Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Hiraeth am yr Haf

Oddi ar Wicidestun
Bwthyn y Bryn Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Y Glöyn a'r Hedydd

Hiraeth am yr Haf.

DAETH Mai a'i wyrddlesni,—mis blodau a swyn,
Daeth dail a melodedd i frigau y llwyn,
Ond chwythu mae'r awel o gartref yr iâ,
A minnau yn gofyn,—
"Pa bryd daw yr hâ?"

Daeth meillion i'r dolydd: mae'r ddraenen yn dlos,
A deunod y gwcw a glywir fin nos,
Er hyny, mae nghalon lle bynag yr â
Yn holi mewn hiraeth,—
"Pa bryd daw yr hâ?"

Daeth adar i nythu'n y goedlan fel cynt,
A'r wennol ymsaetha drwy'r awyr ar hynt;
Er hyny, yr holiad yn ddistaw barhâ,
Pa le mae yr heulwen?—
"Pa bryd daw yr hâ?"

Yn araf, ymholydd, medd glasddail y coed,
A sibrwd briallen yn ymyl fy nhroed,
"Wyf un o genhadon y Prydferth a'r Da,
Mae'r blodau yn dystion,—
Mai dyfod wna'r hâ."

Broffwydi bach anian! 'rwy'n hoffi eich iaith,
Mae haf yn eich calon tra'ch llygaid yn llaith:
Dan rin eich sirioldeb fy mron ysgafnhâ,
Os agos yw'r blodau,—
Nid pell yw yr hâ!


Nodiadau

[golygu]