Telyn Bywyd/Glaniad y Mayflower
Gwedd
← Y Ddinas Sanctaidd | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Bryn y Beddau → |
Y Tadau Pererinol.
I. GLANIAD Y "MAYFLOWER".
(Mrs. Hemans)[1]
YMDORAI'R tonau brigwyn, erch,
Ar fynwes oer y graig,
A swn y storom ar y traeth
Adseiniai rû yr aig.
Mor ddu a phruddaidd oedd y nos,
Deyrnasai dros y tir,
Pan laniai'r Pererinion llesg,
Ar ol eu mordaith hir.
'Roedd yno rai a'u gwallt yn wyn,
A rhai mewn mebyd mad,
Paham crwydrasant hwy mor bell
O'u genedigol wlad?
Beth geisient hwy ar estron dir,
A'i perlau teg eu gwawr?
Na, ceisio'r oeddynt le i'w ffydd
I roi ei throed i lawr.
Byth gelwir hwn yn sanctaidd dir
Lle cysegredig yw,
Pwrcaswyd yno ryddid dyn
I wasanaethu Duw.