Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Huned yn Dawel

Oddi ar Wicidestun
Y Galon Bur Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Yr Ymfudwr

Huned yn Dawel.

HUNED yn dawel dan gysgod y bryniau
Lle treuliodd flynyddau boreuddydd ei hoes,
Blin fu ei hymdaith drwy fyd y gofidiau,
Ond glansodd yn iach yn y Wynfa ddi-loes:
Un addfwyn a fu: un hynaws, garedig,
A gweini i eraill oedd iddi'n fwynhad,
Mor felus ei hedd lle "cân y gwaredig'
Ar danau'r cyfamod yn nheyrnas ein Tad.


Nodiadau

[golygu]