Telyn Bywyd/Emyn Adgof
Gwedd
| ← Y Ddwy Ystafell | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Y Gadair Wag → |
Emyn Adgof.
DAN gysgod hen furiau y castell
Safasom, ar noson ddi-hedd,
Cymylau orchuddient y nefoedd,
A'r lloer a giliasai o'i sedd:
Ymdaenai y niwl dros y glanau,
A chlywem gerddoriaeth ddofn, brudd,—
Anthemau y môr yn y pellder
Yn torri ar draethau oedd gudd.
O'n deutu, ar lanw y Fenai,
Pelydru ar fynwes y don,
Wnai ambell oleuni gwyn, tawel,
Gan sibrwd gobeithion i'n bron:
Goleuni i wylio'r peryglon
Sy'n llechu dan fantell y nos,
Goleuni i arwain yn ddiogel
I'r hafan ddymunol a thlôs.
Reolydd y môr a'r ystorom!
Pan gilia goleuni y dydd,
Pan ddelo y niwl a'r bryderon
A'n bywyd yn lleddf ac yn brudd :—
Dod ini'r goleuni mwyn, tyner,
I wylio ein camrau bob awr,
Goleuni i arwain ein gobaith
I oror dragwyddol y wawr.