Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Ffrwd y Mynydd

Oddi ar Wicidestun
Cydgan y Bugeiliaid Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Y Rhaiadr

Ffrwd y Mynydd.

FFRWD y mynydd, loew, lân,
Mor bur ei gwedd, mor bêr ei chân,
Merch y moelydd,
Ar ei glenydd.
Beunydd chwery'r defaid mân,
Troelli mae fel delw swyn,
Rhwng twmpathau grug a brwyn,
Llama, disgyn wedi hyn,
Dros ysgwyddau'r clogwyn syn,
Gwena,
Dawnsia,
Difyr gana,
Nes cyrhaedda odrau'r bryn.


Nodiadau

[golygu]