Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Caneuon ein Gwlad

Oddi ar Wicidestun
Telyn fy Ngwlad Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Llewelyn y Llyw Olaf

Caneuon ein Gwlad.

MAWRYGWN ganeuon ein gwlad,
Llawenydd ac ymffrost ein tadau,
Grymuso eu breichiau i'r gâd,
A thanio eu serch wnai eu hodlau:
Anadlu yn gynhes o hyd,
Mae rhyddid o fewn ein halawon,
Gwladgarwch,-fu'n huno cyhyd,
A ddeffry yn swn eu hacenion.

Mae ysbryd y dewr Gymru gynt,
Drwy Ymdaith Gwyr Harlech yn treiddio,
A gwrando Llwyn Onn, ar ei hynt,
Dynn ddeigryn o lygad y Cymro:
Mae nodau'r Fwyalchen mor fwyn,
Ar hen Forfa Rhuddlan mor leddfol,
Merch Megan yn drylawn o swyn,
A Thoriad y Dydd yn llesmeiriol!

Tra phrydydd a cherddor mewn bri,
A Chymru yn caru ei defion,
Alawon ein cenedl ni
Anwylir yn nghalon y Brython:
Os cilio wnaeth rhyddid o'n plith,
Os chwenych ein gwlad ddarfu'r estron,
Na chaffed un gelyn hyd byth
Weld Cymru'n anghofio'i halawon.

Mawrygwn ganeuon ein gwlad!
A chadwn hwy byth mewn coffad:
Tra ton yn yr eigion, tra haul yn y nen,
Byw fyddo cerddi hen Gymru wen.


Nodiadau

[golygu]