Telyn Bywyd/Nawn yn Mis Mehefin
Gwedd
| ← Rhosyn y Gwrych | Telyn Bywyd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Y Pelydr Haul → |
Nawn yn Mis Mehefin.
EISTEDD wnaem yn nghwr y llwyn,
Nawnddydd tawel,
Dan ddylanwad melus, mwyn,
Telyn awel:
Su y chwa yn mrig yr onn,
Beth mor hyfryd?
Cludir eilwaith i fy mron
Oriau gwynfyd.
Lleda dail mewn awyr glir
Wyrdd fanerau,
Dawnsia heulwen ar y tir,
Gwena blodau:
Neuadd lawn yr asgell gôr
Yw y goedlan,
Diluw cerdd fel tonnau'r môr,
Leinw anian.
Yma doed y teithiwr blin
Am adfywiad,
Yfed gâ o beraidd win,
Nef-ddylanwad:
Pryder, helynt byd, a'i boen
Yma dderfydd,
Adfer iechyd, nerth, a hoen,
Wna yr hafddydd.
Gwrando chwiban hyfryd, llon
Adar dedwydd,
Gyda'r awel, ddwg i'r fron
Fywyd newydd:
Pur dangnefedd yma gawn,
Nefol, cyfrin,
Melus gof fydd am y nawn
Yn Mehefin.