Neidio i'r cynnwys

Telyn Bywyd/Mis y Blodau

Oddi ar Wicidestun
Hwyrddydd Haf Telyn Bywyd

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Cydgan y Bugeiliaid

Mis y Blodau.

MIS dedwyddyd, mis y blodau,
Mis i felus ymfwynhau,
Mwyn gerddoriaeth—swn llawenydd
Glywir yn yr awel beunydd—
Mis y misoedd ydyw Mai.
Bywyd geir yn prysur dreiddio
Drwy oblygion natur lawn,
Yn y llwyni—ar y bryniau―
Chwardda dail a gwena blodau—
Bywyd yn teyrnasu gawn.

Llawn o fiwsig yw y goedwig
Pan ddel Mai a'i wenau mwyn,
Asgell gorau—hwyr a borau,
A ddyhidlant nefol odlau,
Môr o gân yw'r deiliog lwyn:
Doriad gwawr, y llon ehedydd
Seinia fawl ar riniog nef,
Hithau'r fronfraith ar y fedwen
Eilw ar y bêr fwyalchen
I arwain yn yr anthem gref.

Gwen nefolaidd a ymdaena
Gylch gwefusau anian dderch,
Syllu arni wna yr huan,
Erys yn y wybren lydan
Fel cariadfab claf o serch:
Drwy'r ffurfafen, cymyl gwlanog
Deithiant yn osgorddlu gref,
Pan â'r haul o dan ei gaerau,
Gwelir hwy fel myrdd o donnau—
Tonnau aur ar draeth y nef.


Ysgafn rodio rhwng y blodau
Wna y chwa ar flaen ei throed,
Yn yr hwyrddydd, balmaidd, tawel,
Bron na thybiwn mai bys angel
Sydd yn ysgwyd dail y coed:
Croeso, croeso, Fai siriolwedd,
Eiliwn gân i'r dduwies wen,
Casglwn dalaith fraith o flodau,
Plethwn hon gylch ei harleisiau-
Dawnsiwn dan y deiliog bren!


Nodiadau

[golygu]