Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Cydgan y Bugeiliaid

Oddi ar Wicidestun
Mis y Blodau Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Ffrwd y Mynydd

Cydgan y Bugeiliaid.

TEYRNASA tawelwch dros fynydd a gwaen,
A'r hwyr yn ei gerbyd ddynesa ymlaen:
Mae'r haul dros y gorwel yn plygu ei ben,
A'i wên ymadawol yn gwrido y nen.


Ond ha! o'r dwfn ddistawrwydd
Melus-fwyn odlau ddaw,
Yn nghol awelon hwyrddydd
O'r uchelderau draw:—

"Ar lethrau'r mynydd cribog
Y carwn fod a byw,
Cartrefle hoen a hawddfyd,—
Ein hymerodraeth yw:
Ein deiliaid cywir, ffyddlon,
Yw'r defaid mân a'r wyn,
A'n gorsedd ddyrchafedig
Yw'r trumau grug a brwyn.

A thra'n gwylio'r dëadelloedd
Canwn gerdd fugeiliol, fŵyn,
Llawen dreuliwn y nosweithiau
Ar y bryniau gyda'r ŵyn.

Y deadellau gwynion,
Pan ddel yr haf a'i dês,
Arweiniwn i'r cysgodion
I lechu rhag y gwres:


A phan y cuddir anian
Dan lenni'r gauaf gwyw,
Gwynebwn rym ystormydd
I gadw'r praidd yn fyw.

A thra'n gwylio'r deadelloedd,
Canwn gerdd fugeiliol, fwyn,
Llawen dreuliwn y nosweithiau
Ar y bryniau gyda'r ŵyn!"


Nodiadau

[golygu]