Telyn Bywyd/Golomen Wen y Diluw
Gwedd
| ← Cydgan yr Ysgol Sul | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Y Ddinas Sanctaidd → |
Golomen Wen y Diluw.
GOLOMEN wen y diluw!
Uwchben y dyfnder mawr,
Yn chwilio am fyd newydd,
I roi ei throed i lawr:
Ond ar ei chrwydriad unig,
Ni welai lwyn na dôl,
A dychwel yn flinedig
A wnai i'r arch yn ol.
Golomen y diluw! yn ngoleu dy hynt,
Fe welwn, mewn gofid,
Fod arch yr addewid
Yn deg ar y dyfroedd—fel cynt.
Golomen wen y diluw!
Mor debyg y'm i ti,
Yn crwydro—crwydro'n unig
Uwchben y dyfnfawr li:
Ond ar adenydd gobaith,
Ehedeg wnawn yn mhell,
Draw, draw dros donnau geirwon,
I gol y "gobaith gwell:"
Golomen y diluw! yn ngoleu dy hynt,
Fe welwn, mewn gofid,
Fod arch yr addewid,
Yn deg ar y dyfroedd—fel cynt.