Telyn Bywyd/Hwyrddydd Haf
| ← Y Medelwyr | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Mis y Blodau → |
Hwyrddydd Haf.
AWEL yr hwyrddydd mor ysgafn dy droed,
Tra'n crwydro yn nwyfus drwy gangau y coed:
Mae balm yn dy gusan, a swyn yn dy dant,
Tra'n suo drwy'r glaswellt ar finion y nant.
Seiniau yr hwyrddydd! mor felus, mor fwyn,
Mae gwrando eich miwsig fel breuddwyd o swyn,—
Emynau yr adar drwy'r llwyni ar daen,—
Brefiadau y defaid ar waelod y waen;
Y wenol yn twitian drwy lesui y nen,
A'r gwenyn yn murmur yn mrigau y pren.
Flodau yr hwyrddydd! mor syml, mor hardd,
O'u gwisgoedd dihalog y neithdar a dardd,
Y gwyddfid a'r meillion—mor beraidd y rhain,
A darn o Baradwys yw rhosyn y drain!
Huan yr hwyrddydd! mawreddog ei wedd,
Yn lliwiau'r gorllewin mae'n ddarlun o hedd,
Tanbeidrwydd ei dremiad a giliodd yn llwyr,
A'i saethau a guddiwyd dan leni yr hwyr:
Gosgordd o gymyl aur-ymyl y sydd
Yn tyner amgylchu gorseddfa y dydd:
Y teyrn a amneidia o'r gorwel,—Nos Da—
Ac felly y machlud ar hwyrddydd o hâ.
Dangnef yr hwyrddydd! mor nefol, mor bur,
O dan dy gyfaredd diflana ein cur,
Dy "Ust" dwfn, cyfriniol, ysbrydol ei ryw
A'n tywys i deml dystawrwydd a Duw!