidd ser y nos.

Mae'n gwylio gorweddle dawel y saint,
Ac erys i'w gwylio hwy,
Nes byddo yr aig oddeutu y graig
Yn peidio cynhyrfu mwy!


Nodiadau

[golygu]