Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Golygfa

Oddi ar Wicidestun
Y Fedwen ar y Mynydd Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Awn yn Nwyfus

Golygfa.

CAREG lwyd, fwsoglyd, ger y gloew li,
Hafddydd mwyn a hyfryd,—dyna'm gwynfyd i;
Gwrando dwndwr afon yn y cerig mân,
Ddeffry yn fy nghalon felus, felus gân.

Anwyl, anwyl Gymru, bendigedig yw
Dy ddyffrynoedd tawel, lle mae hedd yn byw,
Caraf weld cysgodau'r cwmwl ar y ddol;
Caraf ddilyn tonnau yr awel ar eu hol!


Nodiadau

[golygu]