Telyn Bywyd/Gof y Pentref
| ← Cartrefi Gwynion Cymru | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Y Faner Wen → |
DAN gysgod y castanwydd clyd,
Mae gefail gôf y plwy',
Y gôf,—gwr cadarn ydyw ef,
'Does neb a'i nerth yn fwy;
A gewynau ei gyhyrog fraich,
Haiarnaidd ydynt hwy.
Ei wallt sy'n grych, yn ddu, a llaes,
Ei wedd o felyn liw,
Ei rudd yn llaith gan onest waith;
Enilla fodd i fyw,
Fe sylla'n wyneb yr holl fyd,
Ac yn nyled neb nid yw.
Drwy'r wythnos gron, o fore i hwyr,
Chwi a glywch ei fegin fawr,
Ergydio mae ei forthwyl trwm,
Yn gyson bob yr awr,
Fel seiniau hyfryd cloch y llan
Pan yr â yr haul i lawr.
A'r plant o'r ysgol ar eu hynt,
Ymgasglant o gylch y ty,—
Hwy garant weld y fflamawg dân,
A'r fegin ddofn ei rhu,—
Gan ddal y gwreichion eirias, chwim,
Fel ûs sydd yn esgyn fry.
Aiff gyda'i fechgyn tua'r llan,
Pan y delo'r Sul a'i swyn,
A gwrendy y gwasanaeth dwys,
A llais ei enethig fwyn,
Yn canu'n beraidd yn y côr,
Fel yr eos yn y llwyn.
Mor debyg yw i lais ei mham!
Sy'n awr yn ngwlad y dydd,
Meddylia am dani'r fynud hon,
Er bod mewn beddrod pridd,
A sych y deigryn gloew, mawr,
A lithra i lawr ei rudd.
Mawl fo i ti, fy nidwyll ffrynd,
Am dy wersi gonest, gwir,
Fel hyn wrth danllyd ffwrn y byd,
Llafuriwn dan ein cur,—
Fel hyn oddiar yr einion daw
Pob gwaith a meddwl pur.