Telyn Bywyd/Gostyngeiddrwydd
Gwedd
| ← Bedd yr Iesu | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Sancteiddio'r Groes → |
Gostyngeiddrwydd.
"Ac yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig."
O BRYDFERTH ostyngeiddrwydd,
Er ceisio bod dan len,
Dy degwch byw, mil harddach yw
Na thlysni'r lili wen:
Dy geinder ni ddiflanna,
Anfarwol ydyw ef,
Tydi yw gwisg y puraf sant,
A'r angel yn y nef.
O werthfawr ostyngeiddrwydd,
Rhagflaenor wyt o hyd,
I ffafr, anrhydedd, bywyd, gras,
A phobpeth goreu'r byd:
Dy lwybr cul arweinia,
Dan fryniau balchder dyn,
A'r hwn a'i lawr, a ddaw yn fawr
Yn ngolwg Duw ei hun.
O ddwyfol ostyngeiddrwydd,
O'r nef y daethost ti,
Hyd risiau darostyngiad Crist,
Pan ddaeth i'n daear ni:
Ac yn dy gwmni nefol
Esgyna dynolryw,
O ddyfnder gwae i'r fan lle mae
Yr Iesu byth yn byw.