Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Hoff Feibl ein Gwlad

Oddi ar Wicidestun
Y Porthladdoedd Prydferth Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Hoff Feibl ein Gwlad.

I.
DROS ganrif yn ol, pan godai y wawrddydd,
Cychwynai genethig o fwthyn y glyn,
Pell oedd ei hymdaith dros fryniau Meirionydd
Nes cyrhaedd y dref ar finion y Llyn:
Croesi y gwaenydd dringai y rhiw,
A'i bryd ar bwrcasu, darllen, a meddu,
Glan Feibl ein Duw,
Glan Feibl ein Duw.

II.
Yn dyner a mwyn, cyflwynodd ei neges
I'r gwr oedd yn hoff gan Gymru a'i phlant,
Adroddai ei chwyn yn syml, dirodres,
A phrudd-der a ddaeth i lygad y sant:
'Doedd ganddo 'run Beibl ar gyfer y fun :
Ond dagrau orchfygodd, ac iddi estynodd
Ei Feibl ei hun,
Ei Feibl ei hun.

III.
Dychwelodd yn llon dros fryniau Meirionydd,
A'i Beibl a ddug i'r bwthyn bach clyd,
A dilyn ei hynt wnai'r meddwl ysblenydd,
Am Feibl i bawb o bobl y byd.
Cymru gadd Feiblau, heirddion a rhad,
Daeth miloedd i ddysgu, darllen, a pharchu,
Hoff Feibl ein gwlad,
Hoff Feibl ein gwlad.


IV.
Aeth canrif i ffwrdd, a'r hedyn a dyfodd
Ar fryniau ein gwlad a ddaeth yn bren mawr,
Cymdeithas y Beiblau sy'n estyn ei changau
I bellaf ororau y ddaear yn awr.
A cherdded yn mlaen wna tyner goffad
Y lodes dirionwedd roes fri ac anrhydedd,
Ar Feibl ein gwlad,
Hoff Feibl ein gwlad!




DIWEDD.



CAERNARFON:
Cyhoeddedig gan Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.).
Swyddfa'r "Cymru."

Nodiadau

[golygu]