Telyn Bywyd/Cartrefi Gwynion Cymru
| ← Cyfoder y Faner i fyny | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Gof y Pentref → |
Cartrefi Gwynion Cymru.
CARTREFI gwynion Cymru!
Mor brydferth yw eu gwedd,
Dan gysgod bryniau oesol,
Dan aden dwyfol hedd:
Mor swynol yw y llethrau,
Lle chwery'r ieuainc wyn,
A'r doldir, llo'r ymdroella
Y ffrwd, fel delw swyn.
Cartrefi gwynion Cymru!
Ar eu haelwydydd glân,
Cyferfydd pur deimladau
Fin hwyr, o gylch y tân;
Ceir yno fwyn alawon,
A llawer ymgom fad,
Ac yno y mae gorsedd,—
Serch-orsedd mam a thad.
Cartrefi gwynion Cymru!
Mor esmwyth ar eu tro,
Y daw awelon sanctaidd
Y Sabboth dros y fro:
Mae clychau'r llan yn seinio
A'u hadlais yn y glyn,
Ac adar mân yn pyncio
Ar wawr y bore gwyn.
Cartrefi gwynion Cymru!
Boed gwynder rhin a moes,
Yn aros byth i'w cadw
Yn ddedwydd a di-loes:
Boed blodau'r haf yn tyfu
Ar hyd eu muriau mâd,
A doed pob cartre i barchu
Ein Duw, ein hiaith, a'n gwlad!