Telyn Bywyd/Cydgan yr Ysgol Sul
Gwedd
| ← Noswyl y Cenhadwr | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Golomen Wen y Diluw → |
Cydgan yr Ysgol Sul.
Y NOS,—nos anwybodaeth ddu—
A'i hedyn llaes orchuddiai Gymru Fu,
A'r gwylwyr blin ar gaerau Seion brudd
Weddïent am y wawr,—
Hiraethent am yr awr,—
Awr oleu y deffroad
I droi y nos yn ddydd.
Gwrandawyd y weddi: cyfododd y wawr!
A'r Ysgol Sabbothol oleulan sy'n awr
Yn gwasgar goleuni Efengyl y Groes,
Ymgiliodd y ddunos,—tywyllwch a ffoes!
Y PLANT:—
Ar fronau hon dysgasom
Yr Enw mwya'i fri,
Yr Hwn a ddwedodd gynt,—" Gadewch
I blant dod ataf Fi."
HENAFGWYR:—
Fel seren, hon dywysodd
Ein meddwl ato Ef,
Ac ar dywyllwch tew y glyn
Hi roes oleuni'r nef.
Yn nhreigliad blynyddau ni welwa ei phryd,
Ond erys fel angel, yn ieuanc o hyd:
Y nef a folianwn, i'r Iôr rhown fawrhad,
Am addysg fendigaid Prif Ysgol ein gwlad.