Telyn Bywyd/Llan Dwynwen
| ← Yr Ardd Flodau | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Rhodio drwy yr Yd → |
Llan Dwynwen.
LANERCH dawel, gysegredig,
Ar y graig gerllaw y lli,
Cafodd seintiau erlidiedig
Hedd a nodded ynot ti:
Yn yr oesau tywyll, creulon,
Buost yn oleuni gwyn,
Mynych gyrchai pererinion
I'r cynteddau distaw hyn.
Nid oes heddyw ond adfeilion
Teml fu'n ogoniant gynt,
Maen ar faen ddatodwyd weithion,
Aeth yr hanes gyda'r gwynt:
Chwyn a glaswellt sydd yn tyfu
Dros y ganghell oer, dylawd,
Stormydd gaua' sy'n chwibanu
Trwy y muriau ar eu rhawd.
Y mae nerthoedd mawrion amser,
Wedi treulio'r adail gre',
Nid oes mwyach "gred na phader"
Gair na chynghor yn y lle:
Ond mae goleu pur gwybodaeth,
Wenai yma yn y nos,
Wedi gwasgar dros bob talaeth,
Torodd ddydd ar Gymru dlos.
Yn ngoleuni clir yr hafddydd,
Hyfryd teulio orig gu,
Ger yr eglwys lwyd a llonydd,
Cymwynasydd Cymru Fu;
Er mwyn cofion oes gyntefig,
Na ddoed troed i'r fangre hon
I halogi'r adfail unig
Ar y graig yn swn y don!